Ogofau Cefn-yr-Ogof: Creaduriaid rhyfedd a dynion cyntaf Cymru Elizabeth Walker, 7 Mawrth 2013 Ymchwil Ogof Pontnewydd Danedd o ogof Pontnewydd Ogof Pontnewydd Cefn-yr-Ogof edrych allan Mae'r ogofau yn Cefn, ger Llanelwy, wedi bod yn destun cryn sylw dros y blynyddoedd. Ymwelodd nifer o enwau mawr â'r ogofau i weld yr esgyrn anifeiliaid a chartref y Neanderthaliaid cynnar, gan gynnwys Charles Darwin ym 1831. Mae'r ogofau ym mhlwyf Cefn Meiriadog, Sir Ddinbych wedi bod yn leoliad o ddiddordeb i wyddonwyr, artistiaid, beirdd a henaduriaid ers blynyddoedd. Arferai'r ffordd rhwng Dinbych ac Abergele basio drwy'r bwa carreg ger Afon Elwy a byddai nifer yn aros yno i edmygu prydferthwch yr olygfa. Ysgrifennodd yr hynafiaethwr John Leland am Cefn yn y 1530au: 'On the farther ripe of Elwy a 3. or 4. miles above S. Asaphes is a stony rok caullid Kereg the tylluaine, i.e. the rok with hole stones, wher a great cave is, having divers romes in it hewid out of the mayne rok.' Roedd yr awduron Thomas Pennant, Richard Fenton ac Edward Pugh hefyd ymhlith yr ymwelwyr ag Ogofau Cefn cyn 1830. Esgyrn yn y mwd Ymwelodd Charles Darwin â Cefn yn Awst 1831 yn ystod ei daith ddaearegol gyda'r Athro Adam Sedgwick. Disgrifiodd Darwin y galchfaen yn Cefn ac yn ei lyfr nodiadau mae'n nodi bod Sedgwick wedi gweld esgyrn rhinoseros ym mwd yr ogof; mae nodiadau Sedgwick yn dangos i ddant rhinoseros gael ei ddarganfod. Yn anffodus, wnaeth yr un o'r ddau ymhelaethu ar bwysigrwydd palaeontolegol y darganfyddiad. Ym mha ogof oedd Darwin? Mwy na thebyg taw Ogof Cefn oedd hi, gan fod cofnod o ymweliad y Parchedig Edward Stanley y flwyddyn ganlynol yn nodi bod gwaith tirlunio wedi gadael 'esgyrn yn y mwd i'w cymryd' a bod llawer o esgyrn wedi'u lledu fel gwrtaith ar y tir islaw. Cofnododd Stanley iddo weld dant rhinoseros yng nghasgliad perchennog y tir – ai dyma ddant Sedgwick a Darwin? Fyddwn ni byth yn gwybod i sicrwydd. Yr Hipo, y Rhino a'r Eliffant Disgrifiodd Stanley y gwaith tirlunio ar Cefn a'r llwybrau cerdded a adeiladwyd yn y dyffryn, lle bu'n rhaid gwaredu rhannau o graig Cefn-yr-Ogof oedd yn ymwthio. Crëwyd cyfres o risiau graddol o waelod y dyffryn drwy Ogof Cefn. Symudwyd cyfaint anferth o rwbel o'r ogof er mwyn creu un llwybr yn cysylltu'r ddwy fynedfa. Dyma Stanley yn cloddio yn Ogof Cefn ym 1832 gan ddarganfod esgyrn eliffant ag ysgithrau syth, rhinoseros a hipopotamws o'r oes ryngrewlifol ddiwethaf (tua 125,000 o flynyddoedd oed), a gwaddodion oedd o ddiddordeb i nifer o ddaearegwyr a gwyddonwyr eraill a ymwelodd â'r ogofau. Yng nghymdeithas ddysgedig y cyfnod, roedd y ddadl am hyd oes dyn ar y ddaear a'u perthynas ag anifeiliaid diflanedig ar ei hanterth. Felly pan ymddangosodd erthygl ym mhapur newydd The Times, ar 20 Hydref 1870 yn honni bod amffibiad rhyfedd yn byw yn Ogof Cefn, fe achosodd gryn ddiddordeb. Dyma'r erthygl yn galw ar naturiaethwyr i ymchwilio i oroesiad creadur hynafol yng Ngogledd Cymru. Mae erthygl yn The Flintshire Observer ar 4 Tachwedd 1870 yn sôn am fadfall fyw, pedair troedfedd saith modfedd o hyd, tebyg iawn i grocodeil yn cropian o ddyfnderoedd Ogof Cefn. Yn ôl y sôn, Cymro dewr a welodd yr anifail, Mr Thomas Hughes, ysgubwr simneiau o'r Rhyl. O ailadrodd yr hanes, mae'n annhebygol bod y crocodeil wedi cyrraedd Cefn o gwbl – mae'n debyg taw un o atyniadau sioe anifeiliaid a fu farw ar ymweliad â'r Rhyl oedd e. Wedi clywed yr hanes, dyma Mr Hughes yn dyfeisio'r stori am ei ddal yn yr ogof, ac wedi ei brynu, dyma ei arddangos fel madfall hynod Cefn. Ogof Pontnewydd Ym 1872 ymwelodd yr Athro Syr William Boyd Dawkins â Cefn a chloddio yn Ogof Pontnewydd Cave . Pan ddarganfu Stanley yr ogof ar ochr y dyffryn ychydig i'r gogledd-orllewin o Ogof Cefn, nododd ei bod yn hollol ddigyffwrdd. Wnaeth Stanley ddim cloddio yno, ond credir bod y gweinidog lleol y Parchedig Thomas, Mrs Williams Wynn (perchennog y tir), a Boyd Dawkins wedi cloddio yno. Ym 1874 cloddiodd Thomas McKenny Hughes yn helaeth yn yr ogof gan ddarganfod asgwrn dynol hynod o fawr ynghyd ag offer carreg ac esgyrn anifeiliaid. Prin oedd y diddordeb yn Ogofau Cefn wedi hyn tan y 1940au pan trowyd Ogof Pontnewydd yn storfa ffrwydron tir a ffrwydron tanddwr, gan adeiladu'r wal galchfaen, y drysau dur a siambr y gard gyda'i stôf golosg i gadw'r gwyliwr yn gynnes. Byddai pobl yn parhau i ymweld â Cefn, gan dreulio penwythnosau a Gwyliau'r Banc yn archwilio'r ogofau. Ym 1978 dechreuodd Amgueddfa Cymru broject ymchwil i ymchwilio i ogofau Cefn gan ddechrau drwy gloddio yn Ogof Pontnewydd cyn symud i Cefn yn ddiweddarach. Mae Pontnewydd wedi dod yn safle o bwys rhyngwladol yn cynnwys gweddillion math esblygol cynnar o Neanderthal oedd yn defnyddio'r ogof tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Heddiw mae'r ogofau ar dir preifat Plas-yn-Cefn a does dim mynediad i ymwelwyr.
Bron ar Ben! Catalena Angele, 7 Mawrth 2013 Helo blantos y bylbiau,Cofiwch bod angen i chi anfon pob adroddiad tywydd a chofnod blodau ata i erbyn ddydd Gwener 29 Mawrth. Dim ond tair wythnos sydd ar ôl i chi anfon eich data!Peidiwch poeni os nad yw’r planhigion wedi blodeuo eto, mae tair wythnos yn amser hir. Mae canlyniadau’r blynyddoedd diwethaf yn awgrymu bydd y rhan fwyaf o’r blodau wedi agor erbyn diwedd Mawrth.Bydd pob disgybl yn yr ysgolion fydd yn anfon eu cofnodion yn derbyn Tystysgrif Gwyddonydd Gwych fel yr un yn y llun! Ond bydd pawb yn derbyn gwobr arbennig arall eleni – pensel Gwyddonydd Gwych i gofnodi canlyniadau eich arbrofion, felly cofiwch anfon eich cofnodion!Ble wnaeth y planhigion flodeuo’r wythnos hon?Dangosodd blog yr wythnos diwethaf taw Ysgol Nant Y Coed oedd y cyntaf yng Nghymru i gofnodi bod eu blodau wedi agor, a’r wythnos hon mae mwy o blant yr ysgol wedi anfon cofnodion blodeuo! Mae blodau Ysgol Nant Y Coed yn tyfu’n dda iawn. Ys gwn i os welodd Llandudno lawer mwy o haul na gweddill Cymru?Mae Greyfriars RC Primary School yn St Andrews, yr Alban wedi cofnodi hefyd bod y crocysau yn blodeuo ac mae Ysgol Iau Aberdaugleddau yn Sir Benfro wedi cofnodi bod crocysau a chennin Pedr wedi blodeuo! Da iawn i’r ddwyn ysgol.Pan fydd y cennin Pedr yn blodeuo, cofiwch fynd ati i dynnu llun! Gallwch chi anfon eich lluniau ata i a chymryd rhan yn yGystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr. Bydda i’n chwilio am ddarluniau prydferth, ond mae’n rhaid labelu darnau’r blodyn yn glir hefyd. Gallwch chi weld esiamplau gwych o enillwyr y blynyddoedd diwethaf yma.Eich cwestiynau, fy atebion:Rhydypenau Primary School: We had rain over the weekend, that is why our gauge was full. Prof P: Thank you for the explanation Rhydypenau, that's really helpful!Ysgol Nant Y Coed: Some of the crocus bulbs have flowered so we're sending that information now too. Prof P: Fantastic news! Thanks for your flowering records.SS Philip and James Primary School: We really enjoyed doing it and remembered to do it every day, we hope that we can do it again soon. Phil+Jim bulb team aka Isaac and William. Prof P: I am so pleased that you are enjoying it so much – I love recording the weather too!Henllys CIW Primary: still no flowers. Prof P: It's exciting to see your flowers open, but your report that they have not opened is very valuable scientific information too! It could tell us a lot about how cold it has been this winter or how much sunshine we have had.St Joseph's Primary School (Penarth): We have noticed that our plants continue to grow but we are keeping a very close eye on them to see which one will flower first - we can't wait! Prof P: I feel the same every morning when I look at my plants too.Greyfriars RC Primary School: 11 daffodils are in bud. A's crocus is the only one growing but all the other daffodils but A's, why is A's daffodil not growing? Prof P: This is a very good question! I’m sorry that your daffodil is not growing A, you haven’t done anything wrong! I am glad your crocus is growing instead. Sadly we do have a small number of bulbs every year that do not grow, it happened to some of mine last year. The reason it happens is unclear. When a daffodil doesn't make a flower gardeners say that the plant has gone 'blind' - as it has no flower head.Ysgol Porth Y Felin: we had our holidays on the 11 - 15 week so we'll skip a week. everythings ok there hasn't been much rain and the temperature has been a little high! from porth y felin. Prof P: Many thanks!Kilmaron Special School: The school was on holiday on Thursday and Friday. On Wednesday we had very heavy snow and although the rain gauge only had 3mm in it there was almost 6cm of snow by 2pm. The gauge is in quite a sheltered place as we had problems with a pupil seeking it out and emptying it. Prof P: Good idea to move your rain gauge to keep it safe.Glyncollen Primary School: We hope our flowers open this week as well. Prof P: Fingers crossed!Kilmaron Special School: Still no signs of our crocus bulbs although the ones planted years ago in our other raised beds are blooming and the ones in the grass next to our raised bed are almost out. Prof P: Keep watching them Kilmaron!Diolch yn fawrAthro’r Ardd
Cofnodion blodau 1af yr Alban a Chymru! Catalena Angele, 5 Mawrth 2013 Llongyfarchiadau i Tulliallan Primary School am anfon cofnodion blodau Bylbiau’r Gwanwyn cyntaf y flwyddyn! Dim ond un diwrnod oedd rhwng dyddiadau blodeuo’r crocysau a’r cennin Pedr, gyda’r crocysau yn blodeuo ar 17 Ionawr a’r cennin Pedr cyntaf yn blodeuo ar 18 Ionawr.Gan fod yr Alban ymhellach i’r Gogledd na Chymru a Lloegr byddan nhw fel arfer yn cael gaeafau oerach a mwy o eira. Mae hyn yn golygu y bydd planhigion fel arfer yn blodeuo’n hwyrach. Llynedd agorodd y blodau yn gynt yng Nghymru a Lloegr, felly mae’n dipyn o syndod bod y blodau cyntaf eleni wedi ymddangos yn yr Alban! Dyma un o’r pethau gwych am fod yn wyddonydd – gall canlyniadau arbrofion yn aml ein synnu ni!Yr ail ysgol i anfon eu cofnodion blodau ata i oedd Ysgol Nant Y Coed yn Llandudno. Agorodd crocysau tri o’r plant ar yr un diwrnod, 1 Mawrth. Dyma’r cofnodion cyntaf yng Nghymru, a hynny ar Ddydd G?yl Dewi! Da iawn Ysgol Nant Y Coed!Ys gwn i ble fydd y blodau nesaf yn agor?Pan fydd eich blodau chi’n agor, cofiwch anfon eich data ata i. Gallwch chi weld ar y map ble mae’r blodau wedi agor yn barod.CYNGOR CRAFF Gall pob disgybl yn y dosbarth anfon eu cofnodion blodau. Mae’r holl ddata fyddwn ni’n ei dderbyn yn cael ei ddefnyddio i ganfod dyddiad blodeuo cyfartalog pob ysgol. Gwyliwch y siart crocysau a’r siart cennin Pedr i weld y tablau yn newid wrth i fwy o ddata gyrraedd. Mae’n bwysig ofnadwy bod pob disgybl yn anfon eu cofnodion, fel bod y wefan yn gallu cyfrifo dyddiad blodeuo cyfartalog yr ysgol. Bydd y cennin Pedr yn troi ei ben i lawr ychydig cyn blodeuo. Fydd y blodyn ddim wedyn yn llenwi â d?r ar ôl agor. Byddwn i wrth fy modd yn gweld lluniau o’ch blodau chi hefyd. Gofynnwch i’ch athro e-bostio unrhyw ffotograffau ata i!Dyw fy mhlanhigion i yma yng Nghaerdydd heb flodeuo eto. Mae’r blagur ar un o’r crocysau yn dechrau troi’n borffor, felly efallai eu bod nhw ar y ffordd. Mae blagur ar y cennin Pedr hefyd ond mae nhw dal yn wyrdd.Eich cwestiynau, fy atebion:St Nicholas Primary School rain gauge stolen. Prof P: Sorry to hear that St Nicholas Primary. I have put a new one into the post for you, I hope it arrives soon.Ysgol Y Ffridd Glawiad Dydd Llun yn llawn ers y gwyliau. Athro'r Ardd: Mae'n rhaid ei bod hi wedi bwrw hen wragedd a ffyn yn yr ysgol dros y gwyliau! Diolch am roi gwybod i fi.Milford Haven Junior School Temp in playground was much colder because of the wind chill factor. Prof P: Brrrr! I hope you were all wrapped up warm when you went outside to play.Ysgol Porth Y Felin to pp we have a problem with one of the plants. It has creamy browny little things in the pot that look like mini shell pastas. We don't know what they are. ysgol porth y felin. Prof P: Gosh, they sound curious. I wonder if they could be the brownish leaves that protect the plant just before the shoots start to grow? Maybe you could take a photo and ask your teacher to send it to me? I might know what they are if I saw them!Ysgol Nant Y Coed We have buds on the crocus and daffodils now but none of them have opened yet. The mystery bulb has grown the biggest! Prof P: That’s great news! Keep an eye on them and let me know as soon as they open.Darran Park Primary Mystery plant has grown quite well the rest of the bulbs are slowly growing. Prof P: Thanks for your plant update Darran Park Primary.Glyncollen Primary School Many thanks for our new rain gauge. You also sent us a new thermometer but on a slip of paper in the box it said St. Mary's. We were wondering if it was meant for us or should we send it back to you? Can you please let us know. The leaves on our flowers are growing well. Bye for now - Yr.4 Prof P: Oops! I sent out two rain gauges on the same day and things must have got mixed up. Sorry Glyncollen. I have emailed your teacher about the thermometer – thanks for letting me know about the mix up.Greyfriars RC Primary School Dear Professor Plant, we are a bit confused because only one crocus is flowering and only one daffodil is flowering. Prof P: Congratulations Greyfriars School! You are now the second Scottish School to have flowers! You now need to enter you flower data on to the website to make it OFFICIAL! Remember: You can enter flower data as soon the very first flower opens. You record the date it opened and the height of the tallest part of your plant. Then as each new flower opens you can enter its data on the website too – you don’t have to wait until they are all open. Plants grow at different rates – some grow quickly, some take longer to grow - just like children! I am sure your other flowers will 'catch up' soon.Diolch yn fawrAthro’r Ardd
