: Hafan

Ail-adeiladu gwesty’r Vulcan

Dafydd Wiliam, 15 Mehefin 2023

Cefnogwch project Gwesty'r Vulcan


 

Cyfrannu Nawr

Darlun yn dangos ffasâd y Vulcan fel yr oedd cyn 1914.

Ffasâd y Vulcan a elwir yn 'At present' yn 1914.

Darlun yn dangos sut allai ffasâd y Vulcan fod wedi edrych ar ôl newidiadau 1914.

Ffasâd y Vulcan a elwir yn 'Proposed' yn 1914.

Cofrestrwyd tafarn y Vulcan fel ‘ale house’ am y tro cyntaf ym 1853. Erbyn iddi gael ei datgymalu gan yr Amgueddfa yn 2012 gwelwyd sawl cyfnod o addasiadau. Roedd gwaith addasu 1901 ac 1914 mor sylweddol fel bod rhaid ceisio am ganiatâd cynllunio drwy Gyngor y Sir. Heddiw, mae’r cynlluniau yn Archifdy Morgannwg.

Mae’r cais cynllunio o 1914 yn cynnwys dau ddarlun (does dim darlun o’r ffasâd ar y cais o 1901) – labelwyd un darlun yn At present, a labelwyd y llall yn Proposed. Does dim esboniad ysgrifenedig wedi goroesi i gyd-fynd â’r darluniau. Serch hynny, wrth edrych yn fanwl mae modd bwrw mwy o olau ar y newidiadau arfaethedig. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg yw’r cynnydd ar y llawr cyntaf o ddwy ffenest i bedair, a chodi pileri newydd o frics coch naill ochr. Gwaredwyd y parapet oedd o flaen y to – sydd i’w weld fel cyfres o linellau llorweddol uwchben y ffenestri, ac fe addaswyd y simneiau a gosodwyd to newydd o lechi. Bu un newid arall, sydd ddim yn amlwg yn y darlun, a hwn oedd y newid mwyaf yn hanes y Vulcan – cynyddwyd uchder yr adeilad yn sylweddol. Mae’r darlun gwreiddiol yn dangos y dafarn yn rhannu to gyda’i gymdogion, lle mae’r darlun arfaethedig yn dangos adeilad cryn dipyn yn dalach na’r cymdogion.

Doedd dim bwriad i newid strwythur y ffasâd llawr gwaelod – dau ddrws, a dwy ffenest wedi eu rhannu yn ddwy a ffenestri linter (fanlights) uwch eu pen. Ond, wrth edrych yn fanwl mae modd gweld bod nifer o wahaniaethau allweddol, a digon i awgrymu fod y ddau ffasâd yn rhai gwahanol. Yn y darlun gwreiddiol mae dau banel hirsgwar o dan bob ffenest, ond yn y darlun arfaethedig dim ond un sydd. Mae’r nifer o baneli drws yn wahanol hefyd. Yn y darlun gwreiddiol, naill ochr i’r ffenestri mae’r pileri yn rhai rhychiog ac yn gorffen cyn cyrraedd y ffris. Dyw’r pileri ddim yn rhychiog yn y darlun arfaethedig ac maent yn cario ymlaen mewn i’r ffris nes cyrraedd y cornis uwch ei ben. Mae’r darlun arfaethedig hefyd yn dangos tri ffenest linter uwch ben pob gwydr ffenest, lle mae saith yn y darlun gwreiddiol. Dyw’r terfyniad addurniadol ddim i’w weld yn y darlun arfaethedig chwaith. Dim ond yn y darlun arfaethedig mae’r gwahaniaeth mwyaf oll i’w weld, sef yr arysgrif newydd THE VULCAN HOTEL, WINES & SPIRITS ac ALES & STOUTS.  

Er nad yw’n glir yn y cynlluniau, rydym yn sicr fod y darlun gwreiddiol yn dangos ffasâd llawr gwaelod o bren – tebyg iawn i flaen siop Fictoraidd draddodiadol, a newidiwyd hwn yn 1914 am un tebyg o deils gwydrog a arhosodd yn eu lle nes tynnu’r adeilad yn 2012.  

Y teils

Erbyn i'r Amgueddfa ddatgymalu'r Vulcan yn 2012, roedd teils lliwgar brown a gwyrdd y ffasâd wedi bod y neu lle am 97 mlynedd, ac o ganlyniad roedd nifer fawr mor wael eu cyflwyr fel na ellid eu ailddefnyddio. Ar ben hyn, gwnaeth nifer fawr wrthod wahanu oddi wrth y sment a ddefnyddiwyd i'w gludo yn eu lle. Gwnaeth y teils a gariodd enw Y Vulcan oroesi yn well oherwydd eu bod yn uwch i fyny'r adeilad, a byddent yn cael eu cadw i'w harddangos yn y dyfodol. Cynhyrchwyd y teils gan Craven Dunnill, o Ironbridge, Swydd Amwythig – yn ffodus, roedd eu henw ar gefn y teils. Gan fod y cwmni'n dal i fynd, fe benderfynon ni gomisiynu set newydd sbon o deils ar gyfer y Vulcan – a chafodd y rhain eu creu o'r un mowldiau pren a ddefnyddiwyd yn wreiddiol nol yn 1915.

Y Ffenestri

Cafodd ffenestri plwm Y Vulcan eu gosod yn eu lle ar yr un pryd â'r teils – fel rhan o'r gwaith adnewyddu mawr a gwblhawyd yn 1915. Wrth edrych yn agos, maen nhw i'w gweld mewn llun o’r Vulcan a dynnwyd yn 1919. Mae erthygl a gyhoeddwyd yn y Western Mail ar 16 Rhagfyr 1914 yn nodi:

‘Broke Public House Window

Paul Begley (46), a cripple, was fined 10s and costs at Cardiff on Tuesday…for disorderly conduct in Adam Street and for wilfully breaking two panes of plate glass in the bar window of The Vulcan Inn. Although the damage amounted to £3, the landlord…made no claim.’

Cyn adnewyddu’r Vulcan, roedd y ffasâd llawr gwaelod yn cynnwys dwy ffenestr fawr o ddau rhan. Os tybiwn fod yr erthygl hon yn ymwneud ag un o'r ddwy ffenest fawr, yna efallai na wnaeth y Landlord wneud hawliad gan ei fod yn gwybod bod y ffenestri yn mynd I gael eu adnwyddu o fewn yr wythnosau neu'r misoedd nesaf. Efallai bod y newid o wydr plât i wydr plwm (o ddarnau bach o wydr) wedi bod yn ymgais i leihau effaith difrod o'r fath yn y dyfodol. Mae yw weld bod fframiau'r ffenestri wedi goroesi mewn cyflwr gwell gan fod un wedi cael ei ail-ddefnyddio fel ffenestr y bar cefn – yr hen agoriad yn cael ei ehangu i ffitio.

Ffenestr gyda logo yn ei ganol; mae'r logo yn cynnwys y llythyren 'N' yn fawr ynghyd a dau 'W' y tu ol iddo mewn. Mae'r llythrennau'n cynrychioli 'William Walter Nell'.

Pan brynodd Bragdy Brains y dafarn yn y 1950au, fe osodon eu logo Draig Goch mewn rowndel yng nghanol pob un o'r ffenestri. Erbyn 2012, dim ond un o'r rhain oedd ar ôl. Gan y bydd y Vulcan yn cael ei ddehongli fel yr edrychodd yn 1915, dydyn’t methu cynnwys logo Brains gan nad oeddent yn berchen ar y dafarn bryd hynny. Ar y pryd, roedd yn eiddo i William Walter Nell ac fe'i gyflenwyd gan ei fragdy Eagle Brewery, yn Sgwâr Sant Ioan, Yr Aes, yng nghanol dinas Caerdydd. Wrth i'w fonogram W.W.N. oroesi ar adeilad ym Merthyr Tudful, llwyddon yw efelychu i gymryd lle'r Ddraig Goch. Gwnaed y gwaith o adnewyddu’r ffenestri plwm gan arbenigwyr o Goleg Celf Abertawe, yn y Ganolfan Gwydr Pensaernïol. Gwnaethant ddod o hyd i'r gwydr cywir i gymryd lle unrhyw wydr toriedig, fe wnaethant lanhau pob darn unigol o wydr cyn eu rhoi yn ôl yn eu lleoliad gwreiddiol, ac ail-blymio y ffenestri yn barod ar gyfer y 97 mlynedd nesaf.

Cefnogwch project Gwesty'r Vulcan

Cyfrannu Nawr

Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys – stori Elizabeth Radcliffe

Elen Phillips, 11 Mai 2020

Ffedog y Groes Goch – gwisgwyd gan Elizabeth Radcliffe fel nyrs gwirfoddol yn Ysbyty Sain Ffagan, tua 1916-19.​

Ffedog y Groes Goch – gwisgwyd gan Elizabeth Radcliffe fel nyrs gwirfoddol yn Ysbyty Sain Ffagan, tua 1916-19.​

Heddiw (12 Mai 2020) yw Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys – diwrnod sy’n cael ei nodi’n flynyddol, ond sydd ag arwyddocâd arbennig eleni wrth i ni ddiolch i ofalwyr a nyrsys ledled Cymru am eu gofal a’u gwasanaeth yn ystod y cyfnod dihafal hwn.

Ychydig dros ganrif yn ôl, yn debyg i heddiw, roedd aberth ac ymdrechion nyrsys a gofalwyr ar flaen meddwl y boblogaeth, ond o dan amgylchiadau gwahanol iawn wrth gwrs. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, sefydlwyd bron i 18,000 o elusennau newydd ym Mhrydain ac fe welwyd ymgyrchu gwirfoddol ar raddfa heb ei debyg o'r blaen. Ynghyd ag Urdd Sant Ioan, roedd y Groes Goch Brydeinig yn ganolog i'r ymgyrch hon. Yn 1909, daeth y ddwy elusen ynghyd i sefydlu cynllun y Voluntary Aid Detachment (VAD), gyda'r bwriad o roi hyfforddiant meddygol i wirfoddolwyr a'u paratoi i wasanaethu gartref a thramor mewn cyfnodau o ryfel. Yn ôl ystadegau'r Groes Goch, erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd 90,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y cynllun - yn eu plith Elizabeth Radcliffe o bentref Sain Ffagan.

Yn ferch i ofalwr capel y pentref, roedd Elizabeth a’i theulu yn denantiaid i’r Arglwydd Plymouth o Gastell Sain Ffagan. Ganwyd chwech o blant i William a Catherine Radcliffe – pedwar mab (William, Thomas, Robert a Taliesin) a dwy ferch (Elizabeth a Mary). Cyn y Rhyfel, bu Elizabeth yn gofalu am blant James Howell – un o berchnogion y siop enwog yng Nghaerdydd. Ond erbyn 1916, roedd hi nôl yn Sain Ffagan ac yn gwirfoddoli fel nyrs VAD yn yr ysbyty ategol a agorwyd ar dir y Castell ym Mawrth y flwyddyn honno. Ar y pryd, roedd hi’n 28 mlwydd oed.

Roedd y rhan fwyaf o nyrsys Ysbyty Sain Ffagan yn wirfoddolwyr lleol – menywod o’r pentref, yn anad dim, a oedd wedi derbyn hyfforddiant sylfaenol gan y Groes Goch. Dim ond 70 o wlâu a dwy ward oedd yn yr ysbyty, felly milwyr ag anafiadau ysgafn oedd yn cael eu trin yno. Roedd gofyn i’r gwirfoddolwyr wisgo iwnifform swyddogol y mudiad, sef ffrog las a ffedog wen gyda chroes goch wedi ei phwytho ar y frest. Mae llyfrau cyfrifon Ystâd Plymouth yn cynnwys sawl cyfaniad ariannol at gostau prynu gwisgoedd i staff yr ysbyty. Mae’n debyg fod siop J. Howell & Co. ymhlith y cyflenwyr.

Yn ffodus iawn, mae gwisg Elizabeth Radcliffe o’r cyfnod hwn wedi goroesi, ynghyd â llun ohoni yn ei lifrai. Rhoddwyd ei ffedog a'i llewys i gasgliad yr Amgueddfa yn 1978, ac yn ddiweddar cawsom ragor o wybodaeth amdani a’i brodyr gan aelodau’r teulu. O’r pedwar brawd aeth i’r ffrynt, dim ond un ohonynt – Taliesin – ddaeth adref i Sain Ffagan yn fyw. Mae enwau William, Thomas a Robert Radcliffe i’w canfod ar gofeb rhyfel y pentref, ynghyd ag Archer Windsor-Clive - mab ieuengaf yr Arglwydd Plymouth - a laddwyd ym Mrwydr Mons. Mae’n amhosibl i ni amgyffred â mawredd y golled i Elizabeth a’i rhieni – un teulu ymysg y miliynau a rwygwyd gan erchyllterau’r Rhyfel Mawr.

Os hoffech ddarganfod mwy am waith y Groes Goch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae adnoddau gwych ar wefan y mudiad. Mae llu o wrthrychau a delweddau perthnasol yn y casgliad yma yn Sain Ffagan hefyd. Ewch draw i'r catalog digidol i ddarganfod mwy.

Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

5 Mai 2020

Mae Diwrnod VE yn coffáu y Cynghreiriaid yn derbyn ildiad yr Almaen Natsïaidd yn yr Ail Ryfel Byd ym 1945.

Mae 8-9 Mai hefyd yn cael ei nodi gan y Cenhedloedd Unedig fel Cyfnod o Gofio a Chymodi i’r Rhai a Gollodd eu Bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi’r rhyfel sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig gyda’r nod o gynnal a diogelu heddwch byd-eang ac i amddiffyn iawnderau dynol.

Yma gallwch ddysgu mwy am Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd drwy wrthrychau o’r casgliad. Darllenwch am y straeon tu ôl i fedalau unigolion yn y gwasanaethau milwrol a’r rheiny a wasanaethodd adref ac am yr aberth ar y Ffrynt Gartref o ganlyniad i ddogni a barhaodd flynyddoedd wedi Diwrnod VE.

Medalau Sarjant Evans (o’r chwith i’r dde): y Fedal Ryfel, Seren Criw Awyr Ewrop, Seren 1939-1945

Medalau Sarjant Evans (o’r chwith i’r dde): y Fedal Ryfel, Seren Criw Awyr Ewrop, Seren 1939-1945.

Mae casgliad Amgueddfa Cymru o fedalau’r Ail Ryfel Byd yn dyst i ddewrder ac aberth rhyfeddol milwyr a phobl gyffredin Cymru rhwng 1939 a 1945.

Darllen Mwy

 

Yn dilyn cyflwyno dogni ar fwyd ym 1940, daeth dogni dillad i rym ym Mehefin 1941. Y prif nod oedd lleihau’r galw am ddeunyddiau crai ac ailgyfeirio llafur at waith rhyfel.

Darllen Mwy

 
Cadeiriau utility yn ystafell fyw y Prefab, Amgueddfa Werin Cymru

Cadeiriau utility yn ystafell fyw y Prefab, Amgueddfa Werin Cymru

Ym 1941, aeth y Bwrdd Masnach ati i gynllunio casgliad o ddodrefn o wneuthuriad syml a rhad sef dodrefn utility.

Darllen Mwy

 

Dinistriwyd miloedd o gartrefi Prydeinig gan fomiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nid oedd modd eu hailgodi oherwydd prinder adeiladwyr a deunyddiau.

Darllen Mwy

 

Mae rhai wedi cymharu’r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd gyda cyfnod yr Ail Ryfel Byd – ciwio i fynd i fewn i siopa, y silffoedd gweigion a’r dogni yn ein harchfarchnadoedd.

Darllen Mwy

 

Cymru Yfory

Jennifer Evans, 5 Mehefin 2019

 

Roedd blwyddyn Arwisgo’r Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon ym 1969 yn flwyddyn gyffrous iawn yng Nghymru. Yn rhan o ddathliadau swyddogol Blwyddyn yr Arwisgo, cynhaliwyd arddangosfa ‘Cymru Yfory’ ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i adlewyrchu cyffro glanio ar y lleuad a thaith Apollo 11.

Fel y disgrifiwyd yn rhagair y catalog:

“Os dewisa Amgueddfa Genedlaethol dderbyn cyfraniadau o stiwdio'r lluniwr, o'r farchnadfa, o swyddfa'r cynlluniwr neu labordy ymchwil ni ofynna am batrwm i'w ddilyn. Dyna a wnaeth Amgueddfa Victoria ac Albert mewn modd cyffrous yn 1946 yn yr arddangosfa ‘Britain can make it’. Gwelsom yr adeg honno wedi llawer blwyddyn lom fflach o anturiaeth a lliw ac adawiad annisgwyl am y dyfodol.

Dewisodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gyfrannu i flwyddyn yr Arwisgo a Chroeso '69 trwy edrych tu draw i'w gorwelion cyffredin ac i'r dyfodol.

Gwahoddwyd cyfraniadau amrywiol oddi wrth wahanol sefydliadau a gofynnwyd iddynt am syniadau dychmygol yn ymwneud â'r dyfodol. Nid addewidion mohonynt; nid syniadau dymunol efallai, ond cyfeiriant o leiaf at agweddau o bosibliadau'r dyfodol.”

Stondinau ac arddangosfa'r nenfwd [gyda stondin Swyddfa'r Post ar y chwith]

Stondinau ac arddangosfa'r nenfwd [gyda stondin Swyddfa'r Post ar y chwith]

 

Roedd yr arddangosfa yn gam mawr i ffwrdd o draddodiadau arferol yr Amgueddfa. Roedd yn dangos nid yn unig diddordeb yn y gorffennol, ond hefyd ym mywyd y gymuned yn y cyfnod presennol a'r dyfodol.

Defnyddiwyd y Brif Neuadd i gyd – wedi'i gwahanu oddi wrth weddill yr Amgueddfa gyda llenni mawr a nenfwd plastig enfawr wedi’i lenwi ag aer. Am y tro cyntaf, comisiynwyd dylunwyr proffesiynol i ddylunio a chynllunio'r arddangosfa. Cydlynodd Alan Taylor (Uwch Ddylunydd, BBC Wales TV) a John Wright (Pennaeth Coleg Celf Casnewydd) y dylunio, gyda thros 20 sefydliad yn cyfrannu. Roedd y canlyniad yn arbennig ac yn syrpreis llwyr i bob ymwelydd a oedd yn adnabod y Brif Neuadd fel lleoliad ffurfiol ar gyfer cerfluniau clasurol.

Roedd amrywiaeth y stondinau yn yr arddangosfa hon ym 1969 yn anferth, a’u dychymyg yn ddi-ben-draw. Yn eu plith, roedd syniadau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol – o Gaerdydd i’r Cymoedd, aber afon Hafren a thai ac ysgolion. Roedd rhai yn realistig ond roedd y rhan fwyaf yn ymylu ar y rhyfedd a dwl, yn enwedig y stondinau am ddillad, dodrefn ac arferion yr aelwyd yn y dyfodol. Roedd General Industrial Plastics Ltd, sef cynhyrchwyr a dylunwyr eitemau plastig, yn gyfrannwr mawr. Y cwmni yma wnaeth greu’r nenfwd plastig llawn aer, ynghyd â darnau o ddodrefn llawn aer a'r bag plastig a ddaeth gyda'r catalog swyddogol. Cyfrannodd Coleg Celf Caerdydd, y Bwrdd Glo Cenedlaethol, Dinas Caerdydd, Swyddfa'r Post a British Rail at y stondinau hefyd.

Yn rhan o'r awyrgylch llawn hwyl, crëwyd cyfrannwr ffug o'r enw Kumro Kemicals Corporation. Mae'r catalog yn esbonio y sefydlwyd y cwmni ym 1999 (ym 1969 y cynhaliwyd y digwyddiad hwn!) a bod eu cynnyrch yn "ganlyniad i'r rhaglen ymchwil fwyaf dwys erioed gan unrhyw sefydliad yn Hemisffer y Gorllewin..." Yn rhan o'u cyfraniad, cynhyrchodd Kumro amlenni wedi’u selio yn dwyn y teitl, PEIDIWCH AG AGOR TAN 1999 – ac mae un yn y Llyfrgell sydd yn dal heb ei hagor!

Wrth gyhoeddi delweddau, rhaid ystyried materion hawlfraint, ac mae gan nifer o'r ffotograffau hyn stamp ar y cefn gyda naill ai Hylton Warner & Co Ltd neu Giovanni Gemin (Whitchurch Road, Caerdydd). Ychydig iawn o wybodaeth ddaeth i'r fei wrth chwilio am Hylton Warner ar-lein, a dim byd o gwbl am Giovanni Gemin. Felly, rhoddwyd hysbyseb ar wefan y Photo Archive News yn gofyn i unrhyw un a oedd yn gyfarwydd â'r ddau ffotograffydd gysylltu. Ar ôl sbel, clywsom gan fab Giovanni Gemin. Yn ei haelioni, rhoddodd yr awdur uchel ei fri, Giancarlo Gemin, ganiatâd i ni gyhoeddi'r ffotograffau, a dywedodd y canlynol wrthym am ei dad:

“O 1961 ymlaen, roedd e'n ffotograffydd diwydiannol a masnachol yng Nghaerdydd. Roedd yn gweithio’n gyson i BBC Cymru, ac roedd yn un o ffotograffwyr swyddogol Arwisgo’r Tywysog Siarl. Cafodd gydnabyddiaeth gan Sefydliad Siartredig y Ffotograffwyr Corfforedig (AIIP) ac roedd yn Aelod Cyswllt Sefydliad y Ffotograffwyr Meistr (AMPA).”

Modelau yn sefyll o dan y nenfwd plastig clir

Modelau yn sefyll o dan y nenfwd plastig clir

 

Yn ogystal ag eitemau o effemera megis y catalog swyddogol, bag plastig, sticeri ac yn y blaen, mae dwy gyfrol o lyfrau sylwadau ymwelwyr hefyd wedi goroesi. Dyma gofnod gwych o ymateb yr ymwelwyr. Mae'r rhan fwyaf yn gadarnhaol iawn, ond nid oedd pawb yn gwerthfawrogi edrych i'r dyfodol yn hytrach na'r gorffennol clasurol. Dyma ambell sylw sydd wedi ein gwneud i ni wenu:

BW, Rhiwbeina “Ofnadwy”

RM, Rhondda “Ddim cystal â'r Amgueddfa Brydeinig”

MB, Cheltenham “Wedi drysu’n lân!”

MD, Durham “Mae'n well gennyf i'r HEN GYMRU falch ac urddasol, nid yr un plastig a ffug”

CS, Caerdydd “Angen dwstio”

SL, Caerdydd “Rwtsh, gwastraff gofod amgueddfa da!”

TO, Swydd Corc “SBWRIEL”

 
Nenfwd plastig wrthi'n cael ei osod

Nenfwd plastig wrthi'n cael ei osod

 
  • Detholiad o effemera'r arddangosfa
  • Arddangosfa Courtaulds [delwedd Hylton Warner trwy garedigrwydd Drake Education Associates]
  • Arddangosfa Swyddfa'r Post
  • Arddangosfa Dinas Caerdydd

Yn ddiweddar buom mewn cysylltiad â Drake Educational Associates a brynodd Hylton Warner ynghyd â hawlfraint eu ffotograffau rai blynyddoedd yn ôl. Diolch iddynt am adael i ni ddefnyddio'r delweddau yn yr erthygl hon.