Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru Meinwen Ruddock-Jones, 28 Awst 2015 CyflwyniadCroeso i flog Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru. Wedi ugain mlynedd o weithio yn yr archif ac o bori trwy’r casgliadau mae’r amser wedi dod i mi blymio i ddyfnderoedd y cyfryngau torfol.Brawychus (efallai yn fwy felly i’r gynulleidfa nac i mi)! Felly a’m calon yn curo, a’m pengliniau yn siglo dyma fynd ati i ysgrifennu (a chadw’r bys yn hofran dros y botwm “Publish” am wythnos neu ddwy nes magu hyder) gyda’r gobaith o rannu rhai o berlau amhrisiadwy yr Archif Sain gyda Chymru a’r byd.Dechrau CasgluDechreuodd yr Amgueddfa gasglu hanes llafar yn y 50au hwyr ac erbyn hyn mae bron i 12,000 o recordiadau yn ein casgliad. Ers 1958 mae staff yr Amgueddfa wedi crwydro dros fryn a dôl, dros bont a thraffordd (ac wedi mynd yn sownd mewn ambell i gae) yn recordio trigolion Cymru yn trafod eu bywydau pob dydd, eu gwaith a’u diddordebau.PynciauYmysg y pynciau a drafodir ceir sôn am amaethyddiaeth, crefftau a geirfâu crefft, gwaith tŷ, bwydydd traddodiadol, meddyginiaethau gwerin, chwaraeon, storïau gwerin, canu gwerin, arferion tymhorol, arferion marw a chladdu a charu a phriodi, diwydiannau, tafodieithoedd y Gymraeg a diddordebau hamdden.Os hoffech wybod sut i olchi praidd o ddefaid neu lanhau sêt tŷ bach bren nes ei bod yn disgleirio, os ydych yn ysu am baratoi penglog ceffyl er mwyn creu Mari Lwyd neu wella gwlithen ar y llygad trwy ddefnyddio malwoden a draenen wen, mae’r manylion oll ar gadw yn ein harchif.Mae gennym atgofion coliers am geffylau ofergoelus yn y pyllau glo yn dwyn eu baco a’u diod o’u pocedi ac atgofion gwragedd am bobi teisen gwaed gwyddau a pharatoi ffagots a brôn. Mae gennym gasgliad eang o ganeuon gwerin a cherddoriaeth, o blant yn canu caneuon sgipio i recordiadau o gynulleidfaoedd yn canu pwnc.SiaradwyrRecordiwyd dros 5 mil o siaradwyr dros y blynyddoedd o Gaergybi i Gasnewydd ac o Dyddewi i Dreffynnon gan ddiogelu gwybodaeth heb ei hail ar gyfer y dyfodol.I’r ystadegwyr yn eich plith ceir 798 siaradwr â’r cyfenw Jones yn yr Archif, 415 Williams, 375 Davies, 297 Evans, 246 Thomas a 224 Roberts. Yr enw cyntaf mwyaf poblogaidd ymysg y dynion yw John (272 siaradwr) ac ymysg y merched ceir 144 Mary a 138 Margaret. Ganwyd ein siaradwr hynaf yn 1841 a ganwyd 6 o’n siaradwyr ar ddiwrnod Nadolig.Gobeithio bod y blog cyntaf hwn wedi ysgogi eich dychymyg ac wedi codi archwaeth am ragor.Hwyl am y tro
O'r Archif: Albwm Arbrofol Sara Huws, 27 Awst 2015 Casgliad RadicalCreadur archifol ydw i wrth reddf - dwi'n hapus iawn fy myd yn pori trwy hen recordiau, lluniau neu ddogfennau. Mae lloffa trwy 'stwff' yn bleser anghyffredin 'nawr 'mod i'n gweithio yn yr adran ddigidol - yn ddibapur, bron.Dwi wrth fy modd; boed yn gasgliad feinyl, yn gatalog gerdiau, neu'n bentwr o hen lythyrau a thocynnau o'r ganrif ddiwetha (mae'n scary gallu gweud hynna: "fues i i gig Levellers yn y ganrif diwetha". Ych.).Anwylaf ymysg yr archifau ma Archif Sgrîn a Sain y Llyfrgell Genedlaethol (sef ble bu Dad yn gweithio tan ei ymddeoliad) ac Archif Sain Ffagan. Yn Sain Ffagan, mae hanes y casglu radical, y synau cefndir, y tafodiaethau a'r lleisiau wedi fy hudo ers bron i ddegawd.Mae'n gasgliad cytbwys iawn hefyd, sy'n nodi gwerth hanes menywod ac yn rhoi lle i ni ddweud ein hanes yn eu geiriau ein hunain, i rannu'n caneuon a'u