: Tacsonomeg a Systemateg

Curadu'n eich gwneud chi'n wallgo!

Dr Victoria Purewal, 5 Tachwedd 2013

 Rhan o ddalen sbesimen o lysieufa 3ydd Iarll Bute, tua 1770.

Ffigwr 1 Rhan o ddalen sbesimen o lysieufa 3ydd Iarll Bute, tua 1770. Does dim cliwiau ar y ddalen i ddweud os cafodd y papur hwn ei drin neu beidio. Olion y planhigyn yn ymddatod yn naturiol yw'r staeniau brown.

Ffigwr 2 Yr un ddalen llysieufa gan olau uwch fioled.

Ffigwr 2 Yr un ddalen llysieufa gan olau uwch fioled. Mae'r afliwiad llwyd yn nodweddiadol o effaith mercwri a'r tasgiadau llachar yn brawf bod mercwri hylif wedi'i ddiferu.

Defnyddio'r ddyfais sganio uwch fioled.

Ffigwr 3 Defnyddio'r ddyfais sganio uwch fioled.

Gall casgliadau hanes natur ddirywio o ganlyniad i blâu a malltod ac felly'n hanesyddol, defnyddiwyd cemegion i warchod y casgliadau yma i'r dyfodol. Y cemegyn a ddefnyddiwyd amlaf oedd Clorid Mercwri (sychdarth cyrydol). Mae nifer o sbesimenau wedi goroesi erbyn heddiw diolch i fercwri, ond mae sgil-effaith – mae halwynau mercwri'n wenwynig i blâu, ac i bobl.

'Mad as a hatter'

Yn y 19eg ganrif roedd hi'n gyffredin yn y diwydiant creu hetiau i drin felt â nitrad mercwri. Byddai'r mercwri wedyn yn treiddio i groen cynhyrchwr yr hat a'i pherchennog, a gwyddom bellach ei fod yn ymosod ar y system nerfau ganolog ac yn effeithio ar yr ymennydd. Achosodd gwenwyno mercwri i lawer o gynhyrchwyr hetiau ymddwyn yn rhyfedd iawn, a dechreuwyd defnyddio'r ymadrodd Saesneg 'Mad as a hatter'. Mae'n ddigon posibl taw dyma oedd ysbrydoliaeth Lewis Carrol ar gyfer ei de parti gwallgo.

Y broblem fwyaf gyda'r triniaethau yma yw eu bod nhw'n peryglu iechyd, a bron yn amhosibl i'w gweld gan lygad dyn (Ffig. 1).

Diolch i waith ymchwil gan Adran Gadwraeth Amgueddfa Cymru, canfuwyd bod rhai o'r 600,000 sbesimen llysieufa yn y casgliadau wedi'u halogi â mercwri. Gallai hyn beryglu iechyd aelodau'r staff ac ymwelwyr heb ymdrin â'r broblem. Roedd hi'n bwysig gallu dweud pa ddalenni oedd wedi'u trin, gyda pha gemegyn a faint ohono a ddefnyddiwyd. Byddai gwneud hyn yn y dull arferol wedi galw am gyflogi gemegwyr arbenigol, prynu offer dadansoddi drud a blynyddoedd o waith – proses hir a chostus.

Wrth ymchwilio ymhellach darganfu Vicky Purewal, cadwraethydd botaneg Amgueddfa Cymru, bod defnyddio mercwri yn cyflymu prosesau cemegol wrth i bapurau heneiddio, gan roi cliwiau bychain o bresenoldeb yr elfen. Dyfeisiwyd techneg anghyfarwydd benodol oedd yn gallu troi'r cliwiau yma'n wybodaeth gadarn, a hynny heb offer drud – dim ond lamp UV-A fechan. Mae'r ymbelydredd uwch fioled yn achosi i rai prosesau cemegol yn y papur arddangos gwawr fflwrolau o liw penodol: prawf positif o bresenoldeb mercwri (Ffig. 2).

Bu'r ymchwil hwn gan Amgueddfa Cymru'n hanfodol wrth ddatblygu techneg gyflym o adnabod casgliadau wedi'u halogi (Ffig. 3). Mae wedi bod o gymorth wrth gasglu gwybodaeth ar driniaeth sbesimenau dros y blynyddoedd a thrwy hynny, ein helpu i ddiogelu iechyd staff ac ymwelwyr â'r llysieufa. Gall y casgliadau felly gael eu rhannu yn ddeunydd wedi ei drin a deunydd heb ei drin er mwyn eu hail-fowntio a gwaredu cyfran helaeth o'r deunydd gwenwynig o'r llysieufa. Bu'r dechneg i ganfod pa sbesimenau oedd wedi'u trin â mercwri hefyd o gymorth i'r gwaith ymchwil dadansoddi DNA yn y llysieufa, gan fod presenoldeb mercwri yn gallu amharu ar y dystiolaeth DNA y gellir ei dynnu o'r planhigyn.

