Blog bylbiau Danielle Cowell, 3 Tachwedd 2008 Plannu er mwyn y blaned!Mae 3,743 o ddisgyblion o 91 ysgol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan yn archwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni. Ar ddydd Llun 20 Hydref plannodd pob disgybl fylbiau crocysau a chennin Pedr i ddechrau’r ymchwiliad hwn - sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn - i’r newid yn yr hinsawdd.Dros y misoedd nesaf bydd pob un o’r ysgolion yn cadw cofnodion am y tywydd, ac yn nodi pryd fydd eu blodau’n agor, fel rhan o astudiaeth tymor-hir i edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.Siarad ag Athro’r Ardd:Byddai Athro’r Ardd wrth ei fodd i wybod sut hwyl gawsoch chi gyda’r plannu. Gadewch i ni wybod beth wnaethoch chi yn yr ysgol neu beth am anfon ambell ffotograff?Diogelwch ar y we:Ni fydd enwau’r plant yn cael eu cyhoeddi. Wrth adael neges, cofiwch gynnwys enw eich ysgol. Bydd eich neges yn ymddangos fel 'disgyblion o' ac 'enw eich ysgol'. Gofynnwch am ganiatâd eich athro cyn anfon neges neu ffotograff.
Newid yn yr hinsawdd: beth sy'n digwydd? Danielle Cowell, 29 Hydref 2008 Pobl yw’r ‘bygythiad mwyaf i’r byd'Nid oes gan brif wyddonwyr y byd unrhyw amheuaeth bod gweithgarwch dynol yn newid ein hinsawdd. Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd mae’r dystiolaeth yn ‘ddiamwys’ mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol am y cynhesu sydd wedi digwydd ers dechrau’r oes ddiwydiannol.Beth ydych chi’n meddwl y dylen ni fod yn ei wneud i daclo’r newid yn yr hinsawdd?Pa gwestiynau sydd gennych chi?Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth. Y cam cyntaf yw deall newid yn yr hinsawdd.Mae Amgueddfa Cymru a Science Shops Wales yn mynd ag arddangosfa a sgyrsiau ar daith i dynnu sylw at y newid yn yr hinsawdd. I gael rhagor o wybodaeth,e- scan@amgueddfacymru.ac.uk
Dyddiadur Lluniau Cenhinen Danielle Cowell, 22 Chwefror 2008 Dyma Ddyddiadur Lluniau fy Nghenhinen.Bob wythnos, byddaf yn gosod lluniau newydd o flodau'r Genhinen wrth iddynt dyfu. Cymharwch nhw â'ch lluniau chi. Cofiwch gymryd rhan yn y Gystadleuaeth darlunio crocysau i ennill gwobrau!Athro'r Ardd'Nol at 'Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion'
Dyddiadur Lluniau Crocws Gareth Bonello, 25 Ionawr 2008 Dyma Ddyddiadur Lluniau fy Nghrocws.Bob wythnos, byddaf i'n postio lluniau newydd o flodau'r Crocws wrth iddyn nhw dyfu. Cymharwch nhw â'ch lluniau chi.Cofiwch i gymryd rhan yn y Cystadleuaeth darlunio crocysaui ennill wobrau!Athro’r Ardd Nol at Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion