Dathlu Mis Balchder! - Hunaniaeth Cwiar: Symbolaeth Blodau a Chymuned Elizabeth Bartlett, CAC, 19 Mehefin 2025 I ddathlu Mis Balchder eleni, bydd rhai o'n cynhyrchwyr amgueddfa cymru anhygoel yn cynnal gweithdai ar thema Balchder ar draws rhai o'n hamgueddfeydd ym mis Mehefin. Fel rhan o'r dathliad hwnnw, gofynnon ni iddyn nhw fyfyrio ar y themâu a'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'w gweithdy a'r hyn y mae Balchder yn ei olygu iddyn nhw.Mae hanes ciwar yn llawn symbolaeth, ac elfen fawr o hyn oedd symbolaeth blodau. Fel cyfeiriad dilornus neu wedi'i adennill, ac fel modd i gyfathrebu ag aelodau eraill y gymuned, mae blodau yn gwau drwy ein hanes.Mae fioled wedi'i gysylltu â'r lesbiaidd a'r benywaidd ers canrifoedd a'r carnasiwn gwyrdd yn fodd i ddynion hoyw adnabod ei gilydd. Daeth 'pansi' yn enw dilornus am ddyn merchetaidd ond defnyddiwyd lafant (y blodyn a'r lliw) ers degawdau fel symbol o frwydr a rhyddid cwiar.Yn archifau Amgueddfa Cymru mae cyfoeth o'r symbolaeth flodeuog hon, mewn bathodynnau protest a gweithiau celf, yn arwydd o'r cyswllt â blodau drwy ein hanes.FioledYn y 6ed ganrif disgrifiodd Sappho, bardd o ynys Lesbos, ei chariad benywaidd yn gwisgo tiara fioled. Mae Sappho yn enwog am y farddoniaeth gariadus, erotig, ‘saffig’ sy'n dwyn ei henw ac a gafodd ddylanwad mawr ar iaith ac eiconograffi lesbiaidd a rhywioldeb benywaidd. Does dim dwywaith bod ei defnydd o flodau yn ei barddoniaeth wedi cyfrannu at amlygrwydd blodau yn y diwylliant cwiar dros y canrifoedd.Ym Mharis ar droad yr 20fed ganrif roedd blodau fioled yn addurn cyffredin i fenywod y 'Paris Lesbos' – menywod hoyw fyddai'n defnyddio'r blodau fel arwydd o'u cymuned, rhoddion i'w gilydd, ac wrth gael eu claddu.Cyrhaeddodd y symbol America drwy Broadway a'r ddrama Ffrengig, the Captive. Mae'r blodyn yn cael ei ddefnyddio fel symbol o gariad saffig wrth i fenyw roi tusw o flodau fioled yn rhodd i'w chariad. Achosodd hyn sgandal yn Efrog Newydd – cafodd y ddrama ei gwahardd, cwympodd gwerthiant blodau fioled, a chyflwynwyd deddf 'anwedduster' yn y dalaith. Er gwaetha'r ymateb, roedd cefnogwyr ym Mharis yn dal i wisgo blodau fioled yn eu llabedi a'u beltiau.Mae'r lliw fioled wedi bod yn amlwg yn hanes mudiadau LHDTC+ hefyd. Roedd ar y faner Balchder cyntaf a grëwyd gan yr artist Gilbert Baker yng Nghaliffornia yn 1978. Mae'n dal yno ar y faner Balchder heddiw, ac ar faneri balchder blaengar a chynhwysol eraill. Fel symbol sydd wedi para a thyfu dros fileniwm a mwy, mae'n symbol addas o ysbryd a dyfalbarhad y gymuned LHDTC+.Y PansisAr droad yr ugeinfed ganrif roedd sawl term 'blodeuog' am ddynion merchetaidd, neu hoyw a'r un mwyaf cyffredin oedd 'pansi'. Yr enw ar y twf mewn bywyd nos cwiar a chlybiau drag mewn dinasoedd fel Efrog Newydd, Los Angeles a Chicago oedd y 'panzy craze'. Roedd cymunedau tebyg ar draws Ewrop – yn Llundain, Paris a Berlin cyn twf awdurdodyddiaeth a'r Natsïaid.Daeth y Dirwasgiad Mawr, yr Ail Ryfel Byd a diddymu'r Gwaharddiad ar alcohol yn America â diwedd i'r cyfnod byr o ryddid i'r gymuned LHDTC+, ond parhaodd y pansi fel symbol. Mae'n cael ei ddefnyddio'n ddirmygus gan rai pobl hyd heddiw, ond mae pansi hefyd wedi cael ei hawlio gan y gymuned fel term hoffus.LafantDefnyddiwyd y lliw lafant i gynrychioli'r gymuned LHDTC+ mewn sawl cyfnod a lle gwahanol, yn enwedig yr 20fed ganrif, ond roedd y blodyn hefyd yn llai adnabyddus fel symbol o gariad hoyw. Byddai lesbiaid yn rhoi blodau lafant fel rhodd cynnil i ddangos eu cariad at ei gilydd, a parhau i dyfu wnaeth y cyswllt â hunaniaeth cwiar drwy gydol y 1990au.Tyfodd yr 'ofn lafant' yn America y 1940au a'r 1950au yr un pryd â'r 'ofn coch' comiwnyddol. Cafodd nifer o aelodau'r gymuned LHDTC+ eu diswyddo, yn enwedig yn y gwasanaeth sifil, gan fod eu rhywedd yn cael ei gysylltu â daliadau comiwnyddol. Daeth y lliw lafant i gynrychioli'r gymuned LHDTC+ drachefn fis ar ôl terfysgoedd chwyldroadol Stonewall ym mis Gorffennaf 1969 pan wisgodd y Gay Liberation Front freichledau a sasiys lafant wrth orymdeithio ar draws Efrog Newydd.Y Gay Libertation Front oedd y sefydliad cyntaf i ddefnyddio 'gay' fel rhan o'u henw swyddogol, ac roedd eu gwaith yn drobwynt i'r gymuned LHDTC+ ledled y byd. Ar un o'u bathodynnau cyntaf roedd blodyn porffor gyda'r symbolau gwrywaidd a benywaidd ar ei betalau, yn gorffwys ar ddwrn – symbol traddodiadol protest.Mae'r bathodyn i'w weld ar hyn o bryd yn oriel Cymru... Falch yn Sain Ffagan.Ffurfiodd grŵp radical o'r enw 'the Lavander Menace' i brotestio na chai menywod lesbiaidd a saffig eu derbyn mewn mudiadau ffeminyddol ddechrau'r 1970au. Y cyntaf i ddefnyddio'r term oedd yr awdur a'r ymgyrchydd ffeminyddol, Betty Friedan. Drwy ddisgrifio lesbiaid fel 'perygl lafant' fe lwyddodd i danseililo'r holl fudiad dros ryddid i fenywod. Mabwysiadodd y grŵp yr enw er mwyn ceisio negyddu'r iaith negatif oedd yn cael ei defnyddio i'w disgrifio, a daethant yn greiddiol i ddyddiau cynnar ffeminyddiaeth lesbiaidd.CarnasiwnDaeth y carnasiwn gwyrdd yn boblogaidd ddiwedd yr 19eg ganrif diolch i'r awdur enwog, Oscar Wilde. Cai'r blodyn ei liwio drwy ei ddyfrio â dŵr yn cynnwys arsenig. Byddai Oscar Wilde yn pinio'r blodyn i labed chwith ei siaced, gweithred ddaeth yn gynyddol bobologaidd, fel arwydd cynnil i bobl ei fod yn rebel, yn ddyn oedd yn caru dynion, yng nghymdeithas Llundain Fictoraidd lle'r oedd dynion hoyw'n cael eu condemnio a'u carcharu.Ar ôl cyhoeddi'r llyfr The Green Carnation (yn ddienw) cafodd Oscar Wilde ei arestio a'i garcharu am anwedduster dybryd. Gwadodd yn llwyr taw fe oedd awdur y llyfr, ond roedd ei waith yn poblogeiddio'r carnasiwn dros y blynyddoedd yn ddigon i'r awdurdodau ei ddedfrydu.Er gwaetha hyn, mae'r carnasiwn yn cael ei gydnabod fel symbol hyd heddiw, er ei fod yn llai adnabyddus.Y RhosynMae'r rhosyn yn symbol cyffredin o gariad, sy'n cynnwys cariad cwiar wrth reswm. Daeth y rhosyn yn eiconig i ddynion hoyw yn Japan yn y 1960au, ac mae'r dylanwad i'w weld yn yr iaith hyd heddiw gyda bara – rhosyn mewn Japanaeg – yn derm cyffredin am y gymuned.Mae rhosod hefyd yn bwysig i'r gymuned draws, yn enwedig ar Ddiwrnod Dathlu Traws (Mawrth 31) pan fydd pobl yn ailadrodd y geiriau 'rhowch i ni ein rhosod tra'n bod ni yma'. Mae angen i ni ddathlu bywydau pobl draws, a menywod traws o liw, yn lle galaru pan fyddan nhw'n cael eu lladd. Y nod yw gwneud galar yn llai creiddiol i brofiad y gymuned draws, a dathlu bywyd a dyrchafu lleisiau pobl drawsryweddol. Daeth y rhosyn yn symbol pwysig o hyn, yn arwydd o werthfawrogiad a hapusrwydd i bobl draws.Hunanbortread yw hwn gan yr artist Cedric Morris, a baentiwyd pan oedd yn byw gyda'i bartner yng Nghernyw. Gallai'r rhosyn ar ei frest yn symbol hoyw neu o gariad yn gyffredinol, ond mae'n esiampl arall o'r berthynas rhwng y gymuned LHDTC+ a blodau dros y blynyddoedd. Roedd Cedric Morris yn eithaf agored am ei berthynas â'i gyd-artist Arthur Lett-Haines, er bod bod yn hoyw yn dal yn anghyfreithlon ar y pryd. Mae blodau'n rhan annatod o'n cymuned ac yn ffordd brydferth o ddathlu ein hanes. Un darn hynod werthfawr o archifau Amgueddfa Cymru yw'r blodau a wisgwyd ym mhriodas dau ddyn hoyw, Federico Podeschi a Darren Warren, ar y diwrnod y daeth priodas rhwng pobl o'r un rhyw yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr. Mae'r blodau yn symbol o'r hyn y mae'r gymuned cwiar wedi brwydro gymaint drosto: yr hawl i gydraddoldeb cyfreithiol. Ond maen nhw'n atgof hefyd taw nid dyma ddiwedd y daith o bell ffordd, yn enwedig mewn byd tymhestlog gyda'n hawliau sylfaenol prin yn dal yn eu dyddiau cynnar.Mae fy ngweithdy, a gynhaliwyd yn Pride dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn eich annog i gysylltu â'n hanes ni drwy greu printiau. Y llynedd dyma ni'n creu baner i'w chario yn Pride Cymru, ac eleni bydda i'n gwahodd pobl o greu darn o gelf i fynd adref gyda nhw neu ei roi'n anrheg i rywun annwyl.Elizabeth Bartlett @liz_did_stuff ar InstagramCynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yw grwp pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n byw yng Nghymru a chydweithio gyda’r Amgueddfa drwy gyfleoedd cyfranogol a chyflogedig.Hwn yw lle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod mannau treftadaeth a diwyllianol yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’u diwylliannai niferus sy’n byw yng Nghymru neu o Gymru. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol.Rydyn yn edrych ar gelf, treftadaeth a hunaniaeth, amgylcheddaeth, gwyddorau naturiol, hanes cymdeithasol ac archaeoleg drwy ein casgliadau a chyd-cynhyrchu digwyddiadau, gweithdai, arddangosfeydd, cyfryngau digidol cyhoeddiadau, grwpiau datblygu a mwy! Mae ein Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn gweithio’n agos gydag adrannau ar draws yr Amgueddfa i'n helpu ni ddyfnhau cynrychiolaeth yn ein casgliadau a rhaglenni, i adlewyrchu pob cymuned yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ehangu ein casgliadau LHDTC+, dad-drefedigaethu ein casgliadau a chasglu hanesion llafar ar hanes dosbarth gweithiol. Gall Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru hefyd ddod â’u syniadau neu bynciau y hoffen nhw archwilio trwy ein casgliadau!Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bost i glywed am gyfleoedd ar draws yr Amgueddfa yma.Cewch gysylltu drwy e-bostio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk. Dilynwch ni ar Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Bloedd!
Lleisiau’r Amgueddfa: Siôn Davies-Rollinson – Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli Siôn Davies-Rollinson, 18 Mehefin 2025 Siôn Davies-Rollinson, Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli Helo Siôn, dywed ychydig am dy hun a dy rôl gydag Amgueddfa Cymru.Siôn ydw i; fe ymunais ag Amgueddfa Cymru yn 2012 fel rhan o’r tîm Blaen Tŷ yn Sain Ffagan. Ers tair blynedd, dwi wedi bod yn Gydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu yn Sain Ffagan. Yn y swydd yma dwi’n cefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i weithio gyda’r Amgueddfa ar draws ystod eang o rolau. Un o’r pethau gorau am fy swydd yw dod i nabod ein gwirfoddolwyr amrywiol, a dod i ddeall pam eu bod wedi dewis gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru.Yn ddiweddar dwi hefyd wedi dod yn Gydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu yn Big Pit, er mwyn helpu i ddatblygu rhaglen wirfoddoli yno, sy’n gyffrous iawn!Faint o wirfoddolwyr sydd yna ar draws y safleoedd, a beth maen nhw’n ei wneud? Mae dros 850 o wirfoddolwyr ar draws Amgueddfa Cymru. Mae 8 o wahanol swyddi gwirfoddoli ar gael yn Sain Ffagan yn unig! Er enghraifft, mae gwirfoddolwyr yr ardd yn helpu i gynnal gerddi hanesyddol y Castell, a gwirfoddolwyr y project llyfrau yn casglu ac yn gwerthu llyfrau ail law i godi arian i’r Amgueddfa. Mae gwirfoddolwyr archwilio yn gofalu am y trolis yn yr orielau, gan roi cyfle i ymwelwyr drin a thrafod rhai o’r casgliadau. Efallai eich bod wedi gweld grwpiau mawr o wirfoddolwyr o’r gymuned yn helpu i baentio ffensys, torri gwrychoedd a gwyngalchu tai. Mae myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn ein helpu ers tair blynedd bellach. Mae’n wych gweld hyder y myfyrwyr yn datblygu trwy wirfoddoli, a rhoi cynnig ar bethau newydd. Prosiect Llyfrau dan arweiniad gwirfoddolwyr yn Sain Ffagan Rydyn ni wedi gweld hen hetiau glowyr o Big Pit yn cael eu defnyddio fel basgedi crog yn Sain Ffagan – roedden nhw’n wych. Oes projectau tebyg ar y gweill?Roedd hetiau’r glowyr yn broject difyr, a’r gwirfoddolwyr wedi mwynhau cymryd rhan. Rhoddodd y blodau dipyn o liw i’n Hwb Gwirfoddoli. Rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd i hybu cynaliadwyedd, ac ailgylchu deunyddiau.Yn ddiweddar bu gwirfoddolwyr yn plannu dros 2,000 o fylbiau eirlysiau a chlychau’r gog yn Sain Ffagan. Pan ddaw’r gwanwyn bydd yna lwybr o flodau hyfryd yn ymestyn o Lys Llywelyn i Fryn Eryr. Bydd hyn yn cefnogi gwenyn a pheillwyr eraill, sy’n dibynnu ar flodau cynnar i gael paill a neithdar ar adeg o’r flwyddyn pan fydd blodau’n brin. Cam bach, ond un pwysig iawn i fioamrywiaeth yr ardal.Beth yw eich hoff broject hyd yn hyn? Gardd wedi'i hysbrydoli gan y Celtiaid y tu allan i Fryn Eryr, Sain Ffagan Fy hoff broject i hyd yma yw gardd y gwirfoddolwyr yn Bryn Eryr, Sain Ffagan. Daethom â grŵp o wirfoddolwyr at ei gilydd i greu a chynnal gardd Geltaidd fel rhan o dai crwn Bryn Eryr. Mae pedwar gwely i’r ardd, yn tyfu cymysgedd o bys, ffa a phannas, gwahanol berlysiau, ac un gwely ar gyfer planhigion sy’n rhoi lliw. Rydyn ni wedi plannu hadau llin yn ddiweddar, ac yn edrych ymlaen at weld beth ddaw ohonyn nhw.Dwi’n hoffi bod y project yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr ar y cyfan, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw wneud penderfyniadau ar sut i ddatblygu’r ardd. Rydyn ni’n gobeithio clirio ardal fach yn yr ardd i blannu coed afalau surion y flwyddyn nesaf. Gardd Bryn Eryr, Sain Ffagan Sut all pobl wirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru?Mae llawer o ffyrdd i wirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru. Y ffordd hawsaf i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yw ar ein gwefan. Rydyn ni’n hysbysebu ein holl rolau gwirfoddoli ar-lein; gweler fan hyn.Gall pobl hefyd gofrestru ar ein rhestr e-bost i glywed am gyfleoedd newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â’r tîm gwirfoddoli ar: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk.A’r un cwestiwn ydyn ni’n ofyn i bawb – beth yw eich hoff ddarn yn y casgliadau? Rhyd y Car, Sain Ffagan Cwestiwn anodd! Dwi wedi treulio llawer o amser yn gweithio yn adeiladau hanesyddol Sain Ffagan, ac mae gan bob un ei stori a’i awyrgylch unigryw. Os oes rhaid dewis un – tai teras Rhyd-y-car. Dwi’n hoff iawn o’r ffaith fod y tai yn llinell amser sy’n dangos newidiadau’r blynyddoedd yn yr ystafelloedd a’r gerddi. Ac mae ymwelwyr wrth eu bodd yn teithio trwy amser wrth ymweld â’r tai. Mae teimlad y tai a’r gerddi yn newid gyda’r tymhorau hefyd, felly mae wastad rhywbeth newydd i sylwi arno.
Magu hyder, un mat rhacs ar y tro! Chloe Ward, 13 Mehefin 2025 Ym mis Mehefin 2023 cychwynnodd Amgueddfa Lechi Cymru rôl wirfoddoli crefftau er mwyn creu 6 mat rhacs ar gyfer ein rhaglen addysg. Wnaethon ni recriwtio 6 o wirfoddolwyr, ac oedd Isabel de Silva yn rhan o’r grŵp. Dechreuodd wirfoddoli tra'r oedd hi'n gorffen ei gradd meistr ym Mhrifysgol Bangor, a’i rheswm dros wirfoddoli oedd er mwyn ennill profiad ar gyfer swydd neu yrfa. Yn o gystal a chreu matiau rhacs, bu rhaid i Isabel a’r gwirfoddolwyr ymgysylltu ag ymwelwyr yn Nhŷ’r Prif Beiriannydd er mwyn egluro sut oedd creu matiau rhacs a thrafod hanes y draddodiad. Pan ddechreuodd Isabel wirfoddoli, roedd hi’n eithaf swil ac yn ddihyder. I weithio ar hyn ymhellach, gwirfoddolodd Isabel i'n helpu ni adeg y Nadolig gyda gweithdai gwneud torchau rhacs hefyd – roedd yn amgylchedd prysur a bywiog! Tyfodd ei hyder wrth iddi siarad â mwy a mwy o ymwelwyr a delio â'r llu o gwestiynau am y matiau rhacs gan ymwelwyr brwdfrydig. “Nath gwirfoddoli hefo'r Amgueddfa Llechi helpu fi i godi fy hyder, gwella fy sgiliau cyfathrebu a dysgu sgil ymarferol newydd.” - Isabel de SilvaAr ôl iddi raddio a chwblhau ei gradd meistr ac ers magu hyder a datblygu sgiliau gwaith, mae Isabel bellach wedi cael swydd gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd a gyda Storiel, amgueddfa ac oriel Gwynedd. Mi orffennodd Isabel mat rhacs bendigedig ar ei phen ei hun erbyn Gorffennaf 2024… cymerodd blwyddyn o wirfoddoli unwaith yr wythnos! "Drwy fy ngwirfoddoli nes i ddysgu gymaint amdan hanes yr ardal leol, ac effaith y chwarel ar fywydau pobol Gogledd Cymru heddiw. Nath y wybodaeth hynny ysbrydoli fi i neud fy rhan mewn cadw a rhannu hanes Cymru, a dwi wedi cael y cyfle i neud hynny drwy fy swydd yn Storiel." - Isabel de Silva