Mae'r ymchwil hwn yn effeithio ar ddau faes: cadwraeth broffesiynol ac arfer curadurol; ac iechyd a diogelwch defnyddwyr casgliadau'r llysieufa. Ymhlith y sefydliadau sydd wedi elwa o'r dechneg syml, gyflym hon mae'r Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew, yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon – techneg a ddatblygwyd yma yn Amgueddfa Cymru gan Vicky Purewal.

John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792): Bute's Botanical Tables

Heather Pardoe, 30 Medi 2013

Llun o'r Trydydd Iarll Bute

Llun o'r Trydydd Iarll Bute (atgynhyrchwyd o Temple of Flora (1807) gan Robert Thornton).

Copi <em>Botanical Tables</em> yr Amgueddfa.

Copi Botanical Tables yr Amgueddfa.

Yn 2013 rydym yn dathlu trichanmlwyddiant geni'r Trydydd Iarll Bute, ffigwr pwerus ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif a oedd yn enwog fel gwleidydd ac fel botanegydd. Un o'i gyfraniadau mwyaf i fotaneg oedd llyfr o'r enw Botanical Tables. Mae Amgueddfa Cymru yn ffodus i berchen ar set gyflawn o'r gwaith prin a chywrain hwn.

Roedd John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792), yn gyfaill mynwesol i Siôr III. Er yn gyndyn i wneud, aeth Bute yn wleidydd yn gynnar yn ei yrfa, a hynny yn dilyn anogaeth gan ei ffrind brenhinol. Ym mis Mai 1762, fe'i hetholwyd yn Brif Weinidog. Er hyn, profodd Bute yn arweinydd amhoblogaidd ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Mae'n rhaid ei fod wedi teimlo rhyddhad i encilio o fywyd cyhoeddus i'w dŷ yn Highcliffe, Hampshire, gan ymroi i'w ddiddordeb mewn botaneg yn ei lyfrgell fotanegol anferth.

System dacsonomaidd newydd Carl Linnaeus

Bu Bute yn gweithio ar lawer o gyhoeddiadau botanegol a bu'r tacsonomydd enwog o Sweden, Carl Linnaeus, yn ddylanwad mawr arno. Cyhoeddiad enwocaf Bute oedd Botanical Tables. Ei deitl llawn oedd; Botanical Tables containing the different familys of British Plants distinguished by a few obvious parts of Fructification rang'd in a Synoptical method. Cyhoeddwyd y tablau ym 1785 a'r bwriad oedd esbonio egwyddorion system dacsonomaidd newydd a dadleuol Linnaeus.

Roedd mwyafrif y darluniau yn y Botanical Tables gan yr arlunydd John Miller (1715-1790). Roedd yn dasg anferth, yn cynnwys dros 600 o ddarluniau o'r organau rhywiol wedi'u rhifo yn unol â system Linnaeus. Mae 9 cyfrol ym mhob set o dablau ac maent yn sôn am yr holl blanhigion sydd ym Mhrydain – gan gynnwys mwsoglau, glaswelltau, blodau a choed, ynghyd â chen, ffwng a gwymon – ac mae'n cynnwys darluniau manwl o bob planhigyn a restrwyd.

Argraffwyd deuddeg set o'r Botanical Tables gan yr Arglwydd Bute a thalodd £1,000 amdanynt o'i boced ei hun. Rhwymwyd y mwyafrif ohonynt mewn lledr croen llo gydag arfbais y teulu Bute yn y canol. Cafodd dwy set eu paratoi yn arbennig ar gyfer y teulu brenhinol a'u rhwymo mewn croen gafr coch gydag aur ar ymyl y tudalennau ond heb arfbais Bute.

Botaneg fel difyrrwch ffasiynol

Roedd Bute yn awyddus iawn i esbonio'r system dacsonomeg i fenywod, oherwydd teimlai fod y "rhan hyfryd hon o natur" yn addas ar gyfer y "rhyw deg"; gyda'u nawdd hwy, byddai botaneg yn dod yn ddifyrrwch ffasiynol ymhen dim o dro. Anrhydeddodd y dymuniad hwn gan gyflwyno saith cyfrol o'r Botanical Tables i fenywod:

  • Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III)
  • Catherine II (Ymerodres Rwsia)
  • Duges Portland
  • Mrs Jane Barrington
  • Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie
  • Y Foneddiges Anne Ruthven
  • Y Foneddiges Jane Macartney.

Roedd y tair olaf yn perthyn iddo. Cadwodd Bute ddwy gyfrol ac anfonodd un gyfrol yr un at y botanegydd blaenllaw o Brydain a ddaeth yn Gadeirydd y Gymdeithas Frenhinol, Joseph Banks (1743-1829), y botanegydd blaenllaw o Ffrainc, George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788) a chyfaill i Bute, Louis Dutens (1730-1812).

