Bathodynnau Glowyr 2 Gorffennaf 2012 Mae bathodynnau yn ffordd bwysig o ddangos bod rhywun yn cefnogi achos neu'n ymddiddori mewn rhywbeth arbennig. Gallan nhw hefyd goffau digwyddiad penodol. Mae sawl esiampl o fathodynnau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant glo, bathodynnau fyddai'n cael eu cynhyrchu yn ystod anghydfod diwydiannol neu eu gwerthu i godi arian wedi trychineb lofaol. Yn ystod, ac ar ôl streic y glowyr ym 1984-85 y cynhyrchwyd y nifer fwyaf o fathodynnau. Cynhyrchwyd bathodynnau o bob lliw a llun ond byddent fel arfer yn cario enw Mudiad Cenedlaethol y Glowyr (N.U.M.), Cynghordy neu ardal. Byddent hefyd yn cario symbol arbennig — gallai fod yn eicon glofaol fel lamp, offer weindio neu gaib a rhaw wedi croesi; neu yn symbol a gynrychiolai'r dosbarth gweithiol fel dwylo'n ysgwyd, cadwyni wedi torri neu glorian cyfiawnder. Gwelid draig goch neu genhinen ar nifer o'r bathodynnau a gynhyrchwyd yng Nghymru hefyd. Mae Adran Diwydiant Amgueddfa Cymru wedi casglu cannoedd o'r bathodynnau yma. Mae rhai yn cael eu harddangos yn Big Pit: Amgueddfa Wlân Cymru a gellir gweld esiamplau ar fas data casgliadau Delweddau Diwydiant. Am ragor o wybodaeth efallai y bydd y llyfr 'Enamel Badges of the National Union of Mineworkers' (2008) gan Brian Witts o ddidordeb. Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl. Coal Miners' Badges Fattorini Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Rhanbarth yr Alban( 1984-1985) Fattorini Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Rhanbarth y Gogledd Orllewin (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Undeb Glowyr Cumberland (1972) Fattorini Undeb Cenedlaethol y Glowyr (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth Swydd Gaerefrog (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Undeb Glowyr Cumberland (1982) Manufacturer unknown Grŵp Pŵer U.C.G. (1984-1985) Fattorini U.C.G. S.C.E.B.T.A. (1984-1985) Parry, F.C. M.F.G.B. U.C.G. (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth Cokemens (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Gweithwyr Injans Durham (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth De Cymru, Aelod Anrhydeddus (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Swydd Derby (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth y Gogledd Orllewin (1984-1985) Manufacturer unknown Undeb Cenedlaethol y Glowyr C.O.S.A. (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Undeb Glowyr Northumberland (1963) Manufacturer unknown U.C.G. Cenedlaethol (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth Swydd Gaerefrog (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Cenedlaethol (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth De Cymru (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Gogledd Cymru (1984-1985) Fattorini Peirianwyr Glofaol Durham (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth Canolbarth Lloegr (1984-1985) Manufacturer unknown Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Rhanbarth Sir Gaerhirfryn (1984-1985) Fattorini U.C.G. Undeb Glowyr Northumberland (1984-1985)
Baner Gymreig Capten Scott Elen Phillips, 1 Mawrth 2012 Y Terra Nova yn gadael Caerdydd ar 15 Mehefin 1910. Mae'r Ddraig Goch yn cyhwfan o'r hwylbren canol, tra bod y Lluman Gwyn yn cyhwfan o'r tryfer canol. Gwelir baner Dinas Caerdydd ar yr hwylbren blaen. Baner y ddraig Goch a gynhyrchwyd gan Howell & Co ac a gyflwynwyd i Alldaith Capten Scott i Antarctica. Hysbyseb llawn tudalen ar gyfer James Howell & Co. a welwyd yn rhaglen Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. Cyhoeddwyd gan y Great Western Railway Co. Mae nifer o faneri Draig Goch yng nghasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru. Roedd y mwyafrif yn cyhwfan yn wreiddiol uwchlaw adeiladau dinesig ac mae un wedi cael ei hedfan yn y gofod hyd yn oed! Mae cysylltiad rhwng yr esiampl fwyaf a hynaf yn y casgliad â thaith feiddgar arall — Alldaith Antarctig Brydeinig Capten Robert Falcon Scott 1910–13.Dangoswyd y faner hon mewn cinio ffarwel a gynhaliwyd er anrhydedd i Capten Scott a'i swyddogion yng Nghaerdydd ar 13 Mehefin 1910, ac a hedfanodd ar fwrdd y Terra Nova wrth i'r llong hwylio o Gaerdydd ac ar ei dychweliad ym 1913.Ar ddydd Gŵyl Dewi 1911 a 1912, codwyd y faner uwchlaw caban pencadlys Scott yn yr Antarctig.Mae wedi'i gwneud o ddefnydd gwlanen garw gyda selfeisiau ar yr ymylon uchaf ac isaf ac yn mesur 3.45m x 1.83m. Torrwyd y motiff draig o ddefnydd gwahanol a'i wnio â pheiriant i'r ffabrig cefndir gwyrdd a gwyn. Mae manylion — fel y crafangau, y tafod a'r llygaid — wedi'u paentio arni â phaent du gwyn.James Howell & Co. o GaerdyddWyddon ni ddim pwy bwythodd neu liwiodd y faner, ond rydyn ni'n gwybod taw cwmni James Howell & Co yng Nghaerdydd a'i cynhyrchodd, yn yr adran wisgoedd mwy na thebyg.Cyhoeddwyd mewn cinio a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 1909 er anrhydedd i'r Is-gapten E. R. G. R. Evans, aelod o alldaith Scott, bod Howell wedi cynnig cynhyrchu baner Draig Goch fawr iddo ei chludo i Begwn y De. Roedd Evans wedi rhoi'r gorau i drefnu Alldaith Antarctig Gymreig ei hun ac wedi ymuno â Scott fel ei ddirprwy.Bu Evans yn hynod ddylanwadol yn hyrwyddo a chasglu nawdd i'r alldaith, a hynny'n bennaf drwy olygydd y Western Mail, Willie Davies — gwraig Davies gafodd y syniad o gyflwyno baner Cymru i'r alldaith.Caerdydd yn 'un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'Estynnodd trigolion Caerdydd groeso cynnes i'r Alldaith Antarctig Brydeinig — mwy nag unrhyw ardal arall o bosibl. Wedi ennill statws dinas ym 1905, roedd arweinwyr dinesig Caerdydd wrthi'n ceisio ei hailfrandio. Yng ngeiriau Clerc y Dref, J. L. Wheatley, roeddent am hyrwyddo Caerdydd 'fel un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'.Roedd cael ei chysylltu'n agos â mordaith Scott i Antarctica — un o'r cyffindiroedd mawr olaf — yn brawf o'r hyder dinesig newydd hwn.Un o ffigurau blaenllaw cymuned fusnes Caerdydd oedd James Howell. Sefydlwyd ei siop adrannol, James Howell & Co, ym 1865 fel siop ddillad fechan ar Yr Aes ac erbyn dechrau'r ganrif roedd yn un o'r mwyaf o'i bath yng Nghymru. Does dim syndod fod James Howell yn teimlo cymhelliad i gyfrannu at fenter Scott mewn rhyw fodd ac yntau â hanes o 'noddi' digwyddiadau dinesig yng Nghaerdydd. Yn nechrau 1909, darparodd un o'i adeiladau ar Stryd Wharton i Basiant Cenedlaethol Cymru yn rhad ac am ddim. Cerdyn post i goffau Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909 Ardalyddes Biwt fel 'Dame Wales' ym Mhasiant Cenedlaethol Cymru, Gorffennaf 1909. Yn haf 1914, cynhaliodd yr Amgueddfa arddangosfa dros dro o luniau dyfrlliw a brasluniau Edward Wilson o'r Antarctig. Wilson oedd Prif Wydonydd yr alldaith a bu farw gydag ef ar y daith yn ôl o Begwn y De ym 1912. Cynhaliwyd yr arddangosfa yn Neuadd y Ddinas gan fod adeilad yr Amgueddfa heb ei gwblhau ar y pryd. Pasiant Cenedlaethol CymruI bob pwrpas, cyfle i fawrion cymdeithas ail-greu golygfeydd o hanes arwrol Cymru oedd y Pasiant Cenedlaethol. Roedd angen 40,000 o wisgoedd ar drefnwyr y pasiant a cyflogwyd tîm o 800 o fenywod. Sefydlodd y menywod gweithdy yn Stryd Wharton am chwe mis. Fel un o noddwyr y Pasiant byddai Howell hefyd wedi darparu gwneuthurwyr gwisgoedd proffesiynol o'i weithlu ei hun. Yn wir, mae gwisg eiconig 'Dame Wales' o olygfa agoriadol y Pasiant ar 16 Gorffennaf 1909 wedi ei chreu mewn modd tebyg iawn i faner y Terra Nova. Mae gan y ddwy addurn gosod ar lun motiff draig goch, mewn dyluniad naïf. Gyda'r ddwy wedi'u creu ychydig fisoedd ar wahân yn un o weithdai James Howell & Co, ai'r un dwylo a'u pwythodd ys gwn i?Draig Goch y 1890auMae'r ddraig ar faner y Terra Nova yn amlwg yn wahanol i'r faner bresennol. Mae'n fwy talsyth, dragon segreant yn hytrach na dragon passant. Roedd yr arddull hwn yn gyffredin yn y 1890au a dechrau'r 1900au a gellir ei weld, mewn ffurfiau amrywiol, ar gadeiriau eisteddfodol y cyfnod a llu o arwyddluniau cenedlaethol eraill. Mae'n siŵr taw o ffynonellau tebyg y gweithiodd gwneuthurwyr dillad Howell wrth greu draig y Terra Nova.Safoni Baner CymruYm 1910, ysgrifennodd yr Eisteddfod Genedlaethol at yr Amgueddfa yn gofyn am gymorth gyda ffurf y ddraig: 'Rydym yn awyddus i gael ffurf y ddyfais mor gywir a phosibl'. Cawsant ateb gan guradur: 'Gresynaf nad oes gennym sbesimen dilys o'r anifail yn yr Amgueddfa Genedlaethol'. Trosglwyddwyd y llythyr i Mr Thomas Henry Thomas, awdurdod cydnabyddedig ar faterion o'r fath, a fu wrthi ers blynyddoedd yn ceisio cysoni ffurf y ddraig Gymreig. Mae ei frasluniau a'i bapurau bellach wedi eu cadw yn yr Amgueddfa.Torri'r faner yn gofroddionPan ddychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ym Mehefin 1913, gyda'r ddraig goch yn cyhwfan o'r mast, nododd y Western Mail ei bod 'dipyn yn llai na pan y codwyd hi am y tro cyntaf dair mlynedd yn ôl. Tra bod y Terra Nova wedi'i hangori yn Lyttleton, Seland Newydd, rhoddwyd caniatâd i gynrychiolwyr y cymdeithasau Cymreig yno i dorri darnau o'r faner a'u cadw fel cofroddion o'r alldaith.'Mewn cinio yn y Royal Hotel ar 16 Mehefin 1913 i ddathlu dychweliad yr alldaith i Gaerdydd, cyhoeddodd Teddy Evans y byddai'r faner yn cael ei rhoi i'r Eisteddfod Genedlaethol. Yn dilyn y dathlu fodd bynnag, doedd neb yn siŵr iawn beth wnaeth Evans â'r faner. Roedd yn credu ei fod wedi ei rhoi i'r Arglwydd Faer, ond cafodd ei chanfod yn y Royal Hotel bedwar mis yn ddiweddarach!
Ffotograffau byllau glo John Cornwell 10 Ionawr 2012 Ffotograffydd ar ei liwt ei hun oedd John Cornwell. Yn y saithdegau a'r wythdegau cynnar, tynnodd nifer o ffotograffau o byllau glo, yn Ne Cymru a Chanolbarth Lloegr yn bennaf, a hynny ar yr wyneb a danddaear.Perffeithiodd dechneg o dynnu ffotograffau danddaear oedd yn defnyddio goleuadau cyffredin pwll glo, gan alluogi iddo dynnu lluniau hynod eglur o dalcenni glo, twnneli, siafftiau ac offer. Yn ogystal â thynnu ffotograffau mewn pyllau gweithredol, byddai hefyd yn cofnodi gweithfeydd segur, ar yr wyneb a danddaear.Roedd John Cornwell hefyd yn uchel ei barch ym maes archaeoleg ddiwydiannol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar byllau glo Cymru a Lloegr.Mae hawlfraint ei ddelweddau o dde Cymru bellach ym meddiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru.Lawrlwytho'r catalog i'r Casgliad Cornwell [PDF 4.7MB] Lluniau John Cornwell Pwll Glo Tirpentwys 1979 Pwll Glo Six Bells, 1979 Pwll Glo Oakdale, locomotif trydanol ger gwaelod y pwll, tua 1978 Pwll Glo Oakdale, gweithiwr y cludfelt glo, tua 1978 Pwll Glo Gogledd Celynen, 1975 Iard Pwll Glo Markham, 1977 Pwll Glo Marine, 1980 Pwll Glo Marine, 1974, locomotif o'r 'Gorllewin Gwyllt' - y 'Western Consort'. Pwll Glo Llanhilleth, y fframwaith ar ben siafft rhif 2, 1975. Pwll Glo Hafodyrynys, locomotif trydanol yn y fynedfa i'r pwll ym 1968. Pwll Glo Cwmtyleri, gwaith bric addurnedig ar adeilad ffan awyru, 1980 Gwaelod Pwll Glo Cwmtyleri, 22 Tachwedd 1977 Pwll Glo De Celynen, 1978. Gwaelod Pwll Glo Blaenserchen ym 1979 gyda chyflenwadau a thram o wastraff. Pwll Glo Blaenserchan ym 1973. Pwll Glo Coegnant 1978, talcen postyn a bar. Pwll Glo Wyndham, tua 1975 Pwll Glo Wyndham /Western, trofwrdd ger gwaelod y pwll, tua 1979 Pwll Glo Treforgan gyda shifft y prynhawn yn aros i fynd i lawr, 1979 Pwll Glo St John, torrwr Anderson Strathclyde, tua 1979 Goruchwylwyr yn archwilio torrwr ar y Wythïen Chwe Throedfedd, Pwll Glo Brynlliw, 15 Rhagfyr 1977 Traphont goncrit fodern yn cysylltu'r pwll glo gyda'r olchfa, Pwll Glo Blaengwrach, tua 1977 Pwll Glo Graig Merthyr, rhes o dramiau yng ngwythïen Graigola - noder y to tywodfaen heb gynhaliaid, tua 1977 Iard Pwll Glo Graig Merthyr ym 1977 gyda rhes hir o dramiau'n aros i fynd i mewn i'r pwll. Pwll Glo Garw ym 1977, gyda'r pentref yn y cefndir. Pwll Glo Cefn Coed, 1973, tŷ injan a fframwaith pen y siafft am i lawr. Tŷ injan Pwll Glo Cefn Coed ar gyfer yr injan Markham ar y siafft am i fyny ym 1973. Aberpergwm, 1972, mynedfa i'r gloddfa ddrifft newydd. Pwll Glo Abernant, glöwr mewn gorsaf bwmpio ar waelod y pwll, 1978 Pwll Glo Aberpergwm, peiriant torri ffordd Dosco a ffan ategol, tua 1978 Pwll Glo Tŷ Mawr, olion ffwrnais awyru danddaearol sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd y 1870au. Pwll Glo Tŵr, 'Rex' gyda'i ostler, 1979. Pwll Glo Taff Merthyr, peiriant torri ffordd Dosco ac awyru ategol, 1979. Pwll Glo Taff Merthyr ddiwedd y 1970au. Gwaelod Pwll Glo Penrhiwceiber, 1978. Pwll Glo Nantgarw, 1978, torrwr drwm Anderson Strathclyde yn torri glo ar y talcen glo. Siafft am i lawr Pwll Glo Merthyr Vale, tua 1980 Pwll Glo Maerdy, 1977, certi gwag yn aros ar ben y pwll. Pwll Glo Lewis Merthyr, 1977, cynhaliaid y to hydrolig yn yr iard yn disgwyl cael eu cludo o dan y ddaear. Pwll Glo Lady Windsor, locomotif stêm gyda'r siafft yn y cefndir, 1977 Pwll Glo Ffaldau, 1977, pen y pwll. Pwll Glo Fernhill, braich fawr torrwr hydrolig AB 15 ar dalcen glo hir â phrenau hyd-ddo. Glofa Deep Navigation, y fframwaith am i lawr, tua 1978 Glofa Deep Duffryn, dau weithiwr yn archwilio'r siafft o do'r gawell, 1977-78. Pwll Glo Bargoed, 20 Mai 1977. Pwll Glo Morlais, golwg gyffredinol yn edrych tua'r dwyrain ar draws yr Afon Llwchwr, 1978. Pwll Glo Morlais, golwg gyffredinol, noder yr orsaf bwmpio segur, 1978 Pwll Glo Cynheidre, tramiau glo mewn man llwytho tanddaearol, tua 1978 Pwll Glo Cynheidre, y brif ffordd gyda chludfelt cyflym, tua 1978 Pwll Glo Cwmgwili, 1978, shifft y prynhawn yn aros i gael eu cludo o fynedfa'r pwll. Pwll Glo Cwmgwili, 1978, Llwythwr a gweithredwyr yn barod i ddechrau gwaith. Pwll Glo Betws, shifft y prynhawn yn aros am y trên cludo gweithwyr, tua 1976 Pwll Glo Cwmgwili, ffordd gludo gyfan yn cael ei chynnal gan brenau, 1978 Pwll Glo Rhydaman, 1974, Mr P.A. Jones, Swyddog Diogelwch, yn archwilio'r to yn y talcen glo diwethaf. Pwll Glo Rhydaman, 1974, Gerald Gibson yn drilio twll bach yn y talcen. Pwll Glo Rhydaman, 1974, tramiau gwag yn cael eu gostwng i mewn i'r slant. Dau o lowyr Blaenafon yn yr iard bren ar ddiwedd shifft y bore, 1978. Rheolwr Big Pit, Glyn Morgan, yn siarad â Billy 'Pigeon' Preece (eistedd), Big Pit 1975 Ffordd newydd o'r fynedfa gyda chludfelt yn cludo'r glo o Wythïen Garw, Big Pit 1975. Diwrnod olaf Glyn Morgan, Rheolwr diwethaf y Bwrdd Glo Cenedlaethol, ar 28 Tachwedd 1980. Cyffordd ger gwaelod y pwll, Big Pit 1975, bellach yn rhan o daith danddaearol yr Amgueddfa. Golwg gyffredinol o'r wyneb, Big Pit 1975. Lefel yr efail, a grëwyd tua 1812, a ymgorfforwyd yn ddiweddarach i weithfeydd tanddaearol Big Pit. Ceffyl y pwll glo yn dychwelyd i stablau'r wyneb yn Big Pit o'r Olchfa ym 1968. Bill Gunter, swyddog diogelwch Big Pit, ar dalcen G11 ym 1979 Bill Gunter yn sefyll yn y fynedfa fwaog i Lethr Dick Kear, tua 1820. Big Pit. Swyddog y pwll glo yn archwilio rhan o gawell y peiriant cydbwysedd dŵr, yn agos i waelod y pwll yn Big Pit, 1975
William Goscombe John (1860-1952) Oliver Fairclough, 10 Rhagfyr 2011 Morpheus William Goscombe John (1860 - 1952) Icarus Sir Alfred Gilbert (1854 - 1934) Roedd Cymru yn yr oes Edwardaidd yn gyforiog o gyfoeth y diwydiannau glo, haearn a dur, ac yn llawn cyfleon i gerflunydd. Mae cofebion cyhoeddus William Goscombe John i'w gweld ledled Cymru ond yn enwedig yn ei dref enedigol, Caerdydd. Ef hefyd a ddyluniodd medalau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw. Torri cwys Ganwyd William John yng Nghaerdydd ym Mawrth 1860. Mabwysiadodd yr enw Goscombe o bentref yn Swydd Gaerloyw ger hen gartref ei fam. Roedd ei dad, Thomas John, yn gerfiwr coed yn y gweithdai a sefydlodd yr Arglwydd Bute i ailwampio Castell Caerdydd. Ymunodd William â'i dad pan yn 14, gan astudio yn Ysgol Gelf Caerdydd ar yr un pryd. Ym 1881 symudodd i Lundain fel disgybl gynorthwy-ydd i Thomas Nicholls, y cerflunydd oedd yn gyfrifol am Wal Anifeiliaid y Castell. Parhaodd â'i astudiaethau yn Ysgol Gelf Kensington, ac yn Ysgolion yr Academi Frenhinol o 1884, lle y dysgodd fodelu naturiaethol mewn clai yn y dull Ffrengig, dull a gyflwynwyd i Lundain yn y 1870au gan Jules Dalou. Roedd yn fyfyriwr athrylithgar, ac fe deithiodd ymhell. Treuliodd flwyddyn ym Mharis, yn cynnwys cyfnod yn stiwdio Rodin. Ym 1890 dychwelodd i Lundain ac ymsefydlu yn St John's Wood. Mae ei gerflun Morpheus, a ddangoswyd yn Salon Paris ym 1892, yn dangos yn amlwg ddylanwad Rodin. Y 'Gerflunwaith Newydd' Nod cerflunwyr yng nghenhedlaeth John oedd ceisio creu cerfluniau mwy dynamig drwy bortreadu'r corff dynol mewn modd hynod naturiaethol. Dyma benllanw traddodiad cerfluniol oedd â'i wreiddiau yng nghyfnod y Dadeni, a dyma Rodin a'i gymdeithion yn aildanio'r traddodiad yn Ffrainc yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dilynwyd llwyddiant Morpheus gan gerflun o Ioan Fedyddiwr ar gyfer yr Arglwydd Bute, a grŵp o noethluniau maint llawn yn cynnwys Bachgen yn Chwarae a Coblyn. Mae'r rhain yn dangos ei feistrolaeth wrth lunio'r ffurf ddynol. Erbyn diwedd y 1890au roedd Goscombe John wedi gwneud enw i'w hun, ac wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Daeth sawl comisiwn cyhoeddus mawr i'w law ac roedd yn brysur iawn yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cymru a'r Ymerodraeth Er ei fod yn byw yn Llundain, roedd John yn ystyried ei hun yn gerflunydd cenedlaethol Cymru. Ym 1916 cyfrannodd ganolbwynt marmor Bendith Dewi Sant i'r Bobl i grŵp o ddeg ffigwr a wnaed ar gyfer Neuadd y Ddinas Caerdydd. Derbyniodd sawl comisiwn hefyd gan Gymry blaenllaw'r oes. Adeiladodd John ei yrfa drwy ffyddlondeb i noddwyr lleol, ond derbyniai waith o bob cwr o'r Ymerodraeth, megis Beddrod y Prif Weinidog Ceidwadol, yr Arglwydd Salisbury, yn Abaty Westminster, a'i gerflun marchogol o'r Brenin Edward VII yn Capetown. Ei gerflun cyhoeddus mawr cyntaf oedd cofeb Catrawd y Brenin (1905) yng nghanol Lerpwl; gwaith oedd yn ymgorffori milwyr o hanes y gatrawd, yn cynnwys y Drymiwr Bach anferth, ei waith enwocaf. Cyfunwyd y Cymreig a'r Ymerodrol mewn comisiwn ar gyfer regalia arwisgo'r Tywysog Edward (Edward VIII yn ddiweddarach) yng Nghastell Caernarfon ym 1911. Dyluniodd John goron, modrwy, teyrnwialen a chleddyf oedd yn ymgorffori eiconau 'Cymreig' o ddreigiau, cennin Pedr a chlymau Celtaidd. Doedd gan John fawr i'w ddweud am gerflunwaith modern a elwai yn gerflunwaith 'Ynys y Pasg', gyda'i bwyslais ar gerfio'n uniongyrchol i'r garreg. Roedd tuedd beirniadol yn datblygu hebddo erbyn 1914, ond daeth trasiedi'r Rhyfel Byd Cyntaf â sawl comisiwn newydd am gofebion, nifer ohonynt yng Nghymru. Goscombe John a'r Amgueddfa Genedlaethol Roedd Goscombe John yn un o sylfaenwyr Amgueddfa Cymru a bu'n aelod o'r Cyngor am dros deugain mlynedd gan chwarae rôl flaenllaw wrth bennu tuedd y casgliad celf i'r dyfodol. Yn ogystal â chasgliad cynhwysfawr o'i weithiau ei hun, mae ei roddion i'r Amgueddfa yn cynnwys gwaith nifer o'i gyfoedion yn y mudiad Cerflunwaith Newydd, yn cynnwys Icarus, gan Alfred Gilbert a gweithiau gan nifer o artistiaid a edmygai.
William James Tatem, Barwn 1af Glanely, 1868-1942 David Jenkins, 30 Tachwedd 2011 William James Tatem, Barwn 1af Glanely o Sain Ffagan. Mae'n debyg taw fel perchennog ceffylau rasio nodedig y cofiwn ni am Arglwydd Glanely heddiw, gyda'i geffylau yn ennill pob un o'r pum Clasur Prydeinig. Yn y diwydiant llongau y gwnaeth ei ffortiwn fodd bynnag, ac roedd yn hael yn ei gefnogaeth o achosion da yn ne Cymru, yn enwedig Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Nid Cymro oedd Tatem o gwbl; cafodd ei eni yn Appledore yng ngogledd Dyfnaint ym 1868, ac wedi marwolaeth ei dad yn ifanc, symudodd ei fam y teulu i Gaerdydd pan oedd Tatem yn ddeunaw. Ymunodd â chwmni llongau Anning Brothers fel clerc gan ddod i ddeall y busnes llongau yn drylwyr. Defnyddiodd y wybodaeth hon i fentro i'r busnes ar ei liwt ei hun ym 1897, ac roedd meistr un o'i longau hefyd yn frodor o Appledore, William Reardon Smith. Fflyd fawr Erbyn 1914 roedd Tatem wedi adeiladu fflyd sylweddol o un llong ar bymtheg. Cafodd ei urddo'n fachog ym 1916 ac ym 1918 cafodd ei ddyrchafu'n un o arglwyddi'r deyrnas gan ddwyn y teitl, Barwn Glanely o Sain Ffagan. Roedd yn berchennog llongau craff a werthodd ei fflyd am grocbris ym 1919 pan oedd ffyniant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth, cyn dychwelyd i'r busnes gyda chwe llong newydd am fargen ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Diolch i hyn, bu blynyddoedd y dirwasgiad yn llawer haws iddo na'i gyfoedion. Exning, plasty'r Arglwydd Glanely yn Newmarket Yr Arglwydd Glanely yn arwain Singapore, wedi ennill ras St Leger 1930; Gordon Richards oedd y joci 'Sporting Bill' Datblygodd ei ddiddordeb mewn rasio ceffylau ymhellach wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1919-20 prynodd dŷ gwych Exning yn Newmarket, a stablau cyfagos Lagrange. Daeth ei fuddugoliaeth fawr gyntaf yn Royal Ascot ym 1919 pan enillodd Grand Parade y Derby. Roedd y fuddugoliaeth hon yn ddadleuol ar y pryd, gan taw ef oedd yn berchen y ffefryn yn yr un ras, Dominion. Roedd Dominion ymhell ar ei hol hi pan basiodd Grand Parade y postyn yn gyntaf am bris o 33/1 — gyda arian Glanely i gyd ar hwnnw! Roedd yn ffigwr adnabyddus yn y rasys mawr i gyd a byddai pawb yn ei adnabod fel "sporting Bill". Dyngarwch ac achosion da Roedd yn hael ei gefnogaeth ariannol i Amgueddfa Cymru, ac enwyd Oriel Glanely yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ei ôl. Bu'n llywydd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ddwywaith, ym 1920-25 a 1934-42, ac ariannodd y gwaith o adeiladu labordai gwyddonol newydd. Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen defnyddiodd ddwy o'i longau ei hun i gludo nifer fawr o ffoaduriaid o Wlad y Basg i dde Cymru, a sefydlodd elusen i'w cynorthwyo yn ddiweddarach. Er iddo lwyddo mewn sawl maes, profodd sawl tristwch yn ei fywyd personol. Bu farw ei unig fab, Shandon yn chwe mlwydd oed ym 1905, a bu farw'r Arglwyddes o'i hanafiadau yn dilyn damwain car ym 1930. Cafodd yntau ei ladd mewn cyrch awyr ar Weston-Super-Mare ar 24 Mehefin 1942.