Bwyd o lannau Cymru

23 Gorffennaf 2012

Cyflwyniad

Hel cocos ar draeth Llan-saint

Hel cocos ar draeth Llan–saint.

Offer hel cocos

Y rhidyll, y gocses a'r rhaca — offer hel cocos.

Byddai cymunedau oedd yn byw ger y glannau hefyd yn manteisio ar y bwydydd oedd ar gael iddynt ar y traeth neu'r creigiau glan-môr. Mae yna dystiolaeth helaeth o safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig sy'n dangos bod pysgod cregyn yn cael eu cynaeafu yng Nghymru trwy'r canrifoedd. Roedd y pysgod cregyn hyn yn rhad ac am ddim o'u casglu, ac roedd toreth ohonynt i'w cael ar hyd y glannau. Cocos a chregyn gleision oedd y mathau a gasglwyd ac a werthwyd amlaf gan y bobl gyffredin

Casglu cocos

Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, byddai merched casglu cocos yn aml yn cadw stondinau ym marchnadoedd trefi de Cymru. Byddai eraill yn gwerthu eu cynhaeaf o ddrws i ddrws yn y pentrefi diwydiannol ac arfordirol yn y gogledd a'r de. Fel arfer byddai'r cocos oedd wedi'u berwi a'u tynnu o'u cregyn (cocs rhython) yn cael eu cludo mewn bwced bren ar ben y werthwraig. Câi'r cocos oedd heb eu trin (cocs cregyn) eu cludo mewn basged fawr ar ei braich. .

Soniai un wraig wyth deg oed o Lan-saint, pentref glan-môr yn Sir Gaerfyrddin, iddi fod yn casglu cocos ar y traeth am chwe deg o flynyddoedd. Cyfeiriai at y patrwm arferol lle'r oedd merched yn olynu eu mamau yn y gwaith hwn. Roeddent yn ddibynnol ar eu henillion o'r cocos; cofiai ei bod yn eu gwerthu am ddimai'r peint, ond ei bod tua diwedd ei gyrfa yn gwerthu'r un faint o gocos am chwe cheiniog. Roedd hwn yn dâl sâl iawn am yr holl waith llafurus. Casglu, golchi a chludo'r cocos adref o'r traeth oedd y cam cyntaf. Wedi cyrraedd byddai'n rhaid dechrau ar yr ail gam, sef golchi'r cocos eto a'u berwi cyn eu cludo am yr eilwaith, i'r farchnad y tro hwn.

Gwnâi cocos bryd ysgafn o'u bwyta gyda bara menyn neu fara ceirch, ac roeddent yn elfen mewn gwahanol seigiau oedd yn cynnwys wyau neu laeth a sifys. Byddai merched ym mhentref Penrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd, yn canu'r pennill hwn wrth werthu'r pysgod cregyn o ddrws i ddrws:

Cocos a wya Bara ceirch tena Merched y Penrhyn Yn ysgwyd 'u tina

Cafiâr Cymru?

Siediau casglwyr bara lawr

Siediau casglwyr bara lawr (1936)

Un o'r bwydydd môr pwysig eraill oedd math o wymon bwytadwy o'r enw bara lawr. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai merched o lannau Sir Fôn, Sir Forgannwg a Sir Benfro yn casglu hwn yn frwd. Roedd angen trochi'r bara lawr a gasglwyd o'r creigiau a'r cerrig ar lan y môr mewn saith golchad o ddŵr glân er mwyn cael gwared ar yr holl raean a thywod oedd ynddo. Wedyn byddai'r gwragedd yn gwasgu'r dŵr o'r gwymon, a berwi'r bara lawr glân yn araf yn ei wlybaniaeth ei hun am ryw saith awr. Y peth olaf i'w wneud oedd ei ddraenio a'i falu'n hynod o fân nes ei fod yn fwydion lliw gwyrdd-ddu.

Byddai'n cael ei ysgeintio wedyn â blawd ceirch a'i ffrio mewn saim cig moch, ac yn cael ei weini gyda bacwn fel arfer. Enwau eraill arno oedd llafan neu fenyn y môr, a byddai bara lawr yn cael ei baratoi fel cynnyrch masnachol gan deuluoedd yn Sir Forgannwg, a'i werthu gyda'r cocos ar y stondinau marchnad. Ar un adeg dim ond teuluoedd ar incwm isel fyddai'n paratoi ac yn gwerthu'r ddau fwyd hwn. Yn y pen draw datblygodd y ffordd hon o farchnata yn fentrau masnachol o bwys. Heddiw mae bara lawr, a elwir weithiau yn gafiâr Cymreig, i'w weld ar gownteri siopau bwyd arbenigol ac yn cael ei gynnig fel hors-d'œuvre mewn bwytai o'r radd flaenaf.

Gwella rhifedd a chael bylbiau am ddim ar gyfer eich ysgol!

Danielle Cowell, 17 Gorffennaf 2012

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am ysgolion i gymryd rhan mewn prosiect a derbyn fylbiau'r gwanwyn rhad ac am ddim.

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion (CA2)

Plannu bylbiau ar dir eich ysgol i astudio newid yn yr hinsawdd. Ymunwch ymchwiliad DU i gwella gwyddoniaeth a rhifedd. Am fwy o fanylion ewch i www.museumwales.ac.uk/cy/scan/bylbiau

Mae'r cais yn cymryd mwy na munud i'w gwblhau ac mae'r prosiect yn RHAD AC AM DDIM i bob ysgol sy'n gwneud cais erbyn mis Gorffennaf y 30ain.

'Bywydau Glowyr yn werth 5½c yr un': Ymgynghoriad y Llywodraeth i drychineb Senghennydd 1913

6 Gorffennaf 2012

Mam ifanc a'i phlentyn yn aros am newyddion

Mam ifanc a'i phlentyn yn aros am newyddion

Oriawr Senghennydd

Darganfuwyd yr oriawr hon ar gorff yn dilyn trychineb pwll glo Senghennydd ar 14 Hydref 1913, ac fe'i defnyddiwyd i adnabod y corff. Bu farw 440 o ddynion o ganlyniad i'r trychineb. Ni ddarganfuwyd rhai o'r cyrff. Hwn oedd y trychineb gwaethaf yn hanes meysydd glo Prydain.

Cyrff gweithwyr yn cael eu cario o'r pwll

Cyrff gweithwyr yn cael eu cario o'r pwll

Senghenydd-Explosion-Report-opt.pdf

Senghenydd Explosion Enquiry and Report to the Home Office 1913

Senghenydd-Explosion-Report-APPENDICES.pdf

Senghenydd Explosion Enquiry and Report - APPENDICES

Cyfanswm terfynol y gwŷr a fu farw yn nhrychineb glofa ar 14 Hydref 1913 oedd 439. Chafodd rhai o'r cyrff fyth eu canfod. Dyma un o'r trychinebau glofaol gwaethaf yn hanes meysydd glo Prydain.

Ddeng munud wedi wyth ar fore 14 Hydref 1913 roedd y 950 o ddynion sifft y dydd yng nglofa Universal, Senghennydd newydd ddechrau ar eu gwaith pan ysgubodd ffrwydrad anferth drwy'r gwaith.

Roedd cymaint o bŵer yn y ffrwydrad nes i'r gawell ddwy dunnell gael ei thaflu i fyny Siafft Lancaster hyd nes taro'r gêr weindio.

Daeth y dynion oedd yn gweithio ar ochr ddwyreiniol y gwaith tanddaear i gyd i'r wyneb yn ddiogel, ond roedd yr ochr orllewinol yn danchwa, a dim ond llond llaw a ddihangodd.

Erbyn 20 Hydref, roedd y cyfanswm wedi cyrraedd 440 gan gynnwys un gweithiwr achub.

Allai'r ymchwiliad dilynol ddim canfod achos y ffrwydrad er bod pawb yn gytun bod nwy methan (llosgnwy) wedi cyfrannu. Daeth hi'n amlwg fod bynnag bod nifer o reolau Deddf Pyllau Glo 1911 wedi cael eu torri.

Ym mis Mai 1914 wynebodd rheolwr y lofa, Edward Shaw, 17 cyhuddiad tra wynebodd perchnogion y lofa, Lewis Merthyr Coal Company, 4 cyhuddiad.

Cafwyd Edward Shaw yn euog o 8 o'r cyhuddiadau a chodwyd dirwy o £24 arno, a arweiniodd at bennawd yn un o'r papurau lleol yn datgan 'Bywydau Glowyr yn werth 5½p yr un'. Cafwyd y perchnogion yn euog o un cyhuddiad o fethu gosod gwyntyll awyru cildroadol a chodwyd dirwy o £10 a £5.25 o gostau arnynt.

Roedd 60 o'r gŵyr a laddwyd o dan eu hugain oed, ac wyth yn bedair ar ddeg yn unig. Gadawyd 205 o fenywod yn weddwon, 542 o blant heb eu tadau a 62 o rieni dibynnol heb eu meibion.

Hwn oedd yr ail ffrwydrad yng nglofa Universal – bu farw 81 o ddynion ym 1901.

Caeodd glofa Universal ym mis Mawrth 1928.

Isod gellir gweld copi o'r ymgynghoriad llawn gan y Swyddfa Gartref i'r ffrwydrad yng nglofa Universal Colliery, Senghennydd ym 1913.

Bathodynnau Glowyr

2 Gorffennaf 2012

Mae bathodynnau yn ffordd bwysig o ddangos bod rhywun yn cefnogi achos neu'n ymddiddori mewn rhywbeth arbennig. Gallan nhw hefyd goffau digwyddiad penodol.

Mae sawl esiampl o fathodynnau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant glo, bathodynnau fyddai'n cael eu cynhyrchu yn ystod anghydfod diwydiannol neu eu gwerthu i godi arian wedi trychineb lofaol.

Yn ystod, ac ar ôl streic y glowyr ym 1984-85 y cynhyrchwyd y nifer fwyaf o fathodynnau. Cynhyrchwyd bathodynnau o bob lliw a llun ond byddent fel arfer yn cario enw Mudiad Cenedlaethol y Glowyr (N.U.M.), Cynghordy neu ardal. Byddent hefyd yn cario symbol arbennig — gallai fod yn eicon glofaol fel lamp, offer weindio neu gaib a rhaw wedi croesi; neu yn symbol a gynrychiolai'r dosbarth gweithiol fel dwylo'n ysgwyd, cadwyni wedi torri neu glorian cyfiawnder. Gwelid draig goch neu genhinen ar nifer o'r bathodynnau a gynhyrchwyd yng Nghymru hefyd.

Mae Adran Diwydiant Amgueddfa Cymru wedi casglu cannoedd o'r bathodynnau yma. Mae rhai yn cael eu harddangos yn Big Pit: Amgueddfa Wlân Cymru a gellir gweld esiamplau ar fas data casgliadau Delweddau Diwydiant.

Am ragor o wybodaeth efallai y bydd y llyfr 'Enamel Badges of the National Union of Mineworkers' (2008) gan Brian Witts o ddidordeb.

Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl.