: Eglwys Sant Teilo

Gweithgareddau am ddim: Hysbys Sain Ffagan!

Sara Huws, 11 Chwefror 2011

Church

Mae cymaint yn digwydd yfory ar safle Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, fy mod am eu casglu at ei gilydd yma i chi! Mae mynediad i'r amgueddfa'n rhad ac am ddim, a dydyn ni ddim yn codi tâl am ein gweithgareddau: bydd raid i chi chwilota am newid i dalu am y parcio, fodd bynnag (£3.50). Yn well fyth, gallwch ddilyn y llwybr beic i Dyllgoed, ac yna dilyn y rheilffordd, neu ddal bws 320 yng ngorsaf Caerdydd Canolog, fydd yn dod â chi'n syth at y drws ffrynt.

Fel arfer, bydd crefftwyr yn gweithio ar y safle. Yfory, bydd y ddau 'Eraint (Geraint y Melinydd a Geraint y Clociswr) yn gweithio ar y safle, yn arddangos sgiliau traddodiadol. Gallwch brynnu bag o flawd y Felin Bompren i fynd adre gyda chi (dwi'n clywed ei fod yn neud torth cwrw-melyn flasus iawn). Mae'n Clocsiwr hefyd yn hapus i'ch mesur ar gyfer pâr o esgidiau traddodiadol - mae hydnoed yn eu cynnig mewn nifer o liwiau mwy modern, hefyd!

Cewch weld y tîm amaethyddol wrthi ar y safle, yn bwydo'r moch am 3.30 yn Ffermdy Llwyn yr Eos. Yn ogystal â hyn i gyd, mae gweithgareddau arbennig ar gyfer pob math o ddiddordebau gennym ni hefyd:

Dathlu Diwrnod Teilo (10-1, 2-3) yn Eglwys Teilo Sant. Fe fydda i yn storïo, yn defnyddio ein cerfiad arbennig o hanes bywyd Teilo. Gallwch weld y cerfiad o flaen llaw yma, os hoffech chi. Fe fydda i'n gwneud fy ngore i ateb eich cwestiynau am furluniau, yr adeilad, chwaraeon Tuduraidd, neu unrhywbeth arall sy'n eich diddori.

Short Stories, Poems and Songs(2-3) yn Oriel 1, gyda'r awdur Paul Burston. Rydym am nodi lawnsiad Mis Hanes Hoyw, Lesbaidd, Deurywiol (LBGT) a Thrawsrywiol am y tro cyntaf yma yn Amgueddfa Cymru I ddathlu, bydd perfformiadau, darlleniadau a sgwrsio i ymchwilio a dathlu bywyd pobl LBGT yng Nghymru heddiw, a'u hanes. Bydd Dresel y Gymuned hefyd yn arddangos gwrthrychau gan y grwp cymorth Gay Ammanford.

Felly, rhywbeth i blesio pawb, gobeithio. Diwrnod prysur arall ym mywyd Sain Ffagan - gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Ein hanes byw, amryliw

Sara Huws, 7 Chwefror 2011

Mae tro ar fyd wedi bod ers i mi ysgrifennu atoch o Eglwys Teilo Sant y tro diwethaf. Mae pethe wedi bod yn mynd yn eu blaen yn dawel bach yno, ac mae ymwelwyr o dros y byd yn grwn yn parhau i ddod i ymweld â'r tlws lliwgar yng nghoedwig Sain Ffagan.

Misrule

Amser, felly, i roi hysbys bach ichi am beth sydd gennym ni ar y gweill ar gyfer 2011! Mae rhaglen flwyddyn gron gennym sy'n ymchwilio hanes 1500-1700 mewn ffordd unigryw a hwylus. Bydd arddangosfeydd byw, gwethgareddau a pherfformiadau yn dod â chyfnod y Tuduriaid, Stiwartiaid a'r Rhyfel Cartref yn fyw fel erioed o'r blaen.

Mi gyfeiriaf chi, felly, i dudalen ddigwyddiadau'r amgueddfa, lle cewch ragor o wybodaeth am ein digwyddiadau. Bydd pob digwyddiad yn rhad ac am ddim, a bydd rhan helaeth ohonynt yn rhan o'n prosiect Creu Hanes.

'Dyn ni wedi bod yn brysur yn gweithio ar arddangosfa arbennig i gyd-fynd â'r thema Creu Hanes. Bydd adeiladau hanesyddol y safle'n troi'n gefndir lliwgar ac addas i hanes byw o'r cyfnod 1500-1700. Bydd rhai o berfformwyr ac ymchwilwyr gorau'r DU yn ymuno â ni i roi bywyd a phersonoliaeth i'r hen lawysgrifau hanesyddol.

Misrule

Fe rannaf restr llawn o'r digwyddiadau â chi maes o law. Yn y cyfamser, dyma flas o beth fydd yn digwydd. Mae'r llun ar ben y dudalen yn dangos y Tudor Group, fydd yn byw yn nhŷ-hir Hendre'r Ywydd, ac yn dathlu'r Pasg o amgylch Eglwys Teilos Sant. Oddi tanynt, mae llun o fois Brwydr Towton a'u cyfaill, fydd yn cymryd rhan mewn gŵyl ddrewllyd, waedlyd ac afiach i blant o'r enw Anrhefn! Ar hyd y flwyddyn, bydd sioe ffasiwn Duduraidd, coginio Canoloesol, cosbau oes y Tuduriaid, a llawer mwy, i'w gweld ar y safle. Mi wnai gloi drwy ddweud bod rhywbeth arbennig iawn am ddigwydd yma yn Sain Ffagan dros yr haf - rhywbeth at ddant pob un sy'n licio brwydrau a chwffio trwy hanes! Cadwch lygad ar y blog a mi wnai roi gwybod ichi yn y dyfodol agos.

Cerddoriaeth Duduraidd yn Eglwys Teilo Sant

Sara Huws, 17 Tachwedd 2010

Post clou i roi gwybod ichi fod ein hail-berfformiad (re-enactment yn ôl geiriadur Bruce!) o wasanaeth Cristnogol Tuduraidd ar-lein.

Arweinwyd y prosiect gan Ganolfan Ymchwil i Gerddoriaeth Gynnar yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, a Phrifysgol Exeter. Roedd yn gyfle i weld os allwn ni heddiw geisio dilyn ôl troed addolwyr yng Nghymru, dros 500 mlynedd yn ôl. Roedd gennym gymaint o ddiddordeb yn y cwestiynau a'r problemau a godwyd ag yr oedd gennym mewn profi theorïau ynglŷn â sut oedd Cristnogion yn addoli yng Ngymru yn oes y Tuduriaid. 'Dyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n ei fwynhau:

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect yma.

Cleisie, a Lleisie Canol Oesol

Sara Huws, 25 Mehefin 2010

Mae'r wythnos hon wedi bod yn un brysur iawn yn Eglwys Teilo Sant, a 'dyn ni wedi cael amser gwych. Dyn ni ddim wedi gorffen eto, a bydd drama Y Gwr Cadarnyn cael ei pherfformio yn iard yr Eglwys yfory. Roedd y gwasanaeth Tuduraidd yn lwyddiant, a daeth pobol o bob pegwn o'r byd i gymryd rhan.

Gwnaethom dair 'fersiwn' o'r gwasanaeth, a ffilmiwyd rhan helaeth ohono. Cadwch lygad ar y blog 'ma - fe fydda i'n rhoi rhan o'r fideo yma i'w weld cyn gynted ag y bo'r modd.

Roedd ddoe yn ddiwrnod arbennig iawn, am i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yn y gwasanaeth. Daeth rhai o'r ardal ble'r adeiladwyd yr Eglwys yn wreiddiol, ger Pontarddulais. Roedd eraill yn Gatholigion, oedd yn gyfarwydd â rhai rhannau o'r ddefod, ond wedi'u syfrdanu ar ba mor wefreiddiol oedd cymryd rhan, yn enwedig ym mhresenoldeb y murluniau.

