Crochenwaith Rhufeinig yng Nghaerllion 10 Mai 2007 Crochenwaith Rhufeinig Jar, powlen a chostrel o lestri slipiog coch Caerllion. Mae natur y pridd wedi dinistrio'r rhan fwyaf o'r arwynebau slipiog coch, er bod clytiau sylweddol wedi goroesi ar y gostrel sydd i'w gweld yng nghefn y grŵp hwn. Mae astudiaeth o fath unigryw o grochenwaith a ddaeth i'r amlwg yn bwrw goleuni ar y berthynas rhwng y boblogaeth sifil a'r fyddin Rufeinig yng Nghymru. Roedd crochenwaith yn gynnyrch a fasgynhyrchwyd yn y byd Rhufeinig ac mae'n darparu ffynhonnell gwybodaeth bwysig ar gyfer archaeolegwyr sy'n ymchwilio i hanes y cyfnod hwn. Mae gwahanol ffasiynau o ran ffurfiau a deunyddiau crai crochenwaith Rhufeinig yn caniatáu i archaeolegwyr ail-greu diwydiannau crochenwaith y gorffennol: ble câi'r llestri eu cynhyrchu, y llwybrau masnachol, a chronoleg anterth a thranc y diwydiannau. Roedd Cymru'n gartref i nifer o'r diwydiannau crochenwaith hyn ac mae un ohonynt wedi bod yn destun sylw a thrafodaeth ers diwedd y 1920au. Yn ystod y gwaith cloddio yn amffitheatr Rhufeinig Caerllion y darganfu'r archaeolegydd arloesol Syr Mortimer Wheeler, gasgliad o lestri cain o wneuthuriad da, a oedd, yn ôl pob golwg, yn gysylltiedig â'r garsiwn Rhufeinig. Amffitheatr Rhufeinig Caerllion Cloddiadau Syr Mortimer Wheeler yn amffitheatr Rufeinig Caerllion. Mae'r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o jygiau, powlenni, platiau a biceri ac roedd nifer ohonynt fel pe baent yn efelychu ffurfiau'r crochenwaith metel a Samiaidd oedd yn cael fewnforio o'r cyfandir. Gan mai Caerllion oedd cartref yr Ail Leng Awgwstaidd roedd hi'n rhesymol i dybio bod y potiau yn uniongyrchol gysylltiedig â'r fyddin Rufeinig. Mewn gair, credai Wheeler ei fod wedi darganfod y llestri a ddefnyddiodd y lleng yn ystod yr ail ganrif OC. Yn ystod gwaith cloddio diweddarach cafwyd hyd i'r math yma o grochenwaith ar nifer o wahanol safleoedd Rhufeinig yng nghyffiniau Caerllion ac, wrth i gymaint ohono ddod i'r fei, daeth yn weddol amlwg ei fod wedi cael ei gynhyrchu'n lleol. Ond y cwestiwn oedd, ble? Cymerodd saith deg mlynedd o waith ychwanegol yng Nghaerllion cyn cael ateb i'r cwestiwn hwn. Archaeolegwyr oedd yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad cwrs golff 2.6km (1.6 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer gafodd hyd i'r ateb. Cwrs golff Celtic Manor Yr odyn yn Aber-nant yn ystod gwaith cloddio Cwrs Golff Celtic Manor 1966. Câi'r crochenwaith i'w danio ei bentyrru ar lawr clai llosg dros y pydew yng nghanol y llun. Llun © Peter Webster. O ganlyniad i'w gwaith ym 1996 darganfuwyd odyn a gweddillion sawl adeilad - cytiau sychu, o bosibl. Roedd yr odyn, oedd yn ôl pob tebyg yn un o blith nifer o odynau bach a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r math yma o grochenwaith, gan gynnwys amrywiaeth o botiau toredig Llestri Caerllion. Yn odyn Aber-nant cafwyd tystiolaeth bod y crochenwaith yr oedd Wheeler wedi ei osod mewn un grŵp, o wneuthuriad lleol. Ond roedd un cwestiwn arall heb ei ateb: pwy oedd y crochenwyr? Credai Wheeler mai llengfilwyr oedd y crochenwyr. Fodd bynnag, awgrymai astudiaeth fanwl o'r argraffnodau 'enw' oedd ar y powlenni cymysgu mawr (mortaria) fod y crochenwyr yn anllythrennog - yn wahanol i'r argraffnodau a welwyd ar deils, oedd yn amlwg lythrennog. Os oedd gwneuthurwyr y potiau'n anllythrennog, mae'n debyg mai aelodau o'r boblogaeth sifil oeddynt, ac mae hyn yn gyson â'r ffaith fod y crochenwaith yn cael ei gynhyrchu ar adeg (o flynyddoedd cynnar hyd ganol yr ail ganrif) pan roedd nifer fawr o'r llengfilwyr i ffwrdd yng ngogledd Loegr. Mae'n annhebygol, felly, mai llengfilwyr oedd gwneuthurwyr crochenwaith Caerllion ond, heb os nac oni bai, cynhyrchwyd y crochenwaith ar gyfer llengfilwyr. Mae'n ymddangos yr aeth rhai aelodau mentrus o'r boblogaeth sifil ati i gyflenwi'r farchnad leol â chrochenwaith ar batrwm a oedd yn adnabyddus iddi. Darllen Cefndir Câi rhai darnau o Lestri Caerllion eu cynhyrchu fel copïau o grochenwaith cyfandirol, megis powlenni Samiaidd. Ar y chwith mae powlen Samiaidd ddilys, ac ar y dde y copi llai celfydd ar ffurf Llestr Caerllion. 'Bulmore, Celtic Manor golf course, No. 3' gan B. C. Burnham. Yn Brittania, cyf. 28, tt401-2 (1997). 'The Roman amphitheatre at Caerleon, Monmouthshire' gan T. V. a R. E. M. Wheeler. Yn Archaeologia, cyf. 78, tt111-218 (1928).
Paun paentiedig tref Rufeinig Caer-went 10 Mai 2007 Paun Caer-went. Defnyddiwyd sawl lliw i greu'r paun - gwahanol fathau o las, melyn, gwyrdd a choch. Wrth gloddio caer Rufeinig Caerllion, 10km (6 milltir) o Gaer-went, darganfuwyd amrywiaeth o bigmentau gwreiddiol. Roedd y rhain yn cynnwys coch ac ocr melyn, yn ogystal â phelen o'r lliw glas Eifftaidd prin iawn. Detholiad o'r mwynau naturiol a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid i wneud pigmentau. Mae'r rhain yn dangos pa mor llachar oedd y lliwiau oedd ar gael i beintwyr muriau Rhufeinig. Dengys yr adluniad hwn o'r paun sut y byddai wedi edrych, o bosibl, pan gafodd ei beintio gyntaf. Rhoddir y pigment ar y plastr tra bod hwnnw'n dal i fod yn wlyb, ac yna mae'n glynu wrth y mur wrth iddo sychu. Peintio ffresgo yw'r enw ar y dechneg hon. Mae astudiaeth o furlun brau o Gaer-went wedi dwyn i'r amlwg rai dylanwadau cosmopolitanaidd oedd yn effeithio ar fywydau brodorion Prydain. Daeth y goresgyniad Rhufeinig â rhannau o Gymru i gysylltiad uniongyrchol ag arferion a soffistigedigrwydd Rhufain yr ymerodraeth Rufeinig. I frodorion cyfoethog Prydain, cynigiai'r cysylltiad hwn gyfle i rannu ffordd o fyw'r goresgynwyr, ac i'r crefftwyr roedd yn cynnig cyfle i ennill cwsmeriaid newydd a gwneud mwy o elw. Un grŵp o grefftwyr a elwodd, yn fwy na thebyg, ar y Rhufeineiddio hwn ym Mhrydain oedd yr arlunwyr medrus. Yn y byd Rhufeinig roedd yn gyffredin i'r cyfoethogion gael paneli lliwgar, patrymau blodeuol, neu olygfeydd o fytholeg wedi eu peintio ar furiau ac weithiau ar nenfydau eu hystafelloedd. Ond, cyn y goresgyniad Rhufeinig, nid oedd murluniau o'r math yma i'w cael ym Mhrydain - dyma grefft newydd ac un y manteisiwyd arni ymhen dim o dro. Cafwyd hyd i blastr mur peintiedig ar sawl safle yng Nghymru: ar safleoedd milwrol lle'r oedd adeiladau'r pencadlys a'r baddonau yn fynych wedi'u peintio, ac yn y byd sifil lle câi peintiadau eu defnyddio i addurno adeiladau cyhoeddus, plastai trefol a filâu. Yn nhref Rufeinig Caer-went y mae peth o'n tystiolaeth orau am waith yr arlunwyr murluniau. Un enghraifft sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i archaeolegwyr yw'r paentiad o baun a ddaeth o dŷ a godwyd yng Nghaer-went ddiwedd y drydedd ganrif OC, ac a gloddiwyd yn y 1980au. Mae gweddillion y paun yn ddarniog iawn ond mae digon ohono wedi goroesi i'n galluogi i ail-greu ei olwg wreiddiol. Byddai wedi cael ei beintio ar ffurf ffresgo, hynny yw, pan oedd y plastr yn dal i fod yn wlyb, a'r lliwiau'n ymdreiddio i'r wyneb wrth iddo sychu. Er bod y paun ei hun yn gelfwaith, y pigmentau y lluniwyd y paentiad ohono sy'n rhoi'r rhan fwyaf o'r wybodaeth i ni ynglŷn â'r dylanwadau cosmopolitanaidd ar fywyd Prydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Er enghraifft, lliw gwneud yw'r pigment glas. Fe'i ddatblygwyd yn yr Aifft yn gyntaf ond yna fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal, lle aeth gŵr busnes cefnog ati i'w gynhyrchu yn ystod y ganrif gyntaf OC. Fe'i cynhyrchwyd drwy dwymo cymysgedd o dywod, natron a chopor, ac fe'i gwerthwyd ledled yr ymerodraeth ar ffurf pelenni bach a gâi eu malu gan yr arlunydd yn ôl y galw. Sinabar neu fermiliwm (sylffid mercwrig) yw'r lliw coch llachar yn y llun. Câi ei fwyngloddio yn Sisapo, Sbaen a'i ddosbarthu o Rufain. Roedd masnachu'r lliw mor broffidiol fel y bu'n rhaid i'r llywodraeth sefydlu'r pris er mwyn ei atal rhag codi. Cafwyd hyd iddo ar 20-30 o safleoedd yn unig ym Mhrydain, sydd yn fesur o'i brinder. Ni chafodd pob un o'r pigmentau eu mewnforio o wledydd tramor - yn ôl pob tebyg cafodd rhywfaint o'r ocr coch yn y paun ei fwyngloddio'n lleol, yn Fforest y Ddena o bosibl. Fodd bynnag, mae presenoldeb y pigmentau egsotig yn dynodi llawer iawn mwy na chwaeth artistig yn unig. Byddai'r paun peintiedig yn datgan i bawb a ymwelai â'r tŷ fod ei berchennog yn gyfarwydd â'r moethusion oedd yn rhan annatod o diriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig, ac y gallent fforddio prynu'r fath bethau moethus. Darllen Cefndir Wall-painting in Roman Britain gan N. Davey a R. Ling. Cyhoeddwyd gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Astudiaethau Rhufeinig (1981).
Caerllion - Dinas y Lleng Rufeinig 9 Mai 2007 Cynllun caer Rufeinig Caerllion. Arysgrif ar farmor o borth de-orllewinol Caerllion, yn ôl pob tebyg. Adluniad o borth de-orllewinol Caerllion. Adluniad o faddonau'r gaer Rufeinig (Caerllion), tua OC80. Mae darganfyddiadau'r cloddiadau yng Nghaerllion i'w gweld yn Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion. Yn gartref i Ail Leng Awgwstaidd Rhufain am dros ddwy ganrif, Caerllion yw’r gaer Rufeinig orau, o ran ei chyflwr, yng Nghymru. Caerllion (Casnewydd) yw’r unig leng-gaer barhaol o fewn ffiniau’r Gymru fodern. Fe’i sefydlwyd yn OC 74 neu 75 a garsiynwyd y gaer gan yr Ail Leng Awgwstaidd, a fu’n gwasanaethu mewn gwahanol rannau o dde Prydain ers y goresgyniad Rhufeinig yn OC 43. Yr enw y rhoddodd y Rhufeiniad ar y gaer oedd Isca, ar ôl enw’r afon Wysg gerllaw. Mae cloddiadau yng Nghaerllion ers y 1920au wedi ein galluogi ni i greu portread lled gyflawn o’r gaer. Y safle Clostir hirsgwar 490m wrth 418m (535 × 457 llath) yw’r gaer ac iddi arwynebedd o 20.5ha (50 acer). I’r de-orllewin ceir maes parêd ac amffitheatr, ac y tu hwnt iddynt cafwyd hyd i wahanol adeiladau anheddiad sifil. I ddechrau, codwyd amddiffynfeydd o bridd a choed ond cafodd rhai cerrig eu rhoi yn eu lle tua OC 100. Yng nghanol y gaer, o dan yr eglwys blwyf bresennol, safai’r pencadlys (principia) ac y drws nesaf iddo dŷ’r prif swyddog. Yn ogystal, darganfuwyd weddillion baddonau’r gaer, ysbyty, tai swyddogion a gwahanol weithdai. Ond byddai dros hanner yr arwynebedd wedi cynnwys blociau barics i gartrefu’r milwyr cyffredin – dros 5,000 ohonynt. Codwyd y rhan fwyaf o’r adeiladau hyn o bren yn y lle cyntaf; ond yn raddol, o’r ail ganrif ymlaen, fe’u hailadeiladwyd o gerrig. Caerllion oedd pencadlys yr Ail Leng Awgwstaidd am dros ddau gan mlynedd, er y byddai unedau o’r lleng wedi cael eu lleoli mewn mannau eraill yn aml yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n debyg yr oedd y gaer ar ei prysuraf ym mlynyddoedd olaf y ganrif gyntaf ac yn gynnar yn yr ail. Wedi’r cyfnod hwn, gwyddys y bu’r lleng wrthi'n codi Mur Hadrian ar draws gogledd Lloegr, rhwng Merin Rheged ac afon Tyne. Eto i gyd, dim ond ym mlynyddoedd cynnar teyrnasiad Antoninus Pius (OC 138–161) y bu gostyngiad sylweddol ym mhoblogaeth Caerllion, newid a ddynodai ymrwymiad cadarnach o lawer i’r achos yng ngogledd Lloegr. Ddiwedd yr ail ganrif, dechreuwyd datgymalu’r gaer er y cafodd y gwaith ei wrthdroi mewn dim o dro. Mae’n bosibl fod a wnelo’r gwaith datgymalu â chynllun yr ymerawdwr Septimius Severus (OC 193–211) i ail-leoli'r lleng yng ngogledd Prydain, ac yna aeth y gwaith o’i hailadeiladu rhagddo yn sgil penderfyniad ei fab, Caracalla, i ymadael â'r Alban. Tua OC 300 ymadawodd y lleng â Chaerllion am y tro olaf a chafodd llawer o brif adeiladau’r gaer eu dymchwel. Yn ôl pob tebyg, roedd hyn yn gysylltiedig â gweithredoedd y ddau gamfeddiannwr Carausius ac Allectus (OC 287–96), oherwydd wedi iddynt gipio’r awenau ym Mhrydain bu rhaid iddynt amddiffyn de Lloegr rhag ymosodiad disgwyliedig dan arweiniad y ddau ymerawdwr swyddogol, Diocletian a Constantius. Heb os nac oni bai, câi rhai adeiladau yng Nghaerllion eu defnyddio hyd ganol y bedwaredd ganrif a rhoddwyd wyneb newydd ar rai o’r strydoedd wedi OC 346–8; ond prin yw'r darnau arian ôl-350, sy'n awgrymu nad oedd fawr ddim gweithgarwch ar y safle ar ôl y dyddiad hwn. Erbyn OC 1188, pan ymwelodd Gerallt Gymro â'r safle, roedd y gaer yn adfail urddasol.
Crochenwaith gwydrog gwyrdd o Holt 9 Mai 2007 Crochenwaith gwydrog gwyrdd o Holt (Wrecsam). Cloddiadau yn Holt cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn y ffotograff hwn mae Mr Acton yn sefyll wrth weddillion un o'r odynau llestri a ddarganfuwyd ganddo. Câi'r plac seramig hwn (a elwir yn rhagosodyn) ei ddefnyddio i orchuddio pen rhes o deils to. Fe'i cynhyrchwyd yn Holt ac mae'n dwyn argraffnod yr Ugeinfed Leng (LEG XX), yn ogystal â'i bathodyn (baedd gwyllt) a lluman. Darlun i ddangos sut y taniwyd llestri gwydrog gwyrdd. Mae llestri gwydrog o unrhyw fath yn anodd i'w cynhyrchu ac yn brin ym Mhrydain cyn y Canol Oesoedd. Fodd bynnag, cynhyrchwyd nifer cyfyngedig o'r llestri hyn yn Holt, ar lan afon Dyfrdwy, a Chaerllion yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Holt oedd canolfan gynhyrchu a dosbarthu crochenwaith yr Ugeinfed Leng (Legio XX Valeria Victrix. Roedd crochenwyr Holt yn arbenigo mewn gwneud crochanwaith o bob lliw a llun, ac mae peth o'u cynnyrch yn dangos eu soffistigedigrwydd technolegol. Cynhyrchwyd y llestri gwydrog gwyrdd gan ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd gyntaf yn yr Aifft yn ystod y mileniwm cyntaf cyn Crist. Yn ôl pob tebyg, cafodd y dull hwn ei fabwysiadu yn Holt er mwyn sicrhau y gallai'r milwyr barhau i fwynhau'r moethusion roeddent wedi dod yn gyfarwydd â hwy mewn mannau eraill o fewn ffiniau'r ymerodraeth. Y Broses: Trochi llestr, a oedd eisoes wedi'i grasu unwaith, mewn ffrit (daliant o wydredd crai a dŵr). Pan gaiff y llestr ei danio mae'r ffrit yn adweithio â'r silica yn y pot gan ffurfio wyneb gwydrog anathraidd, caled y gall ei liw amrywio o felyn golau i felynwyrdd i frown tywyll. Problemau: Pan gaiff y llestri eu tanio mae'r gwydredd yn hylifo, ac os caiff ei orboethi mae'n debygol o redeg yn ormodol (os yw hyn yn digwydd gall y potiau asio â'i gilydd). Gall nwyon brwnt, poeth yn yr odyn effeithio ar yr adwaith cemegol, gan beri i'r gwydredd bothellu neu newid ei liw. Atebion: Llwyddodd crochenwyr Holt i oresgyn y problemau hyn drwy danio eu potiau ar brop wedi'i osod mewn sagar (blwch o glai wedi'i danio, a ddefnyddiwyd i amddiffyn pot yn ystod tanio). Byddai llestr oedd wedi'i drochi mewn gwydredd yn cael ei osod ar ben y prop. Yna, gosodwyd clawr ar ben y sagar oedd yn cynnwys y prop a'r llestr. Yn y modd yma gellid rheoli'r amgylchedd o amgylch y llestr yn ystod y tanio Mae'n debyg fod y gwaith cynhyrchu yn ei anterth yn Holt rhwng 87 ac 135 OC, yn ystod y cyfnod pan adeiladwyd y gaer yng Nghaer. Fodd bynnag, yn ôl pob tebyg, parhaodd peth gwaith cynhyrchu hyd y drydedd ganrif OC Darllen Cefndir 'A collection of samian from the legionary works-depot at Holt' gan M. Ward. Yn Form and Fabric: Studies in Rome's material past in honour of B. R. Hartley gan J. Bird, tt133-43. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (1998). 'Holt, Denbighshire: the works depot of the twentieth Legion at Castle Lyons' gan W. F. Grimes. Yn Y Cymmrodor, cyf. 41. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion (1930). 'The Lead Glazed Wares of Roman Britain' gan P. Arthur. Yn Early Fine Wares in Roman Britain gan P. Arthur a G. Marsh, tt293-356. Cyhoeddwyd gan British Archaeological Reports (1978).
Caer Rhufeinig Gelligaer 9 Mai 2007 Rhwydwaith milwrol Rhufeinig John Ward, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd (1893-1912) a Cheidwad Archaeoleg cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1912-14). Am dros 40 mlynedd, Gelligaer oedd y maen clo'r rhwydwaith milwrol Rhufeinig oedd yn rheoli de-ddwyrain Cymru. Lleolir caer Gelligaer ar gefnen rhwng cymoedd Taf a Rhymni. Mae'n cynnig golygfa wych o'r ardal tir uchel hon, oedd yn goediog iawn yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Mae'r gaer, a adeiladwyd o gerrig, bron a bod yn sgwâr o ran siâp ac mae ganddi arwynebedd i 1.4ha (3.5 erw), sy'n ei gosod ymhlith y lleiaf yng Nghymru. Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd Arysgrif o'r porth de-ddwyreiniol. Archwiliodd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd y safle'n fras ym 1899-1901 ac wedyn gwbaeth John Ward, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd, waith cloddio pellach y tu allan i'r gaer rhwng 1908 a 1913. Mae'r canlyniadau wedi datgelu enghraifft glasurol o gaer Rhufeinig wedi ei garsiynu gan cohors quingenaria (uned gynorthwyol o 500 o filwyr traed - byddai milwr traed cynorthwyol yng ngarsiwn Gelligaer wedi gwisgo crys llurig syml dros ben tiwnig, efallai gyda throwsus gwlân neu ledr, a helmed. Byddai'n cario tarian hirgrwn wastad ynghyd â chleddyf, dagr a gwaywffon trywanu.) Roedd y gaer gan ffos allanol lydan a rhagfur pridd â wyneb cerrig y naill ochr a'r llall iddi yn amddiffyn y gaer. Roedd yna dyrau cornel a mewnol a phedwar porth â dau fwa. Roedd y pencadlys trawiadol yn sefyll wrth ganol y gaer a nesaf ato roedd cartref swyddogol comander yr uned. I gwblhau'r adeiladau canolog roedd gweithdy, iard a dwy ysgubor - i storio grawn a nwyddau darfodus eraill (fel llysiau a chig). Roedd y dynion yn byw mewn chwe bloc barics, un am bob cannwr o 80 dyn a'u canwriad. Mae'n debyg y byddai adeiladau eraill yn y gaer yn cael eu defnyddio fel storfeydd a stablau ar gyfer anifeiliaid pac yr uned. Baddonau Model o'r gaer garreg yng Ngelligaer ddechrau'r 2il ganrif OC. Y tu allan i'r gaer ar yr ochr dde-ddwyreiniol roedd adeilad ychwanegol oedd yn cynnwys baddonau lle gallai'r milwyr fynd i ymlacio pan nad oeddent ar ddyletswydd. Yn rhan ogledd-ddwyreiniol y gaer roedd y maes ymarfer, oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer driliau, ymarferion arfau a gwyliau crefyddol. Nid y gaer garreg oedd y ganolfan filwrol gyntaf yng Ngelligaer. Profwyd bod gwrthglawdd mawr i'r gogledd orllewin wedi bod yn gaer bridd a choed ar un adeg, ac fe'i hadeiladwyd yn fwy na thebyg adeg y goncwest Rufeinig yn OC 103-111. Ymerawdwr Hadrian Gwaith cloddio ar yr odyn teils yng Ngelligaer ym 1913. Byddai angen llawer iawn o frics a theils i adeiladu'r gaer. Roedd Gelligaer yn perthyn i rwydwaith o gaerau ar draws Cymru i rwysto'r brodorion rhag codi gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Cymdogion agosaf Gelligaer oedd y caerau ym Mhen-y-darren i'r gogledd a Chaerffili i'r de. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos bod y garsiwn wedi cael ei dynnu nôl yn fwy na thebyg yng nghyfnod yr Ymerawdwr Hadrian (OC 117-38), ac erbyn hynny roedd y Silwriaid wedi cael eu gwastrodi. Mae yna dystiolaeth o weithgarwch diweddarach ar y safle, ond nid yw natur y gweithgarwch hwnnw'n glir. Mae'r darganfyddiadau i'w gweld yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd. Gelligaer Roman fort gan Richard Brewer. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1980). Darllen Cefndir The Ermine Street Guard wedi gwisgo fel milwyr traed cynorthwyol. The Roman fort of Gellygaer in the county of Glamorgan gan John Ward. Cyhoeddwyd gan Bemrose & Sons (1903). Gelligaer Roman fort gan Richard Brewer. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1980).