#DeinoYnDianc Eich Dogyn Dyddiol o dir y Deinos, 24 Mai 2017 Beth sydd ar droed yng nghanol Dinas Caerdydd?Pwy (neu beth?!) sydd wedi difrodi cerflun Thomas H Thomas ac achosi anhrefn ar hyd strydoedd Caerdydd?! Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu luniau all ein helpu, rhannwch nhw gyda ni drwy drydar a defnyddio #DeinoYnDianc cyn i’r sefyllfa droi’n fwy brwnt bythtag.Mae’r stori’n newid o hyd a byddwn ni’n rhannu’r newyddion diweddaraf â chi yma.#deinoyndianc Tweets
Thomas H Thomas and his dinosaur Cindy Howells, 18 Mai 2017 The first dinosaur footprints found anywhere in EuropeOne sunny evening in September 1878, Welsh artist and naturalist Thomas Henry Thomas was wandering around the small village of Nottage, just outside Porthcawl. The rays of the setting sun were shining across a large slab of rock placed on the edge of the churchyard. The local villagers told him that the five strange markings on the rock were the footprints of the devil as he strode across the slab. The rock had lain between the church and the village pub for years, and was a local curiosity.Thomas was a well-educated man, born in Pontypool in 1839, and had studied Art at the Royal Academy, before returning to Wales. He was a key member of the Cardiff Naturalists Society, and a well-respected artist as well. On discovering the footprints, illuminated by the setting sun in the churchyard, he was struck by the similarity between these markings and newly found dinosaur footprints in North America. He quickly sketched the prints and informed various local geologists. John Storrie, curator of the Cardiff Museum, visited the site and made a cast of the trackway.The President of the Cardiff Naturalists Society was Colonel Turbervill, who arranged for the rock to be brought to the Cardiff Museum for safe-keeping.Thomas H. Thomas wrote a short paper, in January 1879, describing the footprints and also his attempts at Bristol Zoo, to persuade a suspicious Emu to walk across modelling clay, for comparison! He described the footprints as "Tridactyl Uniserial Ichnolites", but left it to Professor W Sollas of Bristol University to publish a formal description, with the name Brontozoum thomasi. We now know that these footprints were made 220 million years ago by a medium-sized meat-eating dinosaur, similar to Megalosaurus which evolved later.The original footprint slab was around 6' 6" long and 5' 6" wide, and about 6 inches thick, although excess rock was later removed to make it easier to handle and display. When the collections of the old Cardiff Museum were transferred to the new National Museum of Wales in 1907, the footprints were one of its most important acquisitions. Currently the fossil is on display in the Evolution of Wales gallery , as befitting the first dinosaur footprints found anywhere in Europe.Wales has an important place in the evolutionary history of dinosaurs; not only this early set of footprints, but also another major trackway site near the town of Barry, which is one of the most significant sites of its age in Europe. The rocks of this area were laid down around 220 million years ago, at a time when Wales was a low-lying desert, similar to those in the Arabian Gulf today, and dinosaurs had just evolved. Over the next 20 million years, the sea-level rose and the deserts disappeared underwater. However the dinosaurs living on higher ground continued to diversify into different species, one of which was Dracoraptor, the small theropod dinosaur found near to Penarth in 2014, and now on display at the National Museum Cardiff.
