: Ymgysylltu â'r Gymuned

Y Fforymau Cyfranogi 2013-10-22

Penny Dacey, 22 Hydref 2013

Fforwm Dylunio’r Defnyddwyr

 

Dyma grŵp sy’n pontio’r cenedlaethau ac sy’n cynnwys oedolion ifanc o Fforwm Ieuenctid Caerffili, eu harweinwyr Ieuenctid a phedwar athro o ysgolion uwchradd de Cymru. Mae’r grŵp wedi bod yn cyfarfod ers dros ddwy flynedd ac wedi gweithio’n agos gyda’r penseiri ar ddyluniad yr adeilad newydd (y Gweithdy) a datblygu’r Prif Adeilad. Maent hefyd wedi bod yn cyfarfod â’r dylunwyr arddangosfa (Event) i roi adborth am y syniadau ar gyfer y gofodau oriel. Eu cyfraniad diweddaraf oedd mynychu gweithdai dehongli lle cawsant gyfle i ymateb yn uniongyrchol i wrthrychau a thrafod dulliau o gyflwyno a dehongli gyda’r curaduron perthnasol.

Dyma luniau o’r grŵp ar daith feincnodi i M Shed ym Mryste (gofod arddangos a ddyluniwyd gan Event) a’r gweithdy dehongli ym mis Gorffennaf.

 

Gweithdai dehongli

 

Y Fforymau Cyfranogi

Penny Dacey, 14 Hydref 2013

Helo, a chroeso i gofnod cyntaf ein cylchlythyr rheolaidd am ddatblygiad Fforymau Cyfranogi Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Fel rhan o’r project ailddatblygu cyffrous (diolch i grantgan Gronfa Dreftadaeth y Loteri), mae’r Amgueddfa wedi bod yn datblygu dulliau o ymgysylltu â’r cyhoedd a thrafod â chynrychiolwyr sefydliadau’r trydydd sector ac unigolion o Fôn i Fynwy. Mae'r grwpiau yn nodweddiadol am eu bod yn rhan o'n ffordd newydd o weithio, ac yn gam sylweddol tuag at ein nod o fod yn amgueddfa sy'n wirioneddol gyfranogol.

 

Bydd trin a thrafod yn thema amlwg yn yr orielau newydd. Mae’r curaduron yn gweithio gyda’r tîm dylunio, Event, i ddatblygu dulliau o gofnodi barn ac ymateb y cyhoedd i wrthrychau. Ar hyn o bryd, y bwriad yw parhau â’r drafodaeth ar-lein trwy greu fforwm fydd yn lle i bobl ymateb i’r orielau a’i gilydd gan greu llwyfan drafod ac ysbrydoli gweddill datblygiad yr Amgueddfa.

 

Mae nifer o faterion y bydd yn rhaid i ni fynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa yn cynrychioli Cymru gyfan, gan gynnwys:

  • creu cysylltiadau â grwpiau cymunedol clos sydd o bosib o’r farn nad yw’r Amgueddfa yn cynrychioli eu hanes
  • mynd i’r afael â rhwystr tlodi er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa’n hygyrch i bawb
  • sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer pobl o bob oed, gallu a chefndir.

 

 Y prif nod yw sicrhau ein bod yn cynrychioli Cymru heddiw ac ein bod yn cyrraedd pob cwr o’r genedl. O adrodd a thrafod ein hanturiaethau, gallwn ddatrys y materion hyn. Gallwn ni gynrychioli pawb yng Nghymru ben baladr trwy sicrhau y gall unrhywun weld ein datblygiadau a chymryd rhan yn y drafodaeth.

 

Felly beth am agor y drafodaeth? Thema’r oriel gyntaf fydd ‘Dyma yw Cymru’. Bydd yn trafod y syniadau ystrydebol am Gymreictod ac yn rhoi cyfle i drafod ystyr Cymru i eraill, a datblygiad Cymru trwy hanes. Felly, beth yw Cymru i chi? Rydyn ni’n datblygu Cwmwl Geiriau anferth o ymatebion. Defnyddiwch y ddolen isod i anfon pum gair atom sydd, yn eich barn chi, yn crynhoi Cymru. Byddwn yn eu hychwanegu at ein Cwmwl Geiriau ac yn dangos y canlyniadau yma!

Cliciwch yma i anfon eich geiriau chi

 

Nawr, beth am eich cyflwyno i’r Grwpiau Fforwm a rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am sut maen nhw’n helpu’r Amgueddfa i gyrraedd y nod…

Beachwatch 2013 - a great success

Katie Mortimer-Jones, 24 Medi 2013

On Saturday 21st September Amgueddfa Cymru ran their annual Beachwatch event. This involved fantastic family science activities in the morning attended by 41 members of the public and seven members of staff. Participants looked at strandline and rockpool animals and seaweeds as well as fossilised corals and snails. Inspired by the fossils and shells that they had seen, the children went on to create wonderful pieces of artwork using Plaster of Paris on the wet sand of the beach.

After lunch, the volunteers gathered to clean the beach and do a litter survey recording all the items they found. The beach clean was attended by 59 volunteers including many of the families from the morning activities.

The results will be sent to the Marine Conservation Society who will collect the data from this beach and hundreds of other UK beaches that were cleaned this weekend. As well as making the beach safer for people and marine life, the Marine Conservation Society also use the data to find out where beach litter comes from and contribute to marine conservation.

As you can see from the photo we found a lot of rubbish including 9 tyres, half a canoe and a traffic cone! A huge thank you to our wonderful volunteers, Ogmore Beach now looks even more beautiful!