Adeiladu'r casgliad pwysicaf o bryfed Cymru 11 Ebrill 2007 Gyda marwolaeth Joan Morgan ym Mangor ym 1998, daeth bywyd hynod ym maes entomoleg [astudio pryfed] i ben. Yn sgil hyn, daeth casgliad anferth o dros 50,000 o sbesimenau i'r amgueddfa genedlaethol. Mike Wilson, pennaeth entomoleg yr Amgueddfa yn astudio casgliad Bangor Yn sgil newidiadau ym mhrifysgolion Prydain dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae nifer o gasgliadau dysg wedi eu chwalu neu eu diddymu. Cafodd rhai o gasgliadau dysg y prifysgolion eu cronni dros gyfnod o flynyddoedd gan unigolion ymroddgar â diddordeb mewn ymchwilio a dysgu. Gyda marwolaeth Joan Morgan ym Mangor ym 1998, daeth bywyd hynod ym maes entomoleg [astudio pryfed] i ben. Yn sgil hyn, daeth casgliad anferth o dros 50,000 o sbesimenau i'r amgueddfa genedlaethol. Joan Morgan Symudodd Joan Morgan i Fangor ym 1953 gan fynd yn ddarlithydd amser llawn yng Ngholeg Prifysgol y ddinas. Bu'n weithwraig maes brwdfrydig am dros 40 mlynedd, gan gasglu miloedd o sbesimenau, o'r gogledd yn arbennig, ar gyfer y brifysgol. Nid oes modd gor-bwysleisio pwysigrwydd y casgliad. Mae'n darparu tystiolaeth o nifer o sbesimenau o wahanol leoliadau, yn ogystal â deunydd cyfeirio a rhyw 60,000 o gofnodion ar gardiau. Parhaodd i gynnal y casgliad ar ôl ymddeol. Yn dilyn ei marwolaeth, cytunodd y coleg y dylid trosglwyddo'r casgliad i'r Amgueddfa. Mae'r casgliad yn cynnwys tua 50,000 o sbesimenau, o Brydain yn bennaf. Mae'n cynnwys pob grŵp o bryfed, yn ogystal â chynrychiolaeth wych o sbesimenau o'r gogledd. Ar ôl cyfnod cwarantîn mewn rhewgell, llwyddwyd i gyfuno sbesimenau â chasgliadau entomoleg yr Amgueddfa. Drwy hyn bu modd i'r Amgueddfa greu casgliad pryfed Cymreig pwysicaf Prydain. Mae'n adnodd gwerthfawr ar gyfer ymchwil gwyddonwyr ledled y byd.
Gofalu am DNA mewn Casgliadau Gwyddoniaeth Natur 5 Ebrill 2007 Sbesimenau dros gan mlwydd oed wedi'u cadw mewn hylif, a ffynhonnell bosib i astudiaethau DNA. Y Blaidd Tasmaniaidd, sydd wedi diflannu. Defnyddiwyd DNA a dynnwyd o groen y sbesimenau yn yr Amgueddfa i astudio'r berthynas rhwng y Blaidd Tasmaniaidd ag anifeiliaid bolgodog eraill. Mae casgliadau pryfed hanesyddol yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer astudiaethau genetig y dyfodol. Mae'r argyfwng cynyddol ym mioamrywiaeth y byd wedi creu gofynion newydd i'r casgliadau biolegol sydd gan ein hamgueddfeydd. Hefyd, mae technegau modern yn ein galluogi i edrych ar ein casgliadau mewn ffyrdd newydd megis dadansoddi DNA (Deoxyribonucleic acid). Mae bellach yn bosib echdynnu a darllen DNA o sbesimenau amgueddfa, ond gall hyn ddibynnu ar y ffordd y maent wedi cael eu storio a'u cadw. Casgliadau unigryw Cedwir dros dair miliwn o sbesimenau biolegol yn Amgueddfa Cymru. Wrth i'r pwysau ar ein hamgylchedd naturiol gynyddu, daw'r casgliadau hyn yn adnodd pwysicach o hyd. Mae nifer o'r sbesimenau sy'n cael eu casglu bellach naill ai yn ddiflanedig neu mewn cymaint o berygl fel nad oes modd casglu mwy. Mae nifer o'r sbesimenau hyn yn unigryw ac yn hanfodol wrth ein cynorthwyo i ddeall bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Gall cadw deunydd biolegol fod yn anodd iawn. Mae deunydd biolegol, gan gynnwys DNA, yn dirywio'n gyflym. Mae triniaethau cemegol yn anelu at rwystro'r dirywiad hwn, gan alluogi cadw'r sbesimenau biolegol yn y tymor hir. Cadwraeth gynnar Mae cadw sbesimenau amgueddfa yn dyddio yn ôl dros 300 mlynedd. Yn y lle cyntaf sbesimenau sych ac anadweithiol yn unig y gellid eu cadw. Defnyddiwyd alcohol am y tro cyntaf yn yr 17eg Ganrif, cyflwynwyd fformaldehyd (formalin) yn y 19eg Ganrif. Galluogodd y dulliau hyn i ystod eang o sbesimenau gael eu cadw - ond datblygwyd hyn cyn gwybod am DNA. Gall fod yn anodd iawn cael DNA o sbesimenau a gadwyd gan ddefnyddio formalin. Mae cemegau eraill, megis ethanol (alcohol), yn ddefnyddiol wrth gadw'r sbesimen a'i DNA. Defnyddio DNA o'r casgliadau Gellir defnyddio DNA mewn nifer o feysydd astudiaeth, megis gwaith ar esblygiad, adnabod rhywogaethau, ac ecoleg. Mae astudiaethau DNA yn Amgueddfa Cymru yn cynnwys: Ymchwilio i falwod Hunter o Ddwyrain Affrica a defnyddio DNA i astudio sut y maent yn perthyn i'w gilydd. Mae cregyn gleision perlau dŵr croyw mewn perygl yng Nghymru. Mae ymchwilwyr yr Amgueddfa yn defnyddio DNA i edrych ar eneteg y boblogaeth sydd yn parhau er mwyn cynorthwyo eu cadwraeth. Mae Cennau yn agwedd bwysig o fioamrywiaeth, ond yn anodd eu hadnabod. Mae DNA yn cael ei ddefnyddio i helpu i adnabod cennau. DNA - adnodd bregus Yn anffodus, gellir difrodi DNA mewn nifer o ffyrdd. Yn dilyn marwolaeth organeb, mae molecylau DNA yn dirywio yn gyflym iawn. Golyga hyn bod cadwraeth gofalus a chyflym y sbesimenau yn angenrheidiol i sicrhau cadwraeth y DNA yn ogystal â'r sbesimen yn gyfan. Mae'r amgueddfa yn ymchwilio i ddulliau o gadw DNA. Un dull yw storio mewn rhewgelloedd -80°C neu nitrogen hylifol. Mae rhai amgueddfeydd eisoes wedi sefydlu banciau rhew-feinwe, ond mae'r dulliau hyn yn ddrud. Mae ymchwil parhaus yn ceisio gwella ein dealltwriaeth o effeithiau'r triniaethau hyn, gan ein galluogi i gadw'n sbesimenau DNA yn gyfan ar gyfer y dyfodol