Mil o fathau o gregyn yn Japan Kristine Chapman, 7 Medi 2018 Amgueddfa Gregynegol Hirase Shintaro Hirase a'i teulu, Medi 1931. Mae gan y Llyfrgell gyfres o lyfrau cregyn Japaneaidd hardd iawn yn ei chasgliad o folysgiaid. Enw’r llyfr yw Kai Chigusa, ond mae’n fwy adnabyddus fel Kai sen shu (Darluniau Miloedd o Gregyn) gan Yoichirō Hirase (1859–1925), ac fe’i cynhyrchwyd rhwng 1914 a 1922. Cregynegwr oedd Hirase, a greodd y casgliad mwyaf o gregyn yn Japan ar droad y ganrif a sefydlu ei amgueddfa gregyn ei hun (Amgueddfa Gregynegol Hirase) yn ninas Kyoto rhwng 1913 a 1919. Roedd ei fab Shintarō Hirase (1884–1939) hefyd yn falacolegwr Japaneaidd, a fu’n addysgu yng Ngholeg Seikei. Llyfr pedair cyfrol yw hwn, gyda phob cyfrol yn llyfr plygu ‘orihon’. Techneg draddodiadol a ddefnyddir i greu llyfrau yw hon, sy’n cynnwys stribed hir o bapur ag ysgrifen ar un ochr, sydd yna’n cael ei gywasgu trwy ei blygu’n igam-ogam nes ei fod yn mynd i’w gilydd fel consertina. Yn Tsieina y tarddodd hyn, ond cafodd ei ddatblygu’n ddiweddarach yn Japan, lle mae’n gysylltiedig yn bennaf â gweithiau neu lyfrau lluniau Bwdaidd. Mae pob un o’r pedair cyfrol yn cynnwys tua chant o ddarluniau o gregyn, sy’n creu cyfanswm o 400 i gyd. Yn ôl y sôn, roedd Hirase wedi bwriadu cynhyrchu 10 cyfrol yn wreiddiol, pob un â 100 o ddarluniau, sef ‘Mil o Gregyn’ y teitl. Torluniau pren wedi’u lliwio â llaw yw pob darlun. Dewisodd Hirase y dechneg hon, yn hytrach na’r un mwy cyffredin ar y pryd – lithograffi – oherwydd ei fod eisiau i’r gwaith fod o ddiddordeb i artistiaid). Fel llyfrau lluniau yn bennaf, prin iawn yw’r testun, ond mae’r rhagair yn yr iaith Japaneaidd a rhestr y platiau yn ddwyieithog, Japaneaidd a Saesneg. Mae’r tair cyfrol gyntaf yn eithaf prin, a chafodd cyfrol un ei chomisiynu ym 1914 i goffáu pen-blwydd cyntaf yr Amgueddfa Gregynol. Cynhyrchwyd yr ail a’r drydedd gyfrol ym 1915. Bu oedi wedyn cyn cyhoeddi’r bedwaredd gyfrol, ac ni chafodd ei chyhoeddi tan 1922. Mae copïau o’r bedwaredd gyfrol yn brin iawn erbyn hyn, ac mae llawer yn credu na chyhoeddwyd cymaint o gymharu â’r tair gyntaf. Amgueddfa Gregynegol Hirase Fodd bynnag, wyddom ni ddim yn union pryd y cyhoeddwyd ein copi ni o Kai Chigusa. Cafodd ei gynhyrchu gan Unsodo, cyhoeddwr celf blaenllaw yn Kyoto, a ddaliodd ati i’w gyhoeddi wedi marwolaeth Hirase, hyd at ganol y 1930au. Wnaeth y cyhoeddwyr fyth nodi pa argraffiad oedd p’un – y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol sydd ar bob cyfrol, felly mae’n amhosib gwybod pryd y cafodd pob cyfrol ei hargraffu mewn gwirionedd! Roedd iechyd Hirase’n wael ac roedd dan straen ariannol sylweddol ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, sydd efallai’n esbonio pam na lwyddodd i gwblhau’r cyfrolau eraill. Caeodd ei Amgueddfa Gregynol ym 1919 ac aeth ei gasgliadau o gregyn i’r pedwar gwynt. Aeth nifer ohonyn nhw i’r Smithsonian ym 1921, a llawer mwy i amgueddfa yn Tokyo, sef yr Amgueddfa Gwyddorau Naturiol heddiw. Rhoddwyd y gweddill i’w fab Shintarō. Flynyddoedd yn ddiweddarach, aeth casgliad Shintarō i’r Sefydliad Ymchwil Adnoddau Naturiol yn Tokyo. Cafodd rhywfaint ohono ei ddinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond mae’r gweddill mewn storfa yno o hyd. Fe wnaethom ni brynu’r copi hwn o Kai Chigusa gan Antiquariaat Junk ym 1999 i’w ychwanegu at ein Llyfrgell Tomlin. Roedd Hirase mewn cysylltiad â llawer o gasglwyr cregyn, gan gynnwys John Read le Brockton Tomlin, ac mae archif Tomlin yn cynnwys sawl llythyr, cerdyn post a llun ganddo. Er nad oedd gan Tomlin ei gopi ei hun o Kai Chigusa, roedd ganddo sawl llyfr arall yn ei gasgliad yn ymwneud â Hirase, fel albwm o luniau i gofio am Arddangosfa Gregynol yn Llyfrgell Kyoto ym 1910. Trefnwyd yr arddangosfa hon gan Hirase, ac roedd yn cynnwys cregyn, llyfrau, darluniau a phaentiadau o’i gasgliadau ei hun, a rhai casglwyr eraill o bedwar ban byd. Dyma ragflaenydd sefydlu ei Amgueddfa ei hun ym 1913, ac mae copi Tomlin o’r albwm hefyd yn cynnwys dau linluniad o’r amgueddfa arfaethedig hefyd.
Llyfrau’r 16eg ganrif yn Llyfrgell Willoughby Gardner Kristine Chapman, 14 Awst 2017 Ym 1953, cafodd Amgueddfa Cymru gasgliad sylweddol o dros 300 o lyfrau hanes natur, cynnar a chyfoes, yn rhodd gan Dr Willoughby Gardner o Ddeganwy. Cafodd Dr Gardner ei eni yn Swydd Gaer ym 1860. Oherwydd salwch roedd rhaid iddo ymddeol yn gynnar. Aeth i fyw yn Neganwy yn y 1900au cynnar, lle’r oedd yn gallu ymroi ei amser i ddilyn ei ddiddordebau amrywiol, gan gynnwys archaeoleg, pryfeteg a niwmismateg. Oherwydd y diddordebau hyn, roedd ganddo berthynas agos â’r Amgueddfa. Gwnaeth gryn dipyn o waith ar arolygon bryngaerau yng Nghymru er enghraifft, a rhoddodd nifer o wrthrychau a ddaeth i’r fei i’r adran Archaeoleg. Ychydig o flynyddoedd cyn iddo farw rhoddodd ei gasgliad o Aculeate Hymenoptera Prydeinig i’r adran Sŵoleg. Fodd bynnag, ei lyfrgell sylweddol o lyfrau hanes natur oedd ei rodd fwyaf hael. Mae’r casgliad yn cynnwys llyfrau o’r 15eg i’r 18eg ganrif ac mae nifer ohonynt yn drysorau prin, yn enwedig y rheini o’r 16eg ganrif. Trodd Gutenberg y diwydiant argraffu ar ei ben pan ddyfeisiodd y wasg argraffu ym 1450. Lledaenodd y ddyfais newydd o’r Almaen drwy weddill Ewrop ac mae llyfrau’r cyfnod hwn yn dangos defnydd eang a hyderus o’r wasg argraffu. Erbyn 1500 roedd y nifer o weithdai argraffu wedi cynyddu’n sylweddol, ac roeddent wedi gwella’u prosesau digon er mwyn cynhyrchu niferoedd llawer mwy o lyfrau. Roedd hyn yn golygu y gellid cyfnewid gwybodaeth a syniadau yn haws, ac arweiniodd hyn at ddatblygiadau sylweddol ym meysydd hanes natur yn y 16eg ganrif. Llysieulyfrau Yn y blynyddoedd cynnar, tueddwyd i adargraffu clasuron y cynfyd, ond erbyn canol y 16eg ganrif roedd amrywiaeth llawer ehangach o bynciau’n cael eu trafod. Roedd llysieulyfrau, sef canllawiau i blanhigion, yn boblogaidd iawn ar y pryd, ac roeddent yn canolbwyntio’n bennaf ar briodweddau meddyginiaethol y planhigion. Rhestrwyd y planhigion ynghyd â disgrifiadau helaeth o’r clefydau y gallent eu gwella. Yn aml iawn, ffisegwyr blaenllaw oedd yr awduron, yn ysgrifennu ar gyfer pobl gyffredin yn hytrach nag ysgolheigion. Byddai’r disgrifiadau’n aml yn cynnwys torluniau pren o’r planhigion. Dull o ysgythru pren yw torlunio, gyda’r enw’n tarddu o’r dull. Caiff bloc pren ei gerfio, caiff inc ei roi arno, ac yno mae’n mynd trwy’r wasg ynghyd â’r testun. Yna, gellir lliwio’r lluniau â llaw yn ôl yr angen, er y byddai llyfr lluniau lliw yn fwy drud o lawer. Mae casgliad llysieulyfrau’r 16eg ganrif yng nghasgliad Willoughby Gardner yn cwmpasu llawer o gyhoeddiadau blaenllaw’r cyfnod, gan gynnwys gweithiau Otto Brunfels, Leonhard Fuchs a Hieronymus Bock, hynny yw ‘Tadau Botaneg Almaenaidd’ . Roedd Herbarum vivae eicones gan Otto Brunfels yn ddylanwadol gan ei fod yn cynnwys bywluniadau yn bennaf, yn hytrach na lluniau wedi’u copïo o waith oedd eisoes yn bodoli, sef y dull cyffredin bryd hynny. Roedd y lluniau’n edrych mor naturiol â phosibl yn hytrach na’r dyluniadau mwy addurnol a oedd yn fwy cyffredin mewn llysieulyfrau Almaeneg. Cyhoeddwyd y gyfrol yn wreiddiol ym 1530, ond argraffiad diweddarach o 1532 yw’r copi yng nghasgliad Willoughby Gardner. Ym 1539 cyhoeddodd Hieronymus Bock lysieulyfr yn ei famiaith, Almaeneg, a gafodd ei gyfieithu wedyn i’r iaith Ladin er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Roedd gan Willoughby Gardner gopi o’r cyfieithiad Lladin, De stirpium maxime, a gyhoeddwyd ym 1552, gyda lluniau wedi’u lliwio â llaw. Mae copi Willoughby Gardner yn arbennig am fod rhywun ar ryw adeg wedi ysgrifennu enwau Saesneg rhai o’r planhigion â llaw wrth ymyl y lluniau. Cyhoeddwyd De historia stirpium gan Leonhard Fuchs ym 1542, ac mae gan y copi yng nghasgliad Willoughby Gardner luniau lliw hefyd. Yn anffodus mae’n anghyflawn, gyda nifer o dudalennau yng nghanol y llyfr ar goll. Hefyd yn y casgliad mae A niewe herbal, or historie of plantes gan Rembert Dodoens, wedi’i gyfieithu i’r Saesneg ym 1578 o argraffiad Ffrangeg cynharach. Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn Fflemineg ym 1554, gyda’r Ffrangeg yn fuan iawn wedi hynny, roedd llawer o luniau ynddo’n seiliedig ar rai Fuchs, er bod y testun yn wreiddiol. Sŵoleg Yn ogystal â’r llysieulyfrau, mae hefyd nifer o lyfrau arwyddocaol eraill ym maes sŵoleg yn y casgliad o ganol y 16eg ganrif. Ymhlith y gweithiau hyn mae: De differentiis animalium libri decem gan Edward Wotton, 1552, sef llyfryddiaeth o waith awduron clasurol. Ystyriwyd mai Wotton oedd y naturiaethwr cyntaf i wneud astudiaeth systematig o hanes natur. Libri de piscibus marinis gan Guillaume Rondelet, 1554. Roedd Rondelet yn feddyg ac yn athro ym Mhrifysgol Montpelier yn ne Ffrainc. Libri de piscibus marinis yw ei waith mwyaf enwog. Mae’n trafod holl amrywiaeth anifeiliaid y dŵr gan nad oedd ysgolheigion y cyfnod yn gwahaniaethu rhwng pysgod a mamaliaid. Y llyfr oedd y prif destun cyfeirio i fyfyrwyr am bron i ganrif wedi hynny. L’histoire de la nature des oyseaux gan Pierre Belon, 1555. Fforiwr, naturiaethwr, awdur a diplomydd o Ffrainc oedd Belon. Teithiodd yn eang drwy Ewrop gan gofnodi’r bywyd gwyllt a welodd. Fel llawer eraill yng nghyfnod y Dadeni, astudiodd amrywiaeth o bynciau gan gynnwys adaryddiaeth, botaneg, anatomeg gymharol, pensaernïaeth ac Eifftoleg, ac ysgrifennu amdanynt oll. Sawl copi o Historiae animalium gan Conrad Gesner. Dyma gyfres o bum cyfrol. Cyhoeddwyd y pedair gyntaf rhwng 1551 a 1558, yn adrodd hanes creaduriaid pedwartroed, adar a physgod, a chyhoeddwyd y pumed gyfrol ar nadredd ym 1587 wedi marwolaeth Gesner. Ei fwriad oedd creu gwyddoniadur i gofnodi pob math o fywyd adnabyddus, go iawn a mytholegol, sef y rheswm dros gynnwys angenfilod y môr, manticorau ac ungyrn hefyd! Roedd Gesner yn feddyg ac yn athro yn Zurich, ond yn wahanol i Belon nid oedd yn gallu teithio cymaint. Yn hytrach, roedd yn dibynnu ar gyfraniadau gan ffrindiau a chydweithwyr ar draws Ewrop. Nid oedd modd iddo weld yr anifeiliaid â’i lygaid ei hun bob tro, felly penderfynodd Gesner gynnwys popeth a oedd wedi’i ysgrifennu ar yr anifeiliaid yn ei lyfrau. O ganlyniad, nid oedd yn gallu sicrhau bod y wybodaeth yn gywir bob amser. Fodd bynnag, meddai Gesner ei bod: “yn well cofnodi popeth yr oedd wedi dod ar eu traws fel y bydd gan arbenigwyr y dyfodol ym meysydd gwahanol hanes natur bopeth o’u blaen fel y byddai modd iddynt feirniadu drostynt eu hunain ym mhob achos”. Darllen Pellach Arber, Agnes. Herbals: their origin and evolution, 3ydd argraffiad. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1986 Kenyon, John R. The Willoughby Gardner Library: a collection of early printed books on natural history. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1982 Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl hon yng nghylchlythyr Nawdd yn gyntaf.
William Smith a chychwyn y Map Daearegol Tom Sharpe (Amgueddfa Lyme Regis a Phrifysgol Caerdydd, a chyn Guradur Palaeontoleg ac Archifau Amgueddfa Cymru), 30 Tachwedd 2015 I’r daearegwr, mae mapiau daearegol yn offer hanfodol. Maent yn dangos sut mae gwahanol fathau o greigiau’n cael eu dosbarthu ac i ba oes y maent yn perthyn. Dyma’r cam cyntaf wrth geisio deall daeareg lle, a’r allwedd wrth chwilio am ddeunyddiau crai. Heddiw, mae Prydain gyfan wedi’i mapio, yn bennaf drwy waith yr asiantaeth swyddogol, Arolwg Daearegol Prydain. Serch hynny, ddau gan mlynedd yn ôl, roedd daeareg yn wyddor newydd a’r Arolwg heb ei sefydlu. Roedd y chwyldro diwydiannol ar ei anterth a galw aruthrol am haearn, calchfaen a glo. Yna, byddai arolygwyr tir yn crwydro o le i le gan fanteisio ar drachwant ac anwybodaeth tirfeddianwyr, a oedd, wrth gwrs, yn awyddus i glywed bod glo ar eu tiroedd. Byddai’r arolygwyr yn eu perswadio i dalu am archwiliadau mewn mannau lle nad oedd unrhyw debygrwydd o ddod o hyd i lo. Deallodd William Smith, arolygwr tir o Swydd Rhydychen, y byddai map yn dangos ble roedd gwahanol haenau o greigiau - y strata - yn dod i’r wyneb yn ddefnyddiol i dirfeddianwyr ac arolygwyr tir fel ei gilydd, nid dim ond er mwyn dangos lleoliad y glo, ond hefyd