: Cloddio a Darganfod

Caerllion - Dinas y Lleng Rufeinig

9 Mai 2007

Cynllun caer Rufeinig Caerllion.

Cynllun caer Rufeinig Caerllion.

Arysgrif ar farmor o borth de-orllewinol Caerllion, yn ôl pob tebyg.

Arysgrif ar farmor o borth de-orllewinol Caerllion, yn ôl pob tebyg.

Adluniad o borth de-orllewinol Caerllion.

Adluniad o borth de-orllewinol Caerllion.

Adluniad o faddonau'r gaer Rufeinig (Caerllion), tua OC80.

Adluniad o faddonau'r gaer Rufeinig (Caerllion), tua OC80.

Mae darganfyddiadau'r cloddiadau yng Nghaerllion i'w gweld yn Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion.

Mae darganfyddiadau'r cloddiadau yng Nghaerllion i'w gweld yn Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion.

Yn gartref i Ail Leng Awgwstaidd Rhufain am dros ddwy ganrif, Caerllion yw’r gaer Rufeinig orau, o ran ei chyflwr, yng Nghymru.

Caerllion (Casnewydd) yw’r unig leng-gaer barhaol o fewn ffiniau’r Gymru fodern. Fe’i sefydlwyd yn OC 74 neu 75 a garsiynwyd y gaer gan yr Ail Leng Awgwstaidd, a fu’n gwasanaethu mewn gwahanol rannau o dde Prydain ers y goresgyniad Rhufeinig yn OC 43. Yr enw y rhoddodd y Rhufeiniad ar y gaer oedd Isca, ar ôl enw’r afon Wysg gerllaw.

Mae cloddiadau yng Nghaerllion ers y 1920au wedi ein galluogi ni i greu portread lled gyflawn o’r gaer.

Y safle

Clostir hirsgwar 490m wrth 418m (535 × 457 llath) yw’r gaer ac iddi arwynebedd o 20.5ha (50 acer). I’r de-orllewin ceir maes parêd ac amffitheatr, ac y tu hwnt iddynt cafwyd hyd i wahanol adeiladau anheddiad sifil.

I ddechrau, codwyd amddiffynfeydd o bridd a choed ond cafodd rhai cerrig eu rhoi yn eu lle tua OC 100. Yng nghanol y gaer, o dan yr eglwys blwyf bresennol, safai’r pencadlys (principia) ac y drws nesaf iddo dŷ’r prif swyddog. Yn ogystal, darganfuwyd weddillion baddonau’r gaer, ysbyty, tai swyddogion a gwahanol weithdai. Ond byddai dros hanner yr arwynebedd wedi cynnwys blociau barics i gartrefu’r milwyr cyffredin – dros 5,000 ohonynt. Codwyd y rhan fwyaf o’r adeiladau hyn o bren yn y lle cyntaf; ond yn raddol, o’r ail ganrif ymlaen, fe’u hailadeiladwyd o gerrig.

Caerllion oedd pencadlys yr Ail Leng Awgwstaidd am dros ddau gan mlynedd, er y byddai unedau o’r lleng wedi cael eu lleoli mewn mannau eraill yn aml yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’n debyg yr oedd y gaer ar ei prysuraf ym mlynyddoedd olaf y ganrif gyntaf ac yn gynnar yn yr ail. Wedi’r cyfnod hwn, gwyddys y bu’r lleng wrthi'n codi Mur Hadrian ar draws gogledd Lloegr, rhwng Merin Rheged ac afon Tyne. Eto i gyd, dim ond ym mlynyddoedd cynnar teyrnasiad Antoninus Pius (OC 138–161) y bu gostyngiad sylweddol ym mhoblogaeth Caerllion, newid a ddynodai ymrwymiad cadarnach o lawer i’r achos yng ngogledd Lloegr.

Ddiwedd yr ail ganrif, dechreuwyd datgymalu’r gaer er y cafodd y gwaith ei wrthdroi mewn dim o dro. Mae’n bosibl fod a wnelo’r gwaith datgymalu â chynllun yr ymerawdwr Septimius Severus (OC 193–211) i ail-leoli'r lleng yng ngogledd Prydain, ac yna aeth y gwaith o’i hailadeiladu rhagddo yn sgil penderfyniad ei fab, Caracalla, i ymadael â'r Alban.

Tua OC 300 ymadawodd y lleng â Chaerllion am y tro olaf a chafodd llawer o brif adeiladau’r gaer eu dymchwel. Yn ôl pob tebyg, roedd hyn yn gysylltiedig â gweithredoedd y ddau gamfeddiannwr Carausius ac Allectus (OC 287–96), oherwydd wedi iddynt gipio’r awenau ym Mhrydain bu rhaid iddynt amddiffyn de Lloegr rhag ymosodiad disgwyliedig dan arweiniad y ddau ymerawdwr swyddogol, Diocletian a Constantius.

Heb os nac oni bai, câi rhai adeiladau yng Nghaerllion eu defnyddio hyd ganol y bedwaredd ganrif a rhoddwyd wyneb newydd ar rai o’r strydoedd wedi OC 346–8; ond prin yw'r darnau arian ôl-350, sy'n awgrymu nad oedd fawr ddim gweithgarwch ar y safle ar ôl y dyddiad hwn.

Erbyn OC 1188, pan ymwelodd Gerallt Gymro â'r safle, roedd y gaer yn adfail urddasol.

Crochenwaith gwydrog gwyrdd o Holt

9 Mai 2007

Crochenwaith

Crochenwaith gwydrog gwyrdd o Holt (Wrecsam).

Cloddiadau

Cloddiadau yn Holt cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn y ffotograff hwn mae Mr Acton yn sefyll wrth weddillion un o'r odynau llestri a ddarganfuwyd ganddo.

Plac seramig

Câi'r plac seramig hwn (a elwir yn rhagosodyn) ei ddefnyddio i orchuddio pen rhes o deils to. Fe'i cynhyrchwyd yn Holt ac mae'n dwyn argraffnod yr Ugeinfed Leng (LEG XX), yn ogystal â'i bathodyn (baedd gwyllt) a lluman.

Darlun i ddangos sut y taniwyd llestri gwydrog gwyrdd.

Darlun i ddangos sut y taniwyd llestri gwydrog gwyrdd.

Mae llestri gwydrog o unrhyw fath yn anodd i'w cynhyrchu ac yn brin ym Mhrydain cyn y Canol Oesoedd. Fodd bynnag, cynhyrchwyd nifer cyfyngedig o'r llestri hyn yn Holt, ar lan afon Dyfrdwy, a Chaerllion yn ystod y cyfnod Rhufeinig.

Holt oedd canolfan gynhyrchu a dosbarthu crochenwaith yr Ugeinfed Leng (Legio XX Valeria Victrix. Roedd crochenwyr Holt yn arbenigo mewn gwneud crochanwaith o bob lliw a llun, ac mae peth o'u cynnyrch yn dangos eu soffistigedigrwydd technolegol.

Cynhyrchwyd y llestri gwydrog gwyrdd gan ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd gyntaf yn yr Aifft yn ystod y mileniwm cyntaf cyn Crist.

Yn ôl pob tebyg, cafodd y dull hwn ei fabwysiadu yn Holt er mwyn sicrhau y gallai'r milwyr barhau i fwynhau'r moethusion roeddent wedi dod yn gyfarwydd â hwy mewn mannau eraill o fewn ffiniau'r ymerodraeth.

Y Broses:

  • Trochi llestr, a oedd eisoes wedi'i grasu unwaith, mewn ffrit (daliant o wydredd crai a dŵr). Pan gaiff y llestr ei danio mae'r ffrit yn adweithio â'r silica yn y pot gan ffurfio wyneb gwydrog anathraidd, caled y gall ei liw amrywio o felyn golau i felynwyrdd i frown tywyll.

Problemau:

  • Pan gaiff y llestri eu tanio mae'r gwydredd yn hylifo, ac os caiff ei orboethi mae'n debygol o redeg yn ormodol (os yw hyn yn digwydd gall y potiau asio â'i gilydd).
  • Gall nwyon brwnt, poeth yn yr odyn effeithio ar yr adwaith cemegol, gan beri i'r gwydredd bothellu neu newid ei liw.

Atebion:

  • Llwyddodd crochenwyr Holt i oresgyn y problemau hyn drwy danio eu potiau ar brop wedi'i osod mewn sagar (blwch o glai wedi'i danio, a ddefnyddiwyd i amddiffyn pot yn ystod tanio).
  • Byddai llestr oedd wedi'i drochi mewn gwydredd yn cael ei osod ar ben y prop. Yna, gosodwyd clawr ar ben y sagar oedd yn cynnwys y prop a'r llestr. Yn y modd yma gellid rheoli'r amgylchedd o amgylch y llestr yn ystod y tanio

Mae'n debyg fod y gwaith cynhyrchu yn ei anterth yn Holt rhwng 87 ac 135 OC, yn ystod y cyfnod pan adeiladwyd y gaer yng Nghaer. Fodd bynnag, yn ôl pob tebyg, parhaodd peth gwaith cynhyrchu hyd y drydedd ganrif OC

Darllen Cefndir

'A collection of samian from the legionary works-depot at Holt' gan M. Ward. Yn Form and Fabric: Studies in Rome's material past in honour of B. R. Hartley gan J. Bird, tt133-43. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (1998).

'Holt, Denbighshire: the works depot of the twentieth Legion at Castle Lyons' gan W. F. Grimes. Yn Y Cymmrodor, cyf. 41. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion (1930).

'The Lead Glazed Wares of Roman Britain' gan P. Arthur. Yn Early Fine Wares in Roman Britain gan P. Arthur a G. Marsh, tt293-356. Cyhoeddwyd gan British Archaeological Reports (1978).

Caer Rhufeinig Gelligaer

9 Mai 2007

Rhwydwaith milwrol Rhufeinig

John Ward, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd (1893-1912) a Cheidwad Archaeoleg cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru  (1912-14).

John Ward, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd (1893-1912) a Cheidwad Archaeoleg cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1912-14).

Am dros 40 mlynedd, Gelligaer oedd y maen clo'r rhwydwaith milwrol Rhufeinig oedd yn rheoli de-ddwyrain Cymru.

Lleolir caer Gelligaer ar gefnen rhwng cymoedd Taf a Rhymni. Mae'n cynnig golygfa wych o'r ardal tir uchel hon, oedd yn goediog iawn yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Mae'r gaer, a adeiladwyd o gerrig, bron a bod yn sgwâr o ran siâp ac mae ganddi arwynebedd i 1.4ha (3.5 erw), sy'n ei gosod ymhlith y lleiaf yng Nghymru.

Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd

Arysgrif o'r porth de-ddwyreiniol.

Arysgrif o'r porth de-ddwyreiniol.

Archwiliodd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd y safle'n fras ym 1899-1901 ac wedyn gwbaeth John Ward, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd, waith cloddio pellach y tu allan i'r gaer rhwng 1908 a 1913. Mae'r canlyniadau wedi datgelu enghraifft glasurol o gaer Rhufeinig wedi ei garsiynu gan cohors quingenaria (uned gynorthwyol o 500 o filwyr traed - byddai milwr traed cynorthwyol yng ngarsiwn Gelligaer wedi gwisgo crys llurig syml dros ben tiwnig, efallai gyda throwsus gwlân neu ledr, a helmed. Byddai'n cario tarian hirgrwn wastad ynghyd â chleddyf, dagr a gwaywffon trywanu.)

Roedd y gaer gan ffos allanol lydan a rhagfur pridd â wyneb cerrig y naill ochr a'r llall iddi yn amddiffyn y gaer. Roedd yna dyrau cornel a mewnol a phedwar porth â dau fwa. Roedd y pencadlys trawiadol yn sefyll wrth ganol y gaer a nesaf ato roedd cartref swyddogol comander yr uned. I gwblhau'r adeiladau canolog roedd gweithdy, iard a dwy ysgubor - i storio grawn a nwyddau darfodus eraill (fel llysiau a chig). Roedd y dynion yn byw mewn chwe bloc barics, un am bob cannwr o 80 dyn a'u canwriad. Mae'n debyg y byddai adeiladau eraill yn y gaer yn cael eu defnyddio fel storfeydd a stablau ar gyfer anifeiliaid pac yr uned.

Baddonau

Model o'r gaer garreg yng Ngelligaer ddechrau'r 2il ganrif OC.

Model o'r gaer garreg yng Ngelligaer ddechrau'r 2il ganrif OC.

Y tu allan i'r gaer ar yr ochr dde-ddwyreiniol roedd adeilad ychwanegol oedd yn cynnwys baddonau lle gallai'r milwyr fynd i ymlacio pan nad oeddent ar ddyletswydd. Yn rhan ogledd-ddwyreiniol y gaer roedd y maes ymarfer, oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer driliau, ymarferion arfau a gwyliau crefyddol.

Nid y gaer garreg oedd y ganolfan filwrol gyntaf yng Ngelligaer. Profwyd bod gwrthglawdd mawr i'r gogledd orllewin wedi bod yn gaer bridd a choed ar un adeg, ac fe'i hadeiladwyd yn fwy na thebyg adeg y goncwest Rufeinig yn OC 103-111.

Ymerawdwr Hadrian

Gwaith cloddio ar yr odyn teils yng Ngelligaer ym 1913. Byddai angen llawer iawn o frics a theils i adeiladu'r gaer.

Gwaith cloddio ar yr odyn teils yng Ngelligaer ym 1913. Byddai angen llawer iawn o frics a theils i adeiladu'r gaer.

Roedd Gelligaer yn perthyn i rwydwaith o gaerau ar draws Cymru i rwysto'r brodorion rhag codi gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Cymdogion agosaf Gelligaer oedd y caerau ym Mhen-y-darren i'r gogledd a Chaerffili i'r de. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos bod y garsiwn wedi cael ei dynnu nôl yn fwy na thebyg yng nghyfnod yr Ymerawdwr Hadrian (OC 117-38), ac erbyn hynny roedd y Silwriaid wedi cael eu gwastrodi. Mae yna dystiolaeth o weithgarwch diweddarach ar y safle, ond nid yw natur y gweithgarwch hwnnw'n glir.

Mae'r darganfyddiadau i'w gweld yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd.

Gelligaer Roman fort gan Richard Brewer. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1980).

Darllen Cefndir

The Ermine Street Guard wedi gwisgo fel milwyr traed cynorthwyol. Byddai milwr traed cynorthwyol yng ngarsiwn Gelligaer wedi gwisgo crys llurig syml dros ben tiwnig, efallai gyda throwsus gwlân neu ledr, a helmed.

The Ermine Street Guard wedi gwisgo fel milwyr traed cynorthwyol.

The Roman fort of Gellygaer in the county of Glamorgan gan John Ward. Cyhoeddwyd gan Bemrose & Sons (1903).

Gelligaer Roman fort gan Richard Brewer. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1980).

Cwpan llewpart y Fenni

9 Mai 2007

Y cwpan llewpart.

Y cwpan llewpart. 115cm (4.5 modfedd) o uchder.

Manylyn o'r glust ar ffurf llewpart

Manylyn o'r glust ar ffurf llewpart, yn dangos nodweddion ei chrefftwaith cain a smotiau arian.

Y cwpan llewpart yn cael ei osod yn y Microsgop Sganio Electron.

Y cwpan llewpart yn cael ei osod yn y Microsgop Sganio Electron.

Pelydr-X o'r cwpan

Pelydr-X o'r cwpan.

Microffotograff o wyneb y llewpart.

Microffotograff o wyneb y llewpart.

Darganfuwyd un o'r llestri Rhufeinig gwychaf i'w ddarganfod yng Nghymru ger y Fenni yn 2003, gan Mr Gary Mapps. Mae crefftwaith y cwpan o safon uchel ac, yn ôl pob tebyg, fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal yn ystod y ganrif gyntaf OC. Cafwyd hyd i gwpanau tebyg iawn yn ninas Pompeii, a ddinistriwyd wedi ffrwydrad llosgfynydd Feswfiws yn 79 OC.

Gwaith Cloddio

Dangosodd gwaith cloddio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent fod y cwpan wedi'i osod wyneb i waered mewn pydew bach oedd yn cynnwys corfflosgiad. Roedd y corfflosgiad yn rhan o fynwent ger ffordd Rufeinig, gryn bellter o'r gaer Rufeinig (Gobannium) yn y Fenni, sy'n dyddio o ganol y ganrif gyntaf hyd ddechrau'r ail ganrif. Yn ogystal, yng nghyffiniau'r fynwent hon, ceir mwy a mwy o dystiolaeth am anheddiad sifil sy'n dyddio o'r ail ganrif hyd y bedwaredd.

Cwpan Pwy?

Nid ydym yn gwybod a oedd y cwpan yn eiddo i aelod o'r fyddin Rufeinig oedd yn gwasanaethu neu'n rhan o'r garsiwn yn Gobannium, neu, efallai, yn eiddo i un o frodorion yr anheddiad sifil gerllaw. Pa esboniad bynnag sy'n gywir, roedd y cwpan hwn o'r ganrif gyntaf yn fewnforyn drud ac yn ôl pob tebyg roedd yn eiddo i rywun o fri. A chymaint oedd meddwl y perchennog ohono, mynnai y câi ei gladdu yn yr un bedd â'i lwch.

Gwneuthuriad y Cwpan
  • Castiwyd mewn mowld gan ddefnyddio efydd plwm.
  • Ffurfiwyd mowld clai o amgylch model cŵyr o lewpart.
  • Arllwyswyd efydd i'r gwagle lle fu'r cŵyr, a thorri'r mowld wedi i'r metel oeri.
  • Llenwyd tyllau'r smotiau ar y corff gydag arian, ac mae'n bosib mai ambr oedd y llygaid.
  • Roedd dewis llewpart yn addas iawn ar gyfer cwpan gwin, gan ei fod yn greadur pwysig ym mytholeg y Rhufeiniaid, yn gydymaith i Bacchws, duw gwin, a addolwyd drwy wledda, diota, cerddoriaeth a dawns.

Darllen Cefndir

Things Fall Apart: museum conservation in practice Amguedddfa Genedlaethol Cymru, 2006

Llongddrylliad yr Ann Francis

8 Mai 2007

Manylyn o Fap Christopher Saxton o Forgannwg, 1578

Manylyn o Fap Christopher Saxton o Forgannwg, 1578, yn dangos yr arfordir o Oxwich yng Ngŵyr (chwith) i Fargam (dde uchod).

Aur Sbaen a darnau arian Ferdinand ac Isabella (1479-1504).

Aur Sbaen a darnau arian Ferdinand ac Isabella (1479-1504). Câi darnau arian yn dwyn eu henwau eu bathu hyd y 1550au, hynny yw, am flynyddoedd lawer wedi iddynt farw.

Talers: darnau arian mawr, a wnaed o arian, o'r Almaen.
Talers

: darnau arian mawr, a wnaed o arian, o'r Almaen. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys rhai a ryddhawyd gan Etholwyr Sacsoni, Ieirll Stolberg, Langraves o Leuchtenberg a dinasoedd Koln a Herford.

San Vicente aur o gyfnod Ioan III o Bortiwgal (1527-57)
San Vicente

aur o gyfnod Ioan III o Bortiwgal (1527-57); ar y cefn (ochr dde'r llun) ceir portread o'r sant yn cydio mewn palmwydden merthyr a model o long.

Rhanwyr morlywiwr o weddillion yr Ann Francis.

Rhanwyr morlywiwr o weddillion yr Ann Francis.

Darnau arian Sbaen, chwiban bosn ac offer morwriaeth - ai gweddillion yw'r rhain o'r Ann Francis, llong yn dyddio o'r 16eg ganrif?

Dros nifer o flynyddoedd, cafwyd hyd i ddarnau arian a gwrthrychau eraill ar draeth Margam ym Morgannwg. Mae nifer ohonynt yn dyddio o gyfnodau cymharol ddiweddar, ond mae llawer iawn o'r darnau arian yn dyddio o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Gwnaed y rhan fwyaf o'r darnau hyn o arian: darnau arian Ferdinand ac Isabella o Sbaen, a darnau o nifer o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig Almaenig. Ceir ambell ddarn arian copor o gyfnod Ioan III o Bortiwgal (1521-57) a hyd yn oed ddau ddarn aur trawiadol - y naill o Sbaen a'r llall o Bortiwgal. Ychwanegwch setiau o ranwyr morlywiwr, pwysau plwm i blymio'r dyfroedd a chwiban bosn a beth sydd gennych chi? Llongddrylliad.

Mae'r rhan fwyaf o'r darnau arian yn dyddio o'r 1530au-1550au: nid oes yr un yn fwy diweddar na 1557 ac, felly, y gred i ddechrau oedd bod y llongddrylliad yn dyddio o'r cyfnod hwn. Gwyddys y cafodd llong Ffrengig ei dryllio yn Rhagfyr 1557, ger Oxwich yng Ngŵyr, 21km (14 milltir) i'r gorllewin o Fargam - ond onid oes llong ddrylliedig addas yn agosach at Fargam?

Wel, gwyddys fod llong ddrylliedig o'r 16eg ganrif ger Margam ond nid un a ddrylliwyd yn 1557. Ar 28 Rhagfyr 1583, aeth yr Ann Francis, y llong ddiweddaraf a'r fwyaf a oedd yn eiddo i'r masnachwr Francis Shaxton o King's Lynn, ar lawr ar draeth Margam.

Ymhen dim o dro ysbeiliwyd y llong gan y trigolion lleol, hyd nes i gynrychiolwyr tirfeddianwyr lleol adfer y drefn a hawlio'r nwyddau iddynt hwy eu hunain. Ymhen amser, daeth Shaxton i wybod am dynged ei long ac wedi achosion cyfreithiol hir llwyddodd i adfeddiannu rhywfaint o'i nwyddau - angorau, canonau, ceblau ac arian.

Fel rheol, mae darnau arian yn dynodi dyddiad llongddrylliad. Felly, pam maent yn awgrymu dyddiad cynharach o lawer yn yr achos hwn? Mae'n bosibl, wrth gwrs, y cafodd rhyw long arall ei dryllio ym Margam yn 1557, er nad oes unrhyw dystiolaeth o'r fath beth ar gael. Ond gwyddys fod yr Ann Francis yn cludo llawer o arian, yr arian a gafwyd, yn ôl pob tebyg, yn dilyn gwerthu llwyth o rawn yn Sbaen a/neu Bortiwgal.

Mewn gwirionedd, bwliwn arian oedd y darnau arian, o fathau oedd wedi'u disodli erbyn hynny, ac o dan amgylchiadau arferol byddant wedi cael eu cludo i'r Bathdy yn Llundain er mwyn eu troi yn arian Prydeinig. Ond aeth y llong ar goll wrth iddi ddychwelyd o'i mordaith ac ni chyrhaeddodd yr arian Fathdy Llundain.

Darllen Cefndir

'Wreck de Mer and dispersed wreck site: the case of the Ann Francis (1583)' gan M. Redknap a E. Besly. Yn Artefacts from Wrecks gan M. Redknap, tt191-208. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (1997).