Addysg

Da na na na na... bat cam! bat cam!

Danielle Cowell, 26 Gorffennaf 2011

Dewch i weld camera ystlumod Sain Ffagan, lle gallwch chi wylio Ystlumod Pedol Lleiaf yn magu eu cenawon. Mae’r camera yn adeiladau’r Tanerdy a gellir ei weld bob dydd o fis Ebrill hyd fis Hydref.

Neu beth am alw draw i un o’n Diwrnodau Gweithgaredd Archwilio Natur pan fydd Hywel Couch wrth law i ateb cwestiynau am ystlumod ac adar. http://tinyurl.com/3z5a2q5

Os taw gwylio ystlumod wedi iddi nosi sy’n mynd â’ch bryd, archebwch le ar ein taith ystlumod deuluol. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?event_id=5029

Heddiw, ar ôl gosod goleuadau Is-goch newydd i wella’r ddelwedd ar y camera, llwyddom i gyfri tua 50 ystlum, ac roedd 20 yn fabanod a anwyd dros yr haf.

Yr wythnos diwethaf, mynychodd tîm o arbenigwyr ystlumod gwrs arbenigol dan arweiniad Wildwood Ecology. Yn ystod y cwrs, recordiwyd 6 math gwahanol o ystlum sy’n byw ar y safle yn cynnwys: Ystlum Pedol Lleiaf, Ystlum Natterer, Ystlum Adain-lydan, Ystlum Soprano Lleiaf, Ystlum Hirglust ac Ystlum y D?r.

Pecyn ymchwilio am ddim i ysgolion!

Danielle Cowell, 22 Gorffennaf 2011

Ewch allan o’r ystafell ddosbarth! Ymunwch â’r miloedd o wyddonwyr ysgol sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad cyffrous.

Am ragor o fanylion, ewch i: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/scan/bylbiau/

I gymryd rhan, llenwch y ffurflen gais arlein a’i hanfon at danielle.cowell@amgueddfacymru.ac.uk erbyn 31 Gorffennaf 2011

Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2011

Danielle Cowell, 17 Mehefin 2011

Gofynnwyd i'r disgyblion dynnu llun cennyn pedr a'u labelu. Cawson ni lwyth o luniau gwych!

Rhoddodd Athro'r Ardd wobrau Bishops Childs CIW School a Ysgol Nant Y Coed am gyflwyno'r darluniau gorau. 

 

Cert Celf - Arian

Sian Lile-Pastore, 2 Mehefin 2011

Neges gyflym i ddangos rhai lluniau o beth fuon ni'n creu yn y Cert Celf dros hanner tymor. Mae'r gweithgareddau yn rhedeg tan ddydd Sul, felly mae digon o amser i chi ymweld a chymryd rhan o hyd. Mae rhai gwisgoedd ffansi Tuduraidd gyda fi hefyd y gall y plant eu gwisgo, a chefndir wedi'i beintio er mwyn tynnu llun o'i flaen.

Ceiniogau yw'r thema am fod arddangosfa anhygoel o geiniogau yn yr oriel ar hyn o bryd fel rhan o arddangosfa Creu Hanes. 'Celc Tregwynt' yw'r enw ar y ceiniogau ac fe gawson nhw eu claddu tua 1647 a'u darganfod o'r diwedd ym 1996!

Rydyn ni wedi bod yn lliwio ac addurno ceiniogau Tuduraidd yn y cert celf ac wedi bod yn defnyddio cortyn a ffoil i wneud arian 3D.

Dwi'n credu eu bod nhw'n edrych yn rhagorol.

Canlyniadau 2006-2011

Danielle Cowell, 19 Mai 2011

Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.

Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol o bob cwr o Gymru wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.

Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd