Mae’n ganol Chwefror ac mae’r tywydd gwlyb a gwyntog a barodd drwy gydol Ionawr wedi cilio i wneud lle i awyr cliriach. Mae’r diwrnodau wedi bod yn heulog a llachar, ond yn eithaf oer ar yr un pryd, ac mae’r nosweithiau clir yn gadael haenau o iâ ar wyneb llynnoedd a phyllau dŵr hyd y bore.
Mae nifer o’r arwyddion cynnar bod y gwanwyn ar ei ffordd i’w gweld ers rhai wythnosau bellach. Mae’r eirlysiau wedi ymddangos ers diwedd Ionawr, ac mae cynffonnau ŵyn bach wedi bod yn chwythu yn yr awel ers dechrau’r mis. Hefyd mae briallu a llygaid Ebrill wedi bod yn tyfu o amgylch y safle ers canol Chwefror. Mae dail gwyrdd ffres yn tyfu o’r llwyni drain gwynion ac mae’r cennin Pedr yn blodeuo hefyd. Rwyf hefyd wedi gweld nifer o gacwn tingoch ers dechrau’r mis, yn ogystal ag un fuwch goch gota unig yn eistedd ar frigyn.
Mae’r ffaith bod llynnoedd bach yn llawn amffibiaid fel brogaod a madfallod y dŵr yn arwydd da fod y gwanwyn wedi cyrraedd, oherwydd ei fod yn golygu bod dŵr yn cynhesu. Ffeindiais ambell fadfall y dŵr ym mhwll y tanerdy'r wythnos ddiwethaf, ond mae’n dal i fod yn rhy oer iddyn nhw, gan fod y dŵr yn tueddi i rewi dros nos. Cadwch eich llygaid yn agored rhag i chi weld brogaod yn silio tua dechrau Mawrth pan fydd y tywydd ychydig yn gynhesach. Gwrandewch hefyd am gân y siff-siaff yn hwyrach ym Mawrth. Fel arfer, nhw yw’r cyntaf o’r rhywogaethau ymfudol i gyrraedd o Affrica.
Roedd hi’n wyliau hanner tymor yr ysgolion yr wythnos diwethaf, ac fe gynhaliais weithdai yn seiliedig ar adnabod arwyddion y gwanwyn. Cymerodd dros 1200 o ymwelwyr ran mewn cwis dail, gan fynd allan i chwilio am flodau ac adar y gwanwyn ar hyd llwybrau’r gwanwyn. Gallwch lawrlwytho ‘llwybrau’r gwanwyn’ a chofnodi'r hyn a welwch ar gwefan Nature Detectives. Hefyd gallwch ymweld â’n gwefan newydd Archwilio Ein Coedwigoedd a fydd yn cael ei sefydlu dros yr wythnosau nesaf.
Bu’n wlyb a gwyntog iawn gydol y mis diwethaf, a phrin iawn fu’r cyfnodau heulog a welwyd yn ystod tywydd diflas canol gaeaf. Tipyn o gamp yw gwylio bywyd gwyllt yn y tywydd hwn, pan fo’r rhan fwyaf o’r adar yn swatio rhag llach y gwyntoedd cryfion! Fodd bynnag, wrth fynd am dro yn ystod yr ysbeidiau heulog, sylwais fod yr adar yn ymddangos yn llawer mwy dof ac yn llai parod i hedfan i ffwrdd. Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn yw eu bod yn ceisio cadw eu hegni gan nad oes ganddyn nhw fawr ddim wrth gefn. Un ai hynny neu maen nhw wedi hen arfer ag ymwelwyr bellach. Gallwn dyngu bod yna Robin Goch yn fy nilyn i ddoe…
Mae’r gwaith ar y project natur yn mynd o nerth i nerth a bydd ar ei anterth yng nghyffro’r gwanwyn. Mae’r testun ar gyfer y paneli gwybodaeth i’w rhoi ar y llwybr yn barod ac mae’r cynllun ar fin cael ei gwblhau. Bydd y camerâu bywyd gwyllt yma cyn bo hir (gorau po gyntaf!) ac mae gwefan newydd wych ar y gweill hefyd. Rwy’n brysur hefyd yn paratoi taflenni gwaith i deuluoedd a chynlluniau ac adnoddau gwersi i athrawon, felly mae bywyd yn brysur!
Ionawr 2008 - Hynt a helynt arddangosfa Archwilio Gwely'r Môr!
Symudodd yr arddangosfa i Amgueddfa Stêm Kew Bridge yn Brentford, Middlesex ar 7 Ionawr er gwaetha'r gwyntoedd cryf yn chwythu'r fan dros bob man! Bydd yr arddangosfa yno rhwng 9 Ionawr a 2 Mawrth 2008.
29 Chwefror 2008. Heddiw gallwch weld bod nifer o'r blodau wedi agor. Mae'n braf gweld eu lliwiau llachar ar ddiwrnod o wanwyn mor gymylog yng Nghaerdydd.
28 Chwefror 2008. Mae fy mlodyn wedi agor yn llwyr nawr. Mae hi'n felyn llachar ac mae ganddi chwe phetal mawr. Mae'n 37cm o daldra. Os edrychwch y tu mewn iddi gallwch weld y stigma a'r antheri.
28 Chwefror 2008. Os edrychwch chi ar y blodyn o'r ochr gallwch weld fod ei siâp yn debyg i drwmped.
26 Chwefror 2008. O'r diwedd mae fy nghenhinen Pedr cyntaf wedi agor! Bydd yn cymryd diwrnod neu ddau i agor yn llwyr. Cyn iddi agor, plygodd ei phen am i lawr.
22 Chwefror 2008. Dyma lun manwl o'r blaguryn. Fel y gwelwch, nid yw wedi agor ac mae wedi'i lapio yn ei gasin. Fe ddylai bwyso am i lawr pan fydd ar fin agor.
22 Chwefror 2008. Mae'r dail yn 25cm o daldra. Maen nhw wedi dechrau agor — er mwyn dal mwy o olau'r haul i ddechrau storio egni. Mae'r blaguryn ychydig yn dalach — mae'n 32cm.
8 Chwefror 2008. Mae'r dail a'r blagur yn 11cm o daldra.
31 Ionawr 2008. Mae'r dail a'r blagur cyntaf yn ymddangos. 4cm o daldra.
5 Chwe 2008. Mae fy mlodau wedi agor! Rwy'n meddwl eu bod nhw'n brydferth iawn. Mae'r petalau'n lliw porffor golau — ac mae gan rai linellau lliw lelog tywyll. Welwch chi'r stigma? Hwn yw'r darn oren tywyll y tu fewn i'r petalau. Y darnau oren golau yw'r antherau.
27 Ion 2008. Mae'r planhigion ychydig gentimedrau o uchder. Fel y gwelwch chi, mae'r petalau ar gau o hyd. Maen nhw'n barod i agor unrhyw ddiwrnod nawr!
23 Ion 2008. Mae blodyn y Crocws yn dod i'r golwg. Mae'r blodyn ar gau ac mae'n sefyll ond ychydig gentimedrau o'r ddaear.
21 Ion 2008. Mae'r dail yn tyfu tipyn bach yn uwch.
18 Ion 2008. Mae dail cynta'r Crocws yn ymddangos.