Mae casgliad Amgueddfa Cymru yn cynnwys darluniau a thablau rhydd a ystyrir yn frasluniau neu'n ddeunydd a oedd yn cael ei baratoi i'w gyhoeddi maes o law. Er hyn, ym 1994, prynodd yr Amgueddfa gopi cyflawn o'r Botanical Tables mewn arwerthiant llyfrau pwysig iawn o lyfrgell Beriah Botfield yn Christie's.

Wrth geisio darganfod pa rai o'r 12 set wreiddiol sydd ym meddiant yr Amgueddfa, mae ein hymchwilwyr wedi llwyddo i olrhain 10 ohonynt, ac mae modd cysylltu 7 o'r rheiny â'r sawl a'u derbyniodd yn wreiddiol.

Efallai, rhyw ddydd, y bydd rhywun yn dod o hyd i'r ddau sy'n weddill ar silff lychlyd mewn hen lyfrgell. Byddwn wedyn yn gwybod i sicrwydd lle mae pob copi.

Derbyniodd

Y sawl a dderbyniodd gopi o'r Botanical Tables:

  1. Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo]
  2. Catherine II (Ymerodres Rwsia) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo]
  3. Duges Portland
  4. Mrs Jane Barrington
  5. Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie, aelod o'r teulu
  6. Y Foneddiges Anne Ruthven, aelod o'r teulu
  7. Y Foneddiges Jane Macartney, aelod o'r teulu
  8. Syr Joseph Banks (1743-1829)
  9. George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788)
  10. Louis Dutens (1730-1812)
  11. Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute
  12. Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute

Cyfeiriadau

Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (gol) 2003. Catalogue of Botanical Prints and Drawings held by the National Museums & Galleries of Wales. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, tud. 319.

Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. 2009. Bute's Botanical tables: dictated by Nature. Archives of natural history 36 (2): 277–298.

Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (paratoi ar gyfer) Bute's Botanical Tables (1785). Luton Hoo. Cyhoeddiad Arbennig i ddathlu'r Trichanmlwyddiant.

Y Galdrist Rithiol – un o blanhigion prinnaf Prydain

3 Gorffennaf 2013

Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009.

Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009.

Map yn dangos dosbarthiad y Galdrist Rithiol ym Mhrydain (pob cofnod: data trwy garedigrwydd Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain 2013).

Map yn dangos dosbarthiad y Galdrist Rithiol ym Mhrydain (pob cofnod: data trwy garedigrwydd Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain 2013).

Eleanor Vachell, tua 1930

Eleanor Vachell, tua 1930

Y Galdrist Rithiol a gasglwyd gan Rex Graham, 1953

Y Galdrist Rithiol a gasglwyd gan Rex Graham, 1953

Y Galdrist Rithiol o Swydd Henffordd 1982, wedi’i chadw mewn fformalin.

Y Galdrist Rithiol o Swydd Henffordd 1982, wedi’i chadw mewn fformalin.

Mae gan y Llysieufa Genedlaethol yn Amgueddfa Cymru gasgliad bychan – ond hynod werthfawr – o’r Galdrist Rithiol (Epipogium aphyllum Sw.) neu Degeirian y Cysgod. A ddylem fod yn falch o hynny, neu a ddylent fod wedi’u gadael yn y gwyllt? Mae’r ateb yng nghasgliad yr Amgueddfa, a gan wlithod...

Mae’r Galdrist Rithiol ymhlith planhigion prinnaf gwledydd Prydain. Fe’u canfuwyd mewn tua 11 safle yn ardaloedd y Chilterns a gorllewin canolbarth Lloegr, ond gan eu bod mor brin a’u lleoliad mor gyfrinachol, mae’n anodd gwybod sawl safle sydd yna’n union.

Planhigyn diflanedig

Cafodd y Galdrist Rithiol ei darganfod ym Mhrydain am y tro cyntaf ym 1854, ond dim ond un ar ddeg o weithiau y’i gwelwyd cyn y 1950au. Fe’i gwelwyd yn rheolaidd yma a thraw yn y Chilterns rhwng 1953 ac 1987, ond yna diflannodd, ac fe’i hystyriwyd yn ddiflanedig nes i un planhigyn gael ei ddarganfod yn 2009. Dim ond unwaith y’i gwelwyd yn y mwyafrif o safleoedd, ac yn anaml iawn am fwy na deng mlynedd.

Y Galdrist Rithiol – golygfa brin dan gysgod tywyll y goedwig.

Mae’r planhigyn lliw gwyn hufen i frown pincaidd hwn yn tyfu mewn coedwigoedd tywyll a chysgodol a dyna sy’n egluro’i enw. Diffyg cloroffyl sy’n gyfrifol am ei liw gan ei fod yn barasit ffyngau sy’n gysylltiedig â gwreiddiau coed, ac nid oes angen iddo gael ei fwyd ei hun trwy ffotosynthesis. Mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i oes fel rhisom (cyffion tanddaearol) ym mhridd neu ddeiliach coetiroedd, a dim ond ambell dro y gwelir blagur blodau uwchlaw’r ddaear. Hyd yn oed wedyn, mae ei maint bychan (llai na 15cm fel arfer, a phrin yn cyrraedd 23cm) a’u hymddangosiad anwadal rhwng mis Mehefin a mis Hydref yn golygu mai anaml iawn y gwelir y Galdrist Rithiol.

Tan yn ddiweddar, darn o risom a gasglwyd ar gyfer Eleanor Vachell ym 1926 oedd yr unig sbesimen Prydeinig yn nwylo Amgueddfa Cymru. Ei llysieufa hi yw un o’r rhai mwyaf cynhwysfawr gan fotanegydd o Brydain, a chyflwynodd ei chasgliad i’r Amgueddfa pan fu farw ym 1949. Mae ei dyddiadur botanegol yn adrodd hanes darganfod y Galdrist Rithiol:

"28 May 1926. The telephone bell summoned Mr [Francis] Druce to receive a message from Mr Wilmott of the British Museum. Epipogium aphyllum had been found in Oxfordshire by a young girl and had been shown to Dr [George Claridge] Druce and Mrs Wedgwood. Now Mr Wilmott had found out the name of the wood and was ready to give all information!!! Excitement knew no bounds. Mr Druce rang up Elsie Knowling inviting her to join the search and a taxi was hurriedly summoned to take E.V. [=Eleanor Vachell] and Mr Druce to the British Museum to collect the particulars from Mr Wilmott. The little party walked to the wood where the single specimen had been found and searched diligently that part of the wood marked in the map lent by Mr Wilmott but without success, though they spread out widely in both directions... Completely baffled, the trio, at E.V.'s suggestion, returned to the town to search for the finder. After many enquiries had been made they were directed to a nice house, the home of Mrs I. ?, who was fortunately in when they called. E.V. acted spokesman. Mrs I. was most kind and after giving them a small sketch of the flower told them the name of the street where the girl who had found it lived. Off they started once more. The girl too was at home and there in a vase was another flower of Epipogium! In vain did Mr Druce plead with her to part with it but she was adamant! Before long however she had promised to show the place to which she had lead Dr Druce and Mrs Wedgwood and from which the two specimens had been gathered. Off again. This time straight to the right place, but there was nothing to be seen of Epipogium! 2 June 1926. A day to spare! Why not have one more hunt for Epipogium? Arriving at the wood, E.V. crept stealthily to the exact spot from which the specimen had been taken and kneeling down carefully, with their fingers they removed a little soil, exposing the stem of the orchid, to which were attached tiny tuberous rootlets! Undoubtedly the stem of Dr Druce's specimen! Making careful measurements for Mr Druce, they replaced the earth, covered the tiny hole with twigs and leaf-mould and fled home triumphant, possessed of a secret that they were forbidden to share with anyone except Mr Druce and Mr Wilmott. A few days later E.V. received from Mr Druce an excited letter of thanks and a box of earth containing a tiny rootlet that he had found in the exact spot they had indicated." [Ffynhonnell: Forty, M. & Rich, T. C. G., eds. (2006). The botanist. The botanical diary of Eleanor Vachell (1879-1948). Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd]

Rhannodd Eleanor ei gwreiddiosyn â’i chyfaill mynwesol Elsie Knowling, a oedd hefyd yn cadw llysieufa. Trwy gyd-ddigwyddiad lwcus, mae’r ddau ddarn bellach gyda’i gilydd yn yr Amgueddfa ar ôl bod ar wahân am 84 o flynyddoedd.

Ym 1953, daeth Rex Graham, mab Elsie, ar draws 22 Galdrist Rithiol mewn coedwig yn Swydd Buckingham, sef y gytref fwyaf erioed yng ngwledydd Prydain (Graham 1953). Dyma’r tro cyntaf i’r Galdrist Rithiol gael ei gweld ers ugain mlynedd, a hawliodd sylw’r wasg Brydeinig. Dim ond tri sbesimen gasglodd Rex ar y pryd, ond aeth ati i gasglu rhagor dros y blynyddoedd dilynol pan welodd fod gwlithod yn eu bwyta. Ymhen hir a hwyr, roedd gan Rex bedwar sbesimen ar gyfer ei lysieufa ei hun, i’w hychwanegu at y darn yn llysieufa ei fam. Roedd y Galdrist Rithiol ymhlith trysorau llysieufa Graham & Harley, a roddwyd i Amgueddfa Cymru yn 2010.

Y trydydd casgliad yw’r unig sbesimen yn yr Amgueddfa sy’n cael ei gadw mewn gwirod (yn hytrach na’i wasgu a’i sychu) er mwyn dangos strwythur tri dimensiwn y blodyn. Darganfuwyd gan y Dr Valerie Richards (Coombs gynt) ym 1982, a’i roi trwy garedigrwydd i’r Amgueddfa yn 2013.

I waith caled a greddf Mark Jannink, yn ogystal â gwlithen lwglyd arall, y mae’r diolch am y pedwerydd casgliad a’r olaf. Dechreuodd Mark ystyried a oedd y Galdrist Rithiol yn blodeuo’n amlach ar ôl gaeafau oer. Ymchwiliodd i’r holl ddarganfyddiadau blaenorol o’r Galdrist Rithiol – ei hoff gynefin, tymor blodeuo a phatrymau’r tywydd – yna dechrau gwylio deg safle posib yng ngorllewin canolbarth Lloegr, ac ymweld â nhw bob pythefnos gydol haf 2009, ar ôl un o’r gaeafau oeraf ers blynyddoedd lawer. O’r diwedd, ym mis Medi, daeth ar draws un sbesimen bach. Roedd yn destun cryn gyffro i fotanegwyr, gan fod y Galdrist Rithiol wedi’i dynodi’n ddiflanedig yn swyddogol yn 2005. Dychwelodd Mark yno sawl tro yn ystod y dyddiau nesaf, wrth i’r planhigyn bylu a ‘brownio’ yn araf, hyd nes bod y gwlithod wedi cnoi drwy’r coesyn. Cafodd y gweddillion eu casglu a’u gwasgu, a’u cyfrannu i’n llysieufa ni yn fuan wedyn.

Felly, cafodd pump o’r saith Galdrist Rithiol o Brydain sydd yn Amgueddfa Cymru, eu casglu yn sgil gwlithod, sy’n fwy o fygythiad na botanegwyr. Mae’r Galdrist Rithiol wedi’i diogelu’n llawn gan y gyfraith, dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ond dyw’r gwlithod ddim callach!

Mae gennym wyth sbesimen o Ewrop hefyd, lle mae’r Galdrist Rithiol yn fwy cyffredin, ond eto’n brin. Cafodd un o’n sbesimenau gorau ei gasglu gan W. A. Sledge yn y Swistir.

Mae croeso i chi ddod draw i weld y Galdrist Rithiol yn Llysieufa Genedlaethol Cymru, ond peidiwch â disgwyl i ni ddatgelu o ble y daethant! A da chi, gadewch eich gwlithod gartref.

Darn o wreiddiosyn y Galdrist Rithiol yn llysieufa  Eleanor Vachell. Mae hefyd yn cynnwys cyfeiriad y Dr George Claridge Druce (1924) ato yn <em>Gardeners Chronicle</em> cyfres 3 cyfrol 76, tudalen 114 a dau fraslun bach gan Miss Baumgartner.

Darn o wreiddiosyn y Galdrist Rithiol yn llysieufa Eleanor Vachell. Mae hefyd yn cynnwys cyfeiriad y Dr George Claridge Druce (1924) ato yn Gardeners Chronicle cyfres 3 cyfrol 76, tudalen 114 a dau fraslun bach gan Miss Baumgartner.

Galdrist Rithiol o’r Swistir a gasglwyd gan W. A. Sledge ym 1955.

Galdrist Rithiol o’r Swistir a gasglwyd gan W. A. Sledge ym 1955.

Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009

Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009

Cyfeiriadau

  • Graham, R. A. (1953). Epipogium aphyllum Sw. in Buckinghamshire. Watsonia 3: 33 a’r tab. (http://archive.bsbi.org.uk/Wats3p33.pdf ).
  • Harley, R. M. (1962). Obituary: Rex Alan Henry Graham. Proceedings of the Botanical Society of the British Isles 4: 505-507.

Rhagor o wybodaeth am y Galdrist Rithiol:

  • Farrell, L. (1999) Epipogium aphyllum Sw. tudalen 136 yn Wigginton, M. J. (1999) British Red Data Books 1. Vascular plants. 3ydd argraffiad. JNCC, Peterborough.
  • Foley, M. J. Y. a Clark, S. (2005) Orchids of the British Isles. The Griffin Press, Maidenhead.
  • Jannink, M. a Rich, T. C. G. (2010). Ghost orchid rediscovered in Britain after 23 years. Journal of the Hardy Orchid Society 7: 14-15.
  • Taylor, L. a Roberts, D. L. (2011). Biological Flora of the British Isles: Epipogium aphyllum Sw. Journal of Ecology 99: 878–890. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1365-2745.2011.01839.x/abstract:

Rhywogaeth newydd i wyddoniaeth: Bolycetiaid yn Ynysoedd Falkland

Teresa Darbyshire, 21 Chwefror 2013

1. Map yn dangos y lleoliadau samplo ar arfordir yr ynys Ddwyreiniol gyda map mwy o'r lleoliadau ger Stanley

1. Map yn dangos y lleoliadau samplo ar arfordir yr ynys Ddwyreiniol gyda map mwy o'r lleoliadau ger Stanley

3. Mwydyn cennog (Polynoidae) ganfuwyd dan garreg wrth blymio

3. Mwydyn cennog (Polynoidae) ganfuwyd dan garreg wrth blymio

4. Dau cirratulid ganfuwyd dan garreg wrth blymio

4. Dau cirratulid ganfuwyd dan garreg wrth blymio

8. Mwydyn rhwyfo (Phyllodocidae) gyda'i streipiau du nodweddiadol

8. Mwydyn rhwyfo (Phyllodocidae) gyda'i streipiau du nodweddiadol

9. Dwy rywogaeth abwyd du wahanol (Arenicolidae) o'r lan

9. Dwy rywogaeth abwyd du wahanol (Arenicolidae) o'r lan

10. Rhywogaeth abwyd môr newydd (Nereididae)

10. Rhywogaeth abwyd môr newydd (Nereididae)

Mae polycetiaid (neu fwydod gwrychog) i'w gweld ym mhob un cynefin morol ar y Ddaear bron. Anifeiliaid hyblyg ac amrywiol eu lliw a'u llun ydyn nhw, ac mae tua 10,000 o rywogaethau wedi cael eu disgrifio hyd yn hyn. Gyda'n amgylchedd morol yn wynebu straen cynyddol mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n gwybod pa rywogaethau sy'n byw ymhle.

Mae polycetiaid o gynefinoedd yn y moroedd o amgylch Ynysoedd Falkland yng nghefnfor De'r Iwerydd wedi cael eu samplo'n aml fel rhan o fordeithiau ymchwil ar yr Iwerydd. Ar y llaw arall, prin yw ein gwybodaeth o bolycetiaid o gynefinoedd rhynglanwol (rhwng marciau llanw isel ac uchel). Ar ddechrau'r 20fed ganrif gwnaeth naturiaethwr o Ynysoedd Falkland, Rupert Vallentin, beth gwaith yn y maes gan anfon sbesimenau at dacsonomegwyr i'w hadnabod a'u hymchwilio. Prin yw'r gwaith a wnaed ar ôl hyn.

Biolegydd morol yn Amgueddfa Cymru yw Teresa Darbyshire, ac mae wedi bod yn cydweithio â'r Grŵp Arolygon Moroedd Bas lleol i astudio polycetiaid Ynysoedd Falkland. Treuliodd bedair wythnos yn gwneud gwaith mae yn niwedd 2011 dan nawdd Cronfa Ysgoloriaeth Shackleton, gan samplo pedwar arfordir ar bymtheg (Delweddau 1, 2, 6) ar yr ynys Ddwyreiniol, y brif ynys. Cafwyd cyfle hefyd i blymio gyda Grŵp Arolygon Moroedd Bas lleol fel rhan o'u harolwg a thrwy hyn bu modd ymestyn y samplu hyd yn oed ymhellach. (Delweddau 3, 4, 7).

Cododd rhai peryglon biolegol anghyffredin wrth weithio yn Ynysoedd Falkland gan gynnwys morlewod cyfeillgar yn astudio Teresa traoedd hi'n gweithio dan y dŵr, eliffantod môr yn sleifio i fyny tu ôl iddi ar y lan, a caracaras (adar ysglyfaethus) yn ceisio dwyn y potiau samplu! (Delwedd 5)

Wedi i bolycetau gael eu cadw (sefydlogi), bydd nodweddion sy'n bwysig wrth eu hadnabod, fel lliw a phatrwm (Delwedd 8), yn aml yn diflannu neu'n newid. Cafodd y rhan fwyaf o sbesimenau felly eu hastudio a'u ffotograffio yn fyw dan ficrosgop. Byddai sbesimenau hefyd yn cael eu "hymlacio" cyn eu cadw fel bod llai o siawns iddyn nhw wingo neu dorri, felly byddai'n haws o lawer eu hadnabod yn ddiweddarach.

Dyw adnabod polycetau ddim yn broses hawdd na chyflym! Mae sbesimenau gwahanol i'w gweld ledled y byd ac yn newid yn ôl cynefin a lleoliad. Mae'n debyg iawn y bydd polycetau Ynysoedd Flakland yn eu lleoliad yn Ne'r Iwerydd yn wahanol i bolycetau Gogledd yr Iwerydd, ac felly mae'n rhaid chwilio'n drylwyr drwy unrhyw lyfrau ar y pwnc i'w hadnabod. I ddechrau, cai'r sbesimenau eu trefnu'n deluoedd (grwpiau o sbesimenau sy'n perthyn). Er nad yw pob teulu i'w gweld ym mhob amgylchfyd, maer' teuluoedd gafodd eu adnabod yn Ynysoedd Falkland hefyd i'w gweld yn nyfroedd Prydain. Astudiwyd pob teulu yn ei dro er mwyn adnabod pob rhywogaeth ym mhob lleoliad. Mae'n haws o lawer adnabod rhywbeth os oes gennych chi lawer o sbesimenau i'w cymharu, yn blant ac oedolion, a sbesimenau o wahanol gyflwr.

Bellach mae dros ddeg ar hugain o deuluoedd gwahanol wedi cael eu hadnabod o'r samplau. Mae dau rywogaeth abwyd du (Arenicolidae, Delwedd 9) ac abwyd y môr (Nereididae, Delwedd 10) newydd wedi'u hadnabod, sy'n syndod gan fod y ddau grŵp yn cynnwys anifeiliaid mawr sy'n gymharol gyfarwydd ac yn cael eu defnyddio'n gyson fel abwyd gan bysgotwyr. Disgwylir y byd nifer o rywogaethau newydd yn cael eu hadnabod wrth i'r sbesimenau gael eu dadansoddi.

Wedi dychwelyd yn 2013 i samplo lleoliadau ychwanegol, bydd rhestr cynhwysfawr o bolycetau rhynglanwol a glannau Ynysoedd Falkland ar gael, ac yn gymorth i weithwyr gwarchod amgylcheddol lleol.

Rhywogaeth sy'n newydd i wyddoniaeth: Mwydod Rhawben o ben draw'r byd

Katie Mortimer-Jones, 8 Ionawr 2013

Rhywogaeth Mwydyn Rhawben Prydeinig (<em>Magelona johnstoni</em>)

Rhywogaeth Mwydyn Rhawben Prydeinig (Magelona johnstoni). Delwedd: Andy Mackie.

Rhywogaeth Mwydyn Rhawben o Portiwgeaidd (<em>Magelona lusitanica</em>)

Rhywogaeth Mwydyn Rhawben o Portiwgeaidd (Magelona lusitanica)

Pen <em>Magelona montera</em> o'r Môr Coch, wedi'i staenio â gwyrdd methyl.

Pen Magelona montera o'r Môr Coch, wedi'i staenio â gwyrdd methyl. Delwedd: James Turner

<em>Magelona obockensis</em> o Gwlff Aden
Magelona obockensis

o Gwlff Aden

Pen <en>Magelona sinbadi</em> o Gwlff Persia, wedi'i staenio â gwyrdd methyl. Delwedd: James Turner

Pen Magelona sinbadi o Gwlff Persia, wedi'i staenio â gwyrdd methyl. Delwedd: James Turner

Esiampl o god magelonid

Esiampl o god magelonid

Mae mwydod gwrychog y môr (Polycetau) yn perthyn i fwydod a gelenod – esiamplau cyffredin yw'r abwyd du a'r abwyd melys y bydd pysgotwyr môr yn eu defnyddio i ddal pysgod. Teulu bychan o bolycetau yw Magelonidae sydd â phen gwastad unigryw a gaiff ei ddefnyddio i gloddio, a dyna lle daw'r enw cyffredin – mwydod rhawben. Mae dros 70 o rywogaethau mwydod rhawben, a darganfuwyd 11 ohonynt gan fiolegwyr morol o Amgueddfa Cymru.

Mae polycetau i'w gweld ym mhob un cynefin morol bron ac yn aml mae canran uchel o'r anifeiliaid sy'n byw yn ac ar wely'r môr yn bolycetau. Gall fod 9000 o rywogaethau ar draws y byd, er bod amrywiaeth mawr rhwng amcangyfrifon a rhywogaethau newydd yn cael eu canfod yn gyson (hyd yn oed yn nyfroedd Prydain).

Gwelir amrywiaeth mawr ym maint a ffurf polycetau, faint y byddant yn symud a sut y byddant yn bwydo.

Beth yw Mwydod Rhawben (Polycetau: Magelonidae)?

Teulu bychan o bolycetau sydd i'w gweld ym mhob cwr o'r byd yw Magelonidae. Yn fwydod tenau, prydferth, llai na 10cm o hyd fel arfer, maent yn twrio drwy fwd a thywod ac i'w canfod fel arfer mewn dyfroedd llai na 100m o ddyfnder. Daw eu henw cyffredin – mwydod rhawben – o'r pen siâp gwastad unigryw a gaiff ei ddefnyddio i gloddio drwy waddod. Mae ganddynt ddau dentacl bwydo hir (palpiau) sydd wedi'u gorchuddio gan lympiau bach (papilau). Gwyddom am dros 70 o rywogaethau ar draws y byd, a darganfuwyd 11 ohonynt am y tro cyntaf gan fiolegwyr morol o Amgueddfa Cymru, gan gynnwys un rhywogaeth Brydeinig (Magelona johnstoni Fiege, Licher & Mackie, 2000).

Mae biolegwyr morol yn Amgueddfa Cymru wedi astudio'r mwydod rhawben yn y moroedd o amgylch Penrhyn Arabia ac wedi cadarnhau bod Magelona cornuta, Magelona obockensis, Magelona pulchella, Magelona crenulifrons yn bresennol yno ynghyd â rhywogaeth heb ei disgrifio o'r Môr Coch (Mortimer, 2010).

