Gearing up for a summer of family learning activities Grace Todd, 18 Gorffennaf 2013 Here in the Clore Discovery Centre we've been running round like crazy preparing to deliver a busy programme of Family Learning workshops throughout the summer holidays. Starting on Saturday 20th July we'll be running a different workshop every week for six weeks.Have a look at the photo below for a taste of what we (you!) will be creating!Every workshop links to an exhibtion,display or collection at National Museum Cardiff. The schedule for the six weeks is: Week 1 (July 20th - 26th)Dress to Impress Bronze Age Style Visit the Mold Cape for inspiration to create your own lunulaWeek 2 (July27th - Aug 2nd) Dress to Impress Bronze Age Style Visit the Mold Cape for inspiration to create your own Bronze Age ShieldWeek 3 (Aug 3rd - 9th) Fishing for the FutureDiscover what you can do to protect the fish in our seas and make some fish-inspired art to take home.Week 4 (Aug 10th - 16th) Mughal IndiaMake your own story inspired by work in the exhibition.Week 5 (Aug 17th - 23rd) Flying LizardsFind out more about Pterosaurs and make a flying lizard to take home.Week 6 (Aug 24th - Sept 1st) Pop ArtMake your own vinyl album cover inspired by works of art from the ‘Swinging Sixties’.These workshops will happen in the Clore Discovery Centre between 11am and 4pmThey are free, and are drop in sessions which means places may be limited at times! But worry not, we have a gallery full of awe inspring museum objects for you to explore through handling, as well as plenty of trails and worksheets.Hope to see you during the Summer!Dont forget to follow @cloreexplorer
Newid a Pharhâd Sara Huws, 11 Gorffennaf 2013 Dwi newydd fod yn lloffa trwy'r dudalen blogie - dwi heb wneud ers sbel a mae'n wych gweld cymaint o flogwyr newydd, yn trafod pynciau newydd yma. Da iawn bawb!Mae fy nghyfraniad i wedi bod braidd yn dameidiog, a dwi'n gobeithio y gallwch faddau hynny, annwyl ddarllenwyr.Er ein bod ni wedi bod wrthi'n gwneud lot o waith caib a rhaw yma yn Sain Ffagan, mae'r rhan fwyaf ohono di bod y 'tu ôl i'r llen' - gwaith technegol, manwl, efo darnau mawr iawn o bapur, yn hytrach na gwrthrychau. 'Dyn ni wedi bod wrthi yn cynllunio, yn gwerthuso a chofnodi, ac yn fuan iawn y byddwn ni'n dechrau gweld newid go-iawn ar y safle yn ei sgîl. Gwaith is-adeiledd ydi'r rhan fwyaf o'r hyn yr ydym wedi ei gwblhau, yn ogystal ag astudio dichonoldeb defnyddio signal 3G a wifi ar ein safle coediog, eang. 'Dyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorydd mewn hygyrchedd, i ddysgu sut y gallwn ni wneud yr amgueddfa'n le mwy croesawgar i amrywiaeth fwy eang o bobloedd. Ein bwriad ni yw i gadw naws arbennig yr amgueddfa, ond i wella'r cyfleusterau hefyd. 'Dyn ni'n trio bod mor agored a chyfranogol â phosib, felly 'dyn ni wedi bod yn gwrando ar farn gwahanol grwpiau mewn fforymau i bobl ifanc, athrawon a chrefftwyr. Mi fyddwn ni'n ail-wampio'r orielau hefyd, a dwi'n edrych ymlaen at gael gweld pa wrthrychau 'mae fy nghyd-weithwyr wedi eu dewis ar gyfer yr arddangosfeydd newydd.Yn y cyfamser, liciwn i gadw mewn cysylltiad â chi trwy'r blog - ond sut?A ddylwn i sgrifennu mwy am hanes yr adeiladau sydd yma'n barod? Neu ddangos yr rhai newydd wrth iddynt dyfu?Ddylwn i adrodd y straeon mawrion, neu hanes y rhyfeddode dyddiol? Beth am ein cynllunie i gynnal nosweithie preswyl a pherfformiadau? Mwy o Duduriaid? Llai o Duduriad?Dwi'n credu'n gryf y dylwn i ofyn, os nad ydw i'n gwybod. Felly dyma ofyn i chi: Beth hoffech chi ei weld ar y blog 'ma? Gadwch sylw os oes barn neu gais gennych chi - dwi'n edrych ymlaen at gael clywed beth sydd gennych i'w ddweud.
