Croes Fictoria 'ddirgel' a pharot wedi'i stwffio 26 Ebrill 2007 William Williams VC. Image © Kenneth Williams Collection. Medalau William Williams. O'r chwith i'r dde: Croes Fictoria, Medal Gwasanaeth Nodedig ynghyd ag ail far, medalau gwasanaeth yn y Rhyfel Mawr (Seren 1914-15, Medal Ryfel, Medal Fuddugoliaeth), Medal Amddiffyn 1939-45, Medalau'r Coroniad (1937 a 1953), Médaille Militaire Ffrainc. Ym 1917 dyfarnwyd Croes Fictoria i William Williams am ei ran yn y gwaith o suddo llong danfor Almaenig. Ar 21 Gorffennaf 1917 derbyniodd William Williams, morwr o Fôn, Groes Fictoria, sef prif wobr dewrder Prydain, gan y Brenin Sior V ym Mhalas Buckingham. Yng ngeiriau'r ddyfynneb, fe'i dewiswyd 'by the ship's company of one of H.M. ships to receive the Victoria Cross under Rule 13 of the Royal Warrant...' O achos y ddyfynneb annelwig hon cyfeiriwyd at yr achos hwn, a rhai tebyg iddo, fel y 'Groes Fictoria ddirgel'. Beth oedd cefndir yr achos hwn? Yn ystod y Rhyfel Mawr (1914-18), ceisiodd Llynges yr Almaen roi Prydain dan warchae, gan ddefnyddio ei fflyd o longau tanfor i atal bwyd a nwyddau angenrheidiol rhag cyrraedd y wlad. Llwyddwyd i ffrwyno'r bygythiad hwn yn y pen-draw drwy ddefnyddio llongau mewn gosgordd a meysydd ffrwydron, ond tacteg arall oedd camarwain a dal llongau tanfor y gelyn drwy ddefnyddio llongau masnach ac arnynt arfau cudd - y 'llongau-Q' fel y'u gelwid. Aeth y llongau hyn i drafferth mawr i sicrhau bod y gelyn yn ymosod arnynt, yn y gobaith y byddai hynny'n darbwyllo llongau tanfor yr Almaen i ddod i'r wyneb a'u gosod eu hunain o fewn cyrraedd gynnau cudd y llongau masnach. Bu Williams yn gwasanaethu ar sawl un o'r llongau hyn dan gyfarwyddyd Gordon Campbell VC DSO, comander mwyaf llwyddiannus y llongau-Q. Roedd eisoes yn meddu ar y Fedal Gwasanaeth Nodedig (DSM) am ei ran yn y gwaith o suddo'r llong danfor Almaenig U-83, wedi i'r H.M.S ar 7 Mehefin 1917. Q5 (a elwid gynt yn S.S. Farnborough) gael ei suddo â thorpido oddi ar arfordir gorllewinol Iwerddon ar 17 Chwefror 1917. Digwyddodd y frwydr a arweiniodd at ddyfarnu Croes Fictoria i Williams ar 7 Mehefin 1917. Suddodd olynydd S.S. Farnborough, sef H.M.S. Pargust (S.S. Vittoria gynt, a atafaelwyd o Ddociau Caerdydd), y llong danfor UC-29, wedi i'r llong gael ei tharo â thorpido. Cymerodd y criw arnynt eu bod hwy - ynghyd â pharot wedi'i stwffio mewn caets - am ymadael â'r llong, gan adael nifer fach o ddynion yn cuddio ar ei bwrdd. Am dros 30 munud, daliodd y Morwr Williams dwll gwn ochr dde'r llong yn ei le, wedi i'w bwysau ddod yn rhydd yn dilyn ffrwydrad y torpido. Drwy ei weithredoedd llwyddodd i gadw'r gwn o'r golwg hyd yr eiliad y daeth hi'n amser i'w danio, pan ddaeth y llong danfor i'r wyneb gerllaw. Cydnabuwyd y gamp o suddo'r UC-29 drwy ddyfarnu'r Groes Fictoria i H.M.S. Pargust, y tro cyntaf i long ennill bri dan y Rheol a oedd cyn caniatŷu i weithred o ddewrder torfol gael ei gydnabod. Dewiswyd un swyddog (Lefftenant R.N. Stuart) ac un llongwr i dderbyn y wobr. Y llongwr hwnnw oedd Williams, ef achubodd y dydd diolch i'w feddwl chwim a'i ymdrech fawr. Roedd i'w yrfa anrhydeddus un tro annisgwyl arall: ar 8 Awst 1917, suddwyd yr H.M.S. Dunraven (olynydd y Pargust, llong arall o Gaerdydd) oddi ar arfordir Ffrainc wedi brwydr pum-awr â llong