Roeddwn i yn fy ngwisg Duduriadd, nid er mwyn creu sioe, ond i weld pa mor gyfforddus y byddai hi i gymryd rhan mewn gwasanaeth Tuduraidd yn y wisg berthnasol (h.y. un â chorset bren ynddi). Roedd o leia 20 munud o benglinio isel (hynny yw, penglinio ar lawr carreg, gyda'ch trwyn mor agos i'r llawr â sy'n bosibl. Ro'n i'n teimlo y byddwn yn ddeall y ddefod yn well petawn i'n cymryd rhan. Roedd yn sioc pan sylwais ei bod lawer yn haws yn y wisg Duduraidd nag yn fy nillad bob dydd. Mae Margery Kempe, dynes a oedd yn addoli yn y 15ed ganrif, yn sôn sut y gallwch greu clustog i benelinio arni gan rowlio blaen eich sgert i fyny. Roedd ychydig yn fwy cyfforddus, ond dwi dal wedi cleisio'n biws!

Yn fuan wedi i'r gwasanaeth ddod i ben, daeth llwyth o bensiynwyr o Dde-ddwyrain Llundain i mewn, a dechrau canu 'We'll keep a welcome in the hillside' yn ddi-rybudd. Roedd yr awyrgylch ddifrifol, dawel wedi'i thrawsnewid yn llwyr - profiad swreal iawn oedd profi'r ddau beth yn olynol. Fe dynnais ffilm fer - efallai y dylwn geisio creu mashupohonynt!

Roedd y gwasanaeth ei hun yn croesawu penydwyr yn ôl i'r Eglwys a'r gymuned. Gweithiodd y clerigwyr, yr academyddion, cantorion, anthropolegwyr a'r curaduron yn galed iawn ar y prosiect, a rwy'n gobeithio iddyn nhw gael boddhad o gymeryd rhan, ac eu bod wedi dysgu cymaint â fi! Byddaf yn cael seibiant bach i ddad-Dudurio (h.y. trip i Ynys y Barri), ac yna'n dechrau trafod y gwahanol bethau y byddwn ni'n gwneud gyda ffilm y gwasanaeth. Oes gennych chi gynnig - beth hoffech chi ei weld?

Gwahoddiad i Wasanaeth Lladin yn Eglwys Teilo Sant

Sara Huws, 17 Mehefin 2010

Byddwn yn cynnal gwasanaeth Lladin Canoloesol yn Eglwys Teilo Sant wythnos nesa.
Mae'r nifer o lefydd sydd ar gael yn fach, felly gaf fi ddechrau gan argymell eich bod yn galw'r swyddfa addysg yn Sain Ffagans ar (029) 20 57 3424 i archebu lle. Bydd y gwasanaeth am 11.00 ar y 24ain o Fehefin.

Hwn fydd y gwasanaeth Lladin cyntaf yn hanes Eglwys Teilo Sant ar y safle hwn. Cyn ei symud o ardal Pontarddulais, byddai'r math hwn o wasanaeth wedi bod yn gyffredin yn oes y Tuduriaid. Mae'r gwasanaeth ei hun ar agor i'r cyhoedd, ond mae'n angenrheidiol eich bod yn bwcio lle. Mae'n cael ei gynnal gan arbenigwyr sy'n dod i'r amgueddfa o bedwar ban byd i gwrdd a thrafod hanes Canoloesol. Y nhw sy'n gweithio gyda llawysgrifau, archaeoleg a phensaernïaeth y cyfnod i greu darlun mwy cyflawn o fywyd tua 500 mlynedd yn ôl. Fe fyddwn ni yn arbrofi gyda'u damcaniaethau, a mae croeso i chi ymuno â ni!

Mewn ffordd, bydd cynnal y gwasanaeth yn ffordd o brofi os ydy'n gwaith ni yn ail-adeiladu Eglwys Teilo Sant yn gywir. Byddwn hefyd yn gallu helpu'r ymchwilwyr i brofi, neu gwrth-brofi, eu damcaniaethau nhw am sut oedd y gwasanaeth yn gweithio. Yn anffodus, does dim Tuduriaid o'r cyfnod ar ben arall y ffôn, felly wrth geisio arbrofion fel hyn y byddwn yn cael darlun cliriach o fywyd pobl yn y Canol Oesoedd. Tan i fi adeiladu peiriant amser, dyma'r peth agosa' gewch chi...