Celfyddyd Geltaidd - Gwreiddiau a Chwedlau 2 Ebrill 2007 Y Celtiaid Y darn harnais o'r Oes Haearn Hwyr o Alltwen Mae astudio gwahanol arddulliau celf 'Geltaidd' ar waith metel yn gymorth i ddeall pobloedd Ewrop yn Oes yr Haearn. Defnyddiwyd celfyddyd La Tène, sef yr enw cywir amdano, ar draws Ewrop o ddiwedd y 5ed ganrif CC ymlaen. Roedd y gelfyddyd yn gwbl wahanol i arddulliau'r byd Canoldirol clasurol, a ddefnyddiai ffurfiau naturiol mewn arddull a lifai'n rhydd. Credir mai'r Celtiaid oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r arddulliau La Tène cynnar. Roeddent yn bobl oedd yn rhannu ieithoedd, cymdeithasau a chredoau crefyddol paganaidd cyffelyb. Heriwyd y dyb yma'n ddiweddar; heddiw mae arbenigwyr yn credu bod arddulliau gwaith metel tebyg yn awgrymu i'r math yma o gelfyddyd groesi ffiniau diwylliannol, ac na wnaeth, o reidrwydd, aros o fewn ffiniau un hunaniaeth ethnig arbennig. Mae gan Gymru nifer o ddarganfyddiadau o waith metel wedi'u haddurno yn yr arddulliau celf La Tène, ac mae esiamplau ohonynt yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Enamelau Gwydr Dadansoddi samplau yn defnyddio Microsgop Scanio Electron Meistrolwyd y dechneg o osod 'enamel' coch ar waith metel addurnedig gan weithwyr metel ym Mhrydain o'r 3ydd ganrif CC ymlaen. Math o wydr yw'r enamel mewn gwirionedd, a osodir drwy dorri darnau i'r siapiau cywir; cynheswyd y darnau yn ofalus nes eu bod yn feddal, cyn eu gwthio i mewn i'r gwaith metel. Darganfuwyd esiampl wedi ei addurno drwy gelfyddyd La Tène, gyda'r enamel coch, yn Alltwen ger Pontardawe (Castell Nedd - Port Talbot), a brynwyd gan Amgueddfa Cymru. Mae'r darganfyddiad wedi codi cwestiynau ynghylch gwrthrychau enamlog ac addurnedig o Oes yr Haearn. Pa mor debyg (neu wahanol) oedd traddodiadau gwaith metal gogledd a de Cymru? A fu Aber yr Afon Hafren yn rhwystr neu'n ffocws diwylliannol i weithwyr metel rhwng De Cymru a de-orllewin Lloegr yn ystod yr Oes Haearn hwyr? Sut mae'r 'enamelau' (gwaith gwydr) yma'n dirywio? Tynnu samplau i'w dadansoddi Crysialau cwprit o fewn i'r matrics gwydr Ymhlith yr eitemau a ddewiswyd ar gyfer eu hastudio roedd darn o gyfrwy ceffyl o Gaerdydd, Powlen yr Wyddfa (Gwynedd) gyda'r motiff sy'n debyg i gath, a detholiad o offer marchogaeth o gelc Blaendulais (Castell Nedd - Port Talbot), yn ogystal â darganfyddiad Alltwen. Cymerwyd samplau bach o enamel o'r gwrthrychau; gosodwyd a chabolwyd hwy ar sleid microsgop. Gwnaed dadansoddiadau o samplau gan ddefnyddio Microsgop Sganio Electron a dadansoddiad Pelydr-x. Astudiwyd strwythur yr enamelau hefyd, drwy ddefnyddio cyfuniad o olau trosglwyddedig ac achlysurol gan ddefnyddio microsgop polareiddio golau. Mae canlyniadau'r dadansoddi'n dangos gwydr 'calch-soda', a oedd yn cynnwys llawer o blwm a chopr. Dyma sydd yn gyfrifol am liw coch llachar ac anhryloywder y gwydrau hyn. Mae'r broses o'u cynhyrchu'n un ddatblygedig yn dechnegol, a gellir eu cynhyrchu yn unig drwy reoli cynhwysion y gwydr ac amodau'r ffwrnais yn ofalus. Mae'r canlyniadau'n dangos bod gwrthrychau enamel o dde Cymru'n cyfateb yn weddol agos i'r rhai o dde-orllewin Lloegr; Fodd bynnag, mae'r enamel ar Bowlen yr Wyddfa yn wahanol iawn i'r gweddill. Awgryma hyn bod y broses o gynhyrchu'r gwydrau yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru.
Symud murlun ffresgo cain i'w gadw 30 Mawrth 2007 Dyfrlliw gan F.G. Newton, 1905 Tynnu un o'r paneli Ym 1988, yn ystod cloddfa archeolegol ar safle siambr y cyngor ym masilica (neuadd ymgynnull) tref Rufeinig Caerwent, datguddiwyd murlun cain sydd bellach wedi cael ei symud i'w gadw a'i arddangos. Roedd y plastr paentiedig, neu'r ffresgo, sydd 5 metr o hyd ac l metr o uchder, wedi'i gysylltu â wal ddeheuol y siambr. Cofnodwyd ef yn flaenorol mewn darlun dyfrlliw gan F.G. Newton ym 1905, cyn iddo gael ei orchuddio eto. Mae'r ffresgo'n dangos persbectif pensaernïol, gyda philastrau melyn neu baneli uwchben dado pinc â gwythiennau brown. Mae'n bosib bod y darn brown tywyll ynghanol y pilastr canolog yn rhan o banel addurnedig, a oedd, o bosib, yn cynnwys corff dyn. Penderfynwyd tynnu'r ffresgo er mwyn atal dirywiad pellach gan fod y plastr yn hynod o fregus. Ar ôl gorchuddio'r gwaith celf cain yn ofalus gyda mwslin a glud, torrwyd y paentiad yn pum panel - pob un wedi'i gau mewn bocs pwrpasol. Roedd tynnu'r paentiad o'r wal yn broses anodd, a bu'n rhaid defnyddio amrywiaeth o lifiau a chynion i wneud y gwaith. Gan nad oedd modd cael mynediad at gefn pob panel ond trwy'r pen uchaf ac un o'r ochrau'n unig, roedd y broses yn anodd ac roedd angen cryn dipyn o amynedd a dyfeisgarwch. Cymerodd gyfanswm o naw niwrnod i symud y paentiad, ac aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn i'r gwaith cadwraethol, a'r gwaith o ailosod cefn y paentiad ddod i ben. Bellach, mae'r ffresco'n cael ei gadw a'i storio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Darllen cefndir:
Dyrnaid o Ddoleri 30 Mawrth 2007 Arian 8-reales, neu'r 'Pillar Dollar', Mecsico, 1741. Tra bo casgliad nwmismateg (darnau arian) yr Amgueddfa'n cynnwys darnau arian o Brydain yn bennaf, mae hefyd yn cynnwys grwpiau o ddarnau sy'n nodweddiadol o arian tramor, sy'n hwyluso'r broses o osod esblygiad arian Prydeinig yn ei gyd-destun rhyngwladol. Tarddodd y ddoler, un o unedau arian mwyaf dylanwadol y byd heddiw, ym mlynyddoedd olaf y 15fed ganrif. Bu cynnydd aruthrol yng nghynhyrchiant metel yn Ewrop yn sgil darganfod meysydd arian newydd a datblygiadau yn nhechnoleg mwyngloddio, ac fe ddechreuodd gwledydd canolbarth Ewrop gynhyrchu ceiniogau arian mawr a oedd yn gyfwerth â cheiniogau aur y cyfnod. Mae'r enw 'dollar' yn tarddu o'r St Joachimsthaler Guldengroschen a fathwyd gan yr Ieirll Slik yng Nghanolbarth Ewrop tua 1520. Wrth i'r 'Thaler' ddod yn enw generig am ddarnau arian maint coron yn y taleithiau Almaenig, dechreuodd y term Saesneg 'dollar' ymddangos tua dechrau'r 17eg ganrif. Masnachwyd niferoedd anferth o'r doleri a gynhyrchwyd yn nhrefedigaethau Sbaenaidd Mecsico a De America ('darnau wyth') drwy'r byd, gan osod y safon ar gyfer arian nifer o'r gwledydd oedd yn datblygu yn y 18fed a'r 19eg ganrif.
