Cofnod oeraf gan ysgol hyd yn hyn! Danielle Cowell, 3 Rhagfyr 2010 Yr wythnos hon, cofnododd Ysgol Deganwy: '11 gradd o dan y rhewbwynt ddydd Llun. Y diwrnod oeraf erioed yn ysgol Deganwy!' http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2968/ Waw - oer iawn! Gobeithio bod eich ystafelloedd dosbarth chi'n gynhesach. Dyna'r tymheredd isaf erioed i ysgol gofnodi gyda ni. Ydy'ch ysgol chi wedi bod yn oerach fyth? Dywedwch wrtha i os yw e! Athro'r Ardd
Brrgggh! Danielle Cowell, 29 Tachwedd 2010 Newid yn y tywydd ers fy adroddiad yr wythnos diwethaf!Mae’r tymheredd wedi cwympo ac mae’r wlad i gyd dan eira. Mae sawl ysgol wedi cau ac mae ysgolion eraill yn cofnodi bod y mesuryddion glaw yn ‘llawn eira’! Roedd Ysgol Gynradd Maesycwmer yn glyfar iawn yn toddi’r eira yn eu mesurydd glaw cyn ei gofnodi! Gwelwch y sylwadau isod.Neithiwr, cofnodwyd y tymereddau isaf erioed am fis Tachwedd. Yng nghanolbarth Cymru, cyrhaeddwyd record o -18C (0F) yn Llysdinam, ym Mhowys. Adroddodd Dr Fred Slater: ‘Rydw i wedi bod yn cofnodi’r tywydd yng Nghanolfan Faes Llysdinam yn ddiwyd ers 30 mlynedd – a neithiwr oedd yr oeraf i fi ei gofnodi.”Os ydych chi’n medru cyrraedd yr ysgol, anfonwch eich canlyniadau ac unrhyw luniau o’r eira sydd gennych.Roedd y Robin haerllug yma yn fy atgoffa i o pa mor llwglyd fydd adar yn ystod y gaeaf. Daeth yn agos iawn ata i yn Sain Ffagan y bore ‘ma. Yn ffodus roedd fy mocs bwyd gyda fi felly rhoddais i ychydig friwsion iddo fe yn gyfnewid am gael tynnu ei lun.Os hoffech chi helpu’r adar y gaeaf hwn cofiwch roi bwyd adar allan yn yr ysgol neu’r ardd. Fe wnes i ychydig o beli braster dros y penwythnos. Roedden nhw’n hawdd i’w gwneud ac yn llawer o sbort.Er mwyn dysgu sut i wneud cacennau adar a peli braster ewch i http://bit.ly/i7mdNNOs ydych chi’n chwilio am le da i wylio adar beth am ymweld â’n cuddfan wylio adar yn Sain Ffagan http://bit.ly/cPGqzzAthro’r Ardd.
Eich cwestiynau a'ch sylwadau Danielle Cowell, 25 Tachwedd 2010 Dyma rai o’ch cwestiynau a’ch sylwadau.Dyma rai cwestiynau da iawn gan wyddonwyr clyfar iawn! Mae llawer mwy o sylwadau gan ysgolion isod hefyd.Gofynnodd Ysgol Gynradd Oakfield: 'Beth yw taldra’r genhinen bedr dalaf i gael ei chofnodi yn yr arbrawf hwn?' Yn ysgol Sant Dunawd y cofnodwyd y talaf ar 15/4/2010. Roedd yn 80cm o uchder!Gofynnodd Ysgol Nant y Coed: 'A yw’r canlyniadau yn debyg i’r canlyniadau ar yr un amser y llynedd?' Cwestiwn da iawn. Dwi wedi ateb y cwestiwn yn lleol ar gyfer Nant y Coed, ar gyfer Cymru ac wedi edrych ar batrymau tymor hir.Yn lleol yn ysgol Nant y Coed: Ar gyfartaledd roedd llai o law ym mhythefnos gyntaf mis Tachwedd ac roedd yn gynhesach nag yn 2009.Glawiad: 2009 – 20.9mm. 2010 – 14.6mm.Tymheredd: 2009 – 7.7°C. 2010 – 14°C. Oedd y patrymau'r un peth yn eich ysgol chi?Canlyniadau astudiaeth 2010: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2968/Canlyniadau astudiaeth 2009: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2952/Yng Nghymru: Roedd mis Hydref eleni ychydig yn oerach na’r llynedd a chafwyd yr un faint o lawiad ag yn 2009.Cymedr tymheredd yn 2009 oedd 11°C a 9.8°C yn 2010. Cymedr glawiad yn 2009 oedd 128.3mm a 123.8mm yn 2010.Edrych ar y patrymau tymor hir: Roedd y cyfartaledd misol ar gyfer mis Hydref rhwng 1971-2000 yn 6.5°C. Mae’r ddau Hydref diwethaf wedi bod dipyn yn gynhesach mewn cymhariaeth.Gweler: http://www.metoffice.gov.uk/climate/uk/averages/19712000/areal/wales.html Oes unrhyw ysgolion wedi gweld eira eto? Os ydych chi, gadewch i mi wybod.Diolch yn fawr. Athro’r Ardd.
Ymwelwyr i'r cuddfan adar Hywel Couch, 23 Tachwedd 2010 Wrth i adar y goedwig dod yn gyfarwydd gyda'i amgylchedd newydd, mae'r bwydwyr tu fas i'r cuddfan wedi bod yn brysur dros ben. Ar adegau mae'r bwydwyr bron wedi ei orchuddio gan amryw o titws, sy'n cael ei ymuno gan telor y coed, ji-bincs a robin goch achlysurol. Pob hyn a hyn mae cnocell fraith fwyaf yn ymddangos hefyd, yn gorfodi i'r adar llai cuddio am munud neu ddwy.Mae'r cuddfan nawr bron iawn yn barod i agor i'r cyhoedd, dal y bwriad i agor cyn diwedd y mis. Os ydych yn meddwl am ymweld a'r cuddfan, cofiwch i wisgo rhywbeth gynnes, mae hi gallu bod yn oer uffernol ar adegau. Hyd yn oed yn well, dewch a fflasg o de gyda chi!Mae'r cuddfan yn lle gwych i tynnu lluniau o bywyd gwyllt, dyma rhai rydyn ni wedi tynnu o adar gwahanol yn bwydo tu fas i'r cuddfan.
Wales for Africa, some pics at last Mari Gordon, 17 Tachwedd 2010 This is us interviewing the Residents' Development Committee at George Compound in Lusaka. They were the most articulate and motivated group of people I've met. The house is an example of what people are living in.Also, here's me with the RDC in Kawala Compound, 200 miles north, in Kitwe in the Copperbelt Province.