Ffrind newydd i Amgueddfa'r Glannau
4 Mehefin 2020
,Yn 2016 cefais alwad ffôn gan Nichola Thomas. Roedd ganddi fab, Rhys, a fyddai wrth ei fodd yn gwirfoddoli yn yr amgueddfa. Roedd yn ddwy ar bymtheg ac yn y coleg yn rhan-amser ac yn awtistig.
Fe benderfynon ni gwrdd â Rhys a Nichola i ddarganfod beth oedd ei ddiddordebau a sut y gallai helpu yn yr amgueddfa.
Roedd Rhys yn eithaf swil ar y dechrau ac ni ddywedodd lawer, ond cymerodd bopeth i mewn. Fe wnaethon ni gytuno ar gynllun fyddai’n gofyn iddo ddod am ddwy awr bob dydd Mercher o unarddeg o'r gloch tan un. Byddai Rhys yn fy helpu ar y bwrdd ‘trin gwrthrych’ a byddem yn annog ymwelwyr i ddal gwrthrychau o’r 1950au, 60au a’r 70au a siarad am eu hatgofion neu ddim ond dysgu am y gwrthrychau. Pethau fel ‘Green Shield Stamps’, cwponau sigaréts, hen eitemau trydanol a hen offer.
Nawr, nid oedd gan y mwyafrif o staff yr amgueddfa fawr o ddealltwriaeth o awtistiaeth, os o gwbl. Mae gan un ddynes, Suzanne, fab awtistig a gallai egluro pethau fel sut i gyfathrebu’n effeithiol â Rhys. Roeddem i gyd yn teimlo y dylem fod yn fwy gwybodus, felly cynigiwyd hyfforddiant ‘ymwybyddiaeth awtistiaeth’ i’r holl staff. Rwy'n credu bod pawb wedi cofrestru. Agorodd yr hyfforddiant ein llygaid i fyd awtistiaeth. Un pwynt enfawr a ddaeth allan o’r hyfforddiant oedd bod gan lawer o sefydliadau le ‘ymlacio’. Mae hyn ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo'n bryderus neu dan straen neu sydd angen dianc o'r prysurdeb am dipyn. Fe wnaethon ni benderfynu bod angen rhywbeth fel hyn arnom yn yr amgueddfa.
Erbyn hyn roedd Rhys wir wedi dechrau mwynhau ei amser yn y ‘gwaith’. Sylwodd pawb ar weddnewidiad go iawn wrth iddo ddod yn fwy allblyg a llai swil a dechrau sgyrsiau gyda dieithriaid llwyr yn rheolaidd. Gofynnom i Rhys ein helpu gyda dyluniad yr Ystafell Ymlacio. Roedd e’n wych - gan wneud argymhellion pwysig a hefyd bod yn llefarydd ar ein rhan am yr hyn yr oeddem yn ceisio'i gyflawni. Gwnaeth hyd yn oed nifer o ymddangosiadau ar sioe radio Wynne Evans. Daeth Rhys yn gymaint o ffefryn ar y sioe nes iddo wahodd Wynne i ddod i agor ein Hystafell Ymlacio yn swyddogol.
Erbyn hyn, mae Rhys yn mynychu coleg llawn amser, felly dim ond yn ystod y gwyliau y gall wirfoddoli yn yr amgueddfa. Rydyn ni bob amser wrth ein bodd yn ei weld ac mae wir yn ychwanegu rhywbeth arbennig at ein tîm. Mae ein Hystafell Ymlacio yn llwyddiant ysgubol ac yn cael ei defnyddio’n ddyddiol.