: Addysg

Minecraft eich Amgueddfa – hoff weithgaredd teuluol y cyfnod clo

Danielle Cowell, 22 Hydref 2020

Mae Amgueddfa Cymru wedi ennill clod am ddarparu gweithgareddau llawn hwyl yn ystod y cyfnod clo yng Ngwobrau Cartref Amgueddfa Groesawgar Plant Mewn Amgueddfeydd.

Roedd yr amgueddfa yn un o bump a enillodd y wobr uchaf heddiw mewn seremoni wobrwyo ar-lein dan ofal yr wynebau cyfarwydd, Philip Mould a’r Athro Kate Williams.

Mae elusen Plant mewn Amgueddfeydd wedi cynnal ei Gwobrau Amgueddfa Groesawgar ers 15 mlynedd, gan gydnabod y lleoliadau treftadaeth mwyaf croesawgar i deuluoedd yn y DU. Eleni, fe grëwyd gwobr arbennig i gydnabod gwaith ac ymdrech rhyfeddol amgueddfeydd i addasu i’r cyfnod clo a pharhau i gefnogi teuluoedd. Dyma nhw’n gofyn i deuluoedd a sefydliadau rannu eu hoff weithgareddau cartref – ffilm, cwis, gêm, gweithdy crefft a llawer mwy!

Derbyniwyd dros 400 o enwebiadau o bob cwr o’r byd, ac ym mis Gorffennaf crëwyd rhestr fer o 26 amgueddfa gan banel o arbenigwyr. Dros yr haf bu teuluoedd yn profi’r gweithgareddau, a chyfunwyd eu hadborth a barn y panel arbenigwyr i ddewis enillwyr pob categori.

Amgueddfa Cymru enillodd wobr Gweithgaredd Cyfryngau Cymdeithasol Gorau am ein cystadleuaeth Minecraft dy Amgueddfa. 

‘Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cydnabyddiaeth am y fenter! Roedd y gwaith a gynhyrchodd y plant yn rhagorol! Mae’n amlwg eu bod nhw wedi rhoi cymaint o ymdrech i greu eu hamgueddfeydd eu hunain, a defnyddio cymaint o sgiliau. Yn bwysicach fyth, roedd y plant i gyd yn dweud cymaint oedden nhw wedi mwynhau creu eu hamgueddfeydd, a’r beirniaid i gyd wedi mwynhau ymweld!’ Danielle Cowell - Pennaeth Dysgu Digidol Amgueddfa Cymru.

Er bod y gystadleuaeth wedi dod i ben, gallwch chi gymryd rhan o hyd a chreu amgueddfa eich hun yn Minecraft. Lawrlwythwch y pecyn adnoddau a rhannwch eich amgueddfeydd ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn i bawb fwynhau.

Dadlwythwch becyn adnoddau yma.

Rhannwch eich creadigaethau gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol - fel y gall eraill fwynhau!

Mae'r fideo isod yn dangos cofnodion gan ein holl gyfranogwyr ac yn tynnu sylw at y ceisiadau buddugol.

Gellir gweld ceisiadau unigol ar wefan Casgliad Y Werin.

Dywedodd Philip Mould, gwerthwr celf, darlledwr a Llywydd Plant Mewn Amgueddfeydd: ‘Mae’n bleser dathlu heddiw sut mae amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth wedi camu i’r adwy a dod â diwylliant at deuluoedd yn y cyfnod anodd hwn. Yr hyn sy’n gyffredin rhwng ein henillwyr i gyd yw eu bod wedi dod â’r gorau o’i hamgueddfeydd i gynulleidfaoedd adref. Mae’r projectau yma wedi helpu gyda dysgu adref, yn ogystal â chefnogi lles a helpu pawb i fwynhau gyda’i gilydd. Llongyfarchiadau mawr i’n henillwyr teilwng i gyd.’

 

Rhestr lawn o hoff weithgareddau teuluol y cyfnod clo:

 

Gweithgaredd Cyfryngau Cymdeithasol Gorau

Clod Uchel

· Ditchling Museum of Art + Craft – Virtual Museum Club

Enillydd

· Amgueddfa Cymru - Minecraft dy Amgueddfa

 

Ffilm Orau

Clod Uchel

· University Museum of Zoology, Cambridge - Zoology Live! Online Festival

Enillydd

· Cooper Gallery, Barnsley - Wow Wednesdays

 

Gweithgaredd Gwefan Gorau

Clod Uchel

· National Galleries Scotland – Home is Where the Art is

Enillydd

· National Videogame Museum, Sheffield – Create Your Own Pixel Art Character

 

