Dylunio Meicrosgopig: casgliad Ernest Heath o Fforaminiffera 5 Ionawr 2012 Casgliad sleidiau Ernest Heath Fyddai gennych chi'r amynedd i greu patrymau pitw fel y rhain? Dychmygwch mai'r flwyddyn yw 1900, does dim teledu na rhyngrwyd i'ch diddanu. Drwy lwc, mae meicrosgopau fforddiadwy ar gael ac rydych chi wedi dechrau casglu gwrthrychau gwych a gwirion i'w hastudio. Mae archwilio byd natur ar raddfa fach yn boblogaidd ac yn hwyl. Fforaminiffera sydd ar y sleidiau meicrosgop hyn gan fwyaf, sef anifeiliaid pitw sy'n byw drwy arnofio ger arwyneb y môr neu ar wely'r môr. Ernest Heath: Gwr a chanddo law gadarn Cawsant eu creu gan Ernest Heath, fwy na thebyg gan ddefnyddio brwsh paent gwlyb i godi'r samplau o dywod a llaid. Dydyn ni ddim yn gwybod rhyw lawer am y dyn ond roedd yn gymrawd y Gymdeithas Feicrosgopaidd Frenhinol, cafodd afael ar laid o foroedd dyfnion o bedwar ban rywfodd neu'i gilydd ac mae'n rhaid bod ganddo lawer o amser sbâr! Cysylltwch â ni os ydych chi'n gwybod mwy amdano. Yn ddiweddar, bu arbenigwyr Daeareg yr Amgueddfa wrthi'n glanhau ac yn adfer y casgliad unigryw a hardd hwn o sleidiau. Ffosilau o ddyddiau cynnar math newydd o wyddoniaeth. Sleid microsgop cyn ac ar ôl gwaith cadwraeth Cafodd rhai o'r fforaminiffera eu casglu drwy dreillio gan HMS Challenger ar ei alldaith ym 1872-1876. Dyma oedd un o'r alldeithiau ymchwil gwyddonol cyntaf ar y môr ac fe'i galwyd yn ddechreuad eigioneg, sef astudiaeth y cefnforoedd. Mewn gwirionedd, rydyn ni'n dal i wybod llai am wely'r môr nag y gwyddom am ochr dywyll y lleuad! Cliciwch ar y crynoluniau isod i weld detholiad o ddelweddau o'r casgliad.
Archaeopteryx – y ddolen goll rhwng deinosoriaid ac adar? Cindy Howells a Caroline Buttler, 13 Hydref 2011 Mae'r Archaeopteryx yn ffosil eiconig, a ystyrir yn aml fel y 'ddolen goll' rhwng deinosoriaid ac adar. Fe'i disgrifiwyd am y tro cyntaf yn 1861 yn ôl gan Hermann von Meyer (1801–1869), palaeontolegydd o'r Almaen. Ers hynny, mae'r Archaeopteryx wedi bod yn destun dadl ynghylch tarddiad adar a'u cysylltiad â'r deinosoriaid.Dim ond un sbesimen ar ddeg ac un bluen sydd wedi'u darganfod, a hynny mewn nifer fechan o chwareli ger tref Solnhofen yn ardal Bafaria, de'r Almaen.Daw bron pob sbesimen o Galchfaen Solnhofen, sef calchfeini mân mwdlyd gafodd eu dyddodi mewn lagwnau trofannol rhyw 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl tua diwedd y cyfnod Jwrasig. Cafodd un sbesimen ei ddarganfod yn nyddodion gorchuddiol Ffurfiant Mörnsheim, ac mae tua hanner miliwn o flynyddoedd yn iau na'r gweddill. Sbesimen Archaeopteryx (Museum für Naturkunde, Berlin, yr Almaen) DarganfyddiadYm 1861, cyhoeddodd Hermann von Meyer ddisgrifiad o bluen ffosil gafodd ei ddarganfod yng Nghalchfaen Solnhofen, a'i enwi'n Archaeopteryx lithographica. Ystyr Archaeopteryx yw 'adain hynafol'. Dywedodd Von Meyer fod "sgerbwd lled gyflawn o anifail wedi'i orchuddio â phlu" wedi'I ddarganfod hefyd. Wedi cryn gystadleuaeth rhwng amgueddfeydd amrywiol, llwyddodd yr Amgueddfa Brydeinig i brynu'r sgerbwd ynghyd â ffosilau eraill Solnhofen am £700, swm anferthol ar y pryd, yr un faint â chyflog deng mlynedd a mwy i grefftwr medrus.Ym 1863, fe wnaeth Richard Owen, Uwcharolygydd casgliadau hanes natur yr Amgueddfa Brydeinig, ddisgrifio a darlunio'r sbesimen, gan gyfeirio ato fel aderyn ag iddo "rare peculiarities indicative of a distinct order". Cafodd y ffosil arbennig hwn ei ddarganfod prin ddwy flynedd ers cyhoeddi llyfr Charles Darwin, On the Origin of Species, a newidiodd farn pobl am y byd naturiol.Roedd yr Archaeopteryx yn cydfynd ag athroniaeth Darwin gan ei fod yn dangos nodweddion adar ac ymlusgiaid.Sut olwg oedd ar yr Archaeopteryx?Aderyn cyntefig a chanddo blu oedd yr Archaeopteryx, ond mae ei sgerbwd ffosiledig yn debycach i ddeinosor bychan.Roedd tua'r un maint â phioden. Yn wahanol i adar modern, roedd ganddo lond ceg o ddannedd, cynffon hir esgyrnog a thair crafanc ar ei adenydd a ddefnyddiwyd i fachu ar ganghennau o bosibl. Nid oedd ganddo fysedd troed cwbl gildro sy'n helpu llawer o adar modern i glwydo. Roedd gan yr Archaeopteryx asgwrn tynnu, fodd bynnag, ac adenydd a phlu 'hedfan' anghymesur, fel aderyn cyffredin. Mae'n bosibl ei fod yn gallu hedfan, er nad cystal â hynny. Adluniad o'r Archaeopteryx (© J. Sibbick) Byd yr ArchaeopteryxBu Archaeopteryx yn byw ar dir ar bwys casgliad o lagwnau llonydd a hallt o fewn môr trofannol bas. Roedd bywyd ar wyneb dyfroedd y lagwnau yn bennaf, gan fod llawer o'r gwaelodion yn wenwynig iawn. Mae'n bosibl mai crinoidau arnofiol bach (lili'r môr) ac ambell bysgodyn oedd yr unig anifeiliaid oedd yn byw yn y lagwnau.Roedd amonitau, berdys, cimychiaid a sêr môr yn byw yn y môr agored gerllaw, ac roeddynt yn cael eu golchi i'r lagwnau gan stormydd o dro i dro. Nid oeddynt yn para'n hir yn nyfroedd y lagŵn. Cafodd olion marchgrancod eu darganfod ar ddiwedd trywydd byr o'u hôl troed eu hunain.Weithiau, byddai ymlusgiaid morol fel ichthyosoriaid a chrocodeiliaid yn cael eu golchi i'r lagwnau hefyd. Roedd pterosoriaid a phryfed mawr fel gweision y neidr yn hedfan fry uwchben y môr. Byddent yn cael eu sgubo i ddyfroedd y lagwnau mewn stormydd.Cafodd sbesimen ifanc o ddeinosor theropod bach o'r enw Compsognathus ei ddarganfod yn yr un gwaddodion, wedi'I olchi yno o'r tir siŵr o fod. Adluniad o'r Archaeopteryx (© J. Sibbick) Sut wnaeth Archaeopteryx farw a chael ei gadw?Er mai aderyn y tir oedd yr Archaeopteryx, byddai rhai ohonynt yn cael eu dal gan stormydd weithiau wrth hofran uwchben y dŵr. Yn llawn dŵr ac yn methu codi i'r awyr eto, byddent yn boddi ac yn suddo i waelod y lagŵn.Mae'r holl sbesimenau y gwyddom amdanynt yn dangos nodweddion anaeddfedrwydd, sy'n awgrymu nad oedd yr un ohonynt wedi tyfu'n oedolyn. Efallai mai dyma pam nad oedden nhw'n llwyddo i oroesi tywydd stormus.Cafodd eu carcasau eu claddu'n gyflym dan fwd calch mân ar wely'r lagŵn. Credir bod metr o'r graig heddiw yn cynnwys gwaddodion 5,000 o flynyddoedd.Mae ffosilau Solnhofen wedi para'n rhyfeddol o dda, am na wnaeth creaduriaid ysglyfaethus na symudiadau'r dŵr darfu arnynt. Mae'r calchfeini graenog yn cynnwys nodweddion cywrain fel adenydd gwas y neidr neu blu'r Archaeopteryx.Darllen pellachWellnhofer, P. 2009. Archaeopteryx the icon of evolution. Pfeil Verlag, München, 208 tud.Arthygl gan: Cindy Howells, Rheolwr Casgliadau (Palaeontoleg) a Caroline Buttler, Pennaeth Palaeontoleg
Gwymon Gwych Prydain 4 Hydref 2011 Mae gwymon (algâu'r môr) yn amrywio'n fawr o ran ffurf, lliw a gwead, ac mae llu o rywogaethau gwahanol yn byw mewn cilfachau gwahanol o'r glannau. Mae rhai'n gallu tyfu'n uchel ar y traeth lle mae'n sych am gyfnodau helaeth o'r dydd; eraill wedi datblygu amddiffynfa rhag difrod y tonnau. Y nodweddion hyn a llawer mwy a ddefnyddiwyd gan dacsonomegwyr i nodi a dosbarthu'r gwymon. Mae Amgueddfa Cymru yn cadw llysieufa o sbesimenau algaidd sych gwasgedig fel rhan o'i chasgliadau botanegol. Mae'r llysieufa hon yn adnodd hollbwysig ar gyfer astudio gwymon. Porwch drwy'r lluniau isod i weld y gwahanol fathau o wymon sydd i'w gweld ar draethau creigiog amrywiol ein gwlad.
Pysgod Morol Egsotig — tystiolaeth o gynnydd yn nhymheredd y môr o amgylch Cymru? Graham Oliver, 16 Mawrth 2011 Teircwtiad yr Iwerydd (Lobotes surinamensis) a ddaliwyd ger Peterstone, i'r dwyrain o Gaerdydd. Y pysgodyn gwreiddiol wedi'i gadw mewn gwirod. Paratoi model o Deircwtiad yr Iwerydd mewn labordy yn Amgueddfa Cymru. Y model gorffenedig o Deircwtiad yr Iwerydd. Yn y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi clywed adroddiadau gan bysgotwyr ac aelodau o'r cyhoedd o bob cwr o'n glannau am ddaliadau anghyffredin a physgod morol wedi'u gadael — pysgod fyddai'n byw mewn dyfroedd tipyn cynhesach, trofannol. A yw hyn yn dystiolaeth bellach o gynnydd yn nhymheredd y môr o amgylch glannau Cymru? Mae'r sbesimenau yma yn cael eu cludo i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael eu henwi, cyn cael eu hymgorffori i'r casgliadau cenedlaethol. Er mwyn arddangos eu lliwiau naturiol, mae castiau wedi'u peintio yn cael eu creu a'u harddangos ochr yn ochr â'r pysgod eu hunain sy'n cael eu cadw mewn hylif. Gweld y Teircwtiad trofannol ym moroedd y DU am y tro cyntaf Yn 2006, daliwyd Teircwtiad yr Iwerydd (Lobotes surinamensis) yn rhwyd pysgotwr