Hanes

Dwy wraig Syr Watkin Williams-Wynn

19 Chwefror 2007

Dau bortread godidog gan Syr Joshua Reynolds

Sir Watkin Williams-Wynne and Henrietta Somerset

Syr Joshua Reynolds (1723-1792), Sir Watkin Williams-Wynne and Henrietta Somerset. Priodwyd ar 11 Ebrill 1769 a bu hi farw ar 24 Gorffennaf yr un flwyddyn.

Mae Syr Joshua Reynolds (1723-1792) yn ffigwr pwysig ymysg arlunwyr Prydain. Un o'i noddwyr mwyaf brwd oedd y tirfeddiannwr cyfoethog Cymreig Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789). Erbyn yr 1760au hwyr roedd incwm Syr Watkin yn caniatáu iddo wario symiau anferthol ar brosiectau adeiladu a phrynu gweithiau celf.

Ym 1769 priododd Syr Watkin y Fonesig Henrietta Somerset, merch 4ydd Dug Beaufort. Bu'n briodas fer gan i Henrietta farw dri mis yn ddiweddarach. Prynodd ei mam-yng-nghyfraith set ymolchi arianwaith, wedi'i wneud gan Thomas Heming ym 1768, i Henrietta yn anrheg priodas.

Syr Watkin Williams-Wynn a Henrietta Somerset

Mae portread cyntaf Reynolds ar gyfer Syr Watkin, Sir Watkin Williams-Wynn and Henrietta Somerset, yn ddarlun maint llawn o'r pâr mewn gwisgoedd du a phinc sy'n cyfateb â'i gilydd. Maent yn dal mygydau theatrig mewn lleoliad pensaernïol o flaen llenni a fâs anferth.

Gwelir y math yma o fâs mewn nifer o bortreadau gan Reynolds. Mae wedi'i gopïo o ysgythriad o'r 17eg-ganrif gan G.B. Galestruzzi yn null Polidoro da Caravaggio.

Mae'r modelau'n gwisgo gwisg a gysylltir gyda'r peintiwr portreadau Anthony Van Dyck, a oedd yn ffasiynol o'r 1740au hyd yr 1770au. Roedd gwisgoedd du i fenywod gan Van Dyck yn anghyffredin, ac roedd yn anghyffredin i bâr wisgo dillad o'r un lliw, heblaw mewn dawns fasgiau.

Darlunnir Henrietta mewn osgo sy'n gyffredin ym mhortreadau Reynolds o fenywod, a ddysgodd gan ei athro, Thomas Hudson. Darlunnir Syr Watkin â golwg melancolaidd ar ei wyneb, gydag osgo sy'n gweddu i'w gorffolaeth fer, gadarn.

Er i'r darlun gael ei ddechrau fel portread priodas yn ôl pob tebyg, awgryma'r wisg ddu iddo gael ei gwblhau fel portread coffaol.

Charlotte Grenville gyda'i phlant

Charlotte Grenville gyda'i phlant

Sir Joshua Reynolds (1723-1792), Charlotte Grenville gyda'i phlant yn dangos ail wraig Syr Watkin Williams-Wynn.

Mae'r ail bortread, Charlotte Grenville and her children, yn dangos ail wraig Syr Watkin. Roedd Charlotte Grenville (1754-1830) yn aelod o un o brif deuluoedd llywodraethol Prydain yn y 18fed-ganrif. Hi oedd merch hynaf George Grenville (1712-70) a oedd yn Brif Weinidog ym 1763-5. Fe wnaethant briodi ym 1771, ddwy flynedd wedi marwolaeth Henrietta.

Mae'r paentiad hwn yn ei dangos gyda thri o'i phlant hynaf. Awgryma oedran y plant i'r portread gael ei baentio tua 1778.

Mae'r cyfansoddiad yn adleisio'r paentiadau o Rest on the Flight with St John the Baptist o Fenis ar ddechrau'r 16eg ganrif. Mae safle'r plant yn y darlun yn adleisio'r grŵp sydd ar y dde yn y darlun Vendramin Family gan Titian (Oriel Genedlaethol), yr oedd Raynolds yn gyfarwydd ag ef. Gwnaed gwisg y Fonesig Charlotte yn y ffasiwn Dwrcaidd ac mae ei hosgo'n deillio o'r portreadau pastel Ladies in Turkish dress gan Jean-Etienne Liotard. Un o bortreadau mwyaf godidog Reynolds o'r 1770au yw Charlotte Grenville and her children a baentiodd pan oedd yn ei anterth.

Mae'n debygol i'r ddau bortread gostio tua £315 yr un i Syr Watkins. Paentiwyd hwy yn null y Grand Manner, ac maent yn mynegi'r rhinweddau yr oedd  Reynolds yn eu hedmygu fwyaf yng Nghelfyddyd Uchel y Dadeni. Maent hefyd yn dangos uchelgeisiau diwylliannol Syr Watkin Williams-Wynn a'i wragedd.

Bu'r portreadau ym meddiant y teulu Williams-Wynn am dros ddwy ganrif cyn iddynt gael eu prynu gan yr Amgueddfa ym 1998. Mae gan yr Amgueddfa gasgliad ysblennydd o weithiau o gasgliad Syr Watkin yn cynnwys paentiadau pwysig gan Batoni a Mengs, ac arianwaith a chelfi wedi'u cynllunio gan Robert Adam.

Cwpan o aur Cymru solet

19 Chwefror 2007

Aur Cymru

Cwpan aur solet

Y cwpan aur solet a wnaethpwyd o gynllun mewn darlun o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i Jane Seymour ym 1536. Cwpan a chaead, aur 22 carat, R & S Garrard & Co, London 1867-68. Uchder: 39.8 cm (15 ''/16 modfedd).

Mae aur Cymru'n brin iawn. Gwnaethpwyd modrwyau priodas teulu Brenhinol presennol Prydain ohono, ond y gwrthrych mwyaf i gael ei wneud o aur Cymru yw'r copi o gwpan a roddodd Harri VIII i un o'i wragedd.

Y teulu cyfoethocaf yng Nghymru

Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain. Teulu'r Williams-Wynn oedd y teulu cyfoethocaf yng Nghymru ar y pryd. Roeddent yn enwog am eu cyfoeth, gan ei wario ar dai crand, paentiadau drud ac arianwaith. Mae llawer o'r rhain bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa.

Y Rhuthr am Aur Cymru

Mae nifer yn gwybod am y rhuthr am aur yn Califfornia ym 1848, ond nid oes llawer yn gwybod am y rhuthr am aur Cymru a ddigwyddodd ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ym 1862 darganfuwyd aur ym Meirionnydd ac yn fuan wedi hynny agorodd Syr Watkin-Wynn (1820-1885) waith aur Castell Carn Dochan ar ei dir. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r aur o'r gloddfa hon rhwng 1865 a 1873.

Taliadau o Aur

Talwyd breindaliadau mawr i Syr Watkin am yr aur a gloddiwyd, a thalwyd ef gyda'i ingotau aur ei hun. Fodd bynnag, nid oedd angen yr incwm hwn arno gan ei fod mor gyfoethog, a gallai drin yr aur fel difyrrwch.

Cwpan o Aur Solet

Defnyddiwyd peth o'r aur i wneud cwpan ysblennydd. Mae'r cwpan yn 40cm o uchder ac wedi'i wneud o aur 22-carat. Mae arno'r ysgythriad "MADE OF GOLD THE ROYALTY FROM CASTELL CARNDOCHAN MINE 1867" yn ogystal â'r dilysnod R & S Garrard and Co., Haymarket, Llundain. Mae'n addurnol, yn y steil a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod y Dadeni cynnar. Mae'n sefyll ar droed gron, ac mae ochrau'r goes wedi ei haddurno â phennau blodau, dolffiniaid a chlychau. Mae nifer o arwyddeiriau teuluol wedi'u hysgythru ar y cwpan: eryr eryrod eryri, y cadarn a'r cyfrwys, bwch yn uchaf a cwrw da yw allwedd calon. Mae arfbais Williams-Wynn ar y caead tal, ac arno hwrdd ifanc yn cael ei gynnal gan geriwbiaid ar y brig.

Cynllun Brenhinol ar gyfer Harri VIII

Y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cwpan a roddwyd i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536-37

Y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cwpan a roddwyd i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536-37 yn yr Amgueddfa Brydeinig. Hans Holbein yr Ieuaf, pen ag inc ar bapur. Hawlfraint Yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain

Fe seiliodd gwneuthurwyr y cwpan eu cynllun ar ddarlun sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536. Addurnwyd y cwpan â diemwntau a pherlau. Toddwyd cwpan Jane Seymour ar orchymyn Siarl I ym 1629, pan oedd yn brin o arian.

Siwt frodiog ysblennydd o'r 1770au

19 Chwefror 2007

Siwt felfed yn dyddio o 1770

Gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur.

Gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur.

Prynwyd y darnau pwysicaf o gasgliad Amgueddfa Cymru o ddillad dynion o'r 18fed-ganrif ym 1996. Mae'r siwt felfed yn dyddio o 1770 ac roedd yn eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn. Mae wedi'i brodio â sidanau a secwinau aur, ac mae mewn cyflwr arbennig o dda.

Syr Watkin Williams-Wynn

Roedd Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789) o Wynnstay yn noddi'r celfyddydau ac roedd yn eithriadol o gyfoethog ac adnabyddus. Adlewyrchai ei ddillad ei ffordd o fyw. Prynodd siwtiau melfed coeth yn Ffrainc a'r Eidal tra'r oedd ar ei Daith Fawr ym 1768-9. Yn ystod y 1770au prynodd ddillad oddi wrth nifer o deilwriaid, hosanwyr a gwneuthurwyr les Llundain, gan wario tua £1,000 y flwyddyn ar siwtiau'n unig - swm anferthol ar y pryd.

Secwinau aur ac edafedd arian

Mae'r gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur. Gwnaethpwyd y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd â hi ychydig yn ddiweddarach. Prynodd yr Amgueddfa got wlân goch o'r un cyfnod, wedi'i haddurno â brodwaith o edafedd arian.

Magodd Syr Watkin gryn dipyn o bwysau wrth iddo heneiddio, ac efallai mai dyna pam fod y siwt wedi goroesi mewn cyflwr mor dda.

Brodwaith cyfoethog

Mae gan gôt y siwt flaen rhandoredig a choler fer sy'n sefyll i fyny. Mae'r leinin o sidan gwyrdd i gyd-fynd â defnydd y wasgod. Mae gan y wasgod flaenau o sidan gwyrdd a leinin a chefn o sidan mwy gwelw ei liw, o wehyddiad plaen. Fel y siwt, mae'r brodwaith yn cynnwys ymylweoedd aur, secwinau metel a rhubanau blodeuog. Mae'r gwaith yn gain dros ben.

Mae'n debygol y cafodd y siwt ei wneud mewn gweithdy teiliwr o Lundain. Y crefftwyr gorau ynghyd â nifer o frodwyr proffesiynol fyddai wedi'i chreu. Mae'n debygol iawn y cafodd y gôt wlân goch ei gwneud yn yr un gweithdy, gan fod y brodwaith ar honno hefyd yn cynnwys secwinau aur ac arian, ymylweoedd metel ac edeifion sidan, gyda themâu tebyg o fwâu, addurnblethau a thaselau.

Dillad crand ar gyfer achlysuron mawreddog

Y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd

Y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd

Roedd y dillad hyn mor ddrud gellid bod wedi eu gwisgo yn y llys brenhinol. Yng Nghymru, gallai Syr Watkin fod wedi gwisgo dillad o'r fath yn ei barti i ddathlu ei ben-blwydd yn un-ar-hugain ym 1770. Daeth y parti i fod yn chwedlonol oherwydd ei ormodedd a'i faint - cafwyd 15,000 o westeion a daeth tair coets o gogyddion o Lundain.

Adeiladwyd neuadd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o'r prif adeilad yn Wynnstay, pan ychwanegwyd ystafelloedd gwely uwch ei ben. Mae'r bwyd a fwytawyd yn y parti yn cynnwys 30 buwch, 50 mochyn, 50 llo, 80 dafad, 18 oen, 37 twrci a 421 pwys o eog. Efallai bod hyn yn esbonio maint Syr Watkin yn ei henaint! Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1735, penododd y Brenin Siôr III Syr Watkin yn Arglwydd Raglaw (cynrychiolwr y brenin) ar gyfer Meirionnydd.

Soffa Edwinsford - brodwaith gwych yn cael mis yn y rhewgell

19 Chwefror 2007

Yn 1998 prynodd Amgueddfa Cymru gelfi o ystâd Edwinsford, ger Talyllychau, Llandeilo. Soffa frodiog unigryw o 1845 yw'r darn mwyaf, a'r mwyaf ysblennydd o'r rhain. Bu'r gwaith cadwraeth arni'n ddiddorol iawn ac yn sialens a oedd yn cynnwys datgysylltu, ail-adeiladu a rhewi'r darn am fis.

Mae'r soffa'n cynnwys nifer o sgwariau o wlân a sidan wedi'u brodio'n unigol a'u haddurno ag edeifion metel a gleiniau, yn enghreifftiau gwreiddiol o gynlluniau gwaith-gwlân Berlin. Ffurfia'r sgwariau bedwar panel ar wahân gyda mowldinau pren cerfiedig o amgylch yr ochr isaf a phaneli sgrôl cerfiedig dros flaenau'r breichiau.

Cadw'r soffa

Ochr arall y panel cefn cyn tynnu'r labeli a'i lanhau.

Ochr arall y panel cefn cyn tynnu'r labeli a'i lanhau.

Ar yr olwg gyntaf, roedd yn amlwg y byddai angen gwneud llawer o waith atgyweirio cyn arddangos y soffa, gan ei fod yn fudr, yn flêr ac wedi treulio. Roedd nifer o'r gwniadau wedi rhwygo a dinistriwyd llawer o'r mân-frodwaith gan bla o wyfynod. Er mwyn cadw pob un o'r paneli gwaith canfas yn iawn, bu'n rhaid eu tynnu allan o'r fframwaith.

Tynnwyd y mowldinau'n hawdd, ond yn hytrach na'r dull clustogi arferol, gwnaethpwyd y soffa o bedair rhan wedi'u clustogi'n unigol a'u gorchuddio â'r paneli gwaith canfas cyn eu sgriwio a'u bolltio at ei gilydd. Bu'n rhaid tynnu tua 300 o daciau'n ofalus heb rwygo'r gwaith cynfas — er eu bod eisoes wedi gwneud tyllau rhydlyd yn y defnydd.

Soffa wedi'i haddurno gan westeion

Roedd y geiriau 'Charlotte Chichester March 22nd 1845' i'w gweld ar un o'r sgwariau cynfaswaith.

Roedd y geiriau 'Charlotte Chichester March 22nd 1845' i'w gweld ar un o'r sgwariau cynfaswaith.

Daeth stori ddifyr iawn i'r amlwg yn ystod y broses ddatgysylltu. Wrth i'r taciau gael eu tynnu i ffwrdd, fe ddechreuodd labeli papur syrthio allan o du ôl i'r gweithiau canfas, pob un ohonynt ag enw gwahanol arno. Roedd yr enwau'n dangos pwy oedd wedi brodio pob sgwâr. Mae'n debyg mai ymwelwyr ag Edwinsford frodiodd y sgwariau, a bod y soffa wedi'i chynllunio i arddangos eu gwaith.

Wedi cofnodi'r labeli yn ofalus, golchwyd pob sgwâr o waith canfas gyda thoddiad golchi a thoddyddion i gyfateb â'r llifynnau oedd yn bresennol. Cynhaliwyd pob panel ar liain di-liw er mwyn cryfhau'r defnydd a gwneud y soffa orffenedig yn fwy sefydlog. Gosodwyd rhwyd neilon mân o amgylch yr ochrau treuliedig.

Mis yn y rhewgell

Yn dilyn pryder fod yna wyau gwyfynod yn dal yn fyw yn y fframwaith, lapiwyd pob rhan mewn dwy haen o bolythen i'w selio, cyn cael eu rhewi am fis.

Rhoi'r soffa yn ôl at ei gilydd

Esmwythfainc Rhydodyn

Daw llawer o'r dodrefn clustogwaith sydd ar ddangos ym mharlwr Castell Sain Ffagan yn wreiddiol o Ystad Rhydodyn, Sir Gaerfyrddin.

Bu'n rhaid canfod dull o ail-gysylltu'r paneli canfas wedi'u glanhau. Roedd yn bwysig peidio rhoi staplau drwy'r gwaith canfas yn uniongyrchol, a chyfyngu ar y nifer o staplau fyddai'n cael eu rhoi yn y fframwaith pren a oedd eisoes wedi'i ddifrodi. Yr oedd yr un mor bwysig bod modd tynnu'r paneli'n rhydd heb eu difrodi, pe bai angen gwneud hynny yn y dyfodol.

I gyflawni hyn, staplwyd tâp cotwm i'r fframiau pren ar hyd llinellau tyllau'r taciau gwreiddiol. Gosodwyd staplau bob tua 15cm i greu sylfaen gadarn y gellid gwnïo'r paneli'n sownd iddi, gan ddefnyddio nodwydd grom. Bu'n rhaid pwytho ymylon mewnol y breichiau a'r cefn yn gyntaf, cyn sgriwio a bolltio'r rhannau hyn yn ôl i'w safle. Yna roedd modd pwytho'r ymylon allanol i'w lle.

Ar ôl iddynt gael eu trin, ail-osodwyd rhannau eraill y soffa gan ddefnyddio'r sgriwiau a'r hoelion gwreiddiol lle bo hynny'n bosibl. Cafodd y labeli papur eu trin, fel bo modd eu hastudio a'u harddangos yn y dyfodol.

Mae'r soffa'n cael ei harddangos yng Nghastell Sain Ffagan.