Gwasgarwyd gan ryfel a chwyldro 12 Mehefin 2007 Arwydd mewn glofa mewn Saesneg a Phwyleg Gweithwyr o'r Almaen mewn glofa yn ne Cymru Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd galw mawr am lo ac felly roedd angen rhagor o lowyr. Un ffynhonnell oedd y miloedd o bobl a oedd wedi gorfod dianc o'u cartrefi yn Ewrop yn ystod y Rhyfel. Ym mis Ionawr 1947, gwnaed cytundeb cenedlaethol rhwng Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) a'r Bwrdd Glo Gwladol (NCB) i recriwtio o blith y nifer fawr o filwyr o Wlad Pwyl a oedd wedi ymladd gyda'r Cynghreiriaid yn ystod y Rhyfel. Fodd bynnag, nid oedd yr undebau lleol yn hapus â hyn. Erbyn diwedd Mai 1947, roedd Pwyliaid wedi cwblhau eu hyfforddiant ond nid oedd glofeydd yn fodlon eu cymryd. Gofynnodd yr NCB i'r NUM am gymorth a chyflwynodd yr Undeb benderfyniad cryf i gynhadledd o blaid derbyn y Pwyliaid. Cafodd y rhan fwyaf ohonynt waith yn y pen draw. Ym mis Medi 1947, lansiwyd cynllun i recriwtio pobl o wledydd eraill yn nwyrain Ewrop a oedd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi. Roedd yr undebau lleol yn gwrthwynebu'n ffyrnig y tro hwn eto ac, erbyn y gaeaf, dim ond ychydig oedd wedi dod o hyd i lofeydd oedd yn barod i'w cymryd. Erbyn 1951, dim ond 10,000 o'r 18,000 o weithwyr tramor oedd yn dal yn y pyllau glo a lansiwyd cynllun arall i recriwtio Eidalwyr. Roedd gwrthwynebiad lleol i hynny hefyd, dim ond 400 a gafodd lefydd a daeth yr ymgyrch recriwtio i ben ym mis Ebrill 1952. Nid oedd y sefyllfa'n ddim gwell pan geisiodd y Bwrdd Glo Gwladol recriwtio ymhlith ffoaduriaid a adawodd Hwngari yn ystod chwyldro 1956. Roedd dros 4,000 o wirfoddolwyr ond cafodd llai na thraean ohonynt waith yn y glofeydd. Aeth y lleill i ddiwydiannau eraill. Daeth y 'gweithwyr tramor' i Gymru ar ôl blynyddoedd o galedi a pherygl. Ymhen amser, llwyddodd y rhai a gafodd waith yn y diwydiant glo i wneud enw iddynt eu hunain fel gweithwyr caled a phobl barchus. Dylai Cymru fod yn falch ohonynt a'r rhan y maent wedi'i chwarae yn ei hanes diwydiannol.
Dreigiau a sebras yng Nghymru - creu casgliad o gyfrifiaduron Cymreig 16 Mai 2007 Y BBC model B (top) a'r Acorn Electron. Y Dragon 32 (chwith) a'r Spectrum Plus. Amgueddfa Cymru wedi bod yn ceisio ychwanegu enghraifft o bob cyfrifiadur a wnaed yng Nghymru at ei chasgliad. Ym 1943, roedd Thomas Watson yr hynaf, Cadeirydd IBM, yn dychmygu mai dim ond pum cyfrifiadur gwahanol fyddai yna ym marchnad gyfrifiaduron y dyfodol. Ond roedd o leiaf chwe model gwahanol yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru'n unig yn ystod y 1980au. Sebras a Dreigiau Mathau o gyfrifiaduron cynnar oedd y Zebra a'r Dragon. Cynhyrchwyd y Zebra yn y 1960au. Dim ond deugain gafodd eu gwneud a chafodd y rhan fwyaf eu hallforio. Gwnaed y Zebra sydd yng nghasgliad yr amgueddfa yng Ngasnewydd ac fe'i cyflwynwyd i'r Amgueddfa gan Brifysgol Caerdydd. Roedd dwy fersiwn o'r Dragon ar gael, y trideg dau a'r chwedeg pedwar. Cyfeiriad o faint cof y peiriannau yw'r rhifau hyn. Er bod ganddynt lai o gof o lawer na chyfrifiaduron modern, roedden nhw'n bwerus iawn yn y 1980au. Nid tasg hawdd oedd ffeindio gwybodaeth am ble cafodd y cyfrifiaduron cynnar eu gwneud. Ond ffeindiwyd nifer o lyfrau sgrap oedd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol yn Archifdy Morgannwg, a chyflwynodd AB Electronics, Abercynon nhw i'r Amgueddfa. Roedd y llyfrau sgrap yn dangos taw AB Electronics oedd wedi cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r modelau o gyfrifiadur a wnaed yng Nghymru, ac yn rhoi gwybodaeth am gynhyrchwyr eraill yng Nghymru. Yr Electron a'r BBC Yr Acorn Company wnaeth yr Electron, sy'n fwyaf adnabyddus am gynhyrchu cyfrifiadur y BBC. Roedd e'n rhatach ac yn llai pwerus o lawer na'r BBC, sef y cyfrifiadur cartref mwyaf pwerus a drytaf oedd ar gael yn y 1980au. Er mai defnydd addysgiadol oedd i hwn yn bennaf, roedd rhai o'r gemau a ysgrifennwyd ar gyfer y BBC ymhlith y gorau i gael eu cynhyrchu ar gyfer unrhyw gyfrifiadur mewn unrhyw gyfnod. Roedd y llyfrau sgrap yn dangos bod AB Electronics wedi cynhyrchu nifer o beiriannau Electron, a bu cadeirydd Grŵp Defnyddwyr yr Electron mor garedig â chyflwyno peiriant a wnaed yng Nghymru i'r Amgueddfa. Roedd y llyfrau'n dangos bod tri chwmni wedi cynhyrchu'r BBC yng Nghymru: AB Electronics o Abercynon, Race Electronics o Lantrisant ac ICL o Kidsgrove. Cyflwynodd masnachwr hen galedwedd Acorn gyfrifiadur BBC a gynhyrchwyd gan Race Electronics i gasgliadau'r Amgueddfa. ZX Spectrum Er bod y Spectrum yn boblogaidd ac ar gael ar raddfa eang, roedd hi'n dipyn o dasg dod o hyd i fodel a wnaed yng Nghymru. AB Electronics o Abercynon oedd wedi gwneud y Spectrum hefyd, ond ffatri Timex yn Dundee oedd wedi gwneud y mwyafrif. Yn y pen-draw, llwyddodd yr Amgueddfa i gael gafael ar enghraifft o Spectrum Plus a wnaed gan AB Electronics i'w ychwanegu at y casgliad. Torch Computers Roedd llyfrau sgrap AB yn cyfeirio at 'Torch Computers of Cambridge' oedd â ffatri yng Nghaernarfon ac oedd yn adeiladu peiriannau ar gyfer y farchnad fusnes. Bu'r cwmni mor hael â chynnig enghraifft o beiriant a adeiladwyd yn y gogledd i ni. Dim ond tri chyfrifiadur sydd eu hangen ar yr Amgueddfa i gwblhau ei chasgliad o gyfrifiaduron a wnaed yng Nghymru. Un o'r rhain yw'r Apple iMac a wnaed gan LG Corporation, Casnewydd. Mae llawer o wefannau ar gael sy'n gallu rhoi rhagor o wybodaeth am gyfrifiaduron cynnar. Mae rhai o'r gwefannau hyn yn cynnig meddalwedd ar gyfer y peiriannau cynnar, ac mae yna raglenni i'w rhedeg ar gyfrifiaduron personol modern hefyd sy'n efelychu ymddygiad yr hen beiriannau, i ddangos sut mae cyfrifiaduron wedi datblygu.
Fframiau Haearn ac Olwynion Pren - Casgliad Beiciau Amgueddfa Cymru 16 Mai 2007 Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r pwyslais cynyddol ar ffitrwydd a materion gwyrdd wedi cynyddu poblogrwydd y beic. Heddiw mae beiciau ar gael mewn amrywiaeth eang o steiliau a phrisiau, ond roedd y beiciau cyntaf a gynhyrchwyd yn eithriadol o ddrud ac yn anodd eu meistroli. Cynlluniau'r beiciau cyntaf Pâr o Gaerdydd ar feic tandem gyda'r fenyw ar y blaen. Roedd y dyn, a oedd yn diwniwr pianos, yn ddall. Roedd y beiciau High Ordinaries, a alwyd yn ddiweddarach yn Penny Farthings yn arbennig o anghyfforddus, ac roedd rhaid cael coesau hir i gyrraedd y pedalau. Yn yr 1870au ffurfiwyd clybiau gan berchnogion y beiciau newydd hyn. Gwisgai'r aelodau gapiau â bathodynnau'r clybiau arnynt, a siwtiau beicio milwrol yr olwg. Er i fenywod osgoi beiciau ar y cychwyn, daeth nifer i fod yn drisiclwyr brwdfrydig, gan ddewis y beiciau tair olwyn mwy sefydlog, a dillad arbennig a gynlluniwyd i fod yn ddiogel a chyfforddus. Roedd sgertiau pletiog yn caniatau mwy o ryddid i symud, a gwisgai rhai menywod lodrau o dan eu sgertiau. Fynnodd y beic yn yr 1890au. Roedd modelau newydd yn ymddangos bron bob wythnos, ac agorwyd ffatrïoedd beiciau ledled y wlad. Gyda datblygiad y 'beic diogelwch' yn cynnwys cadwyn ac olwynion yr un maint, nid oedd rhaid bod yn ddyn tal ac athletaidd i feicio bellach. Wrth i boblogrwydd beicio dyfu, newidiodd y dillad i fod yn llai rhyfedd, a dechreuodd dynion wisgo'u dillad cyffredin yn lle'r hen siwtiau beicio. Gan y bu rhaid i fenywod ddefnyddio beiciau a gynlluniwyd ar gyfer dynion, a oedd yn anaddas i'w defnyddio tra'n gwisgo sgertiau, annogwyd hwy gan y Rational Dress Society yn ogystal â nifer o glybiau beicio i wisgo math o glosau pen-glinniau a elwir yn rationals. Roedd y rationals yn edrych yn rhyfedd ac yn destun sbort i nifer o'r cyhoedd. O ganlyniad i'r gwawdio hyn roeddent yn amhoblogaidd, ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif nid oedd llawer o fenywod yn eu gwisgo. Gyda dyfodiad masgynhyrchu a gostyngiadau mewn prysiau, manteisiodd y dosbarth gweithiol ar y cyfle i fod yn berchenogion ar eu trafnidiaeth eu hunain. Yn ogystal â disodli'r poni a'r trap fel trafnidiaeth y postmon cef gwlad, roedd y beic yn galluogi heddweision i wasanaethu ardaloedd ehangach. Hefyd gallai siopau eu defnyddio i gludo nwyddau at eu cwsmeriaid yn gyflymach. Arbrofwyd gyda defnyddio beiciau i yrru injans tân hyd yn oed. Dechreuodd haearnwerthwyr a siopau nwyddau amaethyddol werthu beiciau, a datblygodd nifer o'r gofaint lleol arbenigedd wrth eu trwsio. Esblygiad y beic Cafodd yr awydd am gyflymder effaith mawr ar gynllun beiciau. Gan mai'r pedalau oedd yn gyrru olwynion y beiciau cynnar yn uniongyrchol, defnyddio olwynion mwy oedd yr unig ffordd i gynyddu'r cyflymder. Cynhyrchwyd rhai modelau gyda olwynion â diamedr o 62 modfedd, oedd yn pwyso tua 50 pwys. Ceisiwyd cyflymu'r beiciau trwy gynhyrchu rhai ysgafnach, cyn lleied a 22 pwys. Wrth reswm, roeddent yn feiciau peryglus iawn. Rasio beiciau Taniwyd dychymyg y cyhoedd gan rasys dros bellteroedd hir, fel o Lundain i John O'Groats, ac roeddent yn gyfrifol am gynyddu poblogrwydd beicio. Fodd bynnag, wrth i'r cyflymdra gynyddu cafwyd mwy a mwy o ddamweiniau, nes i'r heddlu wahardd rasio ar briffyrdd cyhoeddus. Trefnwyd rasys dros gyrsiau rhwng 50 a 100 milltir o hyd gan y National Cyclists Union. Ni welwyd rasys ffordd, fel y Tour de France, ym Mhrydain tan y 1950au cynnar. Cynhaliwyd y ras Tour of Britain cyntaf, sef y Milk Race yn ddiweddarach, ym 1951. Roedd rasio ar y trac, ar y llaw arall, yn un o'r chwaraeon gwreiddiol yn yr Olympiad cyntaf ym 1896. Cynhaliwyd pencampwriaethau byd rasys trac o 1892 ymlaen, er nad oedd rasys ar gyfer menywod tan 1958. Beiciau yng nghasgliadau'r Amgueddfa Yr enw am y beic cynharaf yng nghasgliadau'r amgueddfa yw'r 'march haearn'. Mae'n dyddio o tua 1865, mae ganddo ffram haearn, olwynion pren a theiars haearn. Mae'n debyg mae dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys 'march haearn' a adeiladwyd o bren yng nghefn gwlad gan grefftwr lleol. Mae'n gopi o'r fersiwn o'r beic a gafodd ei weithgynhyrchu. Yn ogystal a'r meirch pren, mae gan yr amgueddfa feiciau Raleigh o'r 30au, roadsters o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, beic tandem New Hudson o 1938 a threisicl cymdeithasol a gynhyrchwyd yn yr 1880au.
Darganfyddiadau o dan eglwys ganoloesol 1 Mai 2007 Glanhau wal ddeheuol yr eglwys ganoloesol Gwaith cofnodi a glanhau yn mynd yn ei flaen (y corff a'r porth yn y blaendir) Ar ôl datgymalu eglwys Sant Teilo ym Mhontarddulais, gorllewin Morgannwg, a'i symud i Sain Ffagan, fe ddadorchuddiodd cloddiadau yn seiliau'r eglwys gliwiau pellach ynglŷn â hanes yr eglwys ganoloesol hon. Drwy ddatgymalu ac ail-godi'r eglwys yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru roedd modd archwilio seiliau'r eglwys mewn ffordd a fyddai wedi bod yn amhosib heblaw am hynny. Mae dealltwriaeth fanwl o'r adeilad yn hanfodol ar gyfer unrhyw ymchwiliad o ddatblygiad eglwys. Pan fydd eglwys yn dal i gael ei defnyddio, dim ond ambell gyfle sy'n codi i archwilio deunydd cuddiedig yr adeilad. Wrth ddatgymalu Eglwys Sant Teilo, roedd modd cynhyrchu cynllun manwl, fesul carreg. Cyn dechrau cloddio, cwblhawyd arolwg geoffisegol o'r ardal gan ddefnyddio radar treiddio daear, a ddatgelodd dystiolaeth o gladdedigaethau niferus, a chofnodwyd nifer o rannau oddi fewn i'r eglwys a allai fod yn gysylltiedig â gweithgarwch strwythurol. Ar ôl cwblhau'r cloddio a'r arolygu, datgelwyd manylion am yr adeiladwaith o'r 12fed neu'r 13eg ganrif ymlaen. Mae'n debyg bod yr eglwys bresennol yn dyddio o'r 15fed ganrif. Cyn cloddio, y farn oedd mai'r capel bach ar ochr ogleddol y gangell oedd yr ychwanegiad olaf. Y rhan gynharaf o'r adeilad y gellid ei hadnabod yw'r corff bach petryalog a'r gangell. Ychwanegwyd ale groes y gogledd ac ale groes y de at hyn, yn ystod y 14eg neu ar ddechrau'r 15fed ganrif mae'n debyg (ond nid o reidrwydd ar yr un pryd). Yn aml, byddai gan eglwysi pwysig Cymru'r Oesoedd Canol gynllun croesffurf. Ychwanegwyd ystlys ddeheuol yn y 15fed ganrif, i wneud lle i gynulleidfa fwy, mae'n debyg. Yn olaf, ychwanegwyd y porth at ochr ddeheuol yr ystlys. Ar fan cyfarfod y gangell ac ale groes y gogledd darganfuwyd carreg bedd gladdedig Mary Bevans o Gilâ, a fu farw ym 1717 yn 64 oed. Mae'n bosibl mai'r ardal o rwbel ar ochr ddeheuol yr eglwys, a oedd yn segur erbyn cyfnod adeiladu'r porth yn ôl pob tebyg, oedd y sail ar gyfer croes y fynwent. Mae'r cloddiad wedi newid ein dealltwriaeth o ddatblygiad yr eglwys yn sylweddol. Bu cynnydd aruthrol mewn adeiladu eglwysi yn y 12fed ganrif, ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n weddill o flynyddoedd cynnar eglwys Sant Teilo yn dyddio o'r cyfnod hwn. Er bod modd cysylltu'r eglwys gyda 'Lan Teliav Talypont', un o bedwar lle ym Morgannwg a enwyd ar ôl Sant Teilo yn y Liber Landavensis (Llyfr Llandaf) o'r 12fed ganrif, nid ydym wedi dod o hyd i gerrig cerfiedig na thystiolaeth o adeilad pren cynharach.
Croes Fictoria 'ddirgel' a pharot wedi'i stwffio 26 Ebrill 2007 William Williams VC. Image © Kenneth Williams Collection. Medalau William Williams. O'r chwith i'r dde: Croes Fictoria, Medal Gwasanaeth Nodedig ynghyd ag ail far, medalau gwasanaeth yn y Rhyfel Mawr (Seren 1914-15, Medal Ryfel, Medal Fuddugoliaeth), Medal Amddiffyn 1939-45, Medalau'r Coroniad (1937 a 1953), Médaille Militaire Ffrainc. Ym 1917 dyfarnwyd Croes Fictoria i William Williams am ei ran yn y gwaith o suddo llong danfor Almaenig. Ar 21 Gorffennaf 1917 derbyniodd William Williams, morwr o Fôn, Groes Fictoria, sef prif wobr dewrder Prydain, gan y Brenin Sior V ym Mhalas Buckingham. Yng ngeiriau'r ddyfynneb, fe'i dewiswyd 'by the ship's company of one of H.M. ships to receive the Victoria Cross under Rule 13 of the Royal Warrant...' O achos y ddyfynneb annelwig hon cyfeiriwyd at yr achos hwn, a rhai tebyg iddo, fel y 'Groes Fictoria ddirgel'. Beth oedd cefndir yr achos hwn? Yn ystod y Rhyfel Mawr (1914-18), ceisiodd Llynges yr Almaen roi Prydain dan warchae, gan ddefnyddio ei fflyd o longau tanfor i atal bwyd a nwyddau angenrheidiol rhag cyrraedd y wlad. Llwyddwyd i ffrwyno'r bygythiad hwn yn y pen-draw drwy ddefnyddio llongau mewn gosgordd a meysydd ffrwydron, ond tacteg arall oedd camarwain a dal llongau tanfor y gelyn drwy ddefnyddio llongau masnach ac arnynt arfau cudd - y 'llongau-Q' fel y'u gelwid. Aeth y llongau hyn i drafferth mawr i sicrhau bod y gelyn yn ymosod arnynt, yn y gobaith y byddai hynny'n darbwyllo llongau tanfor yr Almaen i ddod i'r wyneb a'u gosod eu hunain o fewn cyrraedd gynnau cudd y llongau masnach. Bu Williams yn gwasanaethu ar sawl un o'r llongau hyn dan gyfarwyddyd Gordon Campbell VC DSO, comander mwyaf llwyddiannus y llongau-Q. Roedd eisoes yn meddu ar y Fedal Gwasanaeth Nodedig (DSM) am ei ran yn y gwaith o suddo'r llong danfor Almaenig U-83, wedi i'r H.M.S ar 7 Mehefin 1917. Q5 (a elwid gynt yn S.S. Farnborough) gael ei suddo â thorpido oddi ar arfordir gorllewinol Iwerddon ar 17 Chwefror 1917. Digwyddodd y frwydr a arweiniodd at ddyfarnu Croes Fictoria i Williams ar 7 Mehefin 1917. Suddodd olynydd S.S. Farnborough, sef H.M.S. Pargust (S.S. Vittoria gynt, a atafaelwyd o Ddociau Caerdydd), y llong danfor UC-29, wedi i'r llong gael ei tharo â thorpido. Cymerodd y criw arnynt eu bod hwy - ynghyd â pharot wedi'i stwffio mewn caets - am ymadael â'r llong, gan adael nifer fach o ddynion yn cuddio ar ei bwrdd. Am dros 30 munud, daliodd y Morwr Williams dwll gwn ochr dde'r llong yn ei le, wedi i'w bwysau ddod yn rhydd yn dilyn ffrwydrad y torpido. Drwy ei weithredoedd llwyddodd i gadw'r gwn o'r golwg hyd yr eiliad y daeth hi'n amser i'w danio, pan ddaeth y llong danfor i'r wyneb gerllaw. Cydnabuwyd y gamp o suddo'r UC-29 drwy ddyfarnu'r Groes Fictoria i H.M.S. Pargust, y tro cyntaf i long ennill bri dan y Rheol a oedd cyn caniatŷu i weithred o ddewrder torfol gael ei gydnabod. Dewiswyd un swyddog (Lefftenant R.N. Stuart) ac un llongwr i dderbyn y wobr. Y llongwr hwnnw oedd Williams, ef achubodd y dydd diolch i'w feddwl chwim a'i ymdrech fawr. Roedd i'w yrfa anrhydeddus un tro annisgwyl arall: ar 8 Awst 1917, suddwyd yr H.M.S. Dunraven (olynydd y Pargust, llong arall o Gaerdydd) oddi ar arfordir Ffrainc wedi brwydr pum-awr â llong danfor arall. Ar yr achlysur hwn derbyniodd Williams far (ail wobr) i'w DSM am ei waith saethu: ei drydydd gwobr am ddewrder ymhen llai na chwe mis! Rhyddhawyd William Williams o'r Llynges Frenhinol wrth Gefn ym mis Tachwedd 1918. Ymgartrefodd yng Nghaergybi ac ef oedd un o sefydlwyr y gangen leol o'r Lleng Brydeinig. Bu farw ar 23 Hydref 1965. Darllen Cefndir My mystery ships gan G. Campbell. Cyhoeddwyd gan Hodder & Stoughton (1928). Sea killers in disguise gan T. Bridgeland. Cyhoeddwyd gan Leo Cooper (1999).