Gweithgaredd Digidol Rhyngwladol Gorau

Clod Uchel

· Andy Warhol Museum, USA – Warhol Making It Videos

Enillydd

· The Glucksman, Republic of Ireland – Creativity at Home

 

Ymdrech Ychwanegol

Clod Uchel

· Colchester and Ipswich Museums – Museum From Home Activity Packs

· Seven Stories: The National Centre for Children’s Books, Newcastle Upon Tyne – Something to Smile About: Supporting Families in East Newcastle

Enillydd

· The Whitworth, Manchester – Still Parents

Diwrnod Plannu 2020

Penny Dacey, 19 Hydref 2020

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Bydd ysgolion o ardraws y DU yn plannu eu bylbiau mor agos at 20 Hydref ag posib. Mae hyn yn golygu y bydd y mwyafrif o ysgolion yn plannu eu bylbiau yfory!

Cliciwch yma am adnoddau i'ch paratoi ar gyfer diwrnod plannu ac am wybodaeth ar sut i ofalu amdan eich bylbiau dros y misoedd nesaf!

Bydd yr adnoddau hyn yn help ar gyfer diwrnod plannu:

• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich bylbiau)

• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg)

A dyma weithgareddau hwyl i gwblhau:

• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau

• Creu Labelai Bylbiau

Plîs darllenwch y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod i labelu eich potiau fel mae’n glir lle mae'r cennin Pedr a chrocws wedi eu plannu?

Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu a rhannu'r rhain i gystadlu yn y Gystadleuaeth Diwrnod Plannu!

Cadwch lygad ar dudalen Twitter Athro'r Ardd i weld digwyddiadau diwrnod plannu yn ysgolion eraill.

Pob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd!

Athro'r Ardd a Bwlb Bychan

Addysg Oedolion mewn Partneriaeth yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Loveday Williams, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli , 23 Medi 2020

Sefydlwyd fforymau yn gynnar yn y project Creu Hanes yn Sain Ffagan i'n helpu ni i ddatblygu ein harferion cyfranogi. Un o'r fforymau hyn oedd y Fforwm Dysgu Anffurfiol, a'i ffocws oedd ar ddysgu i oedolion a'r gymuned a'u cyfranogiad. Roedd y partneriaid ar y fforwm hwn yn gysylltiedig â'r meysydd gwaith hyn yn bennaf a daethant ynghyd i'n cynorthwyo ni i ddatblygu rhaglen addysg i oedolion yn yr Amgueddfa.

Yn ystod y project, chwaraeodd y Fforymau rolau gwahanol, ac roedd rhai yn fwy gweithredol nag eraill. Gweithiodd y Fforwm Dysgu Anffurfiol gyda ni cryn dipyn ar y dechrau ac yna drwy gydol oes y project, ac roedden nhw'n gyfrifol am helpu i lunio cwmpas maes Dysgu Oedolion yn yr Amgueddfa.

Yn 2015, pan ddechreues i weithio gyda'r fforwm fe aethon ni ati i ailystyried eu rôl ac adfywio eu rhan nid yn unig yn y project ond ym maes Addysg Oedolion drwy'r Amgueddfa, yn ogystal â chyfrannu at ddatblygiad y rhaglen Llesiant.

Ers hynny mae'r fforwm, sy’n dwyn y teitl Fforwm Addysg Oedolion bellach, wedi mynd o nerth i nerth. Maen nhw wedi'n helpu ni drwy'r project a gyda gwaith newydd a gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae llawer o'r partneriaid gwreiddiol yn parhau gyda ni ers cwblhau'r project yn 2018, ac mae partneriaid newydd wedi ymuno ers hynny, gan ychwanegu at amrywiaeth ac ehanger y grŵp.

Dyma flas o rywfaint o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd dros y blynyddoedd a'r hyn sydd gan bartneriaid i'w ddweud:

"Roedd hi'n fraint i Llandaf 50+ gael gwahoddiad i ymuno â'r Fforwm Addysg i Oedolion a mynychu ei gyfarfodydd chwarterol yn yr Amgueddfa Werin.

Amcanion ein helusen yw helpu i leddfu problemau unigedd ac ynysu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn, a'u hannog nhw i drefnu, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol. Felly, roedd gweithio gyda Sain Ffagan, a sefydliadau a grwpiau elusennol lleol yn gyfle heb ei ail. Fe arweiniodd y cyfle i gyfrannu at drafodaethau ynghylch cyfleusterau a chyfleoedd i bobl hŷn yn ystod aildrefnu'r Amgueddfa at lawer o awgrymiadau gan ein haelodau ynghylch problemau bod yn hŷn.

Mae'n hawdd iawn canolbwyntio ar eich sefydliad chi'ch hun heb fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y sector gwirfoddol ac elusennol. Er bod gennym gyfle i roi diweddariad ar ein gweithgareddau ni yn y Fforwm, mae'n wych clywed beth arall sy'n digwydd. Ac rydyn ni hefyd yn cael cyfle i gwrdd â phobl newydd o ardal Caerdydd a'r Fro, pobl sy'n helpu eraill i wella eu bywydau. Yn ôl ein Trysorydd ar ôl ei chyfarfod cyntaf: 'doeddwn i ddim yn sylweddoli bod cymaint yn digwydd, mae pobl yn gwneud pethau gwych'.

Ac rydyn ni'n clywed am gyfleoedd i wirfoddoli hefyd. Mae gennym atgofion melys o gatalogio llyfrau o hen lyfrgell Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, a'u gweld nhw yn ôl ar y silffoedd lle dylen nhw fod. Y llyfrau ar beirianneg, oedd yn ehangu'r meddwl, clasuron y plant i'w diddanu amser gwely, a hyd yn oed rhai a oedd ychydig yn feiddgar (ac yn boblogaidd hefyd o weld y stampiau y tu mewn i'r clawr!). Ac yna ginio pleserus, ar ôl pob sesiwn yn arwain at greu cyfeillgarwch am oes.

Mae'r Fforwm wedi gwneud i Llandaf 50+ deimlo fel rhan o'r Amgueddfa ac fe ddenodd ein hymweliad a thaith i'r Amgueddfa niferoedd gwych o'n haelodau, pawb yn ailymweld gyda ffrindiau newydd ac yn mwynhau esboniadau'r tywyswyr hyddysg. Dychwelodd nifer ohonynt gyda'u teuluoedd yn nes ymlaen yn y flwyddyn i sôn am yr hyn a ddysgwyd.

Rydyn ni hefyd yn gallu trosglwyddo'r wybodaeth rydyn ni'n dysgu amdani yn y Fforwm i'n haelodau. Aeth nifer ohonynt i ddigwyddiadau yn ystod Wythnos Addysg Oedolion gan fwynhau crefftau newydd a hel atgofion am yr hen rai. Caiff teithiau cerdded newydd a thaflenni eu hegluro yn ystod cyfarfodydd 50+ ac rydyn ni'n annog pobl i ymweld.  

Gobeithio bydd y Fforwm yn parhau i alluogi ein helusen, fechan ond gweithgar, i weithio gydag Amgueddfa mor bwysig a phoblogaidd yn y dyfodol, er lles pawb." (Gwirfoddolwr, Llandaf 50+)

Project Ail-ddehongli Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

Roedd aelodau'r fforwm yn hanfodol i'r gwaith o ail-ddehongli Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn ystod 2015-16. Yn sgil eu cyfraniad nhw, gwelwyd yr adeilad yn ailagor gyda dehongliad mwy cyfranogol a chyfeillgar i'r defnyddiwr. Roedd hyn yn cynnwys datblygu adnoddau i ddysgwyr Cymraeg, pobl sy'n byw gyda dementia ac unigolion gyda chyflyrau synhwyraidd. Gallwch nawr fynd i mewn i bob un o ystafelloedd y sefydliad - o'r blaen dim ond cip drwy'r drws oedd yn bosibl cyn y gwaith ail-ddehongli.

"Ym mis Mawrth 2016, fel aelod o grŵp Hanes Lleol Prifysgol y Drydedd Oes yng Nghaerdydd, fe gymerais i ran ym mhroject ail-ddehongli Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, neu'r 'stiwt' fel y byddai'r trigolion lleol yn ei alw. Fel rhan o’r project, bûm i'n ymchwilio i'r adeilad, a godwyd yn ystod y Rhyfel Mawr, ac a barhaodd i fod yn ganolfan gymdeithasol ac addysgiadol allweddol i lowyr yr Oakdale a'r gymuned ei hun drwy'r ystafell darllen, cyfarfodydd, y llyfrgell, cyngherddau, ffilmiau a dawnsfeydd am sawl blwyddyn wedi hynny. Penllanw'r project oedd ailagor yr adeilad yn ystod ei flwyddyn ganmlwyddiant, a ddathlwyd gyda pharti i bobl leol o Oakdale gyda minnau'n ysgrifennu erthygl yng nghylchgrawn chwarterol cenedlaethol P3O 'Third Age Matters'. (Valerie Maidment, U3A Caerdydd).

Treialu Addysg Oedolion yn Sain Ffagan

Mae aelodau'r Fforwm wedi bod yn ganolog i dreialu cyrsiau a sesiynau blasu yn Sain Ffagan dros y blynyddoedd diwethaf. Fe wnaethon ni weithio gyda phartneriaid cymunedol lleol Action Ely Caerau (ACE) i recriwtio gwirfoddolwyr i beilota ein cwrs achrededig cyntaf mewn sgiliau gwnïo yn 2016. Roedd yr holl gyfranogwyr yn lleol i'r ardal ac yn wynebu rhwystrau o ran cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu traddodiadol. Roedd y cwrs ynghlwm â'r Amgueddfa ei hun gan fod y cyfranogwyr yn gwneud gwisgoedd i staff yr Amgueddfa eu gwisgo wrth gyflwyno sesiwn yr Oes Haearn i ysgolion. Roedd y gwisgoedd yn seiliedig ar batrwm traddodiadol, a rhoddwyd arweiniad i'r cyfranogwyr ynghylch y technegau yr oedd eu hangen i'w gwneud gan y tiwtor profiadol a'r wniadwraig gwisgoedd hanesyddol arbenigol, Sally Pointer. Doedd dim un o'r cyfranogwyr wedi gwnïo o'r blaen ac fe adawodd pawb ar ddiwedd y cwrs 10 wythnos, nid yn unig â chymhwyster yn eu meddiant, ond wedi gwella eu hyder a'u diddordeb ar gyfer dysgu pellach.

“Rydyn ni wir wedi mwynhau gweithio gyda'r Amgueddfa Werin ac maen nhw wedi dod yn bartner hynod werthfawr ym Mhroject Bryngaer Cudd CAER. Enghraifft o ddylanwad y bartneriaeth hon yw'r cwrs gwnïo a drefnwyd ar y cyd. Mae'r cwrs wedi'i achredu gan Agored Cymru ac yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru ac mae'r project wedi'i seilio ar gryfderau'r ddau sefydliad gydag Addysg Oedolion Cymru yn recriwtio cyfranogwyr o'n cymunedau lleol (ac yn cynnal yr hyfforddiant yn yr hyb cymunedol lleol). Mae'r Amgueddfa Genedlaethol wedi creu amgylchedd croesawgar gan hwyluso'r hyfforddiant a threfnu ymweliadau i'r ymwelwyr â Sain Ffagan. Cwblhawyd y cwrs gan y 13 o gyfranogwyr, oedd yn wynebu rhwystrau rhag dysgu a’r un ohonyn nhw wedi gwnïo o'r blaen. Ymhlith y canlyniadau roedd gwell hunanhyder a diddordeb o'r newydd mewn dysgu. Mae'r amgueddfa'n parhau i ddefnyddio gwisgoedd yr Oes Haearn a wnaed ganddyn nhw, felly maen nhw wedi llwyddo i wneud eu marc! Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r math hwn o broject ac yn gyfranogwyr brwd yn y Fforwm Addysg Oedolion er mwyn sicrhau y gallwn ni barhau i weithio gyda phartneriaid fel yr Amgueddfa Genedlaethol ar y math hwn o broject yn y dyfodol." Dave Horton, Rheolwr Datblygu ACE.

Wythnos Addysg Oedolion:

Mae un o aelodau allweddol y Fforwm, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn cynnal ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion ledled Cymru bob blwyddyn. Maen nhw wedi cynnig cefnogaeth o ran datblygu a chyflwyno ein rhaglenni dros y blynyddoedd ac rydyn ni wedi bod yn gyfranogwyr rheolaidd ers 2015. Rydyn ni wedi profi gweithgareddau a gweithdai crefft, wedi ymchwilio i'r potensial o gyd-gyflwyno a chynnal cyrsiau, ac wedi sicrhau ein bod wedi gallu cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ein sefydliadau partner, yn ogystal â chynnig cyfleoedd ar raddfa ehangach, er enghraifft, drwy gynnal ffair wybodaeth yn 2019. Eleni, ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion, rydyn ni wedi bod yn falch i gymryd rhan yn y digwyddiad digidol hwn, gan greu rhaglen o gyfleoedd yn seiliedig ar wneud, ar grefftio ac ar greu.

Dyma ddyfyniad o un o'n partneriaid allweddol, Hafal. Mae cyfranogwyr Hafal wedi treialu a chymryd rhan mewn gweithdai yn ystod Wythnosau Addysg Oedolion blaenorol ac ar wahanol adegau gydol y flwyddyn.

"Rwy'n cynnal project garddio i grwpiau o bobl yn Hafal, yr Elusen Iechyd Meddwl a leolir yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.          

Mae bod yn rhan o'r Fforwm Addysg Oedolion wedi rhoi cyfle anhygoel i mi fynd â grwpiau i amrywiaeth o weithdai a gynhelir yn yr amgueddfa. Roedd y gweithdy Copr Addurniadol yn llwyddiant ysgubol, yn yr un modd â'r gweithdy cerfio llwy garu, ac fe wnaethon ni weithio am sawl wythnos yn helpu gyda tho gwellt yr adeilad to crwn.

Mae cael gwybod gan aelodau eraill y fforwm am yr hyn sydd ganddyn nhw ar y gweill yn y gymuned hefyd wedi cynnig cyfleoedd i ni fynychu gweithgareddau gwahanol. Un o'r rhain oedd y gloddfa archeolegol ym Mryngaer Trelái, lle cawson ni daith o amgylch y safle a gweld rhai o'r arteffactau oedd yn cael eu darganfod yno.

Arweiniodd hyn at weithdy yn yr amgueddfa gyda'r prif archaeolegydd, yn edrych yn fanylach ar yr hyn a ddarganfuwyd ar y safle a beth allai hyn ei ddweud wrthym am y ffordd roedd pobl yn byw ar y pryd, ac roedd hyn yn hynod ddiddorol i bawb yn y grŵp.

Mae llawer o gyfleoedd dysgu yn cael eu trafod yn y fforymau a gallaf roi gwybod i'm grwpiau i fel y gallan nhw fanteisio ar y cyfleoedd os ydyn nhw'n dymuno.

Mae Loveday yn llawn gwybodaeth ac yn gyfeillgar tu hwnt, ac yn dda iawn am gysylltu pobl â'i gilydd er budd pawb. Mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan o'r fforwm." (Lesley, Ymarferydd Adfer, Hafal)

 

Cynnal cyrsiau yn Sain Ffagan

Ers agor y cyfleusterau newydd yn Sain Ffagan yn 2017, rydym wedi gweithio'n galed gyda phartneriaid i sefydlu cyfleoedd i sefydliadau eraill ddod â'u cyfleoedd dysgu i'r Amgueddfa. Rydyn ni wedi gweithio gydag Adran Ehangu Mynediad Met Caerdydd, a ddaeth â chyfres o weithdai i'r Amgueddfa yn 2019, er enghraifft, Ysgrifennu Creadigol a Therapi Ategol. Roedd y cyrsiau hyn yn defnyddio'r Amgueddfa a'i chasgliadau i greu ysbrydoliaeth a dylanwadu ar gynnwys y cyrsiau. Mae'r bartneriaeth hon yn galluogi dysgwyr i brofi persbectif unigryw Cymreig ar eu profiad dysgu.

Dyma'r hyn roedd gan dîm Ehangu Mynediad Met Caerdydd i'w ddweud am y bartneriaeth:

“Bu'n bleser o'r mwyaf i gydweithio â Sain Ffagan, ac mae hyn wedi'n galluogi ni i gyfoethogi'r cyrsiau drwy rannu'r adnoddau a'r arbenigedd rhagorol sydd ar gael yn yr Amgueddfa. Mae tiwtoriaid o'r Brifysgol yn gallu gweithio gyda'r staff yn Sain Ffagan i ymgorffori diwylliant Cymru i'w cyrsiau ac mae'r creiriau yn dod â phopeth yn fyw i'r myfyrwyr.

Drwy rannu adnoddau, cyhoeddusrwydd ac arbenigedd, mae'r myfyrwyr yn cael budd ehangach drwy’r bartneriaeth nag y byddai’n bosibl fel arall. Rydyn ni hefyd yn gallu cyrraedd cymuned ehangach ac yn gallu ymgynghori drwy gyfrwng y fforwm dysgu fel bod gennym ddealltwriaeth well o'r hyn y byddai'r gymuned yn dymuno'i ddysgu.

Yn olaf, mae'n wych gallu cynnal cyrsiau mewn adeiladau mor anhygoel a chael cymorth gan yr holl staff sydd bob amser yn broffesiynol, yn gyfeillgar ac yn bwysicaf oll, yn cynnig croeso cynnes." (Jan Jones, Pennaeth Ehangu Mynediad, Met Caerdydd).

Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos â Chymraeg i Oedolion yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydyn ni wedi cynnal Sadwrn Siarad, diwrnod o weithgareddau Cymraeg, yn ystod yr haf am sawl blwyddyn, ond yn 2019, roedden ni'n gallu cynnig gofod ystafell ddosbarth er mwyn cynnig dosbarthiadau Cymraeg gyda'r nos yn Sain Ffagan. Cynhaliwyd peilot ym mis Ionawr 2019 pan ddechreuodd cwrs Mynediad 1. Yn dilyn llwyddiant hwn, dechreuwyd dau gwrs pellach yn y mis Medi canlynol, ac aeth y dysgwyr o'r cwrs cyntaf ymlaen at gwrs Mynediad 2.

Dyma'r hyn sydd gan dîm Cymraeg i Oedolion yn Ysgol y Gymraeg i'w ddweud am y bartneriaeth:

“Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn falch iawn o gael y cyfle i gydweithio â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Ffurfiwyd y bartneriaeth drwy Fforwm Addysg Oedolion sy’n cael ei arwain gan Loveday Williams o’r Amgueddfa ac mae’r cyd-weithio rhyngom wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Yn Ionawr 2019, cynhaliwyd cwrs dysgu Cymraeg lefel Mynediad ar gyfer dechreuwyr yn yr Amgueddfa. Mae’r gwaith wedi dwyn ffrwyth ers hynny gan i ni ddarparu tri chwrs ym mis Medi 2019, cwrs dilyniant a dau gwrs lefel Mynediad i ddechreuwyr. Er i ni orfod oedi’r dysgu wyneb yn wyneb ym mis Mawrth eleni, mae’r holl gyrsiau wedi parhau’n rhithiol ac yn parhau ar-lein am 2020-2021. Felly er nad oes modd i ni gynnal dosbarthiadau yn Sain Ffagan ar hyn o bryd, mae’r Fforwm Addysg Oedolion yn ein galluogi ni i barhau i gyd-weithio a chynllunio at y cyfnod nesaf.” (Mari Rowlands, Dysgu Cymraeg Caerdydd)

Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda phob un o'n partneriaid a sefydlu partneriaethau newydd yn y dyfodol, wrth i ni asesu sut olwg bydd ar ein "normal newydd" a sut y gallwn ni barhau i weithredu a thyfu ein darparu addysg i oedolion.

 

Gwyddonydd Gwych 2020

Penny Dacey, 3 Awst 2020

Hoffai Amgueddfa Cymru longyfarch y 4,463 o ddisgyblion o ar draws y DU a enillodd gydnabyddiaeth Gwyddonydd Gwych am eu cyfraniad i'r ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion 2019-2020.

Llongyfarchiadau anferth i bob un o’r ysgolion! Diolch am weithio mor galed yn plannu, arsylwi a chofnodi, rydych yn wir yn Wyddonwyr Gwych!

Diolch yn fawr i Ymddiriedolaeth Edina am eu nawdd ac am helpu i wireddu’r project.

 

Gwyddonydd Gwych 2020:

Enillwyr / Winners

Cymru / Wales: Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail

Gogledd Iwerddon / Northern Ireland: Holy Cross Girls' Primary School

Lloegr / England: St Michael's CE Aided Primary School

Yr Alban / Scotland: Gavinburn Primary School

 

Yn Ail / Runners up

Cymru / Wales: Bryncoch CiW Primary School

Gogledd Iwerddon / Northern Ireland: Greenhaw Primary School

Lloegr / England: King's Meadow Academy

Yr Alban / Scotland: Penpont Primary School

 

Clod Uchel / Highly Commended

Cymru / Wales:

St Paul's CiW Primary

St. Julian's Primary

St. Robert's Catholic Primary

Ysgol Gymraeg Caerffili

Gogledd Iwerddon / Northern Ireland:

Steelstown Primary School

Lloegr / England:

Arkholme C of E Primary School

Bursar Primary Academy

Clifton Primary School

Ossett Flushdyke Junior and Infant School

St Austins Catholic Primary School

Stoneferry Primary School

Woodfield Primary

Yr Alban / Scotland:

Dalbeattie Primary School

St Fergus' Primary School

St John Ogilvie Primary School

 

Cydnabyddiaeth arbennig / Special Recognition

Cymru / Wales:

Blaendulais Primary School

Bro Pedr

Broad Haven

Carreghofa C P School

Darran Park Primary

Evenlode Primary

Ferryside V.C.P School

Gaer Primary School

Henllys C/W Primary

Litchard Primary School

Llanedeyrn Primary School

Llanharan Primary School

Pil Primary School

Sofrydd Primary School

St Athan Primary

St Joseph's Cathedral Primary School

Tonyrefail Community School

Ysgol Deganwy

Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Ysgol Llwyn yr Eos

Ysgol San Sior

Lloegr / England:

Canon Peter Hall Primary School

Fieldhead Primary Academy

Fleet Wood Lane Primary School

Hudson Road Primary School

Oldfleet Primary School

Stanford in the Vale Primary School

Yr Alban / Scotland:

Carnbroe Primary School

Earlston Primary School

Greenburn School

Lawefield Primary School

Sanquhar Primary School

St Mungo Primary

Whatriggs Primary School

 

Gwyddonwyr Gwych / Super Scientists

Cymru / Wales:

Dyffryn Cledlyn

Aberdare Park Primary School

Albert Primary School

Blaengwrach Primary

Garth primary School

Georgetown Primary

Hendredenny Park Primary

High Cross Primary School

Llangan Primary School

Maesgwyn Special School

NPTC Newtown College

St. Michael's RC Primary

Ty Isaf Infants School

White Rose Primary School

Y Berllan Deg

Ysgol Craig yr Wylfa

Ysgol Ysbyty Ifan

Gogledd Iwerddon / Northern Ireland:

Auchencairn Primary School

John Paul II Primary School

Newbuildings Primary School

Saint Patrick's Primary School

St Anne's Primary School

St Paul's Primary and Nursery School

Lloegr / England:

Adelaide Primary School

Bardney CofE Primary School

Castleford Park Junior Academy

Chorley St James CE Primary

Dunstall Hill Primary School

Garstang St Thomas C.E. Primary

Gonerby Hill Foot C E Primary School

North Road Primary School

Sandal Magna Community Academy

St Helen's C of E Primary School

St Michael's Church of England Aided Primary School

St Peter's Catholic Primary School

Yr Alban / Scotland:

Cummertrees Primary School

Drummore Primary School

Gelston Primary School

Glenluce Primary School

Gordon Primary School

Laurieknowe Primary School

Locharbriggs Primary School

Loreburn Primary School

New Abbey Primary School

Newmains Primary School

Our Lady of Peace Primary School

Saint Anthony's Primary School

Sheuchan Primary School

Wormit Primary School

St Peter's Primary School

Minecraft eich Amgueddfa: Yr Enillwyr!

Danielle Cowell, 25 Gorffennaf 2020

Rydym wedi cael ceisiadau gwych o bob rhan o Gymru a thu hwnt! Mae'r safon yn wirioneddol anhygoel! Mae ymweld â'r amgueddfeydd rhithwir hyn wedi bod yn llawer o hwyl ac yn anrhydedd anhygoel! Diolch yn fawr i bawb a gymeroddran yng Nghystadleuaeth Minecraft Eich Amgueddfa!

Gobeithio chi wedi mwynhau cymryd rhan gymaint ag y gwnaethom ni fwynhau ymweld ach Amgueddfa!

Mae'r fideo isod yn dangos cofnodion gan ein holl gyfranogwyr ac yn tynnu sylw at y ceisiadau buddugol.

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr her enfawr hon!

Mae'r gystadleuaeth hon yn taflu goleuni ar yr 'creftwyr' ifanc talentog sydd gennym yng Nghymru! Maent wedi creu'r Amgueddfeyddharddaf a'r casgliadau rhyfeddol. Roeddent hefydyn meddwl am bopeth y gallai fod ei angen ar ymwelydd o gaffis, i fannau chwarae, sioeau ac wrth gwrs cyfleusterau toiled. Penseiri digidol, curaduron a rheolwyr Amgueddfeydd ydyn nhw mewn un! Mae'r sgiliau digidol y maen nhw wedi'u defnyddio wrth greu a chyflwyno yn rhywbeth i weiddi amdano!Mae Llythrennedd Digidol fel thema drawsgwricwlaidd yng Nghymru yn talu ar ei ganfed.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Casgliad y Werin yn creu casgliad o'r holl gynigion fel y gall eraill hefyd werthfawrogi'r amgueddfeydd anhygoel a grëwyd. Unwaith y bydd gennym ganiatâd cyfranogwyr, byddwn yn diweddaru'r blog hwn gyda dolenni. Casgliad digidol Cenedlaethol yw Casgliad Y Werin sy’n casglu hanes gan Bobl Cymru.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod cystadleuaeth Minecraft Eich Amgueddfa wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer y Family Friendly Museum Award From Home.

Yr Enillydd:

1af: Taith tu ôl i’r llenni i’r dosbarth cyfan yn eich hoff amgueddfa! (Pan fydd yr ysgolion yn ailagor). Ynghyd â dau docyn neilltuedig ar gyfer Amgueddfa Dros Nos: Deffro Gyda'r Deinos! GARTREF a thystysgrifau.

