Treftadaeth Byw: Living Heritage in Dyffryn Nantlle - REACH Cymru Lotti Mai Jones, 30 Hydref 2025 Fel rhan o brosiect REACH Cymru, cawson ni’r pleser o gydweithio gydag ystod o gymdeithasau tai a sefydliadau cymunedol ledled Cymru. Yn eu plith roedd Adra ac Yr Orsaf, dau sefydliad sy’n ymroddedig i gefnogi pobl yn y gogledd gyda mentrau cymunedol a thai.Darllenwch i glywed beth mae Lotti, Swyddog Treftadaeth Yr Orsaf, wedi bod yn ei drefnu a’i gynnal yn Nyffryn Nantlle fel rhan o raglen REACH Cymru.Sut mae diwylliannau, hanesion, ac iaith yn eistedd ym mreichiau agored y dyffryn hwn, yn nofio gyda’r afonydd, ac yn dawnsio ar draws wynebau ysgythrog y clogwyni? Dyma rai o’r pethau rydw i wedi bod yn myfyrio yn eu cylch fel Swyddog Treftadaeth yn Nyffryn Nantlle dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Gweld Ffig 1. Des i i’r swydd hon yn hwb cymunedol Yr Orsaf yn teimlo ar goll wedi’r brifysgol; ro’n i wedi dychwelyd i fy ardal enedigol ger Clynnog ar ôl bod yn Rhydychen, ac roedd fy Nghymraeg yn teimlo braidd yn llychlyd. Felly, roedd gweithio fel Swyddog Treftadaeth yn Nyffryn Nantlle yn gyfle i ddychwelyd ac i ailgysylltu. Roedd ein sesiwn gyntaf – Noson Hen Lunia – yn gyfle i agor y drafodaeth am dreftadaeth. Roedd hi’n arbennig clywed angerdd a balchder pobl am eu synnwyr o le, a gweld y fath ofal oedd gan bobl am ddarnau materol yn ymwneud â’u gorffennol. Gweld Ffig 2.Cefais fy synnu wrth weld hen luniau o Benygroes; roedd y lle’n fwrlwm o siopau annibynnol, trenau, chwareli, a sinema, o gymharu ag ardal ddigon syml erbyn hyn. Soniodd rhywun wrtha i am yr hwyl fydden nhw’n ei gael yn dawnsio ac yn canu ar ffermydd mewn Nosweithiau Llawen, a’r cyffro o gwrdd â phobl o wahanol drefi mewn disgos yng Nghlynnog. Wedi’r hiraethu, wrth weld sut mae Dyffryn Nantlle wedi newid dros amser cefais fy nghyffroi gan y teimlad o bosibilrwydd, ac fy atgoffa o bwysigrwydd y gwaith cymunedol sy’n dal i ddigwydd yn llefydd fel Yr Orsaf. Gweld Ffig 3.Roedd y Noson Streuon yn orlawn o wrandawyr oedd yn awyddus i glywed chwedlau Gwynn a Gethin. Ro’n i wedi fy swyno gan ddelwedd gain Gethin o’r glasbren derw yn blaguro cyn stori fawr Blodeuwedd a Lleu Llaw Gyffes. Yr hyn oedd yn teimlo fwyaf ystyrlon oedd y ffaith bod y straeon wedi’u gwreiddio yn y dirwedd; roedd stori’r tylwyth teg wedi’i lleoli ar fferm ger pen ucha’r stryd fawr, ac un arall wrth yr afon ro’n i’n seiclo heibio iddi ar y ffordd i’r gwaith. Roedd yn ychwanegu dyfnder diwylliannol i’r map mewnol sydd gen i o fy nghartref. Do’n i heb fod mewn digwyddiad adrodd straeon yn Gymraeg o’r blaen. Roedd clywed y straeon yma yn yr iaith y’u ganed nhw, iaith y tir hwn, iaith sy’n cynnal treftadaeth, yn teimlo’n gywir. Mae treftadaeth yn beth personol, lle caiff teimladau cymhleth tuag ati eu siapio gan eiliadau neu brofiadau penodol. Fel Swyddog Treftadaeth, mae hyn yn gofyn am ymagwedd ddiymhongar sy’n cydnabod bod eisoes gan bobl eu treftadaeth eu hunain, a’u bod yn cysylltu â hi mewn ystod o wahanol ffyrdd personol.Roedd ein prynhawn o greu gludwaith gyda blwyddyn 6 o Ysgol Bro Lleu a’n clwb coffi bob pythefnos – BeNawnNi – i aelodau hŷn y gymuned yn enghreifftiau o’r dysgu dwy ffordd a all ddigwydd wrth gyfnewid rhwng cenedlaethau. Roedd llawer o’r aelodau hŷn yn ansicr am y gludwaith gan ei fod yn rhywbeth nad oedd ganddyn nhw lawer o brofiad ohono. Yn y cyfamser, aeth y plant cynradd ati’n syth a bachu ar y cyfle i ddangos i’w cyfoedion hŷn beth roedden nhw’n ei wneud. Cydweithion nhw i greu gludwaith o’u hoff lefydd yn Nyffryn Nantlle a sgwrsio am beth mae’n ei olygu iddyn nhw. Gweld Ffig 4. Roedd ein tair noson agored ym mis Mai – y Nosweithiau Treftadaeth – yn cynnig lle i bobl rannu eu gwybodaeth a’u profiad o fyw yn Nyffryn Nantlle. Cefais glywed am y pethau diddorol roedd pobl wedi’u profi yn ystod eu bywydau: cypyrddau’n crynu yn ystod daeargryn Pen Llŷn ym 1984 (5.4 ar y raddfa Richter!), olion hen arferion perchnogaeth tir yn y dirwedd, fel enwau wedi’u crafu ar gerrig, a balchder teuluol o weld hen offer fferm fel maen melin. A hyd yn oed myfyrdodau annaearol am act syrcas hedfan ddirgel a ddaeth i Chwarel Dorothea un tro. Gweld Ffig 5.Cododd heriau penodol o’r digwyddiadau treftadaeth hyn. Sut, er enghraifft, mae ennyn diddordeb disgyblion ysgol uwchradd mewn treftadaeth? Roedd gwaith diweddar Gwyrddni gydag ysgolion lleol ar thema newid hinsawdd yn ysbrydoledig iawn. Arweiniodd eu gwaith at greu llyfr mawr llachar ac ystod hyfryd o berfformiadau canu a barddoniaeth ar gyfer y criw yn BeNawnNi. Yr hyn darodd fi oedd bod eu gwaith nid yn unig yn cyffwrdd â themâu newid hinsawdd, ond hefyd roedd wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn synnwyr o le a threftadaeth. Dangosodd y perfformiad hwn i fi y cyfleoedd sy’n codi pan fyddwn ni’n cadw ystyr llac wrth ystyried treftadaeth, un nad oes rhaid iddo edrych o reidrwydd ar y gorffennol yn unig, ond un sy’n broses barhaus; sgwrs sy’n cwmpasu arferion a ffyrdd o fyw sy’n bwysig ar gyfer y dyfodol. Gan ddilyn y thema hon o dreftadaeth fel proses barhaus, roedd gweithdai diweddarach yn archwilio treftadaeth drwy wneud celf a chrefft. Cawson ni sesiynau gwehyddu a lliwio naturiol gyda’r artist Ella Jones, buon ni’n creu portreadau cerfluniol o ffigurau enwog lleol gyda Luned Rhys Parri, ac yn plethu basgedi helyg gydag Eirian Muse wrth wrando ar gerddoriaeth werin ar Radio Cymru. Gweld Ffig 6. Yn dilyn y thema gwlân, cawson ni gyfres o sesiynau ar liwio edafedd brodwaith gwlân yn naturiol gyda chwmni tecstilau cymunedol lleol o’r enw Tecstiliau, a gweithdy ffeltio powlen gyda Nicole LeMaire. Roedd Angharad Tomos yn ddigon caredig i ddangos cerddi i fi, a oedd yn berthnasol i’r cariad amaethyddol at le sydd wedi’i feithrin yn yr ardal hon. Roedd eu darllen yn ystod y gweithdy yn cynnig fframwaith hyfryd ar gyfer myfyrio ar y berthynas rhwng gwlân a’r dirwedd wrth weithio gyda’n dwylo. Soniodd sawl un am neiniau a oedd yn gwiltwyr, yn frodwyr ac yn wneuthurwyr dillad