Cynllun Tŵr y Cloc yng Nghastell Caerdydd
Roedd y comisiwn i ailadeiladu Castell Caerdydd yn gyfle heb ei ail i Burges wireddu ei syniadau. Gyda’i gyfoeth digymar, ei hoffter o deithio a’i frwdfrydedd rhamantaidd am y Canol Oesoedd, Bute oedd noddwr delfrydol. Fel yr esbonia un o ysgolheigion amlycaf Burges, J. Mordaunt Crook; ‘Cardiff was the commission of a lifetime: the chance of creating a dream castle for Maecenas himself.’
Tŵr y Cloc yw elfen amlycaf y castell, ac fe berodd gryn gyffro ar ddadorchuddio’r cynllun yn yr Academi Frenhinol ym 1870. Roedd pob llawr yn fwy gwych na’r un blaenorol, ac yn uchafbwynt orielog Ystafell Ysmygu’r Haf fe welwn yr esiampl orau o bensaernïaeth Burges. I Mordaunt Crook roedd yn nendwr o gastell, nendwr mewn lifrai eclectig blaengar.
Thema eiconograffig y tŵr yw amser. Ysbrydolwyd addurniadau Ystafell Ysmygu’r Haf gan seryddiaeth, ac mae’r ystafell yn dangos trefn a rhaniad amser a’r bydysawd.
Modelwyd y teils ar y rhai a welir o flaen prif allor Abaty Westminster, gan ddangos y pum cyfandir, y ddinas ddwyfol a chylch bywyd adar ac anifeiliaid y ddaear. Ysbrydolwyd cerfiadau’r simdde gan deimladau hwyliog yr haf, yn enwedig cariad. Yno hefyd mae frieze o deils wedi’u paentio yn adrodd chwedl y sidydd ac yn dangos cymeriadau fel Apollo a Cupid, Castor a Pollux, ac Ewropa a’r Tarw.
Ar y waliau mae paentiadau gan Frederick Weekes yn cynrychioli dau ar bymtheg o fetelau, a seryddwyr y gorffennol yn y sbandreli. Yn hongian o ganol y nenfwd mae canhwyllyr heuldlws ar ffurf Apollo. Rhwng asennau’r gromen gwelwn y pedair elfen - tir, aer, tân a dŵr - a chorbelau cerfiedig anferth yn y pedwar cornel yn personoli wyth gwynt chwedlonol Groeg, gan gynnwys Africus, Auster a Zephyrus. Burges ddyluniodd y celfi hefyd wrth gwrs, gan gynnwys yr ystolion Otoman moethus a’r cadeiriau Jacobeaidd gyda’u haddurn Romanésg, sy’n nodweddiadol o’i arddull eclectig, awgrymog.
Yn eu lleoliad ar y pedwar corbel cerfiedig byddai’r fasys yn greiddiol i effaith theatrig yr ystafell. Oddeutu 1870 paentiodd Axel Haig lun dyfrlliw o weledigaeth Burges ar gyfer Ystafell Ysmygu’r Gogledd (yng nghasgliad Amgueddfa Cymru) ac mae’r fasys yn hwnnw yn fwy nodweddiadol a chyffredin eu siâp. Mae’n amlwg, o’u cymharu â’r fasys terfynol, i Burges ddefnyddio cryn ddychymyg a chymryd cryn ofal wrth ddylunio fasys fyddai’n ganolog i’r ystafell.
Roedd yr addurniadau arnynt yn ategu addurn yr ystafell ac yn dod â’r gofod yn fyw. Adlewyrchir y lliwiau – glas, gwyrdd, aur ac ocr – yng ngweddill yr ystafell; yn y defnydd oren a glas ar yr ystolion Otoman a’r arfbeisiau a welir ar waelod yr oriel. Roedd cariad yn thema wrth galon Burges ac mae’r paracitiaid – adar cariad – ar y fasys yn adlais o’r adar a gerfiwyd ac a baentiwyd yn nwylo Amor, ar lwfer y simdde ac mewn paent yn y tariannau o dan yr oriel.
Mae cynllun ac addurn y fasys yn gyfuniad dychmygus o ffynonellau amrywiol – o bensaernïaeth ganoloesol a llawysgrifau goleuedig, i grochenwaith maiolica’r Dadeni, crochenwaith Delft yr Iseldiroedd a phorslen Tsieina. Roedd y cyfan yn rhan o’r gêm o gyfeiriadaeth ysgolhaig y byddai Burges yn mwynhau ei chwarae â Marcwis Bute.
Gwelir darluniau o fasys tebyg yn llyfr braslunio Burges (yng nghasgliad Athrofa Frenhinol Penseiri Prydain), gyda nodyn gerllaw un yn dweud ‘this is a pot of glass / in which you put flowers’. Mae’n debyg ei fod wedi’i ysbrydoli gan ysgeintiwr dŵr gwydr oedd yn gyffredin yng Nghatalonia rhwng 1550 a 1650. Ffynhonnell arall o ysbrydoliaeth oedd y fasys blodau cerameg aml-yddfog a gynhyrchwyd yn Iran yn y 12fed ganrif ac yn ystod llinach Safavid (1500-1722). Y dylanwad cryfaf oll yw fasys porslen Tsieineaidd o ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif, a gellir gweld esiamplau prin mewn ffotograffau o ystafelloedd Burges yn 15 Buckingham Street, Llundain yn y 1870au.