Darganfod ceiniogau o gyfnod Edward Gyffeswr a Gwilym Goncwerwr mewn cae yn Sir Fynwy 4 Mai 2007 Darnau arian wedi'u glanhau'n rhannol a'u glanhau'n gyfan gwbl. Mae pob un yn mesur tua 2cm (0.75 modfedd) ar draws. Ceiniog Edward Gyffeswr a fathwyd gan Estan yn Henffordd, tua 1060. Mae'n mesur 1.9cm (0.75 modfedd) ar draws. Rhan o gelc y Fenni fel y'i darganfuwyd. Olion cwdyn brethyn wedi'u cadw yn y mwyneiddiad. Mae'r ddelwedd hon yn dangos peth o'r gwnïad. Mae fersiwn newydd o'r erthygl ar gael yma. Yn Ebrill 2002 ffeindiodd tri chwilotwr metal ddarganfyddiad heb ei ail mewn cae ger y Fenni, Sir Fynwy: celc gwasgaredig o 199 o geiniogau arian. Roedd y celc yn cynnwys darnau arian y brenin Eingl-Sacsonaidd Edward Gyffeswr (1042-66) a Gwilym Goncwerwr, sef y Norman, Wiliam I (1066-87). Cafodd y rhan o Gymru lle y darganfuwyd y darnau arian ei chyfeddiannu yn fuan wedi i'r Normaniaid orchfygu Lloegr. Codwyd cestyll cynnar yng Nghaerllion a Chas-gwent ac mae'r celc yn dyddio o'r cyfnod cyn sefydlu tref gyfagos y Fenni yn y 1080au. Pan gafodd ei ddarganfod roedd y celc wedi'i orchuddio â chrawen drwchus o waddodion haearn. Yn y gwaddodion hyn cafwyd hyd i olion defnydd oedd yn awgrymu bod y darnau arian mewn cwdyn brethyn yn wreiddiol. Ni wyddys p'un ai a oedd yr arian wedi'i guddio'n fwriadol, neu wedi'i golli, ond yr un peth sy'n sicr yw bod ei berchennog yn dlotach o lawer: byddai un swllt ar bymtheg a saith geiniog (16s 7c, neu £0.83c) gyfwerth â chyflog sawl mis yn hanes y rhan fwyaf o bobl. Mae darnau arian Eingl-Sacsonaidd a Normanaidd yn ffynonellau hanesyddol unigryw: ar bob un datgelir enw'r lle y cafodd ei fathu a'r bathwr arian fu'n gyfrifol am y gwaith. Roedd y boblogaeth o fewn cyrraedd rhwydwaith o fathdai ar hyd a lled Lloegr (nid oedd bathdy yng Nghymru) a bob hyn a hyn câi'r arian a ddefnyddid ei gasglu ynghyd a'i ailfathu gan ddefnyddio cynllun newydd. Wrth reswm, roedd y brenin yn hawlio ei gyfran bob tro. Mae celc y Fenni'n cynnwys cynnyrch 36 o fathdai hysbys, ynghyd â rhai cyhoeddiadau afreolaidd na ellir mo'u lleoli ar hyn o bryd. Darnau arian o fathdai'r ardal, megis Henffordd (34 darn) a Bryste (24), yw'r rhai mwyaf cyffredin; yn fwy niferus na'r rhai o fathdai mawr fel Llundain (19) a Chaer-wynt (20). Ar y llaw arall, ceir darnau arian unigol o fathdai bach fel Bridport (Dorset), neu rai pell i ffwrdd fel Thetford (Norfolk) a Derby. Mae celciau o orllewin Prydain yn brin iawn ac felly mae celc y Fenni wedi dwyn i'r amlwg nifer o gyfuniadau na chawsant eu cofnodi o'r blaen o ran bathdai, bathwyr arian a chyhoeddiadau. Yn ôl pob tebyg, ni chawn wybod sut cyrhaeddodd y darnau arian hyn gornel cae yn Sir Fynwy ond, yn ogystal ag ychwanegu at ein gwybodaeth am arian bath, maent yn bwrw goleuni ar faterion ariannol yn yr ardal wedi'r goncwest Normanaidd. Cafodd y celc, sydd ym meddiant Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, ei ddatgan yn drysor o dan y ddeddfwriaeth gyfoes, ac mae'r darganfyddwyr wedi cael eu gwobrwyo. Darllen Cefndir Conquest, Coexistence, and Change. Wales 1063-1415 gan R. R. Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1987). The Norman Conquest and the English Coinage gan Michael Dolley. Cyhoeddwyd gan Spink and Son (1966).
Celc Cwm Nantcol 4 Mai 2007 Rhan o gelc Cwm Nantcol, gan gynnwys y prif ddarnau copor-aloi. Acwamanil ar lun carw o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. 26cm (10.2 modfedd) o uchder. Stên gopor-aloi o'r bymthegfed ganrif. 17.5cm (6.9 modfedd) o uchder. Hambwrdd neu ddysgl gopor-aloi. 39.5cm (15.5 modfedd) ar draws. Bwyell haearn coediwr ac arni nod y gwneuthurwr ar ffurf croes. 27cm (10.6 modfedd) o hyd. Ym 1918, ffeindiodd gweithiwr oedd yn cloddio am fanganŷs ger Llanbedr (Gwynedd) un o'r celciau mwyaf rhyfeddol i'w ddarganfod yng Nghymru. Cuddiwyd y celc mewn gwagle o dan garreg fawr ar dir garw ar ochr ddeheuol Cwm Nantcol. Yr hyn a wna'r celc hwn mor ddiddorol yw nid yn unig yr amrywiaeth mawr o wrthrychau - o lestr cain (a elwir yn acwamanil) ar lun carw, i sgiledi efydd, a jwg dŵr cymharol fach (a elwir yn stên) - ond hefyd eu dyddiad. Mae'r rhan fwyaf o gelciau gwaith metel a ddarganfuwyd yng Nghymru yn tueddu i fod yn gynhanesyddol, ond roedd hwn yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol. Un o'r gwrthrychau cynharaf yn y celc yw'r acwamanil, sy'n dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Wedi ei lunio o gopor-aloi, mae ganddo gaead colfachog ar ben pen y carw - sy'n golygu y gellir llenwi'r llestr - a phig byr sy'n ymestyn o'i geg. Fe'i castiwyd mewn un darn, sy'n dangos bod gan ei wneuthurwr ar fedr anghyffredin, ac fe'i defnyddid wrth olchi dwylo'n seremonïol mewn eglwys, mynachlog, neu wrth fwrdd gwledda. Er bod y carw wedi colli ei gyrn, erys yn enghraifft wych o'r math yma o lestr. Mae'r stên copor-aloi yr un ffunud ag un y daethpwyd o hyd iddi ar safle Abaty Ystrad-fflur. Awgryma ffurf a chyfansoddiad aloi y naill lestr a'r llall eu bod yn debyg i enghreifftiau piwter o'r bymthegfed ganrif. Roedd pwrpas mwy cyffredin i un pair copor-aloi, dau sgiled a hambwrdd oedd yn rhan o'r celc, gan eu bod yn wrthrychau nodweddiadol o gegin o'r bymthegfed ganrif - ond cegin led gyfoethog serch hynny. O haearn y gwnaed y gwrthrychau eraill yn y celc, ac yn eu plith roedd bwyell a darnau o bentanau haearn. Er ein bod ni wedi dysgu llawer drwy astudio pryd a gwedd y gwrthrychau hyn, gwyddom lawer mwy amdanynt o ganlyniad i ddadansoddiad metelegol a gyflawnwyd ym Mhrifysgol Coventry. Mae metel yr acwamanil, sy'n cynnwys mwy o blwm na sinc ac alcam, yn awgrymu y cafodd ei gynhyrchu yng ngogledd-orllewin yr Almaen. Dengys cyfansoddiad metel y stên y cafodd y llestr ei gynhyrchu yn Ffrainc o bosibl, neu Loegr. Cynhyrchwyd y pair a'r sgiledi o efydd plwm, ac awgryma'r cyfrannau o alcam, sinc ac antimoni yn y metel y cafodd un o'r sgiledi ei lunio yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, tra bod y darnau eraill yn dyddio o'r bymthegfed ganrif. Mae'r amrywiaeth eang o wrthrychau a gafwyd yn y celc, a'u cyflwr treuliedig, yn awgrymu y cawsant eu casglu fel metel sgrap gan drafaeliwr o dincer, yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ôl pob tebyg. Ond pam claddodd ei nwyddau ar lechwedd anghysbell? Efallai fod a wnelo'r ateb â phrinder y copor a gyrhaeddai Brydain yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg, a'r cyfreithiau oedd yn rheoli'r fasnach mewn efydd a phres. Bwriad y cyfreithiau hyn oedd atal allforio metel sgrap y gellid ei ddefnyddio i gynhyrchu canon. Mae'n bosibl felly, fod y tincer yn cuddio celc a gasglodd yn anghyfreithlon ac a allai gael ei atafaelu. Neu, os oedd wedi prynu'r celc yn gyfreithlon mewn marchnad, efallai iddo ei gladdu dros dro wrth chwilio am eitemau eraill i'w hychwanegu ato. Gyda golwg ar ble y gobeithiai werthu ei sgrap, mae'n bosibl ei fod ar ei ffordd i Gaer, neu i'r Trallwng ac yna ymlaen i orllewin canolbarth Lloegr, un o brif ganolfannau'r diwydiant metel yn ystod y cyfnod hwn. Darllen Cefndir 'The Nant Col Hoard of medieval metalware' gan J. M. Lewis, R. Brownsword, E. E. H. Pitt a T. Ciuffini. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 136, tt156-70 (1987).
Peiriau Llan-maes 4 Mai 2007 Cloddiadau yn Llan-maes yn 2004. Dolennau a strapiau peiriau a phowlenni a ffeindiwyd yn Llan-maes. Roedd peiriau yn llestri mawr efydd a ddefnyddid yn ystod gwleddoedd. Darganfyddiadau o Lan-maes, 2004: darnau o fwyeill a pheiriau, pinnau gwddf alarch, troellennau cogeiliau a phwysau gwydd. Un o'r ddau bair cyflawn o gelc Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf. Mae darganfyddiad anheddiad tair mil o flynyddoedd oed yn bwrw goleuni newydd ar fywyd y cyfnod cynhanesyddol ym Morgannwg. Yn Chwefror 2003, derbyniodd y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yng Nghymru wybodaeth am gasgliad anghyffredin o waith metel cynhanesyddol gan y ddau ddatguddiwr metel, Steve McGrory ac Anton Jones. Ymhlith eu darganfyddiadau roedd nifer o wahanol bwyeill efydd, rhai mewn dull oedd yn nodweddiadol o ogledd-orllewin Ffrainc, a rhannau o harneisiau a darnau o bowlenni a pheiriau. Roedd rhai o'r powlenni o fath nad oedd yn hysbys o'r blaen. Yn sgil y darganfyddiadau hyn penderfynodd archaeolegwyr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a'r Cynllun Henebion Cludadwy gloddio safle'r darganfyddiadau yn Llan-maes ym Mro Morgannwg. Mae dau dymor o waith ar y safle lle cafodd Steve ac Anton hyd i'w darganfyddiadau wedi datgelu anheddiad cynhanesyddol nad oedd yn hysbys o'r blaen. Roedd yr anheddiad yn cynnwys tŷ crwn, a oroesodd ar ffurf cyfres o dyllau pyst lle safai ategbyst mur ar un adeg. Ar waelod un o'r tyllau hyn roedd darn o ddolen pair. Mae'r darganfyddiad hwn yn awgrymu y câi'r gwaith metel ei ddefnyddio gan breswylwyr yr anheddiad ac na chafodd ei gladdu yno rywbryd cyn neu wedi dyddiad yr anheddiad. Bywyd y cyfnod cynhanesyddol Darganfuwyd hefyd ddau bydew hirgrwn gerllaw'r tŷ crwn, ac yn un ohonynt gorweddai darnau mawr o bedwar neu bump o botiau toredig y gwyddom, ar sail eu dull, y cawsant eu defnyddio rhwng 1150 a 700CC. Roedd pwy bynnag fu'n gyfrifol am lenwi'r pydew wedi gosod corn carw coch ar ei ben - o bosibl yn ystod defod grefyddol, neu efallai i ddynodi safleoedd gwreiddiol y pydewau. Tomen o sbwriel domestig Uwchlaw'r tŷ crwn a'r pydewau roedd tomen o sbwriel domestig oedd wedi pydru gan ffurfio pridd tywyll. Ynddo roedd nifer o ddarnau o lestri metel dalennog, bwyeill wedi'u torri a chrochenwaith toredig yn debyg i'r hyn a ffeindiwyd yn y pydewau. Awgryma hyn oll mai dim ond egwyl fer fu rhwng preswyliad yr anheddiad a chyfnod creu'r domen, ond roedd y domen hefyd yn cynnwys crochenwaith o'r cyfnod Rhufeinig a wawriodd gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'r cymysgedd hynod hwn o ddarganfyddiadau cynhanesyddol a Rhufeinig yn ei gwneud hi'n anodd deall yn iawn y berthynas rhwng yr anheddiad a'r domen ac mae'r broblem yn dal i gael sylw. Heblaw am y gwaith metel a'r crochenwaith, roedd y domen hefyd yn cynnwys dros 10,000 o ddarnau o esgyrn anifeiliaid, mwy nag 80% ohonynt yn esgyrn gên ac aelodau moch. Mae hwn yn ddarganfyddiad anghyffredin iawn ym Mhrydain, lle roedd defaid a gwartheg yn dueddol o fod yn fwy cyffredin. Efallai mai safle gwledda oedd Llan-maes - roedd cig mochyn yn gig o statws uchel ar y pryd. Yn fwy rhyfeddol fyth, darganfuwyd esgyrn dynol yn y domen hefyd, er na chafwyd unrhyw sgerbydau cyflawn. Hyd yn hyn, mae'r safle wedi ildio darnau o naw o wahanol bowlenni a pheiriau ac iddynt ddolennau cylch a 31 o ddarnau o fwyeill efydd. Cafwyd hyd hefyd i bump o binnau gwddf alarch, caewyr gwisgoedd syml ond cain, ynghyd â throellennau cogeiliau a phwysau gwŷdd a ddefnyddid i wneud dillad gwlân. Yn ogystal, casglwyd ynghyd dros 1,500 o ddarnau o grochenwaith cynhanesyddol, y casgliad mwyaf o'r oedran hwn yn ne Cymru. Darganfyddiadau cyffrous Awgryma hyn oll y cafodd y safle ei feddiannu, yn ôl pob tebyg, rhwng 800 a 500CC, gyda'r posibilrwydd y sefydlwyd yr anheddiad cyntaf mor gynnar â 1300CC. Yn ddiweddarach, mae'n bosibl y bu fferm a Rufeineiddiwyd gerllaw, er na chafwyd hyd i'w hunion leoliad eto. Mae'r darganfyddiadau cyffrous hyn yn helpu archaeolegwyr i ddeall bywyd diwedd yr Oes Efydd pan oedd y grefft o drin haearn newydd gael ei chyflwyno i Brydain. Yn ogystal, maen nhw'n ein dysgu mwy am sut y câi peiriau - llestri gwledda efydd mawr - eu gwneud a'u defnyddio.
Pentan haearn Capel Garmon 4 Mai 2007 Pentan haearn Capel Garmon (Conwy). Offeryn addurniadol yw pentan haearn a ddefnyddid i gadw coed yn eu lle ar dân agored. Prif nodwedd yr enghraifft wych hon yw'r pennau a'r myngau a luniwyd fel eu bod yn ymdebygu, ar ryw olwg, i geffyl a tharw. Manylyn yn dangos un o'r pennau ar y pentan haearn. Efallai bod y pen yn cynrychioli creadur chwedlonol y ceid sôn amdano yn hanesion y rhyfelwyr, neu mae'n bosibl mai arwyddlun ydoedd o lwyth neu gymuned ei berchnogion. Llun pelydr-X o un o bennau pentan haearn Capel Garmon. Dengys y llun pelydr-X natur gymhleth gwneuthuriad y pentan haearn. (Cafodd yr ategion llorweddol a fertigol modern eu hychwanegu i sefydlogi'r pen.) Mae gwaith arbrofol wedi dangos faint o amser a'r medr yr oedd ei angen ar grefftwr i gynhyrchu pentan haearn Capel Garmon. Gwaith pen-grefftwr o'r Oes Haearn Geltaidd yw'r pentan haearn hwn o Gapel Garmon sydd wedi'i addurno â phen dau anifail corniog sy'n edrych yn groes i'w gilydd. Darganfuwyd y pentan haearn yn 1852, gan ŵr oedd yn cloddio ffos drwy fawn ar dir fferm Carreg Goedog, Capel Garmon (Conwy). Gorweddai'r pentan ar ei ochr yn ddwfn yn y mawn, rhwng dwy garreg fawr a osodwyd y naill ben iddo. Mae ei gyflwr da a'r ffaith y cafodd ei osod yn ofalus yn y ddaear yn awgrymu mai offrwm oedd i un o dduwiau'r byd Celtaidd paganaidd. Mae hyn yn gydnaws â'r arfer hirsefydlog o osod gwaith metel mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yng Nghymru yn ystod yr Oes Efydd a'r Oes Haearn. Yn un o bâr yn wreiddiol, byddai'r pentan haearn wedi cael ei osod ar bwys aelwyd yng nghanol tŷ crwn o goed neu gerrig. Byddai'r aelwyd yn ganolbwynt naturiol ar gyfer bwyta, gwledda a thrafod a byddai'r pentan wedi bod yn amlwg i bawb ac yn destun eu hedmygedd. Mae lluniau pelydr-X diweddar o'r pentan haearn hwn, ynghyd ag ymdrech gof i greu copi ohono, wedi dangos bod ei wneuthurwr yn grefftwr o fri, a feddai ar y gallu i drin a llunio haearn. Yn ôl un amcangyfrif, mae'n bosibl y byddai wedi cymryd o leiaf dair blynedd a hanner i un person wneud pentan haearn Capel Garmon, gwaith a olygai gasglu'r deunydd crai, mwyndoddi'r mwyn haearn a llunio'r gwrthrych ei hun. Yn ôl pob tebyg, câi'r gwaith o droi mwyn haearn yn fetel ei ystyried yn broses ddewinol gan y Celtiaid, a byddai gofaint wedi ennyn parch mawr am eu galluoedd goruwchnaturiol. Mae dyddio pentan haearn Capel Garmon yn anodd oherwydd ni chafodd y darganfyddiad na manylion y cloddiad eu cofnodi gan archaeolegwyr. Fodd bynnag, ers i bentan haearn Capel Garmon ddod i'r golwg, darganfuwyd enghreifftiau tebyg yn ne-ddwyrain Lloegr, ym meddrodau penaethiaid yr Oes Haearn. Yn ogystal â'r pentanau haearn, yn y claddfeydd hyn cafwyd nwyddau claddu eraill megis amfforâu a fewnforiwyd o ardal Môr y Canoldir, crochenwaith a gynhyrchwyd ar droell crochenydd, a nwyddau personol eraill, ac mae pob un o'r gwrthrychau hyn yn dyddio o'r cyfnod rhwng 50CC ac OC75 - yr Oes Haearn diweddar. Felly, mae'n debyg y cafodd pentan haearn Capel Garmon ei gladdu yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Defnyddid haearn am y tro cyntaf yng Nghymru tua 750CC. O 300CC ymlaen daeth offer, arfau a thlysau haearn yn fwyfwy cyffredin ar safleodd bryngaerau ac aneddiadau, ac mewn celciau. Fodd bynnag, mae maint ac ansawdd pentan haearn Capel Garmon yn ei osod mewn dosbarth ar wahân i'r gwrthrychau hyn. Er gwaethaf holl ddarganfyddiadau'r 150 o flynyddoedd diwethaf, dyma un o'r enghreifftiau pwysicaf o waith haearn addurnol cynnar i ddod i'r golwg ym Mhrydain. Darllen Cefndir Celtic art, reading the messages gan M. Green. Cyhoeddwyd gan Weidenfeld & Nicholson (1996). 'Firedogs in Iron Age Britain and beyond' gan S. Piggott. Yn The European community in later prehistory: studies in honour of C. F. C. Hawkes gan J. Boardman, M. A. Brown a T. G. E. Powell, tt245-70. Cyhoeddwyd gan Routledge & Kegan Paul (1971). 'The Capel Garmon Firedog' gan C. Fox. Yn The Antiquaries Journal, cyf. 19, tt446-8 (1939).
Celfyddyd Geltaidd yng Nghymru'r Oes Haearn 3 Mai 2007 Darn arian Celtaidd, Sir Fynwy. Plac cilgantaidd o Lyn Cerrig Bach, Ynys Môn. Plac o Dal-y-Llyn, Gwynedd, sy'n dyddio o'r ganrif 1af OC yn ôl pob tebyg. Mownt bwced Pen Ych a gafwyd yn Nant y Gamar, Conwy. Celfyddyd Geltaidd Mae celfyddyd Geltaidd yn adlewyrchu sut roedd pobl yr Oes Haearn yn dehongli eu byd. Mae'r dyluniadau roedden nhw'n eu defnyddio yn ein helpu ni i ddeall sut roedden nhw'n eu gweld eu hunain, eu hamgylchfyd a'u duwiau. Mae'r gelfyddyd Geltaidd a gafwyd yng Nghymru yn rhan o draddodiad ehangach o lawer ym Mhrydain ac Ewrop. Datblygodd yn ystod yr Oes Haearn o tua 500CC ymlaen ac fe'i gelwir yn aml yn gelfyddyd La Tène. Yr enghraifft gynharaf o Gymru yw bowlen Cerrig-y-Drudion a ddarganfuwyd ym 1924 mewn beddrod cerrig yn sir Conwy. Dyma un o'r ychydig arteffactau o'r 4ydd ganrif CC addurnedig a ddarganfuwyd ym Mhrydain ac mae'n debygol iddi gael ei gwneud gan grefftwyr Brythonaidd o dan ddylanwad traddodiadau Cyfandirol. Gwyddom am lawer iawn mwy o wrthrychau addurnedig o tua 200CC, ac erbyn hynny roedd y Brythoniaid wedi datblygu eu harddull unigryw eu hunain. Roedd crefftwyr ym Mhrydain yn dal i gynhyrchu cleddyfau, dagrau, gwaywffyn, tlysau ac offer ar gyfer ceffylau, ond roeddent hefyd yn ychwanegu pethau fel tancardiau, drychau a llwyau at eu stoc. Nodwedd o'r arddull yw cyflwyno motiffau a'u hailadrodd yn aml i bwysleisio eu hystyr. Mae archaeolegwyr yn dehongli'r rhain fel pethau symbolaidd a phwerus â chanddynt arwyddocâd crefyddol. Er enghraifft gallai cymeriad triphlyg y trisgel (patrwm â thri choes yn codi o darddiad canolog) gynrychioli'r berthynas rhwng y byw, y meirwon a'r duwiau neu gylch oesol geni, byw a marw. Lyn Cerrig Bach Gweler y plac cilgantaidd o Lyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Addurnwyd y plac hwn â thrisgel cymhleth, ac ar ben pob coes mae utgorn a chylch sy'n awgrymu pen aderyn arddulliol. Daw portreadau arddulliol o bobl ac anifeiliaid yn fwy cyffredin ar ôl 100CC gyda'r wynebau'n aml yn cael eu cuddio o fewn patrymau dyrys. Gellir gweld pennau dynol mewn dyluniadau llifeirol tebyg i blanhigion ar blaciau celc Tal-y-Llyn tra bod amrywiaeth o wartheg, ceffylau, baeddod ac adar yn addurno amrywiaeth eang o arteffactau eraill. Cafwyd hyd i fowntiau bwced siâp pen ych yng Nghymru (gweld y llun - roedd y celc Nant y Gamar (Conwy) hefyd yn cynnwys dau dlws utgorn Rhufeinig, gan ddangos bod yr arddull Geltaidd yn dal i gael ei defnyddio ar ôl y goncwest Rufeinig), sy'n dangos nodweddion arddulliol a'r llinellau llifeiriol oedd yn perthyn i arddulliau artistig Prydeinig. Ceir ambell i awgrym am fwystfilod chwedlonol hefyd, er enghraifft y pennau ceffyl-gwartheg sy'n addurno brigwn Capel Garmon. Ni ddiflannodd dyluniadau Celtaidd gyda'r goncwest Rufeinig. Cafodd trulleus (sosban) o Wersyll Coygan yn sir Gaerfyrddin ei drwsio rhywbryd yn ystod y 3ydd ganrif OC. Ni chafodd ei addurno â dyluniad Rhufeinig nodweddiadol, ond â motiff trisgel, sy'n dangos bod celfyddyd Geltaidd yn dal i gael ei gwerthfawrogi. Darllen Cefndir Early Celtic art in Britain and Ireland gan Ruth a Vincent Megaw. Cyhoeddwyd gan Shire Archaeology (1986)