Planhigion ac Anifeiliaid

Adeiladu'r casgliad pwysicaf o bryfed Cymru

11 Ebrill 2007

Gyda marwolaeth Joan Morgan ym Mangor ym 1998, daeth bywyd hynod ym maes entomoleg [astudio pryfed] i ben. Yn sgil hyn, daeth casgliad anferth o dros 50,000 o sbesimenau i'r amgueddfa genedlaethol.

Mike Wilson, pennaeth entomoleg yr Amgueddfa yn astudio casgliad Bangor

Mike Wilson, pennaeth entomoleg yr Amgueddfa yn astudio casgliad Bangor

Yn sgil newidiadau ym mhrifysgolion Prydain dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae nifer o gasgliadau dysg wedi eu chwalu neu eu diddymu.

Cafodd rhai o gasgliadau dysg y prifysgolion eu cronni dros gyfnod o flynyddoedd gan unigolion ymroddgar â diddordeb mewn ymchwilio a dysgu.

Gyda marwolaeth Joan Morgan ym Mangor ym 1998, daeth bywyd hynod ym maes entomoleg [astudio pryfed] i ben. Yn sgil hyn, daeth casgliad anferth o dros 50,000 o sbesimenau i'r amgueddfa genedlaethol.

Joan Morgan

Symudodd Joan Morgan i Fangor ym 1953 gan fynd yn ddarlithydd amser llawn yng Ngholeg Prifysgol y ddinas. Bu'n weithwraig maes brwdfrydig am dros 40 mlynedd, gan gasglu miloedd o sbesimenau, o'r gogledd yn arbennig, ar gyfer y brifysgol.

Nid oes modd gor-bwysleisio pwysigrwydd y casgliad. Mae'n darparu tystiolaeth o nifer o sbesimenau o wahanol leoliadau, yn ogystal â deunydd cyfeirio a rhyw 60,000 o gofnodion ar gardiau.

Parhaodd i gynnal y casgliad ar ôl ymddeol. Yn dilyn ei marwolaeth, cytunodd y coleg y dylid trosglwyddo'r casgliad i'r Amgueddfa.

Mae'r casgliad yn cynnwys tua 50,000 o sbesimenau, o Brydain yn bennaf. Mae'n cynnwys pob grŵp o bryfed, yn ogystal â chynrychiolaeth wych o sbesimenau o'r gogledd.

Ar ôl cyfnod cwarantîn mewn rhewgell, llwyddwyd i gyfuno sbesimenau â chasgliadau entomoleg yr Amgueddfa. Drwy hyn bu modd i'r Amgueddfa greu casgliad pryfed Cymreig pwysicaf Prydain. Mae'n adnodd gwerthfawr ar gyfer ymchwil gwyddonwyr ledled y byd.

Gofalu am DNA mewn Casgliadau Gwyddoniaeth Natur

5 Ebrill 2007

Sbesimenau dros gan mlwydd oed wedi'u cadw mewn hylif, a ffynhonnell bosib i astudiaethau DNA.

Sbesimenau dros gan mlwydd oed wedi'u cadw mewn hylif, a ffynhonnell bosib i astudiaethau DNA.

Y Blaidd  Tasmaniaidd, sydd wedi diflannu. <br />Defnyddiwyd DNA a dynnwyd o groen y sbesimenau yn yr Amgueddfa i astudio'r berthynas rhwng y Blaidd Tasmaniaidd ag anifeiliaid bolgodog eraill.

Y Blaidd Tasmaniaidd, sydd wedi diflannu.
Defnyddiwyd DNA a dynnwyd o groen y sbesimenau yn yr Amgueddfa i astudio'r berthynas rhwng y Blaidd Tasmaniaidd ag anifeiliaid bolgodog eraill.

Mae casgliadau pryfed hanesyddol yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer astudiaethau genetig y dyfodol.

Mae casgliadau pryfed hanesyddol yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer astudiaethau genetig y dyfodol.

Mae'r argyfwng cynyddol ym mioamrywiaeth y byd wedi creu gofynion newydd i'r casgliadau biolegol sydd gan ein hamgueddfeydd. Hefyd, mae technegau modern yn ein galluogi i edrych ar ein casgliadau mewn ffyrdd newydd megis dadansoddi DNA (Deoxyribonucleic acid). Mae bellach yn bosib echdynnu a darllen DNA o sbesimenau amgueddfa, ond gall hyn ddibynnu ar y ffordd y maent wedi cael eu storio a'u cadw.

Casgliadau unigryw

Cedwir dros dair miliwn o sbesimenau biolegol yn Amgueddfa Cymru. Wrth i'r pwysau ar ein hamgylchedd naturiol gynyddu, daw'r casgliadau hyn yn adnodd pwysicach o hyd. Mae nifer o'r sbesimenau sy'n cael eu casglu bellach naill ai yn ddiflanedig neu mewn cymaint o berygl fel nad oes modd casglu mwy. Mae nifer o'r sbesimenau hyn yn unigryw ac yn hanfodol wrth ein cynorthwyo i ddeall bioamrywiaeth a newid hinsawdd.

Gall cadw deunydd biolegol fod yn anodd iawn. Mae deunydd biolegol, gan gynnwys DNA, yn dirywio'n gyflym. Mae triniaethau cemegol yn anelu at rwystro'r dirywiad hwn, gan alluogi cadw'r sbesimenau biolegol yn y tymor hir.

Cadwraeth gynnar

Mae cadw sbesimenau amgueddfa yn dyddio yn ôl dros 300 mlynedd. Yn y lle cyntaf sbesimenau sych ac anadweithiol yn unig y gellid eu cadw. Defnyddiwyd alcohol am y tro cyntaf yn yr 17eg Ganrif, cyflwynwyd fformaldehyd (formalin) yn y 19eg Ganrif. Galluogodd y dulliau hyn i ystod eang o sbesimenau gael eu cadw - ond datblygwyd hyn cyn gwybod am DNA.

Gall fod yn anodd iawn cael DNA o sbesimenau a gadwyd gan ddefnyddio formalin. Mae cemegau eraill, megis ethanol (alcohol), yn ddefnyddiol wrth gadw'r sbesimen a'i DNA.

Defnyddio DNA o'r casgliadau

Gellir defnyddio DNA mewn nifer o feysydd astudiaeth, megis gwaith ar esblygiad, adnabod rhywogaethau, ac ecoleg. Mae astudiaethau DNA yn Amgueddfa Cymru yn cynnwys:

  • Ymchwilio i falwod Hunter o Ddwyrain Affrica a defnyddio DNA i astudio sut y maent yn perthyn i'w gilydd.
  • Mae cregyn gleision perlau dŵr croyw mewn perygl yng Nghymru. Mae ymchwilwyr yr Amgueddfa yn defnyddio DNA i edrych ar eneteg y boblogaeth sydd yn parhau er mwyn cynorthwyo eu cadwraeth.
  • Mae Cennau yn agwedd bwysig o fioamrywiaeth, ond yn anodd eu hadnabod. Mae DNA yn cael ei ddefnyddio i helpu i adnabod cennau.

DNA - adnodd bregus

Yn anffodus, gellir difrodi DNA mewn nifer o ffyrdd. Yn dilyn marwolaeth organeb, mae molecylau DNA yn dirywio yn gyflym iawn. Golyga hyn bod cadwraeth gofalus a chyflym y sbesimenau yn angenrheidiol i sicrhau cadwraeth y DNA yn ogystal â'r sbesimen yn gyfan.

Mae'r amgueddfa yn ymchwilio i ddulliau o gadw DNA. Un dull yw storio mewn rhewgelloedd -80°C neu nitrogen hylifol. Mae rhai amgueddfeydd eisoes wedi sefydlu banciau rhew-feinwe, ond mae'r dulliau hyn yn ddrud.

Mae ymchwil parhaus yn ceisio gwella ein dealltwriaeth o effeithiau'r triniaethau hyn, gan ein galluogi i gadw'n sbesimenau DNA yn gyfan ar gyfer y dyfodol

Y Gwyfyn Dillad - Prif bla pryfed yr Amgueddfa

5 Ebrill 2007

Webbing cloths moth  - Tineola bisselliella
Webbing cloths moth

- Tineola bisselliella

Niwed gan wyfynod

Niwed gan wyfynod

Larfaod y Gwyfyn Dillad

Larfaod y Gwyfyn Dillad

Credir mai'r gwyfyn dillad cyffredin - Tineola bisselliella - yw'r prif bla pryfed a geir mewn Amgueddfeydd ledled y byd. Gall ddinistrio symiau anferth o ddefnydd anifeiliaid. Mae Amgueddfa Cymru'n chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu dulliau newydd i reoli'r pla hwn.

Adnabod eich gelyn

Yn y gorffennol, roedd amgueddfeydd yn mygdarthu casgliadau'n gyson gyda llawer o bryfleiddiadau gwenwynig iawn, i roi stop ar yr ymosodiadau. Mae dulliau modern o reoli'n ceisio canfod unrhyw broblemau'n gynnar cyn bod unrhyw ddifrod yn cael ei greu - hanfod rheoli pla'n effeithiol yw adnabod eich gelyn.

Y gwyfyn dillad cyffredin

Pryfyn bach disglair lliw aur tua 6-8mm o hyd yw'r gwyfyn dillad cyffredin, neu'r webbing clothes moth, a welir yn aml yn rhedeg dros ddefnydd heigiannus, neu'n hedfan o amgylch ystafelloedd yn ddiamcan. Unig bwrpas y gwrywod yw cyplysu gyda'r benywod (nad ydynt yn hedfan), cyn iddynt farw.

Yna mae'r benywod yn dodwy wyau bach a wthir rhwng ffibrau a blew. Y larfaod sy'n deor o'r wyau hyn sy'n achosi'r difrod. Maent yn gallu treulio ceratin, sydd mewn ffwr, gwlân, plu, gwallt, ewinedd bysedd ac ati. Gan mai diet braidd yn gyfyngedig yw hyn, mae'n well gan larfaod fwyd sy'n staenedig neu'n fudr, sy'n golygu mai dillad gwlanog budr a ymosodir arnynt fel arfer, yn ogystal ag ymylon carpedi sydd allan o gyrraedd y peiriant glanhau carpedi.

Gwe sidanaidd amddiffynnol

Mae'r larfaod yn amddiffyn eu hunain trwy wau tiwbiau sidanaidd, lle byddant yn byw ac yn bwyta. Y casys sidanaidd hyn sy'n rhoi'r enw webbing clothes moth iddynt. Pan mae'r larfaod wedi gorffen tyfu, maent yn chwilera y tu mewn i'r casys, cyn dod allan ymhen rhai wythnosau, fel gwyfynod.

Nid yw'r oedolion yn bwyta nag yn achosi difrod eu hunain, ond maent yn cyplysu ac yn ailddechrau'r cylchdro bywyd unwaith eto. Ar wlân budr mewn awyrgylch cynnes a llaith, mae'n bosib gweld dwy neu dair cenhedlaeth mewn un flwyddyn. Gyda hinsawdd laith y DU, a'r ffaith bod storfeydd ac orielau amgueddfeydd yn cael eu gwresogi, mae'n hawdd gweld pam fod y gwyfyn dillad yn gymaint o bla. Yr arfer yn yr Amgueddfa oedd ymateb ar ôl dod o hyd i ddifrod. Bellach, y nod yw atal pryfed rhag dod i mewn i'r Amgueddfa yn y lle cyntaf, a'i wneud mor anneniadol a phosibl. Mae gan storfeydd ffenestri a drysau wedi'u selio'n dda, a systemau tymheru hidledig. Gan fod amgueddfeydd yn adeiladau cyhoeddus, mae'n anochel bod rhai gwyfynod yn cael eu cludo i mewn, yn oedolion, larfaod neu'n wyau.

Cenhedlaeth newydd o drapiau pryfed

Mae chwilio am bryfed a difrod a achoswyd ganddynt yn rhan o waith cyson staff cadwraethol, sy'n cynnwys archwilio'n ofalus am arwyddion o ddifrod, a defnyddio trapiau. Mae'r Amgueddfa'n chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad cenhedlaeth newydd o drapiau pryfed, wedi'u cynllunio i ddal rhywogaethau penodol megis y gwyfyn dillad cyffredin.

Mae'r trapiau newydd yma wedi'u seilio ar bŵer rhyw. Mae'r benywod yn cynhyrchu persawr, neu fferomon - a all ddenu gwrywod dros bellter o sawl metr. Mae hyn yn effeithiol iawn ar gyfer gwyfynod mewn gofod cyfyng, megis cypyrddau ac ystafelloedd bach.

Leinir y trapiau â glud a fersiwn synthetig o fferomon y gwyfyn dillad.

Pryfleiddiadau fel dewis olaf

Os llwydda'r gwyfynod i ymosod ar y defnydd, er gwaetha'r rhagofalon hyn, defnyddir pryfleiddiadau fel dewis olaf. Un o brif ddulliau rheoli plâu yn yr Amgueddfa yw gosod y gwrthrych mewn bag plastig a'i osod mewn rhewgell am ddau neu dri diwrnod, sy'n lladd y pryfed, yr wyau a'r larfaod, ond heb ddifrodi'r gwrthrych mewn unrhyw fodd, na gadael gwaddodion gwenwynig.

Trwy gyfuniad o wyliadwriaeth, glanweithdra da ac arbenigedd, mae plâu o bryfed megis y gwyfyn dillad cyffredin yn brin y dyddiau yma, a gellir delio â hwy'n gyflym.

Ewch am dro i'r goedwig heddiw...

5 Ebrill 2007

Hypulus quercinus (Quensel), chwilen saproscylig brin a gasglwyd ym Mharc Ceirw Dinefwr

Hypulus quercinus (Quensel), chwilen saproscylig brin a gasglwyd ym Mharc Ceirw Dinefwr

Mae'r coed hynafol ym mharcdiroedd Prydain yn cynnwys nifer o rywogaethau prin o chwilod sy'n byw ar bren marw a ffwng. Mae arolygon Amgueddfa Cymru o barcdiroedd y wlad wedi datgelu nifer o rywogaethau na wyddys amdanynt ym Mhrydain cyn hynny.

Parcdiroedd a Ffermio Ceirw

Y Normaniaid oedd y ffermwyr ceirw cyntaf ym Mhrydain. Dechreuodd nifer o'r parcdiroedd fel porfeydd coedwig — tiroedd porfa agored â choed derw ar wasgar. Tociwyd y coed (torri'r canghennau yn ôl at y boncyff) er mwyn cynhyrchu tyfiant newydd. Byddai hyn yn ymestyn oes y coed, gan ddarparu egin y gallai anifeiliaid eu bwyta, yn ogystal â darparu cyflenwad digonol o goed.

Y coed hynafol gorau yn Ewrop

Trwy reoli'r parcdiroedd Prydeinig yn y modd hwn, cynhyrchwyd rhai o'r esiamplau gorau o goed hynafol yng ngorllewin Ewrop. Mae modd i goed mawr, gwag a goraeddfed oroesi am gannoedd o flynyddoedd. Mae'r coed hynafol hyn, a nifer o ffurfiau o ffwng a chennau, yn cynnal nifer fawr o anifeiliaid di-asgwrn-cefn prin fel chwilod a chlêr.

Y Goedwig Hynafol

Mae'r bron i 700 o rywogaethau o chwilod Prydeinig, a nifer fawr o anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill, yn dibynnu ar bren a ffwng am eu bodolaeth. Yr enw ar yr anifeiliaid yma yw anifeiliaid saproscylig ac roeddent yn gyffredin cyn i ddyn glirio'r goedwig wreiddiol a fu'n gorchuddio Prydain.

Mae bron i 20 rhywogaeth o chwilod saproscylig o Brydain wedi diflannu yn ystod y 200 mlynedd diwethaf ac mae rhai o'r rhywogaethau ymhlith yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd mewn perygl ofnadwy ac yn brin iawn ym Mhrydain. Dim ond mewn parcdiroedd a phorfeydd coedwig sefydledig lle cadwyd y coed hynafol y mae'r rhywogaethau prin yma'n llwyddo i oroesi.

Arolwg o Barcdiroedd Cymru — y cyntaf o'i fath

Nid oedd parcdiroedd Cymru wedi cael eu harchwilio'n fanwl i geisio canfod pa mor bwysig ydyn nhw ar gyfer goroesiad y pryfed saproscylig nes i Amgueddfa Cymru gynnal arolwg ar ran Cyngor Cefn Gwlad Cymru ym 1996.

Rhywogaethau newydd ym Mhrydain

Darganfuwyd dros 350 rhywogaeth o chwilod a chlêr saposcylig, yn cynnwys rhai rhywogaethau na gofnodwyd yng Nghymru na Phrydain. Cyfoethogwyd casgliad pryfed yr amgueddfa genedlaethol yn fawr drwy ychwanegu'r rhywogaethau newydd hyn. Mae tri o'r safleoedd parcdir Cymreig a astudiwyd ymysg yr 20 safle gorau yn y Deyrnas Unedig yng nghyd-destun yr amrywiaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn saproscylig y maent yn eu cefnogi.