Fesul dipyn, mae�r egin yn dod� Danielle Cowell, 20 Chwefror 2010 Yn gynnar yn Rhagfyr roedden ni’n edrych ymlaen i gael gwanwyn cynnar, ond yna daeth y tywydd oer i arafu pethau. Nawr, gyda’r tymheredd yn codi’n araf, mae gwyddonwyr yr ysgolion yn adrodd am arwyddion newydd o’r gwanwyn ledled Cymru! Mae fy egin innau wedi dechrau dod i’r golwg hefyd!Yn Ysgol Gynradd Pentrepoeth, Abertawe. Roedd disgyblion wrth eu bod eu bod wedi ffeindio crocysau, cennin Pedr a bylbiau dirgel yn pipio drwy’r pridd. Fe’u synnwyd cymaint roedd eu hegin yn amrywio mewn maint, ac roeddynt wrth eu bodd yn cofnodi manylion y tymheredd a’r glaw.Ar y fferm y Really Welsh, ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae ffermwyr wedi dechrau pigo cennin Pedr a’u hanfon i bob cwr o dde Cymru. Meddent: 'Does dim llawer iawn ohonynt ar hyn o bryd i ddweud y gwir, rydyn ni’n siomedig iawn pa mor araf mae’r cennin Pedr yn tyfu eleni. Rydyn ni tua 5 wythnos ar ei hol hi ar gyfer y mathau cynharaf, ac yn croesi’n bysedd y bydd gyda ni ddigonedd o gennin Pedr ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi’. Enillwch drip i un o ffermydd y cwmni Really Welsh Cystadleuaeth tynnu llun o Gennin Pedr Cylchlythyr Syniadau ar gyfer ymchwilio Blog Bylbiau Athro’r Ardd:20/02/10 Agorodd fy nghrocws heddiw! Daeth eginyn y blodyn cyntaf i’r golwg, yna, pan ddaeth yr haul allan amser cinio - agorodd y blodyn. Roedd y lliwiau’n anhygoel, petalau piws llachar a brigerau a stigma oren llachar. Mae’n braf iawn cael ychydig o liw yn yr ardd o’r diwedd. Yn hwyrach yn y prynhawn, wrth i’r heulwen ddiflannu, caeodd y blodyn eto. Byddaf yn rhoi’r lluniau ar y wefan fory. Ydy’ch crocws chi’n gwneud hyn? Beth am roi cynnig ar rai o fy syniadau ymchwilio i? Gweler y ddolen isod.15/02/10 Mae egin fy nghennin Pedr a’r crocysau wedi dechrau dod drwodd. Nid ydynt ddim talach na 2cm, sydd yn eithaf bach am yr amser yma o’r flwyddyn. Yn 2008, pan oedd y gaeaf yn fwyn, roedd blodau fy nghrocws eisoes wedi agor ac roedd y cennin Pedr yn 11cm o daldra!Pa egin yw pa un? Mae gan egin cennin Pedr flaenau llyfn, gwyrdd golau. Maent yn llawer lletach na blaenau’r crocysau. Mae gan egin y crocws egin main, pigog sy’n ymddangos mewn clystyrau o bump fel arfer. Mae ganddynt ymylon gwyrdd tywyll - sy’n eu gwneud i edrych ychydig yn streipïog.