at ddibenion amaethyddiaeth, gan y byddai’n dangos y gwahanol greigiau ac yn sgil hynny, y gwahanol fathau o briddoedd. Bu wrthi’n ddyfal am oddeutu 15 mlynedd yn cwblhau’r gwaith. Ganwyd Smith ar 23 Mawrth 1769 ym mhentref Churchill, yn ardal y Cotswolds, yn fab i’r gof lleol. Ni chafodd lawer o addysg ond yn ddeunaw oed cafodd brentisiaeth gan gwmni syrfewyr Edward Webb yn Stow-on-the-Wold. Roedd ganddo ddawn naturiol wrth fesur tir a thrin ffigurau a llygad dda wrth archwilio tirweddau. Ym 1791, anfonwyd Smith i archwilio a phrisio gweithfeydd glo ym meysydd glo Gwlad yr Haf i’r De o Gaerfaddon, ac ymhen dwy flynedd fe’i penodwyd i dirfesur y llwybr ar gyfer camlas newydd i gludo’r glo o’r gweithfeydd. Darganfyddiadau Yn ystod y chwe blynedd y bu Smith yn gweithio ar y Gamlas Lo yng Ngwlad yr Haf, darganfu ddwy ffaith sylfaenol. Wrth gloddio’r gamlas, roedd yn fforchio ac yn dilyn dau drywydd gwahanol ar hyd dau gwm cyfochrog. Gwelodd Smith fod yr haenau o greigiau yn dilyn yr un drefn yn y ddau gwm, a bod yr haenau o greigiau’n gogwyddo tuag at y de-ddwyrain bob tro. Wrth deithio’r wlad i archwilio camlesi eraill, sylweddolodd Smith fod strata de Lloegr bob amser yn dilyn trefn benodol a’u bod i gyd yn gogwyddo i’r un cyfeiriad. Darganfu hefyd fod gan bob strata o greigiau eu cyfres benodol o ffosilau hefyd; felly, o ganlyniad, gallai ddefnyddio’r ffosilau i ganfod ble’r oedd haen o graig yn gorwedd o fewn dilyniant strata penodol. Sylweddolodd Smith ar unwaith y gallai ddefnyddio’r darganfyddiadau hyn at ddibenion ymarferol. Mae haenau glo yn digwydd yn yr un lle â haenau o gerrig llaid llwyd, ond mae’r creigiau hyn i’w gweld mewn llawer o fannau yn y dilyniant strata, ymhell o dan ac uwchben yr haenau glo. Trwy ddefnyddio ffosilau, gallai Smith bennu pa gerrig llaid llwyd oedd yn rhan o’r gwythiennau glo, ac oherwydd ei wybodaeth am y dilyniant strata gallai Smith lunio map yn dangos lleoliad y gwahanol greigiau ar yr wyneb a ble gellid dod o hyd i’r glo. Pan eglurodd Smith ei waith i’w gyfeillion Joseph Townsend a Benjamin Richardson yng Nghaerfaddon ar 11 Mehefin 1799, mynnodd y ddau y dylai gyhoeddi ei ddarganfyddiadau er mwyn cael ei gydnabod amdanynt ac o bosibl ei wobrwyo. Y noson honno, aeth ati i arddweud trefn y strata wrth ei gyfeillion ac yn fuan roedd rhestrau mewn llawysgrifen o’r dilyniant o greigiau o’r glo i fyny at y calchfaen ar gael yn eang. Yn fuan wedyn, lluniodd Smith fap yn dangos y creigiau yn ardal Caerfaddon a map bychan yn dangos rhai o’r brigiadau creigiau ar draws Lloegr. Ym 1801 cyhoeddodd brosbectws o’r gwaith mawr roedd yn bwriadu ei lunio ar y strata yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod y pymtheng mlynedd nesaf, teithiodd Smith i bob cwr o’r wlad, gan weithio ar gomisiynau fel arolygwr tir a draenio tir. Wrth deithio, byddai’n nodi’r tirweddau a’r creigiau ac o dipyn i beth yn casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn llunio’i fap. Cyhoeddu'r Map O’r diwedd, cyhoeddwyd y map ddiwedd 1815 gan