Crochenwaith Ffrengig yng Nghymru'r Oesoedd Canol 4 Mai 2007 Jwg Saintonge o gastell Cydweli, Sir Gaerfyrddin. Llestr wedi'i addurno'n gywrain a ddarganfuwyd yng Nghaerdydd. 23.8cm (9.5 modfedd) o uchder. Jwg y cafwyd hyd iddi mewn ffynnon yng Nghastell-y-Bere, Gwynedd. 20.5cm (8.1 modfedd) o uchder. Mae ffurfiau ac addurn cywrain yn nodweddion arbennig o grochenwaith a fewnforiwyd o dde-orllewin Ffrainc yn dilyn yn ôl byddinoedd Edward I. Diolch i'r gofal a gymerwyd wrth adfer llestri toredig, gallwn fwynhau'r llestri bwrdd hardd hyn heddiw. Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd sawl ardal yn Ffrainc yn allforio crochenwaith i Brydain, yn enwedig gogledd Ffrainc, Normandi a'r Ardennes. Ond daeth y rhan fwyaf o'r crochenwaith Ffrengig y cafwyd hyd iddo yng Nghymru o gyffiniau Saintonge yn ne-orllewin Ffrainc. Gwnaed y llestri o'r ardal hon o glai mân oedd yn addas iawn ar gyfer llunio'r ffurfiau ysgafn a thenau eu muriau, megis y rhai a welir yma. Gan mai dim ond ychydig o haearn oedd yn y clai, roedd yn cynhyrchu llestr ac iddo ffabrig gwyn neu lwydfelyn wedi iddo gael ei danio. Dechreuwyd allforio'r crochenwaith o ardal Saintonge i Brydain yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg, masnach a barhaodd am ryw bum can mlynedd. Ar ddechrau'r cyfnod hwn, y Saeson oedd yn llywodraethu Wasgwyn, yr ardal gyfagos, a chafodd llawer o'r llestri y cafwyd hyd iddynt yng Nghymru eu hallforio i Brydain drwy borthladdoedd La Rochelle a Bordeaux, yn ôl pob tebyg. Roedd y llestri yn rhan o lwythi cymysg, er mai gwinoedd o Wasgwyn ac Aquitaine oedd y nwyddau pwysicaf. Cafwyd hyd i'r enghraifft gyntaf a bortreadir yma mewn tomen sbwriel yng nghastell Cydweli (Sir Gaerfyrddin) yn ystod cloddiadau yn y 1930au. Mae'r jwg wedi'i haddurno â motiff sgrôl winwydd nodweddiadol o jygiau Saintonge, ac mae'n debyg y cafodd ei thaflu i ffwrdd ynghyd â nifer o lestri mwy plaen eu gwedd. Yn ôl pob tebyg, fe'i cynhyrchwyd rhwng 1275 a 1320 ac felly mae'n dyddio o'r cyfnod wedi buddugoliaeth Edward I. Dengys y llestr hwn, sydd wedi'i addurno'n gywrain, fedrusrwydd arbennig crochenwyr Saintonge. Mae'n 25cm (9.8 modfedd) o uchder a mewn mannau dim ond 2.4mm (0.1 modfedd) yw trwch ei furiau. Yn ystod y blynyddoedd hyn daeth castell Cydweli, a arferai fod yn eiddo i deulu de Chaworth (teulu a fu'n gyfrifol am wella ei amddiffynfeydd yn sylweddol), i berchnogaeth William de Valence wedyn i Dŷ Lancaster. Aeth y perchnogion mwy diweddar hyn ati i wella ystafelloedd y castell. Mae'n bosibl mai o'r jwg hon yr arllwyswyd gwydraid o win yn y Neuadd Fawr ar gyfer un o'r perchnogion Seisnig hyn, er ei bod yn bosibl y defnyddid jygiau o'r fath yma i ddal dŵr hefyd. Gwyddys am grochenwaith Saintonge a ddaw o safleoedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys enghreifftiau gwych o Gaerdydd a Chastell-y-Bere yng Ngwynedd. At ei gilydd, cafwyd hyd i'r crochenwaith ar safleoedd arfordirol - llefydd a allai fod wedi cael eu rheoli'n rhwyddach gan y Saeson, neu lefydd cymharol hawdd i'w cyrraedd gan fasnachwyr y goresgynwyr - er bod enghreifftiau ohono wedi dod i'r golwg weithiau ar safleoedd ucheldirol anghysbell. Jwg Caerdydd: Cafwyd hyd i'r jwg hon yn ystod gwaith a wnaed yn Stryd Fawr Caerdydd yn 1893. Mae ei haddurn yn cynnwys adar, mygydau ac arfbeisiau ac maent oll yn nodweddion cyffredin ar lestri o grochendai Saintonge. Jwg Castell-y-Bere: Bu Castell-y-Bere ym meddiant y Saeson rhwng 1284 a 1294 yn unig. O ystyried pa mor aml y deuir o hyd i grochenwaith Saintonge mewn cestyll eraill a feddiannwyd gan y Saeson yng Nghymru, mae'r jwg, yn ôl pob tebyg, yn dyddio o'r cyfnod hwn. Er ei bod hi'n bosibl na chafodd y fath botiau eu gwerthfawrogi'n fawr gan eu perchnogion, o'u cymharu â llestri a wnaed o arian, efydd neu bres, maent yn enghreifftiau o grefftwaith arbennig ac yn tystio i'r cysylltiadau a fu rhwng Cymru a'r byd Ewropeaidd ehangach yn ystod yr Oesoedd Canol. Darllen Cefndir 'Kidwelly Castle, Carmarthenshire; including a survey of the polychrome pottery found there and elsewhere in Britain' gan C. Fox a C. A. R. Radford. Yn Archaeologia, cyf. 83, tt93-138 (1933). 'Medieval finds from Castell-y-Bere, Merioneth' gan L. A. S. Butler. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 123, tt78-112 (1974). Medieval pottery and metal-ware in Wales gan J. M. Lewis. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1978).
Pentan haearn Capel Garmon 4 Mai 2007 Pentan haearn Capel Garmon (Conwy). Offeryn addurniadol yw pentan haearn a ddefnyddid i gadw coed yn eu lle ar dân agored. Prif nodwedd yr enghraifft wych hon yw'r pennau a'r myngau a luniwyd fel eu bod yn ymdebygu, ar ryw olwg, i geffyl a tharw. Manylyn yn dangos un o'r pennau ar y pentan haearn. Efallai bod y pen yn cynrychioli creadur chwedlonol y ceid sôn amdano yn hanesion y rhyfelwyr, neu mae'n bosibl mai arwyddlun ydoedd o lwyth neu gymuned ei berchnogion. Llun pelydr-X o un o bennau pentan haearn Capel Garmon. Dengys y llun pelydr-X natur gymhleth gwneuthuriad y pentan haearn. (Cafodd yr ategion llorweddol a fertigol modern eu hychwanegu i sefydlogi'r pen.) Mae gwaith arbrofol wedi dangos faint o amser a'r medr yr oedd ei angen ar grefftwr i gynhyrchu pentan haearn Capel Garmon. Gwaith pen-grefftwr o'r Oes Haearn Geltaidd yw'r pentan haearn hwn o Gapel Garmon sydd wedi'i addurno â phen dau anifail corniog sy'n edrych yn groes i'w gilydd. Darganfuwyd y pentan haearn yn 1852, gan ŵr oedd yn cloddio ffos drwy fawn ar dir fferm Carreg Goedog, Capel Garmon (Conwy). Gorweddai'r pentan ar ei ochr yn ddwfn yn y mawn, rhwng dwy garreg fawr a osodwyd y naill ben iddo. Mae ei gyflwr da a'r ffaith y cafodd ei osod yn ofalus yn y ddaear yn awgrymu mai offrwm oedd i un o dduwiau'r byd Celtaidd paganaidd. Mae hyn yn gydnaws â'r arfer hirsefydlog o osod gwaith metel mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yng Nghymru yn ystod yr Oes Efydd a'r Oes Haearn. Yn un o bâr yn wreiddiol, byddai'r pentan haearn wedi cael ei osod ar bwys aelwyd yng nghanol tŷ crwn o goed neu gerrig. Byddai'r aelwyd yn ganolbwynt naturiol ar gyfer bwyta, gwledda a thrafod a byddai'r pentan wedi bod yn amlwg i bawb ac yn destun eu hedmygedd. Mae lluniau pelydr-X diweddar o'r pentan haearn hwn, ynghyd ag ymdrech gof i greu copi ohono, wedi dangos bod ei wneuthurwr yn grefftwr o fri, a feddai ar y gallu i drin a llunio haearn. Yn ôl un amcangyfrif, mae'n bosibl y byddai wedi cymryd o leiaf dair blynedd a hanner i un person wneud pentan haearn Capel Garmon, gwaith a olygai gasglu'r deunydd crai, mwyndoddi'r mwyn haearn a llunio'r gwrthrych ei hun. Yn ôl pob tebyg, câi'r gwaith o droi mwyn haearn yn fetel ei ystyried yn broses ddewinol gan y Celtiaid, a byddai gofaint wedi ennyn parch mawr am eu galluoedd goruwchnaturiol. Mae dyddio pentan haearn Capel Garmon yn anodd oherwydd ni chafodd y darganfyddiad na manylion y cloddiad eu cofnodi gan archaeolegwyr. Fodd bynnag, ers i bentan haearn Capel Garmon ddod i'r golwg, darganfuwyd enghreifftiau tebyg yn ne-ddwyrain Lloegr, ym meddrodau penaethiaid yr Oes Haearn. Yn ogystal â'r pentanau haearn, yn y claddfeydd hyn cafwyd nwyddau claddu eraill megis amfforâu a fewnforiwyd o ardal Môr y Canoldir, crochenwaith a gynhyrchwyd ar droell crochenydd, a nwyddau personol eraill, ac mae pob un o'r gwrthrychau hyn yn dyddio o'r cyfnod rhwng 50CC ac OC75 - yr Oes Haearn diweddar. Felly, mae'n debyg y cafodd pentan haearn Capel Garmon ei gladdu yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Defnyddid haearn am y tro cyntaf yng Nghymru tua 750CC. O 300CC ymlaen daeth offer, arfau a thlysau haearn yn fwyfwy cyffredin ar safleodd bryngaerau ac aneddiadau, ac mewn celciau. Fodd bynnag, mae maint ac ansawdd pentan haearn Capel Garmon yn ei osod mewn dosbarth ar wahân i'r gwrthrychau hyn. Er gwaethaf holl ddarganfyddiadau'r 150 o flynyddoedd diwethaf, dyma un o'r enghreifftiau pwysicaf o waith haearn addurnol cynnar i ddod i'r golwg ym Mhrydain. Darllen Cefndir Celtic art, reading the messages gan M. Green. Cyhoeddwyd gan Weidenfeld & Nicholson (1996). 'Firedogs in Iron Age Britain and beyond' gan S. Piggott. Yn The European community in later prehistory: studies in honour of C. F. C. Hawkes gan J. Boardman, M. A. Brown a T. G. E. Powell, tt245-70. Cyhoeddwyd gan Routledge & Kegan Paul (1971). 'The Capel Garmon Firedog' gan C. Fox. Yn The Antiquaries Journal, cyf. 19, tt446-8 (1939).
Gweolyn Llan-gors: campwaith canoloesol cynnar 3 Mai 2007 Y cloddiad ar safle Llyn Syfaddan yn 1991. Darganfuwyd y gweolyn yn y gwaddodion siltiog y tu hwnt i'r palisâd derw sydd i'w weld yn y ffos. Lwmp o weolyn wedi'i ruddo y cafwyd hyd iddo'n gorwedd ar ddarn o bren. Rhan o'r addurn sydd wedi'i gadw ar wyneb y gweolyn, yn dangos grŵp o adar o fewn ffrâm o winwydd. Yn anffodus, nid oes dim o liw gwreiddiol y gweolyn wedi goroesi, sy'n golygu ei bod hi'n anodd iawn gweld y cynllun heb gymorth. Fe'i nodir yma gan y llinellau gwyng. Arwynebedd y darn yw tua 9cm o uchder wrth 7cm o led (3.5 x 2.8 modfedd). Efelychiad digidol o liw ar ffotograff o'r gweolyn gwreiddiol. Ym 1990 ffeindiodd archaeolegwyr oedd yn gweithio ar safle Llyn Syfaddan, ger Aberhonddu, ddarganfyddiad annisgwyl - gweddillion gweolyn, wedi'i addurno'n wych, oedd dros fil o flynyddoedd oed. Ger glan ogleddol Llyn Syfaddan ceir crannog (ynys o wneuthuriad dyn) a fu'n safle brenhinol a adeiladwyd ar gyfer tywysog Brycheiniog yn y 890au - cyfnod cythryblus yn hanes y dywysogaeth. Ar y pryd, roedd nifer o dywysogaethau cyfagos yn bygwth Brycheiniog, ac roedd Llan-gors, yn ôl pob golwg, yn noddfa ddiogel. Fodd bynnag, mae cloddiadau a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru rhwng 1989 a 1993 wedi dangos mai byrhoedlog fu'r noddfa hon oherwydd fe'i dinistriwyd gan dân yn gynnar yn y ddegfed ganrif. Roedd y gwaith ger Llan-gors yn canolbwyntio, i raddau helaeth, ar y gwaddodion siltiog dwrlawn sy'n amgylchynu'r crannog. Yn y fan yma y cafwyd hyd i'r gweolyn, wedi'i ruddo'n wael ac yn frau iawn. O ganlyniad i driniaeth gadwraeth fanwl bu modd gwahanu a glanhau ei haenau niferus, gwaith a ddangosodd bod y lwmp anhrawiadol hwn ymhlith yr enghreifftiau pwysicaf o weolion canoloesol cynnar i'w ddarganfod ym Mhrydain hyd yn hyn. Y defnydd sy'n sylfaen i'r gweolyn yw lliain mân iawn o wehyddiad plaen. Defnyddiwyd edefion sidan a lliain i addurno rhyw ddwy ran o dair o darn o'r gweolyn sydd ar ôl ag adar a chreaduriaid eraill o fewn fframwaith o winwydd, ac mae'r borderi yn cynnwys patrymau ailadroddus neu lewod. Mae safon crefftwaith y gweolyn yn dal i fod yn destun rhyfeddod. Mae i'r lliain 23 edau i'r centimetr - cyflawniad gwych o ystyried yr offer oedd ar gael yn ystod y nawfed a'r ddegfed ganrif OC. Ymddengys fod y gweolyn yn rhan o wisg neu diwnig neu ffrog efallai - mae ganddo hem a dolen ar gyfer gwregys - ond, gwaetha'r modd, nid oes digon wedi goroesi i ddangos ffurf fanwl y dilledyn. Awgryma'r rhannau sydd wedi treulio nad oedd y dilledyn yn newydd pan gafodd ei golli, a gallwn fod yn sicr fod ei berchennog yn wraig neu'n ŵr o gryn statws oherwydd cafodd y sidan a ddefnyddiwyd i'w addurno ei fewnforio i Brydain, ac mae safon y gwniadwaith yn awgrymu y cafodd ei gynhyrchu mewn gweithdy arbenigol. Felly, sut collwyd y gweolyn gwych hwn? Ceir cliw yn y Cronicl Eingl-Sacsonaidd ar gyfer OC916, sy'n cofnodi bod byddin Fersiaidd o Loegr wedi dinistrio safle dan yr enw Brecenanmere (Brecknock-mere = Llyn Syfaddan) yn y flwyddyn honno a chipio gwraig y brenin a 33 o bobl eraill. Ai dyma'r digwyddiad a arweiniodd at losgi Llan-gors a cholli'r gweolyn? Mae'n demtasiwn i gredu hynny. Darllen Cefndir 'A fine quality insular embroidery from Llangors Crannog, near Brecon' gan H. Granger-Taylor a F. Pritchard. Yn Pattern and purpose in insular art gan M. Redknap, S. Youngs, A. Lane a J. Knight, tt91-99. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2001). 'Worn by a Welsh Queen?' gan L. Mumford a M. Redknap. Yn Amgueddfa, cyf. 2, tt52-4 (1999). 'The Llangorse textile; approaches to understanding an early medieval masterpiece' gan L. Mumford, H. Prosser a J. Taylor, mewn C. Gillis and M.-L. B. Nosch (eds), Ancient Textiles: Production, Craft and Society, 158-62. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2007).
Aur 3,000 o flynyddoedd oed o Wrecsam 26 Ebrill 2007 Y celc o arteffactau'r Oes Efydd a ddarganfuwyd gan ddatguddwyr metel ger Wrecsam. Y gyllell efydd, a ddarganfuwyd mewn dau ddarn. Roedd rhiciau niferus ar hyd y llafn sy'n awgrymu, efallai, y cawsai ei defnyddio am beth amser cyn cael ei chladdu. Y fwyell efydd yr oedd ei soced yn cynnwys darnau o ddwy neu ragor o freichledau aur. Darnau o'r breichledau a wnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon. Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo. Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo. Mae'r arteffactau a ddarganfuwyd yn cynnwys cyllell efydd doredig, pen bwyell, a phedwar darn o freichledau aur. Cafodd y gwrthrychau i gyd eu llunio rhwng 1000 a 800CC. Mae'r gyllell o'r math a ddefnyddiwyd ledled de Lloegr ac Iwerddon, ac mae ei ffurf yn efelychu cleddyfau mwy o lawer a gâi eu defnyddio bryd hynny. Fodd bynnag, dyma'r gyllell gyntaf o'i math i gael ei darganfod yng Nghymru. Mae gan y pen bwyell efydd soced ar un pen iddo ac ynddo y gosodwyd coes bren, a thrwy'r ddolen sy'n rhan annatod o'r pen y gwthiwyd lledr neu gordyn er mwyn clymu'r pen yn dynn wrth y goes. Fodd bynnag, mae'n debyg y cafodd y pen bwyell ei gladdu heb y goes am y cafwyd hyd i bedwar darn o freichledau aur yn y soced. Mae'r darganfyddiadau gwerthfawr hyn yn cynnwys dwy derfynell (darnau pen) o fath a gâi ei ddefnyddio'n gyffredin yn Iwerddon, ac fe'u gwnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon. Mae'n debyg bod yr arteffactau hyn yn eiddo i rywun uchel iawn ei barch oherwydd ychydig iawn o bobl yr adeg hon a fyddai wedi gallu cael gafael ar aur Iwerddon ac arfau mor gywrain. Ni chawn wybod i sicrwydd pam y penderfynodd eu perchennog gael gwared arnynt, ond mae'n debyg y cawsant eu claddu fel offrwm i'r duwiau. Mae'r celc yn ychwanegu manylion gwerthfawr at ein gwybodaeth am fywyd yng Nghymru 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar yr adeg hon, roedd arweinwyr yn gwisgo i greu argraff, drwy wisgo breichledau aur ac addurniadau gwallt ac roedd eu hoffer a'u arfau, pryd a gwedd eu ceffyl, a safon unrhyw wleddoedd yr oeddent yn eu trefnu'n adlewyrchu eu statws yn y gymuned. Er bod y rhan fwyaf o drigolion Cymru'n ffermwyr sefydlog neu'n fugeiliaid yn ystod y cyfnod hwn, mae darganfyddiadau fel y celc o Wrecsam yn dangos bod y cymunedau bychain hyn yn rhan o'r rhwydweithiau masnachoedd yn cysylltu Cymru ag Iwerddon, ac yn dynodi bod ein cyndeidiau'n hel meddyliau am fwy na dim ond bwyd, ffermio a byw. Mae'r eitemau hyn yn ffurfio rhan o gasgliadau Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Gleindorch Pen-y-bonc 26 Ebrill 2007 Gleindorch Pen-y-bonc (Ynys Môn). Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Sero-radiograff o leindorch Pen-y-bonc. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (yr Alban). Llun: Helen Jackson ar gyfer Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban. Lwnwla aur o Swydd Kerry, Iwerddon. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Fel y gwyddom, roedd gan y Frenhines Fictoria gryn ddiddordeb mewn gemwaith muchudd (jet), ond mae hanes y defnydd a wnaed o'r garreg led-werthfawr hon yn hwy o lawer, fel y tystia gleindorch 4,000 o flynyddoedd oed o Ynys Môn. Yn 1828 cafwyd hyd i fedd naddedig mewn craig ym Mhen-y-bonc, 3km (1.8 milltir) i'r gorllewin o Gaergybi, ym Môn. Gwaetha'r modd, anghyflawn yw cofnodion y darganfyddiad hwn ond roedd y bedd, yn ôl pob tebyg, tua 4,000 o flynyddoedd oed ac mae ymhlith y cyfoethocaf i ddod i'r amlwg hyd yma ym Môn. Awgryma'r ffaith fod y torwyr beddau wedi mynd i'r drafferth o dorri'r bedd yn y graig mai person pwysig oedd yr ymadawedig. Ar ben hynny, yn ôl y sôn, cafwyd hyd i ddau freichdlws metel a chasgliad o leiniau du, gleiniau gwahanu a botymau yn y bedd. Mae'r Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (dangoswyd yn y llun) yn dangos yr enghraifft hon siâp gleindorch glain gwahanu cyflawn, ac mae'n dangos sut yr addurnwyd rhai o'r enghreifftiau gorau. Gwaetha'r modd, collwyd y breichdlysau a rhai o'r gleiniau, yn ôl pob tebyg, yn fuan wedi'r darganfyddiad ond mae'r darnau sydd wedi goroesi wedi'u cadw bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa Brydeinig. Mae'r darnau hyn yn perthyn i leindorch o leiniau a gleiniau gwahanu ar ffurf cilgant. Fel rheol, ceir hyd i wrthrychau fel y rhain yn gysylltiedig â chladdfeydd merched. Gwnaed y rhan fwyaf o leiniau a gleiniau gwahanu gleindorch Pen-y-bonc o lo cannwyl neu lignit (dau ddeunydd tebyg i lo sydd i'w canfod ledled Cymru). Fodd bynnag, gwnaed un glain ac un o'r botymau sydd wedi goroesi o fuchudd, deunydd sydd i'w gael yn Whitby (gogledd Swydd Efrog), 300km (186 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Fôn. Pren ffosiledig ysgafn a meddal yw muchudd a ymffurfiodd o goed a dyfai 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Jwrasig. Fe'i ceir mewn rhai rhannau o Ewrop yn unig a ddioddefodd amodau daearegol arbennig. Y modd yr ymffurfiodd sy'n ei wneud yn wahanol i ddeunyddiau tebyg, fel lignit. Dim ond rhannau o'r leindorch sydd wedi goroesi. Mae'n bosibl mai'r darnau yma yn unig a gladdwyd gan fod y gleindorchau muchudd a ddarganfyddir o'r Oes Efydd yn aml yn anghyflawn. Ar y llaw arall, efallai y gwnaed rhannau o'r leindorch o ddefnyddiau sydd wedi pydru ers hynny, neu y collwyd rhai darnau pan gafodd y gwrthrych ei gloddio. Roedd cynhyrchu gleindorchau muchudd yn waith medrus. Câi edefynnau niferus y leindorch eu crogi drwy ddefnyddio gleiniau gwahanu y gwthiwyd y llinynnau trwy'r tyllau a duriwyd ynddynt. Mae'n debyg y gwnaed y gwaith manwl hyn drwy ddefnyddio dril bwa a darn o weiar efydd. Yn achos gleindorch Pen-y-bonc, cafodd rhai o'r tyllau eu turio ar eu hyd drwy'r gleiniau gwahanu. Ond er mwyn cynyddu nifer yr edefynnau ar un ochr i'r glain gwahanu, turiwyd tyllau drwy un pen er mwyn ei gwneud hi'n bosibl clymu llinynnau newydd i mewn. Yn wahanol i nifer o emau, mae'n gynnes o'i gyffwrdd ac yn gymharol rwydd i'w weithio; yn ogystal, mae modd caboli muchudd yn loyw lân. Heddiw, mae'n ymdebygu i blastig sgleiniog ond yn ystod yr Oes Efydd mae'n siŵr y byddai arno olwg dieithr ac anarferol. Ar ben hynny, mae gan fuchudd briodoleddau electrostatig anarferol (pan gaiff ei rwbio mae'n atynnu gwallt a deunyddiau ysgafn eraill) a fyddai'n cael ei ystyried yn hudol, o bosibl, yn ystod y cyfnod cynhanesyddol ym Mhrydain. Roedd y darnau o fuchudd yng ngleindorch Pen-y-bonc wedi'u treulio'n arw sy'n awgrymu eu bod yn eitemau a drysorwyd ac a gadwyd am flynyddoedd lawer. Ond roedd llai o ôl traul ar y rhannau hynny o'r leindorch a wnaed o ddeunyddiau lleol, sy'n awgrymu eu bod yn amnewidion mwy diweddar a gafodd eu gosod yn y leindorch er mwyn estyn oes trysor teuluol. Roedd gwrthrychau a wnaed o fuchudd yn boblogaidd ledled Prydain yn ystod yr Oes Efydd Cynnar (2300-1500CC), ond wedi'r cyfnod hwn dirywiodd y defnydd ohono. Mae'n eironig meddwl, tua'r adeg y darganfuwyd gleindorch fuchudd Pen-y-bonc yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diwydiant muchudd Whitby ar drothwy adfywiad, diolch i raddau helaeth i obsesiwn y Frenhines Fictoria â galarwisgoedd du yn dilyn marwolaeth y Tywysog Albert. Lwnwla Aur Mae lwnwlâu aur hefyd yn dyddio o'r Oes Efydd Cynnar ac yn aml caent eu harddurno mewn modd tebyg i leindorchau muchudd. Fodd bynnag, fel rheol ceir hyd i leindorchau muchudd mewn claddfeydd ond ni cheir hyd i lwnwlâu gyda'r meirw. Efallai fod muchudd yn awgrymu marwolaeth a bod aur yn cynrychioli bywyd ym meddyliau pobl 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Darllen Cefndir 'The Welsh 'jet set' in prehistory' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Prehistoric ritual and religion gan Alex Gibson a Derek Simpson, tt148-62. Sutton Publishing (1998). 'Investigating jet and jet-like artefacts from prehistoric Scotland: the National Museums of Scotland project' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Antiquity (2002), cyf. 26, tt812-25.