ym Môr Hafren, ger Peterstone, i'r dwyrain o Gaerdydd. Gan nad oedd y pysgotwr yn adnabod y sbesimen oedd yn 60cm o hyd, daeth ag ef i'r Amgueddfa i'w enwi. Mae Teircwtiaid i'w gweld fel arfer mewn dyfroedd trofannol ac isdrofannol, a dyma'r cofnod cyntaf ohono yn nyfroedd y DU. Rydyn ni'n gwybod bod y pysgod yma yn hoff o aberoedd mwdlyd, sy'n esbonio i raddau pam ei fod wedi cyrraedd Môr Hafren. Mae nhw'n lled ymfudol ac i'w gweld yn aml gyda sbwriel sy'n arnofio, ac mae'n bosibl ei fod wedi teithio yma yn nyfroedd cynnes Llif y Gwlff. Jacs, Cleddbysgod a Chrwbanod Cefn Lledr Cafwyd daliad egsotig arall wrth geg Aberdaugleddau yn Awst 2007, pan ddaliwyd Jac ifanc. Mae'n anodd adnabod Jacs ifanc ac roedd yn rhaid tynnu delwedd pelydr X i gadarnhau taw dyma'r cofnod cyntaf o Jac Almaco yng Nghymru (Seriola rivoliana). Mae'r rhywogaeth hon i'w gweld fel arfer yn nyfroedd cynnes y Caribî, ond rhwng Gorffennaf a Medi 2007 gwelwyd chwech ar arfordir de a gorllewin Prydain, gan ddyblu nifer y cofnodion ers y cyntaf ym 1984. Yna yn 2008 darganfuwyd Cleddbysgodyn (Xiphias gladius) marw 2.2 metr o hyd ar draeth ger y Barri yn ne Cymru. Er nad oedd hyn yn record newydd, prin y caiff y rhywogaeth gefnforol hon ei dal yn nyfroedd Cymru. Mae'n ymddangos bod yr adroddiadau yma am bysgod dyfroedd cynnes yn dystiolaeth bellach o gynnydd yn nhymheredd y môr. Mae'r canfyddiadau yn cyd-fynd â chynydd yn niferoedd crwbanod ym Môr Iwerddon, yn enwedig Crwbanod Cefn Lledr. Nid yw canfod y rhywogaethau morol egsotig yma'n beth newydd fodd bynnag, ac mae Llif y Gwlff wedi dod ag anifeiliaid dŵr cynhesach i'n harfordiroedd yn gyson. Canfuwyd dwy rywogaeth o longbryfed (Bankia gouldi a Uperotus lieberkindii) mewn pren a ddaeth i'r lan ar Benrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru. Mae'r rhain yn rhywogaethau tymheredd cynnes a trofannol, a does dim cofnod ohonynt yn y DU cyn hyn. Mae canfod rhywogaethau mor egsotig ar arfordir Prydain, neu eu canfod yn fwy cyson beth bynnag, yn adlewyrchu newid gwirioneddol yn eu hamrediad daearyddol. Mae cofnodi rhywogaethau morol yn hanfodol i'n dealltwriaeth o newidiadau o'r fath, ac mae pysgotwyr a'r cyhoedd yn chwarae rôl bwysig yn hyn — rydyn ni'n croesawu eu cymorth ac yn edrych ymlaen at y creadur rhyfedd nesaf i lanio ar ein desg ymholiadau. Sbesimen Jac Almaco ifanc (Seriola rivoliana) a ddaliwyd yn Aberdaugleddau. Delwedd pelydr X o'r Jac Almaco ifanc a ddefnyddiwyd i'w enwi. Y Cleddbysgodyn (Xiphias gladius) marw a ganfuwyd ar draeth y Barri. Sylwch ar y niwed i ystlys y pysgodyn, a achoswyd wedi iddo farw mwy na thebyg. Baedd Môr (Capros aper) a ganfuwyd oddi ar arfordir Cymru. Er nad yw'n bysgodyn prin, anaml y caiff ei weld ac mae'n byw mewn dyfroedd dyfnion gan amlaf.