John Cary, un o’r prif wneuthurwyr mapiau yn Llundain. Yn ddi-os, roedd y gwaith A Delineation of the Strata of England and Wales, with part of Scotland yn gampwaith. Graddfa’r map oedd pum milltir i’r fodfedd, felly roedd yn enfawr, dros wyth troedfedd o hyd a chwe throedfedd o led. Roedd wedi’i liwio â llaw (proses ddrud iawn). Ei bris oedd 5 gini am fap ar bymtheng dalen, yn ogystal â mynegfap a Memoir ategol. Ond er bod Memoir Smith yn rhestru bod mwy na 400 wedi tanysgrifio i’w fap, nid oedd llawer wedi talu amdano ymlaen llaw. Hefyd, gan fod cymaint o amser wedi mynd heibio cyn cwblhau’r map, roedd rhai o’r tanysgrifwyr wedi marw erbyn i’r gwaith gael ei gyhoeddi. Ni allwn fod yn sicr, ond credir mai dim ond tua 350 o fapiau gafodd eu gwerthu. Yn ystod blynyddoedd cynhyrchu’r map, roedd Smith yn parhau i’w newid wrth i wybodaeth newydd am ddosbarthiad strata ddod i law. Rydym yn gwybod am o leiaf bum gwahanol rifyn o’r map. Ymhen pum mlynedd, cafodd map Smith ei ddisodli gan fap a oedd i raddau yn fwy manwl, ac a luniwyd ar y cyd gan aelodau Cymdeithas Ddaearegol Llundain dan oruchwyliaeth y Llywydd cyntaf, George Bellas Greenough. Ugain mlynedd ar ôl cyhoeddi map cyntaf Smith, daeth mapio daearegol manwl yn rhan o gylch gwaith asiantaeth newydd a ariannwyd gan y llywodraeth, sef Arolwg Daearegol Prydain. Serch hynny, mae map lliwgar a chain Smith yn parhau yn eicon ym maes daeareg ac yn ôl y farn, dyma’r gwir fap daearegol cyntaf o unrhyw wlad yn y byd. Mae’n hynod hefyd oherwydd mai gwaith un dyn ydyw, a aeth ati ar ei ben ei hun i fapio dros 175,000 cilomedr sgwâr o Brydain. Heddiw, mae cryn alw amdano ymhlith casglwyr mapiau ac mae’r pris amdano’n uchel hefyd. Mae un ar werth yn Llundain ar hyn o bryd am dros £90,000. Mae ymchwil ar waith i nifer y copïau sy’n dal i fodoli, sy’n debygol o fod oddeutu 150. Mae adran ddaeareg Amgueddfa Cymru mewn sefyllfa unigryw gan fod ganddi naw copi cyflawn a rhannol o’r map, sy’n fwy nag unrhyw sefydliad yn y byd, diolch i weledigaeth ein swyddogion cyntaf, Frederick J. North, Douglas A. Bassett a Michael G. Bassett. Llwyddodd North yn arbennig i sefydlu casgliad o fapiau ac archifau yn yr adran ddaeareg sydd gyda’r gorau yn y wlad, ac mae ei ddilynwyr wedi datblygu’r casgliad ymhellach. Amgueddfa Cymru yw’r unig le yn y byd lle gellir archwilio bron pob un o’r gwahanol rifynnau o’r map ochr yn ochr. Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl yn Earth Heritage.
Teipiwch eich ffordd i’n casgliadau Harriet Wood, 17 Ebrill 2014 Hafan Catalog Teipiau Molysgiaid. Neptunea lyrata, y sbesimen teip hynaf yn Amgueddfa Cymru, a gasglwyd gan y Capten James Cook yn Alaska ym 1778. Lluniau a labeli sbesimen ar gyfer y teip Octopus maculosus a ddisgrifiwyd gan ein cyfarwyddwr cyntaf, Williams Evans Hoyle, ym 1883. Map yn dangos y 110 o wledydd sy’n gartref i’r bobl sydd wedi ymweld â’n gwefan hyd yn hyn. Sbesimenau mwyaf poblogaidd ar ôl 18 mis ar-lein Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru Gatalog Teipiau Molysgiaid ym mis Medi 2012. Hwn oedd y tro cyntaf i’n cynulleidfa gynyddol ar y we allu gweld lluniau o dros 350 o’n sbesimenau pwysicaf o folysgiaid. Casgliadau Molysgiaid Amgueddfa Cymru (Saesneg yn unig) Mae casgliadau molysgiaid Amgueddfa Cymru o arwyddocâd rhyngwladol ac maent yn cynnwys cannoedd o filoedd o sbesimenau. Mae molysgiaid yn grŵp hynod amrywiol sy’n bodoli yn y rhan fwyaf o amgylcheddau’r blaned – o falwod tir ar ben mynyddoedd i folysgiaid dwyfalfog mewn fentiau hydrothermol, cregyn côn gwenwynig i gregyn gleision perl dŵr croyw, gwlithod cigysol i fôr-gyllell guddliw. Mae ein casgliad yn adlewyrchu’r amrywiaeth hon a’r amrediad daearyddol ac amgylcheddol. Beth yw teipsbesimenau? Mae ‘teipsbesimenau’ unrhyw gasgliad hanes natur ymhlith yr eitemau gwyddonol arbennig sydd angen eu diogelu yn fwy na dim byd arall. Maent yn sbesimenau sy’n cael eu dethol yn ofalus i gynrychioli rhywogaethau newydd, ac maent ar gael yn barhaol i dacsonomyddion y dyfodol gyfeirio atynt. Mae casgliad Molysgiaid Amgueddfa Cymru yn cynnwys 3200 o deipsbesimenau, wedi’u casglu dros gyfnod o bron i 200 o flynyddoedd. Mae dwy ran o dair o’r casgliad yn dod o gasgliad cregyn enwog Melvill-Tomlin , gan dystio i ddyfnder gwyddonol a phwysigrwydd hanesyddol y casgliad. Ein teip cynharaf yw gwichiad moch mawr dŵr oer o Alaska, a gasglwyd ym 1778 gan y Capten James Cook yn ystod ei drydedd fordaith (a’r olaf). Disgrifiwyd y teip hwn, a llawer o rai eraill, gan rai o gasglwyr a thacsonomyddion pwysicaf eu hoes, gan gynnwys William Evans Hoyle, cyfarwyddwr cyntaf yr Amgueddfa ac arbenigwr ar Seffalopodau. Y Catalog Teipiau Molysgiaid ar-lein Gan fod llawer o ymholiadau ynglŷn â chasgliadau yn ymwneud â deunydd teip, roeddem yn awyddus i ddatblygu dull o sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb ledled y byd, felly aethom ati i greu’r Catalog Teipiau Molysgiaid. Dechreuodd y project yn 2009, gan ganolbwyntio yn y dechrau ar wahanu 350 o’n teipiau pwysicaf o’r prif gasgliad a’u storio mewn cypyrddau newydd haws eu cyrraedd a mwy diogel. Tynnwyd lluniau o’r holl sbesimenau hyn a’u labeli, a gwiriwyd a sganiwyd y cyfeiriadau yn ymwneud â disgrifiadau gwreiddiol y rhywogaethau. Cafodd yr wybodaeth hon ei chasglu mewn cronfa ddata a’i chyhoeddi ar-lein. Ond megis dechrau’r gwaith yw hyn… Bydd y llu o deipiau sy’n weddill yn cael eu hychwanegu o dipyn i beth, a bydd y staff yn parhau i ymchwilio i deipiau anhysbys yn ein casgliadau. Bydd teipsbesimenau newydd yn cael eu hychwanegu hefyd pryd bynnag y caiff rhywogaethau newydd eu darganfod, a’u disgrifio gan ein tacsonomyddion. Pwy sydd wedi bod yn edrych? Ers mynd ar-lein yn 2012, mae nifer yr ymholiadau ynglŷn â theipsbesimenau wedi cynyddu’n ddirfawr. Mae hyn yn dangos cyfraniad pwysig gwefannau at gynyddu mynediad i’n casgliadau a’r defnydd ohonynt. Drwy ddefnyddio Google Analytics, mae gennym rywfaint o syniad o bwy sydd wedi bod yn edrych dros y deunaw mis diwethaf: Mae 3,973 o ymwelwyr wedi edrych ar 12,268 o dudalennau. Mae pobl o 113 o wledydd wedi ymweld â’r safle. Y pum defnyddiwr mwyaf: y DU, Sbaen, yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Ffrainc. Mae 59.5% yn ymwelwyr newydd a 40.5% yn ymwelwyr sy’n dychwelyd. Y sbesimen yr edrychwyd arno amlaf: Scintilla lynchae Oliver a Holmes, 2004 Bwrw golwg Felly, beth am fwrw golwg drosoch eich hun ac fe gawn ni weld lle rydym arni ymhen blwyddyn… Wood, H. a Turner, J. A. 2012. Catalog Teipiau Molysgiaid. Amgueddfa Cymru. Ar gael ar-lein yn http://naturalhistory.museumwales.ac.uk/molluscatypes.
Teipffosilau Amgueddfa Ar-Lein Caroline Buttler, 8 Ebrill 2014 Anthracoceras cambriense Bisat, 1930 Bumastus? xestos Lane & Thomas, 1978 Metacoceras postcostatum Bisat, 1930 Archimylacris scalaris Bolton, 1930 Pan fydd rhywogaeth newydd yn cael ei disgrifio caiff un ‘teip’ sbesimen ei bennu, a’i gadw mewn sefydliad cydnabyddedig lle gall unrhyw un ei astudio. Mae teipsbesimenau yn adnoddau hanfodol i dacsonomegwyr – i ddisgrifio rhywogaethau sy’n bodoli eisoes ac i adnabod rhywogaethau newydd. Heb depisbesimenau, byddai’n anodd cadw cofnod cywir o rywogaeth, a gallai newid yn y dacsonomeg dros amser olygu na fyddai dehongliadau yn y dyfodol yn cyfateb o gwbl i’r dehongliad gwreiddiol. GB3D Teipffosilau Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn cydweithio ag Arolwg Daearegol Prydain a sefydliadau eraill yn y DU i gynhyrchu’r casgliad 3D rhithwir cyntaf o deipsbesimenau ffosil Prydain, a hynny dan nawdd JISC. Gall defnyddwyr bellach lawrlwytho a chwilio drwy filoedd o ddelweddau safon uchel (nifer ohonynt yn anaglyffau 3D) a modelau ffosil 3D digidol, a hynny am ddim. Mae’r project GB3D Type Fossils Online wedi agor drysau’r casgliadau er mwyn galluogi academyddion, ymchwilwyr a phobl â diddordeb mewn ffosilau i’w hastudio yn eu hamser eu hunain. Cyfran fechan yw ein casgliad o dros 2000 o deipsbesimenau ffosil Prydeinig o’n casgliad llawn o sbesimenau o Gymru a gweddill y byd. Bydd ymchwilwyr o Gymru, y Deyrnas Unedig a gweddill y byd yn defnyddio’r casgliadau yn eu hymchwil tacsonomaidd. Mae palaeontolegwyr yr Amgueddfa wedi enwi nifer o rywogaethau ffosil newydd a rhai ffosilau wedi cael eu henwi ar eu hôl ac mae’n hanfodol iddyn nhw, ac i bob tacsonomegydd, gael mynediad i’r teipsbesimenau. Wrth geisio cadarnhau rhywogaeth newydd posibl, yr cam delfrydol yw archwilio teipsbesimenau rhywogaethau tebyg. Nid yw hyn yn bosibl bob tro, gyda costau teithio yn un rheswm amlwg. Pan fydd rhywogaeth newydd yn cael ei gynnig, caiff ei ddisgrifio mewn cyfnodolyn gwyddonol a tynnir ffotograff o’r teipsbesimen. Yn anffodus, nid oes ffotograff o bob teipsbesimen mewn cyhoeddiadau hŷn, neu gall y lluniau fod o safon isel gan ei gwneud yn anodd i weld nodweddion penodol y sbesimen. Bydd yr adnodd digidol newydd felly’n amhrisiadwy – lluniau cydraniad uchel 2D a 3D o’r casgliad teipsmesimenau Prydeinig yn ogystal â modelau 3D. Bydd y wefan yn rhad ac am ddim ac yn rhoi mynediad i’n casgliadau i bobl o bedwar ban byd. Ewch i'r wefan yma.