Darganfod Môr Grwban Ffosil pwysig fu ar goll ers 150 o flynyddoedd Cindy Howells, 18 Tachwedd 2012 Ffotograff o Chaning Pearce [(c) Bristol City Museum & Art Gallery] Y môr-grwban yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – dim ond yn ddiweddar y datgelwyd ei wir bwysigrwydd Syr Richard Owen – un o sylfaenwyr yr Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol, Llundain a bathwr y gair 'deinosoriaid' Ym 1842 dyma'r naturiaethwr a'r palaeontolegydd enwog Syr Richard Owen yn disgrifio pedwar sbesimen crwban ffosil newydd ddaeth o Galchfaen Purbeck (Cyfnod Cretasaidd Is) Dorset. Cadwyd un o'r rhain yn Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol Llundain ers ei ganfod, ond roedd y tri arall mewn casgliadau preifat. Wedi 1842 dyma'r tri i bob pwrpas yn diflannu am 150 o flynyddoedd! Daeth y Dr Andrew Milner o hyd i un o'r tri yn yr Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol rai blynyddoedd yn ôl tra'n astudio crwbanod môr ac ymlusgiaid eraill, ond roedd lleoliad y ddau arall yn ddirgelwch o hyd. Wedi ymchwil pellach, arweiniwyd Milner at Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a cafwyd cadarnhad bod môr grwban ffosil yn y casgliadau yn un o sbesimenau coll Owen. Enw gwreiddiol y môr grwban ffosil hwn oedd Chelone obovata, a'r perchennog oedd Joseph Chaning Pearce (1811-1847), fu'n ddoctor yng Nghaerfaddon cyn marw'n ifanc yn 37 oed. Adeiladodd un o'r casgliadau ffosil preifat mwyaf y tu hwnt i Lundain gan droi rhan o'i dŷ yn amgueddfa breifat. Wedi ei farwolaeth, cadwodd ei deulu'r amgueddfa fechan tan 1886, pan symudasant i Swydd Gaint. Chlywyd dim am y casgliad tan 1915, pan y prynwyd y rhan fwyaf ohono gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Bryste, ynghyd â'r catalog gwreiddiol. Dyma Dr Milner yn chwilio casgliadau Amgueddfa Bryste ond doedd dim golwg o sbesimen Chaning Pierce, a cymrwyd yn ganiataol iddo gael ei ddinistrio ym 1940 pan laniodd bomiau tân ar neuadd arddangos yr Amgueddfa. Yn 2008 fodd bynnag, daeth o hyd i'r catalog llawysgrifen gwreiddiol, ac mae cofnod ar dudalen 32 – Fossil no.12 Chelone obovata – gyda nodyn mewn pensil – Sent to Cardiff Museum, 3rd March 1933. Cysylltodd Dr Milner ag Adran Daeareg Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle gwelwyd bod sbesimen cragen môr grwban Purbeck wedi cael ei gofrestru ym 1933, ond nid oedd gennym lawer o wybodaeth amdano. Mae'r sbesimen yn cael ei arddangos yn arddangosfa Esblygiad Cymru er 1993 ac wedi ei gadw'n dda iawn ac yn eithaf cyflawn. Mae disgrifiad gwreiddiol Richard Owen ym 1842 yn galw'r môr grwban yn deipsbesimen y rhywogaeth Chelone obovata – sef y sbesimen y dylid cymharu pob esiampl arall ag ef. Er nad oedd yno ddarluniau, roedd ei ddisgrifiad yn fanwl ac yn gywir iawn. Mae'r disgrifiad hwn yn cyfateb yn union i sbesimen Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a dyma'n bendant yr un sbesimen. Dangosodd gwaith ymchwil diweddar bod y môr grwban bellach yn rhan o genws Hylaeochelys a rhywogaeth latiscutata. Mae'r sbesimen hwn o ddiddordeb hanesyddol sylweddol gan iddo gael ei gasglu cyn 1840 a gan taw Syr Richard Owen a'i disgrifiodd – y gŵr a fathodd y gair 'deinosor'. Cyhoeddwyd manylion y darganfyddiad yn Morphology and Evolution in Turtles, dan olygyddiaeth D. B. Brinkman et al., yn y gyfres - Vertebrate Paleobiology and Paleoanthropology.
Rhywogaeth newydd i wyddoniaeth: Pryfed Dawnsio o Chile Adrian Plant, 6 Tachwedd 2012 Casglu trychfilod, Alerce Andino, Chile. Rhywogaeth Chelipodozus (tua 4mm o hyd). Rhywogaeth Cladodromia (tua 4mm o hyd). Rhywogaeth Empis. Rhywogaeth heb ei disgrifio o grŵp macrorrhncha (tua 6mm o hyd). Rhywogaeth heb ei disgrifio o Neotrichina (tua 4mm o hyd). Mae pob rhywogaeth yn esblygu drwy'r amser, ac mae amgylchiadau megis newid yn yr hinsawdd, symudiad cyfandirol ac ecoleg yn effeithio ar eu dosbarthiad ac amrywiaeth cyfredol - hyd yn oed yng nghyd-destun lleol Cymru. Felly, rhaid i wyddonwyr astudio organebau mewn cyd-destun byd-eang er mwyn gwerthfawrogi eu lle ym Mhren y Bywyd yn gywir. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos trychfilod, gan gynnwys pryfed (Diptera). Yn y gorffennol pell, ymddangosodd eu llinachau esblygol pwysig mewn llefydd sydd bellach wedi eu gwahanu oherwydd bod y cyfandiroedd yn symud oddi wrth ei gilydd. Er enghraifft, esblygodd llawer o rywogaethau pwysig Diptera ym Mhatagonia ac Awstralasia ar adeg pan oedd y tiroedd hyn yn rhan o'r cyfandir hynafol anferth, Gondwana. Mewn ardaloedd tymherus, mae llawer o'r pryfed a elwir yn bryfed dawnsio (Empidoidea) a gallant gyfrif am 10% o holl rywogaethau pryfed. Mae rhai'n bwydo ar flodau ac maent yn bwysig o ran peillio, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ysglyfaethu anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy'n help mawr i reoli plâu. Mae gan eraill ddefodau paru cymhleth sy'n cynnwys ehediadau ysblennydd a chyflwyno trychfilod meirw fel 'anrhegion'! Ymddangosodd yr Empidoidea am y tro cyntaf yn Ngondwana yn ystod yr oes Jwrasig, o leiaf 160 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Wrth i'r cyfandir anferth dorri'n ddarnau llai a'r darnau hynny symud ymhellach oddi wrth ei gilydd, bu cynnydd anferth yn amrywiaeth y pryfed hyn. Mae gwaith ar y cyd rhwng entomolegwyr Amgueddfa Cymru ac amgueddfeydd eraill ar draws y byd wedi gwella ein dealltwriaeth o hanes esblygol y pryfed hyn. Ar gyfer un o'r projectau, aeth tîm o entomolegwyr o Amgueddfa Cymru a'r Muséum national d'Histoire naturelle ym Mharis ar alldaith i Batagonia dan nawdd CAFOTROP (CAnopée des FOrêts TROPicales). Y nod oedd chwilio am rywogaethau Gondwanaidd newydd yn fforestydd glaw trwchus a thymherus Patagonia Chile gan ddefnyddio dulliau samplo arbenigol chwilio agos, rhwydo a maglu. Yna, gwnaed gwaith didoli, dosbarthu a chadw'r samplau yn barod ar gyfer eu paratoi a'u henwi yn ôl yn y labordy. Roedd y fforestydd glaw deheuol a thymherus yn gyfoeth o Empidoidea, ac mewn tair wythnos o gasglu, casglwyd tua 8,000 o sbesimenau, gan gynnwys llawer a oedd yn rhywogaethau newydd i wyddoniaeth. Mae llawer o'r genera a enwyd bellach ddim ond i'w cael mewn lleoliadau fu unwaith yn rhan o Gondwana, megis Ceratomerus, Clinorhampha a Cladodromia. Un darn o newyddion hynod gyffrous oedd canfod rhywogaethau newydd i'r grŵp Empis macrorryncha, sy'n perthyn yn agos i rywogaethau hysbys y grŵp yn ne-orllewin Awstralia. Awgryma hyn fod y rhywogaeth wedi esblygu o hynafiad cyffredin a oedd, fwy na thebyg, yn byw cyn i Gondwana wahanu.
Pengwiniaid yr Antarctig 11 Mai 2012 Mae'r pengwin yn anifail sy'n archdeip o'r Antarctig ond dim ond dwy rywogaeth, y Pengwin Ymerodrol a'r Adélie sydd i'w canfod yn yr Antarctig yn unig. Mae'r pengwiniaid Antarctig eraill, fel y Chinstrap a'r Gentoo, hefyd i'w gweld ar yr ynysoedd is-Antarctig. Mae rhywogaethau eraill hefyd sy'n byw mewn hinsoddau cynhesach — yn wir mae Pengwin y Galapagos yn byw ar y cyhydedd bron. Fodd bynnag, maen nhw wastad yn byw lle mae dŵr oer iawn yn llifo o'r de. Adar diasgell ydyn nhw sydd wedi esblygu i fyw yn y môr, lle byddan nhw'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser. Y Pengwin Ymerodrol yw'r mwyaf gan gyrraedd taldra o dros fetr a phwysau o 22-45 kg. Capten Scott oedd y cyntaf i gofnodi arferion mudo'r Pengwin Ymerodrol, ar Alldaith Discovery 1901-04. Maent yn dod i'r lan ym mis Ebrill ac yn cerdded cymaint â 100-160 km i'r meysydd bridio. Wedi dodwy un ŵy, bydd y benyw yn dychwelyd i'r môr i fwydo, gan adael y gwryw i ori drwy aeaf garw'r Antarctig. Bydd yn dioddef naw wythnos o dymereddau yn agos i -50°C a gwyntoedd o hyd at 200 kya. All y gwryw ddim bwydo drwy gydol y cyfnod ac erbyn i'r benyw ddychwelyd yn gwanwyn bydd wedi colli 45% o'i holl bwysau! Casglai'r fforwyr cynnar i'r Antarctig bengwiniaid er mwyn eu bwyta, ond byddai rhai yn cael eu casglu fel arbrofion gwyddonol. Mae nifer yn y casgliadau yma yn Amgueddfa Cymru. Pengwin Gentoo, Pwynt Waterboat, y Penrhyn Antarctig. Delwedd: T SharpeUn arall o'r pengwiniaid bach yw Pengwin Gentoo a'r pengwin Antarctig mwyaf prin gyda phoblogaeth o tua 300,000 pâr. Gwelir y rhan fwyaf o'r rhain ar ynysoedd is-Antarctig fel De Sandwich, De Shetland, De Orkney, Crozet a Heard. Yn wahanol i'r Adélie fodd bynnag, nid ydynt yn ddibynnol ar bacrew, ac wrth i'r Penrhyn Antarctig gynhesu mae'n ymddangos fel petai eu niferoedd yn cynyddu. Pengwin Chinstrap yng nghasgliadau'r Amgueddfa. Pengwin Chinstrap, Ynys Hanner Lleuad, y Penrhyn Antarctig. Delwedd: T SharpeMae'r Pengwin Chinstrap tua'r un maint â'r Adélie ac mae'n hawdd ei adnabod o'r stribed neu strapen denau o dan ei ên. Dyma un o'r pengwiniaid mwyaf niferus ac amcangyfrifir bod tua 7 miliwn o barau bridio yn y byd! Mae rhai cytrefi anferth ar y penrhyn Antarctig gyda hyd at 200,000 o adar yn byw yn y cytrefi mwyaf. Un o'r Pengwiniaid Ymerodrol a Pengwin Brenhinol Shackleton yn yr arddangosfa Antarctig hon o 1914, a gynhaliwyd gan yr Amgueddfa yn Neuadd y Dref. Pengwin Brenhinol, yr Harbwr Aur, De Georgia. Delwedd: T. Sharpe Llythyr gan Syr Ernest Shackleton i Gyfarwyddwr yr Amgueddfa Pengwin Brenhinol a gyflwynwyd i'r Amgueddfa gan Syr Ernest Shackleton. Cafodd ei gasglu ar Alldaith Nimrod 1907-09, o Ynys Macquarie mwy na thebyg.Y Pengwin Brenhinol yw'r rhywogaeth ail fwyaf gan gyrraedd taldra o tua 90cm a phwysau o 11-16 kg. Does dim yn byw ar gyfandir yr Antarctig gan eu bod yn ffafrio dŵr ychydig yn gynhesach. Maen nhw'n bridio ar ynysoedd is-Antarctig fel Crozet a Kerguelen yn Ne Cefnfor India; Ynys Macquarie rhwng Seland Newydd a'r Antarctig; ac Ynysoedd Falkland / Malfinas a De Georgia yn Ne Cefnfor yr Iwerydd. Llawfeddyg George Murray Levick (1877-1956) ar Alldaith Antarctig Brydeinig Capten Scott 1910-13. Astudiodd Levick nythfa'r Pengwiniaid Adélie Penguin ym Mhenrhyn Adare