Bywyd ffosil - ar raddfa wahanol 8 Mawrth 2011 Y pysgodyn ffosil Pholidophorus; mae'r cylch yn dangos yr ardal dywyll lle mae'r bacteria ffosil wedi'u cadw Golwg drwy ficrosgop ar y gytref o facteria ffosiledig, wedi'i chwyddo x20,000 Ffosilau yw gweddillion bywyd hynafol. Mae'r rhan fwyaf o ffosilau anifeiliaid wedi'u gwneud o rannau caled y corff fel esgyrn, dannedd a chregyn. Mewn rhai achosion prin, gall meinwe meddal neu facteria hyd yn oed gael eu ffosileiddio. Pysgodyn ffosil o Wald yr Haf sydd wedi'i gadw'n dda Darganfuwyd y pysgodyn ffosil a welir yma ar draeth Kilve yng ngogledd Gwlad yr Haf, ac er ei fod wedi colli'i ben, mae'r gweddill wedi cadw'n dda. Mae'r ffosil tua 11cm o hyd ac mae ei gen yn amlinellu siâp ei gorff. Gellir gweld olion yr esgyll blaen hefyd. Pholidophorus yw enw'r pysgodyn; mae'n anifail sydd wedi marw allan oedd yn edrych yn debyg i'r pennog modern. Bu farw'r pysgodyn hwn bron i 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl tra'n nofio yn y môr Jwrasig oedd yn gorchuddio Gwlad yr Haf. Cafodd y corff lonydd gan sborionwyr wedi iddo farw ac felly cafodd ei gladdu mewn gwaddod mân. Caledodd y gwaddod yma yn y pen draw i ffurfio carreg a cafodd y pysgodyn ei ffosileiddio y tu mewn iddi. Manylion microsgopig yn datgelu mwy o weddillion ffosiledig Er ei fod yn esiampl dda, mae'r pysgodyn ffosil hwn wedi cadw rhywbeth mwy hynod fyth hyd yn oed. Tynnodd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru ddarnau bychan o ganol y ffosil i'w hastudio o dan ficrosgop electron. Wedi chwyddo'r ddelwedd 20,000 o weithiau, daeth rhai manylion bychan i'r golwg — haen o strwythurau pitw hirgrwn. Dyma weddillion ffosiledig bacteria. Mae bacteria wedi ffosileiddio wedi eu canfod mewn sawl lle yn y byd, ac mae'r mwyaf amlwg mewn ffosilau yn Ne America a'r Almaen. Mae'r bacteria wedi'u cadw mewn calsiwm ffosffad yn aml iawn, am fod calsiwm yn elfen gyffredin mewn gwaddod, a ffosfforws yn cael ei greu wrth i feinwe anifeiliaid bydru. Sut ydyn ni'n gwybod taw bacteria ffosil yw'r rhain? Yn gyntaf, maen nhw wedi clystyru at eu gilydd mewn cytrefi ac o faint a siâp tebyg i facteria modern. Yn ail, mae meinweoedd cellol bregus eraill, fel celloedd embryo a ganfuwyd yng nghreigiau Cambriaidd Tsieina, wedi cael eu cofnodi. Gall meinwe cyhyr wedi ffosileiddio hyd yn oed gadw manylion mewnol celloedd, er enghraifft yng nghreigiau Jwrasig Brasil a chreigiau Mïosenaidd Sbaen. Mae gwyddonwyr yn gweld achosion o ffosileiddio celloedd yn amlach, yn cynnwys bacteria, wrth iddyn nhw edrych yn fanylach ar y ffosilau yn eu casgliadau. I gloi, mewn achosion prin gall haen denau dywyll o facteria ffosil amlinellu ffosil, gan ddatgelu siâp meinweoedd cnawdol o amgylch y sgerbwd, fel yng nghreigiau Ëosen yr Almaen. Mae hyn yn dweud wrthon ni bod y bacteria wedi ffosileiddio'n gyflym wedi iddyn nhw farw. Mae'n dod yn gynyddol amlwg bod bacteria yn chwarae rôl bwysig wrth ffosileiddio, gyda'r bacteria eu hunain weithiau yn cael eu cadw. Wrth edrych ar ffosil, mae'n naturiol meddwl pa fath o anifail neu blanhigyn yw e, ond gellir gwneud rhai darganfyddiadau diddorol drwy ofyn o beth mae'r ffosil wedi ei wneud?. Mae'r ateb wrth edrych yn agosach yn peri syndod yn aml a gall fod yn allweddol i ddysgu sut y cafodd yr organeb ei ffosileiddio yn y lle cyntaf.