John Piper: Taith drwy Eryri Melissa Munro, 27 Ebrill 2012 John PiperJagged rocks under Tryfan Copyright John Piper Estate John PiperRock formations Copyright John Piper Estate Rhwng 1943 a 1950 aeth John Piper ar siwrnai artistig ddwys drwy fynyddoedd gogledd Cymru, gan gyfleu angerdd a gweledigaeth nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen. Mae afiaith a disgleirdeb yn y donyddiaeth a'r arlliwiau a drama pur ym mhob un o'r gweithiau. John Piper yw un o ffigyrau blaenllaw celf yr ugeinfed ganrif yng ngwledydd Prydain. Mae ei waith yn cynnwys portreadau, tirluniau, astudiaethau pensaernïol, bywyd llonydd, cerameg a chynlluniau ar gyfer tapestri a gwydr lliw. Aeth diddordeb Piper mewn tirluniau a phensaernïaeth ag ef i bob cwr o Brydain ond cafodd ei gysylltiad arwyddocaol cyntaf â gogledd Cymru tra'n gweithio fel artist rhyfel swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Chwarel Manod Mawr: storfa trysorau'r genedl yn ystod y Blitz Ym 1943, derbyniodd Piper gomisiwn gan y Pwyllgor Cynghori Artistiaid Rhyfel i gofnodi crombil chwarel Manod Mawr. Roedd ar y pryd yn storfa i gasgliadau Oriel Genedlaethol Llundain a'r Casgliadau Brenhinol i'w gwarchod rhag dinistr bomio'r Blitz. Roedd hi'n amhosibl tynnu lluniau na pheintio yng nghrombil yr ogof dywyll a rhoddwyd y gorau i'r comisiwn yn fuan wedyn. Er hynny, bachodd Piper ar y cyfle i grwydro'r Gogledd ymhellach. Bu hyn yn sbardun i gyfnod dwys o gofnodi mynyddoedd Cymru. Ysbrydoliaeth Turner a Wilson Gan ddefnyddio copi o lyfr A.C. Ramsay Old Glaciers of Switzerland and North Wales (1860) fel canllaw, teithiodd Piper drwy'r ardal yn cofnodi'r mynyddoedd. Drwy gydol ei gyfnod yng ngogledd Cymru, byddai'n aml yn defnyddio cyfeirlyfrau neu lyfrau daearegol o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Edmygai'r darluniau wedi'u hengrafu ynddynt, ac roeddent hefyd yn linyn cyswllt rhyngddo â'i hoff artistiaid o'r cyfnod, Richard Wilson (1714-1782) a J.M.W. Turner (1775-1851). Nid yn Eryri na'r Gogledd y dechreuodd teithiau peintio Piper i Gymru fodd bynnag, ond yn Sir Benfro a Sir Geredigion ym 1936. Y Flwyddyn ganlynol cynhyrchodd Pum Capel, 1937, cyfrwng cymysg ar bapur (casgliad AC-NMW). Pensaernïaeth eglwysi o orllewin Cymru Portreadir pum capel: Emmaus, Llanon, Rhos-goch, Rhydygwyn a Tyrhos. Cynhyrchwyd y pum collage yma drwy ddarlunio ar bapur wedi'i dorri a'i rwygo cyn ei ailadeiladu. Mae'n dangos ei ddiddordeb cynnar mewn pensaernïaeth eglwysi yn enwedig pensaernïaeth syml ond neo-glasurol capeli annibynnol Cymru. Piper yng ngogledd Cymru Yn ystod comisiwn aflwyddiannus Manod Mawr, dechreuodd Piper archwilio gogledd Cymru a darganfod lleoliadau fel Cader Idris a baentiwyd gan Wilson a Turner. Daeth y daith hon ag ef yn agos hefyd at Aran Fawddwy, testun ei waith olew trawiadol, Tarddle'r Ddyfi, 1943-44. Mae teitl y paentiad hwn yn cyfeirio at Greiglyn Dyfi, y llyn yn y blaendir a tharddle Afon Dyfi. Peintiodd Turner olygfa ychydig yn wahanol o Aran Fawddwy mewn llun dyfrlliw yn dwyn y teitl A bridge over the Dyfi near Dinas Mawddwy, with Aran Fawddwy beyond (casgliad yr Amgueddfa Brydeinig). Mae'r arddull haniaethol bron, y naws dywyll fygythiol a'r arlliwiau aur, melyn, glas a choch llachar yn y gwaith hwn yn debyg iawn i arddull Turner. Taenwyd haen o geso ar y gynfas a pheintio drosto ag olew. Mae hyn yn rhoi gwead garw iawn i'r gwaith, sy'n ein hatgoffa o erwinder y creigiau a'r tywydd. Ym 1945 dyma Piper a'i deulu yn llogi bwthyn o'r enw Pentre ac mae golygfa o'r tŷ o'r ffordd i'w weld mewn paentiad yn dwyn yr enw Nant Ffrancon Farm, 1950. Tŷ yng nghwm Nant Ffrancon ydyw, gyda bryn serth yn codi y tu ôl iddo a bu'r Pipers yn ei logi am £35 y flwyddyn. Dim ond llwybr mwdlyd oedd yn arwain at y tŷ bryd hynny, yn hytrach na'r ffordd goncrid a welir heddiw, a byddai bron yn amhosibl ei gyrraedd mewn tywydd gaeafol garw. Yn goron ar y cyfan, gan fod y tŷ wrth droed rhiw serth byddai glaw trwm yn achosi llifogydd. I felt then that I was seeing the mountains for the first time and seeing them as nobody had seen them before. John Piper quoted in Richard Ingrams and John Piper, Piper's Places, London, 1986 John PiperThe Rise of the Dovey Copyright John Piper Estate Stormydd a gaeafau Eryri Bu trafferthion a chaledi byw yno, hyd yn oed am gyfnodau byr, yn sbardun i'r teulu Piper symud i dy rhent arall o'r enw Bodesi tua 1947. Mae Bodesi wedi'i leoli ar draws y ffordd i Tryfan yn wynebu'r mynydd a Llyn Ogwen. Hwn oedd hafod, neu dŷ haf y perchennog, felly gallai'r teulu Piper ei ddefnyddio weddill y flwyddyn. Dyma pam fod y rhan fwyaf o baentiadau Piper o Eryri yn stormus a gaeafol. Roedd Bodesi yn leoliad da a cynhyrchwyd llu o baentiadau a darluniau o Tryfan. Mae Creigiau Garw dan fynydd Tryfan, 1949-50, yn esiampl wych o fanylder Piper yn dewis ffurfiau creigiau penodol ar Tryfan ac yn y cyffiniau. Tryfan Bach a welir yma, sydd wrth droed y mynydd ac i'r gorllewin ac mae ei ffurf ddanheddog yn debyg i'r Tryfan mwy. Mwy na thebyg taw patrymau wedi'u gadael ar y cerrig gan gen sydd wedi hen ddiflannu yw'r ffurfiau cylchog gwyn mewn gouache. Gwelir fflachiadau coch a melyn yn y blaendir ar waelod y paentiad. Weithiau maent yn pwysleisio ffurfiau'r creigiau ac weithiau yn dynodi'r cen 'melyn crôm ac oren crôm' fel y disgrifiodd Piper hwy yn ei nodiadau. Bu dylanwad y llyfrau canllaw o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sbardun i Piper ysgrifennu ei ganllaw ei hun i'r ardal, ond yn anffodus wnaeth y syniad fyth adael ei lyfr nodiadau, a gellir ei weld bellach yn archifau Tate Britain. Er na lwyddodd Piper i wireddu'i freuddwyd o gyhoeddi canllaw i Eryri, mae'n deg dweud iddo adael canllaw hudolus i ni yn ei baentiadau a'i ddarluniau. Caiff y gyfres hon ei hystyried ymysg goreuon ei holl waith. Yn y 1960au prynodd y teulu Piper dŷ o'r enw Garn Fawr yn Sir Benfro, ac mae ei waith Cymreig wedi hynny yn canolbwyntio ar Sir Benfro a de Cymru. Ni chafodd gyfnod mor ddwys o weithio yng ngogledd Cymru wedi hyn. Cysylltiadau Tate Britain Barc Cenedlaethol Eryri
Peregrines on the Clock Tower 2012 Peter Howlett, 24 Ebrill 2012 As with last year the Peregrines were around over the winter, I could see, or hear, them from the office most days. It seems August/September is when they are least visible, probably while they are moulting their feathers after the breeding season.The camera was back up and running in mid-March just in time to see the female start incubating eggs some time around the 20th.Let's hope that they have a better season than last year!
We have chicks! Peter Howlett, 24 Ebrill 2012 Or at least the Peregrines do. There was a worrying moment yesterday morning when I didn't see any activity around the nest for hours, I couldn't see a bird on the nest - and it was raining. I eventually saw the female at the nest late morning but she just had a cursory glance at the nest then flew off.She returned a little while later and then sat on the nest for the rest of the day. The male flew in a couple fo times and on one occasion I am pretty certain brought in a little lump of food. The female didn't stir but it's possible the chick hatched sometime yesterday (or over the weekend).When I switched the camera monitor on in my office this morning I saw the female was sitting on the nest then the male popped in with a morsel of food. The female stood on the edge of the nest, started tearing small chunks off and was stretching into the back of the nest to offer the food to the chick. This went on for about 10 minutes until the female resumed incubation.Peregrines normally lay 3-4 eggs and start incubating as soon as they lay the first one, which means the first egg laid hatches first. Assuming the other eggs hatch there will likely be more chicks over the next few days but it could be a couple of weeks before they are big enough to be seen over the rim of the nest.
Super Scientist Awards 2012 Danielle Cowell, 24 Ebrill 2012 Thirty eight schools across the UK are to be awarded Super Scientist Certificates on behalf of Amgueddfa Cymru - National Museum Wales in recognition for their contribution to the Spring Bulbs - Climate Change Investigation.Congratulations to all 1,625 pupils who have keep records and made observations to study climate change - each will receive a certificate and other prizes to celebrate their outstanding efforts. Certificates and prizes will be sent to schools by the 14th of May 2012. Many thanks to the Edina Trust for funding this project.Winners 2012: Each will receive a class trip of fun-packed nature activities! Westwood CP School in Wales Earlston Primary School in Scotland Fulwood and Cadley School in England Runner's up: Each to receive vouchers to purchase gardening equipment, certificates & seedlings. Christchurch CP School Saint Roberts Roman Catholic Primary School Sherwood Primary School St. Joseph's R C Primary (Penarth) Stanford in the Vale CE Primary School Woodplumpton St Annes C of E Primary Ysgol Nant Y Coed Highly commended schools: Each to receive certificates, sunflower seeds, salad seeds & flowers to attract butterflies. Channelkirk Primary Coleg Powys Ysgol Y Ffridd Ysgol Capelulo Lakeside Primary Maesglas Primary School Ysgol Clocaenog Ysgol Bro Ciwmeirch Ysgol Porth Y Felin Glyncollen Primary School Ysgol Pant Y Rhedyn Howell's School Llandaff Williamstown Primary school Ysgol Tal Y Bont Morfa Rhianedd Ysgol Deganwy Schools with special recognition: Each to receive, certificates, flowers to attract butterflies and salad seeds. Gordon Primary School Laugharne VCP School Milford Haven Junior school Ysgol Iau Hen Golwyn Oakfield Primary school Windsor Clive Primary Schools to be awarded certificates: Each to receive Super Scientist Certificates. Radnor Primary Brynhyfryd Junior School Bishop Childs CIW Primary School Eyton Church in Wales Primary School Ysgol Cynfran Ysgol Bodfari Many thanksProfessor Plantwww.museumwales.ac.uk/scan/bulbsTwitter http://twitter.com/Professor_PlantFacebook Professor Plant
Babis Gwyrdd yn Sain Ffagan! Hywel Couch, 24 Ebrill 2012 Dros y misoedd diwethaf rydym wedi cynnal cyfanswm o 5 diwrnod Babis Gwyrdd yn y T? Gwyrdd yma yn Sain Ffagan. Y syniad tu ôl i'r dyddiau Babis Gwyrdd oedd hybu ymarferion gwyrdd ac i leihau'r effaith amgylcheddol y gall godi babi gael. Er mwyn gyflawni hyn gwahoddwyd nifer o arbenigwyr mewn i'n helpu, fe hoffwn i ddiolch pob un ohonynt! Yn amlwg un o'r prif ffyrdd o leihau effaith amgylcheddol wrth fagu plentyn yw drwy ddefnyddio cewynnau y gellir eu hailddefnyddio. Mae hyn hefyd yn ffordd wych o arbed arian, tua £ 700! Mae'r cewynnau y gellir eu hailddefnyddio wedi symud ymlaen cryn dipyn ers dyddiau terry towelling a phinnau enfawr! Roedd yn wych gweld ymateb pobl pan ddangosir enghreifftiau o'r gewynnau ffansi newydd ac i glywed eu straeon! Felly, rhaid i mi roi diolch enfawr i'r 3 darparwyr cewynnau y gellir eu hailddefnyddio a helpasom ni dros y 5 diwrnod. Yn gyntaf oll i mamigreen sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd a ddaeth i helpu i ni ar y 2 ddiwrnod cyntaf Babis Gwyrdd. Yn ail diolch yn fawr iawn i Gemma o Little Gems Nappies (Pontypridd) a ddaeth i'n helpu dros 3 diwrnod yr wythnos diwethaf yn ystod gwyliau'r Pasg. A hefyd diolch yn fawr iawn i Melanie o Little Lion (ger Pen-y-bont ar Ogwr) am fenthyg i ni amrywiaeth o gewynnau a gellir eu hailddefnyddio er mwyn i ni ei harddangos! Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am gewynnau y gellir eu hailddefnyddio neu yn ystyried defnyddio nhw, yna edrychwch ar eu gwefannau. Maent i gyd yn ymdrin â'r rhan fwyaf o de Cymru ac yn ymgynghori dros y ffôn yn ogystal ag ymweliadau cartref! Roedd hefyd stondin gan Fairdos sef siop Masnach Deg yn seiliedig yn Nhreganna yng Nghaerdydd. Fel cyflenwr o bob math o nwyddau Masnach Deg roedd hwn yn gyfle gwych i arddangos eu dillad baban, teganau a bibiau o gotwm Masnach Deg. Diolch yn fawr iawn i'r gwirfoddolwyr Fairdos a roddodd eu hamser i staffio'r stondin! Y maes olaf buom yn eu trafod oedd bwyd babanod. Mae gwneud bwyd baban eich hun yn iach, yn rhad, ecogyfeillgar, ac rydych yn gwybod yn union beth sydd ynddo! Roedd gennym ddogfennau cyngor Llywodraeth Cymru a ryseitiau ar gael i'w darllen. Fe wnaeth llawer o ymwelwyr gofyn i ni lle gallent ddod o hyd i'r dogfennau eu hunain. Felly dyma ni ...Dogfennau CymraegDogfennau Saesneg Yn olaf, diolch enfawr i bawb a ddaeth i'n gweld yn ystod y digwyddiad ac am rannu eich gwybodaeth, yn enwedig y rhai a gymerodd ran yn ein cystadleuaeth drwy roi cyngor ar ein coeden syniadau Babis Gwyrdd! Cyn bo hir byddwn yn dewis enillydd a chysylltu â nhw er mwyn anfon gwobr iddynt