Bu Archwilio Gwely'r Môr yn bresennol yng Nghynhadledd y Gymdeithas er Addysgu Gwyddoniaeth yn Lerpwl ddechrau Ionawr. Denodd y project gryn frwdfrydedd gan athrawon a'r gobaith yw y bydd llawer mwy o ysgolion yn defnyddio'r adnoddau yn y dosbarth.
Mae’r hydref ar ei anterth ers rhai wythnosau bellach, ac mae’r tywydd mwyn wedi arwain at olygfeydd godidog yma yn Sain Ffagan. Roedd dyddiau’r Hydref yn heulog a chlir a bu’r gwyntoedd yn fwyn. Canlyniad hyn oedd lliwiau oren, coch, melyn a brown hynod wrth i’r dail droi eu lliw heb ddisgyn oddi ar y coed. Gan ei bod hi’n ganol Tachwedd bellach rydym wedi cael rhai diwrnodau gwyntog ac ambell ddiwrnod glawog ac mae’r canghennau’n troi’n noeth wrth i bentyrrau o ddail sych gasglu ar hyd y llwybrau a’r ffyrdd. Mae’r tymheredd wedi gostwng yn sylweddol hefyd dros yr wythnos ddiwethaf, gyda’r nosweithiau oer yn golygu bod barrug ar y dail yn aml erbyn y bore.
Prin fod unrhyw fwyd ar ôl ar lawer o’r coed a’r perthi a fwriodd eu ffrwyth yn gynharach yn y mis ar ôl i’r adar llwglyd wledda arnynt. Mae digonedd o hadau a chnau ar y coed ar hyn o bryd, yn enwedig y cnau’r ffawydd sy’n dechrau disgyn – gwledd go iawn i’r gwiwerod. Gwelais sawl Coch dan Adain dros yr wythnosau diwethaf sydd wedi hedfan i’r de o Wledydd Llychlyn i borthi ar aeron toreithiog y Ddraenen Wen a’r Ywen.
Cefais wythnos brysur iawn yn ystod gwyliau hanner tymor yr ysgol. Bues i’n cynnal gweithdai’n seiliedig ar gynlluniau BBC Autumnwatch ac Nature Detectives ac fe wnes i siarad â dros 1,100 o ymwelwyr fy hun! Cafwyd gweithgareddau fel llwybr adnabod dail a her adnabod yr hydref yn ogystal â lliwio ar gyfer y plant bach. Mae’n werth cael golwg ar wefan Autumnwatch gan fod llawer o adnoddau a gwybodaeth am ddim arni a fydd yn eich cadw’n brysur am flynyddoedd!
Mae’r gwaith ar lwybr y goedwig yn mynd rhagddo ac mae’r cynlluniau ar gyfer y paneli’n dod yn eu blaenau. Mae rhai o’r syniadau ar gyfer paneli gweithgarwch yn wych a byddant yn galluogi pobl i ryngweithio â’u hamgylchedd ac i edrych o’r newydd ar y coetir. Gyda chymorth gwirfoddolwyr o Legal & General dechreuwyd ar y gwaith o glirio’r a chreu llwybr yr wythnos ddiwethaf. Diolch yn fawr i griw Legal & General am eu gwaith caled gwych!
Mae Elin Roberts, dehonglydd y Tŷ Gwyrdd a minnau wedi dechrau prynu bwyd adar gan gwmni Wiggly Wrigglers a buon ni’n bwydo’r adar y tu allan i’r Tŷ Gwyrdd. Edrychwch ar rai o’r lluniau isod:
Helo bawb! Dw’i wedi penderfynu dechrau blog i sôn am brosiect diweddara (ac yn fy marn i, prosiect gorau) Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r amgueddfa wedi apwyntio fi i fod yn ‘ddehonglydd coedwigoedd’ a dwi’n bwriadu dehongli’r goedwig i’r eithaf.
I ddechrau, ychydig amdana’ i. Fy enw i yw Gareth Bonello ac rwy’n 26 mlwydd oed. Dwi’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd ond serch hynny datblygais ddiddordeb mawr mewn byd natur ac fe es i Brifysgol Bryste i astudio S?oleg. Ar ôl graddio yn 2002 roeddwn i’n gweithio i’r BTO (British Trust for Ornithology) yn cyfri niferoedd yr adar oedd yn bridio yng ngogledd-orllewin Lloegr. Dychwelais i Gaerdydd yn 2003 lle gweithiais fel dehonglydd hanes natur i Amgueddfa Cymru ym Mharc Cathays am dair blynedd a hanner.
Dechreuais y swydd newydd yn Sain Ffagan ym mis Mai 2007. Mae hefyd gennyf ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a ffilm a dw’i ar fin cwpla MA mewn Ffilm o brifysgol Casnewydd. Os oes byth gennyf unrhyw amser sbâr dwi’n hoff iawn o chware’r gitâr, bwyta a chysgu!
Y Prosiect
Digon amdana’ i, beth am y prosiect? Wel, mae ganddi dair prif ran:
Addysg
Llwybr Natur
Y We
Yn gyntaf, mae’r prosiect yn un addysgiadol sy’n anelu at ddysgu pobl am natur y goedwig, cynaladwyedd a llawer mwy. Yn ystod y tymor ysgol mi fyddaf yn rhedeg gweithgareddau ar gyfer ysgolion yn y goedwig yma yn Sain Ffagan. Mi fydd y gweithgareddau yn cynnwys sesiynau ar adnabod trychfilod, bioleg y coed, ymarfer corff a chelf. Yn ystod y gwyliau ysgol mi fyddaf yn rhedeg gweithgareddau am goedwigoedd ar gyfer teuluoedd.
Yn ail, maer’ prosiect mynd i osod llwybr natur newydd yn Sain Ffagan. Mi fydd y llwybr yn rhedeg trwy'r goedwig ffawydd tu ôl i’r Pentref Celtaidd, lle fydd mynedfa newydd yn ei lle. Ar hyd y llwybr fydd paneli gyda gwybodaeth am natur y goedwig ffawydd ac am y defnydd mae pobl wedi ’neud o goedwigoedd trwy gydol eu hanes. Dwi’n gobeithio defnyddio cerflunydd llif-gadwyn i wneud cerfluniau diddorol o amgylch y goedwig ac mae Ian Daniel, dehonglydd newydd y Pentref Celtaidd yn mynd i wneud cerfluniau o ffigyrau o chwedlau'r Celtiaid.
Yn olaf, mi fydd y prosiect yn mynd ar y we. Mae arbenigwyr camerâu natur Eco-Watch (sy’n gwneud BBC Springwatch) mynd i fy helpu i roi camerâu mewn bocsys nythu adar, ar fwrdd bwydo adar ac o dan y d?r erbyn y gwanwyn. Yn ogystal â hyn mi fyddaf yn ffilmio ac yn cymryd lluniau o amgylch y maes ac yn eu rhoi nhw i fyny ar y we fel y byddwch chi’n gallu dilyn digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r bywyd gwyllt yma’n ddiddorol iawn gyda Ystulmod yn y Sguboriau, Madfallod d?r yn y pyllau a channoedd o amrywion o bryfed ac adar – mae gen i lot o waith i wneud! Mi fydd y wefan hefyd yn cynnwys gemau addysgiadol ac adnoddau ar gyfer athrawon yn ogystal â linciau i’r blog yma ac i wefannau eraill am fywyd y coedwigoedd.
Dw’i mynd i sgwennu’r blog yma unwaith y mis, ond wna’i ychwanegu darnau diddorol wrth iddyn nhw ddigwydd. Yn y cyfamser ewch draw i’r gwefannau isod i ddarganfod mwy am goedwigoedd a’r anifeiliaid sy’n byw ynddynt: