Addysg

Un wythnos arol...

Danielle Cowell, 25 Mawrth 2011

Dim ond un wythnos sydd ar ôl bellach i ysgolion anfon eu data tywydd atom ni. Mae llawer wedi gwneud yn barod ac maen nhw ar eu ffordd i gael tystysgrifau gwyddonwyr gwych.

Hyd yn hyn yr wythnos hon, rydw i wedi derbyn 305 o gofnodion! Bydd yr ysgolion sydd wedi cadw cofnod orau yn cael y cyfle i ennill taith weithgareddau natur. Byddwn yn dewis ac yn cyhoeddi’r enillydd ddydd Iau nesaf!

Erbyn hyn hefyd mae adroddiadau o flodau wedi’n cyrraedd o bob cwr o Gymru. Dwi mor falch bod cymaint o flodau wedi goroesi’r gaeaf caled. Fe gollodd rhai ysgolion eu cennin Pedr i’r rhew – dyna biti mawr – ond bydd tystysgrif ar eu cyfer nhw hefyd am fod yn wyddonwyr mor dda.

Bwlb dirgel eleni yw’r tiwlip. Dwi’n hoffi’r blodyn yma am ei fod mor lliwgar.

Ar ddydd Sadwrn 2 Ebrill, byddwn ni’n cynnal diwrnod o weithgareddau natur yn Sain Ffagan. Cliciwch ar y ddolen i weld ffilmiau byr am ystlumod ac anifeiliaid arbennig eraill sy’n byw yn Sain Ffagan.

 

 

Sesiwn celf a chrefft Archwilio Natur

Sian Lile-Pastore, 23 Mawrth 2011

Ar 2 Ebrill byddwn yn lansio prosiect Archwilio Natur. Bydd digonedd o weithgareddau ar gael, felly cofiwch ymweld â’r blog a twitter am fwy o wybodaeth.

Fel rhan o’r lansiad byddaf i’n cynnal sesiwn celf a chrefft yn ymwneud ag adar. Os ydych â diddordeb mewn gwinïo, bydd cyfle i wneud bathodynnau neu bypedau bys, ac i’r plantos bach thaumatropes sy’n troi.

Rhag ofn nad ydych yn gwybod beth yw thaumatropes (doedd dim syniad gen i!), cylchoedd papur ydynt sydd, fel arfer, â llun aderyn ar un ochr a chaets yr ochr arall. Pan ydych yn eu troi mae’n ymddangos fel bod yr aderyn yn y caets. Gan ein bod yn dathlu natur, yn hytrach na chyfyngu yr adar i gaets, fe fyddwn ni’n eu dangos yn hedfan.

Lansiad Prosiect Archwilio Natur yn Sain Ffagan

Hywel Couch, 23 Mawrth 2011

Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 2, byddwn yn lansio ein project Archwilio Natur yma yn Sain Ffagan. Mi fydd y lansiad am 11am yn Oriel 1, ac yn dilyn y lansiad byddwn yn cynnal nifer o weithgareddau natur trwy’r dydd. 

Bydd cyfle i ymweld â’n cuddfan natur newydd, ble bydd aelod o staff ar gael i’ch helpu i adnabod y gwahanol adar sy’n ymweld â ni. Hefyd, bydd cyfle i ddarganfod sut i ddenu gwahanol adar i’ch gardd chi, er mwyn eu gwylio o’ch cartref. 

Mi fydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal yn ardal y Tanerdy. Mae’r Tanerdy’n gartref i amrywiaeth fawr o anifeiliaid, o’r fadfall dd?r gribog i’r ystlum pedol lleiaf prin. Dewch draw i ddarganfod mwy am y creaduriaid diddorol hyn. Byddwn hefyd yn pori’r pyllau d?r a hela bwystfilod bach, dewch i ddarganfod mwy gyda ni! 

Fel rhan o’r project Archwilio Natur rydyn ni wedi cynhyrchu dwy ffilm natur gafodd eu ffilmio yma yn yr amgueddfa. Mae’r ffilm gyntaf yn dangos yr holl amrywiaeth o fyd natur rydym yn lwcus i’w chael yma, ac mae’r ail ffilm yn canolbwyntio ar yr ystlum pedol lleiaf. Mwynhewch!

Croeso i'r Cennin Pedr

Danielle Cowell, 14 Mawrth 2011

Hwre! Mae’r Cennin Pedr wedi cyrraedd! Adroddiadau o Ysgol Y Ffridd, Ysgol Nant Y Coed ac Ysgol Cynfran. Mae fy mylbiau i hefyd wedi agor ac maen nhw mor brydferth ag erioed.

Edrychwch ar y siartiau a’r mapiau

Dwi wedi tynnu rhai lluniau. Anfonwch eich lluniau a cofiwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth tynnu llun blodau. Os yw hi’n heulog am hanner awr, beth am fynd i dynnu lluniau’r blodau yn yr ardd?

Darllenwch sylwadau o’r ysgolion isod.

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd

Clwb Cwiltio

Sian Lile-Pastore, 7 Mawrth 2011

Dyma luniau o'r clwb cwiltio ddydd sadwrn diwethaf. Rydyn wedi cwrdd tair gwaith nawr ac mae hi'n sesiwn hyfryd a chyfeillgar.

Mae e'n neis i gwrdd â gwahanol bobl, a mae yna gymysgedd da o bobl sydd newydd ddechrau cwiltio a rhai sydd efo ychydig fwy o brofiad. Ar hyn o bryd mae yna le i fwy o bobl i ymuno, felly anfonwch ebost neu ffoniwch i fwcio, mae'r sesiwn nesa ar 7 Mai. Tan hynny, mae'r lluniau hyn o'r sesiwn ddiwethaf yn dangos y gwaith hyd yma, os ydych wedi bod yn dod i'r clwb, plis ebsotiwch luniau ata i!