Gardd Llawn Rhosod a Hanes Elin Barker, Cadwraethydd Gardd , 22 Mehefin 2026 Yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, mae’r ardd rosod, neu’r Roseri, yn llawn lliw ac arogl yn ystod yr haf. Ond y tu ôl i’r harddwch, mae llawer o waith caled a hanes hir a diddorol.Cynlluniwyd y Roseri gyntaf yn 1898 gan Hugh Pettigrew, prif arddwr ar y pryd. Roedd llwybrau gwair yn troelli drwyddo, trellysau gyda rhosod dringo, a chamlas wedi’i phlannu a lili’r dŵr a physgod addurnol. Plannwyd dros 100 math o rhosod.Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, doedd y Roseri ddim yn derbyn gofal. Llenwyd y gamlas, a chafodd y trellysau a’r pergolas eu tynnu i lawr. Yn y 1940au, ar ôl i deulu Plymouth roi tiroedd Sain Ffagan i’r Amgueddfa, crewyd gardd rosod symlach gyda gwelyau trionglog.Yn 1998, penderfynodd yr Amgueddfa adfer cynllun gwreiddiol Pettigrew. Cloddiwyd y gamlas hen ac ailblannwyd hi gyda lili’r dŵr. Tynnwyd y gwelyau trionglog, ac ailosodwyd gwelyau crwm o amgylch y gamlas, yn ôl cynllun gwreiddiol Pettigrew. Dewiswyd rosod yn ofalus yn seiliedig ar restr ysgrifennwyd Pettigrew yn 1904.Fodd bynnag, dros amser, daeth llawer o’r hen rhosod yn aniach. Cafodd y planhigion eu heffeithio’n wael gan glefyd o’r enw ‘black spot,’ sy’n gwneud i’r dail droi’n felyn a datblygu smotiau du ac yna syrthio. Cyn Deddf yr Awyr Lân yn 1956, roedd ‘black spot’ yn brin oherwydd bod llawer o sylffwr yn yr aer o lygredd. Ond pan wnaeth yr awyr lanhau, ‘black spot’ yn broblem fwy.Yn 2017, ailblannwyd y Roseri unwaith eto. Y tro hwn, defnyddiwyd llawer o rosod modern, planhigion cryf a iach sy’n blodeuo am amser hir, ond sydd dal yn cadw harddwch ac arogl y rhosod traddodiadol. Mae llawer o'r rhosod yn yr ardd wedi dod o David Austin, tyfwr enwog o rosod hardd. Enw un o'r rhosod arbennig hyn yw 'Roald Dahl,' a enwyd ar ôl yr awdur enwog a aned yng Nghaerdydd.Rydyn ni’n parhau i arddio yn ysbryd y cyfnod Edwardaidd, oherwydd mae’r rhan fwyaf o’r gerddi addurniadol yn Sain Ffagan yn dyddio’n ôl o’r cyfnod hwnnw. Roedd yr Edwardiaid wrth eu boddau gyda rhosod, ac ninnau hefyd! Ond nid yw’r gwaith bob amser yn llawn ‘glamour’. Bob mis Ionawr, caiff y rhosod eu tocio’n galed i’w cadw’n iach. Wedyn, caiff y gwelyau eu gorchuddio a tail organig. Rydyn ni’n ychwanegu tail i'r pridd i’w fwydo. Mae pridd iach yn helpu’r rhosod i dyfu’n gryf ac yn iach.Yn ystod yr haf, mae’r garddwyr yn torri’r hen flodau i ffwrdd i annog y planhigion i greu flodau newydd. Maent yn gadael rhai blodau i ddatblygu’n hips rhosod, a ddefnyddir i addurno’r tai hanesyddol yn y gaeaf. O amgylch y rhosod yn y Roseri, mae blodau fel lafant a fiolas wedi cael eu plannu i helpu peillwyr fel gwenyn a phili-palod.Mae rhai rhosod, a elwir yn rhosod sengl, sydd a llai o betalau ac yn caniatau i wenyn gyrraedd y neithdar a’r paill yn hawdd. Rhai o'n ffefrynnau yw rhosod ‘Tottering-by- Gently’ a ‘Starlight Symphony’.Heddiw, mae’r Roseri yn llawn lliw ac arogl. Mae’r rhosod newydd yn edrych ac yn teimlo fel yr hen rhosod, ond maent yn blodeuo dro ar ôl tro drwy’r haf. Maent yn ein hatgoffa o’r holl gariad, gofal a gwaith caled sydd ei angen i gadw gardd yn llawn bywyd.
Gwanwyn yn Sain Ffagan Ellen Davies, 18 Mawrth 2026 Mae’r gwanwyn yn gyfnod arbennig yn Sain Ffagan. Mae’r cennin pedr a’r crocysau yn blodeuo ac mae’r fferm yn gwch gwenyn o weithgarwch. O fis Chwefror i Ebrill, mae Llwyn-yr-eos yn llawn sŵn brefu wrth i’r defaid gysgodi yn y siediau wyna. Eleni, rydym yn disgwyl dros 350 o ŵyn. Mae 200 o ŵyn wedi’u geni hyd yn hyn ac mae mwy i ddod. Rydyn ni’n cadw tri brid prin o ddefaid yn Sain Ffagan: Llanwenog Defaid Mynydd MaesyfedDefaid Mynydd Duon CymreigMae cadw bridiau prin yn bwysig oherwydd eu bod yn rhan o dreftadaeth ffermio Cymru. Gallwch dysgu mwy am y bridiau prin yn y blog hwn. Unwaith mae ŵyn yn cael eu geni, maen nhw’n cael eu marcio gyda’r un rhif a’u mam fel bod modd i’r ffermwyr wybod pa ŵyn sydd yn perthyn i bwy! Mae’r ŵyn a’r mamau yn cael eu symud allan o’r sied wyna i ardal dawel cyn iddyn nhw fynd allan i’r caeau. Ydych chi’n gallu dod o hyd i’r mamau a’r ŵyn wrth gerdded o amgylch yr amgueddfa? I ddiogelu lles ein defaid, ni chaniateir cŵn ar y fferm yn ystod y tymor wyna. Methu ymweld â Sain Ffagan? Does dim ffrwd byw eleni ond gallwch fwynhau uchafbwyntiau’r sied dros y blynyddoedd ar ein gwefan.
Blwyddyn Newydd yn Sain Ffagan Ellen Davies, 19 Ionawr 2026 Yn draddodiadol, mae mis Ionawr yn gyfnod tawel. Mae cyffro’r Nadolig wedi mynd heibio ac rydyn ni i gyd yn aros yn eiddgar am ddiwedd y gaeaf, ond mae hefyd yn adeg i ddechrau o’r newydd. Yma yn Sain Ffagan, rydyn ni wedi dechrau'r flwyddyn ar garlam! Dros y misoedd nesaf, bydd yr Amgueddfa yn fwrlwm o weithgareddau wrth i ni gyflawni projectau i wella profiad ymwelwyr, gan gynnwys: Diweddaru'r ardal chwarae Rhoi to newydd ar Gastell Sain Ffagan Ailwampio'r Siop Losin a chyflwyno llond siop o gynnyrch newydd Ailddylunio'r siop yn y prif adeilad Datblygu siop goffi newydd yn Gweithdy Adnewyddu'r bloc toiledau ger Tai Teras Rhyd-y-car Bydd ymweld yn ystod y cyfnod hwn yn wahanol a bydd rhai mannau ar gau. Byddwn ni'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau wrth iddyn nhw ddigwydd. Diolch am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hwn – rydyn ni'n addo y bydd yn werth chweil! Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf, gallwch chi gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr neu ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Blog Cadwraeth: Glanhau yng Nghastell Sain Ffagan Sarah Paul, Prif Gadwraethydd, 14 Gorffennaf 2025 Dyma her i chi! Mae gennych chi dridiau i lanhau pum ystafell enfawr, sydd ar agor i'r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos. Sut mae mynd ati i lanhau'r paneli, paentiadau a photiau i gyd? A beth am gaboli'r dodrefn ac adfywio'r llenni a'r carpedi yn y plasty hwn a adeiladwyd tua 1580, gyda chasgliadau sy'n adlewyrchu ysblander ei gyfnod? Wel, yr ateb yw – gyda chriw o gadwraethwyr, glanhawyr a gwirfoddolwyr medrus ac arbenigol, sgaffaldiau, ysgolion (gan gadw rheoliadau gweithio ar uchder mewn cof!) brwshys, sugnwyr llwch, clytiau, toddyddion, swabiau gwlân cotwm, nerth bôn braich, dyfalbarhad, brwdfrydedd, paned a siocled!Ar ddiwedd Mehefin 2025, aeth yr Adran Gadwraeth, dan oruchwyliaeth yr Uwch Gadwraethydd Dodrefn, ati i lanhau'r gofodau cyhoeddus yn drylwyr. Parhaodd y Castell i fod ar agor i ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwn.Er mwyn sicrhau bod popeth wedi’i lanhau’n drwyadl, roedd rhaid i ni gael gwared ar yr haenau o ddeunydd gronynnol ym mhob twll a chornel o'r dodrefn a'r ffitiadau. Byddai hyn yn llonni ystafelloedd y Castell a gwella profiad ein hymwelwyr. O safbwynt cadwraeth, mae'r dasg flynyddol hon yn hynod bwysig gan ei bod yn cael gwared ar y baw sy'n gallu bod yn ffynhonnell o fwyd i blâu llwglyd a llwydni. Mae presenoldeb y baw hwn yn cynyddu'r risg o ymosodiad biolegol ar ein casgliadau unigryw. Mae glanhau hefyd yn gwaredu deunydd gronynnol, sydd, yn yr amodau amgylcheddol cywir, yn gallu cyflymu dirywiad gwrthrychau yn ein gofal.Dechreuon ni yn y neuadd fwyta, i'r dde o'r brif fynedfa. Gan weithio fel tîm, tynnon ni wrthrychau oddi ar y waliau, gan symud gwrthrychau llai i hen neuadd y gweision. Cafodd y gwrthrychau mwy, megis y soffa Edwinsford, y byrddau a'r seldau eu symud yn ofalus i ganol yr ystafell er mwyn i ni allu eu glanhau’n drylwyr, yn ogystal â glanhau’r gofodau lle maent fel arfer yn sefyll.Ar ôl tridiau o ddringo ysgolion, brwsio eitemau cain ac addurnedig, llawer o hwfro a defnyddio emylsiynau mewn toddiant ac olew caledu i amddiffyn celfi gyda haenau gwarchodol, roedd y dasg o lanhau'r Castell wedi'i chwblhau. Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau ffrwyth ein llafur. Dim ond un o dros 50 o adeiladau hanesyddol yw'r Castell – pob un angen rhaglen dreigl o ofal a chynnal a chadw er mwyn iddynt barhau i fod yn hygyrch i bawb. Efallai y byddwch chi'n gweld ein timau cadwraeth a glanhau wrth eu gwaith ar y safle y tro nesaf i chi ymweld â'r Amgueddfa. Os ydych chi, dewch i ddweud helo. Bydden ni wrth ein boddau i ateb unrhyw gwestiynau ar lanhau'r adeiladau a'r casgliadau hanesyddol.