Beans on Toast Ciara Hand, 9 Gorffennaf 2013 3 primary schools took part in activities exploring the new Beans on Toast exhibition at the National Museum Cardiff last week.Pupils from Windsor Clive Primary School, Trelai Primary School and Ysgol Wirfoddol Abergwili explored where in the world our food comes from and how we can make sustainable choices about the food we buy. They then worked with an artist to create a 'World Food Stall' display to encourage discussion on the issues of food security back in school.Funding was received to work with the artist through the British Ecological Society.The exhibition will be open until 29 September 2013. Contact the Learning Department 029 2057 3240 if you would like to take part in future activities.http://www.museumwales.ac.uk/en/whatson/?event_id=6501
Dannedd Neanderthalaidd o Ogof Pontnewydd 9 Gorffennaf 2013 Adluniad ar ffurf paentiad o trigolion Neanderthalaidd cynnar. Gorfant plentyn tua 9 oed. Dant Neanderthalaidd cynnar (chwith), a llun pelydr-X (dde). Mae'r llun pelydr-X yn dangos ceudod bywyn mawr a fu'n gymorth i archaeolegwyr adnabod dannedd Pontnewydd a'u priodoli i ddynion Neanderthalaidd. Cloddiwyd Ogof Pontnewydd gan archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru rhwng 1978 a 1995. Codwyd y mur ar draws mynedfa'r ogof yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pryd y câi Ogof Pontnewydd ei defnyddio fel storfa arfau. Ogof Pontnewydd Wrth gloddio yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych, cafodd archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru hyd i'r gweddillion dynol cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru, esgyrn yn dyddio'n ôl tua 230,000 o flynyddoedd. Ym mherfeddion yr ogof y darganfuwyd y rhan fwyaf o'r pedwar dant ar bymtheg a gafodd eu sgubo danddaear gan ddŵr tawdd adeg enciliad y llen iâ a orchuddiai Gymru gyfan, yn ôl pob tebyg, yn ystod Oes yr Iâ. Yn ôl arbenigwyr yn yr Amgueddfa Byd Natur, Llundain, mae'r dannedd yn nodweddiadol o ddynion Neanderthalaidd cynnar. Neanderthalaidd cynnar Roedd y bobl Neanderthalaidd yn un gangen o goeden esblygol yr hil ddynol y credir iddi ddarfod tua 36,000 o flynyddoedd yn ôl. Yr un oedd eu hynafiad hwy â'r rhywogaeth y perthynwn ni iddi, ond ni esblygodd yr hil ddynol bresennol o'r bobl Neanderthalaidd. Roedd y dynion Neanderthalaidd yn gymharol fyr a byrdew a chanddynt wrymiau o dan eu haeliau, genau mawr sgwâr a dannedd sy'n fwy na'n rhai ni heddiw. Drwy astudio'r dannedd a ddarganfuwyd yn Ogof Pontnewydd sylweddolwyd eu bod yn cynrychioli pump o unigolion. Dannedd Neanderthalaidd Dengys lluniau pelydr-X o'r holl ddannedd yr un nodwedd ddiddorol, sef tawrodontiaeth - dannedd ac iddynt geudodau bywyn mawr a gwreiddiau llai. Mae tawrodontiaeth yn nodwedd neilltuol (ond nid unigryw) o ddannedd Neanderthalaidd, a chyffredinolrwydd y cyflwr hwn sydd wedi darbwyllo arbenigwyr mai pobl Neanderthalaidd oedd trigolion Ogof Pontnewydd ac nid bodau dynol cynharach. Roedd plant ifanc ac oedolion ymhlith y rhai oedd yn byw yn Ogof Pontnewydd. Y darganfyddiad mwyaf cyflawn y cafwyd hyd iddo ar y safle yw darn o orfant plentyn tua 9 oed. Yn y rhan hon o'r ên gellir gweld un dant sugno, sydd wedi'i dreulio'n arw, y drws nesaf i gilddant arhosol sydd newydd ymddangos. Bwyd y Neanderthal Ni chafwyd hyd i'r dannedd ar eu pennau eu hunain y tu mewn i'r ogof. Mewn cysylltiad â hwy, darganfuwyd arfau cerrig ac esgyrn anifeiliaid ag olion bwtsiera ar rai ohonynt - tystiolaeth mai'r esgyrn hyn oedd gweddillion prydau bwyd y dynion Neanderthalaidd cynnar a drigai yn yr ogof. Ni wyddys p'un ai a gafodd y bodau dynol hyn eu claddu'n wreiddiol mewn beddau yn yr ogof. Gwaetha'r modd, mae'r grymoedd a fu'n gyfrifol am gadw'r dannedd yng nghrombil Ogof Pontnewydd wedi dinistrio unrhyw olion o'r man lle roeddent yn gorwedd yn wreiddiol. Darllen Cefndir Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales gan S. Green ac E. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1991). In search of the neanderthals: solving the puzzle of human origins gan C. Stringer a C. Gamble. Cyhoeddwyd gan Thames and Hudson (1993). Pontnewydd Cave: a lower Palaeolithic hominid site in Wales: the first report gan H. S. Green. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984). Neanderthals in Wales: Pontnewydd and the Elwy Valley Caves gan by Stephen Aldhouse-Green, Rick Peterson and Elizabeth A. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Cymru a Oxbow Books (2012).
Gwyddowyr Gwych yng Nghwm Rhondda Danielle Cowell, 8 Gorffennaf 2013 Ysgol Gynradd Williamstown, yng Nghwm Rhondda, ddaeth yn gyntaf o’r chwedeg tri o ysgolion yng Nghymru a gymrodd ran yn ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn yr Amgueddfa eleni.Enillodd y dosbarth o Wyddonwyr Gwych daith natur i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, lle cawsant eu tystysgrifau. Fel rhan o'r daith, cawsant gyfle i astudio madfallod dŵr, chwilio am fwystfilod bach, gwylio ystlumod ac adeiladu nythod mawr yn y goedwig!Athro'r Ardd: ''Cafodd pob un o’r disgyblion ddiwrnod gwych a dylen nhw fod yn falch iawn o'r ffordd maen nhw wedi cynrychioli eu hysgol. Roedd y safon yn uchel iawn eleni; mae’r ysgolion i gyd yn gwella wrth gofnodi eu data. Gwnaeth Williamstown yn arbennig o dda gyda'u cofnodi ac wedi bod yn frwdfrydig iawn o'r cychwyn fis Tachwedd diwethaf tan ddiwedd y gwanwyn – a ddaeth yn hwyr iawn eleni!"Alison Hall, Athrawes yn Ysgol Gynradd Williamstown: "The pupils said it was the best day out they had ever had - they loved viewing the bat roost in particular! In terms of the investigation, the children have have loved the whole process from planting and recording to measuring and waiting for the first bloom to appear. It has been great for improving their science, numeracy and ICT skills. We are now really enthused about nature and the environment and are keen to set-up more outdoor investigations in our school grounds".Os hoffech chi gymryd rhan yn y project hwn y tymor nesaf, llenwch y ffurflen gais ar-lein: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1738/I weld ein hadroddiad gwerthuso gan athrawon (Saesneg yn unig), cliciwch ar y ddolen hon: https://scan.wufoo.com/reports/spring-bulbs-for-schools-evaluation-report/Fel y gwelwch o'r cwestiwn gwerthuso isod mae’r project yn drawsgwricwlaidd: