Hanes

Saesneg yng Nghymru

2 Chwefror 2002

Iaith fyd-eang

Saesneg

Saesneg

Y Saesneg yw'r iaith amlaf ei defnydd yn y byd bellach. Amcangyfrifir bod 760 miliwn o bobl ar draws y byd yn siarad Saesneg — sef mwy o siaradwyr nag unrhyw iaith arall ar wahân i Tsieinëeg Fandarin.

Serch hynny, dim ond 400 mlynedd yn ôl 7 miliwn o bobl yn unig oedd yn siarad yr iaith. Prin fod sôn amdani y tu hwnt i Brydain. Roedd ar lafar yn rhan helaethaf Lloegr a rhannau deheuol a dwyreiniol yr Alban, ond Cymraeg oedd yn cael ei siarad yn bennaf trwy'r rhan fwyaf o Gymru. Roedd y Gernyweg i'w chlywed o hyd yng Nghernyw, a'r Aeleg oedd iaith Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd Gorllewinol ac Ucheldiroedd yr Alban.

Rhwng teyrnasiad Elisabeth I (1603) ac Elisabeth II (1952), cynyddodd nifer y siaradwyr Saesneg hanner can gwaith i ryw 250 miliwn. Mae cyflymder ymlediad yr iaith ers y 1950au yn fwy syfrdanol byth.

Sut y digwyddodd hyn? Yn ystod yr 17eg a'r 18fed ganrif, Saesneg oedd iaith y brif wlad ymerodrol, sef Prydain. Yn ystod y 19eg ganrif, wedyn, daeth yn iaith arweinwyr y chwyldro diwydiannol. Erbyn yr 20fed ganrif Saesneg oedd iaith Unol Daleithiau America, pŵer economaidd amlycaf y byd. Ac wrth gwrs hi bellach yw iaith y Rhyngrwyd — ond tybed? Yn groes i'r disgwyl, nid yw Saesneg yn gordeyrnasu'n llwyr dros y We Fyd-eang. Mae dros 1000 o ieithoedd i gyd i'w gweld ar y Rhyngrwyd. A dweud y gwir, amcangyfrifir heddiw mai Saesneg yw iaith llai na 50% o gynnwys y Rhyngrwyd.

Saesneg Cymru

Map yn dangos dosbarthiad Cymry Cymraeg, cyfrifiad 2001

Map yn dangos dosbarthiad Cymry Cymraeg, cyfrifiad 2001

I ran fwyaf trigolion Cymru, y Saesneg yw eu hiaith gyntaf a'u hunig iaith. Nid felly y bu erioed. Dim ond ganrif neu ddwy yn ôl, Cymraeg oedd iaith rhan helaethaf Cymru, ar wahân i ambell Saesonaeth fel De Penfro a phenrhyn Gŵyr. Ar un adeg roedd pobl yn siarad Cymraeg yn rhannau o swydd Henffordd, hyd yn oed.

Mae gan wahanol rannau o Gymru hanes gwahanol iawn o ran eu perthynas â'r Saesneg, ac mae hyn i'w glywed yn yr acen neu'r dafodiaith Saesneg leol. Saesneg oedd prif iaith rhai ardaloedd sawl canrif yn ôl ond mewn mannau eraill (y Cymoedd, er enghraifft) dim ond yn gymharol ddiweddar y daeth Saesneg yn drech na'r Gymraeg. Mae yna ardaloedd o hyd lle mae'r Saesneg yn bendant yn ail iaith a'r Gymraeg yw iaith ymwneud pob dydd. Mae modd clywed dylanwad siroedd Lloegr sydd gyffin â Chymru, fel Cernyw neu swydd Henffordd, ar rai acenion Cymreig ar y Saesneg. Mewn ardaloedd eraill, mae geirfa a chystrawen y Gymraeg i'w clywed o hyd ar y Saesneg.

Dydd Gŵyl Dewi

11 Ionawr

 

Pryd mae Dydd Gŵyl Dewi?

Ar 1 Mawrth bob blwyddyn, byddwn ni'r Cymry yn dathlu ein nawddsant, Dewi.

Beth ydyn ni’n ei wybod am fywyd Dewi Sant?

Ychydig iawn wyddon ni yn bendant am hanes ei fywyd. Mae'r wybodaeth brin sydd ganddon ni yn dod o hanes a ysgrifennwyd gan Rhygyfarch tua diwedd yr 11eg ganrif.

Pryd oedd Dewi Sant yn fyw?

Yn ôl llawysgrif Ladin Rhygyfarch bu farw Dewi yn y flwyddyn 589. Enw ei fam oedd Non, ac roedd ei dad, Sant, yn fab i Ceredig, brenin Ceredigion. ⁠⁠

Cafodd ei addysg yng Ngheredigion cyn mynd ar bererindod drwy dde Cymru a gorllewin Lloegr, lle sefydlodd nifer o ganolfannau crefyddol o bwys, fel Glastonbury a Croyland. Aeth hefyd ar bererindod i Jerwsalem, lle cafodd ei wneud yn archesgob.

Pam mai Dewi yw Nawddsant Cymru? ⁠

Daeth Dewi yn ôl i fyw yng Nglyn Rhosyn (Tyddewi), lle sefydlodd gymuned grefyddol asetig a llym iawn.⁠⁠

Mae sôn ei fod wedi cyflawni nifer o wyrthiau – un tro, pan oedd e'n pregethu yn Synod Brefi, fe achosodd e i'r ddaear godi o dan ei draed fel y gallai pawb ei weld a'i glywed. ⁠Ond mae'n anodd gwybod faint o wir sydd i'r hanes â ysgrifennodd Rhygyfarch.

Rhaid cofio taw mab i Esgob Tyddewi oedd Rhygyfarch, a bod y Fuchedd (hanes bywyd y sant) wedi'i hysgrifennu fel propaganda i godi statws Dewi a gwarchod Tyddewi rhag cael ei goresgyn gan Gaergaint a'r Normaniaid.

Sut ddaeth Dewi Sant yn enwog?

O'r 12fed ganrif ymlaen, lledodd enwogrwydd Dewi drwy dde Cymru i Iwerddon a Llydaw. Daeth Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn gyrchfan boblogaidd i bererinion, yn enwedig ar ôl i Dewi gael ei gydnabod yn swyddogol fel sant Catholig yn 1120.

Baner gyda chroes felen ar gefndir du.

Baner Dewi Sant

Ar ôl y cyfnod hwn mae cyfeiriadau cyson at Dewi ym marddoniaeth beirdd canoloesol fel Iolo Goch a Lewys Glyn Cothi. Yn 1398, rhoddwyd gorchymyn i bob eglwys yn nhalaith Caergaint i gadw gŵyl Dewi.

Er iddi orffen fel gŵyl grefyddol gyda'r Diwygiad Protestanaidd yn y 16eg ganrif, daeth diwrnod ei ben-blwydd yn ŵyl genedlaethol o'r 18fed ganrif ymlaen.

Sut mae pobl yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi?

Heddiw mae ysgolion a chymdeithasau diwylliannol ledled Cymru yn dathlu ar 1 Mawrth. Y traddodiad ar y diwrnod hwnnw yw gwisgo cenhinen neu genhinen Bedr – dau o'n harwyddion cenedlaethol – ac i'r plant wisgo'r wisg genedlaethol.

Ond pa mor agos yw'r gwisgoedd hyn at beth oedd pobl yn ei wisgo yn y gorffennol? ⁠

Pam fod y genhinen yn symbol cenedlaethol Cymru?

Bwndel o gennin wedi ei glymu â chortyn, sydd wedi ei osod ar ben baner y Ddraig Goch.

Symbol cenedlaethol - y genhinen

Yn ôl yr hanes, Dewi Sant wnaeth annog milwyr Cymru i wisgo cennin yn eu helmedau mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid yn ystod y 6ed ganrif, ac ym Mrwydr Crecy yn 1346, ymladdodd saethwyr dewr a theyrngar o Gymru mewn cael o gennin. ⁠

Erbyn 1536, pan roddodd Harri VIII genhinen i'w ferch ar 1 Mawrth, roedd yn cael ei chysylltu â Dydd Gŵyl Dewi. ⁠Mae'n bosibl bod y Tuduriaid wedi cymryd y lliwiau gwyrdd a gwyn fel eu lliwiau teuluol o'r genhinen. ⁠ ⁠

Pryd ddechreuodd pobl wisgo cennin Pedr ar Ddydd Gŵyl Dewi?

Cennin Pedr melyn yn blodeuo mewn cae.

Symbol cenedlaethol - y genhinen Bedr

Dim ond yn ddiweddar y daeth y cennin Pedr yn symbol cenedlaethol pwysig.

Daeth yn flodyn poblogaidd yn y 19eg ganrif, yn enwedig gan fenywod, a cododd ei statws eto pan gafodd ei wisgo gan y prif weinidog o Gymru, David Lloyd George, ar ddydd Gŵyl Dewi ac mewn seremonïau yn 1911 i Arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon.