Tu ôl i’r llenni - gwaith glanhau
21 Mehefin 2020
Dychmygwch y gwaith glanhau sydd angen ei wneud pan fo 140,000 o bobl yn croesi rhiniog eich drws ffrynt bob blwyddyn. Dyma’r dasg sydd yn wynebu criw glanhau Amgueddfa Lechi Cymru wrth iddynt ofalu am Fron Haul.
Mae glanhau mewn amgueddfa yn wahanol i lanhau eich cartref. Yn y cartref rydym yn glanhau er mwyn sicrhau fod pethau yn edrych ar eu gorau. Rydym am i bethau edrych yn lân a sgleiniog, a hynny gan ddefnyddio technegau hwylus a chyflym. Mewn amgueddfa rydym wrth gwrs am i bopeth edrych ar eu gorau, ond yn ychwanegol mae amgueddfa yn glanhau er mwyn sicrhau dyfodol hir dymor y creiriau, sef gwaith cadwraeth ataliol.
Gyda cymaint o bobl yn ymweld, ynghyd â natur llychlyd y safle, mae angen glanhau yn ddwys – rhywbeth tebyg i ‘spring clean’ – bedair gwaith y flwyddyn. Mae hyn yn golygu cau bob tŷ yn ei dro, am wythnos gyfan, fel bod modd canolbwyntio ar y gwaith heb unrhyw ymwelwyr yn dod i fewn i’r tŷ. Rydym yn gweithio mewn dull systematig, gan weithio o un ystafell i’r llall yn eu tro. Mae tynnu lluniau cyn cychwyn y gwaith yn bwysig er mwyn sicrhau fod popeth yn mynd yn ôl i’w le unwaith mae’r gwaith wedi ei gwblhau.
Wrth lanhau rhaid bod yn ofalus iawn i beidio gwneud niwed, felly rydym yn defnyddio offer a thechnegau arbennig ar gyfer creiriau penodol.
Lloriau
Ar gyfer lloriau llechi a phren rydym yn defnyddio sugnwr llwch a brwsh. Rydym yn mopio lloriau llechi yn achlysurol gyda dŵr, ond gan beidio defnyddio cemegau modern. Mae’n bwysig osgoi coesau a gwaelod pob dodrefnyn rhag ofn i’r dŵr achosi niwed.
Dodrefn
Mae dodrefn mawr gydag wyneb llyfn, gwastad, yn cael eu glanhau gan ddefnyddio dwster ‘lint free’. Rydym yn defnyddio dwster o’r math yma gan nad oes unrhyw ronynnau ynddo a allai grafu wyneb y dodrefn. Mae dodrefn mwy cain gyda ‘mouldings’ yn cael eu glanhau gan ddefnyddio brwsh canllaw a sugnwr llwch. Rhaid defnyddio techneg ‘glanhau cysgodol’ sef dal y sugnwr llwch yn agos at y brwsh er mwyn sugno’r llwch yn syth o’r aer, ond gan gofio peidio cyffwrdd y crair gyda’r sugnwr. Gallai hyn achosi niwed drwy grafu’r crair.
Creiriau cerameg
Mae creiriau cerameg megis llestri angen ychydig mwy o sylw. Bedair gwaith y flwyddyn rydym yn eu glanhau gan ddefnyddio gwlân cotwm, ffyn cotwm, a mymryn lleiaf o ddŵr gyda hylif glanhau. Ni ddefnyddir Fairy Liquid neu rywbeth cyffelyb, ond hylif glanhau arbenigol, gan rolio’r gwlân cotwm yn ysgafn dros y cerameg.
Brasus a chopr
Efallai mai ‘Brasso’ ydi ffrind gorau sawl un ohonoch, ond dyma elyn pennaf brasys mewn amgueddfa. Cael gwared â baw a llwch ydi glanhau, tra bod polishio yn golygu cael gwared ag afliwiad (tarnish) a chreu arwyneb gloyw. Mae polishio yn golygu defnyddio sgraffinyddion (abrasives), felly bob tro mae rhywun yn polishio gwrthrych mae haenen o’r arwyneb gwreiddiol yn diflannu. Gall polishio cyson arwain yn y pendraw at golli marciau a manylion addurniadol ar grair.
Felly, mewn amgueddfa defnyddio brwsh ‘hogs hair’ a sugnwr llwch ydi’r dechneg i’w defnyddio, ond gellir rhoi ychydig o sglein drwy ddefnyddio clwt polishio arbennigol.
Plastig, fframiau, a llyfrau
Brwsh meddal sydd angen ei ddefnyddio ar gyfer y creiriau yma, sef ‘pony hair brush’. Unwaith eto gan ddefnyddio’r dechneg glanhau cysgodol. Gyda llyfrau rhaid glanhau'r cloriau a thudalennau cyntaf ac olaf y llyfrau - dipyn o waith!
Clociau
Unwaith y flwyddyn mae’r clociau yn mynd ar eu gwyliau i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am gyfnod o orffwys. Tra’u bod yno mae mecanwaith y clociau yn cael gofal arbennig gan gadwraethydd Amgueddfa Cymru.
Tecstilau
Mae’r broses o lanhau a golchi tecstiliau yn gallu bod yn niweidiol iawn. Pob tro mae tecstil megis cyrtens, lliain bwrdd, neu ddilledyn, yn cael ei olchi mae rywfaint o ddirywiad yn digwydd wrth i ffibrau rhydd gael eu golchi i ffwrdd. Er mwyn diogelu tecstilau rhaid ceisio osgoi eu golchi, felly’r gamp yw ceisio lleihau'r llwch ar yr wyneb. Y ffordd orau o lanhau tecstilau ydi drwy ddefnyddio sugnwr llwch. Rydym yn gosod darn o fwslin rhwng y tecstil a’r sugnwr llwch.
Creiriau haearn bwrw a thun
Ffefryn o’r garej neu’r gweithdy sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer glanhau creiriau haearn bwrw a thuniau (megis tuniau pobi bara ), sef olew ‘3 in 1’. Dim ond rhwbio haenen denau fewn i’r crair gyda dwster ‘lint free’, a bydd yn edrych fel newydd.
Gratiau a simdde
Ydi mae’r lle tân, neu’r ‘range’, angen sylw hefyd. A beth well na haenen dda o’r polish ‘black lead’! Defnyddir dau gadach neu glwt, un ar gyfer rhwbio’r polish fewn i’r ‘range’ a’r llall i greu rywfaint o sglein. Rhaid peidio anghofio am y simdde. Unwaith y flwyddyn rhaid glanhau pob simdde. Mae hyn wrth gwrs yn ofynnol ar gyfer diogelwch, ond hefyd mae llawer o bryfetach yn casglu mewn simdde, a fyddai yn gallu niweidio creiriau. Weithiau ceir nythod adar mewn simdde, ac mae’r rhain yn gartref perffaith ar gyfer pryfetach. Mae’r glanhau yn cael ei wneud gan berson lleol, gan ddefnyddio brwsh traddodiadol a sugnwr llwch enfawr.
Ar ddiwedd cyfnod glanhau mae’n bwysig iawn rhoi popeth nol yn y lleoliad gwreiddiol drwy ddefnyddio’r ffotograffau a dynnwyd ar ddechrau’r gwaith fel cyfeirnod.