Eglwys Sant Teilo

12 Mawrth 2008

Detholiad o ddelweddau o Eglwys Sant Teilo

Gweithwyr estron ym meysydd glo Cymru

6 Mawrth 2008

Ail Ryfel Byd

Slofeniaid yng Nghanolfan Tyfforddi Oakdale, 1948

Slofeniaid yng Nghanolfan Tyfforddi Oakdale, 1948

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, roedd galw mawr, a chynyddol, am lo. Roedd adnewyddiad a thwf yn sgil y rhyfel yn gofyn am ddigonedd o ynni rhad, a dim ond glo allai gyflenwi'r angen. Roedd angen recriwtio mwy o lowyr ar hast. Un ffynhonnell ar gyfer y rhain oedd y miloedd o bobl Ewropeaidd oedd wedi gorfod ffoi o'u gwledydd genedigol yn ystod y Rhyfel.

Er bod angen mawr am y dynion hyn ym Mhrydain, nid oedd croeso iddynt bob tro, ac roedd tipyn o wrthwynebiad o du cyfrinfeydd lleol Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Roedd mwy o anesmwythyd pan ddechreuwyd recriwtio Eidalwyr ym 1951, ac nid oedd pethau ddim gwell pan geisiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol recriwtio ffoaduriaid o Hwngari ar ôl chwyldro 1956.ŵp peirianyddol Almaenaidd,Thyssen UK, i weithio yn ne Cymru gan ddod â rhai o'u cydwladwyr gyda hwy.

Yn yr un modd â mewnfudwyr heddiw, roedd y 'gweithwyr estron' hyn yn wynebu amheuaeth i ddechrau. Roedd hyn yn deillio'n rhannol o anwybodaeth ac yn rhannol o ofn y bobl leol o ddiweithdra.

"All Poles"

Nyk Woszczycki (ail o'r chwith) mewn grŵp yn dathlu ymddeoliad ei ffrind, Joe Hughes o lofa Britannia

Nyk Woszczycki (ail o'r chwith) mewn grŵp yn dathlu ymddeoliad ei ffrind, Joe Hughes o lofa Britannia

Daeth y dynion ifanc hyn i Brydain ar ôl blynyddoedd o galedi, perygl a thrychineb. Cefnodd llawer ohonynt ar y maes glo cyn gynted ag y gallent, a gadawodd nifer ohonynt Brydain hyd yn oed, ond enillodd y rhai a arhosodd enw da am eu dycnwch a'u gwaith caled. Er eu bod yn dod o nifer o wledydd, y duedd oedd i'r glöwr Cymreig eu hystyried fel 'Pwyliaid pob un'. Fe briodon nhw â merched lleol ac ymgartrefu yma; ar waliau eu hystafelloedd byw yn aml fe welir lluniau o'u plant a'u hwyrion, sydd wedi eu magu fel Cymry. Mae nifer o'r rhain wedi ennill graddau prifysgol; mae nifer wedi ennill anrhydeddau dros Gymru ar y meysydd chwarae.

Er gwaethaf eu balchder yn eu mamwledydd gwreiddiol, mae'r rhan fwyaf bellach yn ystyried eu hunain yn Gymry. Yn yr un modd, dylai Cymru fod yn falch ohonynt hwythau a'r rhan y maent wedi ei chwarae yn ei hanes.

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o gylchgrawn yn y gyfres 'Glo', a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Lawrlwytho'r llyfryn

Archwilio Gwely'r Môr yn symud eto!

Lara Murphy, 1 Mawrth 2008

Arddangosfa Archwilio Gwely'r Môr yn Kettering.

Mae Arddangosfa Gwely'r Môr wedi symud i Amgueddfa Kettering yn dilyn cyfnod llwyddiannus yn Amgueddfa Stêm Kew Bridge. Mae digon o le arddangos yn Kettering felly bu modd anfon rhagor o sbesimenau gyda'r arddangosfa'r tro yma. Cewch weld yr arddangosfa yn Kettering rhwng 7 Mawrth a 12 Ebrill. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am amgueddfeydd yn Kettering.

Yr Amgueddfa'n cofnodi'r daeargryn mwyaf yn y DU ers 25 mlynedd

28 Chwefror 2008

Sgan o seismograff Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sgan o seismograff Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cofnodwyd y siocdonnau gan seismomedr ger Casnewydd cyn eu trosglwyddo i seismograff yr Amgueddfa.

Mae seismograff yr Amgueddfa wedi cofnodi'r digwyddiad seismig mwyaf ar dir ers 1990.

Cofnodwyd y digwyddiad gan seismograff yr Amgueddfa am 00:57.14 GMT ar 27 Chwefror. Cadarnhawyd mai dyma'r daeargryn maint 5.2 a gofnodwyd gan Arolwg Daearegol Prydain. Canfuwyd yr uwchganolbwynt i'r gogledd o Market Rasen, Sir Lincoln am 00.56.47 GMT.

Cymerodd tonnau'r daeargryn gwta 27 eiliad i deithio'r 158 milltir rhwng Market Rasen a'r seismomedr, sydd ger Casnewydd. Mae hyn yn golygu bod y tonnau wedi teithio ar gyflymder o 5.85 milltir yr eiliad.

Dyma'r digwyddiad mwyaf ar y tir yn y DU ers y daeargryn maint 5.1 yn Bishops Castle ar ffin Cymru ar 2 Ebrill 1990.

Teimlwyd effeithiau digwyddiad Market Rasen cyn belled â Newcastle, Sir Efrog, Llundain, Cymbria, Canolbarth Lloegr, Norfolk a rhannau o Gymru. Cafwyd adroddiadau o ddifrod i doeon, waliau a simneiau o amgylch yr uwchganolbwynt, ac anafwyd dyn yn Wombwell ger Barnsley, de Sir Efrog, pan gwympodd gwaith maen ar ei ben.

Ôl-gryniad

Yn aml bydd daeargrynfeydd llai, neu ôl-gryniadau, yn dilyn daeargrynfeydd o'r maint hyn. Cofnodwyd daeargryn maint 1.8 yn yr ardal ychydig oriau'n unig ar ôl y prif ddigwyddiad.

Bydd angen ymchwiliad manwl i ganfod y strwythur daearegol oedd yn gyfrifol am y prif ddaeargryn. Mae'r Arolwg Daearegol eisoes wedi dangos i'r daeargryn ddigwydd tua 18km o dan y ddaear. Mae'n debygol felly ei fod wedi digwydd ar hyd ffawtlin mewn creigiau Gyn-Gambriaidd, fel y rhai sy'n gorwedd o dan y rhan fwyaf o Gymru.

Mae'n annhebygol fod yr union ffawtlin a achosodd y daeargryn yn agored ar yr arwyneb gan fod creigiau Paleosöig a Mesosöig iau (Carbonifferaidd, Triasig a Jwrasig, er enghraifft) yn gorchuddio'r creigiau Gyn-Gambriaidd yn ardal Market Rasen.

Y daeargryn maint 5.4 ym Mhen Llyn ar 19 Gorffennaf 1984 yw'r un mwyaf a gofnodwyd erioed ar y tir yn y DU.

Gwybodaeth o:

Y Bwrdd Glo Genedlaethol yn Ne Cymru

25 Chwefror 2008

Diwrnod Breinio

O ganlyniad i hanes digalon y diwydiant glo rhwng y ddau ryfel byd, rheolaeth y llywodraeth drosto yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'r angen am lo ym Mhrydain ar ôl y rhyfel, roedd hi bron yn anorfod y byddai'r diwydiant yn cael ei wladoli ar ôl ethol llywodraeth Lafur ym 1945.

Croesawyd y 'Diwrnod Breinio', 1 Ionawr 1947, i raddau helaeth yng nglofeydd Cymru. Daeth maes glo de Cymru yn rhan o Ranbarth De Orllewin y Bwrdd Glo Cenedlaethol.

Ymhlith yr asedau a ddaeth i ddwylo'r NCB yn y Deyrnas Unedig roedd dros 1,400 o byllau glo, 225,000 erw o dir amaethyddol, 140,000 o dai glowyr, siopau, swyddfeydd, gwestai, pyllau nofio, un gwersyll gwyliau ac un trac seiclo!

Buddsoddiad A Siom

Buddsoddwyd swm sylweddol o ganlyniad i'r Gwladoli. Rhwng 1948 a 1953, buddsoddwyd bron £32 miliwn yn ardal Caerdydd. Costiodd gwaith ailadeiladu Glofa Nantgarw yn unig £41/2 miliwn. Bu cynnydd yn y mecaneiddio ar y ffas lo ac ymgyrchoedd i wella iechyd a diogelwch.

Cau Pyllau A Thrychinebau

Hyd yn oed yn nyddiau cynnar yr NCB, roedd tuedd i gau pyllau bach nad oedd yn talu'r ffordd ac i addrefnu'r rhai mwy. Fodd bynnag, erbyn y 1960au, dechreuwyd gadael i faes glo'r de ddirywio'n fwriadol. Ni fu i'r un maes glo arall ym Mhrydain ddioddef y fath grebachu mileinig - ym 1960 roedd 106,000 o lowyr yn ne Cymru, erbyn 1970 doedd dim ond 60,000. Bu'n rhaid arafu'r broses o gau'r pyllau yn ystod argyfwng olew'r Dwyrain Canol ynghanol y 1970au.

Ym 1960, lladdwyd 45 o lowyr gan danchwa yng Nglofa Six Bells, ac ar fore Gwener, 21 Hydref 1966, llithrodd darn mawr o domen rwbel Glofa Merthyr Vale i lawr y bryn I bentref Aberfan, gan ladd 144 o bobl yn cynnwys 116 o blant.

1960au

Yn y 1960au y datblygwyd 'archbyllau' mawr newydd Glofeydd Aber-nant, Brynlliw a Chynheidre ac y buddsoddwyd symiau sylweddol yn ad-drefnu glofeydd fel Coegnant, Deep Navigation a Merthyr Vale.

Dyma'r degawd bod holl fwynwyr Prydain yn cael yr un gyfradd dâl.Ar y cyfan, roedd y rheolwyr a'r undebau llafur yn croesawu'r cytundeb hwn er i lawer o ddynion weld cwymp sylweddol yn eu hincwm. Daeth y Cytundeb â theimlad o undod rhwng holl feysydd glo y DU ac fe arweiniodd hynny, mewn ffordd, yn y pen draw, at streiciau cenedlaethol 1972 a 1974, a ymladdwyd dros gyflogau. Anghydfod 1974 a arweiniodd at gwymp y llywodraeth Geidwadol.

Y Blynyddoedd Olaf

Erbyn dechrau'r 1980au, roedd diwydiant glo Prydain ymhlith y mwyaf diogel a'r mwyaf effeithlon yn Ewrop. Fodd bynnag, roedd llywodraeth Geidwadol newydd wedi'i hethol ac roedd cynlluniau ar y gweill i gau rhagor o byllau. Roedd meysydd glo Cymru yn fwy tebygol o ddioddef gan fod y glofeydd yn hen a'r ddaeareg yn achosi problemau.

Er bod y cynlluniau i gau glofeydd wedi'u derbyn yn anfoddog yn y gorffennol, y tro hwn galwyd am weithredu diwydiannol gan nad oedd swyddi eraill i'w cael ar gyfer y dynion. Cychwynnodd streic fawr olaf y glowyr ym mis Mawrth 1984 a pharodd flwyddyn. Gorchfygwyd y glowyr a chwalwyd diwydiant glo Cymru.

Yn ystod y ddeng mlynedd nesaf daeth gwladoli'r diwydiant glo i ben. Ym 1994 caewyd pwll glo Tŵr, sef pwll glo olaf Cymru, gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol (yn ddiweddarach Glo Prydain). Fodd bynnag, roedd rhai o'r glowyr yn argyhoeddedig bod y pwll yn effeithiol yn economaidd, ac fe gyfunodd 239 ohonynt eu harian diswyddo i brynu'r pwll. Parhaodd y pwll i fod yn weithredol tan iddo gau am y tro olaf ar 25 Ionawr 2008, gan ddirwyn 200 mlynedd o gloddio glo de Cymru i ben.

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.