Egin yn barod? Danielle Cowell, 19 Tachwedd 2009 Gofynnodd disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yng Nghaerdydd: 'Pryd bydd y bylbiau'n egino?'Fel arfer 'nid tan ar ôl Nadolig' fyddai f'ateb ond mae rhai wedi dechrau egino'n barod.Dywedodd disgyblion o Ysgol Gynradd Pentre-poeth yn Abertawe: 'Cawsom syndod o weld egin ac erbyn hyn gwelsom rai yn y gwelyau blodau. Dyma lun i chi eu gweld.'O edrych ar y llun er nad wyf gant y cant yn si?r maent yn ymddangos fel egin cennin Pedr. Edrychwch ar fy llun o'r llynedd - beth ydych chi'n ei feddwl?Gadewch sylwadau os gwelwch unrhyw egin cynnar. Danfon lluniau at scan@aocc.ac.ukDiolch, Athro'r Ardd
Miloedd o wyddonwyr ifainc yn astudio'r newid yn yr hinsawdd Danielle Cowell, 9 Tachwedd 2009 Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda 3,600 o wyddonwyr ifainc i archwilio a deall y newid yn yr hinsawdd.Yn ddiweddar mae bylbiau, potiau ac adnoddau wedi cyrraedd ysgolion a phobl sy'n cael eu haddysgu gartref ledled Cymru yn barod am y diwrnod plannu ar 20 Hydref. Mae rhai ysgolion wedi anfon ffotos hyfryd atom gan ddweud cymaint o gyffro oedd ymhlith y plant.O nawr tan ddiwedd Mawrth 2010 bydd pob gwyddonydd ifanc yn cofnodi'r tywydd a dyddiadau blodeuo'r bylbiau cennin Pedr a saffrwm fel rhan o astudiaeth hir dymor o effeithiau newidiadau yn y tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn. Dechreuodd yr astudiaeth yn 2005 a gobeithio bydd yn para am flynyddoedd lawer i ddod. I weld y canlyniadau hyd yn hyn neu i ymgofrestru am y flwyddyn nesaf ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau Bydd pob disgybl yn gweithio drwy dasgiau Athro'r Ardd cyn cael Tystysgrif Gwyddonydd Gwych. Bydd yr ysgol orau'n ennill taith i fferm cennin Pedr y cwmni Really Welsh a Gwarchodfa Natur Cynffig. Rhodd ar gyfer yr arbrawf hwn gan y cwmni Really Welsh yw'r holl gennin Pedr sydd wedi'u tyfu yng Nghynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr.Cadwch lygad barcud ar y blog i weld adroddiadau ac arsylliadau'r ysgolion neu yn y gwanwyn cewch weld y dyddiadur â lluniau.Beth am anfon cwestiwn at Athro'r Ardd? Byddai wrth ei fodd yn clywed gennych.
Dyddiadur Lluniau Blodau Danielle Cowell, 26 Mawrth 2009 Bob wythnos byddaf yn gosod lluniau newydd o fy mhlanhigion - wrth iddynt dyfu! Ebostiwch eich lluniau ata i.Diweddariadau wythnosol:23/03/09 Throughout this week all of my daffodils have opened. They are all standing proudly in my garden, the tallest measures 35cms in height. Many more of you have reported your daffodil flowers opening this week and finally your crocuses have opened too! See the and to compare other schools with your own. This is the last week for recording temperatures and rainfall - so please send in all your records before the Easter holidays then I will send you your certificates on the 5th of April.17/03/09 My 1st daffodil opened today!04/03/09 Mae llawer o flodau fy nghrocysau wedi ymddangos ac mae fy nghennin Pedr yn torri bol eisiau tyfu hefyd. Cymerais ychydig o ffotos agos heddiw o'r crocysau achos eu bod yn edrych mor bert - gyda gwlith drostyn nhw.Dwi wedi edrych yn fanwl ar y dyddiadau blodeuo ar gyfartaledd eleni a gweld mai'r cennin Pedr sy wedi agor yn gyntaf mewn llawer o ysgolion. Mae'r crocysau dim ond wedi blodeuo mewn dau le - fy ngardd i ac Ysgol Burton. Fel arfer, y crocws sy'n agor yn gyntaf? Edrychwch ar y a'r23/02/09 Today, my 1st crocus flower opened! Lots of other flowers have shot up too - but only one has actually opened. In the sunlight you can see through the petals to see the orange anthers inside. My daffodils have grown quite a lot this week, the tallest is now 18cms tall. Have any of your flowers opened yet?19/02/09 Bore da Gyfeillion y Bylbiau! Croeso'n ôl o'ch ysbaid hanner tymor. Yn f'ardd i mae pethau wedi dechrau tyfu ag awch. Mae egin gwyrdd bach, bach wedi troi'n flodyn porffor prydferth. Dyw hi ddim wedi agor eto - pan mae'n edrych fel hyn dylech chi anfon dyddiad y blodeuo yn syth i'r . Wedyn bydd symbol blodyn yn ymddangos uwchben eich ysgol ar y a bydd y dyddiad blodeuo ar gyfartaledd ar gyfer eich ysgol yn ymddangos ar y . Yn , yn Sir Benfro mae un o'u cennin Pedr eisoes wedi ymagor - fel arfer y crocysau sy'n cipio'r blaen. Bydda i'n gwylio fy Nghrocws i bob dydd o hyn ymlaen i weld ydy e'n blodeuo. Gobeithio byddwch chi'n gwneud yr un fath!10/02/09 Mae'r egin erbyn nawr yn 2-3cm. Mae hyn yn fach ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn oherwydd i'n gwanwyn fod mor oer. Yr un adeg llynedd roedd blodau'r crocws eisoes wedi ymagor ac roedd y cenin Pedr yn 11cm!Pa eginyn yw p'un? Mae gan eginyn y genhinen Bedr flaenau llyfn, crwm, gwyrdd golau. Maen nhw'n lletach o lawer na blaenau egin y crocws. Mae egin y crocws yn gul a miniog ac maen nhw fel arfer yn ymddangos mewn clystyrau o bump. Mae gyda nhw ymylon gwyrdd tywyll sy'n gwneud iddyn nhw edrych ychydig yn streipiog.03/02/09 Eira ymhobman heddiw, hyd yn oed yng Nghaerdydd! Nid yw'r cyffion wedi tyfu llawer yr wythnos hon, a nawr maent wedi'u gorchuddio a haenen o eira.Dewch yn ol yr wythnos nesaf i weld faint mae nhw wedi tyfu.Athro'r ArddNôl i SCAN
Dyddiadur Lluniau Crocws Gareth Bonello, 12 Ionawr 2009 Dyma Ddyddiadur Lluniau fy Nghrocws.Bob wythnos, byddaf i'n postio lluniau newydd o flodau'r Crocws wrth iddyn nhw dyfu. Cymharwch nhw â'ch lluniau chi.Ionawr 19fed - Dyma'r llun cyntaf, mae'r blagur yn dechrau codi uwchben y pridd. Ydy eich blagur chi wedi dechrau tyfu eto? Ionawr 15fed - Mi oeddwn yn gallu gweld pennau'r blagur yn codi uwchben y pridd am y tro cyntaf y bore yma. Dewch nol wythnos nesaf i weld y lluniau!Athro’r Ardd Nol at Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Cerdyn Nadolig oddi wrth Athro'r Ardd Mari Gordon, 12 Rhagfyr 2008 Hoffwn ddymuno Nadolig llawen i'r holl ddisgyblion sy'n helpu eleni!Rydw i wrth fy modd ar yr holl gofnodion tywydd sydd wedi dod i mewn yn barod.Ydych chi'n hoffi fy het Nadoligaidd? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y gwyliau! Ddim yn hir i fynd nawr. Rwy'n edrych ymlaen at ymlacio a threulio amser gyda'r teulu a'r planhigion eraill. Tybed a gawn ni eira dros y Nadolig eleni?Gobeithio'n fawr y cewch chi wyliau bendigedig ac y daw'ch holl ddymuniadau'n wir!Cofion cynnesAthro'r Ardd