Cadw a gofalu am ein casgliadau

Ffermdy mawr neu fatsien fechan: gofalu am gasgliadau Hanes Cymdeithasol Sain Ffagan

22 Chwefror 2007

Cedwir casgliadau Hanes Cymdeithasol Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan. Gan ei bod yn amgueddfa awyr-agored, mae'r gwrthrychau'n amrywio rhwng adeiladau hanesyddol wedi'u hail-godi a gwrthrychau bach, bregus, sydd mewn storfa dymherus. Maent yn amrywio o ran maint rhwng matsis a gwelyau pedwar postyn, a gallant fod mor fregus â chregyn addurnol Fictoraidd brau, neu mor gadarn ag ysgythriadau wedi'u cerfio mewn carreg.

Basged o'r casgliadau bywyd cartref

Basged o'r casgliadau bywyd cartref sy'n dangos sut y gall glanhau arwynebedd gwrthrych gael effaith ddramatig ar ei ymddangosiad

Gêm creu mas o dri math o bapur yn ogystal â metel, plastig a phaent.

Gall gwrthrychau syml fod yn gymhleth dros ben. Gwnaed y gêm hon o dri math o bapur yn ogystal â metel, plastig a phaent.

Yn aml mae gwrthrychau wedi'u gwneud o fwy nag un deunydd. Mae hyn yn golygu bod angen defnyddio gwahanol dechnegau cadwraethol ar gyfer gwahanol rannau o'r gwrthrychau. Rhaid i'r staff cadwraethol asesu gwrthrychau newydd i'w sefydlogi, ac archwilio'r eitemau sydd wedi'u storio'n rheolaidd.

Cadwraeth ar gyfer y dyfodol

Rhaid i bob gwrthrych yng nghasgliadau'r Amgueddfa fod yn strwythurol gadarn ac yn sefydlog yn gemegol os ydynt am oroesi. Wrth drin unrhyw wrthrych y cam cyntaf yw ei archwilio'n fanwl i weld a yw'n gyflawn. Os yw'n fudr, rhaid ystyried a yw'r budreddi'n bwysig i hanes y gwrthrych neu beidio. Pan fydd gwrthrych wedi ei ddifrodi, mae'n bwysig gwybod a gafodd ei ddifrodi wrth gael ei wneud neu wrth gael ei ddefnyddio.

Cadw'r hen ddarn gwreiddiol neu arddangos gwrthrych wedi'i adfer yn llwyr?

Bellach, nid yw ymwelwyr i amgueddfeydd yn disgwyl i bob gwrthrych fod yn "berffaith". Canlyniad hyn yw bod modd i ni roi blaenoriaeth i gadw'r hyn sydd wedi goroesi yn hytrach nag adfer yr hyn sydd wedi ei golli. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd gwybodaeth bwysig ynglŷn â'r broses o greu a defnyddio'r gwrthrych yn cael ei guddio neu'i ddinistrio.

Ar ôl cofnodi cyflwr gwrthrych, gallwn fynd ati i weithredu'r triniaethau perthnasol. Mewn rhai achosion mae'n bosib rhwystro, neu o leiaf arafu, dirywiad pellach drwy ail bacio'r gwrthrych mewn deunyddiau di-asid a'i storio neu'i arddangos mewn amgylchedd sydd â'r tymheredd a'r lleithder cymharol priodol. Pan arddangosir gwrthrychau sydd mewn perygl o golli eu lliw, gellir eu gosod o dan olau gwan.

Gall gwrthrychau Hanes Cymdeithasol fod wedi'u gwneud o unrhywbeth, bron, ac fel arfer maent wedi'u gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau. Hyd yn oed os yw gwrthrych wedi'i wneud yn gyfan gwbl o bren, mae'n bosibl bod nifer o fathau gwahanol o bren wedi cael eu defnyddio.

Cyn cadw'r gwrthrych, rhaid gwneud profion i sicrhau na fydd y toddyddion a ddefnyddir yn toddi unrhyw ran o'r gwrthrych. Defnyddir cyn lleied ag sy'n bosibl o unrhyw driniaeth a ddewisir. Ni ddylai gwaith atgyweirio guddio unrhyw fanylion sydd ar y gwrthrych gwreiddiol. Rydym yn dilyn rheol y dylai sbesimen ymddangos yn gyflawn o bellter o 6 troedfedd 6 modfedd, ond dylid bod modd gweld y gwaith atgyweirio o'i archwilio'n fanwl.

Bydd pob agwedd o'r gwaith cadwraethol yn cael ei gofnodi. Golyga hyn bod hanes llawn y gwrthrych ar gael, ac y gellir cyfeirio ato bob amser. Mae'r cofnod hwn hefyd yn ychwanegu at ein gwybodaeth ynglŷn â'r modd y mae deunyddiau modern yn heneiddio, gan fod dyddiad pob triniaeth yn cael ei gofnodi.

Y cam olaf wrth drin unrhyw wrthrych yw sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd neu ei osod mewn amgylchedd addas, gan leihau neu symud unrhyw beth a allai achosi'i ddirywiad neu ei ddifrodi. Mae arolygu'r amgylchedd a gofalu rhag plâu yn hanfodol.

Wrth i gasgliadau'r Amgueddfa gynyddu, felly hefyd y gwna'r angen am waith cadwraethol. Mae hyn wedi cynyddu'r pwyslais ar waith cadwraeth ataliol, er enghraifft lle mae newid bach i'r amgylchedd neu i arferion gweithio yn gallu bod yn fuddiol i nifer fawr o wrthrychau. Drwy ail-ystyried y modd y caiff gwrthrychau eu harddangos a'u storio, rydym yn gobeithio symud tuag at gadwraeth gynaliadwy.

Achub casgliad unigryw o arianwaith rhag y morthwyl

19 Chwefror 2007

Yn 2000, clywodd Amgueddfa Cymru y byddai cannoedd o ddarnau o arianwaith prin, a fu ar fenthyg yn yr Amgueddfa ers i'w drysau agor am y tro cyntaf, yn cael eu dychwelyd a'u gwerthu.

Daw'r eitemau, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif, o gasgliad Syr Charles Jackson (1849-1923), cyfreithiwr a dyn busnes Cymreig. Yn ffodus, yn dilyn llawer o drafod a chodi arian, fe'u prynwyd gan yr Amgueddfa gyda chymorth sylweddol Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Casgliadau Celf Cenedlaethol a'r Worshipful Company of Goldsmiths.

Felly pam mae'r casgliad hwn mor bwysig?

Syr Charles Jackson (1849-1923)

Syr Charles Jackson (1849-1923)

Syr Charles Jackson

Ganwyd Syr Charles Jackson yn Nhrefynwy. Roedd yn un o grŵp o gasglwyr a hynafiaethwyr oedd yn cynnwys Robert Drane, T. H. Thomas a Wilfred de Winton. Gyda'i gilydd cawsant gryn ddylanwad ar ddatblygiad Amgueddfa Caerdydd. Fe chwaraeodd y grŵp ei ran hefyd i sicrhau mai Caerdydd fyddai lleoliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Trysorau Hynod

Mae rhai o'r gwrthrychau a gasglwyd gan Jackson o safon esthetig neilltuol. Mae'r eitemau prin yn cynnwys llwy pen mesen o ddechrau'r 14eg ganrif, sy'n un o'r darnau cynharaf o arian Seisnig i gael ei ddilysnodi, a set gyflawn o lwyau 'apostol' (deuddeg apostol ac un 'Meistr') o 1638.

Yr eitem bwysicaf mae'n debyg yw cwpan dwy-ddolen mewn arddull 'awriglaidd' (arddull addurnol o'r 17eg ganrif yn seiliedig ar rannau o'r corff, yn enwedig y glust ddynol, a roddodd yr enw i'r arddull) sy'n cael ei gysylltu â'r gof-arian Iseldirol Christian van Vianen, a oedd yn gweithio yn llys Siarl I. Mae dilysnod 1668 ar y cwpan, ac mae'n un o lond dwrn o ddarnau wedi'u gwneud yn Llundain yn yr arddull nodweddiadol hwn. Nid yw marc y gwneuthurwr wedi'i ddarllen eto, ond mae'n bosibl mai enw George Bowers neu Jean-Gerard Cooques sydd ar y gwaith, gan fod y ddau wedi gweithio fel eurychod yn llys Siarl II.

