: Amgueddfa Lechi Cymru

Gwirfoddoli: Dewch i Gymryd Rhan drwy gatalogio a glanhau casgliadau yn Amgueddfa Lechi Cymru

Chloe Ward, 2 Medi 2024

'Da ni wrthi'n paratoi ar gyfer y project ailddatblygu yn Amgueddfa Lechi Cymru, sydd ar ddechrau ym mis Tachwedd 2024! Ac eisiau rhoi cyfle i wirfoddolwyr fod yn rhan o'r project drwy helpu ni glanhau, catalogio a phacio'r casgliad o batrymau yn y Llofft Batrwm.

Er mwyn sicrhau bod ein casgliadau diwydiannol pwysig yn cael eu gwarchod tra bod gwaith cadwraeth ac adnewyddu hanfodol yn cael ei wneud i’r Gilfach Ddu, mae’r casgliad yn symud. Wel... rhan ohono! Mae ein Cynorthwywyr Casgliadau a Chatalogio, Mathew ac Osian, eisoes wedi bod yn brysur yn atodi labeli ac yn catalogio eitemau o’r casgliad sydd heb eu cofnodi'n mor fanwl o’r blaen. Byddant yn eu glanhau a'u pacio'n ddiogel gan ddefnyddio papur sidan.

Mae hon yn gyfle gwych i ni fel amgueddfa groesawu gwirfoddolwyr mewn ffyrdd newydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle a rhoi cyfleoedd i bobl leol cael profiadau, datblygu sgiliau a chael gwella eu hiechyd meddwl trwy wirfoddoli.

Swnio'n ddiddorol? Eisiau Cymryd Rhan? Beth am edrych ar ddisgrifiad rôl Gwirfoddolwr Casgliadau sydd ar ein wefan. Bydd modd gwirfoddoli ar ddyddiau Mawrth neu Iau, 10:00-1:00 er gallwn fod yn hyblyg i siwtio trafnidiaeth cyhoeddus. Bydd y project yma'n rhedeg rhwng 24 Medi a 31 Hydref, ond bydd projectau gwahanol gyda'r casgliadau yn cychwyn yn y flwyddyn newydd. Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â Chloe Ward, ein Cydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu ar chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk.

Gwirfoddoli yn yr Amgueddfa Llechi

Chloe Ward, Cydlynydd Gwirfoddoli, 4 Awst 2023

Beth yw'r cyfleoedd gwirfoddoli yn Amgueddfa Lechi Cymru?

Rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar wirfoddoli yn yr Amgueddfa Lechi ers i mi gychwyn fy swydd fel Cydlynydd Gwirfoddoli ym mis Mai 2022. Felly pa fathau o gyfleoedd sy'na i wirfoddoli yma?

Lleoliad Gwaith Gofaint 
Braf oedd cael croesawu Dai draw i’r Amgueddfa ar Leoliad Gwaith Myfyrwyr ym mis Rhagfyr 2022. Roedd Dai ar gwrs coleg Weldio a Ffabrigo ac oedd rhaid iddo gwblhau 20 diwrnod o brofiad gwaith fel rhan o'r cwrs. Cafodd Dai gweithio gyda Liam, ein Gofaint ni, yn yr efail hanesyddol yng ngweithdai’r Gilfach Ddu, lle dysgodd i greu agorwr potel, pocer tân a phâr o efeiliau. Roedd hi’n wych gweld ei hyder a’i sgiliau yn datblygu dros y misoedd bu yma ar leoliad!

Lleoliadau Datblygu Sgiliau  
Cychwynnom Leoliadau Datblygu Sgiliau flwyddyn ddiwethaf yn Llanberis, rhywbeth sydd eisoes yn bodoli yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Un diwrnod yr wythnos o gysgodi’r tîm blaen tŷ ydyn nhw, sy'n cynnig profiad amhrisiadwy i bobl sydd â rhwystrau i waith. Treialwyd y lleoliadau dros Aeaf 2022, ac eleni mae gennym Aaron ar ganol ei leoliad gyda ni. Dywed ei fod yn edrych ymlaen at ddysgu am hanes yr Amgueddfa a chael cyfle i fod yn rhan o dîm. Mae croeso i unrhyw un gysylltu neu holi am fwy o wybodaeth.

Gwirfoddoli Matiau Rhacs 
Os mai crefftio ‘di’ch hoff beth chi, efallai mai helpu ni greu matiau rhacs fyddai’ch rheswm chi dros wirfoddoli. Mae yno griw o oddeutu 3 gwirfoddolwr yn eistedd yn Nhŷ’r Peiriannydd yn wythnosol, yn gweithio ar greu matiau rhacs i’n tai hanesyddol ni! Ers iddynt gychwyn ym mis Mai, maent wedi cael llawer o sgyrsiau difyr gyda’n hymwelwyr ni. Mae llawer o’n hymwelwyr yn adrodd cofion cynnes o wneud matiau rhacs gyda'u neiniau a theidiau blynyddoedd yn ôl. ‘Da ni hefyd wedi bod yn dysgu am enwau difyr o rannau gwahanol o’r Deyrnas Unedig am fatiau rhacs - ‘proddy rugs’, ‘peg rugs’ a llawer mwy!

Beth allwn ni edrych ymlaen ato? 
Mae yno dipyn o bethau ar y gweill gyda gwirfoddoli yn Llanberis… yn yr wythnosau nesaf cadwch olwg am hysbysebion ar gyfer rôl wirfoddoli Llysgennad ar gyfer yr Amgueddfa a rôl wirfoddoli Glanhau Peiriannau. ‘Da ni hefyd am hysbysebu Lleoliad Gwaith Myfyrwyr Treftadaeth ym mis Medi ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am brofiad cyffredinol o’r byd treftadaeth. 

Adnodd Saesneg i ddysgwyr newydd i Amgueddfa Cymru

Loveday Williams, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, 10 Mai 2023

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn gweithio gyda Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, gan gefnogi pobl i integreiddio i’w cymunedau newydd, ers blynyddoedd lawer. 

Fel rhan o’r gwaith hwn, rydyn ni wedi datblygu partneriaethau gyda chyrff allweddol fel Addysg Oedolion Cymru. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf, ochr yn ochr â’u myfyrwyr ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill), i ddatblygu adnoddau newydd i ddysgwyr ESOL er mwyn cefnogi dysgwyr Saesneg i archwilio ein hamgueddfeydd a’n horielau. 

Mae’r adnoddau newydd yn cwmpasu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion. 

Mae’r adnoddau wedi’u creu gan diwtoriaid Saesneg i ddysgwyr ac wedi eu profi gan ddysgwyr ESOL. Maen nhw’n dilyn cwricwlwm ESOL ac yn addas ar gyfer gwahanol lefelau, o Lefel Mynediad i Lefel 2. 

Erbyn hyn mae’r adnoddau newydd wedi’u profi, eu mireinio a’u treialu, ac maen nhw’n barod i’w lawrlwytho o’n gwefan i unrhyw ddysgwr neu grŵp ESOL sy’n ymweld ag un o’r amgueddfeydd (gweler y dolenni uchod). 

Mae gennym set o adnoddau ESOL hefyd ar gyfer Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a gafodd eu datblygu mewn ffordd debyg fel rhan o Broject Creu Hanes a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2014. 

Rydyn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid ac aelodau o’r gymuned i ddarparu cyfleoedd ystyrlon i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau a threftadaeth ddiwylliannol.

Rydyn ni’n dysgu cymaint gan y bobl sy’n ymweld â’n safleoedd ac sy’n derbyn y cyfleoedd dysgu rydyn ni’n eu cynnig. 

Mae helpu pobl sydd newydd gyrraedd Cymru i ymgartrefu ac integreiddio i’w cymunedau newydd yn faes pwysig iawn o’n gwaith a gobeithio y bydd yr adnoddau newydd hyn i ddysgwyr yn gymorth i lawer o bobl ar y daith honno. 

Diolch yn fawr i Addysg Oedolion Cymru a’r tiwtoriaid a dysgwyr Saesneg sydd wedi cyfrannu at greu’r adnoddau newydd hyn i ddysgwyr. 

1 - 4 Fron Haul

Mared McAleavey, 21 Gorffennaf 2020

Mae’n anodd gen i gredu fod 21 mlynedd wedi hedfan heibio ers agor Fron Haul yn Amgueddfa Lechi Cymru. Dyma oedd fy mhrosiect cyntaf yn yr Amgueddfa, ac fel un sy’n hanu o’r ardal, mae gen i atgofion melys iawn o’r cyfnod. Dyma ddarn nes i ysgrifennu ar y pryd er mwyn rhoi ychydig o gyd-destun i’r rhes.

Pam Fron Haul?

Yn wreiddiol wedi eu lleoli ar fin ffordd yn Nhanygrisiau, yng nghysgod y graig; dewiswyd y rhes gan eu bod yn nodweddiadol o’r tai teras a welir ar hyd a lled ardaloedd y chwareli. 

O ran ail-godi a dehongli’r tai hyn, penderfynwyd dilyn esiampl lwyddiannus a phoblogaidd rhes Rhyd-y-car. Ond yn hytrach na chyfyngu’r stori i Danygrisiau’n unig, mae’r tai yn darlunio gwahanol gyfnodau hanesyddol yn ogystal â’r amrywiol ardaloedd chwarelyddol.

‘Oes Aur’

Ceir y cofnod cyntaf o’r tai yng Nghyfrifiad 1861. Erbyn hyn roedd y diwydiant llechi ar ei ffordd i fod yn un o’r diwydiannau pwysicaf yng Nghymru a’r prif gyflogwr yng Ngwynedd. Wrth i’r galw am lechi gynyddu, symudodd llawer o ddynion o ardaloedd amaethyddol cyfagos i weithio yn y chwareli. Mewn amryw o achosion byddai’r chwarelwyr yn aros yr wythnos mewn barics gerllaw'r chwarel ac yn teithio nôl i’w cartrefi i fwrw’r Sul. Ond yn sgil adeiladu tai gerllaw'r chwareli, symudodd amryw o’r teuluoedd er mwyn ymuno â’r penteulu, gan ffurfio cymunedau newydd ac unigryw. Fel y gellir disgwyl, chwarelwyr oedd trigolion cyntaf Fron Haul, yn hanu o blwyfi tu hwnt i Ffestiniog.

Fodd bynnag, nid oedd digon o dai i gartrefu pawb, ac yn aml iawn cydrannai dau deulu’r un tŷ, neu cafwyd perthynas neu gyfaill yn lojio â’r teulu.  Tystia Cyfrifiad 1871 fod saith o bobl yn trigo yn un o dai Fron Haul. Yn ogystal â’r fam a’r tad, cafwyd merch 13 mlwydd oed, dau fab, chwech ac un mlwydd oed, morwyn 27 mlwydd oed a lojwr 29 mlwydd oed. O ystyried mai un ystafell wely oedd yn y tŷ yn wreiddiol, anodd yw amgyffred maint y gorboblogi. Yn ogystal â’r gorlenwi, roedd lleithder yn broblem, y dŵr yn amhur a’r system garthffosiaeth yn gyntefig.  Does ryfedd fod afiechydon megis typhoid a’r diciâu yn fwrn ar y gymdeithas.

Y ‘Streic Fawr’

Er i’r chwarelwr dderbyn cyflog eithaf da am flynyddoedd lawer, doedd dim i’w hamddiffyn rhag colli eu swyddi neu dderbyn cwtogiadau cyflog mewn cyfnod o ddirwasgiad. Cafwyd streiciau a chloi allan yn y chwareli o dro i dro, yr amlycaf wrth reswm oedd ‘Streic Fawr’ y Penrhyn. Dyma’r anghydfod mwyaf hynod a hir hoedl yn hanes diwydiannol Prydain - y ‘Streic Fawr’ fel y’i gelwir yn aml, ac a fu ymestyn o Dachwedd 1900 hyd Tachwedd 1903.

Tasg anodd fu adlewyrchu’r tlodi a’r caledi wrth ddodrefnu tŷ streic, yn arbennig gan fod llygaid yr ymwelydd yn cael ei dynnu’n syth ar y dresel derw â’i llestri gleision a’r jygiau lustre; y trugareddau uwch y silff ben tân a’r lluniau ar y pared. Bydd yr ymwelydd craff yn sylwi ar y cerdyn printiedig â'r geiriau 'Nid oes Bradwr yn y tŷ hwn' yn ffenestr y tŷ.  Gosodwyd y rhain yn ffenestri'r streicwyr gan rannu'r gymuned yn ddwy garfan. Mae cragen glan-y-môr ar y silff ffenestr - arferai gwragedd a phlant y streicwyr weiddi a hwtian ar y ‘Bradwyr’, drwy chwythu drwy gregyn glan-y-môr. Roedd y cregyn hyn i'w clywed trwy'r ardal pan ddôi'r amser i'r 'Bradwyr' ddychwel yn ôl o'r chwarel. Yn ystafell wely’r rhieni gwelir fod tad y tŷ’n hel ei baciau a cheisio ei lwc yn Y Tymbl, sir Gaerfyrddin. Amcangyfrif fod rhwng 1,400 a 1,600 o chwarelwyr Dyffryn Ogwen wedi ymfudo i lofeydd de Cymru yn ystod y Streic Fawr er mwyn cynnal eu teuluoedd.

Diwedd Cyfnod

Methodd y Streic yn ei hamcan, ac fe ddadfeiliodd y diwydiant yn fuan wedi hyn. Bu cau chwarel mor ddylanwadol â’r Penrhyn am dair blynedd lwgu’r farchnad o’u cyflenwad llechi, a bu’r masnachwyr droi eu golygon tuag at farchnadoedd tramor am eu deunydd toi. Dechreuodd y chwareli gau o un i un ar droad y ganrif, a daeth y broses i’w lawn dwf rhwng 1969 a 1971 pan orffennwyd gweithio chwareli Dinorwig, Dorothea ac Oakeley, tair o’r cewri cynt.

Mewn llai na chanrif felly, bu’r diwydiant llechi ddatblygu, llwyddo, yna edwino ac mae Fron Haul wedi cael eu dodrefnu i adlewyrchu’r newid hyn.

Tai Fron Haul – Darlunio Hanes

Lleucu, 21 Mehefin 2020

Mae Lleucu Gwenllian yn artist llawrydd o Ffestiniog – cafodd ei chomisiynu i greu cyfres o ddarluniau i gofnodi penblwydd 21ain tai Fron Haul yn yr Amgueddfa Lechi. Dyma ychydig o eiriau ganddi’n disgrifio’r broses a’r profiad. Gallwch weld mwy o waith Lleucu ar ei chyfrif instagram @lleucu_illustration.

Ar ddechrau mis Gorffennaf mi ges i'r pleser o weithio efo criw yr Amgueddfa Lechi i greu darluniau o dai Fron Haul, i ddathlu 21 mlynedd wedi symud y tai o Danygrisiau, ger Blaenau Ffestiniog, i'r amgueddfa yn Llanberis.

Fy hoff ran o unrhyw brosiect darlunio ydi'r cyfle i ymchwilio a dysgu mwy am destun y darlun - roedd y prosiect yma yn benodol o agos at fy nghalon, gan mai o fro Ffestiniog y daeth y tai. Dwi 'chydig bach yn embarassed i gyfadda’ nad oeddwn i'n gwybod rhyw lawer am hanes tai Fron Haul cyn y prosiect yma, gan mai dim ond un oed oeddwn i pan y cafodd y tai eu symud. Doedd y twll gwag ger y safle bws yn Nhanygrisiau heb fy nharo fel dim mwy na rhan annatod o'r pentre.

Fel rhan o'r ymchwil mi fues i draw i'r safle gwpl o weithiau, a sefyll ar y bont sy'n croesi'r rheilffordd yn edrych i lawr ar lle oedd y tai, yn dychmygu sut fywyd oedd gan y bobl oedd yn arfer byw yno. Mae na rhywbeth od am weld cornel o'ch bro mewn golau hollol newydd.

Un o'r pethau wnaeth neidio allan ata'i oedd y creiriau bach yn y tai yn yr amgueddfa. Roedd 'na rywbeth amdanyn nhw yn dal fy nychymyg, a roeddwn i'n ffeindio fy hun yn dychmygu trigolion y tai yn dewis yr addurniadau, yn tynnu'r llwch oddi arnyn nhw, yn eu trefnu ac ail-drefnu, ac yn y blaen. Roeddwn i'n eu gweld nhw'n debyg i ambell i beth o dai fy neiniau a nheidiau i - roedd y ci bach serameg yn benodol yn fy atoffa o gŵn sydd gan Nain ar ei dresal, a'r hen gloc yn debyg ofnadwy i gloc fy hen daid.

Wrth drafod y prosiect mi ddywedodd Cadi fod rhai o'r creiriau yma - yn benodol y dolis Rwsiaidd a'r cwpannau ŵy 'Gaudy Welsh' - yn tueddu i ddiflannu bob tymor, gan fod ambell i ymwelydd yn cymryd ffansi atynt hefyd. Mae'n siwr fod pawb yn cael eu hudo gan y cipolwg mae nhw'n rhoi i ni o ffordd arall o fyw.

Roedd y gwaith ei hun yn dipyn o sialens - ddim yn unig gan fod y tai eu hunain yn reit wahanol i'r hyn dwi'n arfer ddarlunio, ond hefyd gan fy mod i'n teimlo dyled i fy mro i wneud y gwaith gore y gallwn i. Dwi'n ymwybodol fod gan Blaenau enw drwg weithiau (sy'n anheg, yn fy marn i) ond mae'r fro yn un dlws ofnadwy, a mi oeddwn i eisiau dangos hynny.

Diolch o galon i'r Amgueddfa Lechi am y cyfle yma, ac yn benodol i Lowri, Julie a Cadi.

Mae prosiectau wedi'u harwain gan bobl ifanc ar draws yr amgueddfa yn ran o gynllun Dwylo ar Dreftadaeth, a arianir gan Grant Tynnu'r Llwch Cronfa Treftadaeth y Loteri. Diolch yn fawr i'r Gronfa ac i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol - dan ni'n croesi'n bysedd i chi!