Fframiau Haearn ac Olwynion Pren - Casgliad Beiciau Amgueddfa Cymru 16 Mai 2007 Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r pwyslais cynyddol ar ffitrwydd a materion gwyrdd wedi cynyddu poblogrwydd y beic. Heddiw mae beiciau ar gael mewn amrywiaeth eang o steiliau a phrisiau, ond roedd y beiciau cyntaf a gynhyrchwyd yn eithriadol o ddrud ac yn anodd eu meistroli. Cynlluniau'r beiciau cyntaf Pâr o Gaerdydd ar feic tandem gyda'r fenyw ar y blaen. Roedd y dyn, a oedd yn diwniwr pianos, yn ddall. Roedd y beiciau High Ordinaries, a alwyd yn ddiweddarach yn Penny Farthings yn arbennig o anghyfforddus, ac roedd rhaid cael coesau hir i gyrraedd y pedalau. Yn yr 1870au ffurfiwyd clybiau gan berchnogion y beiciau newydd hyn. Gwisgai'r aelodau gapiau â bathodynnau'r clybiau arnynt, a siwtiau beicio milwrol yr olwg. Er i fenywod osgoi beiciau ar y cychwyn, daeth nifer i fod yn drisiclwyr brwdfrydig, gan ddewis y beiciau tair olwyn mwy sefydlog, a dillad arbennig a gynlluniwyd i fod yn ddiogel a chyfforddus. Roedd sgertiau pletiog yn caniatau mwy o ryddid i symud, a gwisgai rhai menywod lodrau o dan eu sgertiau. Fynnodd y beic yn yr 1890au. Roedd modelau newydd yn ymddangos bron bob wythnos, ac agorwyd ffatrïoedd beiciau ledled y wlad. Gyda datblygiad y 'beic diogelwch' yn cynnwys cadwyn ac olwynion yr un maint, nid oedd rhaid bod yn ddyn tal ac athletaidd i feicio bellach. Wrth i boblogrwydd beicio dyfu, newidiodd y dillad i fod yn llai rhyfedd, a dechreuodd dynion wisgo'u dillad cyffredin yn lle'r hen siwtiau beicio. Gan y bu rhaid i fenywod ddefnyddio beiciau a gynlluniwyd ar gyfer dynion, a oedd yn anaddas i'w defnyddio tra'n gwisgo sgertiau, annogwyd hwy gan y Rational Dress Society yn ogystal â nifer o glybiau beicio i wisgo math o glosau pen-glinniau a elwir yn rationals. Roedd y rationals yn edrych yn rhyfedd ac yn destun sbort i nifer o'r cyhoedd. O ganlyniad i'r gwawdio hyn roeddent yn amhoblogaidd, ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif nid oedd llawer o fenywod yn eu gwisgo. Gyda dyfodiad masgynhyrchu a gostyngiadau mewn prysiau, manteisiodd y dosbarth gweithiol ar y cyfle i fod yn berchenogion ar eu trafnidiaeth eu hunain. Yn ogystal â disodli'r poni a'r trap fel trafnidiaeth y postmon cef gwlad, roedd y beic yn galluogi heddweision i wasanaethu ardaloedd ehangach. Hefyd gallai siopau eu defnyddio i gludo nwyddau at eu cwsmeriaid yn gyflymach. Arbrofwyd gyda defnyddio beiciau i yrru injans tân hyd yn oed. Dechreuodd haearnwerthwyr a siopau nwyddau amaethyddol werthu beiciau, a datblygodd nifer o'r gofaint lleol arbenigedd wrth eu trwsio. Esblygiad y beic Cafodd yr awydd am gyflymder effaith mawr ar gynllun beiciau. Gan mai'r pedalau oedd yn gyrru olwynion y beiciau cynnar yn uniongyrchol, defnyddio olwynion mwy oedd yr unig ffordd i gynyddu'r cyflymder. Cynhyrchwyd rhai modelau gyda olwynion â diamedr o 62 modfedd, oedd yn pwyso tua 50 pwys. Ceisiwyd cyflymu'r beiciau trwy gynhyrchu rhai ysgafnach, cyn lleied a 22 pwys. Wrth reswm, roeddent yn feiciau peryglus iawn. Rasio beiciau Taniwyd dychymyg y cyhoedd gan rasys dros bellteroedd hir, fel o Lundain i John O'Groats, ac roeddent yn gyfrifol am gynyddu poblogrwydd beicio. Fodd bynnag, wrth i'r cyflymdra gynyddu cafwyd mwy a mwy o ddamweiniau, nes i'r heddlu wahardd rasio ar briffyrdd cyhoeddus. Trefnwyd rasys dros gyrsiau rhwng 50 a 100 milltir o hyd gan y National Cyclists Union. Ni welwyd rasys ffordd, fel y Tour de France, ym Mhrydain tan y 1950au cynnar. Cynhaliwyd y ras Tour of Britain cyntaf, sef y Milk Race yn ddiweddarach, ym 1951. Roedd rasio ar y trac, ar y llaw arall, yn un o'r chwaraeon gwreiddiol yn yr Olympiad cyntaf ym 1896. Cynhaliwyd pencampwriaethau byd rasys trac o 1892 ymlaen, er nad oedd rasys ar gyfer menywod tan 1958. Beiciau yng nghasgliadau'r Amgueddfa Yr enw am y beic cynharaf yng nghasgliadau'r amgueddfa yw'r 'march haearn'. Mae'n dyddio o tua 1865, mae ganddo ffram haearn, olwynion pren a theiars haearn. Mae'n debyg mae dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys 'march haearn' a adeiladwyd o bren yng nghefn gwlad gan grefftwr lleol. Mae'n gopi o'r fersiwn o'r beic a gafodd ei weithgynhyrchu. Yn ogystal a'r meirch pren, mae gan yr amgueddfa feiciau Raleigh o'r 30au, roadsters o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, beic tandem New Hudson o 1938 a threisicl cymdeithasol a gynhyrchwyd yn yr 1880au.
Bardd Cymraeg yn cwympo yn Flanders 25 Ebrill 2007 "Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele". (Simon Jones, 1975). Aeth dros chwarter miliwn o ŵyr o Gymru i ymladd yn rhyfel 1914-1918. Yn eu plith roedd y bardd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd, neu a rhoi iddo ei enw barddol, Hedd Wyn. Galwyd ef i'r rhyfel ym 1917, a'i anfon i ymladd yn Fflandrys. Yno fe'i lladdwyd ym mis Awst 1917 ar Gefnen enbyd Pilckem, ar ddechrau'r cyrch ar Passchendaele. Y Gadair Ddu Chwech wythnos wedi ei farwolaeth dyfarnwyd iddo'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl Yr Arwr, cerdd a gwblhaodd byr amser yn unig cyn ei farw. Yn ystod defod y cadeirio taenwyd gorchudd du dros y Gadair ei hun, a byth ers hynny adwaenir hi fel Y Gadair Ddu. Llygad-dyst Bu Mr Simon B. Jones, Aberangell (ganed 1893), yn gwasanaethu yn yr un gatrawd â Hedd Wyn, a honnai iddo ei weld yn disgyn ar faes y gad. Clywch ei dystiolaeth ef, fel y'i cofnodwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1975: AWC 4763. Recordiwyd: 26.9.1975, gan Robin Gwyndaf. AWC 4764. Recordiwyd: 26.9.1975, gan Robin Gwyndaf. Simon Jones, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. "Mi gweles o'n syrthio. A mi allaf ddeud mae nosecap shell yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. Ôch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de". (Simon Jones, 1975). Cenhedlaeth coll Roedd Hedd Wyn yn un o blith 32,000 o filwyr a laddwyd yn ystod yr ymosodiad ar Gefnen Pilckem. Ni chipiwyd pentref drylliedig Passchendaele hyd Dachwedd 6ed, 98 diwrnod wedi i'r frwydr gychwyn. Talwyd pris uchel am yr ymgripio araf hwn dros brin bum milltir o dir: bu farw 310,000 o luoedd y Cynghreiriaid a 260,000 o Almaenwyr. Erys y Gadair Ddu yn arwydd grymus o effaith ddychrynllyd y Rhyfel Byd Cyntaf ar gymunedau trwy Gymru benbaladr, ac addewid coll cenhedlaeth gyfan o ŵyr ifainc o Gymry.
Baledwyr Crwydrol Cymru 23 Ebrill 2007 Bertie Stephens Bertie Stephens, baledwr o Sir Gâr (1900-1978) Roedd baledwyr crwydrol yn ddiddanwyr pwysig yng Nghymru cyn dyddiau'r neuaddau cerdd a'r sinema. 'Y Baledwr Pen Ffair 'Rwy'n cofio ers dyddiau am hen gymeriadau Yn canu baledi mewn marchnad a ffair, Hwy ganent mor ddoniol, mewn gair mor gartrefol, Nes twyllo o'r bobl eu harian a'u haur...' Dafydd Jones ('Isfoel'), 1881-1968 Y 19eg ganrif oedd oes aur y baledwyr yng Nghymru, pan gafodd digonedd o ganeuon eu cyfansoddi a'u perfformio mewn ffeiriau, marchnadoedd a thafardai. Mae nifer fawr o'r bobl a recordiwyd ar gyfer y cannoedd o dapiau yn archif sain yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn cyfeirio at y baledwyr crwydrol yma. Bertie Stephens oedd un o'r rhain. Cafodd ei eni i deulu fferm yn Abergorlech, Sir Gâr ym 1900. Daeth dan ddylanwad y baledwyr, a recordiodd rhyw 80 o ganeuon difrifol a digri ar gyfer yr Amgueddfa, yn Gymraeg yn bennaf. Clywodd y rhan fwyaf o'r caneuon mewn ffeiriau lleol fel bachgen ifanc. Ond gyda'i gof syfrdanol, byddai'n aml yn cofio'n union pwy ganodd pob cân, a ble. Dechreuodd Bertie Stephens fynd i'r ffeiriau'n bump neu'n chwech oed. Crwydriaid fyddai'n canu'r rhan fwyaf o'r caneuon hyn wrth gasglu arian o'r dyrfa yn eu hetiau. Cafodd eu baledi'r fath argraff ar Bertie ifanc nes iddo eu dysgu nhw ar gof yn y fan a'r lle. Diddanu oedd nod y baledwyr, felly câi'r baledi eu canu mewn iaith syml a phlaen. Roedd y rhan fwyaf yn adrodd stori am achlysur neu brofiad arbennig. Doedd dim papurau newydd dyddio ar gaell, a doedd rhan helaeth o'r genhedlaeth hŷn ddim yn gallu darllen ar droad yr 20fed ganrif ta beth, felly roedd llawer o bobl yn dibynnu ar y baledwyr i glywed y newyddion diweddaraf. Roedd y geiriau'n hollbwysig felly am mai stori ar ffurf cân oedd y cyfansoddiad yn ei hanfod. Daliodd Bertie Stephens ati i ganu yn ei henaint, ac ym 1973, dywedodd: 'Galla'i garantïo i chi nag oes dim awr y dydd yn mynd heibio nag ŵyn canu, dim hanner awr hefyd. Pob dydd.' Hen Feible Annwyl Mam Hen Feibl Annwyl Mam Pan aeth Roy Saer, cyn-guradur yr Amgueddfa, i gyfweld ag ef, roedd Bertie Stephens yn cofio caneuon o'i blentyndod yn glir. Ei ffefrynnau oedd y caneuon crefyddol am ei fod yn teimlo bod mwy o sylwedd iddyn nhw na'r caneuon digri. Gallai caneuon fel Beibl Mam afael mewn perfformiwr, a phwysleisiodd ei bod hi'n hanfodol rhoi'ch cymeriad i gyd i mewn i bob cân. Clywodd ddyn mewn dillad anniben â Beibl dan ei gesail yn canu cân arall am y Beibl, Hen Feibl Mawr y Teulu, ar daith i'r Mwmbwls. Fel un o deulu crefyddol, tristaodd Bertie Stephens o weld y canwr yn defnyddio'r Beibl i godi arian i brynu cwrw. Roedd pobl yn gallu bod yn amheus o'r baledwyr a byddai'r heddlu'n aml yn arestio crwydraid meddw mewn dillad anniben am darfu ar yr heddwch. Dywedodd Bertie Stephens hanes am ei deulu'n rhoi bwyd a lloches i ddau grwydryn un noson, a dysgodd y ddau Gân yr Asyn iddo'n ddiolch. Er mawr siom i dad Bertie, canfu wythnosau wedyn eu bod nhw wedi dwyn peth o'i wlân newydd ei gneifio. Diolch i berfformiad ei fab o Gân yr Asyn, llwyddodd yr heddlu i ddal y dihirod ger Caerfyrddin pan glywsant y ddau'n canu'r un faled yn yr ardal honno. Wrth i'r diwydiant diddanu dyfu ac wrth i bethau fel y sinema a'r neuaddau cerdd ddod yn fwy poblogaidd, collodd y baledwyr eu hapêl, ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif, roedden nhw wedi diflannu bron yn llwyr. Wrth i'r cyngherddau ffurfiol ddod yn boblogaidd, symudodd yr hen faledi dan do, a'u daethon nhw'n lanach ac yn fwy parchus. Yn ffodus ddigon, daeth dirywiad y baledi'r ffair a'r stryd yr un pryd â diddordeb newydd mewn casglu alawon a gwybodaeth am y grefft, a ffurfiwyd Cymdeithas Ganeuon Gwerin Cymru ym 1908. Nid oes unrhyw amheuaeth am werth baledi fel sylwebaeth gymdeithasol bwysig, ac mae ein gwybodaeth am y cyfansoddiadau hanesyddol hyn llawer cyfoethocach diolch i unigolion fel Bertie Stephens. Darllen Cefndir Ballads in Wales / Baledi yng Nghymru gan Mary-Ann Constantine. Cyhoeddwyd gan FLS Books (1999). I Fyd y Faled gan Dafydd Owen. Cyhoeddwyd gan Gwasg Gee, (1986).