Y Forum-basilica Fawr yng Nghaerwent 30 Mawrth 2007 Caerwent: y wal ddeheuol a'r tyrau Dim ond dwy dref Rufeinig a fodolai yng Nghymru hyd y gwyddom, sef Caerfyrddin (Maridunum) a Chaerwent (Venta Silurum). Caerwent oedd y dref fwyaf o bell ffordd. Ar un adeg pentref bach Caerwent, ger Cas-gwent yn ne Cymru, oedd prif dref weinyddol y Silwriaid, y llwyth Celtaidd a boblogai dde-ddwyrain Cymru. Yn y 1980au cyflawnodd Amgueddfa Cymru raglen gynhwysfawr o gloddfeydd ymchwil i gynnyddu'r wybodaeth am ddatblygiad cynnar y dref Rufeinig hon. Dim ond topiau'r adeiladau a ddatgelwyd gan gloddfeydd cynharach, a roddodd ddarlun o dref o gyfnod Rhufeinig hwyr. Y Forum-basilica Fel pob tref Rufeinig, safai'r fforwm (marchnad) yn ei chanol, a'r basilica (neuadd ymgynnull) wrth ei ochr. Archwiliwyd y forum-basilica yn gyntaf ym 1907 a 1909. Adferwyd cynllun yr adeilad bron yn gyfan gwbl, ond nid oedd tystiolaeth bendant ynglŷn â'r dyddiad y cafodd ei adeiladu'n wreiddiol. Yn ystod cloddfeydd yn y 1980au dadorchuddiwyd rhannau mwyaf trawiadol yr adeilad er mwyn eu harddangos, ac yn y diwedd, datryswyd eu hanes strwythurol. Aed i mewn o'r brif stryd i'r forum, marchnad betryal agored wedi'i hamgylchynu ag ystafelloedd ar dair ochr, drwy fynedfa fwaog. Byddai sgwâr palmantog yn darparu gofod addas i osod stondinau dros dro ar ddyddiau marchnad. Byddai'r rhesi o ystafelloedd, a osodwyd y tu ôl i golofnres orchuddiedig, yn cael eu defnyddio fel siopau, tafarndai a swyddfeydd. Mae'n debygol y byddai ail lawr wedi bod uwch eu pen, gyda rhagor o ystafelloedd, a theras efallai. Mae'r basilica'n cynnwys y neuadd fawr yn ogystal ag amrywiaeth o ystafelloedd a siambrau. Byddai'r neuadd fawr wedi cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus mawr a seremonïau. Hyd yn oed cyn dechrau'r gloddfa, safai rhai o'r muriau gymaint â 2m uwch lefel y tir, gan iddynt gael eu hymgorffori i adeiladau amaethyddol a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cloddfa ochr ddwyreiniol prif neuadd y basilica, gyda'r draen ym mlaen y llun Yn ôl yr arfer, mae'r brif neuadd yn cynnwys corff a dwy ystlys wedi'u rhannu gan golofnresau a gynhaliai lofft olau fel sydd mewn eglwysi mawr. Roedd seiliau'r muriau oedd yn cynnal y colofnau bron 2m o ddyfnder. Safai'r colofnau mawr cerrig, a gerfiwyd o dywodfaen lleol, yn 9m o uchder. Amcangyfrifir bod y basilica dros 20m o uchder. Rhedai ffos o dan lawr y basilica i gario dŵr glaw oedd wedi cronni yn y cafnau o amgylch parc y forum. Defnyddiwyd blociau anferth o dywodfaen lleol, rhai ohonynt yn pwyso mwy na thunnell, ar gyfer