1950s designs Sian Lile-Pastore, 25 Chwefror 2010 The half term workshops looked at pattern and design from the 1950s (which tied in with the current Italians in Wales exhibition). We looked at numerous examples of design from Italy (such as Bruno Munari) and other famous designers such as Lucienne Day as well as clothing and fabrics from our collection. Taking these patterns as inspriation everyone created fantastic artwork using collage and print (potato prints, monoprints and stencils) and some of the pictures that were made are shown below. More pictures to come!
Fesul dipyn, mae�r egin yn dod� Danielle Cowell, 20 Chwefror 2010 Yn gynnar yn Rhagfyr roedden ni’n edrych ymlaen i gael gwanwyn cynnar, ond yna daeth y tywydd oer i arafu pethau. Nawr, gyda’r tymheredd yn codi’n araf, mae gwyddonwyr yr ysgolion yn adrodd am arwyddion newydd o’r gwanwyn ledled Cymru! Mae fy egin innau wedi dechrau dod i’r golwg hefyd!Yn Ysgol Gynradd Pentrepoeth, Abertawe. Roedd disgyblion wrth eu bod eu bod wedi ffeindio crocysau, cennin Pedr a bylbiau dirgel yn pipio drwy’r pridd. Fe’u synnwyd cymaint roedd eu hegin yn amrywio mewn maint, ac roeddynt wrth eu bodd yn cofnodi manylion y tymheredd a’r glaw.Ar y fferm y Really Welsh, ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae ffermwyr wedi dechrau pigo cennin Pedr a’u hanfon i bob cwr o dde Cymru. Meddent: 'Does dim llawer iawn ohonynt ar hyn o bryd i ddweud y gwir, rydyn ni’n siomedig iawn pa mor araf mae’r cennin Pedr yn tyfu eleni. Rydyn ni tua 5 wythnos ar ei hol hi ar gyfer y mathau cynharaf, ac yn croesi’n bysedd y bydd gyda ni ddigonedd o gennin Pedr ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi’. Enillwch drip i un o ffermydd y cwmni Really Welsh Cystadleuaeth tynnu llun o Gennin Pedr Cylchlythyr Syniadau ar gyfer ymchwilio Blog Bylbiau Athro’r Ardd:20/02/10 Agorodd fy nghrocws heddiw! Daeth eginyn y blodyn cyntaf i’r golwg, yna, pan ddaeth yr haul allan amser cinio - agorodd y blodyn. Roedd y lliwiau’n anhygoel, petalau piws llachar a brigerau a stigma oren llachar. Mae’n braf iawn cael ychydig o liw yn yr ardd o’r diwedd. Yn hwyrach yn y prynhawn, wrth i’r heulwen ddiflannu, caeodd y blodyn eto. Byddaf yn rhoi’r lluniau ar y wefan fory. Ydy’ch crocws chi’n gwneud hyn? Beth am roi cynnig ar rai o fy syniadau ymchwilio i? Gweler y ddolen isod.15/02/10 Mae egin fy nghennin Pedr a’r crocysau wedi dechrau dod drwodd. Nid ydynt ddim talach na 2cm, sydd yn eithaf bach am yr amser yma o’r flwyddyn. Yn 2008, pan oedd y gaeaf yn fwyn, roedd blodau fy nghrocws eisoes wedi agor ac roedd y cennin Pedr yn 11cm o daldra!Pa egin yw pa un? Mae gan egin cennin Pedr flaenau llyfn, gwyrdd golau. Maent yn llawer lletach na blaenau’r crocysau. Mae gan egin y crocws egin main, pigog sy’n ymddangos mewn clystyrau o bump fel arfer. Mae ganddynt ymylon gwyrdd tywyll - sy’n eu gwneud i edrych ychydig yn streipïog.
Trysor Cudd Sara Huws, 19 Chwefror 2010 Fe ddaeth yr alwad ar bnawn Llun: "Mae o yn y post. Fydd o gen ti mewn tridie". Geiriau braf i'w clywed i gîc fel fi: roedd y thuseur yn post ac ar ei ffordd! Cyn i mi fynd ymhellach, gai esbonio mai llosgwr arogldarth, neu incense yn Saesneg, yw thuseur. Mae'n siâp cawg, ac wedi'i gysylltu at gadwyn, i'r arogldarth gael ei chwifio 'nôl a mlaen. Caiff arogldarth ei ddefnyddio mewn eglwysi, temlau, ac allorau ar hyd a lled y byd hyd heddiw. Mae'r aroglau cryfion hyn yn gallu bod yn rhan bwysig o brofiad yr addolwr o adeilad, neu fan, sanctaidd. Byddwn yn clywed o hyd sut 'mae synnwyr arogl yn gallu agor rhannau cyfrin o'r cof. Mae'r gymysgedd o Thus, Myrr ac olewau sitrws a gaiff eu llosgi mewn llawer o Eglwysi Catholig yn gymysgedd o aroglau trymion, a rhai ohonynt wedi eu defnyddio mewn seremonïau a phersawrau ers oes yr Eifftiaid cynoesol a thu hwnt. Er nad yw'r arogl yn deffro cymaint o atgofion â bara ffres, neu mothballs, mae'r arogl gyfoethog yn medru arwain y dychymyg ar drywydd troellog yn ôl drwy hanes. Nawr, cyn mod i'n dechre swnio'n rhy debyg i hysbyseb shampŵ, gadewch i mi gyfadde': rwy'n sgut am arogldarth. Dim unrhyw arogldarth chwaith. Fe fyddai'n cerdded yn ffroenuchel heibio'r conau a'r brigau llachar ac yn anelu am yr ystor (resin). Caiff ystor ei gasglu, gan amla, ar ffurf nodd (sap) o goed arbennig. Mae gan bob math ei nodweddion a'i hanes unigryw. Mae Thus yn debyg i ddagrau ambr, meddal. Myrr, wel, mae hwnnw'n debycach i hen gragen pili-pala. Mae Damar, ar y llaw arall, yn edrych fel pear drops ac yn arogli fel neithdar a sitrws ysgafn... Ta waeth am hynny - 'nôl at y thuseur! Mae'n un ni yn replica, a bydd yn cael ei ddefnyddio yn Eglwys Teilo Sant. Rydym ni wedi gwneud arbrofion yn y gorffennol, ac wedi cael ymateb positif a negyddol. Roedd rhai yn credu bod yr arogl yn ychwanegu at lonyddwch yr adeilad. Rhuthrodd rhai yn syth allan trwy'r drws ar ôl dechrau peswch. Nododd rhai eu bod yn teimlo'n anghyfforddus, efallai oherwydd eu daliadau crefyddol personol. Fe fyddwn ni'n defnyddio'r thuseur newydd pan fyddwn ni'n ceisio ail-greu ein gwasanaeth Tuduraidd cyntaf eleni (mwy am hynny rywbryd eto...). Byddwn hefyd yn defnyddio cerddoriaeth o'r cyfnod a litwrgi Lladin, i weld a allwn ni ail-greu naws gwasanaeth eglwysig Cymreig ym 1500. Yr unig drafferth ar hyn o bryd yw'r ffaith fod y Curadur a gomisiynodd y thuseur ar ei wyliau. Mae'r parsel mawr yn eistedd yn yr ystafell ddur. Dwi'n ceisio bod yn ddisgybledig a pheidio â phipio y tu fewn. Byddai hyn yn reit anodd, ta beth, am nad oes allweddi gennyf. Bydd rhaid i ni aros, felly, tan ddydd Llun i'w agor. Fe fyddaf yn recordio'r cyfan, felly cofiwch alw 'nôl i gael golwg arno!
Creative art workshop Sian Lile-Pastore, 19 Chwefror 2010 We've been making amazing prints and collages throughout the week. I'll put up all the rest of the work next monday and tuesday! Thank you to everyone who came to the workshops and I hope you enjoyed them!
Dogfennu'r Gorffennol - Archif Gohebiaeth Tomlin 15 Chwefror 2010 John Read le Brockton Tomlin oedd un o'r casglwyr cregyn uchaf ei barch yn ei gyfnod. Gan Amgueddfa Cymru mae ei gasgliad helaeth o gregyn ac archif ei ohebiaeth. Amcangyfrifir fod yr archif yn cynnwys ymhell dros fil o ddogfennau yn dyddio o ddechrau'r 1800au i ganol y 1900au. Mae'n gasgliad o'r holl ohebiaeth rhwng Tomlin a nifer o'i gymdeithion cregyn ledled y byd. Gwnaed nifer o ddarganfyddiadau diddorol wrth gatalogio'r archif hwn. Eglurwyd agweddau o fywydau'r casglwyr, gan adrodd am deithiau darganfod, afiechyd a chaledi personol, rhyfel, gwahoddiadau cinio a chardiau Nadolig. Mae dewis o eitemau o'r archif ar gael isod. Golwg agos: Llun o'r casglwr cregyn o Japan, Shintaro Hirase, ei wraig a'i chwech o blant. Golwg agos: Llythyr oddi wrth Yoichiro Hirase yn dweud sut arweiniodd ei afiechyd at gau ei amgueddfa yn Kyoto, Japan. "Rwy'n aml yn teimlo poen difrifol yn yr abdomen, a thwymyn. Mae'n bwysig iawn i mi orffwys yn llwyr, ac rwyf, felly, yn gorfod bod yn llonydd a gorwedd yn dawel yn y gwely". Golwg agos: Cerdyn Nadolig oddi wrth William Evens Hoyle, cyfarwyddwr cyntaf Amgueddfa Cymru, 1909-1926. Golwg agos: Cyfarchion y tymor a cherdd! "Here, direct from a Ceylon friend A Butter-firkin cone I send. 'Tis said to be the largest known, (Well, friend, that's not for me to own) Linnaeus, Martini, Sowerby, Reeve, Might have a bigger up their sleeve. If this should prove the largest size 'Twould be to me a great surprise. Notice its bulk and elevation, ("The finest Betulinus in Creation"). Golwg agos: Llythyr oddi wrth y casglwr cregyn Americanaidd, Joseph Emerson, yn cyhoeddi ei ymddeoliad. "...Rwyf bellach yn 86 a hanner mlwydd oed, ac mae'n rhaid i mi ffarwelio gyda'r gwaith yr wyf yn ei garu ac wedi cyfranogi ynddo cyhyd. Mae'n ormod o dreth ar fy nerfau...". Golwg agos: Gwahoddiad i ginio "Bydd eog hallt, darn o gig oen a salad yn barod ar eich cyfer yma am chwech yfory". Golwg agos: Gwahoddiad oddi wrth y Parchedig Ellerton Alderson i Tomlin, yn cynnig ymweliad gyda'i dŷ yng ngorllewin Sussex. "Mae'r orsaf rheilffordd agosaf yn Goring yn ddiwerth i bob pwrpas, y gwasanaeth trên, fel y dywedwch, yn 'bwdr' ". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Cerdyn post oddi wrth W. Junk, Berlin, 18 Ebrill 1933. "Er gwaethaf fy ngwreiddiau Iddewig, nid wyf wedi dioddef aflonyddwch". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Cerdyn post gan y casglwr a deliwr cregyn Almaenaidd, Martin Holtz, 1 Chwefror 1928. "Erbyn y rhyfel, fodd bynnag, mae fy holl fodolaeth wedi'i ddinistrio, ac yn arbennig fel naturiaethwr, teithiwr a deliwr. Heb fodd a heb gefnogaeth, nid oes modd i mi barhau gyda'm menter wyddonol". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Cerdyn post oddi wrth y cregynegwr o Japan, Yoichiro Hirase, 1 Rhagfyr 1918. "Dymunaf i chi'r Nadolig mwyaf llawen a'r flwyddyn newydd hapusaf, gyda phob math o lwc dda, yn arbennig ar yr achlysur hwn pan fo golau siriol heddwch wedi cychwyn gwawrio i yrru'r cymylau diflas o ddychryn ac arswyd i ffwrdd, y rhai a fu'n drwm dros yr holl fyd am bedair blynedd a hanner, a achoswyd gan y Rhyfel Ewropeaidd mawr, yr ysgytwad hyllaf a'r helaethaf a brofwyd erioed ar y ddaear". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth y cregynegwr Americanaidd Walter Eyerdam, 4 Awst 1935. "Ymddengys fod fy ngwraig wedi'i hysbrydoli gan y system newydd a weithredwyd gan Adolf Hitler ac adfywiad y cynnydd a'r Ysbryd cenedlaethol ymysg Almaenwyr. Fy nymuniad gwirioneddol yw na fydd rhwyg eto rhwng yr Almaen a Lloegr...". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth La Société Guernesiaise, 12 Hydref 1946. "Roeddem yn bwyta cregyn meheryn pan oedd rhai ar gael, roedd yr Almaenwyr hefyd yn eu bwyta yn ystod rhan ddiwethaf eu harhosiad pan na gyrhaeddodd eu bwyd ar ôl D. Day". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth Labordy Cefnforeg yr Alban, Caeredin. 4 Chwefror 1918. "Ni fu unrhyw ddeunydd yn fy labordy yn anoddach cyrraedd ato erioed nag ydyw ar hyn o bryd dan amodau rhyfel. Nid oes gennyf staff (oll yn gwasanaethu neu wedi'u lladd), ac mae'n amhosibl i mi drin y Molysgiaid yr ydych yn gofyn amdanynt". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd Anrhydeddus y Pwyllgor Rhyfel Bioleg, 4 Rhagfyr 1944. "Buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai modd i chi roi unrhyw wybodaeth i mi ar ddosbarthiad cregyn bylchog neu folysgiaid eraill a all ddal nofwyr neu beri anghyfleustra iddynt". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Portread o Arthur Douglas Bacchus. Bataliwn Cartref (Adfyddin), Barics Combermere, Windsor. 17 Ionawr 1917 Teithiau a Gwyliau: Llythyr oddi wrth C. Hughes yn disgrifio ei wyliau yn yr Amerig, 19 Ebrill 1892. "Roedd ein taith i'r Amerig yn hudol! ...Roedd y Grand Canyon yn syfrdanol...". Teithiau a Gwyliau: Cregynegwr Americanaidd, Junius Henderson, yn casglu molysgiaid yn Colorado. "Rhyw fath o gregynegwr mewn trowsus lledr fel cowboi, yn casglu molysgiaid ar Grand Mesa, Colorado...". Teithiau a Gwyliau: Llythyr oddi wrth y cregynegwr o Awstralia, Charles Hedley, yn adrodd am wyliau hir yn Affrica. 11 Ebrill 1925 "Crwydrais yn hamddenol drwy Great Rift Valley, un o ryfeddodau daearegol y byd". Teithiau a Gwyliau: Parhad o'r llythyr oddi wrth Theodore Dru Alison Cockerell, 19 Tachwedd 1927. "Gadawyd y cwch ym Mhort Said ac aethom i ddinas Cairo gan weld y Pyramidiau a'r Sphinx. Mae'r gwrthrychau yn Amgueddfa Cairo yn fwy ysblennydd nag y gall y lluniau ddangos...". Teithiau a Gwyliau: Llythyr a ysgrifennwyd ar y môr gan Theodore Dru Alison Cockerell. 'Gadael Bab-el-Mandeb' (culfor rhwng Yemen, Djibouti ac Eritrea), 19 Tachwedd 1927 "Rwy'n darlunio ochrau'r dopograffeg ar ddwy ochr Bab-el-Mandeb. Mae'n folcanig ac yn rhyfeddol o debyg i ynysoedd lleiaf Madeira." Teithiau a Gwyliau: Anthony Arkell — Sudan (c. 1925) Casglwyr a Chasglu: "Just me in one of my dreams". Thompson van Hyning — Amgueddfa Talaith Florida, 27 Ebrill 1925. Casglwyr a Chasglu: Llun o gyfarfod yn Vienna, Gorffennaf 1930. Casglwyr a Chasglu: Y casglwyr Phillipe Dautzenberg, Charles Hedley a Henri Fischer - Paris, Hydref 1912. Casglwyr a Chasglu: Y casglwyr Emery ac Elsie Chace a Daniel Emery - St Petersburg, Florida. Casglwyr a Chasglu: Y casglwr Ffrengig Eugène Caziot, 1923. Casglwyr a Chasglu: John Wesley Carr o Amgueddfa Hanes Natur, Nottingham. Casglwyr a Chasglu: Y cregynegwr amatur, Henry Burnup a setlodd yn Ne Affrica yn 1894. Casglwyr a Chasglu: Y casglwr Prydeinig Arthur Edwin Boycott, 1925. Casglwyr a Chasglu: Y casglwr Americanaidd, Frank Collins Baker yn ei gasgliad. Casglwyr a Chasglu: Y casglwyr Robert Tucker Abbott, Bill Clench ac Emery Chace - San Pedro, 1940.