ar arfordir Môr Ross yr Antarctig yn ystod haf 1911-12 tra oedd yno gyda Chriw'r Gogledd. Cyhoeddodd Levick y gyfrol: Antarctic Penguins. A study of their social habits ym 1914 ar sail ei arsylwadau o nythfa'r pengwiniaid ym Mhenrhyn Adare. Ffotograff o Bengwiniaid Ymerodrol a dynnwyd gan Frederick Gillies yn Nhir y Frenhines Mary, yr Antarctig ym 1912. Gillies oedd Prif Beiriannydd yr Aurora, llong hela morfilod o Newfoundland gynt a ddefnyddiwyd ar Alldaith Antarctig Awstralasiaidd 1911-14. Ganwyd Gillies yng Nghaerdydd gan dreulio'i brentisiaeth fel peiriannydd ar longau stêm John Shearman and Company a P. Baker and Company of Cardiff Pengwiniaid Ymerodrol a chywion, Môr Ross, yr Antarctig. Delwedd: T Sharpe Pengwin Adélie yng nghasgliadau'r Amgueddfa. Pengwin Adélie yw'r unig bengwin Antarctig arall o'r iawn ryw. Mae tua hanner maint y Pengwin Ymerodrol ac yn pwyso rhwng 4 a 6 kg. Ymddengys bod newid hinsawdd yn y Penrhyn Antarctig yn effeithio ar Bengwiniaid Adélie. Dim ond pan fo digonedd o bacrew yn y môr y gall Pengwin Adélie ffynnu. Wrth i'r penrhyn gynhesu mae llai o bacrew ar gael ganol haf ac mae'r Pengwiniaid yn symud ymhellach i'r de i aros gyda'r pacrew Peter Howlett a Tom Sharpe
Tarddiad Cerrig Gleision Côr y Cewri Richard Bevins, 21 Chwefror 2012 Pont Saeson, Mehefin 2011. Pont Saeson, Mehefin 2011. Mae tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun dyfalu a dadlau ers blynyddoedd. Cafodd tarddiad un math o'r garreg las ei ganfod yng ngogledd Sir Benfro ddechrau'r 1920au, ond erbyn hyn mae daearegwyr Amgueddfa Cymru wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng math arall o'r garreg a rhan wahanol o ogledd Sir Benfro. Tybed a fydd modd i ni ganfod syniadau newydd am sut y cafodd y cerrig eu cludo i Gôr y Cewri? Côr y Cewri Côr y Cewri, ar Wastadeddau Caersallog, yw un o henebion mwyaf eiconig y byd. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae'r un mor gyfarwydd ym mhedwar ban ag y mae safleoedd enwog fel Machu Picchu yn Peru a Rhyfelwyr Terracotta Xian yn Tsieina. Mae Côr y Cewri'n safle cymhleth. Mae fwyaf adnabyddus am ei feini hirion, sy'n cynnwys y Cylch Allanol, y Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Garreg Sawdl ac, o fewn y strwythur, yr 'Allorfaen'. O amgylch y cylch cerrig mae twmpathau a ffosydd, a chyfres o 'dyllau' y tybir iddynt gynnwys meini hirion corau eraill. Mae'r tyllau hyn, sy'n cael eu galw'n Dyllau Aubrey, yn bwysig am eu bod yn cynnwys malurion (neu 'naddion' mae rhai archaeolegwyr yn eu galw) nad yw ei litholeg i'w weld ymhlith y meini hirion cyfredol. Fodd bynnag, rhan yn unig yw Côr y Cewri fel y sefyll heddiw, o ystod ehangach o nodweddion cyfoes sy'n cynnwys y Rhodfa, y Cwrsws, a'r diweddaraf i'w bennu, Côr Gorllewin Amesbury (y'i gelwir yn 'Bluestonehenge' — Côr y Cerrig Gleision). At ei gilydd, dyma Dirwedd Côr y Cewri. Yr enw ar gerrig mawr y Cylch Allanol yw 'Sarsenau'. Dyma gerrig o dywodfaen caled a gwydn y credir iddynt gael eu casglu o amgylchedd lleol Gwastadeddau Caersallog. Mae tarddiad cerrig llai'r Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Allorfaen, sef y Cerrig Gleision, yn fath 'egsotig' yn ardal Gwastadeddau Caersallog. Am flynyddoedd lawer, bu archwilwyr Fictoraidd blaengar yn pendroni yn eu cylch. Dyma litholeg y Cerrig Gleision, fel y'i gelwir. Y Cerrig Gleision Fodd bynnag, yn ei bapur a gyhoeddwyd yn The Antiquaries Journal ym 1923, roedd H. H. Thomas o'r Arolwg Daearegol yn honni iddo ganfod tarddiad dolerit smotiog y Cerrig Gleision ym mrigiadau creigiog, neu 'tyrrau', uchelfannau'r Preseli, i'r gorllewin o Grymych. Yn benodol, credai mai'r tyrrau yng Ngharn Menyn a Cherrig Marchogion oedd y tarddleoedd tebygol. Aeth ymlaen i ystyried sut y cludwyd y cerrig gan bobl i Wastadeddau Caersallog gan fwrw amcan ar ddull cludo ar dir yn hytrach na siwrnai ar fôr a thir. Nid dolerit smotiog yw'r holl Gerrig Gleision sy'n sefyll yng Nghôr y Cewri heddiw fodd bynnag. Tyffiau llif lludw yw pedair ohonynt, o gyfansoddiad dacitig neu ryolitig. Mae malurion a ganfuwyd yn Nhyllau Aubrey ac mewn cloddiadau archaeolegol eraill yng Nghôr y Cewri a'i Dirwedd yn cynnwys dolerit smotiog a rhagor o ddeunydd dacitig a rhyolitig gwahanol iawn. Cynllun o Gôr y Cewri Cynllun o Gôr y Cewri Tirlyn Gôr y Cewri Canfyddiadau diweddar Yn 2009, cychwynnodd Amgueddfa Cymru archwiliadau petrolegol newydd. O astudio malurion o Gae'r Cwrsws, ger y Cwrsws, gwelwyd presenoldeb samplau gafodd eu pennu'n dyffiau llif lludw, gyda phwmis tiwb, darnau crisial a chlastau lithig ar batrwm matrics graen mân wedi'i ailgrisialu. Maent yn gymharol debyg i'r pedair maen hir dacitig a rhyolitig, ond mae gwahaniaethau allweddol. Hefyd yn bresennol oedd samplau y'u gelwyd gynt yn anffurfiol yn 'rhyolit â ffabrig'. Diffinnir y litholeg hon gan ffabrig datblygedig iawn, sy'n bresennol ar raddfa milimetrau. O ddilyn y gwead nodedig hwn, mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi pennu Pont Saeson, sydd yn y tiroedd isel tua'r gogledd i Fynydd Preseli, fel tarddiad y garreg. Anweddu'r Cerrig Gleision I brofi'r tarddiad ymhellach, casglwyd tystiolaeth feintiol drwy ddadansoddi cyfansoddiad mân grisialau sircon, maint micron, o Gôr y Cewri, a samplau rhyolit o Bont Season. Defnyddiwyd techneg o'r enw 'sbectromeg màs anwythiad abladiad laser cypledig' ym Mhrifysgol Aberystwyth. Canolbwyntir pelydr laser pwerus iawn sydd â diamedr o 10 micron yn unig ar y crisialau sircon (sy'n ddim mwy na 100 micron) a'u 'habladu' — sef eu hanweddu fwy neu lai — gan adael y crisialau sircon yn frith o dyllau bach. Yna, caiff yr anwedd a gynhyrchir yn y broses ei ddadansoddi yn y sbectromegydd màs, sy'n dangos cemeg y crisialau sircon. Dyma'r tro cyntaf i gemeg sircon gael ei defnyddio i ganfod tarddiad deunydd archaeolegol. Yn ogystal â sirconiwm (a haffniwm, elfen sy'n perthyn yn agos iddo) roedd y crisialau'n cynnwys crynodiadau digonol i'w hadnabod o ystod o elfennau gan gynnwys sgandiwm, tantalwm, wraniwm, thoriwm a'r elfennau daear prin. Roedd dadansoddiad y ddau set o samplau bron yr union yr un peth, gan ddarparu 'ôl bys' geogemegol. Mae'r canlyniad o bwys sylweddol ac fe'i gyhoeddwyd yn 2011 mewn cyfnodolyn o bwys rhyngwadol, Journal of Archaeological Science. Ym mis Mehefin 2011, cynhaliwyd gwaith samplo manylach gan bennu'r brigiad a elwir yn Graig Rhos-y-felin ger Pont Saeson fel tarddiad y rhan fwyaf o'r malurion rhyolit a ganfuwyd yn ystod gwaith cloddio yng Nghôr y Cewri a gerllaw. Cyhoeddwyd canlyniadau'r cloddiadau diweddaraf hyn yn y cyfnodolyn Archaeology in Wales ym mis Rhagfyr 2011. External links Prifysgol Caerlŷr UNESCO: Côr y Cewri Safle Treftadaeth y Byd Prifysgol Aberystwyth Journal of Archaeological Science Archaeology in Wales Journal
Casgliad mwynau chwedlonol y Fonesig Henrietta Antonia, Iarlles Powis Tom Cotterell, 31 Ionawr 2012 Catalogue of Metallic Minerals in the Possession of the Countess of Powis Cyfrol II, 1817: Catalogau gwreiddiol y casgliad. Tudalen gatalog o Gyfrol 1. Earthy Minerals. Olifin ar gwarts o Gernyw, rhodd i Henrietta gan Iarlles Aylesford. Sbesimen 9 cm o hyd. NMW 29.311.GR.80. Yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y cafodd un o gasgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru ei adeiladu. Y Fonesig Henrietta Antonia Clive (1758-1830), Iarlles Powis oedd y gasglwraig, a cafodd ei roi i'r Amgueddfa gan 4ydd Iarll Powis ym 1929. Mae'n un o'r casgliadau mwynau cyntaf sy'n gysylltiedig â Chymru. Y Fonesig Henrietta, Iarlles Powis Ganwyd y Fonesig Henrietta i deulu Herbert, teulu uchel ei barch â thiroedd helaeth oedd yn disgyn o Iarll Penfro yn y bymthegfed ganrif. Henry Arthur Herbert (c.1703-1772), Iarll 1af Powis oedd ei thad, oedd yn berchen ar ystadau mawr yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag eiddo yn Llundain. Ganwyd Henrietta yn eu prif gartref, Parc Oakley, yn Bromfield ger Llwydlo, ond wedi i hwnnw gael ei werthu i Robert, Arglwydd Clive (Clive o India) ym 1771, treuliodd ei harddegau yn y cartref teuluol, Castell Powis. Clive o India Ym 1784, priododd Henrietta Edward, mab hynaf y diweddar Arglwydd Clive, priodas oedd o fudd i'r ddau deulu — roedd y teulu Herbert wedi mynd i ddyled drom, ond roedd eu henw yn dal yn uchel ei barch, tra bod teulu Clive wedi casglu cyfoeth aruthrol drwy ymgyrchoedd milwrol Robert, Arglwydd Clive yn India. Aeth Henrietta ac Edward i fyw yn Neuadd Walcot ger Trefesgob lle ganwyd pedwar o blant iddynt, Edward, Henrietta Antonia, Charlotte Florentia a Robert Henry. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, gwnaed Edward Clive yn Lywodraethwr Madras ac yn ystod ei hamser yn yr India, dechreuodd Henrietta gasgliad o gerrig a mwynau. Yn ddiweddarach bu'n prynu ac yn cyfnewid mwynau â chasglwyr blaenllaw'r cyfnod gan gynnwys James Sowerby, Dr John MacCulloch ac Iarlles Aylesford. Cofnododd sawl sbesimen a roddwyd iddi gan ei phlant hefyd. Mwynau'r Ddaear a Mwynau Metelig Mae casgliad Henrietta yn nodweddiadol o steil casgliadau o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda'r mwynau wedi'u trefnu'n systematig yn ôl eu nodweddion cemegol. Rhannodd Henrietta ei chasgliad yn ddwy gyfrol wedi'u hysgrifennu â llaw: Cyfrol 1 — Earthy Minerals a Chyfrol 2 — Metallic Minerals. Defnyddiodd system rifo i gofnodi pob sbesimen gan lynu label bychain i bob un. Er bod nifer o'r labeli yma wedi hen ddiflannu, mae manylder ei chatalog wedi ein galluogi ailadnabod sbesimenau sydd wedi colli eu rhifau gwreiddiol. Roedd dros fil o sbesimenau yng nghasgliad Henrietta, ac mae cannoedd o samplau wedi cael eu hadnabod yng nghasgliad yr Amgueddfa. Er bod nifer o sbesimenau ar goll, mae'n hynod pa mor gyflawn yw'r casgliad, ag ystyried ei oedran. Heddiw, caiff ei ystyried yn un o'r casgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru.