Ewyllys Rufeinig 10 Mai 2007 Trawsfynydd yn y cyfnod Rhufeinig 'Tudalen' gyntaf ewyllys Rufeinig a ddarganfuwyd ger Trawsfynydd yn y 19g. Mae nodyn o ganol y 19g. yn nodi bod y tabled eisoes wedi'i dorri yn ei hanner. Darganfuwyd yr unig ewyllys Rufeinig i oroesi ym Mhrydain ger Trawsfynydd, Gwynedd, yn y 19eg ganrif. Mae dau lythyr a ysgrifennwyd ar y pryd yn cofnodi manylion y darganfyddiad a hanes yr ewyllys wedi hynny. Darganfuwyd yr unig ewyllys Rufeinig i oroesi ym Mhrydain ger Trawsfynydd, Gwynedd, yn y 19eg ganrif. Mae dau lythyr a ysgrifennwyd ar y pryd yn cofnodi manylion y darganfyddiad a hanes yr ewyllys wedi hynny. Yn ôl y llythyr cyntaf cafodd y 'llyfr pren', oedd yn cynnwys 10 neu 12 o dudalennau, ei ddarganfod gan weision fferm wrth iddynt ladd mawn i wneud tanwydd ar fferm Bodyfuddau, tua 5km i'r de-ddwyrain o gaer Rufeinig Tomen-y-mur. Nododd awdur y llythyr: "Gwelais i'r llyfr ychydig ddiwrnodau wedi iddo ddod i'r fei – dim ond 2 neu 3 o'r tudalennau oedd yn cynnwys arysgrifen berffaith bryd hynny – roedd wedi'i dileu yn rhannol gan ddiofalwch y gweision fferm ar y lleill. Yn ôl pob tebyg, crair oedd yn eiddo i'r Derwyddon yw'r gwaith. Mae'n bosibl iddyn nhw ddefnyddio rhyw lun ar yr wyddor Rufeinig i ysgrifennu eu hiaith eu hunain." Gwnaeth awdur y llythyr gamgymeriad wrth briodoli'r testun i'r Derwyddon, ond roedd i'w ganmol am adnabod yr elfen Rufeinig, oherwydd roedd ysgrifen redeg Rufeinig (â'r llythrennau wedi'u cysylltu wrth ei gilydd) yn anhysbys ar y pryd. Raglen deledu am y tabledi Pot inc crochenwaith, ysgrifbin haearn i ysgrifennu ar dabledi cwyrog, blwch sêl a marciwr eiddo plwm. Mae'r ail lythyr yn cofnodi rhoi un dudalen i George Carr Pearson, gŵr a chanddo swyddfeydd yn agos i Chancery Lane, Llundain, tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg. Astudiodd Pearson y tabled, ond ni ddychwelodd y gwrthrych. Ymhen amser, darganfuwyd y tabled unwaith eto wrth glirio tŷ merch Pearson, Grace, yn West Kensington ym 1991. Daeth yn eiddo i Mr Stafford Ellerman, a welodd raglen deledu am y tabledi ysgrifennu a ddarganfuwyd yng nghaer Rufeinig Vindolanda ar Fur Hadrian yn 2003. Sylweddolodd Ellerman ei fod yntau'n berchen ar dabled ysgrifennu Rhufeinig ac aeth ag ef i'r Amgueddfa Brydeinig er mwyn ei adnabod. Yna, rhoddodd y tabled, yn garedig iawn, i Amgueddfeydd Cymru. Yr ewyllys Manylyn o'r tabled yn datgelu'r ysgrifen Rufeinig sydd wedi'i chadw ar ei wyneb. Tafell hirsgwar denau o bren ffynidwydden arian yr dabled. Nid yw'r ffynidwydden arian yn un o goed brodorol Prydain. Bellach, mae'r gorchudd o gŵyr ar un ochr wedi dirywio. Byddai hyn wedi bod yn orchudd tywyll llyfn o gŵyr gwenyn a deunydd lliwio (huddygl yn ôl pob tebyg) yn wreiddiol. Byddai'r ysgrifennydd yn ysgrifennu ynddo gan ddefnyddio ei 'ysgrifbin' (offeryn metel pigfain) i ddatgelu'r pren golau oddi tano. Erbyn hyn, cafwyd hyd i ryw 300 o dabledi ysgrifbin ar safleoedd ym Mhrydain. Gyda chymorth ffotograffiaeth ofalus ac astudiaeth fanwl o'r gwreiddiol, mae'n bosibl dirnad rhyw gysgod o ysgrifen mewn sawl man. Mae'r testun wedi'i ysgrifennu mewn llythrennau bach Rhufeinig rhedol. Tudalen gyntaf ewyllys Rufeinig wedi'i hysgrifennu mewn Lladin yw'r tabled. Mae awdur yr ewyllys yn enwi etifedd i'w stad, ei wraig neu ei ferch o bosibl, ac yn rhoi'r cyfrifoldeb iddi dderbyn yr etifeddiaeth cyn pen 100 diwrnod ar ôl cael gwybod amdani. Mae'n debyg i enw'r awdur a maint y stad gael eu nodi ar y tabledi eraill sydd ar goll erbyn hyn. Mae ffurf yr ysgrifen yn debyg i honno ar dabledi eraill o Brydain sy'n dyddio o'r cyfnod OC75-125. Mae presenoldeb ewyllys Rufeinig ffurfiol ynddo'i hun yn rhyfeddod yn yr ardal anghysbell hon o Gymru. Ni allwn ond dyfalu sut cyrhaeddodd yr ardal. Ni chafwyd hyd i'r ddogfen yn y gaer neu ei ficws (anheddiad sifil cysylltiedig) fel y byddem wedi disgwyl, o bosibl. Ond, efallai fod yr ewyllys yn gysylltiedig â'r anheddiad cyfagos ar Ffridd Bod y Fyddai. Mae'n bosibl mai fferm hen filwr cynorthwyol oedd y clwstwr hwn o gytiau, milwr a brynodd dir gyda'i gynilion, neu ag arian a gafodd gan ei wraig. Efallai y gallai gwaith cloddio fwrw goleuni ar y ddamcaniaeth. O ystyried y byddai miliynau o ddinasyddion Rhufeinig yn ysgrifennu ewyllysiau ar dabledi cwyrog gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel, mae'n syndod bod y tabledi mor brin; gwyddom am bedwar o'r Aifft ac yn awr yr enghraifft hon o Gymru. Darllen cefndir ‘A Roman Will from North Wales’ gan R. S. O. Tomlin. Yn Archaeologia Cambrensis, 150 (2004) tt. 143 56 Life and Letters on the Roman Frontier gan A. K. Bowman. Cyhoeddwyd gan Wasg yr Amgueddfa Brydeinig (1994).
Segontium - Y Rhufeiniaid yng Ngogledd Cymru 10 Mai 2007 Awyrlun o Segontium yn dangos ei ffurf hirsgwar sy'n nodweddiadol o gaerau Rhufeinig. Mae nifer o'i hadeiladau cerrig wedi'i datgladdu fel y gall y cyhoedd eu gweld. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). R. E. M. Wheeler yng nghwmni'r Foneddiges Lloyd George (de pellaf) yn Segontium ym 1922. Llun © Casgliad preifat. Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif dechreuwyd codi baddondy yng nghornel dde-ddwyreiniol y gaer. Ni chwblhawyd yr adeilad. Addolai milwyr Rhufeinig nifer o dduwiau. Mae'r gerfwedd hon o Segontium yn portreadu Mawrth, duw rhyfel ac, ar rai adegau, dduw iachau. Sefydlwyd caer Rufeinig Segontium yn OC77 ac roedd garsiwn yno hyd tua OC394. Ni feddiannwyd unrhyw gaer Rufeinig arall yng Nghymru am gymaint o amser. O'r afon y daw enw Segontium: 'grymus' yw ystyr 'sego-', elfen sydd ynghudd yn yr enw Seiont. Mae i'r gaer, un o'r enwocaf ym Mhrydain, leoliad allweddol yn y rhwydwaith milwrol Rhufeinig, gan ei bod mewn man canolog ar brif ffyrdd arfordir y gogledd a'r gorllewin. Mae'r gaer yn sefyll ar gopa bryn llydan a chrwn sy'n edrych dros afon Menai ac Ynys Môn. Datgelodd gwaith cloddio archaeolegol a wnaed rhwng 1975 a 1979 nifer o flociau o farics pren yn y chwarter de-ddwyreiniol oedd yn dyddio o ddiwedd y ganrif gyntaf a blynyddoedd cynnar yr ail ganrif OC. Mae hyn yn dangos bod y gaer wedi cael ei chynllunio i letya 'cohors milliaria', sef catrawd o filwyr traed cynorthwyol oedd yn cynnwys hyd at 1,000 o ddynion. Mae tystiolaeth bendant fod maint y garsiwn yn llai o lawer erbyn tua OC 120. Ganol yr ail ganrif codwyd tŷ cwrt mawr, a chanddo'i faddondy bach ei hun, yn y gornel dde-ddwyreiniol. Mae'n bosibl mai cartref swyddog pwysig a oedd, efallai, yn gyfrifol am gloddio mwynau yn yr ardal oedd y tŷ trawiadol hwn. Yn gynnar yn y drydedd ganrif, y garsiwn oedd Cohort Cyntaf Sunici, catrawd o 500 o filwyr traed gafodd ei recriwtio yn yr Almaen. Mae enw'r uned yn ymddangos mewn arysgrif sy'n cofnodi atgyweirio traphont ddŵr y gaer tua OC200. Roedd y garsiynau ar gyfer y rhan fwyaf o'r drydedd a'r bedwaredd ganrif yn llai o lawer. Yn ystod y cyfnod hwn prif swyddogaeth Segontium oedd amddiffyn arfordir gogledd Cymru rhag ysbeilwyr a môr-ladron o Iwerddon. Mae darnau arian a ffeindiwyd yn Segontium yn dangos bod milwyr yn y gaer allweddol hon tan OC394. Yr angen i amddiffyn tiroedd ffrwythlon a llawn mwynau Môn sy'n esbonio'r preswyliad anarferol o hir hwn. Segontium oedd pencadlys milwrol a gweinyddol y gogledd-orllewin drwy gydol y cyfnod Rhufeinig. Sicrhaodd adfeilion Segontium le iddi mewn chwedlau, ymhell ar ôl i'r milwr Rhufeinig olaf gefnu ar y gaer. Cyfeirir at Segontium ym Mreuddwyd Macsen, un o chwedlau'r Mabinogion. Ni ddaeth arwyddocâd milwrol Caernarfon i ben ar ddiwedd y cyfnod Rhufeinig, oherwydd yn yr Oesoedd Canol sefydlwyd mwnt (twmpath y codwyd castell arno) Normanaidd ar lan aber afon Seiont ac yna, ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, adeiladwyd castell enwog Edward I ynghyd â'r dref furiog sydd ynghlwm wrtho; ac yn olaf ym 1775 codwyd caer fach ger aber afon Menai. Darllen Cefndir Excavations at Segontium (Caernarfon) Roman Fort, 1975-1979', gan P. J. Casey a J. L. Davies. Cyhoeddwyd gan Council for British Archaeology (1993). 'Roman & Early Medieval Wales' gan C. J. Arnold a J. L. Davies. Sutton Publishing (2000). 'Segontium and the Roman Occupation of Wales' gan R. E. M. Wheeler. Yn Y Cymmrodor, cyf. 33 (1923).
Crochenwaith Rhufeinig yng Nghymru 10 Mai 2007 Odyn lestri Rufeinig yn Holt. Sefydlwyd yr odynau hyn gan yr 20fed Leng er mwyn cynhyrchu crochenwaith ar gyfer eu caer yng Nghaer. Llestri llathredig du. Cynhyrchwyd y crochenwaith yn wreiddiol gan lwyth y Durotriges yn Dorset ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth gan y fyddin Rufeinig a'r boblogaeth sifil ym Mhrydain. Dyma ddau Lestr Llwyd o dde Cymru a bowlen o'r un deunydd o Gaerllion. Datblygwyd Llestri Llwyd de Cymru yn ardal Brynbuga, ac roedd yn nodedig am ei jariau storio a chynwysyddion. Casgliad o wahanol lestri y cafwyd hyd iddynt ar safle caer Rufeinig Brynbuga - costrel i ddal diod, jar storio, powlen ar gyfer cymysgu neu goginio, a chaead mawr a ddefnyddiwyd wrth goginio yn ôl pob tebyg. Daeth y Rhufeiniaid â nifer o bethau newydd i Gymru - ffyrdd, baddonau a threfi ymhlith sawl peth arall - ond gyda'r amlycaf o'r pethau newydd roedd crochenwaith wedi'i fasgynhyrchu. Câi crochenwaith ei ddefnyddio yng Nghymru dros gyfnod o bedair mil o flynyddoedd cyn y goresgyniad Rhufeinig, ond ar hyd y blynyddoedd roedd yr hyn a gynhyrchwyd yn gynnyrch diwydiant ar raddfa fechan. Can mlynedd wedi'r goresgyniad Rhufeinig roedd dwsinau o weithdai ym Mhrydain, oedd yn gwerthu eu cynnyrch ar hyd a lled y wlad. Roedd crochenwaith ar gael ym mhobman, ac roedd pawb bron yn ei ddefnyddio. Un o'r grymoedd allweddol oedd yn gyfrifol am y newid hwn oedd y fyddin Rufeinig a'i heconomi. Defnyddiai'r llengoedd grochenwaith i storio a chludo nwyddau, megis bwyd, diod a defnyddiau crai eraill. Defnyddiwyd crochenwaith wrth goginio a gweini bwyd, ac ar gyfer adeiladu, plymio a gwneud toi. Mewn gair, roedd yn anhepgor. Fodd bynnag, roedd y crochenwaith yn rhy drwm i'w gario dros bellter ac felly, wrth gyrraedd ardal newydd, byddai angen i'r llengoedd sicrhau ffynonellau newydd i ddiwallu eu hanghenion. Yn ne Lloegr gallai'r fyddin fanteisio ar ddiwydiannau cynhyrchu crochenwaith datblygedig iawn, gweithdai a fedrai gynyddu eu cynnych er mwyn diwallu anghenion y farchnad newydd hon. Er enghraifft, datblygwyd llestri llathredig du, cynnyrch llwyth y Durotriges yn Dorset, i ddiwallu anghenion y fyddin, a chafwyd hyd i enghreifftiau a fewnforiwyd ar nifer o safleoedd yng Nghymru. Fodd bynnag, nid oedd cludo crochenwaith i Gymru yn gwneud synnwyr economaidd. Yn ddelfrydol, roedd angen i'r fyddin ddod o hyd i gyflenwr lleol - gorchwyl oedd cryn dipyn yn anoddach oherwydd bod crochenwyr a chrochenwaith yn gymharol brin yng Nghymru. Un o'r lleng-gaerau cyntaf yng Nghymru oedd yr un ym Mrynbuga (Sir Fynwy), a sefydlwyd rhwng OC55 a 60 gan yr Ugeinfed Leng, yn ôl pob tebyg. Yma, roedd y garsiwn yn ei gynnal ei hunan drwy gynhyrchu ei grochenwaith ei hunan, a thrwy fewnforio serameg o diriogaethau a orchfygwyd yn Lloegr ac ar y cyfandir. Yng Nghaer, yn OC100, sefydlodd yr Ugeinfed Leng gaer arall. Unwaith eto, diwallodd y lleng y galw am grochenwaith drwy adeiladu rhes o grochendai diwydiannol, sylweddol eu maint, yn Holt (Wrecsam). Ceir odynau milwrol ar safleoedd caerau eraill yng Nghymru hefyd. Er na allai crochenwyr o Gymry wasanaethu'r fyddin Rufeinig i ddechrau, dros y blynyddoedd datblygodd diwydiannau lleol i ddiwallu anghenion y farchnad enfawr hon. Yn ardal Brynbuga dechreuodd crochenwyr gynhyrchu jariau o fath arbennig a elwir yn 'Llestri Llwyd de Cymru'. Yn ogystal, cynhyrchwyd llestri coginio a gweini eraill ond bu'n rhaid i'r rhain gystadlu'n frwd â'r diwydiant cynhyrchu Llestri Llathredig Du yn ne Lloegr. Nid y fyddin yn unig oedd yn elwa ar y diwydiannau newydd hyn. Bellach, roedd marchnad ar gyfer y niferoedd mawr o ddarnau o grochenwaith a gâi eu cynhyrchu yng Nghymru i'w chael ymhlith y boblogaeth sifil a'r brodorion hefyd. Ar safleoedd archaeolegol y cyfnod hwn ledled Cymru, mae presenoldeb crochenwaith Rhufeinig yn nodwedd ddiffiniol. Er y byddai baddonau a filâu wedi aros yn bethau dieithr i nifer fawr o frodorion Prydain, daeth crochenwaith Rhufeinig yn elfen dderbyniol o'r goresgyniad ac yn arf cynnil yn y broses o Rufeineiddio Prydain. Darllen Cefndir A Pocket Guide: Roman Wales gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru a'r Western Mail (2001). Report on the Excavations at Usk 1965-1976: The Roman Pottery, golygwyd gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru (1993).
Crochenwaith Rhufeinig yng Nghaerllion 10 Mai 2007 Crochenwaith Rhufeinig Jar, powlen a chostrel o lestri slipiog coch Caerllion. Mae natur y pridd wedi dinistrio'r rhan fwyaf o'r arwynebau slipiog coch, er bod clytiau sylweddol wedi goroesi ar y gostrel sydd i'w gweld yng nghefn y grŵp hwn. Mae astudiaeth o fath unigryw o grochenwaith a ddaeth i'r amlwg yn bwrw goleuni ar y berthynas rhwng y boblogaeth sifil a'r fyddin Rufeinig yng Nghymru. Roedd crochenwaith yn gynnyrch a fasgynhyrchwyd yn y byd Rhufeinig ac mae'n darparu ffynhonnell gwybodaeth bwysig ar gyfer archaeolegwyr sy'n ymchwilio i hanes y cyfnod hwn. Mae gwahanol ffasiynau o ran ffurfiau a deunyddiau crai crochenwaith Rhufeinig yn caniatáu i archaeolegwyr ail-greu diwydiannau crochenwaith y gorffennol: ble câi'r llestri eu cynhyrchu, y llwybrau masnachol, a chronoleg anterth a thranc y diwydiannau. Roedd Cymru'n gartref i nifer o'r diwydiannau crochenwaith hyn ac mae un ohonynt wedi bod yn destun sylw a thrafodaeth ers diwedd y 1920au. Yn ystod y gwaith cloddio yn amffitheatr Rhufeinig Caerllion y darganfu'r archaeolegydd arloesol Syr Mortimer Wheeler, gasgliad o lestri cain o wneuthuriad da, a oedd, yn ôl pob golwg, yn gysylltiedig â'r garsiwn Rhufeinig. Amffitheatr Rhufeinig Caerllion Cloddiadau Syr Mortimer Wheeler yn amffitheatr Rufeinig Caerllion. Mae'r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o jygiau, powlenni, platiau a biceri ac roedd nifer ohonynt fel pe baent yn efelychu ffurfiau'r crochenwaith metel a Samiaidd oedd yn cael fewnforio o'r cyfandir. Gan mai Caerllion oedd cartref yr Ail Leng Awgwstaidd roedd hi'n rhesymol i dybio bod y potiau yn uniongyrchol gysylltiedig â'r fyddin Rufeinig. Mewn gair, credai Wheeler ei fod wedi darganfod y llestri a ddefnyddiodd y lleng yn ystod yr ail ganrif OC. Yn ystod gwaith cloddio diweddarach cafwyd hyd i'r math yma o grochenwaith ar nifer o wahanol safleoedd Rhufeinig yng nghyffiniau Caerllion ac, wrth i gymaint ohono ddod i'r fei, daeth yn weddol amlwg ei fod wedi cael ei gynhyrchu'n lleol. Ond y cwestiwn oedd, ble? Cymerodd saith deg mlynedd o waith ychwanegol yng Nghaerllion cyn cael ateb i'r cwestiwn hwn. Archaeolegwyr oedd yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad cwrs golff 2.6km (1.6 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer gafodd hyd i'r ateb. Cwrs golff Celtic Manor Yr odyn yn Aber-nant yn ystod gwaith cloddio Cwrs Golff Celtic Manor 1966. Câi'r crochenwaith i'w danio ei bentyrru ar lawr clai llosg dros y pydew yng nghanol y llun. Llun © Peter Webster. O ganlyniad i'w gwaith ym 1996 darganfuwyd odyn a gweddillion sawl adeilad - cytiau sychu, o bosibl. Roedd yr odyn, oedd yn ôl pob tebyg yn un o blith nifer o odynau bach a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r math yma o grochenwaith, gan gynnwys amrywiaeth o botiau toredig Llestri Caerllion. Yn odyn Aber-nant cafwyd tystiolaeth bod y crochenwaith yr oedd Wheeler wedi ei osod mewn un grŵp, o wneuthuriad lleol. Ond roedd un cwestiwn arall heb ei ateb: pwy oedd y crochenwyr? Credai Wheeler mai llengfilwyr oedd y crochenwyr. Fodd bynnag, awgrymai astudiaeth fanwl o'r argraffnodau 'enw' oedd ar y powlenni cymysgu mawr (mortaria) fod y crochenwyr yn anllythrennog - yn wahanol i'r argraffnodau a welwyd ar deils, oedd yn amlwg lythrennog. Os oedd gwneuthurwyr y potiau'n anllythrennog, mae'n debyg mai aelodau o'r boblogaeth sifil oeddynt, ac mae hyn yn gyson â'r ffaith fod y crochenwaith yn cael ei gynhyrchu ar adeg (o flynyddoedd cynnar hyd ganol yr ail ganrif) pan roedd nifer fawr o'r llengfilwyr i ffwrdd yng ngogledd Loegr. Mae'n annhebygol, felly, mai llengfilwyr oedd gwneuthurwyr crochenwaith Caerllion ond, heb os nac oni bai, cynhyrchwyd y crochenwaith ar gyfer llengfilwyr. Mae'n ymddangos yr aeth rhai aelodau mentrus o'r boblogaeth sifil ati i gyflenwi'r farchnad leol â chrochenwaith ar batrwm a oedd yn adnabyddus iddi. Darllen Cefndir Câi rhai darnau o Lestri Caerllion eu cynhyrchu fel copïau o grochenwaith cyfandirol, megis powlenni Samiaidd. Ar y chwith mae powlen Samiaidd ddilys, ac ar y dde y copi llai celfydd ar ffurf Llestr Caerllion. 'Bulmore, Celtic Manor golf course, No. 3' gan B. C. Burnham. Yn Brittania, cyf. 28, tt401-2 (1997). 'The Roman amphitheatre at Caerleon, Monmouthshire' gan T. V. a R. E. M. Wheeler. Yn Archaeologia, cyf. 78, tt111-218 (1928).
Paun paentiedig tref Rufeinig Caer-went 10 Mai 2007 Paun Caer-went. Defnyddiwyd sawl lliw i greu'r paun - gwahanol fathau o las, melyn, gwyrdd a choch. Wrth gloddio caer Rufeinig Caerllion, 10km (6 milltir) o Gaer-went, darganfuwyd amrywiaeth o bigmentau gwreiddiol. Roedd y rhain yn cynnwys coch ac ocr melyn, yn ogystal â phelen o'r lliw glas Eifftaidd prin iawn. Detholiad o'r mwynau naturiol a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid i wneud pigmentau. Mae'r rhain yn dangos pa mor llachar oedd y lliwiau oedd ar gael i beintwyr muriau Rhufeinig. Dengys yr adluniad hwn o'r paun sut y byddai wedi edrych, o bosibl, pan gafodd ei beintio gyntaf. Rhoddir y pigment ar y plastr tra bod hwnnw'n dal i fod yn wlyb, ac yna mae'n glynu wrth y mur wrth iddo sychu. Peintio ffresgo yw'r enw ar y dechneg hon. Mae astudiaeth o furlun brau o Gaer-went wedi dwyn i'r amlwg rai dylanwadau cosmopolitanaidd oedd yn effeithio ar fywydau brodorion Prydain. Daeth y goresgyniad Rhufeinig â rhannau o Gymru i gysylltiad uniongyrchol ag arferion a soffistigedigrwydd Rhufain yr ymerodraeth Rufeinig. I frodorion cyfoethog Prydain, cynigiai'r cysylltiad hwn gyfle i rannu ffordd o fyw'r goresgynwyr, ac i'r crefftwyr roedd yn cynnig cyfle i ennill cwsmeriaid newydd a gwneud mwy o elw. Un grŵp o grefftwyr a elwodd, yn fwy na thebyg, ar y Rhufeineiddio hwn ym Mhrydain oedd yr arlunwyr medrus. Yn y byd Rhufeinig roedd yn gyffredin i'r cyfoethogion gael paneli lliwgar, patrymau blodeuol, neu olygfeydd o fytholeg wedi eu peintio ar furiau ac weithiau ar nenfydau eu hystafelloedd. Ond, cyn y goresgyniad Rhufeinig, nid oedd murluniau o'r math yma i'w cael ym Mhrydain - dyma grefft newydd ac un y manteisiwyd arni ymhen dim o dro. Cafwyd hyd i blastr mur peintiedig ar sawl safle yng Nghymru: ar safleoedd milwrol lle'r oedd adeiladau'r pencadlys a'r baddonau yn fynych wedi'u peintio, ac yn y byd sifil lle câi peintiadau eu defnyddio i addurno adeiladau cyhoeddus, plastai trefol a filâu. Yn nhref Rufeinig Caer-went y mae peth o'n tystiolaeth orau am waith yr arlunwyr murluniau. Un enghraifft sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i archaeolegwyr yw'r paentiad o baun a ddaeth o dŷ a godwyd yng Nghaer-went ddiwedd y drydedd ganrif OC, ac a gloddiwyd yn y 1980au. Mae gweddillion y paun yn ddarniog iawn ond mae digon ohono wedi goroesi i'n galluogi i ail-greu ei olwg wreiddiol. Byddai wedi cael ei beintio ar ffurf ffresgo, hynny yw, pan oedd y plastr yn dal i fod yn wlyb, a'r lliwiau'n ymdreiddio i'r wyneb wrth iddo sychu. Er bod y paun ei hun yn gelfwaith, y pigmentau y lluniwyd y paentiad ohono sy'n rhoi'r rhan fwyaf o'r wybodaeth i ni ynglŷn â'r dylanwadau cosmopolitanaidd ar fywyd Prydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Er enghraifft, lliw gwneud yw'r pigment glas. Fe'i ddatblygwyd yn yr Aifft yn gyntaf ond yna fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal, lle aeth gŵr busnes cefnog ati i'w gynhyrchu yn ystod y ganrif gyntaf OC. Fe'i cynhyrchwyd drwy dwymo cymysgedd o dywod, natron a chopor, ac fe'i gwerthwyd ledled yr ymerodraeth ar ffurf pelenni bach a gâi eu malu gan yr arlunydd yn ôl y galw. Sinabar neu fermiliwm (sylffid mercwrig) yw'r lliw coch llachar yn y llun. Câi ei fwyngloddio yn Sisapo, Sbaen a'i ddosbarthu o Rufain. Roedd masnachu'r lliw mor broffidiol fel y bu'n rhaid i'r llywodraeth sefydlu'r pris er mwyn ei atal rhag codi. Cafwyd hyd iddo ar 20-30 o safleoedd yn unig ym Mhrydain, sydd yn fesur o'i brinder. Ni chafodd pob un o'r pigmentau eu mewnforio o wledydd tramor - yn ôl pob tebyg cafodd rhywfaint o'r ocr coch yn y paun ei fwyngloddio'n lleol, yn Fforest y Ddena o bosibl. Fodd bynnag, mae presenoldeb y pigmentau egsotig yn dynodi llawer iawn mwy na chwaeth artistig yn unig. Byddai'r paun peintiedig yn datgan i bawb a ymwelai â'r tŷ fod ei berchennog yn gyfarwydd â'r moethusion oedd yn rhan annatod o diriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig, ac y gallent fforddio prynu'r fath bethau moethus. Darllen Cefndir Wall-painting in Roman Britain gan N. Davey a R. Ling. Cyhoeddwyd gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Astudiaethau Rhufeinig (1981).