Darnau prin ysbrydoledig

Cwpan dwy-ddolen a chaead, Llundain 1668

Cwpan dwy-ddolen a chaead, Llundain 1668

Mae darnau anghyffredin, ysbrydoledig y casgliad yn cynnwys un o'r blaswyr gwin cynharaf, cwpan cymun Catholig o'r 17eg ganrif a wnaed yng Nghorc y gellid ei dynnu'n ddarnau er mwyn ei guddio, a stand inc ar ffurf glôb llyfrgell. Mae amrywiaeth eang gwrthrychau mwy cyffredin y casgliad, megis llestri halen a jygiau hufen, yn dangos esblygiad siapiau dros amser, ac yn dweud llawer wrthym am arferion cymdeithasol, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â bwyta. Mae'r gyfres ryfeddol o lwyau'n cynnwys bron pob math a gafodd eu gwneud dros gyfnod o 400 mlynedd.

Gwerth academaidd unigryw

Er bod y casgliad yn cynnwys nifer o wrthrychau prin a phrydferth, y rheswm pennaf dros ei gadw gyda'i gilydd yw ei werth academaidd unigryw.

Dau brif gyhoeddiad Jackson, sef English Goldsmiths and their Marks (1905) a The Illustrated History of English Plate (1911), yw sylfaen ysgolheictod arian modern. Ynddynt mae Jackson yn dibynnu'n helaeth ar ei gasgliad ei hun i egluro marciau a datblygiad arddulliau dros amser. Byddai'n gohebu â phrif gasglwyr ei gyfnod, ac mae ei gasgliad yn crynhoi'r wybodaeth am arian hanesyddol ym Mhrydain yn y 1900au cynnar. Mae'n ffynhonnell unigryw o ddeunydd cyfeiriol ac mae'n parhau hyd heddiw i fod yn destun ymholiadau cyson oddi wrth arbenigwyr arianwaith ledled y byd.

Mae casgliad Jackson hefyd yn cyfannu ac yn cyfoethogi casgliad rhagorol yr Amgueddfa o arianwaith hanesyddol, sy'n gysylltiedig â theuluoedd llywodraethol hanesyddol Cymru. Drwy brynu hanner casgliad Jackson, ar ôl iddo gael ei arddangos am wyth-deg o flynyddoedd, gyda'r tebygolrwydd y bydd gweddill y casgliad yn dilyn ryw ddydd, gall yr Amgueddfa ddatblygu ei rôl fel cartref un o'r prif gasgliadau astudiaeth o arianwaith hanesyddol.

Darllen Cefndir

Andrew Renton, 'Sir Charles Jackson (1849-1923)' yn Silver Studies - the Journal of the Silver Society, vol 19 (2005), 144-6

Siwt frodiog ysblennydd o'r 1770au

19 Chwefror 2007

Siwt felfed yn dyddio o 1770

Gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur.

Gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur.

Prynwyd y darnau pwysicaf o gasgliad Amgueddfa Cymru o ddillad dynion o'r 18fed-ganrif ym 1996. Mae'r siwt felfed yn dyddio o 1770 ac roedd yn eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn. Mae wedi'i brodio â sidanau a secwinau aur, ac mae mewn cyflwr arbennig o dda.

Syr Watkin Williams-Wynn

Roedd Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789) o Wynnstay yn noddi'r celfyddydau ac roedd yn eithriadol o gyfoethog ac adnabyddus. Adlewyrchai ei ddillad ei ffordd o fyw. Prynodd siwtiau melfed coeth yn Ffrainc a'r Eidal tra'r oedd ar ei Daith Fawr ym 1768-9. Yn ystod y 1770au prynodd ddillad oddi wrth nifer o deilwriaid, hosanwyr a gwneuthurwyr les Llundain, gan wario tua £1,000 y flwyddyn ar siwtiau'n unig - swm anferthol ar y pryd.

Secwinau aur ac edafedd arian

Mae'r gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur. Gwnaethpwyd y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd â hi ychydig yn ddiweddarach. Prynodd yr Amgueddfa got wlân goch o'r un cyfnod, wedi'i haddurno â brodwaith o edafedd arian.

Magodd Syr Watkin gryn dipyn o bwysau wrth iddo heneiddio, ac efallai mai dyna pam fod y siwt wedi goroesi mewn cyflwr mor dda.

Brodwaith cyfoethog

Mae gan gôt y siwt flaen rhandoredig a choler fer sy'n sefyll i fyny. Mae'r leinin o sidan gwyrdd i gyd-fynd â defnydd y wasgod. Mae gan y wasgod flaenau o sidan gwyrdd a leinin a chefn o sidan mwy gwelw ei liw, o wehyddiad plaen. Fel y siwt, mae'r brodwaith yn cynnwys ymylweoedd aur, secwinau metel a rhubanau blodeuog. Mae'r gwaith yn gain dros ben.

Mae'n debygol y cafodd y siwt ei wneud mewn gweithdy teiliwr o Lundain. Y crefftwyr gorau ynghyd â nifer o frodwyr proffesiynol fyddai wedi'i chreu. Mae'n debygol iawn y cafodd y gôt wlân goch ei gwneud yn yr un gweithdy, gan fod y brodwaith ar honno hefyd yn cynnwys secwinau aur ac arian, ymylweoedd metel ac edeifion sidan, gyda themâu tebyg o fwâu, addurnblethau a thaselau.

Dillad crand ar gyfer achlysuron mawreddog

Y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd

Y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd

Roedd y dillad hyn mor ddrud gellid bod wedi eu gwisgo yn y llys brenhinol. Yng Nghymru, gallai Syr Watkin fod wedi gwisgo dillad o'r fath yn ei barti i ddathlu ei ben-blwydd yn un-ar-hugain ym 1770. Daeth y parti i fod yn chwedlonol oherwydd ei ormodedd a'i faint - cafwyd 15,000 o westeion a daeth tair coets o gogyddion o Lundain.

Adeiladwyd neuadd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o'r prif adeilad yn Wynnstay, pan ychwanegwyd ystafelloedd gwely uwch ei ben. Mae'r bwyd a fwytawyd yn y parti yn cynnwys 30 buwch, 50 mochyn, 50 llo, 80 dafad, 18 oen, 37 twrci a 421 pwys o eog. Efallai bod hyn yn esbonio maint Syr Watkin yn ei henaint! Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1735, penododd y Brenin Siôr III Syr Watkin yn Arglwydd Raglaw (cynrychiolwr y brenin) ar gyfer Meirionnydd.

Soffa Edwinsford - brodwaith gwych yn cael mis yn y rhewgell

19 Chwefror 2007

Yn 1998 prynodd Amgueddfa Cymru gelfi o ystâd Edwinsford, ger Talyllychau, Llandeilo. Soffa frodiog unigryw o 1845 yw'r darn mwyaf, a'r mwyaf ysblennydd o'r rhain. Bu'r gwaith cadwraeth arni'n ddiddorol iawn ac yn sialens a oedd yn cynnwys datgysylltu, ail-adeiladu a rhewi'r darn am fis.

Mae'r soffa'n cynnwys nifer o sgwariau o wlân a sidan wedi'u brodio'n unigol a'u haddurno ag edeifion metel a gleiniau, yn enghreifftiau gwreiddiol o gynlluniau gwaith-gwlân Berlin. Ffurfia'r sgwariau bedwar panel ar wahân gyda mowldinau pren cerfiedig o amgylch yr ochr isaf a phaneli sgrôl cerfiedig dros flaenau'r breichiau.

Cadw'r soffa

Ochr arall y panel cefn cyn tynnu'r labeli a'i lanhau.

Ochr arall y panel cefn cyn tynnu'r labeli a'i lanhau.

Ar yr olwg gyntaf, roedd yn amlwg y byddai angen gwneud llawer o waith atgyweirio cyn arddangos y soffa, gan ei fod yn fudr, yn flêr ac wedi treulio. Roedd nifer o'r gwniadau wedi rhwygo a dinistriwyd llawer o'r mân-frodwaith gan bla o wyfynod. Er mwyn cadw pob un o'r paneli gwaith canfas yn iawn, bu'n rhaid eu tynnu allan o'r fframwaith.

Tynnwyd y mowldinau'n hawdd, ond yn hytrach na'r dull clustogi arferol, gwnaethpwyd y soffa o bedair rhan wedi'u clustogi'n unigol a'u gorchuddio â'r paneli gwaith canfas cyn eu sgriwio a'u bolltio at ei gilydd. Bu'n rhaid tynnu tua 300 o daciau'n ofalus heb rwygo'r gwaith cynfas — er eu bod eisoes wedi gwneud tyllau rhydlyd yn y defnydd.

Soffa wedi'i haddurno gan westeion

Roedd y geiriau 'Charlotte Chichester March 22nd 1845' i'w gweld ar un o'r sgwariau cynfaswaith.

Roedd y geiriau 'Charlotte Chichester March 22nd 1845' i'w gweld ar un o'r sgwariau cynfaswaith.

Daeth stori ddifyr iawn i'r amlwg yn ystod y broses ddatgysylltu. Wrth i'r taciau gael eu tynnu i ffwrdd, fe ddechreuodd labeli papur syrthio allan o du ôl i'r gweithiau canfas, pob un ohonynt ag enw gwahanol arno. Roedd yr enwau'n dangos pwy oedd wedi brodio pob sgwâr. Mae'n debyg mai ymwelwyr ag Edwinsford frodiodd y sgwariau, a bod y soffa wedi'i chynllunio i arddangos eu gwaith.

Wedi cofnodi'r labeli yn ofalus, golchwyd pob sgwâr o waith canfas gyda thoddiad golchi a thoddyddion i gyfateb â'r llifynnau oedd yn bresennol. Cynhaliwyd pob panel ar liain di-liw er mwyn cryfhau'r defnydd a gwneud y soffa orffenedig yn fwy sefydlog. Gosodwyd rhwyd neilon mân o amgylch yr ochrau treuliedig.

Mis yn y rhewgell

Yn dilyn pryder fod yna wyau gwyfynod yn dal yn fyw yn y fframwaith, lapiwyd pob rhan mewn dwy haen o bolythen i'w selio, cyn cael eu rhewi am fis.

Rhoi'r soffa yn ôl at ei gilydd

Esmwythfainc Rhydodyn

Daw llawer o'r dodrefn clustogwaith sydd ar ddangos ym mharlwr Castell Sain Ffagan yn wreiddiol o Ystad Rhydodyn, Sir Gaerfyrddin.

Bu'n rhaid canfod dull o ail-gysylltu'r paneli canfas wedi'u glanhau. Roedd yn bwysig peidio rhoi staplau drwy'r gwaith canfas yn uniongyrchol, a chyfyngu ar y nifer o staplau fyddai'n cael eu rhoi yn y fframwaith pren a oedd eisoes wedi'i ddifrodi. Yr oedd yr un mor bwysig bod modd tynnu'r paneli'n rhydd heb eu difrodi, pe bai angen gwneud hynny yn y dyfodol.

I gyflawni hyn, staplwyd tâp cotwm i'r fframiau pren ar hyd llinellau tyllau'r taciau gwreiddiol. Gosodwyd staplau bob tua 15cm i greu sylfaen gadarn y gellid gwnïo'r paneli'n sownd iddi, gan ddefnyddio nodwydd grom. Bu'n rhaid pwytho ymylon mewnol y breichiau a'r cefn yn gyntaf, cyn sgriwio a bolltio'r rhannau hyn yn ôl i'w safle. Yna roedd modd pwytho'r ymylon allanol i'w lle.

Ar ôl iddynt gael eu trin, ail-osodwyd rhannau eraill y soffa gan ddefnyddio'r sgriwiau a'r hoelion gwreiddiol lle bo hynny'n bosibl. Cafodd y labeli papur eu trin, fel bo modd eu hastudio a'u harddangos yn y dyfodol.

Mae'r soffa'n cael ei harddangos yng Nghastell Sain Ffagan.