Yr oerfel mawr Chris Owen, 18 Ionawr 2010 Am newid yn y tywydd ers fy mlog diwethaf! Cyn Nadolig roeddem yn sôn am y tywydd gwlyb a thwym a sut roedd y bylbiau wedi dechrau tyfu'n gynnar fel canlyniad.Ers hynny syrthiodd y tymheredd a daeth eira dros y wlad. Caewyd y rhan fwyaf o'r ysgolion a chafodd ein gwyddonwyr ifainc gyfle i chwarae yn yr eira. Ar gyfer yr ysgolion a oedd ar agor roedd problemau cofnodi gyda thermomedrau rhewedig a bylbiau dan eira dwfn.Felly beth mae'r tywydd oer hwn yn ei feddwl ar gyfer ein bylbiau, y ffermwyr a chynhesu byd-eang?Ar gyfer y bylbiau: Os dechreuodd eich b?lb dyfu cyn Nadolig bydd fwy na thebyg yr un uchder heddiw. Peidiodd â thyfu nes i'r tywydd gynhesu. Mae'n bosibl bod rhai planhigion wedi'u niweidio gan y rhew ac felly ni flodeuant ond dylai'r rhan fwyaf flodeuo'n iawn.Dywedodd ffermwyr o'r fferm Really Welsh: ‘Fel arall byddem wedi dechrau pigo'r math cynharaf o gennin Pedr yn barod ac erbyn hyn byddent wedi mynd i'r archfarchnadoedd. Ond fel y gwelwch o'r llun a dynnwyd o'r fferm, nid ydynt yn agos at fod yn barod. 'Roedd rhai o'r cennin Pedr ryw wythnos neu ddwy ar y blaen ddiwedd Tachwedd ond nid ydynt wedi tyfu o gwbl ers cyn Nadolig. Mae angen ar gennin Pedr dymheredd uwch na 6 gradd er mwyn iddynt dyfu. Os yw'r tywydd yn parhau ni fydd gennym unrhyw gennin Pedr am ychydig o wythnosau.’Ydy cynhesu byd-eang yn digwydd o hyd? Camgymeriad hawdd yn y tywydd oer byddai anghofio bod ein planed yn cynhesu ond yn anffodus mae'n wir o hyd y bydd y tymheredd ar y cyfan yn codi fel bod lefelau carbon deuocsid yn cynyddu. Y tymheredd ar y cyfan yw'r allwedd i ddeall cynhesu byd-eang. Bydd rhai gaeafau o hyd yn oerach a rhai hafau o hyd yn dwymach. Amrywiaeth naturiol yw hynny. Ond wrth edrych ar dymheredd ein planed ar gyfartaledd dros y ganrif ddiwethaf mae'n bendant yn codi ac nid oes gan wyddonwyr unrhyw amheuaeth na fyddant yn parhau i godi.Ar gyfer Cymru nid yw cynhesu byd-eang yn golygu mwy o haul ond hafau twymach a gwlypach a thywydd mwy cyfnewidiol fydd yn cynnwys llifogydd sydyn a stormydd.Cennin Pedr o Daiwan. Dyma lun a anfonwyd atom gan Chao-mei, athrawes o Daiwan sy'n dysgu am yr amgylchedd. Dywed: Hylo, Athro'r Ardd. A wyddoch chi fod y cennin Pedr wedi blodeuo yn Nhaiwan? Mae'n f'atgoffa o wanwyn prydferth Prydain. Dangosais i blant yn Nhaiwan sut i gadw dyddiadur natur drwy edrych ar eich blog. Mae'n gymorth mawr. Dysgaf blant yng Nghanolfan Addysg Tir Gwlyb Cheng-long a dyma'n tudalen blog, mae'n flog Tsieinëeg yn unig mae arnaf ofn.Bwydo'r adar. Ewch i'n blog coedwigoedd i weld lluniau o fywyd gwyllt Sain Ffagan yn yr eira. Cewch wybod hefyd sut i helpu adar eich gardd oroesi'r gaeaf neu gymryd rhan yn y Big Schools' Birdwatch.Diolch yn fawrAthro'r Ardd
Pwy sy'n dyfod dros y bryn â chennin Pedr yn ei sach? Chris Owen, 5 Rhagfyr 2009 Nadolig llawen cyfeillion y bylbiauMae nifer ohonoch wedi gweld egin newydd a hynny yn bell cyn y Nadolig. Yr wythnos hon daeth f'egin i hefyd. Maent yn 2cm o uchder a gallwch eu gweld yn y llun.Mae'r hydref eleni llawer yn dwymach na'r llynedd. Mae'r tymheredd ar gyfartaledd yng Nghymru ar gyfer mis Hydref a Thachwedd bron 1.5 gradd yn dwymach nag oedd yn 2008. Fel canlyniad mae llawer o gennin Pedr wedi dechrau tyfu'n barod. Dywedodd ffermwyr Really Welsh: 'Gwelsom lawer o egin cennin Pedr yn dechrau tyfu. Mae'r tywydd twym a gwlyb yn golygu bydd ein cennin Pedr yn barod ar gyfer y siopau yn y gwanwyn. Efallai bydd y blodau'n agor ychydig o wythnosau'n gynharach na'r llynedd'.Os bydd rhew adeg y gwanwyn sy'n dod gall fod yn niweidiol i'r cennin Pedr a ddechreuodd dyfu. Ond mae'r cennin Pedr yn wydn iawn a byddent mwy na thebyg yn blodeuo'n hardd. Bydd yn ddiddorol i weld a fydd egin cynnar yn tyfu'n flodau cynnar. Daliwch i ddisgwyl.Diolch i chi wyddonwyr ifainc am gadw cofnodion mor gywir o'r tywydd. Maent yn ein helpu i ddeall y tymhorau a byd natur. Rhowch wybod os gwelwch unrhyw blanhigion eraill yn tyfu'n gynnar.Peidiwch ag anghofio mai'r wythnos hon y bydd cannoedd o wyddonwyr ac arweinyddion y byd yn cyfarfod yn Nenmarc i geisio dod i gytundeb i achub y blaned. Un o'r cyfarfodydd pwysicaf yn y byd o bosib. Ewch i newsround am y newyddion diweddaraf a gadewch i mi wybod beth yw'ch barn.Yr wythnos nesaf fydd yr wythnos olaf i'w chofnodi cyn y Nadolig wedyn gallwch fwynhau eich gwyliau.Mwynhewch y Nadolig!Athro'r Ardd
Egin yn barod? Danielle Cowell, 19 Tachwedd 2009 Gofynnodd disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yng Nghaerdydd: 'Pryd bydd y bylbiau'n egino?'Fel arfer 'nid tan ar ôl Nadolig' fyddai f'ateb ond mae rhai wedi dechrau egino'n barod.Dywedodd disgyblion o Ysgol Gynradd Pentre-poeth yn Abertawe: 'Cawsom syndod o weld egin ac erbyn hyn gwelsom rai yn y gwelyau blodau. Dyma lun i chi eu gweld.'O edrych ar y llun er nad wyf gant y cant yn si?r maent yn ymddangos fel egin cennin Pedr. Edrychwch ar fy llun o'r llynedd - beth ydych chi'n ei feddwl?Gadewch sylwadau os gwelwch unrhyw egin cynnar. Danfon lluniau at scan@aocc.ac.ukDiolch, Athro'r Ardd
Miloedd o wyddonwyr ifainc yn astudio'r newid yn yr hinsawdd Danielle Cowell, 9 Tachwedd 2009 Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda 3,600 o wyddonwyr ifainc i archwilio a deall y newid yn yr hinsawdd.Yn ddiweddar mae bylbiau, potiau ac adnoddau wedi cyrraedd ysgolion a phobl sy'n cael eu haddysgu gartref ledled Cymru yn barod am y diwrnod plannu ar 20 Hydref. Mae rhai ysgolion wedi anfon ffotos hyfryd atom gan ddweud cymaint o gyffro oedd ymhlith y plant.O nawr tan ddiwedd Mawrth 2010 bydd pob gwyddonydd ifanc yn cofnodi'r tywydd a dyddiadau blodeuo'r bylbiau cennin Pedr a saffrwm fel rhan o astudiaeth hir dymor o effeithiau newidiadau yn y tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn. Dechreuodd yr astudiaeth yn 2005 a gobeithio bydd yn para am flynyddoedd lawer i ddod. I weld y canlyniadau hyd yn hyn neu i ymgofrestru am y flwyddyn nesaf ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau Bydd pob disgybl yn gweithio drwy dasgiau Athro'r Ardd cyn cael Tystysgrif Gwyddonydd Gwych. Bydd yr ysgol orau'n ennill taith i fferm cennin Pedr y cwmni Really Welsh a Gwarchodfa Natur Cynffig. Rhodd ar gyfer yr arbrawf hwn gan y cwmni Really Welsh yw'r holl gennin Pedr sydd wedi'u tyfu yng Nghynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr.Cadwch lygad barcud ar y blog i weld adroddiadau ac arsylliadau'r ysgolion neu yn y gwanwyn cewch weld y dyddiadur â lluniau.Beth am anfon cwestiwn at Athro'r Ardd? Byddai wrth ei fodd yn clywed gennych.