Dathlu Mis Balchder! - Toredig ond Prydferth: Creu Lle, Gwella gyda'n Gilydd Apekshit Sharma, CAC, 12 Mehefin 2025 I ddathlu Mis Balchder eleni, bydd rhai o'n cynhyrchwyr amgueddfa cymru anhygoel yn cynnal gweithdai ar thema Balchder ar draws rhai o'n hamgueddfeydd ym mis Mehefin. Fel rhan o'r dathliad hwnnw, gofynnon ni iddyn nhw fyfyrio ar y themâu a'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'w gweithdy a'r hyn y mae Balchder yn ei olygu iddyn nhw. Y Gweithdy: Torri, Adfer, Ymadfer Mae mis Balchder yn fwy na dathliad – mae hefyd yn gyfnod o adfer. Amser i ganfod llonyddwch. Amser i hawlio eto ein lle – yn y byd o'n cwmpas a'r byd y tu fewn i ni. Mae fy ngweithdy Toredig ond Prydferth yn byw yn y bwlch hwnnw lle mae mynegiant creadigol ac ymadfer personol yn cwrdd – lle nad yw darnau'n deilchion ond yn ddeunydd i greu rhywbeth newydd. Dechreuodd y project hwn yn ystod fy mlwyddyn olaf, yn dilyn siwrnai bersonol yn darganfod hunaniaeth, adferiad a gwytnwch. Roedd yn fwy na phroject – daeth yn fodd o ddeall y byd a'n lle ni ynddo. Gydag amser fe dyfodd yn weithred gydweithredol ddofn: gweithdy lle gall pobl dorri gwrthrych cerameg a'i ailadeiladu gyda chlai. Mae harddwch hynod yn y broses hon – catharsis, llonyddwch a nerth tawel. Ar ddiwedd fy nghyfnod preswyl fe ysgrifennais flog trylwyr ar gyfer Cynfas yn esbonio sut y tyfodd Toredig ond Prydferth o'r project terfynol a'n siwrnai bersonol. Felly, pan ddes i â Toredig ond Prydferth i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar gyfer Mis Balchder eleni doeddwn i ddim yn cyflwyno rhywbeth newydd. Roeddwn i'n creu lle i bobl eraill brofi'r hyn wnes i: y rhyddid o dorri ac ailadeiladu, o ymollwng, ac o greu rhywbeth newydd gyda gofal. Yn ystod y gweithdy bydd pobl yn dewis gwrthrychau, eu torri'n ofalus, a chymryd amser yn ailadeiladu'r darnau yn feddylgar. Byth yr un peth, ond eto’n llawn ystyr. Y cyfan i gyfeiliant seiniau cerameg yn tincial yn y cefndir, nid dinistr ond dihangfa. Darnau o Hanes: Gweithiau Wnaeth fy Nghyffwrdd Wrth fyfyrio ar y gwaith hwn fe dreuliais i amser yn edrych drwy gasgliad LHDTC+ Amgueddfa Cymru. Roedd rhai gweithiau yn arbennig yn cyffwrdd â fi – Cwpan, Llestr Theatr a Tebot Estynedig gan Angus Suttie (1946-1993). Pan welais i Menywod Llangollen – Dillwyn a Llestri Hufen gan Paul Scott, fe stopiais i. Fe rewais i am eiliad. Roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi canfod stori oedd ddim angen gweiddi i gael ei chlywed. Mae'r gwaith – hambwrdd pren yn llawn darnau cerameg – fel map o’r cof. Cwpwrdd atgofion. Mae pob llafn o grochenwaith glas a gwyn yn gip ar le ac amser, serch a chwalfa. Nid casgliad cerameg yw hwn, ond tirlun o emosiwn. Rhyw archif dawel. Fel artist a churadur yn ymdrin â themâu hunaniaeth ac adfer, roeddwn i'n uniaethu'n syth gyda gwaith Paul Scott. Adferwn, nid i guddio’r graith, ondi'w holrhain a'i dyrchafu. Er chwalu'r gorffennol – daliwn bob darn fel atgof o'r gwanwyn. Mae'r cyfeiriad at Fenywod Llangollen – Eleanor Butler a Sarah Ponsonby – yn haen dyner arall. Dwy fenyw a heriodd ddisgwyliadau'r 18eg ganrif, gan gydfyw mewn cyfeillgarwch rhamantus a throi eu cartref yn hafan i wybodusion, artistiaid a meddylwyr yr oes. Byddwn yn aml yn rhamantu eu hanes, ond yma yng ngwaith Paul Scott mae'n real. Yn gyffredin. Darnau o fywyd bob dydd y cartref a'r platiau, y cwpanau, a'r llestri hufen yn orlawn o atgofion, agosatrwydd, a safiad cwiar.Y peth mwyaf teimladwy i fi yw nad yw'r gwaith yn ceisio 'trwsio' unrhyw beth. Nid yw'r darnau toredig wedi eu cuddio neu eu gorfodi i'w ffurf wreiddiol. Maen nhw wedi'u fframio. Eu dal. Eu hailddehongli. Ac mae urddas tawel yn hynny. Safiad tawel sy'n dweud mwy o wirionedd nag unrhyw adferiad. I mi mae Menywod Llangollen yn adleisio bwriad Toredig ond Prydferth: nid i guddio'r creithiau ond i'w dyrchafu. Nid i geisio adfer rhywbeth i'w ffurf wreiddiol, ond gadael iddo dyfu'n rhywbeth arall – rhywbeth sy'n adrodd gwirionedd ei stori. Yn y weithred hon – o greu nid o guddio – mae grym y gwaith. Perthyn drwy Greu Drwy Amgueddfa Cymru rydw i wedi cal cyfle i ddod i nabod Bloedd – rhaglen dan arweiniad pobl ifanc i ddyrchafu lleisiau LHDTC+ ar draws Cymru. Os ydych chi'n berson ifanc, mae lle yn Bloedd i chi. I greu, i siarad, i berthyn. Dros Fis Balchder eleni rydw i'n dathlu mwy na hunaniaeth. Dwi'n dathlu'r nerth tawel mae'n ei gymryd i adfer, a nerth cydweithio. Mae cymaint mwy i'r gweithdai hyn na chreadigrwydd. Maen nhw'n llefydd i fyfyrio, bodoli a gwella. Hyd yn oed yn deilchion, rydyn ni’n un darn. Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yw grwp pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n byw yng Nghymru a chydweithio gyda’r Amgueddfa drwy gyfleoedd cyfranogol a chyflogedig.Hwn yw lle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod mannau treftadaeth a diwyllianol yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’u diwylliannai niferus sy’n byw yng Nghymru neu o Gymru. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol.Rydyn yn edrych ar gelf, treftadaeth a hunaniaeth, amgylcheddaeth, gwyddorau naturiol, hanes cymdeithasol ac archaeoleg drwy ein casgliadau a chyd-cynhyrchu digwyddiadau, gweithdai, arddangosfeydd, cyfryngau digidol cyhoeddiadau, grwpiau datblygu a mwy! Mae ein Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn gweithio’n agos gydag adrannau ar draws yr Amgueddfa i'n helpu ni ddyfnhau cynrychiolaeth yn ein casgliadau a rhaglenni, i adlewyrchu pob cymuned yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ehangu ein casgliadau LHDTC+, dad-drefedigaethu ein casgliadau a chasglu hanesion llafar ar hanes dosbarth gweithiol. Gall Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru hefyd ddod â’u syniadau neu bynciau y hoffen nhw archwilio trwy ein casgliadau!Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bost i glywed am gyfleoedd ar draws yr Amgueddfa yma.Cewch gysylltu drwy e-bostio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk. Dilynwch ni ar Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Bloedd!
Cwis Hinsawdd y Wythnos Fawr Werdd! Penny Dacey, 12 Mehefin 2025 Helo Cyfeillion y Gwanwyn!Mae Wythnos Fawr Werdd Climate Cymru wedi bod yn rhedeg ers 7fed Mehefin, gyda phobl ledled Cymru (a’r DU!) yn dod at ei gilydd i helpu i warchod ein planed. Mae yna weithgareddau hwyliog, digwyddiadau gwych, a llawer o ffyrdd i chi a’ch ysgol gymryd rhan.Beth yw’r Wythnos Fawr Werdd?Y Wythnos Fawr Werdd yw dathliad mwyaf y DU o weithredu cymunedol i fynd i’r afael â newid hinsawdd a gwarchod natur. Mae pob math o bobl yn gwneud newidiadau bach sy’n gwneud gwahaniaeth i’r blaned. O blannu blodau i gasglu sbwriel, mae pob cam yn cyfrif!Pwy yw Climate Cymru?Mae Climate Cymru yn fudiad sy’n cynnwys cannoedd o sefydliadau a miloedd o bobl o bob cwr o Gymru, yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Trwy ddod â lleisiau o bob rhan o gymdeithas Cymru (ysgolion, busnesau, grwpiau cymunedol, a mwy) mae Climate Cymru yn sicrhau bod pawb yn cael eu clywed ac fod arweinwyr yn cymryd camau ystyrlon ar gyfer dyfodol gwyrddach a thecach i Gymru a’r blaned.Beth yw Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion?Mae Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion yn cynnwys miloedd o blant o bob rhan o’r DU bob blwyddyn mewn astudiaeth wyddonol am effeithiau newid hinsawdd ar ddyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn. Mae disgyblion yn mabwysiadu, gofalu am ac yn astudio eu planhigion. Maen nhw’n cymryd darlleniadau tywydd bob diwrnod maen nhw yn yr ysgol rhwng Tachwedd a Mawrth ac yn rhannu eu canfyddiadau ar wefan Amgueddfa Cymru. Mae ein hadroddiadau o’r ymchwiliad llynedd ar gael yma, ynghyd â llawer o adnoddau addysgol eraill. Bydd yr adroddiadau dwyieithog eleni yn cael eu cyhoeddi ddechrau Gorffennaf.Os ydych chi wedi cymryd rhan yn y prosiect eleni drwy blannu a thyfu blodau’r gwanwyn, rydych chi eisoes yn bencampwr hinsawdd! Os ydych chi’n chwilio am weithred Wythnos Fawr Werdd i’ch ysgol, mae ceisiadau ar agor i ysgolion yng Nghymru, a gallwch wneud cais yma! Bydd 2025-2026 yn flwyddyn pen-blwydd 20 mlynedd y prosiect gwych hwn!Pwy yw Ymddiriedolaeth Edina?Mae Ymddiriedolaeth Edina yn bartneriaid ac yn noddwyr Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion Amgueddfa Cymru. Elusen yw hon sy’n helpu ysgolion cynradd gyda gwyddoniaeth drwy gynnig grantiau di-gystadleuaeth ar gyfer prosiectau cyffrous fel garddio, adnoddau gwyddoniaeth, a dysgu awyr agored. Eleni, gall ysgolion yn Sir Ddinbych, Casnewydd, a Thorfaen wneud cais am grantiau Edina Trust, felly os yw’ch ysgol chi mewn un o’r ardaloedd hyn, rydych chi’n sicr o gael cyllid i ddatblygu eich anturiaethau gwyddonol! Dysgwch fwy yma!Rhowch gynnig ar Cwis Hinsawdd Amgueddfa Cymru!I ddathlu’r Wythnos Fawr Werdd, mae Amgueddfa Cymru wedi creu Cwis Hinsawdd arbennig i chi. Mae’n rhan o Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, ac mae’n ffordd hwyliog o brofi eich gwybodaeth am yr hinsawdd a sut gallwn ni i gyd helpu i warchod natur.Beth yw’r gwahaniaeth rhwng tywydd a hinsawdd?Faint o ynni’r DU sy’n dod o ffynonellau adnewyddadwy?Pam mae pryfed mor bwysig i’r hinsawdd?Pa gamau allwch chi eu cymryd i helpu?Darganfyddwch drwy gymryd y cwis gyda’ch ffrindiau neu deulu. Efallai y byddwch chi’n synnu at yr hyn rydych chi’n ei ddysgu!Dewch yn Warchodwyr y Blaned!Cofiwch, gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. Drwy ymuno yn y Wythnos Fawr Werdd a’r Cwis Hinsawdd, rydych chi’n helpu i godi ymwybyddiaeth o sut gallwn ni i gyd ofalu am y Ddaear ar gyfer anifeiliaid, planhigion, a phobl ym mhobman.Rhannwch yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu:Dywedwch wrth eich athro am y Wythnos Fawr Werdd a’r Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion. Mae llwyth o adnoddau gwych y gellir eu defnyddio yn y dosbarth.Bylbiau’r Gwanwyn i YsgolionYmddiriedolaeth EdinaClimate CymruDysgu Ysgol Amgueddfa CymruDysgu Teulu Amgueddfa CymruDysgu Oedolion Amgueddfa CymruMwynhewch Wythnos Werdd Wych, Cyfeillion y Gwanwyn!Athro’r Ardd