Wythnos Hinsawdd 4-10 Mawrth 2013 Catalena Angele, 26 Chwefror 2013 Helo blantos y bylbiau!Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Hinsawdd wythnos nesaf – amser da i feddwl am newid hinsawdd, sut mae’n effeithio arnon ni a sut allwn ni ofalu am y blaned.Ers 150 mlynedd mae gwyddonwyr ym mhob rhan o’r byd wedi bod yn mesur tymheredd a glawiad, yn union fel y byddwch chi’n ei wneud wrth ymchwilio i fylbiau’r gwanwyn! Mae’r gwyddonwyr wedi gweld bod tymereddau ar draws y byd yn codi, a bod patrwm glawiad yn newid hefyd.Gallai tywydd cynhesach a rhagor o law helpu’r crocysau a’r cennin Pedr i dyfu, ond mae cynhesu byd-eang hefyd yn golygu bydd mwy o dywydd eithafol – eira trwm, stormydd, llifogydd a sychder!Rydyn ni wedi gweld llawer o lifogydd a mwy o eira yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Llynedd, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd taw 2012 oedd yr ail flwyddyn fwyaf gwlyb yn y DU ers dechrau cofnodi, a’r flwyddyn wlypaf erioed yn Lloegr.Mae nifer o’r gwyddonwyr gorau yn cytuno bod lefelau llygredd yn cyfrannu at gynhesu byd-eang, felly beth allwn ni ei wneud i helpu?Defnyddio ynni’n effeithiol! Os ydyn ni’n defnyddio llai o ynni, rydyn ni’n creu llai o lygredd. Sut? Gallwn ni wneud pethau bach syml bob dydd i arbed llawer o ynni gartref neu yn yr ysgol. Er enghraifft, mae diffodd y teledu neu’r cyfrifiadur pan fydd neb yn ei ddefnyddio yn arbed llawer o ynni!Beth arall allwch chi ei wneud i arbed ynni? Beth am drafod yn y dosbarth? Gallech chi hefyd edrych ar y cyflwyniad yma ar gynhesu byd eang – mae rhai syniadau eraill yma am arbed ynni.Os oes diddordeb gyda chi mewn dysgu beth arall allwch chi ei wneud ar gyfer Wythnos Hinsawdd, ewch i’r wefan.Eich cwestiynau, fy atebion:Thorneyholme RC Primary School PP, We were off on Wednesday afternoon, and our mystery blubs are growing. Prof P: Can you guess what they are yet Thorneyholme or are they still a mystery?Lakeside Primary Sorry about all the non recorded dates. Prof P: That’s okay! Sometimes I have to miss a day recording too. Keep up the good work.Ysgol Capelulo We have not got any flowers yet :( Prof P: Don’t be sad Ysgol Capelulo, my plants haven’t got flowers yet either… I am sure they will come soon.RAF Benson Primary School Some our daffodils and crocuses have started growing. Prof P: That’s great news!Newport Primary School It has been quite good weather here this week with no rain and some sunshine but the last couple of days have been really cold and quite dull. On Sunday 17th we had an almost spring day and we were all able to get out and have a good time as it was really sunny and felt quite warm. Prof P: Excellent weather reporting NewportPrimary School! Really detailed, thank you! It has been very cold here in Cardiff too.Balcurvie Primary School Our big rainfall on Monday was after the half term holiday when it snowed heavily! Great fun for us but not for our poor wee bulbs! Prof P: Sounds like you have been having some extreme weather in Scotland! I am glad you have been enjoying it Balcurvie.Diolch yn fawrAthro’r Ardd
Rhywogaeth newydd i wyddoniaeth: Bolycetiaid yn Ynysoedd Falkland Teresa Darbyshire, 21 Chwefror 2013 1. Map yn dangos y lleoliadau samplo ar arfordir yr ynys Ddwyreiniol gyda map mwy o'r lleoliadau ger Stanley 3. Mwydyn cennog (Polynoidae) ganfuwyd dan garreg wrth blymio 4. Dau cirratulid ganfuwyd dan garreg wrth blymio 8. Mwydyn rhwyfo (Phyllodocidae) gyda'i streipiau du nodweddiadol 9. Dwy rywogaeth abwyd du wahanol (Arenicolidae) o'r lan 10. Rhywogaeth abwyd môr newydd (Nereididae) Mae polycetiaid (neu fwydod gwrychog) i'w gweld ym mhob un cynefin morol ar y Ddaear bron. Anifeiliaid hyblyg ac amrywiol eu lliw a'u llun ydyn nhw, ac mae tua 10,000 o rywogaethau wedi cael eu disgrifio hyd yn hyn. Gyda'n amgylchedd morol yn wynebu straen cynyddol mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n gwybod pa rywogaethau sy'n byw ymhle. Mae polycetiaid o gynefinoedd yn y moroedd o amgylch Ynysoedd Falkland yng nghefnfor De'r Iwerydd wedi cael eu samplo'n aml fel rhan o fordeithiau ymchwil ar yr Iwerydd. Ar y llaw arall, prin yw ein gwybodaeth o bolycetiaid o gynefinoedd rhynglanwol (rhwng marciau llanw isel ac uchel). Ar ddechrau'r 20fed ganrif gwnaeth naturiaethwr o Ynysoedd Falkland, Rupert Vallentin, beth gwaith yn y maes gan anfon sbesimenau at dacsonomegwyr i'w hadnabod a'u hymchwilio. Prin yw'r gwaith a wnaed ar ôl hyn. Biolegydd morol yn Amgueddfa Cymru yw Teresa Darbyshire, ac mae wedi bod yn cydweithio â'r Grŵp Arolygon Moroedd Bas lleol i astudio polycetiaid Ynysoedd Falkland. Treuliodd bedair wythnos yn gwneud gwaith mae yn niwedd 2011 dan nawdd Cronfa Ysgoloriaeth Shackleton, gan samplo pedwar arfordir ar bymtheg (Delweddau 1, 2, 6) ar yr ynys Ddwyreiniol, y brif ynys. Cafwyd cyfle hefyd i blymio gyda Grŵp Arolygon Moroedd Bas lleol fel rhan o'u harolwg a thrwy hyn bu modd ymestyn y samplu hyd yn oed ymhellach. (Delweddau 3, 4, 7). Cododd rhai peryglon biolegol anghyffredin wrth weithio yn Ynysoedd Falkland gan gynnwys morlewod cyfeillgar yn astudio Teresa traoedd hi'n gweithio dan y dŵr, eliffantod môr yn sleifio i fyny tu ôl iddi ar y lan, a caracaras (adar ysglyfaethus) yn ceisio dwyn y potiau samplu! (Delwedd 5) Wedi i bolycetau gael eu cadw (sefydlogi), bydd nodweddion sy'n bwysig wrth eu hadnabod, fel lliw a phatrwm (Delwedd 8), yn aml yn diflannu neu'n newid. Cafodd y rhan fwyaf o sbesimenau felly eu hastudio a'u ffotograffio yn fyw dan ficrosgop. Byddai sbesimenau hefyd yn cael eu "hymlacio" cyn eu cadw fel bod llai o siawns iddyn nhw wingo neu dorri, felly byddai'n haws o lawer eu hadnabod yn ddiweddarach. Dyw adnabod polycetau ddim yn broses hawdd na chyflym! Mae sbesimenau gwahanol i'w gweld ledled y byd ac yn newid yn ôl cynefin a lleoliad. Mae'n debyg iawn y bydd polycetau Ynysoedd Flakland yn eu lleoliad yn Ne'r Iwerydd yn wahanol i bolycetau Gogledd yr Iwerydd, ac felly mae'n rhaid chwilio'n drylwyr drwy unrhyw lyfrau ar y pwnc i'w hadnabod. I ddechrau, cai'r sbesimenau eu trefnu'n deluoedd (grwpiau o sbesimenau sy'n perthyn). Er nad yw pob teulu i'w gweld ym mhob amgylchfyd, maer' teuluoedd gafodd eu adnabod yn Ynysoedd Falkland hefyd i'w gweld yn nyfroedd Prydain. Astudiwyd pob teulu yn ei dro er mwyn adnabod pob rhywogaeth ym mhob lleoliad. Mae'n haws o lawer adnabod rhywbeth os oes gennych chi lawer o sbesimenau i'w cymharu, yn blant ac oedolion, a sbesimenau o wahanol gyflwr. Bellach mae dros ddeg ar hugain o deuluoedd gwahanol wedi cael eu hadnabod o'r samplau. Mae dau rywogaeth abwyd du (Arenicolidae, Delwedd 9) ac abwyd y môr (Nereididae, Delwedd 10) newydd wedi'u hadnabod, sy'n syndod gan fod y ddau grŵp yn cynnwys anifeiliaid mawr sy'n gymharol gyfarwydd ac yn cael eu defnyddio'n gyson fel abwyd gan bysgotwyr. Disgwylir y byd nifer o rywogaethau newydd yn cael eu hadnabod wrth i'r sbesimenau gael eu dadansoddi. Wedi dychwelyd yn 2013 i samplo lleoliadau ychwanegol, bydd rhestr cynhwysfawr o bolycetau rhynglanwol a glannau Ynysoedd Falkland ar gael, ac yn gymorth i weithwyr gwarchod amgylcheddol lleol.