Tanwydd ar gyfer teithio i'r Antarctig: Cwmni Tanwydd Patent y Goron, Caerdydd

Jennifer Protheroe-Jones, 23 Gorffennaf 2010

Bloc o Danwydd Patent y Goron

Bloc o Danwydd Patent y Goron

Teithiau arwrol i gyfandir yr Antarctig

Cafwyd sawl taith arwrol i gyfandir yr Antarctig tua dechrau'r ugeinfed ganrif. Tanwydd Patent y Goron o'r De oedd y tanwydd a ddewiswyd ar gyfer yr allteithiau hyn i'r Antarctig.

Tanwydd Patent y Goron

Yn ogystal â derbyn 100 tunnell o lo stêm gan gwmnïau glo'r De, cafodd Alldaith Brydeinig Capten Scott i'r Antarctig 300 tunnell o flociau tanwydd gan Gwmni Tanwydd Patent y Goron Caerdydd. Diolch i hyn a'r nawdd arall a gafwyd o Gaerdydd a'r De, penderfynodd Scott ddynodi Caerdydd yn borthladd cartref ei long, y Terra Nova. Anfonodd y Terra Nova i lwytho tanwydd yng Nghaerdydd yn hytrach na'i anfon ar y trên i Lundain.

Roedd gwaith Tanwydd Patent y Goron ger camlas Morgannwg yn y Maendy. Roedd yn un o nifer ar hyd y gamlas, a diolch i'w cyfraniad nhw a chyfraniad nifer o weithfeydd eraill mewn porthladdoedd eraill yn y De, roedd y rhanbarth hwn yn cynhyrchu mwy o danwydd patent nag unman arall yn y byd. Cafodd y rhan fwyaf o'r tanwydd patent ei allforio, ac roedd Ffrainc yn un o'r prif gwsmeriaid.

Scott yn canmol llwyddiant y tanwydd patent

Er mwyn gwneud y tanwydd roedd rhaid cymysgu a chynhesu glo mân wastraff a phyg, gweddillion tar glo distyll, a chywasgu'r cymysgedd mewn mowldiau. Cynhyrchwyd blociau yn amrywio o 7 pwys i 56 pwys. Blociau 28 pwys oedd y rhai mwyaf cyffredin — a dyna'r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer alldaith Scott. Roedd modd pentyrru'r blociau yn rhwydd ac nid oeddynt angen cymaint o le â glo.

Pan gyrhaeddodd yr anturwyr eu prif wersyll yn Cape Evans ar Ynys Ross yn yr Antarctig, defnyddiwyd y blociau tanwydd i adeiladu wal gefn y stablau a godwyd ar gyfer merlod yr alldaith.

Teithiau cynharach

Ym 1901 derbyniodd llong y Discovery a ddefnyddiodd Capten Scott ar ei alldaith gyntaf i'r Antarctig 200 tunnell o Danwydd Patent yng Nghaerdydd. Roedd yr Aurora, llong Alldaith Awstralasia i'r Antarctig (1911-14) hefyd yng Nghaerdydd i dderbyn Tanwydd Patent y Goron ar 4 Awst 1911 cyn hwylio i Awstralia a'r Antarctig.

'Biodiversity - Who cares?' exhibition now at Cardiff

Mari Gordon, 22 Gorffennaf 2010

We’ve just finished setting up the exhibition ‘Biodiversity - Who Cares?’ in the Main Hall at National Museum Cardiff. It’s been a great opportunity for us to show off some more of the beautiful botanical models from our stored collections. The models have been skilfully crafted from beeswax, but you might mistake them for real plants when you first look at them. With around 1000 models in the collection to choose from, our only problem has been deciding which ones to display!

The exhibition has been created by the BioSyB Dept as a contribution to the International Year of Biodiversity. The exhibition looks at some of the ways in which we can help reduce the loss of biodiversity. Look out for this touring exhibition at other Amgueddfa Cymru venues during the rest of the year.

Annette Townsend

Yr Ebbw Vale Steel, Iron & Coal Company

20 Gorffennaf 2010

Sefydlwyd yr Ebbw Vale Steel, Iron&Coal Company yn y De ym 1790, ac roedd y cwmni yn cynhyrchu mwy o dunplat nag unrhyw le arall yn y wlad nes iddo gau yn 2002.

Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn adlewyrchu ar ddyfodol diwylliant yng Nghymru wrth adael

Mari Gordon, 19 Gorffennaf 2010

Bu Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, sydd ar fin gadael i ddechrau swydd newydd yn Seland Newydd, yn adlewyrchu ar ei amser fel pennaeth y corff drwy ddarlithio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar nos Fercher 14 Gorffennaf 2010.

Wedi saith mlynedd yn y rôl allweddol hon, bydd Mr Houlihan yn gadael yn yr wythnosau nesaf i ymgymryd â'r swydd fel Prif Weithredwr Amgueddfa Seland Newydd Te Papa Tongarewa. Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru'n gynharach yr wythnos hon bod David Anderson, Cyfarwyddwr Addysg a Dehongli Amgueddfa Victoria and Albert, wedi ei apwyntio fel ei olynydd.

I ddarllen y ddarlith gyfan, cliciwch yma.

Ffosil Ymlusgiad o Dde Cymru

Cindy Howells, 12 Gorffennaf 2010

Gweddillion yr ichthyosor ar ôl eu paratoi i'w harddangos

Gweddillion yr ichthyosor ar ôl eu paratoi i'w harddangos

Sbesimen gyda'r labeli yn dangos enwau'r esgyrn

Sbesimen gyda'r labeli yn dangos enwau'r esgyrn

Yn 2009, cafodd Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru sgerbwd ichthyosor newydd o Gymru, a ganfuwyd wedi'i gadw yng nghreigiau arfordir de Cymru.

Ddau gan miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Jwrasig cynnar, roedd de ddwyrain Cymru wedi'i orchuddio â môr bas, cynnes, yn llawn bywyd. Un o'r prif ysglyfaethwyr yn y dyfroedd hyn oedd yr ichthyosor, ymlusgiad morol diflanedig, a oedd yn edrych fel dolffin. Gallai'r anifeiliaid hyn gyrraedd dros 15m o hyd, ac roeddent yn ymosod ar bysgod bychain ac anifeiliaid morol eraill megis amonitau a belemnitau.

Darganfuwyd y ffosil nifer o flynyddoedd yn ôl, yn y creigiau ym Mhenarth, ger Caerdydd a chafodd Amgueddfa Cymru ef i'w arddangos yn gyhoeddus. I baratoi'r sbesimen ar gyfer ei arddangos, roedd angen oriau o waith manwl, gofalus i dynnu'r graig a oedd yn gorchuddio'r esgyrn ymlusgiad.

Ffosiliau prin

Mae esgyrn a dannedd unigol ichthyosoriaid yn ffosilau cymharol gyffredin yn ne Cymru, Dorset, a Gwlad yr Haf, yn ogystal â rhannau o Ganolbarth Lloegr a Swydd Efrog, ond mae sgerbydau llawn neu bron yn llawn yn fwy prin. Mae'r sbesimen a ddarganfuwyd ym Mhenarth yn cynnwys rhan isaf y pen ac un o'i aelodau sy'n debyg i rwyf, yn ogystal â darn o'r ysgwydd a nifer o asennau.

Ar ôl iddo farw, claddwyd yr anifail yn y gwaddodion ar wely'r môr, gan ei achub rhag cael ei ysglyfaethu gan anifeiliaid eraill.

Bydd y sgerbwd hwn o gymorth i'n dealltwriaeth o fywyd Jwrasig yng Nghymru. I ddysgu mwy am ichthyosoriaid a bywyd yn y cyfnod Jwrasig, ewch i arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.