: Eglwys Sant Teilo

Gweithgareddau i Oedolion yn Eglwys Teilo Sant

Sara Huws, 28 Ebrill 2010

Reit, o'n i angen hynna! Ar ôl treulio'r Pasg yn Eglwys Teilo Sant, roedd cael treulio deuddydd yn yr haul ym Mharis yn siwtio i'r dim. Mi dreuliais i'r rhan fwyaf o'n amser yno mewn amgueddfeydd, am ryw reswm, yn arbennig y Musée Cluny. Ro'n i'n hapus iawn i ail-ymweld â'r lle - mae'r casgliad wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ers blynyddoedd a roeddwn ar ben fy nigon. Mae gan y Cluny (nid y Clooney, sydd yn amgueddfa ddychmygol wahanol iawn) gasgliad heb-ei-ail o wrthrychau canoloesol. Cerfluniau wedi'w dinistrio yn y Diwygiad; gwydr lliw llawn storïau fwy lliwgar fyth; coronnau cywrain; llawysgrifau gwerthfawr: dyma'r math o le sy'n rhoi ias lawr cefn gîcs fel fi.

Roedd awyrgylch debyg yn Eglwys Teilo Sant adeg y Pasg, gydag ymwelwyr yn ymweld (ac ail-ymweld) i brofi'r "teimlad 'na" ac i siarad am bob math o bethe eglwysig. Ro'n i'n rhedeg teithiau tywys ar thema'r Pasg ym 1520: beth fyddai wedi bod yn digwydd yn yr Eglwys, pwy fyddai yno, a sut y byddai'r murluniau a'r cerfluniau yn chwarae rhan bwysig yn yr holl weithgarwch. Daeth dros 800 o bobl i ymuno â'r teithiau - fe ges i'r teimlad eleni mod i wedi gwneud rhywbeth i haeddu'n wy Pasg, am unwaith!

Yn hwyrach yn y gwyliau, dyma droi asgell ddeheuol yr Eglwys yn weithdy bychan, i artistiaid o bob oed gael tro ar beintio'n defnyddio deunyddiau naturiol. Daeth dros 300 egin-Holbein atom i ddefnyddio stensiliau, ocr, pownswyr a phaent wy i greu portread Tuduraidd, gan ddefnyddio'r un technegau ac y gwnaethom ni wrth ail-addurno'r adeilad. Fel y gwelwch ar flog Oriel 1 Sian isod, roedd cyfle i greu ffrâm Duduraidd i arddangos y portread yn ei lawn ogoniant. Dwi'n credu y galla i fentro a dweud bod y weithgaredd wedi bod yn un hwylus iawn, er i mi gael fy ngorchuddio mewn ocr. Erbyn diwedd yr wythnos, ro'n i'n edrych fel petawn i 'di cael anffawd gyda photel o liw-haul ffug.

A finne wedi sgrwbio tu ôl i fy nghlustiau, ac wedi rhoi fy nhrwyn yn ôl ar y maen, mae'r cylch yn troi eto: amgyffred â'r gweithgareddau, ymchwilio, gwerthuso, paratoi ac yna aros, aros, aros i chi bobl hyfryd i'n ffonio i archebu lle! A chan fy mod i'n arfer cloi bob post gyda hysbyseb bach digywilydd: dyma grynodeb o'r gweithgareddau i oedolion y gwelwch chi o gwmpas yr Eglwys yn ystod y misoedd nesaf.

Diwrnod o Gelf i Oedolion dros 50, 6 Mai, sy'n cynnwys gweithdy pigmentau naturiol, cinio a deunyddiau am ddima llawer mwy! Mae'r niferoedd yn gyfyngedig, felly cofiwch alw o flaen llawn i osgoi cael eich siomi.

Gwyddoniaeth a'r Eglwys yn y Canol Oesoedd, 29-31 Mai: sgwrs i bryfocio'r meddwl yn Eglwys Teilo Sant.

Y Gwr Kadarn, 26 Mehefin. Y cyfle cyntaf ers 1640 i weld y chwip o ddrama Gymraeg hon yn cael ei pherfformio yn yr awyr agored.

Cymru a Hanes y Byd

Sara Huws, 25 Mawrth 2010

Nodyn i dynnu sylw at y ffaith fod rhaglen y BBC 'Wales and the History of the World' nawr i'w gweld ar yr iplayer. Ymddangosodd Eglwys Teilo Sant ynddi neithiwr, a gallwch wylio'r bennod yn fan hyn. Bydd ar gael tan y 31ain o Fawrth.

Darn o furlun gwreiddiol, sy'n dangos rhosyn Tuduraidd a gorsedd, o Eglwys Teilo Sant. Hawlfraint CBHC/Coflein.

Mae'r rhaglen wedi ei chyflwyno gan Eddie Butler, ac mae'n rhoi golwg ffres ar beth drafodais yn y blog isod: beth sy'n ein gwneud ni yn 'ni'? Cewch weld uchafbwyntiau diddorol, anghyffredin ac eiconig o'ch casgliadau cenedlaethol yn ystod y rhaglen.

Dwi ddim yn hollol ddi-duedd, ond rhaid i mi ddweud fod yr Eglwys wedi ei ffilmio'n dda iawn, ac roedd yn hwyl gweithio gyda'r tîm. Y tro nesa', fe fyddai'n sicr o ddod a bocs i sefyll arno ar gyfer fy nghyfweliad, gan fod Mr Butler yn enfawr! Gallwch weld fy ngwep i (a'r Eglwys) tua 9 munud i mewn i'r rhaglen. Mwynhewch!

Mae'n bodoli, medden nhw...

Sara Huws, 16 Mawrth 2010

Ro'n i'n ymweld â'r llyfrgell yma yn Sain Ffagan, i fachu cwpwl o lyfrau er mwyn paratoi ar gyfer teithiau'r Pasg o amgylch Eglwys Teilo Sant. Taro mewn i 'nghyd-weithiwr wnes i, pan ddigwyddodd rhywbeth wnaeth i'm meddwl grwydro tan i fi gyrraedd y blog 'ma.

Mi ddoth ata i yn dal mewn cyfeirlyfr hen a swmpus, a dweud rhywbeth rhyfedd: "Mae'n real! A ma' fe 'ma!". Wrth roi'r llyfr i lawr, mae'n gadael i'r tudalennau syrthio ar agor. A dyna wnaethon nhw, ac agor ar yr union dudalen 'roedd eisiau ei dangos i mi.

O'r profiad dwi wedi ei gael gyda geiriaduron a hen lawysgrifau, mae tudalennau sy'n syrthio ar agor fel hyn yn bownd o gynnwys rhywbeth diddorol neu anweddus. Mae dod o hyd i dudalen yn y modd hwn yn gwneud i mi feddwl am yr holl bobl sydd wedi bod yn darllen yr union dudalen o fy mlaen. Dwi'n teimlo fel fy mod yn ymuno â chlwb cudd, lle mae cenedlaethau o ddarllenwyr wedi chwilota am yr un peth, a'i ddarllen yn ofalus. Roedd gan fy hen athro hanes celf stori am lawysgrifau Beiblaidd o'r canol oesoedd, oedd wedi'u copïo a'u defnyddio gan fynachod. Bron yn ddi-ffael, mae'r llawysgrifau hyn yn agor ar un dudalen arbennig: ble bydd Bathsheba yn cael ei disgrifio yn mynd i'r bath. Yn lwcus, doedd dim byd mor fasweddus i'w ganfod y tro hwn - ond sioc gefais i yr un fath:

 

Mae bron yn apocryffa: cofnod yr Enyclopaedia Britannica am Gymru: 'Wales, See England'. Roedd e'n bodoli! Roeddwn i wedi hen arfer defnyddio'r frawddeg fel idiom, i'w rwgnach o dan fy ngwynt pan fydd Jeremy Clarkson yn defnyddio 'us'; pan fydd map corfforaethol yn hepgor Ynys Môn, ac yn fwyaf diweddar, pan ddefnyddiodd Google lun un o gestyll y Brenin Edward i dathlu dydd Gwyl Dewi. Mae'n dipyn sylweddol o hanes i'w wasgu i mewn i gyn lleied o eiriau.

Fy ymateb i yw hynny, wrth gwrs. Bydd trafodaethau am Gymreictod, Prydeindod ac amryw o '-tods' eraill yn parhau tra bo pobl ar yr ynys yma, a rhai o gorneli llai goleuedig y rhyngrwyd yn ogystal. Beth bynnag yw'ch barn chi, swyddogaeth amgueddfa yw gwneud cofnod ohono, o dro i dro, i gadw llygad ar beth sy'n ein gwneud ni yn 'ni'.

Mi alwais heibio'r fersiwn ddiwygiedig o Encyclopaedia Britannica, gan obeithio dod â'r blog hwn i ben gyda dyfyniad bach diddorol. Ro'n i wedi gobeithio gallu crybwyll hyder a phroffil y wlad yn fyd-eang, a gorffen ar rhyw nodyn positif. Yn anffodus, yn ôl britannica.com (fel y gelwir y gyfrol nawr), 'constituent unit' yw Cymru heddiw. Rhaid cyfaddau i mi gael fy siomi. Mae'n rhyfedd gweld, 150 mlynedd ar ôl i'r frawddeg "Wales: see England" gael ei chyhoeddi, ac ar drothwy trosglwyddo pŵerau newydd i Lywodraeth y Cynulliad, nad yw 'Gwlad' yn llawn ddisgrifio'r hyn a wêl rhai, pan fyddan nhw'n edrych ar Gymru.

Taith Gerdded Duduraidd

Sara Huws, 11 Mawrth 2010

Ar ôl ffilmio, dadlapio, ac edmygu'r thuseur y soniais amdano'n ddiweddar, mae'n amser i olygu'r fideo!

I aros pryd, dyma luniau newydd yr hoffwn i eu rhannu hefo chi.

Cangell Eglwys Teilo Sant, fel y mae hi heddiw.

Angylion yn chwarae'r Crwth a'r Delyn. Darluniwyd gan Fleur Kelly.

Pigment ferdigris, a ddefnyddiwyd i greu paent gwyrdd yn Eglwys Teilo Sant

Os yw'r lluniau wedi'ch ysbrydoli, ewch draw i'r dudalen ddigwyddiadau i archebu lle ar ein taith gerdded Duduraidd. Bydd y daith ar y 20ed o Fawrth, a byddwn yn ymweld ag uchafbwyntiau Tuduraidd Sain Ffagan. Cewch gyfle i ymchwilio gwrthrychu replica, yn ogystal ag arogleuon Tuduraidd - rhai da a rhai drwg! Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar y daith, felly cofiwch archebu eich lle o flaen llaw.

Gobeithio y gwela i chi yno!

Trysor Cudd

Sara Huws, 19 Chwefror 2010

Fe ddaeth yr alwad ar bnawn Llun: "Mae o yn y post. Fydd o gen ti mewn tridie". Geiriau braf i'w clywed i gîc fel fi: roedd y thuseur yn post ac ar ei ffordd!

Cyn i mi fynd ymhellach, gai esbonio mai llosgwr arogldarth, neu incense yn Saesneg, yw thuseur. Mae'n siâp cawg, ac wedi'i gysylltu at gadwyn, i'r arogldarth gael ei chwifio 'nôl a mlaen. Caiff arogldarth ei ddefnyddio mewn eglwysi, temlau, ac allorau ar hyd a lled y byd hyd heddiw. Mae'r aroglau cryfion hyn yn gallu bod yn rhan bwysig o brofiad yr addolwr o adeilad, neu fan, sanctaidd. Byddwn yn clywed o hyd sut 'mae synnwyr arogl yn gallu agor rhannau cyfrin o'r cof. Mae'r gymysgedd o Thus, Myrr ac olewau sitrws a gaiff eu llosgi mewn llawer o Eglwysi Catholig yn gymysgedd o aroglau trymion, a rhai ohonynt wedi eu defnyddio mewn seremonïau a phersawrau ers oes yr Eifftiaid cynoesol a thu hwnt. Er nad yw'r arogl yn deffro cymaint o atgofion â bara ffres, neu mothballs, mae'r arogl gyfoethog yn medru arwain y dychymyg ar drywydd troellog yn ôl drwy hanes.

Nawr, cyn mod i'n dechre swnio'n rhy debyg i hysbyseb shampŵ, gadewch i mi gyfadde': rwy'n sgut am arogldarth. Dim unrhyw arogldarth chwaith. Fe fyddai'n cerdded yn ffroenuchel heibio'r conau a'r brigau llachar ac yn anelu am yr ystor (resin). Caiff ystor ei gasglu, gan amla, ar ffurf nodd (sap) o goed arbennig. Mae gan bob math ei nodweddion a'i hanes unigryw. Mae Thus yn debyg i ddagrau ambr, meddal. Myrr, wel, mae hwnnw'n debycach i hen gragen pili-pala. Mae Damar, ar y llaw arall, yn edrych fel pear drops ac yn arogli fel neithdar a sitrws ysgafn...

Ta waeth am hynny - 'nôl at y thuseur! Mae'n un ni yn replica, a bydd yn cael ei ddefnyddio yn Eglwys Teilo Sant. Rydym ni wedi gwneud arbrofion yn y gorffennol, ac wedi cael ymateb positif a negyddol. Roedd rhai yn credu bod yr arogl yn ychwanegu at lonyddwch yr adeilad. Rhuthrodd rhai yn syth allan trwy'r drws ar ôl dechrau peswch. Nododd rhai eu bod yn teimlo'n anghyfforddus, efallai oherwydd eu daliadau crefyddol personol. Fe fyddwn ni'n defnyddio'r thuseur newydd pan fyddwn ni'n ceisio ail-greu ein gwasanaeth Tuduraidd cyntaf eleni (mwy am hynny rywbryd eto...). Byddwn hefyd yn defnyddio cerddoriaeth o'r cyfnod a litwrgi Lladin, i weld a allwn ni ail-greu naws gwasanaeth eglwysig Cymreig ym 1500.

Yr unig drafferth ar hyn o bryd yw'r ffaith fod y Curadur a gomisiynodd y thuseur ar ei wyliau. Mae'r parsel mawr yn eistedd yn yr ystafell ddur. Dwi'n ceisio bod yn ddisgybledig a pheidio â phipio y tu fewn. Byddai hyn yn reit anodd, ta beth, am nad oes allweddi gennyf. Bydd rhaid i ni aros, felly, tan ddydd Llun i'w agor. Fe fyddaf yn recordio'r cyfan, felly cofiwch alw 'nôl i gael golwg arno!