Blwyddyn 2 - Thomas Denney
Blwyddyn 3 - Carys Lee
Blwyddyn 4 - Gwilym Davies-Kabir
Blwyddyn 5 - Osian Jones
Blwyddyn 6 - Caitlin Quinn & Lucy Flint
Categori grŵp: Marc, Zach and Matthew Chatfield.

2il: Dau docyn neilltuedig ar gyfer Amgueddfa Dros Nos: Deffro Gyda'r Deinos! GARTREF a thystysgrifau.

Blwyddyn 2 - Monty Foster
Blwyddyn 3 - Nico Poulton
Blwyddyn 4 - Luca Dacre
Blwyddyn 5 - Chloe Hayes
Blwyddyn 6 - Bethan Silk
Categori grŵp - Emily Jones and Daisy Slater

3ydd: Dau docyn neilltuedig ar gyfer Amgueddfa Dros Nos: Deffro Gyda'r Deinos! GARTREF a thystysgrifau.

Blwyddyn 2 - Meilyr Frost
Blwyddyn 4 - Arwen Silk
Blwyddyn 5 - Zach Waterhouse
Blwyddyn 6 - Evie Hayden
Categori grŵp - Theo Harrison, Thomas Sommer, William Howard-Rees

Canmoliaeth uchel: Dau docyn neilltuedig ar gyfer Amgueddfa Dros Nos: Deffro Gyda'r Deinos! GARTREF a thystysgrifau.

Blwyddyn 2 - Mali Smith
Blwyddyn 4 - Oliver Jarman
Blwyddyn 5 - Ffion Ball
Blwyddyn 5 - Zac Davis
Blwyddyn 6 - Scarlett Foster
Blwyddyn 7 - Wren Ashcroft
Categori grŵp- Bella Hepburn and Phoebe Wilson
Categori grŵp - Gwen Fishpool, Ethan Coombs and Sofia Mahapatra

I'w dyfarnu tystysgrifau Minecraft Eich Amgueddfa am gwblhau'r her!

Rita Jones
Thomas Silk
Elliott Thompson
Entry 1 (Gelli Primary)
Entry 2 (Gelli Primary)
Entry 3 (Gelli Primary)
Entry 4 (Gelli Primary)
Alis Jones
Andrew Poulton
Cari Hicks
Elyan Garnault
Ethan Beddow
Evan Hicks
Greta Wyn Jones
Joshua Akehurst
Jude Clarke
Matilda Turner
Ronan Peake
Tomos Dacey
Zac Jonathan
Cally Sinclair
Chris Jones
David Hughes
Durocksha Eshanzadeh
Eifion Humphreys
Emilia Slater
Emily Akehurst
Freya Powell
Harriet Heskins
Henry Lansom
Holly Wyatt
Ioan Davies
Isaac Smith
Jessica Thomas
Kayden Matthews
Lewis Hopkins
Macy Jo Tolley
Maisie Boyce
Mia Livingstone
Noah Pearsall
Oliver Reeves
Peyton Creed
Phoebe Skinner-Quinn
Rufus Huckfield
Sam Cowell
Sam Rees
Sophie Vickers
Sumaiyah Ahmed
Tomos Pritchard
Will Heskins
Zoe Murfin
Abhay Prabhakar
Alexander Newman
Angharad Thomas
Floyd Thomas
Gwydion Frost
Morgan Trehearne
Rhys Tinsley
Ziggy Dyboski-Bryant
Ben Fox-Morgan
Emilia Johns
Trixx Flixx
Dylan, Rhiannon, William Bringhurst Dylan, Rhiannon & William
Ellouise Grace James Matthews
Pippa and Monty Walker
Daniel Brenan & Micah Bartlett
Chloe and Grace Chamberlain

Y cystadleuaeth:

Cystadleuaeth i blant 6-11 oed

Y her: Defnyddiwch eich dychymyg i adeiladu amgueddfa ddelfrydol yn Minecraft. Adeiladwch adeilad mawreddog a’i lenwi gyda’ch hoff

wrthrychau. Gallwch chi ddewis unrhyw wrthrych o’n saith amgueddfa – deinosor, ceiniog Rufeinig neu dŷ o Sain Ffagan!

Gwobrau: Cyfle i ennill taith tu ôl i’r llenni i’r dosbarth cyfan yn eich hoff amgueddfa! (Pan fydd yr ysgolion yn ailagor)

Bydd gwobr i bob dosbarth blynyddoedd 2 i 6.