danfor arall. Ar yr achlysur hwn derbyniodd Williams far (ail wobr) i'w DSM am ei waith saethu: ei drydydd gwobr am ddewrder ymhen llai na chwe mis! Rhyddhawyd William Williams o'r Llynges Frenhinol wrth Gefn ym mis Tachwedd 1918. Ymgartrefodd yng Nghaergybi ac ef oedd un o sefydlwyr y gangen leol o'r Lleng Brydeinig. Bu farw ar 23 Hydref 1965. Darllen Cefndir My mystery ships gan G. Campbell. Cyhoeddwyd gan Hodder & Stoughton (1928). Sea killers in disguise gan T. Bridgeland. Cyhoeddwyd gan Leo Cooper (1999).
Achub bywyd ar draphont Crymlyn, 1914 23 Ebrill 2007 Fedal Edward am dewrder James Dally, yn gwisgo Medal Edward. Daw'r llun o Great Western Railway Magazine, Medi 1915. Ym mis Hydref 1914 achubodd James Dally un o'i gydweithwyr rhag syrthio 52m oddi ar draphont Crymlyn. Ym 1915 cafodd Fedal Edward am ei ddewrder. Ar 25 Chwefror 1915 anfonodd Frank Potter, Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd y Great Western (GWR), lythyr i'r Swyddfa Gartref oedd yn cynnwys adroddiad am ddigwyddiad ar draphont Crymlyn ger Trecelyn, Sir Fynwy, ac yn argymell y dylid dyfarnu Medal Edward, prif fedal Prydain am ddewrder sifil ar y pryd, i James Dally. Ar 28 Hydref 1914, roedd contactwyr G.W.R. yn peintio'r draphont. Roedden nhw'n defnyddio sgaffaldiau ar ffurf estyll oedd yn cael eu cynnal gan ben distiau llorweddol. Tua 5.00 pm, wrth i'r ddau ddyn symud y sgaffaldiau, torrodd un o'r pen distiau, a syrthiodd y fforman, Mr Skevington, 52m (175 troedfedd) i'w farwolaeth ar lawr yr iard nwyddau islaw. Llwyddodd yr ail ddyn, Thomas Bond, afael mewn estynnwr haearn oedd yn rhan o brif adeiladwaith y bont, ond roedd yn hongian yn yr awyr. Achub bywyd Traphont Crymlyn. Mae'r smotyn coch yn dynodi lleoliad y digwyddiad. Roedd James Dally, adeiladwr pontydd o Grymlyn gerllaw yn goruchwylio'r gwaith. Heb oedi dim, aeth ati i cropian oddi ar y gangwe cyn belled â'r rhwymiadau lletraws (8cm [3 modfedd] o led) rhwng trawstiau gwaelodol y prif hytrawstiau: "Gofynnais iddo godi ei goesau o amgylch yr estynnwr os oedd modd. Llwyddodd i wneud hyn. Wedyn gafaelais yn ei goesau a dweud wrtho i symud un llaw ar y tro; a dyna sut llwyddodd Bond i symud yn agosach at y gangwe. Pan oedd yn ddigon agos cefais well afael arno, ac yn y pen draw llwyddais i'w osod yn ddiogel ar y gangwe." Yn ôl y London Gazette, "The man would probably have lost his life had it not been for the courage and presence of mind shown by Dally." Doedd dim amheuaeth gan Bond: "Roeddwn i'n hongian yn yr awyr; pe na bai Mr Dally ar y gangwe ar y pryd, a phe na bai wedi gwneud beth wnaeth e, fydden i ddim wedi gallu achub fy hunan... Mae fy nyled i Mr Dally'n fawr, oni bai am ei anogaeth a'i ymdrech yn y fan a'r lle, byddwn i wedi diodde'r un dynged â Mr Skevington, heb os nac oni bai." Fedal Edward oddi wrth y Brenin Siôr V Medal Edward, Diwydiant, Ail Ddosbarth (efydd) James Dally, wyneb. Fel y digwyddodd, cafodd Dally ei Fedal Edward oddi wrth y Brenin Siôr V ar 12 Gorffennaf 1916. Cafodd y fedal ei chreu ym 1907 i gydnabod "gweithredoedd dewr mwyngloddwyr a chwarelwyr" ac ym 1909 penderfynwyd ei chyflwyno i gydnabod gweithredoedd dewr mewn diwydiannau eraill. Cafodd ei disodli gan Groes Siôr ym 1971. Roedd traphont Crymlyn 512m (1,680 troedfedd) o hyd ac yn codi tua 60m (200 troedfedd) uwchlaw afon Ebwy. Roedd yn rhan o estyniad Dyffryn Taf o Reilffordd Casnewydd, y Fenni a Henffordd, ac fe'i cwblhawyd ym 1857-58. Agorwyd y draphont ar 1 Mehefin 1857 ac erbyn 1863 roedd yn rhan o rwydwaith rheilffordd y Great Western. Cafodd ei dymchwel ym 1965-66. Darllen Cefndir For Those in Peril, gan Edward Besly. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2004). Gallantry: its public recognition and reward in peace and war at home and abroad gan A. Wilson a J. H. F. McEwen. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1939).
Caerdydd, Metropolis Glo a Llongau 18 Ebrill 2007 Caerdydd: y porthladd cynddiwydiannol. Dwy slŵp ar lannau afon Taf, fel y'u portreadwyd gan Paul Sandby yn 1776. Caerdydd: y porthladd diwydiannol. Awyrlun yn dangos y dociau gorffenedig yn eu cyfanrwydd tua 1948. Un o longau cargo nodweddiadol Caerdydd - SS Pontwen, a adeiladwyd yn 1914. Cyfnod y dirwasgiad. Llongau segur yn nociau Caerdydd tua 1930. Caerdydd: y porthladd wedi'i drawsffurfio. Bellach, saif datblygiadau adwerthol modern yn y man lle yr arferai glo gael ei allforio i bedwar ban byd. Ail Ardalydd Bute Yn 1862, allforiwyd 2,000,000 o dunelli metrig o lo o Ddociau Caerdydd ; erbyn 1913 roedd y cyfanswm hwn wedi codi i 10,700,000 tunnell fetrig. Y cyfnod hwn oedd yr oes aur cyn dirwasgiad y 1930au. Caerdydd, heb os, oedd tref ffyniannus Prydain ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd. Am ychydig flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y tunelli o gargo a drafodwyd yn y porthladd yn drech na thunelledd Llundain neu Lerpwl. Eto i gyd, ddiwedd y ddeunawfed ganrif, roedd '...two sloops trading to Bristol on alternate days' yn ddigon i drafod masnach Caerdydd! Beth fu'n gyfrifol am y trawsnewidiad hwn? Twf y diwydiant haearn ym mlaenau cymoedd de Cymru fu'r sbardun gwreiddiol i ddatblygiad Caerdydd fel porthladd. Yn 1794, cwblhawyd Camlas Morgannwg a gysylltai Caerdydd â Merthyr, ac yn 1798 adeiladwyd basn yn cysylltu'r gamlas â'r môr. Bu'r galw cynyddol am gyfleusterau doc priodol yn fodd i ddarbwyllo ail Ardalydd Bute, tirfeddiannwr mwyaf blaenllaw Caerdydd, i hyrwyddo'r gwaith o adeiladu Doc West Bute, a agorwyd ym mis Hydref 1839. Prin ddwy flynedd yn ddiweddarach, agorwyd Rheilffordd Dyffryn Taf . Glo ddisodli haearn O'r 1850au ymlaen, dechreuodd glo ddisodli haearn fel sylfaen diwydiannol de Cymru, pan ddechreuwyd cloddio gwythiennau dwfn Cwm Rhondda a Chwm Cynon. Ymhen dim o dro, glo rhydd de Cymru fyddai i gyflenwadau egni'r byd yr hyn yw olew heddiw, ac mor gynnar â 1862 câi 2 filiwn o dunelli metrig ei allforio. Agorwyd doc ychwanegol, yr East Bute, yn 1859, ond yn dilyn marwolaeth yr ail Ardalydd yn 1848 roedd ymddiriedolwyr Stad Bute yn orofalus ac yn gyndyn i fuddsoddi mewn cyfleusterau doc newydd. Arweiniodd y rhwystredigaeth yn sgil y diffyg datblygu yng Nghaerdydd at agoriad dociau cystadleuol ym Mhenarth yn 1865 a'r Barri yn 1889. Yn y pen draw, bu'r datblygiadau hyn yn gymhelliad i Gaerdydd weithredu a gwelwyd agor Doc y Rhath yn 1887, a Doc y Frenhines Alexandra yn 1907. Erbyn hynny, câi oddeutu 9 miliwn o dunelli metrig o lo y flwyddyn ei allforio, llawer ohono yn howldiau llongau cargo a oedd yn eiddo i berchnogion lleol. Cargoau o lo Llong ager gyntaf Caerdydd oedd y llong fach Llandaff a adeiladwyd yn 1865, a hon oedd y gyntaf o fflyd o longau ager a dyfodd yn gyflym ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn 1910, roedd tua 250 o longau cargo a oedd yn eiddo i gwmnïau adnabyddus megis Cory, Morel, Radcliffe, Tatem a Reardon Smith, oll o Gaerdydd. Bob dydd, arferai penaethiaid y cwmnïau hyn gwrdd yn y Gyfnewidfa Lo ysblennydd yn Sgwâr Mount Stuart er mwyn trefnu cargoau o lo ar gyfer eu llongau. Roedd y fasnach hon yn ei hanterth yn 1913, pan allforiwyd 10.7 miliwn o dunelli metrig o lo o'r porthladd. Rhyfel Byd Cyntaf Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd bri mawr ar y fasnach longau yng Nghaerdydd, ac yn 1920 roedd 122 o gwmnïau llongau mewn bod. Fodd bynnag, byrhoedlog fu'r cyfnod ffyniannus; roedd pwysigrwydd olew fel tanwydd llongau ar gynnydd ac ymhen dim o dro sicrhaodd telerau Cytundeb Versailles fod digonedd o lo iawn rhad yr Almaen ar gael ledled Ewrop. Erbyn 1932, pan oedd y dirwasgiad yn ei anterth, câi llai na 5 miliwn o dunelli metrig o lo ei allforio ac roedd dwsinau o longau a oedd yn eiddo i berchnogion lleol yn segur. Mewn gwirionedd, ni lwyddodd Caerdydd i ailgodi ar ei thraed wedi'r cyfnod o ddirwasgiad ac, er gwaethaf prysurdeb mawr y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gostwng fu hanes yr allforion glo, masnach a ddaeth i ben yn gyfan gwbl yn 1964. Porthladd Caerdydd heddiw Heddiw, mae pryd a gwedd porthladd Caerdydd yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd ganrif yn ôl. Trawsffurfiwyd y glannau yn gyfan gwbl gan yr argae sy'n cronni afonydd Taf ac El'i, gan greu llyn dŵr croyw mawr. Bellach, saif fflatiau drudfawr lle yr arferai craeniau glo sefyll, a disodlwyd tafarnau garw'r gymdeithas forwrol gan fistros parchus. Dau ddoc yn unig, y Rhath a'r Frenhines Alexandra, a gaiff eu defnyddio, ac er eu bod yn ffynnu - diolch i'w diddordebau byd-eang - dim ond dau gwmni llongau sydd ar ôl. Hyd heddiw, mae rhywfaint o fasnach mewn coed, olew, sgrap a chynwysyddion, ond mae'r dyddiau pan oedd y porthladd yn llawn llongau cargo dan orchudd o lwch glo wrth iddynt lwytho'r 'diemyntau du' a ddeuai o gymoedd de Cymru, wedi hen fynd heibio. Darllen Cefndir Cardiff and the Marquesses of Bute, gan John Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (1981). Cardiff Shipowners, gan J. Geraint Jenkins a David Jenkins. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1986). Coal Metropolis: Cardiff, 1970-1914, gan Martin Daunton. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caerlŷr (1977).
Achub gwrthrych Llychlynnaidd prin ar ôl 900 mlynedd o dan y dŵr 17 Ebrill 2007 Gweithgareddau deifio ar Graig Smalls (1992) Manylyn o anifail wedi'i ddarlunio o'r ochr ar un o ochrau dyrnfol cleddyf Smalls Manylyn o fwystfil ar frig gwarchodydd Smalls Cleddyf Smalls, tua.1100 O.C. Lleoliad Creigres y Smalls yn De-Orllewin Cymru Mae'r amgueddfa'n dal yr enghreifftiau hynotaf o gelf Lychlynnaidd hwyr i'w canfod yng Nghymru erioed. Darganfuwyd dyrnfol isaf cleddyf Llychlynnaidd, yn dyddio o tua 1100 OC, gan blymiwr hamdden ym mis Awst 1991. Daethpwyd o hyd i'r ddyrnfol ger Graig Smalls, - tua 13 milltir i'r gorllewin o Ynys Sgomer (Dyfed), â'r tir agosaf ato yw Ynys Gwales, tua 7 milltir i'r dwyrain. Dyma, felly, yw un o'r safleoedd archeolegol mwyaf anghysbell yng Nghymru. Wedi'i chastio mewn efydd a'i haddurno'n gain Castiwyd y ddyrnfol cleddyf mewn efydd, ac addurnwyd yr ochrau gyda phâr o anifeiliaid arddulliedig wedi'u darlunio o'r ochr, a'u plethu â bwystfilod tenau tebyg i nadroedd. Ar frig y ddyrnfol, mae dau anifail ceg-agored yn cnoi safle'r carn, a fyddai wedi estyn drwy'r ddyrnfol, ond sydd bellach wedi diflannu. Mae'r prif rannau addurnol yn frithaddurnedig â gwifrau arian, a llenwyd y cefndir yn wreiddiol gyda brithwaith du a elwir yn nielo, i ffurfio cynllun hardd o aur, du ac arian. Addurno yn arddull Urnes Gelwir yr arddull addurnol hwn yn Urnes, ac mae'r enw'n deillio o addurniadau eglwys fach bren, a adeiladwyd yn Urnes yng ngorllewin Norwy, tua 1060 OC. Mae'r darganfyddiad newydd sy'n cynnwys cernluniau cain a choeth o anifeiliaid yn ein hatgoffa nad morladron ac ysbeilwyr oedd y Llychlynwyr yn unig, ond crefftwyr a oedd yn creu celf llawn egni a bywiogrwydd a oedd yn seiliedig ar ffurfiau anifeiliaid. Mae'r addurno'n perthyn i waith metel a gynhyrchwyd yn Iwerddon o ail hanner yr 11eg ganrif, pan gipiodd ddychymyg y brodorion, fel mae Croes Cong (sy'n dyddio o tua 1123) a chysegrfa Sant Manchan (12fed ganrif) yn dangos. Ar ôl adnabod y darganfyddiad, dynodwyd y safle o dan Ddeddf Gwarchod Llongddrylliadau 1973, sy'n anelu i atal ymyrraeth anawdurdodedig ar safleoedd yr ystyrir eu bod o bwys archeolegol, hanesyddol neu artistig. Gan fod y darganfyddiad mor brin cafodd yr amgueddfa drwydded i wneud arolwg o'r safle. Roedd logisteg ymchwiliad o'r fath yn aruthrol o anodd, gydag ymchwyddiadau mawr yn rowlio i mewn o Fôr yr Iwerydd ac yn taro'r creigiau agored. Er gwaetha'r anawsterau hyn, bu'n bosibl archwilio'r ardal a gwneud cofnodion fideo a ffotograffig o amgylchedd tanddwr y riff, a chyd-destun tebygol y darganfyddiad. O ganlyniad i hyn, gwyddwn fod y safle wedi'i leoli i'r de o'r goleudy presennol, ar ben un o rigolau tanddwr y ffurfiannau basalt a dolerit sy'n ffurfio'r riff. Mae'n annhebygol bod y darganfyddiad hwn o eiddo personol gwerthfawr, mewn lleoliad o'r fath, yn cynrychioli colled bersonol a damweiniol. Yn hytrach, mae'n debygol ei fod yn cynrychioli llong, Llychlynnaidd mwy na thebyg, a ddymchwelodd ac a suddodd yn ystod mordaith hir mewn cyfnod pan oedd fflyd Dulyn yn ymosod yn gyson ar ganolfannau cyfoethog megis Tŷ Ddewi a Bryste. Roedd y llong yn symbol dramatig o ddiwylliant Llychlynnaidd, ac o edrych ar ddarganfyddiadau Llychlynnaidd eraill, mae'n bosibl bod y llong a gariai'r cleddyf wedi mesur rhwng 13 a 28 metr o hyd - naill ai llong fawr, denau a chwim ar gyfer rhyfela, neu long letach gadarnach ar gyfer cludo pobl a chargo dros bellteroedd hir. Drylliwyd nifer o longau ar Graig Smalls cyn dyfodiad cymhorthau mordwyol megis radar a goleudai, a byddai'n rhaid i unrhyw longau a deithiai i'r Iwerddon o arfordir de Cymru lywio cwrs yn ddigon pell i'r dde o Hats and Barrels er mwyn sicrhau eu bod yn osgoi'r creigiau peryglus rhwng ynysoedd Skockholm, Skomer a Grassholm, sydd i gyd yn enwau Scandinafaidd. Mae'r ffaith bod y darganfyddiad hwn mor anghyffredin, safon y grefft, a natur safle'r darganfyddiad, oll yn ffactorau sy'n taenu mwy o oleuni ar weithrediadau hynafol y Llychlynwyr ar hyd arfordir Cymru.