Llysieulyfrau cynnar - Tadau Almaenig botaneg John R. Kenyon, 4 Gorffennaf 2007 Llun o Friallen Fair sawrus o De Historia Stirpium gan Fuchs Rhan o lysieulyfr Almaenig cynnar ac arno nodiadau Cymraeg a Saesneg, a fu unwaith ym meddiant Morris Owen Ceir nifer o lyfrau o'r cyfnod cyn 1701 yn Llyfrgell Amgueddfa Cymru, yn cynnwys dau incwnabwlwm (llyfrau a argraffwyd cyn 1501) o waith Pliny ar fyd natur sy'n dyddio o 1481 a 1487. Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o 'lysieulyfrau' o'r 16eg a'r 17eg ganrif. Ymhlith y rhain, ceir enghreifftiau o weithiau tri dyn a ddisgrifiwyd fel tadau Almaenig botaneg, sef Hieronymous Bock (1498-1554), Otto Brunfels (1489-1534) a Leonhard Fuchs (1501-1566). Llysieulyfrau Mae llysieulyfrau argraffedig yn rhoi manylion planhigion ac yn nodi pa salwch y gallai pob un ohonynt ei wella. Yr hyn a wnaeth waith y tri dyn hyn yn arbennig yw bod llawer o'r disgrifiadau a'r darluniau o'r blodau yn eu llyfrau wedi'u seilio, ar y cyfan, ar y blodau eu hunain yn y maes yn hytrach na'u bod wedi'u copïo o waith awduron eraill. Hieronymous Bock (1498-1554) Gan nad oedd lluniau yn llysieulyfr Bock ym 1539, bu'n rhaid iddo roi disgrifiadau manwl a chywir. Mae gan yr Amgueddfa argraffiad diweddarach, darluniedig, a gyhoeddwyd ym 1552. Er bod y tudalennau cyntaf ar goll, mae prif gorff y testun yn gyflawn a cheir ynddo ddarluniau cywrain wedi'u lliwio â llaw. Dim ond y planhigion eu hunan a ddangosir yn y rhan fwyaf o'r torluniau pren ond, weithiau, dangosir adar a phobl, er enghraifft yn y darlun amrwd braidd o effeithiau bwyta ffigysen! Otto Brunfels (1489-1534) Ail gyfrol Herbarum Vivae Eicones (1531) yw'r gwaith gan Otto Brunfels sydd yn y Llyfrgell. Ystyr y teitl yw 'lluniau byw o blanhigion' ac roedd yr awdur yn un o'r bobl gyntaf i droi at fyd natur ei hunan wrth dynnu lluniau ar gyfer llyfr. Leonhard Fuchs (1501-1566) Ceir dau lyfr gan Fuchs yn y Llyfrgell, sef De Historia Stirpium (1542) a Plantarum Effigies (1549). Er mai dim ond rhai o'r disgrifiadau o blanhigion a ysgrifennwyd gan Fuchs a bod y rhan fwyaf wedi'u cymryd o lyfrau eraill, ansawdd y lluniau sy'n gwneud y llysieulyfr hwn yn un o lyfrau pwysicaf yr 16eg ganrif. Fersiwn poced o gyfrol 1542, i'w defnyddio yn y maes, yw'r Plantarum Effigies; ychydig iawn o ysgrifen sydd ynddo, ar wahân i fynegai i'r planhigion a ddarluniwyd. Gyda phob torlun pren, rhoddir enw'r planhigyn mewn tair neu fwy o ieithoedd — pump fel rheol (Groeg, Lladin, Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg). Ceir llysieulyfrau pwysig eraill o'r un cyfnod yn Llyfrgell Amgeddfa Cymru hefyd, yn arbennig weithiau Rembert Dodoens (1516-1585) a John Gerard (1545-1612). Rembert Dodoens (1516-8155) Cyhoeddwyd llysieulyfr Dodoens mewn Fflemeg ym 1554. Gan yr Amgueddfa y mae'r argraffiad Saesneg cyntaf, a gyhoeddwyd ym 1578. Fe'i cyfieithwyd gan Henry Lyte ac mae'n cynnwys defnydd newydd a anfonodd Dodoens ei hunan at Lyte i'w gynnwys yn yr argraffiad newydd. John Gerard (1545-1612) The Herball gan Gerard (1597) yw un o'r llysieulyfrau pwysicaf a ysgrifennwyd yn Saesneg. Roedd Gerard yn brif arddwr mewn sawl lle yn ardal Llundain ac roedd hefyd yn gyfrifol am erddi William Cecil, Arglwydd Burghley, Ysgrifennydd Gwladol ac Arglwydd Drysorydd Elisabeth l. I Cecil y cyflwynodd Gerard y gwaith pwysig hwn. Mae gan y Llyfrgell gopi o argraffiad 1633 a'r gwaith gwreiddiol hefyd. Ymhlith y llysieulyfrau eraill yng nghasgliadau'r Llyfrgell mae enghraifft Almaenig anghyflawn o hanner cyntaf yr 16ed ganrif. Bu unwaith ym meddiant dyn o'r enw Morris Owen o Sir Gaernarfon a ysgrifennodd mewn inc, tua 1767, enwau Cymraeg y gwahanol blanhigion; rhoddir yr enwau Saesneg hefyd gan amlaf. Mae cryn ddiddordeb yn y llyfr hwn, a'r llysieulyfrau eraill, hyd heddiw, yn enwedig gan bobl sy'n astudio hanes botaneg a fferylliaeth yn ogystal â chan bobl sy'n ymddiddori yn hanes y llyfr argraffedig.
Sidanau o Loegr a wisgid yn Nhŷ Tredegar 8 Mai 2007 Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow. Cot fer gŵr, yn dyddio o'r 1720au cynnar. Taffeta gwyn ac iddo batrwm les yw'r defnydd. Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725. Gŵn llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (gŵn ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed yn y 1720au. Gwisg sidan a phais a wnaed yn Lloegr tua 1745-47. Er i'r wisg gael ei hail-lunio, mae'r defnydd mewn cyflwr da. Ar gefndir o daffeta melyn ceir streipiau cannelé gwyn, a'r cyfan wedi'i frocedio â rhosod a luniwyd o edau sidan. Yn ystod y ddeunawfed ganrif bu teulu Morgan o Dŷ Tredegar yn gyfrifol am gasglu ynghyd gasgliad pwysig o ddillad sidan oedd yn tystio i'w cyfoeth a'u statws. Yn ystod y 18g. gellid mesur safle cymdeithasol gŵr bonheddig ar sail ansawdd ei dŷ neu ei ddillad - mynegiant o statws oedd gwisgo sidan, les neu edau aur ddrudfawr. Byddai teuluoedd o Gymru'n prynu sidanau gweëdig, cynnyrch diwydiant sidan Spitalfields yn Llundain, ac yn ddod â nhw nôl i Gymru i ddodrefnu eu tai, i wneud dillad a gwneud argraff ar eu cymdogion. Morganiaid Tŷ Tredegar, Arglwyddi Tredegar yn ddiweddarach, oedd yn un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru. Roedd ganddynt lenni sidan cyfoethog yn eu cartref, yn ôl y disgrifiad hwn a o restr a baratowyd ym 1698: "4 green Silke Damask chequer curtains flowred with gold colour and lined with white chequer silke with double valiance, foot valiance, teaster and quilte imbroidred with Silke frings." Yn yr un ystafell wely roedd pedair llen ffenestr o sidan caerog gwyn a saith clustog sidan a oedd yn cyd-fynd â chroglenni'r gwely. Roedd gorchuddion oren yn eu hamddiffyn nhw i gyd. Yn ogystal, byddai'r Morganiaid yn gwisgo'r sidanau caerog gweëdig a'r sidanau eurbleth gwychaf a mwyaf ffasiynol. Mae rhai ohonynt, a gafwyd yn rhoddion gan Arglwydd Tredegar ym 1923, i'w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r casgliad hwn yn cynnwys dillad sidan a wnaed yn Lloegr, ac mae'r mwyafrif yn dyddio o ganol y 18g. Mae un wisg a phais o Ffrainc yn dyddio o gyfnod cynharaf cofnod 1698. Mae'n bosibl mai Martha Morgan oedd piau'r rhain. Roedd Martha'n wraig Thomas Morgan, aelod o deulu Mansel, Margam (a Phen-rhys yn ddiweddarach), ac un o deuluoedd cyfoethocaf y sir. Dilynwyd Thomas Morgan gan ei frawd, a ychwanegodd yn sylweddol at faint y stadau. Pan etifeddodd ei fab yntau, Syr William Morgan, yr eiddo ym 1719, roedd modd iddo fentro ar ffordd liwgar iawn o fyw. Ym 1724 priododd Syr William â'r Foneddiges Rachel Cavendish, merch Dug Dyfnaint, a chanddi waddol o £20,000. Mae sawl dilledyn o Dŷ Tredegar yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1720 a 1731, pan bu farw William. Mae pob un o'r gwisgoedd hyn yn cydweddu â chwaeth Syr William, oedd yn enwog am ei afradlonedd - ym 1725 gwariodd £37,418 - ac yn ôl pob tebyg prynoddd pob un o'r gwisgoedd yn Llundain. Bu i'r Foneddiges Rachel fyw am hanner can mlynedd wedi marwolaeth ei gŵr, a threuliodd ei hamser yn gofalu am fuddiannau ei phlant. Pan fu farw ei hunig fab heb briodi ym 1763, fe gollodd hi frwydr yn y llysoedd ac etifeddodd ei brawd-yng-nghyfraith Thomas Morgan y stad. Mae'r rhan fwyaf o wisgoedd eraill Tredegar yn perthyn i'r cyfnod hwn ac yn ôl pob tebyg, y Foneddiges Rachel, neu Jane, wyres John Morgan (a aned ym 1731), a briododd ym 1758 ac a etifeddodd y stad yn ddiweddarach, oedd piau'r dillad hyn. Gan nad oes un o sidanau Tredegar yn dyddio o'r cyfnod wedi marwolaeth y Foneddiges Rachel, mae'n demtasiwn credu fod y cyfan yn eiddo iddi hi ac iddynt gael eu rhoi i gadw wedi iddi farw. Yna, yn ystod y ganrif ddilynol, cawsant eu hailddarganfod gan y teulu a'u hystyried yn addas i'w defnyddio fel gwisgoedd ffansi. Darllen Cefndir "Social conditions at Tredegar House Newport in the 17th and 18th centuries", gan M.R. Apted. Yn Monmouthshire Antiquarian, cyf. 3:2, tt.124-54 (1972-3). Tredegar House gan David Freeman. Cyhoeddwyd gan Adran Gweithgareddau Hamdden Casnewydd (1982, cyhoeddwyd argraffiad diwygiedig ym 1998). Silk designs of the 18th century in the collection of the Victoria & Albert Museum gan Natalie Rothstein. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Victoria ac Albert (1990). Woven Textile Design in Britain to 1750 gan Natalie Rothstein. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Victoria ac Albert (1994). "A court mantua of c.1740 by Janet Arnold". Yn Costume (Journal of the Costume Society), cyf. 6, tt.48-52 (1972).
Llongddrylliad yr Ann Francis 8 Mai 2007 Manylyn o Fap Christopher Saxton o Forgannwg, 1578, yn dangos yr arfordir o Oxwich yng Ngŵyr (chwith) i Fargam (dde uchod). Aur Sbaen a darnau arian Ferdinand ac Isabella (1479-1504). Câi darnau arian yn dwyn eu henwau eu bathu hyd y 1550au, hynny yw, am flynyddoedd lawer wedi iddynt farw. Talers: darnau arian mawr, a wnaed o arian, o'r Almaen. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys rhai a ryddhawyd gan Etholwyr Sacsoni, Ieirll Stolberg, Langraves o Leuchtenberg a dinasoedd Koln a Herford. San Vicente aur o gyfnod Ioan III o Bortiwgal (1527-57); ar y cefn (ochr dde'r llun) ceir portread o'r sant yn cydio mewn palmwydden merthyr a model o long. Rhanwyr morlywiwr o weddillion yr Ann Francis. Darnau arian Sbaen, chwiban bosn ac offer morwriaeth - ai gweddillion yw'r rhain o'r Ann Francis, llong yn dyddio o'r 16eg ganrif?Dros nifer o flynyddoedd, cafwyd hyd i ddarnau arian a gwrthrychau eraill ar draeth Margam ym Morgannwg. Mae nifer ohonynt yn dyddio o gyfnodau cymharol ddiweddar, ond mae llawer iawn o'r darnau arian yn dyddio o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg.Gwnaed y rhan fwyaf o'r darnau hyn o arian: darnau arian Ferdinand ac Isabella o Sbaen, a darnau o nifer o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig Almaenig. Ceir ambell ddarn arian copor o gyfnod Ioan III o Bortiwgal (1521-57) a hyd yn oed ddau ddarn aur trawiadol - y naill o Sbaen a'r llall o Bortiwgal. Ychwanegwch setiau o ranwyr morlywiwr, pwysau plwm i blymio'r dyfroedd a chwiban bosn a beth sydd gennych chi? Llongddrylliad.Mae'r rhan fwyaf o'r darnau arian yn dyddio o'r 1530au-1550au: nid oes yr un yn fwy diweddar na 1557 ac, felly, y gred i ddechrau oedd bod y llongddrylliad yn dyddio o'r cyfnod hwn. Gwyddys y cafodd llong Ffrengig ei dryllio yn Rhagfyr 1557, ger Oxwich yng Ngŵyr, 21km (14 milltir) i'r gorllewin o Fargam - ond onid oes llong ddrylliedig addas yn agosach at Fargam?Wel, gwyddys fod llong ddrylliedig o'r 16eg ganrif ger Margam ond nid un a ddrylliwyd yn 1557. Ar 28 Rhagfyr 1583, aeth yr Ann Francis, y llong ddiweddaraf a'r fwyaf a oedd yn eiddo i'r masnachwr Francis Shaxton o King's Lynn, ar lawr ar draeth Margam.Ymhen dim o dro ysbeiliwyd y llong gan y trigolion lleol, hyd nes i gynrychiolwyr tirfeddianwyr lleol adfer y drefn a hawlio'r nwyddau iddynt hwy eu hunain. Ymhen amser, daeth Shaxton i wybod am dynged ei long ac wedi achosion cyfreithiol hir llwyddodd i adfeddiannu rhywfaint o'i nwyddau - angorau, canonau, ceblau ac arian.Fel rheol, mae darnau arian yn dynodi dyddiad llongddrylliad. Felly, pam maent yn awgrymu dyddiad cynharach o lawer yn yr achos hwn? Mae'n bosibl, wrth gwrs, y cafodd rhyw long arall ei dryllio ym Margam yn 1557, er nad oes unrhyw dystiolaeth o'r fath beth ar gael. Ond gwyddys fod yr Ann Francis yn cludo llawer o arian, yr arian a gafwyd, yn ôl pob tebyg, yn dilyn gwerthu llwyth o rawn yn Sbaen a/neu Bortiwgal.Mewn gwirionedd, bwliwn arian oedd y darnau arian, o fathau oedd wedi'u disodli erbyn hynny, ac o dan amgylchiadau arferol byddant wedi cael eu cludo i'r Bathdy yn Llundain er mwyn eu troi yn arian Prydeinig. Ond aeth y llong ar goll wrth iddi ddychwelyd o'i mordaith ac ni chyrhaeddodd yr arian Fathdy Llundain.Darllen Cefndir'Wreck de Mer and dispersed wreck site: the case of the Ann Francis (1583)' gan M. Redknap a E. Besly. Yn Artefacts from Wrecks gan M. Redknap, tt191-208. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (1997).