Mwydyn corniog

Gwelwyd y rhywogaeth hon, sydd heb ei disgrifio, am y tro cyntaf yng nghasgliadau'r Muséum National d'Histoire Naturelle ym Mharis. Arweiniodd yr ymchwil hwn at waith ar y cyd â gwyddonwyr o'r Centre d'Estudis Avançats de Blanes (CEAB) yn Sbaen a roddodd fynediad i sbesimenau o'r rhywogaeth newydd o dros 100 o leoliadau yn yr un ardal. Mae'n rhywogaeth hynod ddiddorol oherwydd y cyrn unigryw ar ei ben sy'n gwneud iddo edrych fel petai'n gwisgo het matador! Mae bellach wedi cael ei enwi'n Magelona montera, ar ôl yr enw Sbaeneg am het matador (Mortimer et al., 2012).

Mae chwe rhywogaeth Magelona arall wedi cael eu hadnabod bellach o'r moroedd o amgylch Penrhyn Arabia, gan gynnwys rhywogaeth arall o Iran a enwyd ar ôl y morwr ffuglennol Sinbad ( M. sinbadi, M. cf. agoensis, M. conversa, M. cf. falcifera, M. symmetrica, ac M. cf. cincta). Cyfyd hyn gyfanswm y rhywogaethau hysbys o ranbarth y Môr Coch/Y Gwlff i unarddeg, gyda tri o'r rhain wedi'u disgrifio'n wreiddiol o ynysoedd Seychelles gan staff yr Amgueddfa (Mortimer & Mackie, 2003; 2006).

Mae'r bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a CEAB wedi bod yn un llwyddiannus ac wedi arwain hefyd at adolygu mwydod rhawben o Bortiwgal, gan gynnwys disgrifio rhywogaeth newydd, Magelona lusitanica. Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn nhrafodion y 10fed Gynhadledd Bolycetau Ryngwladol, a gynhaliwyd yn yr Eidal, ym Mehefin 2010 (Mortimer, Gil & Fiege, 2011).

Bellach mae tacsonomyddion Amgueddfa Cymru wedi astudio 30% o bob rhywogaeth Magelona hysbys. Nid yw'r gwaith ar ben fodd bynnag gan ein bod yn paratoi i ddechrau ar rywogaethau Prydain fel rhan o adolygiad yr Amgueddfa o Ffawna Polycetau Prydeinig. Byddwn ni hefyd yn gwneud ymchwil ar y codau nodedig yn abdomen rhai rhywogaethau magelonaidd, gan fod eu swyddogaeth yn dal yn anhysbys.

Llyfryddiaeth:

Fiege, D., Licher, F.&Mackie, A.S.Y. 2000. Adolygiad rhannol o Fagelonidae Ewropeaidd (Annelida: Polychaeta): Ailddiffinio Magelona mirabilis ac adnabod M. johnstoni sp. nov. Journal of the Marine Biological Association of the United Kingdom, 80, 215–234.

Mortimer, K. 2010. Magelonidae (Polychaeta) o Benrhyn Arabia: adolygiad o rywogaethau hysbys gyda nodiadau ar Magelona tinae o Wlad Thai. Zootaxa, 2628, 1–26.

Mortimer, K., Cassà, S., Martin, D. & Gil, J. 2012. Cofnodion a rhywogaethau Magelonidae (Polychaeta) newydd o Benrhyn arabia, gydag ail-ddisgrifiad o Magelona pacifica a thrafodaeth o geudod genau magelonidae. Zootaxa, 3331, 1–43.

Mortimer, K., Gil, J. & Fiege, D. 2011. Magelona Portiwgal (Annelida: Magelonidae) gyda disgrifiad o rywogaethau newydd, ail-ddisgrifiad o Magelona wilsoni Glémarec, 1966 ac allwedd i Fagelonidae llawn dŵf o ddyfroedd Ewropeaidd. Italian Journal of Zoology, 78(S1), 124–139.

Mortimer, K. & Mackie, A.S.Y. 2003. Y Magelonidae (Annelida: Polychaeta) o'r Seychelles, gyda disgrifiad tair rhywogaeth newydd. In: Sigvaldadóttir, E., Mackie, A.S.Y., Helgason, G.V., Reish, D.J., Svavarsson, J., Steingrímsson, S.A. & Gudmundsson, G. (eds). Datblygiadau ymchwil polycetau. Hydrobiologia, 496(1–3), 163–173.

Mortimer, K. & Mackie, A.S.Y. 2006. Y Magelonidae (Annelida: Polychaeta) o'r Seychelles. 2. Disgrifiad o bedair rhywogaeth ychwanegol, tair sy'n newydd i wyddoniaeth. In: Sardá, R,. San Martín, G., López, E., Martin, D. & George, D. (eds). Datblygiadau gwyddonol mewn ymchwil polycetau. Scientia Marina, 70(S3), 125–137.