: Tacsonomeg a Systemateg

Bri rhyngwladol i 'Ffosil Cenedlaethol Cymru'

26 Gorffennaf 2007

Paradoxides davidis

Sbesimen o Paradoxides davidis o Borth-y-rhaw, x 0.75. Casgliad Amgueddfa Cymru

Chyfnod un yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd.

Chyfnod un yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America'

Chyfnod dau yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd.

Chyfnod dau yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America'

Chyfnod tri yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd.

Chyfnod tri yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America'

Ym 1862, canfuwyd un o'r trilobitau mwyaf erioed mewn craig yn Sir Benfro. Daeth yn un o ffosilau enwocaf Prydain ac mae'n ein helpu i ddeall sut yr oedd Cymru'n arfer bod yn sownd wrth Ogledd America, cyn ffurfio Eryri na Chefnfor Iwerydd.

Casglu ffosilau yn ardal Penrhyn Tyddewi, Sir Benfro

Ym 1862, roedd y paleontolegwr adnabyddus, J.W. Salter yn casglu ffosilau yn ne-orllewin Cymru fel rhan o'i waith gydag Arolwg Daearegol Prydain (BGS). Wrth archwilio clogwyni ardal greigiog Penrhyn Tyddewi un diwrnod, glaniodd Salter ym mhorth bychan Porth-y-rhaw, gan gredu ei fod yn Harbwr Solfach, sydd ychydig i'r dwyrain.

Fel y digwyddodd, roedd hwn yn gamgymeriad ffodus oherwydd, yng nghreigiau Porth-y-rhaw, daeth ar draws olion un o'r trilobitau mwyaf a ganfuwyd erioed (dros 50cm o hyd) ac, o ganlyniad i'r darganfyddiad hwn, daeth yr ardal yn lle adnabyddus i hela ffosilau.

Bywyd yn y môr gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl

Cafodd y cerrig llaid tywyll sydd yn y golwg yno eu dyddodi mewn môr rhyw 510,000,000 o flynyddoedd yn ôl mewn cyfnod a elwir erbyn hyn yn Gyfnod Cambriaidd. Rhoddwyd yr enw hwn i'r cyfnod gan mai yng Nghymru y cafodd creigiau o'r cyfnod eu hadnabod a'u henwi gyntaf gan ddaearegwyr o'r 19eg ganrif.

Mae Porth-y-rhaw ymhlith nifer fach o safleoedd yng Nghymru lle mae ffosilau o'r Cyfnod Cambriaidd wedi'u cadw'n eithaf da ac yn gymharol hawdd eu canfod. Yn ogystal â thrilobit enfawr Salter, ceir yno ffosilau llawer o fathau eraill o arthropodau morol sydd wedi hen ddarfod amdanynt. Fel rheol, mae'r rhain yn faint mwy cyffredin, sef rhyw 2-3cm o hyd.

Ffosil cenedlaethol Cymru

Yr enw gwyddonol ffurfiol a roddodd Salter ar y trilobit enfawr yw Paradoxides davidis, ar ôl ei ffrind David Homfray, casglwr ffosilau amatur o Borthmadog. Erbyn hyn, mae'r trilobit hwn ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus a gasglwyd ym Mhrydain a gwelir ei lun mewn llawer o gyhoeddiadau; mae llawer o'n prif amgueddfeydd, yn cynnwys Amgueddfa Cymru, yn ymfalchïo os oes ganddynt sbesimenau da ohonynt. Yn wir, pe bai gan Gymru 'ffosil cenedlaethol', byddai Paradoxides davidis yn gystadleuydd brwd am y teitl.

Byd-enwog

Ceir llawer o sbesimenau o Paradoxides davidis ar Benrhyn Afalon yn ne-ddwyrain Newfoundland, mewn creigiau sy'n union yr un oed â'r rhai sydd yn y golwg ym Mhorth-y-rhaw.

Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig deall bod dosbarthiad y cyfandiroedd a'r moroedd yn wahanol iawn yn y Cyfnod Cambriaidd i'r hyn ydyw heddiw. Bryd hynny, roedd Cymru, Lloegr a de-ddwyrain Newfoundland ar ochr ddeheuol hen fôr, o'r enw Iapetws, wedi'u gwahanu oddi wrth yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland, fel y dangosir ar y map.

Ceir yr un math o drilobitau yng Nghymru a de-ddwyrain Newfoundland a rhai hollol wahanol yn yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland ac mae hyn yn dangos eu bod yn arfer bod ar wahanol gyfandiroedd.

Geni Eryri

Tua 480,000,000 o flynyddoedd yn ôl, achosodd symudiadau y tu mewn i'r Ddaear i hen Fôr Iapetws gulhau'n raddol a diflannu wrth i'r ddau gyfandir daro yn erbyn ei gilydd. Arweiniodd hyn at ffurfio cadwyn o fynyddoedd uchel sydd heddiw i'w gweld yng Nghymru, yr Alban, Sgandinafia ac ym mynyddoedd yr Appalachiaid.

Cefnfor newydd Iwerydd

Yn nes ymlaen o lawer yn hanes y Ddaear, rhwng 200,000,000 a 65,000,000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd y ddau gyfandir wahanu eto gan ffurfio cefnfor newydd a ddaeth, maes o law, yn Gefnfor Iwerydd fel y mae heddiw. Fodd bynnag, nid oedd y rhwyg ar hyd yr un llinell yn union a'r llinell lle caewyd môr Iapetws, a gadawyd de-ddwyrain Newfoundland a'i drilobitau 'Cymreig' yn sownd wrth weddill Newfoundland a Gogledd America, a'r Alban a'i drilobitau o 'Ogledd America' yn sownd wrth weddill Ynysoedd Prydain.

Mae'r ffaith bod yr un trilobitau'n cael eu darganfod mewn ardaloedd sy'n bell wrth ei gilydd yn pwysleisio bod angen i ddaearegwyr astudio ffosilau a ddaw o ardaloedd pell wrth ei gilydd er mwyn cynnig dehongliad llawn o hen hanes eu darn nhw eu hunain o gramen y Ddaear.

Aduniad i berthnasau 460 milion oed o Gymru a Gwlad Belg

26 Gorffennaf 2007

Didymograptws, grapolit 'trawfforch' o fath sy'n gyffredin yn y ddwy ardal.
Didymograptws

, grapolit 'trawfforch' o fath sy'n gyffredin yn y ddwy ardal.

Pricyclopyge, trilobit cefnforol â llygaid mawr
Pricyclopyge

, trilobit cefnforol â llygaid mawr sydd â dosbarthiad eang ym Mhrydain a gogledd-gorllewin Ewrop;

Tarian pen Ormathops

Tarian pen Ormathops, trilobit dyfnforol sy'n gyfyngedig i Fohemia.

Llanvirn Farm, Abereiddi, Sir Benfro

Tua diwedd y 19eg ganrif, dechreuodd Henry Hicks, llawfeddyg o Dyddewi, ymddiddori yn hen greigiau gogledd Sir Benfro ac, ymhen amser, daeth yn arbenigwr rhyngwladol. Ym 1881, galwodd greigiau Bae Abereiddi yn 'Grŵp Llanvirn', ar ôl fferm gerllaw. Erbyn heddiw, mae'r enw'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac fe'i gwelir mewn cyhoeddiadau daearegol ym mhedwar ban byd — tipyn o beth i fferm fechan ar arfordir gwyntog Sir Benfro.

Bu staff yn Amgueddfa Cymru'n astudio creigiau Llanvirn a'u ffosilau ers dros chwarter canrif ac, yn 2000, gwahoddwyd Dr. R Owens o'r Adran Ddaeareg i archwilio ffosilau o greigiau o Gyfres Llanvirn sydd yn y golwg yn nyffryn Meuse yng Ngwlad Belg. Cymharwyd rhywogaethau o drilobitau a ganfuwyd yn y creigiau hyn â rhai o Ynysoedd Prydain.

Ffosilau yr un fath yng Nghymru a Gwlad Belg

Fel rheol, mae'n rhaid wrth lawer o amser ac ymdrech i ganfod ffosilau yng nghreigiau Llanvirn. Mae'r graptolitau a'r trilobitau a ganfuwyd yng Ngwlad Belg i gyd yn union yr un peth â'r rhai a ganfuwyd yng Nghymru ac Ardal y Llynnoedd. Credir bod y creigiau Llanvirn lle ceir y ffosilau wedi'u gosod yn y môr dwfn.

Yn ystod y cyfnod Ordofigaidd pan gafodd creigiau Llanvirn eu dyddodi, roedd de Prydain, Gwlad Belg a gogledd yr Almaen oll yn rhan o gyfandir bychan o'r enw 'Afalonia', ac roedd y 'Cefnfor Rheig' rhyngddo a chyfandir enfawr Gondwana.

Trilobitau Dall

Mae trilobitau y credir mai dim ond ar wely'r môr yr oeddent yn byw [rhywogaethau dyfnforol] yn tueddu i gael eu cyfyngu i rai ardaloedd yn unig ond mae rhai y credir eu bod yn nofio yn nŵr y môr [rhywogaethau cefnforol] wedi'u dosbarthu'n eang. Mae gan un o'r rhywogaethau o drilobitau a ganfuwyd yng Ngwlad Belg lygaid anferth a chredir ei bod yn rhywogaeth gefnforol. Mae'r ffosil hwn yn gyffredin mewn sawl ardal. Ar y llaw arall, mae un arall, a ddisgrifiwyd gyntaf gan Hicks o Abereiddi, yn ddall, a chredir mai un dyfnforol ydoedd. Fodd bynnag, mae i'r rhywogaeth hon ddosbarthiad eang hefyd ac mae hynny'n anos i'w esbonio; efallai ei bod yn treulio amser maith fel larfa bach, yn cael ei gludo gan lif y dŵr, fel bod i'r ffosilau ddosbarthiad eang; neu efallai mai rhywogaeth gefnforol ydoedd, yn byw mewn talpiau o wymon oedd yn nofio yn y môr ac yn cael ei chario ganddynt.

Mae creigiau Ordofigaidd sy'n iau na rhai Cyfres Llanvirn hefyd yn brigo yn nyffryn Meuse. Maent yn cynnwys rywogaethau o drilobitau a geir hefyd yng ngogledd Cymru a gogledd Lloegr. Mae hyn yn dangos bod Gwlad Belg yn dal yn rhan o Afalonia trwy gydol y Cyfnod Ordofigaidd. Fodd bynnag, mae creigiau a geir rhwng y rhain a chreigiau Llanvirn cynharach yn cynnwys trilobitau sy'n wahanol i'r rhai o Brydain, ond sy'n debyg iawn i ffosilau o Fohemia. Mae'n annhebygol bod rhan o Afalonia wedi gwahanu, wedi symud yn nes at Fohemia ac wedi symud yn ôl eto. Pam felly y mae'r trilobitau hyn yn debyg i rai Bohemia?

Efallai mai'r ateb yw bod yr amgylchedd o dan y môr wedi dod yn debycach i un Bohemia nag i un de Prydain. Er na wyddom beth oedd hydred Bohemia nac Afalonia, mae'n rhaid bod y ddwy ardal yn ddigon agos fel y gallai larfa'r trilobitau groesi rhyngddynt ac felly gael eu dosbarthu'n eang.

Mae'r gwaith hwn wedi cadarnhau bod cysylltiad clos rhwng ffosilau mewn rhannau o Sir Benfro ac yng Ngwlad Belg 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi tynnu sylw at broblemau dosbarthiad ffosilau sy'n dal heb eu datrys yn llawn.

Dewis o ddarluniau botanegol godidog o gasgliadau Amgueddfa Cymru

12 Gorffennaf 2007

Darluniau botanegol

Mae darluniau botanegol yn cyfuno gwyddoniaeth a chelfyddyd.

Eu bwriad gwreiddiol oedd hybu dealltwriaeth wyddonol ac maent yn cynnwys llawer o luniau eithriadol o hardd. Dewiswyd y lluniau isod o blith dros 7,000 o brintiau a lluniau a gedwir yn Amgueddfa Cymru.

Mieri, mwyar, jam a jargon

12 Mehefin 2007

Drysfa Fieri — botanegwyr yn didoli'r casgliad yn ystod yr ad-drefnu.

Drysfa Fieri — botanegwyr yn didoli'r casgliad yn ystod yr ad-drefnu.

Sbesimenau o fieri wedi'u gosod ar hyd Prif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sbesimenau o fieri wedi'u gosod ar hyd Prif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae'r casgliad o fieri a gedwir yn Amgueddfa Cymru'n cael ei gydnabod fel adnodd cyfeirio gwyddonol o bwys ar gyfer y gwaith o astudio ac enwi planhigion ym mhedwar ban byd.

Mae'r casgliad Mieri, Mwyar neu Rubus yn llysieufa'r Amgueddfa yn un o brif gasgliadau cyfeirio Prydain ar gyfer enwi planhigion. Yn y casgliad, ceir 15,000 o sbesimenau, yn cynnwys pob un o'r 325 o rywogaethau y gwyddom amdanynt ym Mhrydain ac Iwerddon. Gan fod gwaith dosbarthu mieri'n cael ei adolygu'n barhaus, mae'n hollbwysig bod y casgliad hwn yn cael ei reoli, ei warchod a'i ddefnyddio.

Mae'n anodd gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o fieri gan eu bod yn aml yn debyg iawn i'w gilydd a bod llwyni o wahanol rywogathau'n aml yn gwau trwy'i gilydd gan ei gwneud yn anodd casglu un rywogaeth. Gan fod cynifer o rywogaethau o fieri ym Mhrydain, mae llawer o sbesimenau yn y casgliad yn dal heb eu henwi.

Pan ddarganfyddir math newydd, gelwir y sbesimen a ddefnyddir i adnabod y rhywogaeth y mae'n perthyn iddi yn deipsbesimen. Mae teipsbesimenau yn bwysig iawn er mwyn datrys problemau wrth adnabod rhywogaethau ac mae teipsbesimenau o 100 o rywogaethau o leiaf yng nghasgliad yr amgueddfa.,/p>

Mae elfen hanesyddol bwysig i'r casgliad gan ei fod yn cynnwys casgliadau personol nifer o gasglwyr o bwys o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed.

Mae sbesimenau Ewropeaidd yn werthfawr hefyd a, thrwy'r rhain, canfuwyd bod nifer o rywogaethau o fieri o Ffrainc a'r Almaen ym Mhrydain ond eu bod heb eu canfod tan yn ddiweddar. Gobeithio y gellir defnyddio'r sbesimenau Ewropeaidd i gysylltu rhai o'r sbesimenau yn y llysieufa sydd heb eu henwi i'r rhywogaethau cyfandirol.

Un casgliad - 786,000 o gregyn - Catalogio a churadu Casgliad Cregyn Melvill-Tomlin

12 Mehefin 2007

James Cosmo Melvill.

James Cosmo Melvill.

John Read le Brockton Tomlin.

John Read le Brockton Tomlin.

Conus gloriamaris.

Un o sbesimenau pwysicaf Melvill, Conus gloriamaris.

Placostylus from Layard.
Placostylws

o Layard

Pan dderbyniodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gasgliad Melvill-Tomlin o folysgiaid ym 1955, dim ond un casgliad mwy o'i fath yn y byd oedd mewn dwylo preifat.

Cychwynnwyd y casgliad gan James Melvill ym 1853 a'i drosglwyddo i John Tomlin ym 1919. Roedd ynddo sbesimenau o bob rhan o'r byd ac roedd yn cynnwys bron hanner yr holl rywogaethau o folysgiaid y gwyddai dyn amdanynt.

Cafodd dros fil o rywogaethau a oedd yn newydd i fyd gwyddoniaeth eu disgrifio a'u henwi gan Melvill. Daliodd Tomlin ati i ychwanegu sbesimenau newydd o bedwar ban byd tan ddiwedd ei oes ym 1954.

Pan fu farw Tomlin ym 1954, derbyniodd yr Amgueddfa y casgliad cyfan ynghyd â'i lyfrgell a'i bapurau.

Lle i gadw'r casgliad

Cyrhaeddodd y casgliad mewn cabinetau mahogani ond erbyn heddiw fe'i cedwir mewn system raciau symudol, mewn trefn safonol, systematig sy'n hwylus ar gyfer ymchwilwyr tacsonomig sy'n gweithio arno.

Gwaith dogfennu araf a maith

Erbyn heddiw, caiff sbesimenau eu dogfennu trwy roi manylion mewn cronfa ddata gyfrifiadurol ond, yn y gorffennol, roedd y wybodaeth yn cael ei hysgrifennu â llaw mewn cofrestrau mawr. Rhwng 1978 a 1994, bu staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr yn dilysu a labelu sbesimenau'r casgliad ac yn eu rhoi yn eu lle.

Yna, roedd y wybodaeth am y casgliadau'n cael ei chyhoeddi i dacsonomegwyr ym mhob rhan o'r byd fel y gallent hwy wneud rhagor o waith astudio. Pe bai'r broses wedi parhau fel hyn, byddai wedi cymryd 30 mlynedd arall i ddogfennu'r casgliad yn llawn.

Cronfa ddata gyfrifiadurol yn cwblhau'r rhestr 'gyntaf'

Ym 1995, prynwyd cronfa ddata gyfrifiadurol oedd yn golygu y gallai llawer o bobl gofnodi data ar yr un pryd. Ers hynny, bu dros ugain o staff a gwirfoddolwyr yn cofnodi'r casgliad.

Mae'r gwaith o restru'r casgliad, a gychwynnwyd ym 1978, wedi'i gwblhau erbyn hyn a gellir ateb unrhyw ymholiadau mewn munudau yn hytrach na mewn dyddiau neu wythnosau.

Dros ddwy flynedd ar hugain, ychwanegwyd dros 786,000 o gregyn i'r gronfa ddata.

Newydd i wyddoniaeth

Yn y casgliad hwn, ceir miloedd o sbesimenau pwysig iawn a elwir yn 'deipiau'. Roedd y sbesimenau hyn yn ddarganfyddiadau gwyddonol newydd pan gawsant eu casglu ac, fel rheol, cawsant eu disgrifio, eu darlunio a'u henwi gan y casglwr.

Yn achos llawer o hen gasgliadau, dim ond gwaith ditectif gan guraduron amgueddfeydd a thacsonomegwyr ym mhedwar ban byd a all helpu i ddilysu'r wybodaeth hon. Mae rhestr eiddo electronig yn gwneud y dasg yn haws o lawer oherwydd gall cronfa ddata gyfan fod ar gael i dacsonomegwyr ble bynnag y maent.