ochrau a chaead y ffos, a gorchuddiwyd y llawr gyda theils to. Roedd modd cael mynediad i'r draen i'w lanhau drwy dwll archwilio hanner-cylch, a dorrwyd o un o'r meini capan. Yn y canol roedd yr aedes, neu'r gysegrfa, lle byddai cerfluniau o'r Ymerawdwr a duwiau dinesig wedi'u gosod. Roedd y llawr yn y rhan hon yn uwch na gweddill y basilica, gan ei gwneud yn fwy amlwg. Ar ochr orllewinol yr aedes roedd ystafell y curia neu siambr y cyngor. Mae'r mur deheuol tua 2m o uchder wedi goroesi ac wedi'i orchuddio â phlastr sy'n cynnwys dyluniadau pensaernïol. Ym mlynyddoedd olaf ei hanes, addurnwyd y llawr â phaneli mosäig. Roedd sianelau bob ochr i'r mosaigau, a chanfuwyd ceudodau cyfatebol yn y plastr ar y mur deheuol. Eu swyddogaeth oedd dal fframwaith pren y meinciau yr eisteddai cynghorwyr y cynulliad llwythol arnynt. Ar ochr ddwyreiniol yr ystafell roedd sylfaen gerrig ar gyfer llwyfan bren gyda grisiau, lle byddai ynadon wedi llywyddu cyfarfodydd y cyngor. Ail-gread o'r forum-basilica. (Cadw, Crown Copyright) Adeiladwyd yr adeilad mawr hwn ym mlynyddoedd cynnar yr ail ganrif O.C. Roedd adeiladau'r forum-basilica ymysg y rhai mwyaf a godwyd ym Mhrydain tan ddyfodiad eglwysi cadeiriol anferth yr Oesoedd Canol, ac mae'n rhaid eu bod wedi gosod straen aruthrol ar adnoddau a chyllid. Mae'n ymddangos bod y basilica wedi cael ei ail-adeiladu, yn gyfan gwbl bron, yn hanner olaf y drydedd ganrif. Tynnwyd y llechi o do'r brif neuadd a dymchwelwyd y colofnau. Yn ystod yr ail-adeiladu atgyfnerthwyd y muriau a chodwyd y lloriau oherwydd ymsuddiant, mae'n debyg. Mae'n bosibl y cafwyd problemau strwythurol o'r cychwyn cyntaf, oherwydd torrwyd dau dwll enfawr drwy'r lloriau gwreiddiol er mwyn archwilio'r seiliau. Bwcl a phlât o wregys yn dyddio o'r bedwaredd ganrif a ganfuwyd ar safle'r basilica. Addurnwyd y bwcl gyda dolffiniaid yn wynebu'i gilydd a phennau ceffylau'n edrych tuag allan. Parhaodd y basilica i weithredu fel y pencadlys gweinyddol tan y 330au, pan newidiwyd y defnydd a wnaed o'r adeilad. Darganfuwyd nifer o aelwydydd yng nghorff yr adeilad, sy'n arwydd ei fod yn safle gweithgarwch diwydiannol ysgafn ar un adeg. Tuag ugain neu ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cafodd y basilica ei ddymchwel. Mae arian a fathwyd yn y 390au yn arwydd o weithgaredd ar y safle hwn. Erys natur yr anheddiad hwn, mewn cyfnod pan oedd gweddill y dref yn dadfeilio, yn ansicr. Mae'r cloddfeydd yng Nghaerwent wedi datgelu llawer am hanes yr adeilad anferth hwn, ac nid yw'r nodweddion a ddisgrifir wedi cael eu gweld yn unrhyw le arall ym Mhrydain.