Ffotograffydd Magnum, David Hurn, yn rhoi ei gasgliadau ffotograffiaeth i Amgueddfa Cymru Bronwen Colquhoun, 17 Mai 2017 Dyn wedi ymddeol, Dawns Perchnogion Car MG, 1967. D.U. ALBAN, Caeredin. © David Hurn/MAGNUM PHOTOS Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn rhodd anhygoel gan y ffotograffydd Magnum, David Hurn. Mae Hurn yn un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf dylanwadol Prydain. Ac yntau bellach yn byw ac yn gweithio yma yng Nghymru, mae wedi dychwelyd at ei wreiddiau Cymreig – ac yma y bydd ei gasgliad o ffotograffau’n aros diolch i’w rodd hael.Mae’r casgliad yn rhannu’n ddwy ran, sef tua 1,500 o’i ffotograffau ef ei hun sy’n cwmpasu ei yrfa o dros drigain mlynedd fel ffotograffydd dogfennol; a thua 700 o ffotograffau gan ffotograffwyr eraill o’i gasgliad preifat. Wrth sôn am ei rodd, dywedodd Hurn: “Fy atgofion gweledol/diwylliannol cynharaf yw ymweld â’r Amgueddfa pan oeddwn i’n bedair neu’n bump oed. Dwi’n cofio’r cerflun drwg – y Gusan gan Rodin – a chasys yn llawn stwff oedd pobl wedi ei roi. Wel, bellach mae gen i gyfle i dalu rhywbeth yn ôl – bydd rhywbeth gen i yno am byth. Mae’n fraint o’r mwyaf.” Detholiad Diffiniol o Waith OesDros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae David wedi bod yn dewis ffotograffau o’i archif ef ei hun sy’n ddetholiad o waith ei oes. Mae’r casgliad o tua 1,500 o brintiau newydd yn cynnwys gwaith a wnaed yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Arizona, Califfornia ac Efrog Newydd.Mae’n cynnwys rhai o’i ffotograffau enwocaf, fel Dawns y Frenhines Charlotte, Barbarella a Grosvenor Square.Fodd bynnag, ei ffotograffau craff a gofalus o Gymru yw prif ffocws y casgliad. Yn dilyn rhodd hael David, Amgueddfa Cymru yw ceidwad y casgliad mwyaf o’i luniau yn y byd. D.U. CYMRU. Dinbych y Pysgod. Y promenâd yn nhref glan y môr Dinbych y Pysgod, De Cymru. 1974 © David Hurn/MAGNUM PHOTOS Casgliad CyfnewidDrwy gydol ei yrfa hir, mae Hurn wedi bod yn cyfnewid llun am lun â’i gyd-ffotograffwyr, llawer ohonynt yn gydweithwyr iddo yng nghwmni Magnum.Mae’r casgliad pwysig ac amrywiol hwn o tua 700 ffotograff, sydd hefyd yn dod i law’r Amgueddfa, yn cynnwys gweithiau gan ffotograffwyr blaenllaw’r 20fed a’r 21ain ganrif.Yn eu mysg mae Henri Cartier-Bresson, Eve Arnold, Sergio Larrain, Bill Brandt, Martine Franck, Bruce Davidson a Martin Parr, Bieke Depoorter, Clementine Schneidermann a Diana Markosian. Henri Cartier-Bresson, Eve Arnold, Sergio Larrain, Bill Brandt, Martine Franck, Bruce Davidson a Martin Parr, a ffotograffwyr sy’n dod yn amlycach megis Bieke Depoorter, Clementine Schneidermann a Diana Markosian.Bydd detholiad o ffotograffau o gasgliad preifat David yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 30 Medi 2017 ymlaen. Bydd Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn lansio oriel ffotograffiaeth newydd yr Amgueddfa.Casgliadau Ffotograffig yn Amgueddfa CymruMae casgliadau ffotograffau Amgueddfa Cymru’n unigryw am eu bod yn cwmpasu cynifer o feysydd a phynciau, gan gynnwys celf, hanes cymdeithasol a diwydiannol a’r gwyddorau naturiol.Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau pwysig iawn, fel rhai o’r ffotograffau cynharaf i gael eu tynnu yng Nghymru gan y ffotograffydd arloesol John Dillwyn Llewelyn a’i deulu. Bydd rhodd David yn gweddnewid casgliadau ffotograffiaeth yr Amgueddfa ac yn creu cyfleoedd cyffrous i ehangu’r casgliadau mewn ffyrdd newydd. UDA. Arizona. Sun City. Grwp ffitrwydd y tu allan ben bore yng nghymuned ymddeol Sun City. Ras can metr 50 eiliad i bobl rhwng 60 a 94 mlwydd oed yn y Senior Olympics. Roedd teimlad o hwyl a chymdeithas i'w deimlo'n gryf yno. 1980. © David Hurn/MAGNUM PHOTOS Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dilyn cyflwyniad o waith David Hurn yn Photo London, y digwyddiad ffotograffiaeth rhyngwladol a gynhelir bob blwyddyn yn Somerset House, Llundain. Wedi’i churadu gan Martin Parr a David Hurn, mae arddangosfa Photo London, David Hurn’s Swaps, yn dathlu pen-blwydd Magnum Photos yn 70 oed.
‘Carwch yr hyn sy’n Hardd’: Canfod Ystyr Modrwyau Rhianydd Biebrach, 9 Mai 2017 Yn y gorffennol, roedd llawer o bobl, cyfoethog a thlawd, yn gwisgo modrwyau. Byddai’r modrwyau wedi’u gwneud o fetalau gwerthfawr neu ddiwerth, yn blaen neu’n addurnedig, a byddai gemau neu enamelau wedi’u mewnosod mewn rhai ohonynt. Mewn darluniau o'r Canol Oesoedd a chyfnod y Dadeni, gwelir dynion a menywod yn gwisgo sawl modrwy ar yr un llaw, weithiau uwchlaw’r migwrn canol. Weithiau, daw pobl â datgelyddion metal o hyd i fodrwyau oedd yn eiddo i ddynion a menywod o Gymru sydd wedi hen farw ac maent yn mynd â nhw at Gynllun Henebion Cludadwy Cymru. Os yw’r modrwyau wedi’u gwneud o fetal gwerthfawr, maent yn cyfrif fel trysor ac, fel rheol, maent yn mynd i amgueddfeydd ledled Cymru fel y gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau gweld yr olion gwerthfawr hyn o’n gorffennol. Hyd yn oed heddiw, gallwn werthfawrogi eu harddwch a’u crefftwaith a theimlo cysylltiad â'r bobl oedd wedi'u colli amser maith yn ôl. Ond nid eu harddwch yw eu hunig werth ac mae mwy iddynt na’r aur a’r arian a ddefnyddiwyd i’w gwneud. Heddiw, rydym yn aml yn dweud bod i ddarn o emwaith ‘werth sentimental’. Hynny yw, mae iddo werth emosiynol i’r perchennog sydd y tu hwnt i werth ei ddeunydd neu ei harddwch. Mae hyn yn wir am y gorffennol hefyd. Ers canrifoedd, bu i fodrwyau ystyron ac arwyddocâd arbennig i’r bobl oedd yn eu rhoi a’r rhai oedd yn eu gwisgo. Yma, byddwn yn trafod rhai o’r ystyron hyn - a'r modrwyau eu hunain. Modrwyau Arysgrif Modrwyau Galar Modrwyau Eiconograffig Sêl-fodrwyau Modrwyau Addurnol Gallwn feddwl am yr holl fodrwyau hyn, ynghyd â llawer o rai eraill y mae pobl wedi dod o hyd iddynt â datgelyddion metal neu wedi dod ar eu traws ar hap, fel darnau o emosiynau dwys. Caiff hyn ei gyfleu yn glir yn nyluniad y modrwyau arysgrif, y modrwyau galar a’r modrwyau eiconograffig sy’n dal i gyfleu’r cariad, y galar a’r ysbrydolrwydd a deimlai eu perchnogion. Gallwn feddwl hefyd fod y sêl-fodrwyau yn ymgorffori rhywbeth o hunaniaeth bersonol y perchnogion gwreiddiol. Mae’n eithaf posib bod hyd yn oed i’r modrwyau hollol addurnol yr hyn a ddisgrifiwn heddiw fel ‘gwerth sentimental’ yn ogystal â gwerth ariannol eu defnydd. Yn achos y saffir, cawn ein hatgoffa bod Cymru, er ei bod ar ymylon pellaf Ewrop, yn cysylltu â’r Dwyrain Pell trwy fasnach. Efallai mai’r peth pwysicaf i’w gofio yw bod rhywun wedi colli pob modrwy y cafwyd hyd iddi. Ar y cyfan, nid yw pobl yn taflu eitemau aur ac arian a gemau gwerthfawr, hyd yn oed os nad oes iddynt arwyddocâd emosiynol iddynt bellach. Felly, gallwn dybio bod y modrwyau hyn wedi cael eu colli ar ddamwain, gan lithro oddi ar fys neu syrthio o bwrs, a’r perchennog heb sylwi tan ei bod yn rhy hwyr. Ar draws y canrifoedd, mae’n hawdd i ni ddychmygu’r torcalon a deimlai rhywun o sylweddoli eu bod wedi colli modrwy briodas, modrwy i’w hatgoffa am rywun annwyl a fu farw, neu fodrwy oedd yn dod â chysur ysbrydol iddynt. Mae’r emosiynau hyn yn ddolen gyswllt rhyngom ni â pherchnogion y trysorau colledig hyn, er eu bod wedi hen farw. + ieme la belle, neu carwch yr hyn sy’n hardd,/em>, yw’r arysgrif ar ochr allanol Modrwy Ewenni o’r 15fed ganrif, a ganfuwyd ger Priordy Ewenni gan Mr G. Gregory yn 1988 ac sydd erbyn hyn yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.
Modrwyau Arysgrif Rhianydd Biebrach, 9 Mai 2017 Modrwyau Arysgrif o Henllys Modrwyau Arysgrif: 'God is my Cumford' Modrwyau Arysgrif o Llandudoch Nid peth modern yw cyfnewid modrwyau fel arwydd o serch. Bu modrwyau â moto neu ychydig eiriau’n datgan cariad neu ffyddlondeb yn boblogaidd ers y Canol Oesoedd. Er ein bod yn cysylltu rhoi modrwyau ag achlysuron ffurfiol fel dyweddïo neu briodi erbyn hyn, yn y gorffennol roedd modrwyau arysgrif yn cael eu rhoi ar unrhyw adeg mewn perthynas, gan y naill bartner neu’r llall. Gall y modrwyau fod yn rhai plaen neu wedi’u haddurno mewn gwahanol ffyrdd ond nid eu golwg allanol oedd y peth pwysicaf amdanynt ond y neges oedd arnynt, wedi’i dewis yn ofalus i atgoffa’r derbynnydd yn barhaus am deimladau’r rhoddwr. Mae rhai o’r arysgrifau mewn Lladin neu mewn Ffrangeg, a gâi ei chysylltu â sifalri a serch cwrtais, ond ymadroddion Saesneg sydd ar lawer o’r rhai a ganfuwyd yn ddiweddar gan ddefnyddwyr datgelyddion metal yng Nghymru, y rhan fwyaf ohonynt yn datgan ffyddlondeb. Ym mis Awst 2013, daeth Mr Simon Harrison ar draws enghraifft arbennig o gywrain ac addurnol o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg yn Henllys, Sir Fynwy. Fe'i gwnaed o gylchigau aur cydgysylltiedig a chalonnau wedi'u llenwi ag enamel coch, gwyn a gwyrdd. Ar y tu mewn, arysgrifwyd y geiriau 'My ♥ is onely yours’. Mae arysgrifau sy’n cyfleu gwahanol deimladau i’w gweld ar nifer o fodrwyau eraill - pedair ohonynt wedi’u caffael yn ddiweddar gan y prosiect Hel Trysor; Hel Straeon ar gyfer casgliadau cenedlaethol a lleol - ond nid pob un ohonynt sydd mor amlwg ramantus â modrwy Henllys. ‘Forget not the gift’ yw neges y fodrwy aur addurnedig a ganfuwyd ger Llandudoch, Sir Benfro, gan Mr Tom Baxter-Campbell ym Mehefin 2011. Mae hyn yn awgrymu y dylai’r fodrwy atgoffa’r sawl a’i cafodd am y rhoddwr: a oedd ar fin mynd i ffwrdd i rywle? A oedd gan y rhoddwr ryw amheuaeth am deimladau’r derbynnydd? Mae modrwy debyg, hon hefyd o aur ac yn perthyn i ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg, a ganfuwyd gan Mr David Hughes yn Llanilltud Fawr ym mis Ebrill 2013, yn datgan yn enigmatig ‘Such is my love.’ Nid yw union ystyr y geiriau yn glir ond efallai bod y rhoddwr am gyfleu’r syniad fod ei gariad yn gadarn ac yn werthfawr, fel aur, ac yn fythol, fel siâp y fodrwy sydd heb ddechrau na diwedd. Gallwn dybio y byddai’r derbynnydd yn deall yn iawn sut i ddehongli’r neges. Er bod modrwyau arysgrif yn cael eu cysylltu â negeseuon cariadus gan amlaf, canfuwyd rhai mwy difrifol yng Nghymru yn ddiweddar. Mae modrwy o arian wedi’i oreuro o ddiwedd yr 17eg ganrif neu ddechrau’r 18fed, a ganfuwyd ger Caerffili ym Mehefin 2013 gan Mr T.M. Davies yn edrych yn debyg i fodrwy briodas fodern blaen. Mae yng nghasgliad Amgueddfa’r Tŷ Weindio yn Nhredegar erbyn hyn. Y tu mewn, gwelir yr arysgrif ‘Keep faith tell [till] death’, sydd braidd yn drymaidd ac yn wahanol i’r cyfarchion modern ysgafn ond mae’n hollol gydnaws â’r gred ar y pryd na ellid dad-wneud priodas. Mewn oes pan oedd ysgariad bron yn amhosibl, roedd priodasau i fod i bara am byth. Nid negeseuon cariadus oedd ar bob modrwy arysgrif: y datganiad ar fand plaen o arian wedi’i oreuro a ganfuwyd yn Llangybi, Sir Fynwy, gan Mr Glen Flynn yn 2012 yw ‘God is my cumford [comfort]’. Ydi hyn yn awgrymu bod y fodrwy wedi’i rhoi’n rhodd i rywun oedd yn mynd trwy gyfnod o ofid, tristwch neu salwch, ynteu a yw'n ddim ond arwydd o dduwioldeb? Un peth nodedig am y modrwyau hyn i gyd, a nifer o’r rhai isod, yw mai y tu mewn i’r band, yn hytrach nag ar y tu allan, y mae’r arysgrif. Ond pam y byddai’r rhoddwyr cariadus yn awyddus i guddio eu datganiad o gariad yn hytrach na’i roi mewn man lle gallai pawb ei weld? Mae’n debygol mai'r rheswm oedd bod y rhain yn negeseuon preifat, rhwng y rhoddwr a'r gwisgwr, ac y byddai'r neges yn cyffwrdd â'r cnawd, gan bwysleisio agosrwydd y berthynas.