medrus. Gweld Ffig 7 ac 8. Bydd treftadaeth yn parhau i gael ei meithrin yn Nyffryn Nantlle. Mae’r grŵp gweithgar ‘Criw Kate’ ym Mhenygroes yn trefnu gŵyl i ddathlu’r awdur enwog Kate Roberts yng Nghae’r Gors ym mis Medi. Rydw i’n edrych mlaen yn arbennig at brosiect hen enwau llefydd a ddechreuon ni ym mis Awst gyda sesiwn ar gyfer casglu enwau caeau gan ffermwyr. Mae enwau llefydd – yn debyg i ffeiliau PDF bach – yn rhoi cliwiau diddorol ac annisgwyl am y defnydd o dir yn y gorffennol, nodweddion topograffig fel ffynonellau dŵr, neu gall hyd yn oed gysylltu â chwedlau gwerin. Mae enwau’n gallu newid gyda mwy nag un perchennog neu gael eu pasio i lawr am genedlaethau. Mae Elinor Gwynn a Carwyn Graves – a roddodd sgwrs am yr ‘Iaith yn y Tir’ yn Yr Orsaf yn ddiweddar – wedi bod yn arbennig o ysbrydoledig yn hyn o beth; mae rhoi sylw i’r ffyrdd mae perthnasau â’r tir wedi’u cynnal yn yr iaith yn allweddol er mwyn creu dyfodol mwy teg sy’n parchu’r ffyrdd hyfryd mae pobl wedi byw mewn llefydd dros amser. Rwy’n ddiolchgar bod pobl wedi ymddiried ynof fi gyda’u hatgofion a’u straeon dros y misoedd diwethaf. Er mwyn plethu’r llinynnau hyn ynghyd, rwy’n gobeithio y gallwn ni greu rhywbeth creadigol a chydweithredol gyda’r enwau llefydd hyn, fel cwilt neu frodwaith, i ddathlu eu harddwch a’u gwreiddiau yn y dirwedd hon.Cadwch lygad am flogiau eraill sydd ar ddod, yn arddangos y gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd ar draws ein holl gymunedau sy'n cymryd rhan.Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.
Casglu Data Tywydd o 3 Tachwedd! Megan Naish, 30 Hydref 2025 Hello Cyfeillion y Gwanwyn,Diolch yn fawr iawn i'r holl ysgolion wnaeth gweithion galed i blannir bylbiau am y prosiect. Gydia’n gilydd, mi wnaethon ni plannu dros 18000 o fylbiau dros y DU, ac o weld y ffotograffau, maent yn edrych fel bod pawb wedi cael hwyl yn gwneud hyn!Mae pob ysgol sydd yn cymryd rhan yn y prosiect hwn yn mynd i ddechrau casglu data tywydd o’r 3ydd o Dachwedd hyd at y 27ain o Fawrth. Bydd angen uwchlwythio'r recordiau hyn yn rheolaidd trwy’r wefan Amgueddfa Cymru, gan gynnwys unrhyw sylwadau neu arsylwadau tywydd!Da ni’n mynd i ddysgu llawer gydia’n gilydd dros y flwyddyn ysgol nesaf!Cam 4: Cadw Cyfnodion tywydd (Tachwedd - Mawrth)Mae adnoddau ar gael ar y wefan sy'n archwilio gwahanol agweddau’r prosiect, gan gynnwys syniadau ar gyfer arbrofion ychwanegol ac arweiniad i wneud fideos byr ar gyfer cystadleuaeth Bylbcast!Cam 3: Gweithgareddau ymarferol dewisol i wneud a'r tywydd a garddioCystadleuath BylbcastByddaf yn siŵr o rannu mwy o luniau a sylwadau gan ysgolion i'r Blog yn yr wythnosau nesaf. Daliwch ati gyda'r gwaith da Cyfeillion y Gwanwyn,Athro'r Ardd
Diwrnod Plannu 2025 Penny Dacey, 20 Hydref 2025 Mae’n Ddiwrnod Plannu i 178 o ysgolion ledled y DU heddiw!Bydd dros 18,000 o fylbiau’n cael eu plannu gan fwy na 7,000 o wyddonwyr ysgol gynradd fel rhan o ymchwiliad awyr agored cyffrous sy’n archwilio sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ddyddiadau blodeuo blodau’r gwanwyn.Dilynwch y prosiect a phrofiadau ein Gwyddonwyr Gwych drwy’r blwg hwn neu ar X @ProfessorPlant.Mae aelodau o dîm y prosiect yn ymweld ag ambell ysgol heddiw i ddathlu 20 mlynedd ers Diwrnod Plannu, ac edrychwn ymlaen at dderbyn newyddion a lluniau gan ysgolion ar hyd a lled y wlad.Cystadlaethau a Phrosiectau CreadigolGwahoddir ysgolion i rannu eu lluniau a’u cyfryngau creadigol ar gyfer ein Cystadleuaeth Diwrnod Plannu. Byddwn yn dangos yr enghreifftiau buddugol yma fis nesaf!Rydym hefyd yn cynnal Cystadleuaeth Bylbcast, lle mae’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn creu fideos byr yn tynnu sylw at eu hoff rannau o’r ymchwiliad. Mae adnoddau i gefnogi hyn ar gael yma.Ac am y flwyddyn arbennig hon, rydym wrth ein boddau yn lansio Cystadleuaeth Enwi’r Cennin Pedr! Gall cyfranogwyr awgrymu enwau ar gyfer math newydd o gennin Pedr wedi’i chomisiynu i nodi 20 mlynedd ers i’r ymchwiliad ddechrau. Gallwch weld sut mae ein cennin Pedr newydd yn edrych yn y ddelwedd sydd ynghlwm, a cheir ysbrydoliaeth a chyngor yn yr adnodd sydd wedi’i gysylltu yma. Edrychwn ymlaen at weld eich enwau creadigol!Arddangosfa Arbennig yn Sain FfaganMae’r Tîm Garddio gwych yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan hefyd wedi bod yn ymuno â’r dathliadau! Maent wedi plannu arddangosfa goffau ac wedi creu planhigfa weuog hardd ar gyfer y prosiect, a gallwch ei gweld yn y delweddau sydd ynghlwm.Ymunwch NawrYdych chi’n teimlo wedi’ch ysbrydoli? Beth am blannu rhai bylbiau’r mis Hydref hwn a rhannu’ch lluniau gyda ni!Byddwn hefyd yn cynnal gweithgareddau plannu am ddim i deuluoedd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle gallwch ddysgu am blanhigion a mabwysiadu’ch bylbiau bach eich hun. Dysgwch fwy am sut i gymryd rhan ar ein gwefan.Unwaith y bydd ysgolion wedi mabwysiadu a phlannu eu bylbiau, byddant yn sefydlu gorsafoedd tywydd awyr agored. O 3 Tachwedd ymlaen, byddant yn casglu darlleniadau tywydd bob diwrnod ysgol ac yn eu huwchlwytho’n wythnosol i wefan Amgueddfa Cymru. Gallwch ddilyn eu cynnydd yma.Rydym mor gyffrous i gychwyn prosiect eleni ac i rannu’r daith gyda chi i gyd.Dyma ni am flwyddyn arall o ddarganfod, cydweithio, ac wyddoniaeth yn blodeuo!Athro’r Ardd & Bwlb Bychan
Fy mhrofiad: Gwirfoddoli Gofal Casgliadau ar draws yr Amgueddfa Anna Watson - Gwirfoddolwr Gofal Casgliadau , 30 Medi 2025 Fy enw i yw Anna Watson ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru ers mis Tachwedd 2024. Rwy'n gwirfoddoli bob wythnos fel cynorthwy-ydd gofal casgliadau yn yr adran gadwraeth. Rydw i wedi mwynhau'r profiad yn aruthrol gan fod pob wythnos yn wahanol, felly rydw i bob amser yn dysgu rhywbeth newydd ac yn datblygu fy sgiliau. Dechreuais y rôl wirfoddoli hon ar ôl gorffen fy ngradd meistr mewn Gofal Casgliadau gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae'r cyfle hwn wedi bod yn wych er mwyn rhoi'r sgiliau a gefais o'r cwrs hwnnw ar waith. Hyd yn hyn, rydw i wedi helpu gyda chynnal a chadw arddangosfeydd yn yr orielau celf a'r adran hanes natur; cynnal a chadw microhinsawdd yn yr adran archaeoleg; archwiliadau o'r casgliadau entomoleg ac wedi helpu i lanhau ac adleoli'r storfa hylif (fel y gwelwch yn y llun)! Mae'r cyfle i weithio mewn sawl adran a chwrdd â chymaint o wahanol guraduron, cadwraethwyr a thechnegwyr sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd wedi bod yn amhrisiadwy. Bob wythnos rwy'n gyffrous i weld beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf.
Hwylio i Bennod Newydd: Ail-ddychmygu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Nicole Deufel, 25 Medi 2025 Yn gynharach eleni, cymerais y llyw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac wrth i ni gyrraedd yr Hydref mae eisoes yn teimlo fel pe baem yn dal y gwynt yn ein hwyliau. O’r diwrnod cyntaf, cefais fy ysbrydoli gan angerdd ac arbenigedd ein tîm, sy’n caru straeon rhyfeddol ein casgliadau. Mae eu mewnwelediadau, ynghyd â’r croeso cynnes a gefais gan Abertawe ei hun, wedi fy argyhoeddi o un peth: bod gan yr amgueddfa yma y potensial i fod yn gyrchfan sy’n synnu, yn swyno ac yn cysylltu pobl mewn ffyrdd newydd. Angori Ein StoriUn o’r heriau cyntaf yr ydym yn eu hwynebu yw sut rydym yn adrodd ein stori. Mae ymwelwyr yn aml yn cyrraedd heb wybod ble dylai eu taith ddechrau. Gyda thair mynedfa wahanol a llwybrau troellog, mae’n hawdd colli’ch ffordd. Ychwanegwch at hynny’r disgwyliad (ar sail ein henw a’n lleoliad) fod yr amgueddfa’n ymwneud â’r môr a straeon morwrol Cymru, ac mae’n hawdd gweld pam y gall rhai ymwelwyr adael yn ddryslyd. Mae ymwelwyr hefyd yn aml yn chwilfrydig ynghylch stori ein warws haneysddol. Beth oedd ei bwrpas? Pam fod y warws yma? Am gyfnod rhy hir, nid ydym wedi adrodd stori’r adeilad rhyfeddol yma i’n hymwelwyr. Mae’r warws yn sefyll yn ei leoliad gwreiddiol, lle bu unwaith yn edrych allan dros ddoc prysur yn llawn llongau, gweithwyr, a rhythm diwydiant. Yma, bu’r warws yn rhan o’r cyfnewid mawr rhwng diwydiannau trwm Cymru a gweddill y byd ar draws y môr.Dyna’r stori a’n hysbyrdolodd i droi ein golygon tua’r môr, i adael i’r môr arwain sut rydym yn adrodd straeon: y môr yw gwir galon ein gweledigaeth. Y môr yw’r edefyn sy’n cysylltu popeth – diwydiant, celf, archeoleg, a bywydau cymunedau ledled Cymru. O allforio glo a chopr, i deithiau teuluoedd a groesodd y cefnforoedd, mae stori Cymru’n stori a luniwyd gan y môr. A pha le gwell i adrodd y stori yma na’n warws haneysddol? Adeiladwyd yn 1900 wrth ymyl Doc y De – bellach yn gartref i Farina Abertawe – ac mae’r adeilad ei hun yn dal i sibrwd ei orffennol diwydiannol. Mae traciau rheilffordd yn rhedeg ar hyd y llawr, ac mae swyddfa’r Harbour Trust a’r Tŷ Pwmp yn dal i sefyll gerllaw. Dyma hanes y gellir ei weld, ei gyffwrdd a’i deimlo o’ch cwmpas. Agor y Drysau i’r MôrRydym eisoes wedi dechrau ar newidiadau bach ond pwerus. Mae ffenestri caeedig y warws bellach ar agor unwaith eto, gan adael golau i mewn a chysylltu’r gofod gyda’r Marina y tu allan. Mae’r weithred syml yma wedi trawsnewid yr awyrgylch, ac mae’n teimlo fel bod yr adeilad yn anadlu unwaith eto. Rydym hefyd wedi tynnu strwythurau arddangos swmpus oedd yn rhwystro’r olygfa, gan wneud yr amgylchedd haneysddol yn rhan o brofiad yr ymwelydd unwaith eto. Mae’r Neuadd Weston, sy’n cysylltu’r Oriel Newydd â’r Warws hefyd wedi gweld rhai newidiadau. Rydym wedi cael gwared ar yr annibendod ac wrthi yn datblygu’r gofod i fod yn ardal croesawgar ac ysbrydoledig. Yma, bydd ymwelwyr yn dod ar draws canolbwyntiau trawiadol – gwrthrychau bydd yn eich stopio gan roi’r foment “WOW” i chi!Dychmygwch hyn: yr optic goleudy South Bishop o 1842, wedi’i adfer i’w gyflwr gweithio, ei ben uchaf yn disgleirio bob dydd pan gaiff ei droi â llaw. Neu gerbyd rheilffordd hanesyddol wedi’i osod ar y traciau gwreiddiol, gan wneud gorffennol diwydiannol y warws yn weladwy ar unwaith. Nid arddangosfeydd yn unig mohonynt, ond pileri ein hunaniaeth gan gychwyn sgyrsiau am ddiogelwch ar y môr, Abertawe fel Dinas Noddfa, a chysylltiadau dwfn rhwng Cymru a gweddill y byd. Golygfa Gyda’ch CoffiMae’n debyg hefyd y bydd ein caffi’n symud. Rydym yn archwilio’r posibilrwydd o’i leoli i fyny’r grisiau er mwyn manteisio ar ein balconi sy’n edrych allan dros y Marina. Dychmygwch yfed eich coffi gyda golygfa banoramig o’r glannau. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i drawsnewid Mynedfa’r Marina yn fynedfa ddiddorol i groesawu’r nifer cynyddol o bobl sy’n pasio heibio. Gorwelion Newydd ar gyfer ArddangosfeyddHyd yma, cynhaliwyd arddangosfeydd dros dro yn Neuadd Weston, gofod na chafodd ei gynllunio ar gyfer cynnal arddangosfeydd. Canlyniad hyn oedd cyfaddawdau a chyfyngiadau ar yr hyn y gallem ei ddangos. Mae hyn ar fin newid!Rydym yn disgwyl creu orielau pwrpasol ar y mesanîn yn yr Oriel Newydd. Bydd y gofod hyblyg yma yn caniatau i ni gynnal arddangosfeydd uchelgeisiol o safon uchel a fydd yn synnu ac yn ysbrydoli, gan roi mwy o resymau i ymwelwyr ddychwelyd dro ar ôl tro. Edrych YmlaenMae’r daith o’n blaen yn un gyffrous i ni fel amgueddfa ac i Abertawe. Ein cynllun yw ail-ddatblygu’r Oriel Newydd a’r Warws yn unol â safonau arddangos modern, gan osod cymunedau ac ysbrydoliaeth i bawb yn greiddiol i’n gwaith. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn llunio’r manylion, yn gweithio gyda chymunedau ac ymwelwyr, ac yn mapio sut i adrodd stori Cymru trwy lens y môr.Hyd nes hynny, disgwyliwch newidiadau bach ond pwerus – eiliadau annisgwyl, cyfarfyddiadau llawen, a safbwyntiau newydd sy’n amlyug sut mae’r môr wedi siapio bywyd ledled Cymru. Amgueddfa Fyw i BawbRwy’n hynod ddiolchgar i’r tîm yma, y mae eu syniadau a’u brwdfrydedd yn ein llywio ymlaen. Gyda phobl Abertawe a’n hymwelwyr, rydym yn gwneud Y Glannau yn lle i’w archwilio, ei fwynhau, a’i ddathlu – amgueddfa fyw, llawn profiadau llawen a rhyngweithiol i bawb. Felly dewch ar y daith gyda ni. Mae’r llawn’n troi, ac mae pennod newydd yn hanes Amgueddfa Genedlaethol y Glannau newydd ddechrau.