coelion. Dyw hanes-ar-bapur ddim yn gyfystyr rywsut, ein gwasgu i'r marjin neu'r troed-nodyn caiff ein lleisiau yn aml iawn. Rhaid nodi nad yw'n gasgliad hollol gynrychioladol, ond mae'r tîm wedi ymdrechu'n ddiweddar i wirio hyn, trwy gasglu hanesion llafar pobl LGBT, er enghraifft.Darganfod Llais fy NainWnai fyth anghofio dod o hyd i llais fy Nain yn eu plith. Bu Nain farw pan oeddwn i'n ifanc iawn, felly does dim cof gen i ohoni tu hwnt i luniau ohoni a'i barddoniaeth. Fy Nain ym 1926 © R I Hughes Roedd yn storïwraig o fri, a braint oedd cael copi ar CD ohoni yn adrodd rhai ohonyn nhw - a chlywed ei llais am y tro cynta fel oedolyn - nid yn unig am fod dawn dweud mor dda ganddi, ond am fod swn Taid i'w glywed yn y cefndir hefyd. Roedd ei lais llawer yn llai bas nag oeddwn i'n ei gofio o 'mhlentyndod, yn datgloi llond drôr o atgofion. Mi berswadiodd yr achlysur yma fi 'mhellach bod archifau yn llawn haeddu statws fel casgliadau ystyrlawn, a'u trin nid fel adnoddau cefnogol, ond fel casgliadau cyflawn sy'n haeddu cymaint o sylw mewn amgueddfa â gwrthrychau archaeolegol neu weithiau celf.Yr Archif HeddiwDw i wedi bod yn gweithio efo'r tîm ers sbel - Richard (@archifSFarchive) sy'n rhan o dîm @DyddiadurKate, a 'nawr efo Lowri a Meinwen, sy'n gofalu am y llawysgrifau a'r archif sain. Mae'n nhw ar ben ffordd efo'r blogio, felly gobeithio y gwelwn ni fwy ar ochr honno'r casgliadau ar-lein yn fuan. O fewn yr adran ddigidol, rydym ni'n brysur yn gweithio ar ail-wampio ein tudalennau am draddodiadau Cymreig, a deunydd archif. Tra bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, dwi wedi bod yn edrych yn fanylach at botensial y cyfryngau cymdeithasol i rannu clipiau sain gyda chynulleidfa ehangach.Rhannu Sain ar y Cyfryngau CymdeithasolRoedd y platfformau cymdeithasol sy'n rhedeg 'da ni - twitter, facebook a tumblr, yn rhy effemeral rywsut.Mae trydar yn rhy fyr-eu-hoedl, yn enwedig gan fod cymaint o gyfrifon cyfochrog yn rhedeg yn Sain Ffagan; a dengys ein data bod ein ffans ar facebook yn ymddiddori mwy yn ein rhaglen weithgareddau na'n casgliadau. Gallai rhywbeth â ffocws fwy penodol, fel hanes llafar neu ganu gwerin, fynd ar goll yn hawdd neu fethu ei darged.Felly, dyma ofyn i Gareth a Rhodri am eu profiad o rannu cerddoriaeth efo soundcloud, bandcamp ac ati. Penderfynais greu pecyn o recordiadau archifol oedd wedi'u paratoi'n barod yn defnyddio bandcamp, a rhyddhau y clipiau i gyd fel un grwp, yn hytrach na'u dosrannu fesul un ar y blog neu ar twitter. Rhinwedd bandcamp yw bod modd atodi mwy o wybodaeth, fel nodiant, geiriau a hanes y recordiad; a bod modd creu ffurff 'albwm'. Ro'n i hefyd yn awyddus i ddefnyddio'r ffwythiant 'tala os ti moyn' i weld a fyddai honno yn ffrwd roddion fechan y gallwn ni ei gwerthuso yn y dyfodol.Lawrlwytho Albwm Arbrofol Dyma hi te: O'r Archif: Caneuon GwerinCasglwyd y recordiadau yn bennaf gan Roy Saer, a threfnwyd y sain a'r nodiant gan Meinwen Ruddock-Jones yn yr archif. Ymchwilwyd y caneuon ymhellach gan Emma Lile. Mae'r clawr yn eiddo i'n casgliad celf, gwaith a briodolwyd i'r peintiwr teithiol W J Champan.Mi ddefnyddiais Canva i gaboli'r hen sgans o nodiant, ac i ychwanegu rhyw damaid am hanes yr archif. Os oes camgymeriad yn y llyfryn, felly, arna i mai'r bai am hynny! Mwynhewch, rhannwch, canwch, rhowch ac arbrofwch - ac os oes adborth neu gwestiwn 'da chi, dodwch nhw yn y sylwadau!
Bryn Eryr: troi tŷ yn gartref Dafydd Wiliam, 18 Awst 2015 Ers y blog diwethaf mae’r gwaith ar y safle wedi datblygu cryn dipyn. Rydym wedi gorffen y to gwellt ac mae camau olaf y gwaith tirlunio wedi dechrau. Mae banc pridd wedi’i godi o amgylch y ddau dŷ crwn i efelychu amddiffynfeydd cadarn gwreiddiol Fferm Bryn Eryr ar Ynys Môn. Adeiladwyd cysgod to glaswellt y tu ôl i’r tai a fydd yn cael ei ddefnyddio fel gweithdy awyr agored a gofod addysg ychwanegol. Mae’r waliau o ‘glom’ - sef cymysgedd o glai, isbridd a cherrig mân - yn union fel y tai crwn, ond mae’r to glaswellt yn esiampl arall o ddeunydd toi sydd bron mor hen â gwellt. Gosodwyd arwyneb cobl o flaen y tai crwn, sydd hefyd yn efelychu’r lleoliad gwreiddiol.Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn canolbwyntio ar ddodrefnu’r tai. Bydd y mwyaf o’r ddau yn gymharol wag (dim ond aelwyd a mainc bren yn dilyn y waliau) er mwyn ei ddefnyddio fel ystafell ddosbarth ac ardal arddangos. Mae’r tŷ llai yn dangos bywyd cartref fel yr oedd yn ystod Oes yr Haearn ac yn cynnwys dodrefn cyffredin i’r cyfnod – tân i gynhesu, gwely i gysgu, gwŷdd i greu dillad a blancedi - a cistiau pren yw storio, ynghyd a chrochan i goginio bwyd. Seiliwyd bron pob eitem ar esiamplau o’r cyfnod sydd wedi llwyddo goroesi dros 2000 o flynyddoedd. Mae’r grochan yn replica o lestr coginio copr a haearn a ganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach, prin 25km o Bryn Eryr, ac wrth y tân bydd fersiynau syml o’r brigwrn a ganfuwyd yng Nghapel Garmon yn Sir Ddinbych. Mae’r llestri pren wedi eu seilio ar rhai a ganfuwyd ym mryngaer Breiddin ym Meirionydd tra bod y maeniau melin yn efelychu y rhai a ganfuwyd yn Bryn Eryr ei hun. Rydyn ni wedi cynhyrchu set lawn o offer trin coed yn dilyn esiamplau o fryngaerau fel Tre’r Ceiri a Castell Henllys. Mae hyd yn oed y blancedi wedi eu copïo o ddarnau o ddefnydd sydd wedi goroesi.Gyda’r tŷ wedi ei ddodrefnu fel y byddai yn y cyfnod gallwn ni ddefnyddio’r lleoliad i ail-greu bywyd mewn tŷ crwn. Gyda chymorth crefftwyr, actorion a gwirfoddolwyr gallwn ni ddod i ddeall bywyd Oes yr Haearn yn well a helpu troi’r tŷ hwn yn gartref.
Flint in Egyptian Pharaonic Warfare Christian Baars, 11 Awst 2015 This is the summary of a talk Carolyn Graves-Brown from Swansea's Egypt Centre gave at the recent "Heritage in Turbulent Times" event at National Museum Cardiff.Studies of Bronze Age Egyptian weapons and warfare tend concentrate on metal weapons and ignore the part played by flint. Flint is not considered as attractive as copper or gold and in a milieu which is impressed by technological progress, metal is still considered superior. However, at least until the Early New Kingdom (c. the time of Tutankhamun or 1300 BC) there is strong evidence that flint weapons were standard military issue and far from being a primitive technology they were a natural choice for both utilitarian and ideological reasons.Despite the fact that many hundreds of artefacts were found in a possible armoury in an Egyptian fort sited in Nubia (modern Sudan) and the fact that contemporary artefacts are known from sites in Egypt, flint found on Egyptian sites is often explained away as either foreign or intrusive to New Kingdom contexts. However, in many instances flint is a good choice for weapon manufacture, particularly where a quick and ‘dirty’ fight is envisaged. Flint is sharper, arguably cheaper and often more deadly than metal. Warfare and flint also had an ideological importance, it is the ideal weapon of the sun-god Re and perfect for destroying the enemies of Egypt. I concur that metal was a component of warfare, but make a plea for the role of lithics.National Museum Wales and Cardiff University contribute to heritage preservation. If you would like to know more about "Heritage in Turbulent Times" please follow our blog.
Bringing the Seashore to Cardiff Katherine Slade, 7 Awst 2015 Cardiff Bay Beach/Traeth Bae Caerdydd wasn’t the only taste of the sea for people visiting Cardiff yesterday. Museum Scientists brought the seashore to museum visitors in one of our Natural Science family workshops. These drop-in sessions aim to give visitors a taste of the wildlife that you can find on your doorstep, in woodland, on meadows…or in this case on the seashore.More than 140 visitors looked down microscopes at seaweed, found out where on the shore different animals like to live, and sorted through many kinds of molluscs (such as top shells, periwinkles, slipper limpets, whelks, limpets, mussels), sea worms, starfish and sea urchins from the museum’s collections. Few people could resist popping the ‘bubble-wrap seaweed’ (Bladder Wrack) or counting the air bladders on the Egg Wrack to see how old it was. They found out which seaweed is used to make laverbread and which is used in their ice-cream!With over 870 miles of stunning coastline, Wales is a great place to explore the seashore. We hope that some of our visitors can get outside and discover some of the animals and plants for themselves.